English

Mae Apex Legends yn gêm fideo saethu ar-lein sy'n rhad ac am ddim i'w chwarae ar Microsoft Windows, PlayStation 4 a 5, Xbox One a Series X/S a Nintendo Switch. Mae fersiwn symudol o'r gêm a gynlluniwyd ar gyfer sgriniau cyffwrdd o'r enw Apex Legends Mobile ar gael i'w chwarae ar ddyfeisiau Android ac iOS. Gêm traws-blatfform yw Apex Legends, sy'n galluogi chwaraewyr i ymuno â gêm o blatfformau gwahanol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddyfeisiau. Mae gan y gêm ddau fodd chwarae: ‘Battle Royale' lle mae hyd at ugain o sgwadiau tri pherson ('Trios') neu ddeg ar hugain o sgwadiau dau berson ('Duos') yn brwydro i drechu pob chwaraewr arall, ac 'Arenas', lle mae chwaraewyr yn ffurfio dwy sgwad tri chwaraewr i ymladd yn erbyn ei gilydd mewn 'deathmatch' tîm dros gyfres o rowndiau i benderfynu ar yr enillydd. Gall chwaraewyr ffurfio sgwadiau wedi'u pennu ymlaen llaw gydag un neu ddau o ffrindiau neu gael eu rhoi mewn sgwad ar hap gan y gêm. Mae gan y gêm fodd unigol hefyd sy'n galluogi chwaraewr unigol i ymuno â gêm heb fod yn rhan o sgwad. Mae Apex Legends yn cael ei chwarae dros 'Seasons' sydd wedi'u pennu ymlaen llaw, ac sy’n para dau neu dri mis fel arfer. Mae pob tymor yn cyflwyno nodweddion a moddau chwarae newydd. Yn ogystal â'r moddau Battle Royale ac Arenas safonol, mae Apex Legends yn cynnig fersiynau 'Ranked League' o'r ddwy gêm hefyd. Mae chwaraewyr sy'n cymryd rhan mewn gemau wedi’u graddio’n ennill pwyntiau sy'n penderfynu ar eu gradd, sy'n cael ei ddefnyddio i baru'r chwaraewr â chwaraewyr ar radd debyg mewn gemau dilynol. Mae Apex Legends yn gêm safbwynt person cyntaf yn bennaf ond gellir ei chwarae o safbwynt trydydd person ar rai platfformau. Ym mis Ebrill 2022, roedd tua 120 miliwn o chwaraewyr yn chwarae Apex Legends bob mis.

Mae gan Apex Legends sgôr oedran PEGI 16.

Mae gan Apex Legends sgôr PEGI o 16 gan ei bod yn cynnwys "sustained depictions of violence towards human characters and moderate violence" ac oherwydd bod y gêm yn cynnig yr opsiwn i brynu pethau yn y gêm gan ddefnyddio arian go iawn.

I gael mynediad at Apex Legends, mae angen i chwaraewyr greu cyfrif EA Games, gan ddarparu cyfeiriad e-bost dilysadwy, enw defnyddiwr a'u hoedran. Mae angen i chwaraewyr fod yn 13 oed neu'n hyn i greu cyfrif EA, er bod EA Games yn nodi bod gofyn i chwaraewyr o dan 18 oed gael caniatâd rhiant i chwarae'r gêm. Nid oes gan EA Games unrhyw ddulliau gwirio oedran trylwyr.

Mae ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau’ yn cynnwys rhagor o fanylion am hyn’.

