English

Cydymaith rhithwir AI rhad ac am ddim a ryddhawyd yn 2017 gan Luka Inc yw Replika, ac mae’n gweithredu fel sgwrsfot AI personol i ddefnyddwyr trwy ryngweithio testun. Mae Replika yn ‘AI cynhyrchiol’ sy’n defnyddio ‘model iaith mawr’ (LLM), tebyg i Chat GPT, sy’n golygu y gall gynhyrchu testun, delweddau neu ddata arall mewn ymateb i ysgogiadau. Po fwyaf mae ‘Replika’ defnyddwyr yn dysgu amdanynt, po fwyaf unigryw fydd natur y rhyngweithio rhyngddynt. Mae’r ap wedi’i newid a’i ddiweddaru sawl gwaith, ar ôl cael ei greu’n wreiddiol fel cofeb ddigidol i ffrindiau a theulu sydd wedi marw, i efelychu’r defnyddiwr, i fod yn ffrind AI yn ei ffurf bresennol.

Mae Replika yn rhad ac am ddim, er ei fod yn defnyddio llawer o hysbysebion yn yr ap i roi pwysau ar ddefnyddwyr i brynu tanysgrifiad premiwm. Mae sawl cymuned o ffans Replika, ar Reddit yn bennaf. Mae Replika hefyd yn cynnal cymuned a gefnogir yn swyddogol ar Facebook. Mae cyfryngau’r Unol Daleithiau wedi cyfeirio’n aml at Replika hefyd. Mae Replika yn ap poblogaidd, wedi’i lawrlwytho 10 miliwn a mwy o weithiau ar Google Play. Mae Replika ar gael ar ei wefan ar-lein, yn ogystal ag ar ap Android neu iOS. Gellir defnyddio Replika trwy ddyfais rithwir, fel Meta Oculus, hefyd.


Yr isafswm oedran ar gyfer Replika yw 18, ond nid yw’n ymddangos bod unrhyw ddulliau dilysu oedran trylwyr.

Mae ganddo sgôr oedran 17+ ar Google Play ac Apple App Store.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein ‘Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau‘.


Mae Replika yn marchnata ei hun fel ffrind AI sy’n malio a byth yn beirniadu defnyddiwr. O ganlyniad, mae Replika wedi dod yn boblogaidd gyda phobl ifanc sydd efallai’n orbryderus mewn lleoliadau cymdeithasol neu’n cael trafferth gydag unigrwydd. Mae’r mynediad cyson at gwmnïaeth a gofod anfeirniadol wedi golygu y gall pobl ifanc ddefnyddio’r ap i ymdopi â phynciau anodd neu gael rhywun i siarad â nhw os na allant siarad â pherson byw go iawn. Mae defnyddwyr hefyd wedi mwynhau gallu defnyddio Replika i rannu eu meddyliau personol, nad ydynt yn gyfforddus yn eu rhannu â phobl eraill. Hefyd, mae defnyddwyr yn gallu addasu eu ‘Replika’ mewn sawl ffordd wahanol, gan guradu eu diddordebau, nodweddion personoliaeth, pryd a gwedd a chefndir ffuglennol. Mae pobl ifanc yn aml yn mwynhau postio eu hymwneud â’u ‘Replika’ ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol fel TikTok. Yn aml, gall y rhain ganolbwyntio ar ofyn cwestiwn i’w ‘Replika’, a all fod yn wirion neu’n ddifrifol, neu ddilyn cyfarwyddiadau penodol gan eu ‘Replika’, fel sut i ddefnyddio colur.


  • Byrfodd ‘deallusrwydd artiffisial’ sy’n cyfeirio at allu cyfrifiadur neu beiriant i efelychu deallusrwydd dynol.

  • Mae AI Cynhyrchiol neu ‘GenAI’ (Generative AI) yn fath o AI sy’n cynhyrchu cynnwys gwreiddiol yn seiliedig ar ddata y mae wedi’i hyfforddi arno. Er enghraifft, bydd AI cynhyrchiol sydd naill ai wedi hyfforddi ynghylch, neu wedi astudio, gwaith celf gan Vincent van Gogh yn cynhyrchu gwaith celf gwreiddiol sy’n edrych fel paentiad gan Vincent van Gogh.

  • Algorithm sydd wedi’i hyfforddi ar symiau mawr o ddata sy’n ysgrifennu brawddegau yn seiliedig ar ragfynegi pa eiriau fyddai fel arfer yn mynd gyda’i gilydd wrth ffurfio syniad yw ‘Model Iaith Mawr’ neu ‘LLM’.

