English

Gêm chwarae rôl rad ac am ddim yw Gacha Life lle gall chwaraewyr greu ac addasu eu cymeriadau ar ffurf anime eu hunain. Ar gyfer pob cymeriad mae chwaraewr yn ei greu, mae detholiad o opsiynau ar gael fel gwisgoedd ac ategolion ond hefyd ymddangosiad ac ystum ac osgo corff pob cymeriad. Mae chwaraewyr yn defnyddio'r cymeriadau maen nhw’n eu creu i greu golygfeydd ar gyfer stori fer. Mae casgliad o gemau ar gael i ddefnyddwyr eu chwarae o fewn yr ap, yn ogystal ag eitemau i’w prynu. Mae llawer o gemau eraill ar gael o fewn masnachfraint Gacha, ac mae gan Gacha Life ac is-setiau eraill Gacha ddilyniant enfawr ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill, fel YouTube a TikTok. Mae defnyddwyr yn gallu lanlwytho'r straeon sy'n cael eu creu mewn gêm Gacha Life i'r platfformau trydydd parti hyn. Un is-set Gacha Life sydd ar gael ar lwyfannau eraill yw Gacha Heat, sy'n cynnwys cymeriadau Gacha Life mewn fideos hynod amhriodol ac o natur rywiol.


Mae Gacha Life wedi cael sgôr oedran o 9+ gan Apple App Store ac 'Everyone' gan Google Play Store.

Er bod polisi preifatrwydd Gacha Life yn dweud “our service is not directed to children under the age of 13” nid yw'n cynnig sgôr oedran swyddogol ar gyfer y gêm.

Mae ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau’ yn cynnwys rhagor o fanylion am hyn.


Mae Gacha Life yn boblogaidd gyda phlant a rhai sydd ar fin cyrraedd eu harddegau, yn enwedig merched. Mae arddull anime'r gemau yn apelio'n weledol ac yn adlewyrchu arddull rhai gemau a rhaglenni teledu poblogaidd eraill a all fod yn gyfarwydd i chwaraewyr iau. Mae cynllun y platfform yn golygu ei bod hi'n hawdd i chwaraewyr iau ei ddefnyddio, gan weithio eu ffordd trwy opsiynau sydd wedi'u rhagosod i chwarae a chreu. Mae natur greadigol Gacha Life yn apelio at blant sy'n mwynhau chwarae rôl neu chwarae byd bach a hyd yn oed rhai sydd â diddordeb mewn animeiddio neu wneud ffilmiau byr. Mae'r gêm yn caniatáu i ddefnyddwyr greu eu straeon byrion eu hunain gan ddefnyddio set o gymeriadau, y mae rhai chwaraewyr yn dewis eu lanlwytho ar blatfformau fideo eraill.


  • Gair Japaneaidd sy'n cyfeirio at deganau bach y gellir eu prynu o beiriannau gwerthu yn Japan.

  • Arddull animeiddio ffilm a theledu Japaneaidd. Mae ffilmiau a rhaglenni anime poblogaidd yn cynnwys 'Pokemon' a 'Spirited Away’.

  • Cymeriadau nad ydyn nhw'n chwaraewyr (non-player characters). Cymeriadau sy'n cael eu gweithredu gan gyfrifiadur yw'r rhain yn hytrach na chael eu rheoli gan berson arall. Gall chwaraewyr Gacha Life ryngweithio a sgwrsio â'r cymeriadau hyn.

  • Cynnwys sy’n amlwg rywiol wedi'i greu gan ddefnyddwyr Gacha Life sy'n lanlwytho eu fideos i blatfformau eraill fel TikTok neu YouTube. Mae Gacha Heat yn peri cryn bryder gan fod y cynnwys yn aml yn dreisgar, yn cynnwys elfennau rhywiol iawn ac yn anaddas i wylwyr iau.

  • Dyma lle mae chwaraewyr yn gallu creu eu golygfeydd eu hunain o fewn y gêm ac ychwanegu testun at eu cymeriadau. Gall chwaraewyr gynnwys hyd at 8 cymeriad yn eu golygfa.