Mae Apex Legends wedi dod yn hynod boblogaidd mewn marchnad sy’n orlawn o gemau saethu trydydd person ar-lein. Mae'r poblogrwydd yn seiliedig ar fodel chwarae rhad ac am ddim sy'n rhoi mynediad at raffeg o ansawdd uchel, gêm gyflym a llyfn gyda dyfeisiau rheoli hawdd eu dysgu a mapiau manwl realistig, amrywiaeth eang o foddau chwarae safonol ac amser-gyfyngedig a'r cyfle i chwarae'n achlysurol neu am bwyntiau graddio cystadleuol. Mae chwaraewyr yn mwynhau'r opsiynau o chwarae ar eu pennau eu hunain, gyda ffrindiau neu drwy gael eu paru â dieithriaid ar hap. Mae hygyrchedd a phoblogrwydd Apex Legends yn uwch oherwydd ei bod ar gael ar bob platfform gemau a dyfais symudol o bwys a'r ffaith bod modd ei chwarae ar draws platfformau sy'n galluogi chwaraewyr i chwarae gyda'i gilydd ar draws cyfrifiaduron a chonsolau gemau ac ar draws dyfeisiau symudol Android ac iOS. Fel y rhan fwyaf o gemau poblogaidd o'r fath, mae gan Apex Legends ddiddordeb eilaidd i chwaraewyr sy'n gwylio gemau wedi'u recordio neu gemau sy'n cael eu ffrydio'n fyw, fel arfer drwy YouTube neu Twitch.

  • Y safbwynt neu'r persbectif mae gêm yn cael ei chwarae ohono, fel arfer naill ai person cyntaf neu drydydd person.

  • Gêm saethu person cyntaf, gêm sy'n cael ei chwarae o safbwynt cymeriad y chwaraewr.

  • Cymeriad y gellir ei chwarae sy'n ymddangos ym myd y gêm.

  • Cymeriad y gellir ei chwarae sy'n adfywio ar ôl cael ei ladd mewn gêm ac ailymddangos.

  • Lle yn y byd yn y gêm lle mae cymeriadau'n ymddangos neu'n adfywio.

  • Lladd cymeriad mewn gêm.

  • Y dacteg o guddio cymeriad mewn safle statig manteisiol, fel arfer i osgoi cael eich 'lladd’. Mae'r math hwn o fodd chwarae’n ddadleuol mewn gêm saethu person cyntaf 'deathmatch' fel Apex Legends ac mae rhai chwaraewyr yn teimlo ei fod yn debyg i dwyllo, sy'n gallu arwain at gam-drin y chwaraewr drwy swyddogaeth sgwrsio’r gêm.

  • Person sy'n newydd i gêm neu sy'n ymddangos nad oes ganddo lawer o sgil yn y gêm; mae'r term yn cael ei ddefnyddio i ddifrïo yn aml.

  • Aros i ymuno â gêm, naill ai ar eich pen eich hun neu gydag un neu ddau o ffrindiau i ffurfio sgwad.

  • Cael eich paru ar hap ag un neu ddau o chwaraewyr i ffurfio sgwad.

  • Dewis ymuno â gêm ar eich pen eich hun yn hytrach na fel rhan o sgwad dau neu dri pherson.

  • Dyma'r enw ar yr arian yn y gêm y gellir ei brynu gan ddefnyddio arian go iawn.

Gêm saethu person cyntaf sy'n cynnwys trais a gwaed yw Apex Legends. Y gosodiad diofyn ar gyfer Apex Legends yw safbwynt person cyntaf, sy'n golygu bod y gêm yn cael ei chwarae o safbwynt y cymeriad. Mae hyn yn tueddu i greu profiad mwy realistig y gellir ymgolli ynddo, gan gynnwys trais a gwaed. Mae 'lladd' yn y gêm yn cynhyrchu gwaed animeiddiedig graffig sy’n tasgu, a all ymddangos yn y pellter neu'n agos at safbwynt y chwaraewr. Gall cymeriadau gelynion sydd wedi'u hanalluogi gael eu 'lladd' gan 'symudiadau gorffen' creulon yn aml, dienyddiadau animeiddiedig sy'n digwydd yn agos iawn at safbwynt cymeriad y chwaraewr neu a welir o safbwynt y dioddefwr.

Yn ogystal â'r risg o niwed drwy chwarae'r gêm ei hun, mae chwaraewyr yn defnyddio enwau proffil wedi'u hunan-gynhyrchu a all gynnwys iaith sarhaus, ddifrïol neu wahaniaethol.

