English

Mae Facebook yn ap rhwydweithio cymdeithasol poblogaidd sy'n caniatáu i chi gysylltu ag eraill trwy rannu lluniau, diweddariadau statws, sylwadau a fideos.

Mae'r ap yn caniatáu i ddefnyddwyr ailgysylltu â hen ffrindiau, cael y wybodaeth ddiweddaraf am eu ffrindiau presennol a gwneud cysylltiadau newydd. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir bod gan Facebook dros 2.93 biliwn o ddefnyddwyr gweithredol ledled y byd. Er bod Facebook wedi'i sefydlu'n wreiddiol i gadw ffrindiau mewn cysylltiad, mae gan lawer o fusnesau eu tudalennau Facebook eu hunain bellach lle gallant hyrwyddo eu brand, ac mae sefydlu 'Facebook Marketplace' wedi golygu y gall defnyddwyr brynu a gwerthu nwyddau drwy'r platfform hefyd.

Erbyn hyn, mae Facebook yn gweithredu ochr yn ochr ag Instagram, WhatsApp a Messenger o dan y rhiant gwmni Meta. Mae Meta yn disodli Facebook fel y prif gwmni/brand yn y grwp hwn, ac mae'n debygol y bydd brandio Meta yn dod yn fwyfwy gweladwy ar yr holl apiau hyn.  

Rhaid i ddefnyddwyr Facebook fod yn 13 oed o leiaf. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddulliau gwirio oedran trwyadl ar waith. 

Ar gyfer deiliaid cyfrif o dan 16 oed, y gosodiad diofyn yw 'Private’. Mae gan bob cyfrif arall osodiad cyhoeddus yn ddiofyn, ac mae unrhyw ddefnyddwyr eraill ar y platfform yn gallu gweld y cynnwys. Argymhellir dewis gosodiad preifat ar y cyfrif. 

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau ’.

Mae Facebook yn caniatáu i ddefnyddwyr guradu presenoldeb ar-lein iddyn nhw eu hunain a'i rannu gyda'u rhwydwaith cymdeithasol o ffrindiau sy'n defnyddio'r platfform hefyd. Yna gellir cyfathrebu eu diweddariadau, i’w lluniau, eu statws a'u hoffiadau, yn uniongyrchol â phawb maen nhw’n eu hadnabod. Gall y nodwedd 'Like' ar y platfform olygu llawer i blant a phobl ifanc am ei fod yn cael ei weld fel arwydd o gymeradwyaeth gan eu ffrindiau neu gyfoedion.

Mae'r ap Facebook yn hawdd i’w ddefnyddio i gyfathrebu a sgwrsio gyda ffrindiau, naill ai un i un neu mewn sgyrsiau grwp, a chyda chyfryngau amrywiol (er enghraifft, GIFs, lluniau, fideos). Mae’n lle defnyddiol hefyd i ddilyn brandiau neu sefydliadau a chael diweddariadau gyda gwybodaeth, datganiadau neu gyhoeddiadau newydd. Er bod llawer o bobl ifanc yn gweld Facebook fel mwy o barth i oedolion y mae eu rhieni a'u gofalwyr yn ei ddefnyddio, mae ganddo lawer o ddefnyddwyr iau o hyd.

  • Ffrindiau Facebook yw'r cysylltiadau rydych wedi'u derbyn i weld eich postiadau ar eich proffil. Gall y rhain fod yn deulu, ffrindiau a phobl rydych chi'n eu hadnabod mewn bywyd go iawn, ond gallant gynnwys rhai rydych chi wedi eu cyfarfod ar-lein yn unig hefyd.

  • Cais ffrind yw sut mae defnyddiwr yn gwneud cysylltiad â defnyddiwr arall. Trwy dderbyn cais ffrind, rydych chi'n caniatáu i'r defnyddiwr hwnnw weld y cynnwys rydych chi’n ei bostio, a'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn eich proffil, oni bai eich bod yn cyfyngu'ch cynnwys i grwpiau penodol yn unig.

  • Mae'r nodwedd hon yn awgrymu pobl y gallech chi fod yn eu hadnabod, ac yr hoffech chi fod yn 'Ffrindiau Facebook' gyda nhw o bosib.

  • 'Proffil Facebook' defnyddiwr yw'r dudalen lle mae'n gallu lanlwytho lluniau, fideos, gwybodaeth bersonol a diweddariadau statws i'w rhannu â'i ffrindiau.