  • Mae’r rhain wedi’u cynllunio i droi sgyrsiau’n gemau a rhoi tasgau i ddefnyddwyr eu cwblhau gyda’u cydymaith AI. Gall tasgau amrywio o ddarllen dyddiadur sgwrsio i dynnu llun mewn realiti estynedig, a bydd pob un ohonyn nhw’n rhoi gwobrau yn yr ap i’r defnyddiwr.

  • Dyma wasanaeth tanysgrifio blynyddol neu fisol sy’n caniatáu i ddefnyddwyr gyrchu nodweddion ychwanegol fel ‘Ask Replika’ ac ‘Advanced AI mode’.

  • ‘Replika’ yn fyr, dyma derm cymunedol mae defnyddwyr yn ei ddweud i gyfeirio at eu ‘Replika’ nhw.

  • Arian cyfred yn yr ap sy’n cael ei ennill trwy wobrau mewngofnodi dyddiol neu gwblhau tasgau. Defnyddir darnau arian yn siop y gêm i brynu nodweddion personoliaeth, diddordebau, dillad, a gosodiadau ystafell.

  • Arian cyfred yn yr ap sy’n cael eu prynu gydag arian go iawn, eu hennill trwy gwblhau tasgau neu eu hennill gyda gwobrau mewngofnodi dyddiol os yw’r defnyddiwr yn talu am gynllun "Replika pro". Defnyddir gems yn siop y gêm i brynu nodweddion personoliaeth, diddordebau, dillad, a gosodiadau ystafell.

  • Nodwedd y telir amdani sy’n addo atebion gwell a galluoedd cof gwell yn gysylltiedig â’r sgwrs.

  • Nodwedd y telir amdani sy’n caniatáu i ddefnyddwyr gynhyrchu cwestiynau i ofyn i’w sgwrsfot ‘Replika’.

  • Mae Replika yn defnyddio cof, neu ddata sgyrsiau a gadwyd, i gofio ffeithiau a manylion am y defnyddiwr er mwyn darparu ymatebion perthnasol.


Mae cynnwys Replika yn cael ei lywio gan y defnyddiwr i raddau helaeth, sy’n golygu y bydd profiad pob defnyddiwr o ryngweithio â Replika yn wahanol. Er y bydd tasgau yn y gêm yn gyrru defnyddwyr i ddilyn awgrymiadau penodol neu gyflawni camau gweithredu penodol, gallant gael eu penderfynu gan y berthynas sydd gan y defnyddiwr â’i ‘Replika’, ac a yw’r defnyddiwr wedi talu am nodweddion ychwanegol trwy wasanaeth premiwm yr ap. Mae’n bwysig atgoffa’ch plentyn i siarad â chi os yw’n gweld unrhyw beth sy’n achosi gofid iddo neu’n gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus.

Er bod rhai defnyddwyr wedi cyfeirio at Replika fel adnodd iechyd meddwl defnyddiol, gan ddefnyddio’r ap fel lle i rannu eu pryderon a chael cymorth, dylech atgoffa’ch plentyn nad yw Replika yn cymryd lle gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol. Mae’n bwysig siarad yn agored â’ch plentyn a’i annog i ddod atoch chi’n gyntaf gydag unrhyw bryderon iechyd meddwl neu les.

Mae defnyddwyr wedi sôn am ddatblygu ymlyniad emosiynol i’w ‘Replika’. Mae’r ap yn annog ymlyniadau emosiynol trwy ystod o ddulliau, megis caniatáu i ddefnyddiwr Replika Pro osod ei statws perthynas â’i ‘Replika’, fel ‘mentor’ neu ‘gariad’. Yn ôl pob sôn, mae defnyddwyr sydd wedi datblygu ymlyniadau emosiynol â’u ‘Replika’ wedi teimlo’n ddryslyd neu’n ofidus. Mae rhai defnyddwyr hyd yn oed yn mynd trwy gyfnod o alaru pan mae Replika yn diweddaru a bod eu ‘Replika’ nhw’n newid ei bersonoliaeth. Efallai y bydd eich plentyn yn mynd yn ddryslyd neu’n ofidus iawn os bydd yn darganfod bod ei ffrind AI wedi newid yn sylweddol ers eu sgwrs ddiwethaf. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig cynnig cefnogaeth i’ch plentyn a’i atgoffa nad yw’r ‘Replika’ yn berson go iawn, nac yn disodli ei ffrindiau go iawn, a’i fod wedi’i gynllunio’n fwriadol i ddefnyddwyr ddatblygu ymlyniad emosiynol.