Mae Apex Legends yn gêm aml-chwaraewr gydweithredol sy'n cynnwys swyddogaethau sgwrsio llais a thestun rhwng chwaraewyr. Mae natur aml-chwaraewr Apex Legends yn golygu bod defnyddwyr yn chwarae yn erbyn chwaraewyr o wahanol oedrannau o bob cwr o'r byd ac yn cyfathrebu â nhw. Mae swyddogaeth sgwrsio llais a thestun yn cael ei defnyddio'n eang yn y gêm ond gellir ei diffodd yng ngosodiadau'r gêm. Nid yw Apex Legends wedi'i sgorio o ran iaith anweddus yn y gêm ond mae natur ryngweithiol y gêm yn golygu y gallai chwaraewyr fod yn agored i iaith sarhaus drwy'r swyddogaeth sgwrsio. Mae natur aml-chwaraewr Apex Legends yn golygu y bydd chwaraewyr yn dod ar draws pobl o bob oedran a chenedligrwydd wrth chwarae'r gêm wrth ymuno â sgwadiau ar hap yn hytrach na ffurfio sgwad gyda ffrindiau. Gallai ymuno â sgwad ar hap olygu bod chwaraewr yn agored i iaith sydd ond yn addas i oedolion neu hyd yn oed i gam-drin geiriol gan chwaraewyr eraill.

Mae gan Apex Legends system gyfathrebu ddieiriau yn y gêm hefyd a elwir yn 'Ping system', sy'n system marcwyr a ddefnyddir gan chwaraewyr i gynhyrchu negeseuon ar y sgrin ar gyfer aelodau'r sgwad na all timau gelynion eu gweld. Mae'r system hon yn golygu y gall defnyddwyr chwarae'n gydweithredol drwy gyfathrebu heb ddefnyddio swyddogaeth sgwrsio llais neu destun. Yn ogystal ag ymestyn hygyrchedd y gêm i chwaraewyr gydag anawsterau clyw neu gyfathrebu, mae'r 'Ping system' yn galluogi chwaraewyr i gymryd rhan mor lawn â phosibl yn y gêm heb y risgiau sy'n gysylltiedig â swyddogaeth sgwrsio mewn gêm.

Mae gan Apex Legends swyddogaeth 'Whisper' sy'n caniatáu i ddefnyddiwr gyfathrebu'n uniongyrchol â chwaraewr arall, gan gynnwys rhywun sy'n chwarae gêm Apex Legends wahanol ar y pryd. Un o ddibenion defnyddiol swyddogaeth sgwrsio 'Whisper' yw gofyn i ffrind a yw am ymuno â gêm newydd neu drefnu amser i chwarae gyda'ch gilydd heb dorri ar draws y gêm y mae'n ei chwarae ar y pryd. Fodd bynnag, mae natur breifat y sgwrs hon yn golygu eich bod yn agored i gam-drin geiriol na all chwaraewyr eraill ei glywed a'i herio neu gyfathrebu amhriodol arall, fel gwahodd chwaraewr i gyfarfod y tu allan i'r gêm, naill ai’n rhithwir ar blatfform ar-lein gwahanol neu yn y byd go iawn.

Gall chwaraewyr Apex Legends ddewis cynhyrchu enw defnyddiwr wrth greu eu proffil yn y gêm ond bydd yr enw a ddefnyddir i greu'r cyfrif yn cael ei ddefnyddio'n ddiofyn, a gallai hwnnw fod yn enw go iawn y defnyddiwr. Mae hon yn risg benodol os yw cyfrif gêm symudol Apex Legends wedi cael ei greu drwy gysylltu â chyfrif Google, Apple, Facebook neu EA sy'n bodoli eisoes. Dylid gwirio gosodiadau preifatrwydd y gêm i sicrhau nad yw enw go iawn y defnyddiwr yn weladwy i bob chwaraewr arall. Mae manylion am sut i wneud hyn i'w gweld yn adran 'Rheoli preifatrwydd' y canllaw hwn.

Mae gan Apex Legends reolau sydd â’r nod o wneud y gêm yn "fair and fun for everyone" ac mae hynny'n cynnwys rhybuddion yn erbyn "hateful conduct and other offensive behaviour”. Gall achosion o dorri'r rheolau dro ar ôl tro, os cânt eu riportio, arwain at waharddiad dros dro neu gau cyfrifon am dorri rheolau dro ar ôl tro. Y brif risg o niwed i ddefnyddwyr yw y gellir defnyddio'r swyddogaethau sgwrsio llais a thestun yn y gêm i gam-drin chwaraewyr yn eiriol gydag iaith hiliol, rywiaethol, homoffobig neu iaith wahaniaethol arall. Mae'r gwahanol swyddogaethau sgwrsio sydd ar gael yn y gêm yn creu risg hefyd o chwaraewyr yn cyfathrebu am resymau nad ydyn nhw'n gysylltiedig â'r gêm, fel annog chwaraewr i gyfarfod mewn mannau eraill ar-lein.