  • Gall chwaraewyr gyfuno hyd at 100 o olygfeydd gwahanol i greu sgetshis neu straeon gyda hyd at ddau gymeriad. Mae rhai chwaraewyr yn dewis lanlwytho eu sgetshis i blatfformau eraill fel YouTube a TikTok.

  • Yma, gall chwaraewyr archwilio ardaloedd a golygfeydd gwahanol o fewn y gêm gyda'u cymeriadau a chwrdd â chymeriadau NPC newydd a sgwrsio gyda nhw.

  • Mae nodwedd sgwrsio o fewn y gêm ar gael unwaith y bydd chwaraewyr yn cyrraedd lefel 10. Unwaith i chi gyrraedd y lefel yma, gallwch rannu golygfeydd, cymeriadau a sgetshis gyda chwaraewyr eraill ar y platfform. Er mwyn datblygu eich lefel, mae angen i chi chwarae yn y modd byw ('Live') a meithrin perthynas dda gyda chymeriadau NPC gwahanol.

  • O fewn y platfform mae 8 gêm fach y gall chwaraewyr roi cynnig arnynt er mwyn ennill gemau (tlysau) bach fel gwobr. Gellir defnyddio gemau i brynu 'Stamina' neu brynu anrhegion rhithwir i'w rhoi i gymeriadau NPC eraill yn y gêm.

  • Mae cymeriadau'n gallu rhedeg mas o stamina ar ôl rhai gweithgareddau. Er mwyn adennill eu nerth, gall chwaraewyr adael eu cymeriadau i eistedd yn llonydd neu brynu mwy o stamina gyda gemau.

  • Mae hyn yn cyfeirio at eistedd yn llonydd er mwyn cynyddu stamina.


Mae natur Gacha Life yn golygu bod pob golygfa a stori yn cael ei chynhyrchu gan ddefnyddwyr, felly mae'n gallu bod yn anodd cymedroli'r cynnwys a gynhyrchir. Mae rhyngweithio yn yr ap yn gyfyngedig tan lefel 10, a does dim modd defnyddio'r elfen sgwrsio tan hynny. Gallwch ddatgloi sgwrsio ar lefel 10. Fodd bynnag, mae gan Gacha Life gryn ddilyniant ar blatfformau eraill fel YouTube a TikTok, lle mae chwaraewyr yn lanlwytho sgetshis a grëwyd yn y gêm yn rheolaidd. Mae'r cyfoeth o gynnwys Gacha Life sydd ar gael ar y platfformau trydydd parti hyn yn helaeth ac amrywiol ei gynnwys. Dyw hi ddim yn anodd dod o hyd i gynnwys a grëwyd gan chwaraewyr sy'n defnyddio cymeriadau Gacha Life i adrodd straeon treisgar ac o natur rywiol iawn. Mae Gacha Heat yn is-set benodol o gynnwys a grëwyd gan ddefnyddwyr Gacha Life sydd o natur dreisgar a rhywiol iawn. Mae hyn yn peri risg sylweddol i chwaraewyr iau Gacha, oherwydd gallant weld y fideos hyn ar blatfformau eraill gan feddwl eu bod yn debyg i'r gêm Gacha Life. Dylai rhieni a gofalwyr oruchwylio chwaraewyr iau wrth chwarae neu chwilio am Gacha Life, a gwirio rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch yr apiau trydydd parti hyn i sicrhau nad yw gwylwyr iau yn gweld fideos Gacha amhriodol.

Mae Gacha Life yn caniatáu i chwaraewyr greu ac addasu eu cymeriadau ar ffurf anime eu hunain, o blith rhestr o nodweddion sydd wedi'u pennu ymlaen llaw. Er bod hyn yn rhan o'r hwyl a'r creadigrwydd i chwaraewyr, mae cryn bwyslais ar steil a delwedd ac mae llawer o'r nodweddion yn atgyfnerthu rhai stereoteipiau rhyw. I chwaraewyr iau, pwysleisiwch y ffaith mai cartwnau yw'r cymeriadau  hyn ac nad ydyn nhw'n adlewyrchu sut mae pobl yn ymddangos mewn bywyd go iawn.

Yn flaenorol, roedd ap Gacha Life yn caniatáu i bob chwaraewr sgwrsio a chysylltu â'i gilydd. Fodd bynnag, mae'r nodwedd hon wedi'i haddasu bellach fel mai dim ond chwaraewyr sy'n cyrraedd lefel 10 sy'n gallu dechrau sgwrsio gyda'i gilydd. Bu achosion lle'r oedd chwaraewyr yn gofyn i ddefnyddwyr iau gadarnhau eu hoedran ar y gêm drwy anfon lluniau noeth neu led-noeth o'u hunain i wirio eu hoedran. Os yw'ch plentyn yn gallu defnyddio elfen sgwrsio'r gêm, siaradwch â nhw am yr hyn sy'n dderbyniol i'w anfon mewn neges a'i atgoffa i siarad ag oedolyn dibynadwy os bydd rhywun yn gofyn iddo rannu llun ohono'i hun. Eglurwch pa mor bwysig yw peidio rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy gyda chwaraewyr eraill mewn sgwrs. Anogwch nhw i ddweud wrthych pan fydd rhywun yn gofyn cwestiynau mwy personol neu'n eu hannog i rannu lluniau neu gael sgwrs breifat ar ap arall.

Mae'r gêm yn cynnwys nifer o gymeriadau parod a elwir yn NPCs, sef cymeriadau nad ydynt yn chwaraewyr. Mae chwaraewyr yn gallu eu cynnwys yn y golygfeydd a'r sgetshis maen nhw'n eu gwneud. Er nad yw'r cymeriadau hyn yn cael eu rheoli gan berson arall, maen nhw wedi'u creu gan ddefnyddiwr arall. Mae'r gêm yn annog chwaraewyr i ddilyn crewyr cymeriadau NPC ar blatfformau eraill fel X (a elwir gynt yn ‘Twitter’), Instagram a YouTube ac yn gwahodd chwaraewyr i 'Join the community' ar brif dudalen y gêm. Fel y soniwyd uchod, mae cymuned Gacha yn enfawr a dyw'r holl gynnwys sy'n cael ei rannu ar apiau trydydd parti ddim yn addas i ddefnyddwyr iau. Dylech gadw llygad ar eich plentyn pan mae'n defnyddio'r ap i sicrhau nad yw'n dilyn y dolenni i blatfformau eraill lle gall ryngweithio â phobl eraill.

Un o beryglon allweddol gêm Gacha Life yw'r cynnwys sy'n cael ei rannu ar apiau trydydd parti. Fel gydag unrhyw gynnwys y mae modd ei rannu, mae angen i ddefnyddwyr fod yn ymwybodol o effaith rhannu cynnwys ar eu hôl troed digidol a’i effaith ar wylwyr eraill. Gan fod y gêm yn caniatáu i ddefnyddwyr greu eu golygfeydd a'u sgetshis eu hunain, mae rhai chwaraewyr wedi defnyddio hyn fel llwyfan i greu a rhannu cynnwys hynod amhriodol a sarhaus, sy'n gallu cynhyrfu a pheri gofid i rai gwylwyr iau.  Siaradwch â'ch plentyn i'w helpu i ddeall beth sy'n addas a ddim yn addas i'w rannu, a thrafodwch y ffyrdd gwahanol o amddiffyn ei hun drwy rannu pethau mewn fforymau preifat yn hytrach na rhai cyhoeddus. Gwnewch yn siwr fod eich plentyn yn gwybod y gall fod yn anodd rheoli unrhyw gynnwys unwaith y bydd wedi'i rannu ar-lein, gan ei fod yn hawdd i rywun arall ei gopïo a'i ailbostio heb yn wybod iddo, ac y gall fod yn anodd ei dynnu oddi ar y we wedyn.

Fel y rhan fwyaf o gemau ar-lein rhad ac am ddim, mae cyfleoedd i chwaraewyr brynu eitemau mewn gemau yn y tab 'Shop', lle mae angen i chwaraewyr roi manylion banc i brynu pecynnau uwchraddio. Er nad yw'r rhain yn gwella'r gêm, maen nhw'n hynod apelgar fodd bynnag. Siaradwch â'ch plentyn am brynu eitemau mewn apiau, a  gwnewch yn siwr ei fod yn deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i brynu eitemau sydd yn y gêm. Dylai rhieni a gofalwyr bennu gosodiadau prynu eitemau mewn apiau ar ddyfeisiau unigol. Hefyd, mae'n hollbwysig gwirio nad yw'r gêm wedi'i chysylltu â'ch cardiau banc na'ch manylion ariannol chi.