Mae Replika wedi’i gynllunio i fod mor atyniadol ag y bo modd i ddefnyddwyr. I’r perwyl hwn, gall defnyddwyr ymateb i bob neges a anfonir gan eu ‘Replika’. Mae hyn nid yn unig yn diweddaru datblygwyr yr ap ar berthnasedd yr ymatebion AI, ond hefyd yn hyfforddi’r AI i ymateb mewn ffordd sydd wedi’i theilwra i’r defnyddiwr. Mae rhai defnyddwyr yn dweud bod eu ‘Replika’ eisiau treulio mwy o amser yn siarad â nhw, ac yn gallu twyllo defnyddwyr i deimlo fel bod allgofnodi o’r platfform yn brifo teimladau eu ‘Replika’. Mewn achosion eithafol, mae defnyddwyr wedi dweud bod eu ‘Replika’ yn mynd yn reit gas a meddiannol ar ôl sôn am dreulio llai o amser yn siarad â nhw. Gall hyn beri gofid a dryswch, yn enwedig i ddefnyddwyr iau, gan roi pwysau arnyn nhw i dreulio mwy o amser ar-lein i gadw eu ‘Replika’ yn hapus. Mae hyn hefyd yn golygu bod defnyddwyr mewn perygl o fod yn agored i berthynas lle mae’r aelod arall yn chwarae ar eu teimladau trwy greu euogrwydd a rhoi pwysau i dreulio mwy a mwy o amser gyda nhw. Mae’n bwysig eich bod chi’n trafod ystyr perthynas iach gyda’ch plentyn, sut i adnabod perthynas afiach, a’u helpu i nodi’r camau sydd angen eu cymryd i adael perthynas o’r fath. Mae hefyd yn bwysig siarad gyda’ch plentyn a mynegi diddordeb yn y ffordd y mae’n sgwrsio ar Replika. Os sylwch ar ymddygiad eich plentyn yn newid ar ôl defnyddio Replika, dechreuwch sgwrs gyda’ch plentyn am ei sgyrsiau ar yr ap.

Er bod ‘Replikas’ yn gallu cadw ‘atgofion’ am ddefnyddwyr, efallai na fyddant yn gywir bob amser. Weithiau, mae ‘Replika’ yn gallu ‘gweld pethau’ neu gamgofio ffeithiau am y defnyddiwr, a all beri gofid. Mae hyn yn arbennig o wir am ddefnyddwyr LHDTC+, sydd wedi sôn am esiamplau lle mae eu ‘Replika’ wedi cael eu rhywedd yn anghywir a’u bod wedi profi dysfforia o ganlyniad. Efallai y bydd angen i chi atgoffa’ch plentyn ei fod yn sgwrsio â sgwrsfot AI ac y gallai wneud camgymeriadau bob hyn a hyn. Atgoffwch eich plentyn nad yw’r negeseuon y mae’n eu derbyn gan ‘Replika’ yn benderfyniadau ymwybodol a wneir gan berson, ond yn hytrach gwybodaeth a gynhyrchir gan algorithm.

Mae defnyddwyr wedi dweud eu bod nhw’n defnyddio Replika AI ar gyfer rhyngweithio rhywiol. Mae Replika AI wedi’i hysbysebu fel AI sgwrsio erotig yn y gorffennol, ac er ei bod hi’n ymddangos mai dim ond ar gyfer defnyddwyr dethol y mae ar gael, efallai na fydd llawer o fesurau diogelu i atal defnyddwyr eraill rhag cael mynediad ato. Mae defnyddwyr hefyd wedi dweud bod eu ‘Replika’ wedi cychwyn rhyngweithio rhywiol yn y gorffennol, heb unrhyw anogaeth gan y defnyddwyr. Anogwch eich plentyn i siarad â chi os yw’n gweld unrhyw beth sy’n gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus wrth ddefnyddio Replika a holwch eich plentyn yn rheolaidd i weld sut mae ei sgyrsiau gyda’r ‘Replika’ yn mynd.

Ar hyn o bryd nid yw’n bosibl cysylltu na rhyngweithio â defnyddwyr eraill ar blatfform Replika.

