English

Mae WhatsApp yn ap negeseua gwib am ddim gyda hyd at 2 biliwn o ddefnyddwyr misol gweithredol ledled y byd. Gan ddefnyddio cysylltiad rhyngrwyd, mae’r ap yn caniatáu i ddefnyddwyr anfon negeseuon i gysylltiadau sy’n cael eu hychwanegu at eu cyfrif WhatsApp naill ai’n unigol neu mewn sgyrsiau grŵp. Rhaid i ddefnyddwyr ddilysu eu cyfrif gyda rhif ffôn symudol safonol i ddechrau defnyddio’r ap. Nid oes unrhyw reolaethau rhieni ar gael drwy’r ap, ond mae casgliad o osodiadau preifatrwydd y gall defnyddwyr eu newid i’w helpu i reoli gyda phwy maen nhw’n cysylltu a pha wybodaeth sy’n cael ei rhannu.

Mae WhatsApp yn eistedd ochr yn ochr ag Instagram, Facebook a Messenger o dan y rhiant gwmni Meta erbyn hyn. Mae Meta yn disodli Facebook fel y cwmni/brand blaenllaw yn y grŵp, ac mae’n debygol y bydd brandio Meta yn dod yn fwyfwy gweladwy ar yr holl apiau hyn.


Y cyfyngiad oedran lleiaf ar gyfer defnyddwyr WhatsApp yw 16, fodd bynnag, nid oes ganddo unrhyw ddulliau dilysu oedran trwyadl.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein ‘Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau‘.


Mae WhatsApp yn ap negeseua i’r rhai sy’n chwilio am gyfleustra yn ogystal â gwell preifatrwydd a diogelwch. Mae’n arbennig o gyfleus i ddefnyddwyr gysylltu â ffrindiau gan ei fod yn gweithio law yn llaw â’ch cysylltiadau ffôn ac yn eich cysylltu â’u proffiliau WhatsApp. Mae’r ap yn hawdd iawn i’w ddefnyddio ac mae’r gallu i sefydlu sgyrsiau unigol a sgyrsiau grŵp yn apelio at bobl ifanc. Mae grwpiau WhatsApp yn hynod boblogaidd ymhlith pobl ifanc, yn enwedig o fewn cymunedau ysgol ar gyfer grwpiau blwyddyn, grwpiau dosbarth a grwpiau unigol o ffrindiau. Ond mae rhai pobl ifanc yn teimlo bod llawer o fwlio yn digwydd ar y platfform o fewn sgyrsiau grŵp mwy, gyda chyfranogwyr yn rhannu cynnwys personol a sgrinluniau o sgyrsiau eraill.


  • Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr rannu testun, lluniau a diweddariadau fideo gyda’u cysylltiadau sy’n diflannu ar ôl 24 awr. I anfon a derbyn diweddariadau statws, mae angen i ddefnyddwyr gadw rhif eu cyswllt yn eu ffôn.

  • Prif nodwedd WhatsApp yw’r gallu i gael sgyrsiau unigol neu grŵp gyda chysylltiadau sydd wedi’u cadw yn eich ffôn.

  • Dyma’r defnyddiwr sy’n sefydlu sgwrs grŵp. Dyma’r unig ddefnyddiwr sy’n gallu ychwanegu neu ddileu cyfranogwyr a newid neu ychwanegu gweinyddwyr grŵp ychwanegol. Gall defnyddwyr unigol adael grŵp heb fod angen i weinyddwr y grŵp ymyrryd.

  • Ar yr amod bod gennych chi gysylltiad rhyngrwyd, gall defnyddwyr ffonio cyswllt ar WhatsApp. Gall hyn fod naill ai’n alwad sain neu fideo gydag unigolyn neu grwpiau o hyd at 8 o bobl.

  • Mae WhatsApp yn caniatáu i ddefnyddwyr rannu lluniau a fideos gyda’u cysylltiadau. Gall hyn fod naill ai drwy fynediad i’r camera neu drwy rannu lluniau a fideos o rolyn y camera ar y ffôn.