Gêm ar-lein yw Apex Legends ac mae angen cysylltiad rhyngrwyd parhaus i chwarae. Gellir lawrlwytho a chwarae Apex Legends am ddim ar bob platfform ond mae'n cynnwys microdrafodion ar ffurf prynu pethau yn y gêm. Mae gan Apex Legends arian yn y gêm o'r enw 'Apex Coins' sy'n cael eu prynu gydag arian go iawn a'u masnachu yn y gêm i brynu Apex Packs ('loot boxes' ar hap sy'n cynnwys eitemau cosmetig i wella’r chwarae yn y gêm), eitemau chwarae fel arfau o'r siop sy’n cylchdroi yn y gêm neu gymeriadau Legends newydd y gellir eu chwarae. Mae EA Games wedi gwneud newidiadau i brisiau byd-eang ar gyfer y trafodion ariannol go iawn i brynu arian Apex, sy’n golygu ei bod hi’n ddrutach i chwaraewyr y DU brynu arian Apex. Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn deall mai arian go iawn sy’n cael ei ddefnyddio i brynu arian Apex. Mae taliadau yn y gêm yn datgloi gwelliannau esthetig yn unig i gymeriadau ac arfau ac yn rhoi mynediad at yr holl gymeriadau y gellir eu chwarae yn y gêm yn gyflymach nag y gellir ei gael drwy chwarae. Gellir ennill Apex Packs, gwelliannau cosmetig a chymeriadau newydd drwy chwarae'r gêm heb orfod talu unrhyw gost ychwanegol ac nid yw chwaraewyr yn cael unrhyw fantais drwy wario arian yn y gêm. Fodd bynnag, gall chwaraewyr fod yn ddiamynedd i gael mynediad at y cynnwys ychwanegol, yn enwedig os ydyn nhw'n chwarae gyda ffrindiau, sy'n gallu annog prynu pethau yn y gêm. Gellir creu cyfrifon i chwarae Apex Legends Mobile, sy'n cael ei chwarae ar ddyfeisiau Android ac iOS, ar unwaith drwy gysylltu â chyfrif Google, Apple, Facebook neu gyfrif gydag EA, cyhoeddwr y gêm. Mae'r swyddogaeth hon yn galluogi mynediad cyflym iawn at y gêm heb yr angen i gwblhau proses gofrestru hirfaith ond mae’n darparu'r proffil yn y gêm hefyd gyda manylion y cyfrif cysylltiedig. Mae rhwyddineb creu cyfrif ac ymuno â gêm a'r arddull chwarae hynod apelgar yn golygu ei bod hi'n hawdd i chwaraewr ymgolli yn Apex Legends os nad yw terfynau amser allanol yn cael eu gosod.  Fel arfer, mae gemau Apex Legends yn para pymtheg i ugain munud, felly mae'r gêm yn darparu cyfnodau seibiant naturiol rhwng gemau.

  • Nid oes gan Apex Legends reolaethau rhieni yn y gêm ac ni allwch chi osod eich cyfrif i 'Private’.  Mae Apex Legends yn gêm aml-chwaraewr, ond mae'n bosibl chwarae yn 'Solo mode' neu 'Squad mode' gyda ffrindiau yn hytrach nag ymuno â sgwad ar hap gyda chwaraewyr eraill sy'n aros mewn ciw. Dylai defnyddwyr sicrhau nad yw eu henw go iawn yn cael ei ddefnyddio ar eu proffil.