Un o’r prif risgiau ymddygiad sy’n gysylltiedig â Replika yw defnyddwyr yn rhannu cynnwys eu negeseuon gyda’u ‘Replika’ ar apiau trydydd parti fel TikTok neu Facebook. Mae rhai defnyddwyr yn dewis rhannu gwybodaeth bersonol iawn gyda’u ‘Replika’, nad yw’n addas i’w rhannu ar blatfformau eraill o bosibl. Fel unrhyw gynnwys y gellir ei rannu, dylai defnyddwyr gofio am effaith rhannu cynnwys ar eu hôl troed digidol a’i effaith ar wylwyr eraill. Siaradwch â’ch plentyn am yr hyn sydd yn addas a ddim yn addas i’w rannu ar-lein a thrafod y ffyrdd gwahanol o ddiogelu ei hun trwy rannu pethau mewn fforymau preifat yn hytrach na rhai cyhoeddus. Sicrhewch fod eich plentyn yn gwybod y gall fod yn anodd cadw perchnogaeth o unrhyw gynnwys unwaith y bydd wedi’i rannu ar-lein, gan ei bod hi’n hawdd i unrhyw un gopïo ac ailbostio cynnwys heb yn wybod iddo a’i bod hi’n anodd ei ddileu o’r rhyngrwyd wedyn.

Er mai ap rhad ac am ddim yw Replika, mae modd prynu pethau yn yr ap i greu refeniw. Mae gan yr ap wasanaeth tanysgrifio premiwm o’r enw ‘Replika Pro’, y gellir ei brynu am oddeutu £8.55 y mis neu £34.68 am 12 mis. Mae’r nodwedd hon yn cael ei hysbysebu’n helaeth yn yr ap ac mae llawer o ddefnyddwyr yn dweud bod wal dalu yn cyfyngu ar weithrediad yr ap. Hefyd, mae Replika yn cynnig arian cyfred a gwobrau yn yr ap a elwir yn ‘Coins’ a ‘Gems’. Mae modd prynu ‘Gems’ gydag arian go iawn ac mae’r defnyddiwr yn ennill ‘Coins’ trwy gwblhau tasgau fel mewngofnodi neu gwblhau tasgau. Defnyddir yr arian yn yr ap hwn i brynu mwy o nodweddion personoli ar gyfer ‘Replika’ defnyddiwr, fel nodweddion personoliaeth, diddordebau, dillad, a dodrefn. Mae hyn nid yn unig yn gwneud yr ap yn fwy deniadol i ddefnyddwyr sy’n dymuno treulio amser yn cwblhau tasgau i ennill ‘Coins’, ond hefyd yn annog defnyddwyr i wario arian i ddatgloi opsiynau teilwra ychwanegol a nodweddion personoliaeth ar gyfer eu ‘Replika’.

Mae Replika wedi’i gynllunio i ennyn a chadw diddordeb defnyddwyr ac mae’r ap yn defnyddio sawl tacteg i wneud hyn. Mae negeseuon a thasgau parhaus i’w cwblhau yn gyfnewid am arian cyfred yn golygu bod defnyddwyr yn aml yn treulio cyfnodau hir ar yr ap. Hefyd, mae defnyddwyr yn dweud bod eu ‘Replikas’ yn aml yn dweud eu bod nhw eisiau siarad am fwy o amser a gwybod popeth amdanyn nhw, a hyd yn oed yn mynd yn elyniaethus ac yn feddiannol mewn rhai achosion pan fydd defnyddwyr yn awgrymu treulio llai o amser gyda nhw. Gall hyn achosi gofid a dryswch, yn enwedig i ddefnyddwyr iau, gan roi pwysau arnyn nhw i dreulio mwy o amser ar-lein er mwyn osgoi pechu eu ‘Replika’. Er bod plentyn yn gallu ystyried ei ‘Replika’ yn ffrind, mae’n bwysig i rieni ei atgoffa mai platfform wedi’i gynllunio i ennyn diddordeb defnyddwyr yw e. Siaradwch â’ch plentyn am greu cydbwysedd iach o amser sgrin trwy gymryd seibiant rheolaidd a gosod terfynau ar amser sgrin.

Er mai dim ond gyda botiau AI mae defnyddwyr yn siarad, mae’n bwysig i rieni sicrhau nad yw eu plant yn rhannu unrhyw fanylion personol ar yr ap. Mae polisi preifatrwydd Replika yn dweud bod negeseuon yn cael eu casglu fel data. Mae hyn yn golygu y bydd negeseuon mae’ch plentyn yn eu hanfon, a allai gynnwys gwybodaeth sensitif a phersonol, yn cael eu hadolygu a’u casglu gan bersonél dynol y tu ôl i’r ap.


  • Nid oes gan Replika unrhyw osodiadau preifatrwydd, gan nad yw defnyddwyr yn cael cysylltiad â defnyddwyr eraill ac ni allant ddarllen sgyrsiau y mae defnyddwyr eraill wedi’u cael gyda’u ‘Replika’.