  • Yn lle anfon negeseuon testun, gall defnyddwyr recordio negeseuon llais drwy bwyso’r eicon meicroffon yn y nodwedd sgwrsio.

  • Mae’r term hwn yn cyfeirio at y wynebau cartŵn bach gyda mynegiant amrywiol y gall defnyddwyr eu hanfon at ei gilydd. Mae’r rhestr o opsiynau Emoji yn cynnwys pobl, adeiladau, anifeiliaid, bwydydd, symbolau a mwy erbyn hyn.

  • Yn ogystal ag anfon testun ac emojis, gall defnyddwyr anfon Gifs at eu cysylltiadau hefyd. Delwedd wedi’i hanimeiddio heb sain yw Gif.

  • Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr anfon delwedd i’w gweld unwaith. Ar ôl iddi gael ei gweld, mae’n cael ei dileu o’r ddwy ddyfais yn awtomatig.

  • Y tic dwbl glas sy’n ymddangos wrth ymyl neges ar ôl i’r derbynnydd ei darllen.

  • Mae hyn yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr eraill pryd oedd y tro diwethaf i chi ddefnyddio WhatsApp neu os ydych chi ar-lein.


Fel apiau negeseua eraill, mae llawer o straeon personol, negeseuon a lluniau yn cael eu rhannu gan ddefnyddwyr ar WhatsApp – nid yw’r rhain yn cael eu cymedroli. Y ffordd orau o reoli’r cynnwys mae eich plentyn yn ei weld yw sicrhau ei fod yn cysylltu â phobl y mae’n eu hadnabod yn unig, yn hytrach na dieithriaid. Sicrhewch fod y gosodiadau preifatrwydd wedi’u gosod ar ‘My contacts only’ yn hytrach nag ‘Everyone’. Mae’n bosib hefyd y gall eich plentyn ddod ar draws cynnwys amhriodol ar ffurf iaith anweddus neu gynnwys aeddfed yn ei negeseuon. Drwy gyfyngu ar bwy y gall eich plentyn ei gyrchu ar y platfform, bydd eich plentyn yn llai tebygol o brofi iaith neu ymddygiad nad yw’n addas i’w oedran. Fodd bynnag, dylid cydnabod ei bod yn bosib o hyd i’ch plentyn weld cynnwys amhriodol drwy’r cysylltiadau sydd ganddo.

Gan fod gan WhatsApp gyfyngiad oedran o 16, nid yw’n cynnwys unrhyw osodiadau rheolaeth rhieni go iawn. Fel llawer o apiau cyfryngau cymdeithasol eraill, mae rhai plant yn cofrestru ar gyfer WhatsApp pan fyddan nhw o dan y terfyn oedran sy’n cael ei awgrymu. Mae hyn yn risg gan fod WhatsApp yn gosod ‘Everyone’ yn ddiofyn ar yr holl osodiadau preifatrwydd, sy’n golygu y gall pob defnyddiwr ar y platfform weld gwybodaeth bersonol, sgwrsio a rhannu delweddau heb unrhyw hidlyddion yn eu lle. Siaradwch â’ch plentyn am risgiau cysylltu â dieithriaid, ac eglurwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy ar ei broffil neu mewn sgyrsiau. Atgoffwch nhw i sôn wrthych chi os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau mwy personol iddyn nhw neu ofyn iddyn nhw sgwrsio’n breifat mewn ffordd sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n anghyfforddus. Argymhellir newid y gosodiadau preifatrwydd i rannu gyda ‘My contacts’ yn unig. Argymhellir hefyd y dylai defnyddwyr iau newid eu gosodiadau preifatrwydd grŵp i ‘My contacts’, er mwyn atal enwau cyswllt anhysbys rhag cael eu hychwanegu at sgyrsiau grŵp.

Os oes gan eich plentyn ei gyfrif WhatsApp ei hun, mae’n bwysig eich bod chi a nhw’n ymwybodol o’r hyn mae’n ei rannu a’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar ei ôl troed digidol. Sicrhewch fod eich plentyn yn gwybod y gall fod yn anodd cadw perchnogaeth ar unrhyw gynnwys ar ôl iddo gael ei rannu ar-lein, oherwydd mae’n hawdd copïo ac ailbostio cynnwys heb yn wybod iddo, ac yna mae’n gallu dod yn anodd cael gwared ohono oddi ar y rhyngrwyd.