  • Mae'r nodwedd hon, y cyfeirir ati hefyd fel What’s on your mind?', yn caniatáu i ddefnyddwyr rannu sut maen nhw'n teimlo neu beth maen nhw'n ei wneud gyda'u ffrindiau. Gellir gwneud hyn mewn sawl ffordd, gan gynnwys diweddariadau testun, lluniau, ffrwd fyw neu leoliad.

  • Mae Facebook yn caniatáu i ddefnyddwyr 'Fewngofnodi' ar-lein drwy dagio eu hunain mewn lleoliadau penodol.

  • Pan fyddwch chi’n 'Tagio' rhywun ar Facebook, rydych chi'n creu dolen i'w proffil. Er enghraifft, gallwch dagio rhywun mewn llun, neu mewn diweddariad statws i ddweud gyda phwy rydych chi.

  • Mae clicio'r botwm 'Hoffi' (eicon codi bawd) yn ffordd hawdd o ddweud wrth bobl eich bod yn mwynhau eu cynnwys heb orfod gadael sylw.

  • Dyma'ch hanes chi ar Facebook. Mae'n cadw'ch holl weithgarwch, diweddariadau, lluniau a negeseuon cyhoeddus i gyd mewn un lle.

  • Gall defnyddwyr unigol ddod at ei gilydd i ffurfio grwp Facebook. Gall grwpiau fod yn gyhoeddus, yn breifat neu'n gyfrinachol.

  • Dyma’r nodwedd ffrydio byw sy’n gysylltiedig â Facebook. Gall defnyddwyr wneud a rhannu fideos mewn amser real. Bydd gosodiadau preifatrwydd cyfrif yn pennu pwy all weld cynnwys byw defnyddiwr.

  • Gall defnyddwyr greu hysbysebion i brynu a gwerthu eitemau ar draws y platfform. Mae Facebook yn defnyddio lleoliad daearyddol o'ch ffôn i ddod o hyd i hysbysebion sydd wedi'u postio yn eich ardal leol hefyd.

  • Yn aml dyma lle mae cwmnïau a busnesau’n hyrwyddo pob math o bethau, megis y gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud, cynhyrchion maen nhw'n eu gwerthu a swyddi gwag.

  • Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr gynnal galwad fideo gan ddefnyddio Facebook neu Messenger trwy wahodd sawl un arall i ymuno â'ch galwad fideo, hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw gyfrif Facebook.

  • Ap sgwrsio annibynnol yw hwn sy'n rhan o'r grwp Facebook. Mae cyfrifon Facebook a Messenger yn gysylltiedig. Am ragor o wybodaeth am ap Messenger, darllenwch ganllaw ap Messenger.

  • Fideos byr sy’n cynnwys troshaenau cerddoriaeth, sain a thestun yw’r rhain. Maen nhw’n cael eu rhannu’n uniongyrchol â’ch ‘Ffrindiau’ yn eu ‘Ffrwd Newyddion’ neu â defnyddwyr eraill mewn adran ‘Reels’ ddynodedig o’r ap. Defnyddir y gosodiad cyhoeddus ar gyfer ‘Reels’ defnyddwyr â chyfrifon sydd dros 18 oed.

  • Nodwedd sy'n caniatáu i ddefnyddwyr rannu cynnwys ar eu proffiliau sy'n diflannu ar ôl 24 awr.

Mae rhai defnyddwyr Facebook yn ei ddefnyddio i gofnodi llawer o agweddau ar eu bywyd, gan rannu gwybodaeth bersonol yn aml trwy eu proffil, lluniau, lleoliad a diweddariadau statws. Helpwch eich plentyn i feddwl am yr hyn mae'n ei rannu ar-lein a'i annog i feddwl a fyddai'n rhannu'r wybodaeth hon all-lein hefyd. Efallai y bydd y syniad o ffrindiau Facebook yn lleddfu ofnau rhai defnyddwyr ar gam am ddiogelwch rhannu gwybodaeth. Esboniwch risgiau'r hyn a allai ddigwydd pe bai'r wybodaeth maen nhw wedi'i rhannu yn cyrraedd y dwylo anghywir.

