English

Mae’r casgliad hwn o ganllawiau yn darparu gwybodaeth allweddol i rieni a gofalwyr ynghylch y cyfryngau cymdeithasol a’r apiau gemau mwyaf poblogaidd ymysg plant a phobl ifanc heddiw.

Mae’r canllawiau yn cynnwys trosolwg manwl o’r ap, gan amlinellu’r sgôr oedran a’r derminoleg allweddol. Maent hefyd yn tynnu sylw at beryglon pob ap i bobl ifanc ac yn rhoi cyfarwyddiadau manwl ar sut i roi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch ar waith.

Gall y canllaw hwn hefyd helpu rhieni a gofalwyr i siarad a'u plentyn am fater sensitif.