English

Mae Threads yn ap cyfryngau cymdeithasol rhad ac am ddim ar gyfer microflogio, sy’n gysylltiedig ag Instagram ac y mae Meta yn berchen arno. Mae Threads yn hysbysebu’i hun fel rhan o Instagram sy’n seiliedig ar destun, er y gall defnyddwyr lwytho ffotograffau a fideos, hefyd. Mae’r platfform yn debyg iawn i X.

Mae angen cyfrif Instagram ar ddefnyddwyr i gofrestru ar gyfer Threads. Bydd unrhyw osodiadau cyfrif ar Instagram, gan gynnwys rheolyddion rhieni, yn cael eu mewnforio i Threads fel rhan o’r broses creu cyfrif. Gall defnyddwyr hefyd gysoni cysylltiadau, pobl maen nhw’n eu dilyn, a’u dilynwyr o’u cyfrifon Instagram i Threads.

Rhaid i ddefnyddwyr fod yn 13 oed o leiaf i ddefnyddio Threads. Bydd pob cyfrif sy’n cael ei sefydlu gan ddefnyddwyr o dan 18 oed yn cael ei llunio gyda gosodiad preifat yn ddiofyn. Ni fydd defnyddwyr o dan 16 oed yn gallu addasu’r gosodiadau hyn yn ddiogel. Mae gosodiadau diogelwch yn dibynnu ar gael dyddiad geni cywir gan ddefnyddwyr, sy’n dangos eu bod o dan 18 oed, felly dylech oruchwylio’ch plentyn pan fydd yn creu ei gyfrif.

@mention

Mae hwn yn cyfeirio at ddefnyddwyr sy’n tagio neu’n crybwyll (‘mention’) defnyddwyr eraill yn uniongyrchol. Bydd defnyddiwr yn cael hysbysiad os yw wedi cael ei dagio neu ei grybwyll fel hyn.

Activity

Dyma’r tab hysbysiadau sy’n dangos unrhyw ddilynwyr newydd, crybwylliadau neu ymatebion y bydd defnyddiwr yn ei gael.

Bot

Rhaglenni bach a wnaed gan ddatblygwyr trydydd parti sy’n rhedeg o fewn yr ap. Maen nhw wedi’u llunio i efelychu gweithgarwch dynol a chwblhau tasgau sy’n cael eu gwneud o hyd fel postio diweddariadau awtomataidd ar gyfrifon penodol neu hysbysebu (sbamio) ar ‘threads’ defnyddwyr eraill.

Carousel

Cyfres o ddelweddau neu fideos sy’n cael eu hychwanegu at edefyn. Gall defnyddwyr ychwanegu hyd at 20 delwedd neu fideo at garwsél.

Fediverse

Platfformau’r cyfryngau cymdeithasol sydd i gyd yn gydgysylltiedig. Ystyr hyn yw, os bydd defnyddiwr yn postio ar un platfform cyfryngau cymdeithasol yn y ‘fediverse’, mae’n cael ei rannu gyda’r holl blatfformau cyfryngau cymdeithasol perthnasol eraill.

Following

Adran sydd ond yn arddangos yr edafedd neu’r ailbostiadau gan ddefnyddwyr eraill y mae’r defnyddiwr yn eu dilyn.

For you

Mae’r ardal yn dangos detholiad wedi’i guradu o edafedd a allai fod o ddiddordeb i’r defnyddiwr.

Tags

Gall tagiau gael eu hychwanegu at edefyn fel y gall defnyddwyr weld edafedd eraill gyda’r un tag.

Thread

Neges safonol hyd at 500 o nodau. Gall fod yn destun ysgrifenedig, yn ddelwedd, yn fideo, neu’n gymysgedd o’r rhain.

Verified

Bydd tic glas yn ymddangos ar broffil a phostiadau defnyddiwr wedi’i ddilysu. Mae defnyddwyr yn cael eu dilysu naill ai oherwydd yr ystyrir eu bod yn nodedig ac o fudd i’r cyhoedd, neu oherwydd eu bod wedi talu am danysgrifiad i Meta Verified.

Lluniwyd Threads i gystadlu ag X. Gall gael ei ddefnyddio mewn ffordd debyg i X ond mae ganddo rai nodweddion diogelwch ychwanegol i ddefnyddwyr iau. Mae cyfrifon pobl o dan 18 oed yn breifat yn awtomatig, mae rheolyddion rhieni ar gael ac mae cymedroli llymach ar y platfform.