    I dynnu eich enw go iawn o'ch proffil:

    • ewch i'ch cyfrifon a dewiswch yr opsiwn 'Privacy and settings'
    • dad-diciwch y blwch 'Show my real name on my profile’

    I chwarae yn 'Solo mode':

    • yn y lobi, cyn chwilio am rywun i chwarae gydag ef, chwiliwch am y blwch 'Fill matchmaking’
    • bydd hyn yn rhoi chwaraewyr mewn ciw unigol

    Bydd chwaraewyr unigol yn dal i orfod chwarae yn erbyn deuawdau a sgwadiau. Nid yw'r modd chwarae unigol ar gael yn y modd chwarae 'Ranked'.

    I chwarae Apex Legends gyda ffrindiau:

    • ewch i 'Your friends page' drwy'r lobi i weld eich rhestr o ffrindiau sy'n chwarae Apex Legends
    • yn eich 'Friends page', byddwch chi'n gallu gweld pa ffrindiau sy'n chwarae Apex Legends ar hyn o bryd
    • amlygwch nhw i ddewis rhwng 'Inviting them to your party’ neu ‘Joining their party’
    • bydd ymuno neu wahodd chwaraewr yn llwyddiannus yn dangos y lobi gyda chi a'ch ffrindiau. Yna byddwch chi’n gallu paru a dechrau gemau gyda'ch ffrindiau yn eich 'Squad’
  • Mae Apex Legends wedi'i gynllunio i gael ei chwarae fel gêm gydweithredol ac mae cyfathrebu yn y gêm yn cael ei annog, ond mae modd diffodd y swyddogaethau sgwrsio llais a thestun yng ngosodiadau'r gêm.

    I ddiffodd swyddogaethau sgwrsio llais a thestun yn y gêm:

    • ewch i'r ddewislen 'Settings'
    • dewiswch 'Audio’
    • trowch 'Voice chat volume' i 0
  • Gall defnyddwyr riportio a blocio defnyddwyr eraill a all fod yn eu poeni nhw neu'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform. Mae gan Apex Legends wahanol ffyrdd o riportio ymddygiad amhriodol yn dibynnu ar y platfform mae'r gêm yn cael ei chwarae arno. Gall chwaraewyr dawelu'r swyddogaeth sgwrsio yn y gêm er mwyn osgoi cam-drin geiriol neu iaith annerbyniol gan chwaraewyr eraill.

    I riportio chwaraewr yn y gêm:

    • mewn gêm, tapiwch y symbol 'Warning' yng nghornel chwith waelod y sgrin
    • dewiswch y chwaraewr rydych chi am ei riportio o dan 'Report player’
    • dewiswch gategori 'Report reason', yna defnyddiwch y symbol saeth i ddewis yr is-gategorïau ar gyfer yr adroddiad
    • ychwanegwch unrhyw nodiadau ychwanegol at y blwch testun a dewiswch 'Report’

    I riportio chwaraewr o'r brif ddewislen:

    • dewiswch eich avatar yn y gornel chwith uchaf a dewiswch 'History’
    • chwiliwch am y gêm rydych chi am ei riportio
    • dewiswch y symbol 'Warning' yng nghornel chwith waelod y sgrin
    • dewiswch y chwaraewr rydych chi am ei riportio o dan 'Report player’
    • dewiswch gategori 'Report reason', yna defnyddiwch y symbol saeth i ddewis yr is-gategorïau ar gyfer yr adroddiad
    • ychwanegwch unrhyw nodiadau ychwanegol at y blwch testun a dewiswch 'Report’

    I riportio chwaraewr yn y gêm (PC):

    • wrth chwarae gêm, defnyddiwch 'Tab' i weld y ddewislen
    • agorwch y tab 'Squad'
    • dewiswch y symbol 'Warning' o dan y chwaraewr rydych chi am ei riportio
    • dewiswch y categori yr hoffech chi ei riportio:
      • cheating
      • gameplay disruption
      • harassment/threats
      • inappropriate content
    • dewiswch yr is-gategori o'r gwymplen a dewiswch 'Report’

    Gall chwaraewyr PC riportio chwaraewyr am dwyllo hefyd drwy estyn allan i Kamu (gwasanaeth mae cyhoeddwr y gêm yn bartner ag ef i helpu i leihau twyllo) drwy ei wefan.