Fel llawer o gemau ar-lein eraill, gall fod yn anodd i blant reoli faint o amser maen nhw'n ei dreulio ar y platfform. Mae gan Gacha Life gyfleoedd amrywiol i gamu ymlaen trwy lefelau a chasglu anrhegion a chymeriadau, gyda rhai ohonyn nhw'n datgloi wrth i chi symud o lefel i lefel. Gyda'ch plentyn, trafodwch y ffaith fod gemau wedi'u cynllunio i gadw defnyddwyr i chwarae ac ewch ati i osod terfynau amser chwarae'r gêm i sicrhau ei fod yn cael seibiant addas o'r sgrin.

Fel llawer o gemau ar-lein am ddim, mae llawer iawn o hysbysebion naid yn ymddangos wrth chwarae. Mae hysbysebion naid yn gallu amharu ar y gêm ac efallai'n cynnwys nwyddau anaddas i chwaraewyr iau. Does dim modd analluogi hysbysebion o'r gêm, felly dywedwch wrth eich plentyn i bwyso ar y symbol croes i ddileu'r hysbyseb unwaith y mae'n dechrau ymddangos, ac i ddweud wrthych os yw'n gweld unrhyw beth sy'n peri gofid.


  • Gan nad oes angen i chi gofrestru na sefydlu cyfrif i chwarae Gacha Life, nid oes unrhyw osodiadau preifatrwydd. Chwiliwch am osodiadau rheolaethau rhieni ar eich dyfeisiau unigol a'ch gwasanaeth band eang, a allai’ch galluogi i roi hidlwyr a blociau ar waith.

  • Gan nad oes angen cofrestru nac agor cyfrif i chwarae Gacha Life, mae'n anodd rheoli'r rhyngweithio a’r cynnwys. Chwiliwch am osodiadau rheolaethau rhieni ar eich dyfeisiau unigol a'ch gwasanaeth band eang, a allai’ch galluogi i roi hidlwyr a blociau ar waith.

  • Nid oes unrhyw swyddogaethau riportio na blocio yn rhan o'r ap.

  • Er bod y gêm hon yn rhad ac am ddim i'w chwarae, mae modd prynu eitemau mewn gemau. Gallwch analluogi'r opsiwn i brynu eitemau mewn apiau ar bob dyfais unigol.

    Analluogi'r opsiwn prynu eitemau mewn apiau ar iOS:

    • Ewch i ‘Settings’ > ‘Screen time’ a sgrolio i lawr i ‘Content and privacy restrictions’.
    • Dewiswch ‘iTunes and App Store purchases’ ac yna'r opsiwn ‘Don’t allow’.

    Analluogi'r opsiwn prynu mewn apiau ar Android:

    • Ewch i'ch ap Google Play Store.
    • Dewiswch ‘Menu’ > ‘Settings’ > ‘Require authentication for purchases’.
  • Gan nad oes angen cyfrif i chwarae Gacha Life, nid oes ganddo broses ddileu neu ddadactifadu ar hyn o bryd.


Mae Gacha Life yn un o nifer o gemau Gacha o fewn y fasnachfraint. Fel y soniwyd uchod, dylai rhieni a gofalwyr fod yn ymwybodol o gymuned ehangach Gacha a'r dilyniant enfawr drwy apiau trydydd parti. Mae'r risgiau a'r gosodiadau sydd yn y canllawiau hyn yn berthnasol i gêm Gacha Life yn unig. Gall preifatrwydd, rhyngweithedd a gosodiadau fod yn wahanol ar gemau gwahanol Gacha.

Os oes gan eich plentyn ddiddordeb arbennig mewn Gacha Life, cofiwch wirio'r gosodiadau diogelwch a'r rheolaethau rhieni ar apiau eraill fel YouTube, er mwyn sicrhau nad yw'ch plentyn yn gweld cynnwys Gacha sy'n anaddas i'w oed a'i gam datblygu.