Mae' ap Facebook yn caniatáu i ddefnyddwyr rannu gwybodaeth bersonol gyda'i gilydd mewn sawl ffordd. Gall defnyddwyr rannu lluniau, diweddariadau statws, lleoliadau byw a hyd yn oed tagio eu ffrindiau a'u teulu yn eu lluniau. Er bod hon yn nodwedd gadarnhaol i'r rheini sydd am gynnal cysylltiadau â ffrindiau a theulu a allai fod yn byw ymhell i ffwrdd, gall arwain at rai defnyddwyr yn gor-rannu eu gwybodaeth bersonol ac yn cofnodi pob agwedd ar eu bywydau ar-lein. Anogwch eich plentyn i feddwl a fyddai'n rhannu'r wybodaeth â phawb y mae'n eu hadnabod yn y byd all-lein, ac a oes angen gwneud hynny ar Facebook.

Mae diweddariadau diweddar Facebook yn golygu bod defnyddwyr yn gallu dewis eu cynulleidfa ar gyfer pob neges newydd y maen nhw'n ei rhannu. Gallwch ddewis ‘Public’, ‘Friends’, ‘Friends except’, ‘Specific friends’ ac ‘Only me’. Anogwch eich plentyn i feddwl yn ofalus am y bobl mae'n rhannu ei gynnwys â nhw, gan sicrhau ei fod yn rhannu â'r gynulleidfa gywir. Mae defnyddwyr Facebook yn gallu personoli'r ‘reels’ maen nhw’n eu gweld ar y platfform hefyd, gan ddewis yr hyn maen nhw am ei weld mwy neu lai ohono. Trwy ddefnyddio'r opsiwn hwn, bydd yn dweud wrth yr algorithm i ddewis mwy neu lai o gynnwys o natur debyg. Mae gwybodaeth am sut i wneud hyn ar gael yn adran ‘Rheoli cynnwys’ y canllaw hwn.

Mae platfform Facebook yn enfawr, felly mae'n bosib y bydd eich plentyn yn dod i gysylltiad â defnyddwyr nad yw'n eu hadnabod, os nad yw'r gosodiadau preifatrwydd priodol wedi'u rhoi ar waith. Atgyfnerthwch y ddealltwriaeth y dylai ffrindiau Facebook fod yn bobl mae'n eu hadnabod yn y byd all-lein, ac y gallai derbyn cais ffrind gan ddieithryn i gynyddu nifer y ffrindiau sydd ganddo fod yn beryglus. Yn yr un modd â rhwydweithiau cymdeithasol eraill, mae'n bosib i ddefnyddwyr sefydlu cyfrifon ffug, gan esgus bod yn rhywun arall. Anogwch eich plentyn i gwestiynu a yw’n adnabod yr unigolyn sydd wedi anfon cais ffrind mewn gwirionedd cyn ei dderbyn. Os oes gan eich plentyn osodiad cyfrif 'Cyhoeddus', siaradwch am y risgiau o gysylltu â dieithriaid ac esboniwch bwysigrwydd peidio â rhannu gwybodaeth bersonol neu breifat ar eu ffrwd neu mewn sgyrsiau.

Mae rhai defnyddwyr Facebook yn aflonyddu ar eraill trwy dargedu'r cynnwys maen nhw'n ei rannu ar eu tudalen Facebook. Gall y swyddogaeth sylwadau ar Facebook wneud defnyddwyr yn agored i aflonyddu a cham-drin. Mae'n ddefnyddiol siarad â'ch plentyn am sut y dylai ymddwyn tuag at eraill ar-lein (a'i atgoffa o'r effaith y gall sylwadau neu bostiadau angharedig neu niweidiol eu cael ar eraill), yn ogystal â sut i gwyno am bobl sy'n ymddwyn yn amhriodol a'u blocio. Mae gan Facebook safonau cymunedol y mae'n disgwyl i bob defnyddiwr gadw atynt.

Os oes gan eich plentyn ei gyfrif Facebook ei hun, mae'n bwysig siarad am sut mae'n defnyddio'r ap a'r hyn mae'n ei rannu. Hefyd, rhaid iddo fod yn ymwybodol o risgiau ffrydio byw gan ddefnyddio'r swyddogaeth 'Facebook live'. Gall ffrydio byw deimlo'n gyffrous ac yn hwyl ac yn y foment i blant a phobl ifanc, gan eu harwain o bosib i wneud pethau y byddant yn difaru eu gwneud yn ddiweddarach. Cynhaliwch sgwrs gyda nhw i'w helpu i ddeall bod angen iddyn nhw fod yn ofalus gydag unrhyw gynnwys maen nhw’n ei rannu neu ei ddarlledu. Sicrhewch fod eich plentyn yn gwybod y gall fod yn anodd cadw perchnogaeth ar unrhyw gynnwys ar ôl iddo gael ei rannu ar-lein, oherwydd mae'n hawdd copïo neu recordio ac ailbostio cynnwys heb yn wybod iddo, yna gall ddod yn anodd ei dynnu oddi ar y rhyngrwyd.