    I dawelu chwaraewr unigol mewn gêm:

    • agorwch eich rhestr eiddo yn ystod gêm
    • ewch i 'Settings’
    • dewiswch y tab 'Squad' o'r top
    • dewiswch yr eicon seinydd o dan chwaraewr i dawelu ei lais, testun neu ping
  • Nid oes gan gemau safonol Apex Legends osodiadau i helpu i reoli amser wrth chwarae. Nid oes gosodiadau yn yr ap i reoli beth y gallwch chi ei brynu, ond gallwch chi reoli beth rydych chi'n ei brynu yn yr ap drwy ddefnyddio gosodiadau'r ddyfais.

    I ddiffodd yr opsiwn i brynu pethau yn yr ap ar iOS:

    • ewch i 'Settings' > 'Screen time' a sgroliwch i lawr i ‘Content and privacy restrictions’
    • dewiswch 'iTunes and app store purchases' a gosodwch yr opsiwn i 'Don't allow’

    I ddiffodd yr opsiwn i brynu pethau yn yr ap ar Android:

    • ewch i'ch ap 'Google Play Store'
    • dewiswch 'Menu' > 'Settings' > ‘Require authentication for purchases’
  • Ni all defnyddwyr ddileu neu ddadactifadu eu cyfrif trwy Apex Legends yn unig. Er mwyn gwneud hyn, rhaid iddyn nhw ddileu neu ddadactifadu eu cyfrif EA Games yn gyfan gwbl. Yr unig ffordd o wneud hyn yw trwy gysylltu â chynghorydd EA Games sy’n gallu dileu neu ddadactifadu cyfrif defnyddiwr. Mae EA Games yn dweud nad oes modd dileu cyfrifon wedi’u gwahardd – hynny yw, cyfrif a gosbwyd am dorri amodau a thelerau EA Games – a bod angen apelio yn erbyn y gwaharddiad cyn mynd ati i ddileu.

    I ddadactifadu neu ddileu cyfrif:

    • dilynwch y ddolen hon i gysylltu â chynghorydd EA. Bydd angen i chi roi’ch enw cyntaf, eich cyfenw a’r cyfeiriad e-bost sy’n gysylltiedig â’r cyfrif
    • yn llinell pwnc y neges, ysgrifennwch ‘Delete my account’ i ddileu’ch cyfrif, neu ‘Deactivate my account’ i ddadactifadu
    • pwyswch ‘Send’
    • Bydd hyn yn cychwyn sgwrs gyda chynghorydd EA Games a fydd yn gallu cysylltu â chi i drafod eich opsiynau, yn dibynnu a ydych chi am ddileu neu ddadactifadu eich cyfrif

Gellir defnyddio rheolaethau rhieni ar gyfrifiaduron, consolau a dyfeisiau symudol i gyfyngu ar fynediad at gemau sydd â sgoriau oedran PEGI hyn. Gallai'r gosodiadau hyn ar ddyfeisiau ddarparu opsiynau hefyd ar gyfer cyfyngu ar ryngweithio'r chwaraewr â chwaraewyr ar-lein eraill, er y gallai hyn fod yn berthnasol i bob gêm yn hytrach nag i deitl penodol.

Yn ogystal â chwarae Apex Legends, mae rhai chwaraewyr yn cymryd rhan mewn fforymau trafod hefyd, yn creu a gwylio fideos YouTube o'r gêm yn cael ei chwarae neu chwaraewyr yn siarad am y gêm ac yn dilyn gêm sy'n cael ei ffrydio'n fyw ar Twitch. Hyd yn oed os nad yw plentyn yn chwarae Apex Legends, gallai fod yn cael mynediad at gynnwys yn y gêm yn anuniongyrchol drwy fideos neu ffrydiau byw a gynhyrchir gan chwaraewyr. Mae gan bob un o'r opsiynau hyn y potensial i wneud plant yn agored i iaith sy'n addas i oedolion a chynnwys sarhaus, yn ogystal â'r trais sy'n rhan annatod o'r gêm. Mae'r holl weithgareddau hyn y tu allan i'r gêm ei hun ac mae angen mesurau diogelwch ychwanegol i amddiffyn plant.

Mae gan EA Games dudalen benodol ar ei wefan ar gyfer adnoddau rhieni, sy’n cynnwys gwybodaeth am gadw’n ddiogel ar eu platfformau.