Gallai’r nodwedd ‘View once’ ar WhatsApp fod yn risg i rai defnyddwyr. Mae’r nodwedd hon yn gallu ffafrio ymddygiad bwlio, gyda rhai defnyddwyr yn teimlo nad oes modd iddyn nhw gael eu dwyn i gyfrif os nad oes modd gweld y neges eto. Dylech atgoffa’ch plentyn ei bod hi’n hawdd i’r derbynnydd dynnu sgrinlun o’r neges cyn iddi ddiflannu, felly mae angen bod yn ofalus wrth anfon neu rannu unrhyw neges.

Un o nodweddion WhatsApp yw’r defnydd o amgryptio o’r dechrau i’r diwedd. Mae hyn yn golygu mai dim ond y rhai sydd â mynediad at ffôn yr anfonwr a’r derbyniwr sy’n gallu gweld negeseuon – ni all WhatsApp ei hun eu gweld hyd yn oed. Er bod hon yn nodwedd ddiogelwch ddeniadol i lawer o oedolion, mae wedi achosi problemau wrth orfodi’r gyfraith wrth geisio cyrchu cofnodion negeseuon dioddefwyr a phobl sydd dan amheuaeth mewn achosion o gamfanteisio ar blant. Unwaith eto, argymhellir newid y gosodiadau preifatrwydd i rannu gyda ‘My contacts’ yn unig.

Dylai defnyddwyr WhatsApp fod yn ymwybodol o sut mae ‘Read receipts’ a ‘Last seen’ wedi’u cynllunio i gadw defnyddwyr ar y platfform cyhyd â phosib. Siaradwch â’ch plentyn ynglŷn â sut mae platfformau wedi’u cynllunio i ddenu defnyddwyr a’i annog i analluogi’r nodweddion hyn er mwyn cael seibiant rhag negeseua cyson.


  • Mae gosodiad diofyn pob cyfrif yn galluogi unrhyw ddefnyddiwr WhatsApp i weld eich ‘Read receipts’, ‘Last seen’, ‘About’ a’ch llun proffil. Mae WhatsApp yn rhoi’r opsiwn i ddefnyddwyr ddewis gyda phwy maen nhw’n rhannu eu gwybodaeth drwy ddewis un o’r opsiynau canlynol: ‘Everyone’, ‘My contacts’, ‘My contacts except’ a ‘Nobody’. Mae’r ap yn gofyn am leoliad cefndir ar gyfer y nodwedd ‘Live location’ hefyd, ac mae modd rheoli hynny ar osodiadau eich ffôn.

    I osod gosodiadau preifatrwydd:

    • Agorwch yr ap a dewis ‘Settings’ ar waelod y dudalen.
    • Dewiswch ‘Account’ a thapio ar ‘Privacy’.
    • I gyfyngu ar gysylltiadau, gweithiwch drwy’r opsiynau ar y rhestr a dewis naill ai:
      • My contacts
      • Nobody
    • Bydd y newidiadau ar waith ar unwaith.

    I analluogi gosodiadau lleoliad:

    • Ewch i osodiadau eich dyfais, sgrolio i lawr i WhatsApp a’i ddewis.
    • Tapiwch ar ‘Location’ a dewiswch ‘Never’ o’r opsiynau ar y rhestr.
    • Agorwch WhatsApp a dewis ‘Settings’ ar waelod y dudalen.
    • Dewiswch ‘Account’ a thapio ar ‘Privacy’.
    • Gwiriwch fod yr opsiwn preifatrwydd ar gyfer ‘Live location’ yn nodi ‘None’.
  • Mae gosodiadau diofyn WhatsApp yn golygu y gall defnyddwyr y tu allan i’w cysylltiadau ffôn ychwanegu defnyddwyr at sgyrsiau grŵp heb ganiatâd. Mae gosodiadau diofyn yn golygu hefyd bod yr holl luniau a fideos rydych chi’n eu derbyn yn cael eu cadw’n awtomatig i rolyn eich camera.