Hefyd, dylai defnyddwyr Facebook wybod bod eu henw, oedran, rhyw, llun proffil a llun clawr i gyd yn cael eu hystyried yn 'wybodaeth gyhoeddus' a bod pawb ar y platfform yn gallu eu gweld. Rhaid annog defnyddwyr iau i feddwl yn ofalus am y lluniau maen nhw'n eu dewis fel eu llun proffil neu lun clawr, gan gofio bod llawer iawn o bobl yn gallu gweld y lluniau hyn.

Mae Facebook yn ap rhad ac am ddim, sy'n golygu ei fod yn cynhyrchu refeniw o hysbysebu. Mae'r cwmni'n gwneud arian trwy werthu gofod hysbysebu oddi mewn i ffrwd defnyddiwr ac wrth ei hymyl. Mae Meta wedi diweddaru ei bolisi hysbysebion a dargedir ar Facebook, sy’n golygu mai dim ond ar sail eu hoed a’u lleoliad, ac nid ar sail eu rhywedd, eu diddordebau na’u gweithgarwch, y gellir targedu hysbysebion at ddefnyddwyr o dan 18 oed. Hefyd, mae defnyddwyr yn gallu rheoli pynciau’r hysbysebu yn ‘Ad preferences’ yn y ddewislen gosodiadau.

Siaradwch â'ch plentyn am sut mae hysbysebu'n gweithio, gan gynnwys hysbysebion wedi'u targedu ac edrychwch ar y gosodiadau hysbysebu yn y ddewislen 'Gosodiadau a phreifatrwydd' i helpu i reoli'r hysbysebion a ddangosir.

Mae Meta yn lansio Meta Verified ar gyfer Facebook ac Instagram, sef gwasanaeth talu-am-danysgrifiad, sy’n darparu bathodyn glas i danysgrifwyr i ddangos bod defnyddiwr yn ddilys. Efallai bod y syniad o gael bathodyn glas ar eu proffil yn apelio at bobl ifanc, gan fod hyn yn gysylltiedig â phoblogrwydd fel arfer. Siaradwch â’ch plentyn am sut mae tanysgrifiadau’n gweithio ac esbonio mai dull dylunio a ddefnyddir i annog i defnyddwyr i wario mwy o arian ar y platfform yw hynny.

Dylai defnyddwyr gofio bod cyflwyno'r 'Meta Accounts Centre' wedi cyflwyno elfen trawsbostio sydd i bob pwrpas yn golygu rhannu negeseuon unigol ar draws Instagram a Facebook. Mae hyn yn golygu bod defnyddwyr bellach yn gallu postio ar y ddau gyfrif cyfryngau cymdeithasol ar unwaith. Mae defnyddwyr sydd wedi defnyddio'r un e-bost ar gyfer y ddau gyfrif wedi canfod bod trawsrannu wedi'i alluogi o'r cychwyn cyntaf. Rydym yn argymell defnyddwyr i ddatgysylltu eu cyfrifon trwy'r ddewislen gosodiadau. Mae cyngor ar sut i wneud hyn o dan adran 'Rheoli preifatrwydd' y canllaw hwn.

  • Mae gan Facebook gasgliad o osodiadau i reoli preifatrwydd sy’n ddryslyd ar y naw. Mae 'Privacy Checkup' yn nodwedd ddefnyddiol lle gallwch reoli rhai o’r gosodiadau preifatrwydd a diogelwch allweddol. Cofiwch nad yw'r rhain yn cwmpasu'r holl opsiynau preifatrwydd a diogelwch a bod mwy ar gael trwy'r ddewislen 'Settings'. Hefyd, mae Meta wedi lansio 'Privacy Centre' sy'n cynnwys mwy o wybodaeth am eich gosodiadau preifatrwydd ar wahanol blatfformau Meta.