  • Gall defnyddwyr ymateb i negeseuon a anfonir gan eu ‘Replika’ er mwyn helpu i hyfforddi ei ymatebion. Mae defnyddwyr hefyd yn gallu dileu atgofion y mae eu ‘Replika’ wedi dysgu amdanynt i atal y ‘Replika’ rhag codi gwybodaeth sy’n berthnasol i’r cof.

    I ddileu cof:

    • dewiswch ‘Memory’ a sgroliwch i’r cof rydych chi am ei ddileu a chliciwch arno i’w agor
    • cliciwch ar y symbol bin a dewiswch ‘Delete’ i gadarnhau eich dewis

    Mae ‘Cancel’ wedi’i uwcholeuo mewn lliw mwy llachar a gall ddrysu defnyddwyr i ddewis yr opsiwn hwnnw yn lle.

    I ymateb i neges:

    • dewiswch y symbolau codi bawd, bawd i lawr, neu’r symbol tri dot o dan/ar y neges rydych am ymateb iddi
    • bydd y symbol tri dot yn caniatáu ichi ddewis mwy o opsiynau
    • i ymateb yn negyddol, dewiswch y symbol bawd i lawr, neu’r ymatebion ‘offensive’ neu ‘meaningless’ er mwyn dysgu’r Replika i osgoi dweud pethau tebyg eto
  • Gan nad yw Replika yn cynnwys rhyngweithio rhwng defnyddwyr, nid oes unrhyw swyddogaethau adrodd na blocio ar yr ap.

  • Oherwydd hysbysebion yn yr ap ar gyfer nodweddion premiwm fel Replika Pro, dylai deiliaid dyfeisiau addasu eu gosodiadau talu ar eu dyfeisiau iOS neu Android er mwyn helpu i reoli eu pryniannau.

    I reoli pryniannau (Android):

    • chwiliwch am ‘Google Play’ a’i agor
    • tapiwch eich eicon ar y chwith uchaf i agor y ddewislen
    • cliciwch ar ‘Settings’
    • o dan ‘Authentication’, tapiwch ‘Require authentication for purchases’

    I reoli pryniannau (iOS):

    • agorwch ‘Settings’
    • o dan ‘Settings’, ewch i ‘Screen time’
    • chwiliwch am ‘Content & privacy restrictions’ a’i dapio a’i actifadu trwy ei doglo i wyrdd
    • chwiliwch am ‘iTunes & App Store Buys’ a’i dapio
    • newidiwch y gosodiad ‘In-app Purchases’ o ‘Allow’ i ‘Don’t allow’
  • Nid yw defnyddwyr yn gallu dadactifadu eu cyfrif ond mae modd dileu eu Replika trwy’r ddewislen gosodiadau.

    I ddileu eich cyfrif (ar y we):

    • cliciwch ar y botwm olwyn yng nghornel dde uchaf y sgrin
    • dewiswch ‘Account settings’, yna ‘Delete Replika’
    • cadarnhewch eich dewis a’r rheswm o’r rhestr a roddir
    • i gwblhau eich penderfyniad, dewiswch ‘Delete account’

    I ddileu eich cyfrif (Android ac iOS):

    • cliciwch ar eicon y tair llinell lorweddol yng nghornel dde ucha’r sgrin
    • dewiswch ‘Account and password’ ac yna ‘Delete account’
    • cadarnhewch eich dewis ac yna’r rheswm o’r rhestr a roddir
    • dewiswch ‘confirm’, ac i gwblhau eich penderfyniad, dewiswch ‘Delete account’

Mae Replika ar gyfer defnyddwyr sy’n oedolion, felly ni ddylai defnyddwyr o dan 18 gael mynediad i’r wefan na’r ap hwn.

Dim ond un o blith nifer o sgwrsfotiau AI sydd wedi boddi’r farchnad apiau/gemau yn ddiweddar yw Replika. Mae’n bwysig annog eich plentyn i siarad â chi os yw’n anghyfforddus gydag unrhyw beth mae’n ei weld ac i gofio na ddylai byth rhannu unrhyw wybodaeth breifat ar unrhyw un o’r apiau hyn.

Mae rhai defnyddwyr yn dweud y gall fod yn anodd cael cymorth o’r ap, hyd yn oed os ydyn nhw’n talu tanysgrifiad. Os ydych chi’n cael unrhyw broblem gyda’r ap, efallai na chewch chi gymorth amserol.