    I newid gosodiadau sgwrsio grŵp:

    • Agorwch yr ap a dewis ‘Settings’ ar waelod y dudalen.
    • Dewiswch ‘Account’ a thapio ar ‘Privacy’.
    • Tapiwch ar ‘Groups’ a dewis ‘My contacts’.
    • Bydd yr opsiwn gan weinyddwyr grŵp nad ydyn nhw’n gallu’ch ychwanegu at grŵp i’ch gwahodd yn breifat yn lle hynny.

    I adael grŵp:

    • Ewch i’r grŵp rydych chi am ei adael naill ai drwy chwilio neu sgrolio drwy eich rhestr sgwrsio.
    • Tapiwch ar enw’r grŵp ar dop y dudalen.
    • Sgroliwch i lawr a thapio ar ‘Exit group’.

    I newid dewisiadau llun a fideo:

    • Agorwch yr ap a dewis ‘Settings’ ar waelod y dudalen.
    • Dewiswch ‘Chats’ o’r opsiynau ar y rhestr.
    • Toglwch y botwm wrth ymyl ‘Save to camera roll’ i’w ddiffodd.
  • Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr sy’n eu poeni neu sy’n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I flocio defnyddiwr:

    • Ewch at y defnyddiwr rydych chi am ei flocio naill ai drwy chwilio neu sgrolio drwy eich rhestr sgwrsio.
    • Tapiwch ar ei enw ar dop y dudalen.
    • Sgroliwch i lawr drwy’r opsiynau a dewis ‘Block contact’.
    • Sylwer na fydd blocio yn dileu’r cyswllt o WhatsApp. I ddileu cyswllt, bydd angen i chi ddileu’r cyswllt o lyfr cyfeiriadau eich ffôn.

    I gwyno am ddefnyddiwr:

    • Ewch at y defnyddiwr rydych chi am gwyno yn ei gylch naill ai drwy chwilio neu sgrolio drwy eich rhestr sgwrsio.
    • Tapiwch ar ei enw ar dop y dudalen.
    • Sgroliwch i lawr drwy’r opsiynau a dewis ‘Report’.
  • Er mwyn helpu i gyfyngu ar y pwysau i bobl ifanc fod ar-lein ac ymateb i negeseuon ar unwaith, mae gan WhatsApp rai gosodiadau i helpu rheoli’r defnydd. Mae ‘Read receipts’ yn dweud wrth ddefnyddwyr eraill pan rydych chi wedi darllen neges ac mae ‘Last seen’ yn cyfeirio at y tro diwethaf i gyswllt ddefnyddio WhatsApp.

    I ddiffodd ‘Read receipts’:

    • Agorwch yr ap a dewis ‘Settings’ ar waelod y dudalen.
    • Dewiswch ‘Account’ a thapio ar ‘Privacy’.
    • Sgroliwch i lawr i ‘Read receipts’ a thoglo’r botwm diffodd.

    I ddiffodd ‘Last seen’:

    • Agorwch yr ap a dewis ‘Settings’ ar waelod y dudalen.
    • Dewiswch ‘Account’ a thapio ar ‘Privacy’.
    • Tapiwch ar yr opsiwn ‘Last seen’ a dewis ‘Nobody’.

Gall amgryptio o’r dechrau i’r diwedd wneud yr ap yn arbennig o apelgar i’r rhai sy’n dymuno cyfathrebu’n ddiogel. Fodd bynnag, gallai’r nodwedd hon gael ei defnyddio gan oedolion sydd eisiau meithrin perthynas â phlentyn er mwyn ei niweidio neu ei gam-drin. Ceisiwch sicrhau bod eich plentyn yn defnyddio WhatsApp i gyfathrebu â defnyddwyr eraill mae’n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw’n unig.

Mae gan WhatsApp ofod diogel dynodedig, lle gall defnyddwyr ddarllen am awgrymiadau diogelwch y platfform.