    I reoli preifatrwydd:

    • ewch i'r ddewislen a dewis Settings and privacy', dewis ‘Settings’ a sgrolio i lawr i 'Privacy Checkup'
    • dewiswch yr opsiwn 'Who can see what you share' sy'n eich galluogi i ddewis eich dewisiadau ar gyfer:
      • gwybodaeth proffil
      • postiadau a straeon
      • blocio
    • gweithiwch drwy bob opsiwn gan ddefnyddio'r gwymplen, a dewis eich 'Audience' o un o'r opsiynau canlynol:
      • cyhoeddus
      • ffrindiau
      • dim ond fi
      • ffrindiau agos
    • dewiswch 'Next' i symud i'r set nesaf o opsiynau

    I analluogi 'trawsbostio' awtomatig gydag Instagram:

    • ewch i'r ddewislen a dewis 'Settings’
    • agorwch 'Meta Accounts Centre' drwy ddewis ‘See more in Accounts Centre’ yna ‘Sharing across profiles’
    • dewiswch eich cyfrif Facebook o dan y teitl 'Share from'
    • o dan eich 'Share to' dewiswch y cyfrif Instagram yr hoffech ei ddatgysylltu
    • newidiwch y togl i 'Off' wrth y ddau opsiwn o dan 'Automatically share'

    Os oes gennych sawl cyfrif Instagram neu Facebook, gwnewch yn siŵr eich bod yn diffodd 'Automatic share' ar gyfer pob proffil. Gallwch wneud hyn trwy ddewis pob proffil o dan 'Share to'.

  • Mae'r nodwedd 'Privacy Checkup' ar Facebook yn rhoi llawer o reolaeth i ddefnyddwyr dros reoli rhyngweithiadau.

    I reoli rhyngweithiadau:

    • ewch i'r ddewislen a dewis Settings and privacy ' a sgrolio i lawr i 'Privacy Checkup'
    • dewiswch yr opsiwn 'How people can find you on Facebook' sy'n eich galluogi i ddewis eich dewisiadau ar gyfer:
      • ceisiadau ffrind
      • rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
      • peiriannau chwilio
    • gweithiwch drwy bob opsiwn gan ddefnyddio'r gwymplen, a dewis eich 'Audience' o un o'r opsiynau canlynol:
      • pawb
      • ffrindiau i ffrindiau
    • dewiswch 'Nesaf' i symud i'r set nesaf o opsiynau

     I analluogi lleoliad:

    • ewch i'r ddewislen a dewis ' Settings and privacy ' a sgrolio i lawr i 'Privacy Checkup'
    • dewiswch yr opsiwn 'Your data settings on Facebook' a gweithio'ch ffordd drwy'r ddewislen nes eich bod yn cyrraedd 'Location'
    • dilynwch y cyfarwyddiadau i analluogi'ch lleoliad ar eich dyfais

    I reoli eich cynulleidfa:

    • ewch i'r ddewislen, dewis 'Settings' a sgrolio i 'Audience and visibility'
    • dewiswch ‘Profile and tagging’ ac yna ‘Friends’ o ddewisiadau'r gwymplen

    I reoli cynulleidfa ‘Reels’:

    • ewch i’r ddewislen a dewis a sgrolio i ‘Audience and visibility’
    • dewiswch 'Reels' a diffodd y togl i ‘Allow others to share your reels to their stories’
    • dewiswch 'Friends' fel opsiwn ‘Who can see your reels’

    I bersonoleiddio eich ‘reels’:

    • ewch i’r hafan a dewis ‘reel’ i’w gwylio
    • tapiwch ar yr eicon tri dot ar y chwaraewr fideo
    • dewiswch naill ai ‘Show more’ neu ‘Show less’ o’r rhestr o opsiynau

    I adael grŵp Facebook:

    • ewch i dudalen y grŵp yr hoffech ei gadael a dewis y botwm llwyd o'r enw 'Joined’
    • dewiswch 'Leave group' o'r opsiynau a restrir
  • Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr a allai fod yn eu poeni neu'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I gwyno am ddefnyddiwr neu grŵp:

    • ewch i broffil y cyfrif neu grŵp
    • dewiswch y tri dot o dan y llun clawr a dewiswch 'Find support or report’
    • dewiswch eich rheswm dros riportio o'r rhestr o resymau a ddarperir ac yna 'Submit'

    I gwyno am gynnwys:

    • chwiliwch am y cynnwys rydych chi am gwyno amdano a dewis y tri dot

    I adrodd neu guddio sylw:

    • ewch i'r sylw rydych chi am ei riportio a dewis yr eicon tri dot
    • dewiswch 'Report comment' neu 'Hide comment' fel y bo'n briodol
    • dewiswch eich rheswm dros adrodd o'r opsiynau rhestredig ac yna 'Submit'

    I flocio defnyddiwr:

    • ewch i broffil y cyfrif rydych am ei flocio
    • dewiswch y tri dot o dan y llun clawr a dewis 'Block'
    • dewiswch ‘Confirm’ i gyflwyno
  • Mae gan Facebook offer amrywiol i'ch helpu chi a'ch plentyn i ddeall a rheoli amser sgrin. Mae opsiynau ar gael i reoli eich gosodiadau hysbysebion hefyd.

    I osod offer rheoli amser:

    • ewch i'r ddewislen a dewis 'Settings’
    • sgroliwch i lawr i'r opsiwn 'Your time on Facebook'
    • dewiswch yr opsiwn 'Manage your time' a gweithio drwy'r ddewislen i osod yr offer atgoffa 'Quiet mode' ac offer atgoffa 'Daily time'

    I reoli eich dewisiadau hysbysebion:

    • ewch i'r ddewislen a dewiswch 'Settings’
    • agorwch ‘Meta Accounts Centre' a dewis ‘Ad preferences’
    • dewiswch 'Gosodiadau Ad' i reoli'r mathau o hysbysebion y byddwch yn eu gweld

    I reoli hysbysiadau:

    • ewch i'r ddewislen a sgroliwch i lawr i ‘Settings and privacy' a dewiswch 'Settings’
    • sgroliwch i lawr i 'Notifications' yn y ddewislen 'Preferences'
    • gweithiwch drwy'r opsiynau sydd wedi'u rhestru i benderfynu pa hysbysiadau i'w toglo i ffwrdd
  • Pan fydd eich cyfrif wedi’i ddadactifadu, caiff eich holl wybodaeth defnyddiwr ei chadw ond nid yw’n weladwy ar y platfform na pheiriannau chwilio. Gallwch ailactifadu eich cyfrif unrhyw bryd i adfer eich holl wybodaeth. Mae dileu’ch cyfrif yn golygu y bydd eich holl wybodaeth yn cael ei dileu’n barhaol, ac nad oes modd ei hadfer. Gall defnyddwyr Facebook naill ai ddileu neu dadactifadu eu cyfrifon.

    I ddileu eich cyfrif yn barhaol:

    • ewch i’ch hafan a dewis ‘Settings & Privacy’, wedyn ‘Settings’
    • dewiswch ‘Your Facebook Information’ ac yna ‘Deactivation and Deletion’
    • dewiswch ‘Delete Account’, wedyn ‘Continue to account deletion’
    • dewiswch ‘Delete Account’, teipiwch eich cyfrinair ac yna ‘Continue’

    I ddadactifadu eich cyfrif:

    • ewch i’ch hafan a dewis ‘Settings & Privacy’ yna ‘Settings’
    • dewiswch ‘Your Facebook Information’ wedyn ‘Deactivation and Deletion’
      Dewiswch ‘Deactivate Account’
    • dewiswch ‘Continue’ a dilyn y cyfarwyddiadau i ddadactifadu eich cyfrif

Rydym yn argymell cael sgwrs gyda'ch plentyn am ei ôl troed digidol a phwysigrwydd bod yn ddinesydd digidol da. Anogwch eich plentyn i feddwl sut mae'n defnyddio'r platfform, ac i fod yn ymwybodol, unwaith mae'n rhannu cynnwys ar-lein ar apiau megis Facebook, nad yw'r cynnwys hwnnw dan ei reolaeth mwyach.

Mae Meta wedi creu canolfan preifatrwydd i’r arddegau bwrpasol er mwyn helpu defnyddwyr yn eu harddegau i reoli eu preifatrwydd ar bob blatfform Meta.

Mae gan Facebook borth pwrpasol i rieni gydag awgrymiadau a chyngor ar ddefnyddio eu rhwydwaith cymdeithasol.

Mae gan Facebook yr opsiwn i ‘Unfollow’ ac ‘Unfriend’ defnyddwyr eraill ar y platfform drwy hofran dros naill ai'r botwm 'Follow' neu 'Friend' a dewis yr opsiwn perthnasol.

Gall defnyddwyr gysylltu eu cyfrifon trwy 'Account Centre' Meta sy'n rheoli cyfrifon llwyfannau cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys Facebook, Instagram, a Meta Horizon.

Mae gan Facebook swyddogaeth gêm hefyd gall defnyddwyr gystadlu a rhyngweithio â'u ffrindiau wrth chwarae ar-lein.