Niwed gan ddefnyddwyr eraill

Mae’r holl gynnwys mae eich plentyn yn ei weld ar Threads yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddwyr eraill. Gallai eich plentyn ddod mewn i gysylltiad â chynnwys amhriodol neu gynnwys sy’n peri trallod, a gallai hefyd ryngweithio yn adrannau sylwadau postiadau gyda phobl ddieithr sydd am wneud niwed.
Gallwch gymryd y camau hyn i leihau risg niwed gan ddefnyddwyr eraill.

Gosod rheolyddion

Gallwch ddefnyddio rheolyddion rhieni Meta ynghyd â gosodiadau’r cyfrif ar ap Threads i wneud profiad eich plentyn yn fwy diogel. Gallwch gyfyngu pwy a all roi sylwadau ar bostiadau eich plentyn, tewi geiriau i’w hatal rhag ymddangos ar borthiant eich plant a gosod bod llai o gynnwys sensitif yn cael ei ddangos iddyn nhw.

Rheoli’r algorithm

Anogwch eich plentyn i ddilyn cyfrifon sy’n postio cynnwys cadarnhaol a phriodol i oedran. Bydd defnyddio opsiwn ‘Not interested’ ar bostiadau amhriodol yn golygu ei fod yn gweld llai o bostiadau tebyg i hynny yn y dyfodol. Bydd hyn yn gwella porthiant ac algorithm eich plentyn.

Siarad am fywyd ar-lein eich plentyn

Cynhaliwch sgyrsiau gyda’ch plentyn am ei fywyd ar-lein, fel y byddech am ei fywyd all-lein. Gall hyn eich helpu i ddysgu pwy mae eich plentyn yn rhyngweithio â nhw a pha gynnwys maen nhw’n dod ar eu traws wrth ddefnyddio Threads. Dysgwch eich plentyn beth sy’n iawn i’w rannu ar-lein, neu beth i beidio â’i rannu. Dywedwch wrtho y dylai roi gwybod i chi os bydd unrhyw beth yn gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus ar-lein.

Defnyddio adnoddau blocio a riportio

Dysgwch eich plentyn i ddefnyddio’r adnoddau blocio a riportio os bydd rhywun yn gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus. Mae hyn yn atal cysylltiad pellach a gall wneud y platfform yn fwy diogel i bawb.

Gormod o amser o flaen sgrin

Bydd Threads yn cadw darparu cynnwys diddiwedd i ddefnyddwyr edrych arno. O ganlyniad i hyn, gall rhai defnyddwyr dreulio oriau ar y platfform yn sgrolio trwy gynnwys.

Gall y camau hyn eich helpu i gydbwyso amser sgrin eich plentyn.

Gosod cyfyngiadau ar amser sgrin

Trwy ddefnyddio rheolyddion rhieni Meta, gallwch addasu gosodiadau amser sgrin i gyfyngu faint o amser mae eich plentyn yn ei dreulio ar Threads bob dydd. 

Trafod amser sgrin

Dewch i gytundeb â’ch plentyn ar faint o amser y gall ei dreulio bob dydd ar yr ap. Dylech ei annog i ystyried sut mae’n teimlo wrth ddefnyddio’r ap, ac i gymryd saib oddi wrtho.

Os yw eich plentyn yn defnyddio Threads, gall y gosodiadau hyn wella’u profiad ar y platfform.

Gosod goruchwyliaeth 

  • Ar Instagram, ewch i’ch proffil a dewiswch y 3 llinell lorweddol ar y dde ar y brig.
  • Sgroliwch i lawr i ‘Family Center’ a dewiswch ‘Supervision for Teen Accounts’.
  • Dewiswch ‘Get Started’ ac ewch trwy’r cyfarwyddiadau i anfon gwahoddiad at eich plentyn. 
  • Ar ap eich plentyn, derbyniwch y gwahoddiad i alluogi goruchwyliaeth.

Offer blocio a riportio 

Blocio cyfrif 

  • Ar broffil neu bost cyfrif, dewiswch y 3 smotyn llorweddol.
  • Dewiswch ‘Block’.
  • Dewiswch ‘Block’ eto i gadarnhau.

Riportio cyfrif 

  • Ar broffil neu bost cyfrif, dewiswch y 3 smotyn llorweddol.
  • Dewiswch ‘Report’.
  • Dewiswch y rheswm dros riportio. 
  • Dewiswch ‘Block’ pan fydd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno.