English

Gêm gyfrifiadurol ar-lein yw Minecraft lle gall chwaraewyr greu, adeiladu a goroesi yn eu bydoedd dychmygus eu hunain. Mae Minecraft, sy'n cael ei alw'n 'LEGO rhithwir' yn aml, yn caniatáu i chwaraewyr ddefnyddio blociau i adeiladu eitemau o hanfodion bob dydd fel cynwysyddion ac offer llaw, i strwythurau fel tai a chestyll, oll o fewn byd y gêm. Law yn llaw ag adeiladu, gall chwaraewyr gloddio am fwynau, brwydro yn erbyn creaduriaid gelyniaethus a chreu blociau ac offer newydd drwy gasglu adnoddau gwahanol yn y gêm hefyd. Mae planhigion, angenfilod a nwyddau i'w cael hefyd yn ogystal â blociau. Mae'r gêm wedi'i rhannu'n elfennau gwahanol - goroesi a chreadigol - a gellir ei chwarae naill ai fel chwaraewr unigol neu aml-chwaraewr.  Mae Minecraft yn gêm hynod boblogaidd ledled y byd gyda dros 200 miliwn o ddefnyddwyr misol. Er bod y gêm ei hun yn boblogaidd, mae yna gymuned Minecraft enfawr ar blatfformau eraill fel YouTube hefyd. Mae'r gêm ar gael ar y rhan fwyaf o ddyfeisiau, cyfrifiaduron a chonsolau, ond mae fersiynau gwahanol ar gael ar blatfformau gwahanol. Minecraft Bedrock yw'r fersiwn a chwaraeir ar gonsolau, dyfeisiau symudol a Windows 10 ac uwch, tra bod fersiwn Minecraft Java ar gael ar gyfer PC a Mac. Dyw chwaraewyr ar Java ddim yn gallu chwarae gyda chwaraewyr ar Bedrock.


Mae gan Minecraft sgôr oedran o 7 ar PEGI.

Mae wedi cael sgôr oedran o 9+ ar yr Apple App Store ac 'Everyone 10+' ar Google Play Store.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau’.


Mae'r gêm hon yn apelio at blant a phobl ifanc gan fod ganddyn nhw'r rhyddid i grwydro ac adeiladu heb gyfyngiadau. O adeiladu cartrefi i fwyngloddio ac ymladd, gall plant lywio a chreu eu byd personol eu hunain. Mae Minecraft yn apelio at bobl ifanc hefyd gan ei bod yn caniatáu iddyn nhw feddwl yn greadigol a datblygu eu sgiliau datrys problemau.

Mae'r modd goroesi’n cynnwys nodweddion gemau fideo mwy traddodiadol. Mae gan chwaraewr fariau iechyd a llwglyd a bydd angen iddyn nhw gasglu adnoddau a brwydro yn erbyn eu gelynion er mwyn goroesi.  Gall hyn fod yn gyffrous i chwaraewyr iau. 

Gall defnyddwyr chwarae gyda'u ffrindiau ar fodd aml-chwaraewr hefyd a chydweithio i adeiladu eu bydoedd eu hunain. Mae llawer o blant yn mwynhau bod yn rhan o gymuned Minecraft hefyd, a gwylio eraill yn chwarae'r gêm ar YouTube.


  • Yma gall defnyddwyr greu eu byd eu hunain drwy adeiladu, hela, a mwyngloddio heb fygythiad ymosodiad. Dyma'r modd a argymhellir ar gyfer chwaraewyr iau.

  • Fersiwn o Minecraft yw hon a gynlluniwyd ar gyfer addysg yn y dosbarth. Mae Education Edition yn caniatáu i athrawon gynnig gwers hwyliog a rhyngweithiol i'w myfyrwyr drwy chwarae gêm Minecraft. Gall athrawon gysylltu plant â'u cyd-ddisgyblion yn y fersiwn hon o'r gêm.

  • Mae chwaraewyr yn casglu adnoddau ac yn adeiladu wrth orfod goroesi a symud ymlaen yn y gêm.

  • Yma gall chwaraewyr ymweld â bydoedd eraill a grëwyd gan chwaraewyr eraill Minecraft. Modd amlchwaraewr yw hwn.

  • Lle gall defnyddwyr greu a chwarae mewn byd gyda'u ffrindiau a chwaraewyr eraill o fewn y gêm.

  • Mae chwaraewyr yn defnyddio'r deunydd hwn i adeiladu a  saernïo yn y gêm.

  • Eitemau sydd eu hangen ar ddefnyddwyr i helpu i adeiladu, hela a mwyngloddio. Gall y rhain gynnwys ceibiau, rhawiau a gwelleifiau, ymhlith pethau eraill.

  • Symudiadau y gall chwaraewr eu gwneud yn Minecraft yw’r rhain.

  • Mae hyn (bïomau) yn cyfeirio at ranbarthau/ardaloedd o dir ym myd Minecraft lle gall chwaraewyr adeiladu. Mae pob bïom yn cynnwys nodweddion daearyddol penodol, gan gynnwys anialwch, jyngl a choedwig.

  • Cymeriadau yw’r rhain sy'n gallu niweidio byd drwy ffrwydro.

  • Dyma pryd mae chwaraewyr yn archwilio ogofâu i gloddio am adnoddau.

  • Cymeriadau sy'n dod allan ac yn ymosod ar chwaraewyr yn ystod y nos neu mewn llefydd tywyll yn y gêm

  • Dyma'r system negeseuon yn y gêm lle gall chwaraewyr gyfathrebu â'i gilydd neu roi gorchmynion.

  • Nodweddion datblygedig sy'n cael eu gweithredu drwy deipio rhai llinynnau o destun, yw gorchmynion. Er enghraifft, bydd '/tp' yn caniatáu i chwaraewr delegludo o un lle i'r llall yn y gêm. Mae chwaraewyr yn defnyddio'r eicon / i agor dewislen 'Commands' yn yr opsiwn sgwrsio.

  • Dyma fydoedd eraill y gall chwaraewyr chwarae ynddyn nhw. Maen nhw'n cael eu creu gan bartneriaid swyddogol Minecraft o gymuned Minecraft.

  • Mae'r nodwedd hon yn helpu defnyddwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau yn y gêm drwy osod heriau i'w cwblhau. Dim ond yn y modd goroesi y gellir defnyddio'r nodwedd hon.

  • Arian cyfred yn y gêm y gellir ei ddefnyddio i brynu eitemau ac ychwanegiadau o farchnad Minecraft. Dylid nodi mai rhywbeth dewisol yw'r ychwanegiadau, a does dim rhaid eu cael i chwarae'r gêm. 

  • Siop y gêm lle gall defnyddwyr brynu eitemau a nodweddion gyda'u 'Minecoins’. Mae'r eitemau i'w prynu’n gallu cynnwys  'Worlds', 'Skins' a 'Texture packs’.

  • Gweinyddion amlchwaraewr preifat yw’r rhain, sydd ar gael trwy wahoddiad yn unig gan y crëwr. Mae nifer y gwahoddiadau mae’r crëwr yn gallu eu creu yn dibynnu ar ei gynllun tanysgrifio.


Mae sgôr PEGI 7 yn awgrymu bod Minecraft yn addas ar gyfer chwaraewyr o’r oedran hwn ac uwch ac nad yw'n cynnwys unrhyw elfennau anaddas i chwaraewyr ifanc. Mae'r gêm yn cynnwys trais ysgafn, ond mae graffeg picseledig y gêm yn ei gwneud hi'n afrealistig ac mae'r gelynion a chreaduriaid eraill yn diflannu'n sydyn ar ôl cael eu trechu. Er bod chwaraewyr yn gallu lladd anifeiliaid i gael bwyd yn y gêm hefyd, nid yw hyn yn ymddangos mewn ffordd graffig, gyda'r anifail yn troi'n fwyd ar ôl cael ei ladd. Mae'r gêm yn cynnwys deunyddiau ac arfau fel ceibiau a chleddyfau, ond unwaith eto maen nhw'n debyg i flociau o ran dyluniad ac yn afrealistig yr olwg. Er bod gan y gêm sgôr oedran awgrymedig, does dim sgôr ar gyfer unrhyw gynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, fel y testun yn y swyddogaeth sgwrsio (Chat). Mae chwaraewyr yn derbyn neges o rybudd cyn chwarae i'w hatgoffa nad yw cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr wedi'i sgorio, ac efallai nad yw’n addas i bob oed.  Er mwyn lleihau'r risg o ddod i gysylltiad â chynnwys anaddas yn y swyddogaeth sgwrsio, argymhellir bod eich plentyn yn chwarae gyda ffrindiau’n unig. Drwy gyfyngu ar bwy mae'ch plentyn yn dod i gysylltiad â nhw ar y platfform bydd eich plentyn yn llai tebygol o ddod ar draws iaith neu ymddygiad anaddas i'w oedran. Fodd bynnag, cofiwch y gallai'ch plentyn fod yn agored i gynnwys amhriodol o hyd gan ei gysylltiadau hysbys.

Mae Minecraft yn gêm hynod boblogaidd ledled y byd ac mae ganddi gymuned gref o ddilynwyr y tu allan i'r gêm. Mae llawer o gefnogwyr Minecraft yn mwynhau gwylio chwaraewyr eraill ar lwyfannau fel YouTube a Twitch hefyd. Er bod gan Minecraft sgôr PEGI 7, nid yw’n berthnasol i gynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, felly dyw'r iaith sy'n cael ei defnyddio yn ystod ffrydiau chwarae byw a'r swyddogaethau sylwadau ar blatfformau eraill ddim yn cael eu sgorio. Os yw'ch plentyn yn mwynhau gwylio ffrydiau byw Minecraft, gwiriwch osodiadau'r apiau eraill i'w atal rhag gweld cynnwys anaddas i'w oedran neu ei gam datblygu.

Mae modd chwarae Minecraft fel chwaraewr unigol neu fodd amlchwaraewyr, sy'n golygu y gallai'ch plentyn fod yn chwarae gyda phobl ddieithr. Pan fydd defnyddwyr yn creu 'Byd' yn Minecraft, maen nhw'n gallu rheoli eu gosodiadau amlchwaraewr, gan ddewis o blith 'Invite only', 'Friends only' a 'Friends of friends’. Os yw'ch plentyn eisiau chwarae ar weinydd amlchwaraewr, argymhellir ei fod yn chwarae gyda rhai y mae'n eu hadnabod, trwy ddewis naill ai 'Invite only' neu 'Friends only'. Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn yn adran 'Rheoli rhyngweithio a chynnwys' y canllawiau hyn.  Atgoffwch eich plentyn i beidio â derbyn gwahoddiad chwarae gan rywun nad yw'n ei adnabod nac yn ymddiried ynddo mewn bywyd go iawn. Siaradwch â'ch plentyn am beryglon sgwrsio gyda dieithriaid ac egluro pwysigrwydd peidio rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy gyda chwaraewyr eraill mewn sgyrsiau. Anogwch nhw i ddweud wrthych chi os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau personol iddyn nhw neu os ydyn nhw wedi profi unrhyw beth sy'n peri gofid mewn sgyrsiau.

Er nad yw sgwrs llais ar gael yn Minecraft, mae'n werth nodi bod rhai chwaraewyr yn defnyddio apiau sgwrsio trydydd parti fel Discord neu wefannau fel Zoom i sgwrsio wrth chwarae. Gofynnwch i'ch plentyn os yw'n defnyddio unrhyw apiau sgwrsio ychwanegol wrth chwarae a gwirio gyda phwy mae'n cyfathrebu. Er bod sgwrsio’n rhan apelgar o chwarae gemau, mae'n werth cofio nad yw'n hanfodol i chwarae.  

Mae gan Minecraft ei safonau cymunedol ei hun, ac anogir chwaraewyr i'w dilyn wrth ryngweithio â'i gilydd a'r gêm, er mwyn sicrhau profiad chwarae diogel a chynhwysol i bawb. Dylen nhw ddefnyddio'r botymau riportio a blocio os ydyn nhw'n dod ar draws ymddygiad sy'n mynd yn groes i'r canllawiau hyn. Trafodwch ystyr ymddygiad priodol gyda'ch plentyn mewn gêm amlchwaraewr a sicrhau ei fod yn gwybod sut i riportio ymddygiad amhriodol neu sarhaus. Mae gwybodaeth am sut i wneud hyn yn adran 'Cwyno a blocio' y canllaw hwn. Hefyd, dylai chwaraewyr sy'n defnyddio'r nodwedd 'Chat' gofio beth sy'n addas a ddim yn addas i'w bostio mewn sgyrsiau a thrafod y dulliau gwahanol o ddiogelu eu hunain trwy chwarae gemau preifat yn hytrach na rhai cyhoeddus. Gwnewch yn siwr bod eich plentyn yn gwybod y gall fod yn anodd cadw perchnogaeth ar unrhyw gynnwys ar ôl ei rannu ar-lein, oherwydd mae’n hawdd copïo ac ailbostio cynnwys heb yn wybod iddo, a gall fod yn anodd ei ddileu o'r rhyngrwyd wedyn.

Ap chwarae am dâl yw Minecraft, y gellir ei chwarae ar wahanol ddyfeisiau a chonsolau. Fel llawer o gemau ar-lein eraill, mae chwaraewyr yn gallu prynu eitemau yn Minecraft. Gan ddefnyddio arian cyfred y gêm, sef 'Minecoins', gall chwaraewyr brynu ychwanegiadau a phecynnau gwahanol yn Minecraft Marketplace. Cofiwch nad yw'r pethau hyn y gellir eu prynu  o fudd wrth chwarae'r gêm, ond y gallant fod yn hynod apelgar i chwaraewyr.  Siaradwch â'ch plentyn am brynu pethau mewn apiau i gadarnhau ei fod yn deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i brynu pethau yn y gêm. Gallwch osod gosodiadau prynu mewn gemau ar y ddyfais ei hun neu roi'r gosodiadau angenrheidiol eich hun oes gan eich plentyn ei gyfrif ei hun fel rhan o gyfrif teuluol cysylltiedig.

Mae gan Minecraft farchnad enfawr hefyd gyda llawer o nwyddau ar gael o siopau gwahanol.


  • Pan fyddwch chi'n lawrlwytho'r gêm am y tro cyntaf, mae'n ofynnol i chi sefydlu proffil Xbox. Yma gallwch wneud newidiadau i'r gosodiadau preifatrwydd ar gyfer y cyfrif hwnnw.

    Rheoli proffil Xbox:

    • Mewngofnodwch i'r cyfrif Xbox a dewis 'Profile’.
    • Dewiswch ‘Privacy settings’ a sgrolio i ‘Privacy and online safety’.
    • Ewch drwy'r rhestr o opsiynau a thoglo'r opsiynau mwyaf addas i'ch plentyn (switsio ymlaen ac i ffwrdd).
  • I chwaraewyr iau, argymhellir eu bod yn chwarae yn y modd 'Creative' ac yn diffodd yr opsiwn amlchwaraewr, yn hytrach na rhyngweithio ag eraill. Gallent chwarae Minecraft Education Edition hefyd sydd ar gael ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru trwy Hwb. 

    I ddewis y modd ‘Creative’:

    • Ar ôl mynd i mewn i'r gêm, dewiswch yr opsiwn 'Create new'.
    • Dewiswch 'Create new world'.
    • Ewch i'r ddewislen ‘Default game mode’ a dewis ‘Creative’ o'r naidlen.

    I reoli gosodiadau amlchwaraewr:

    • Ewch i'r byd rydych chi am ei reoli a dewis yr eicon golygu (edit) wrth ymyl y byd hwnnw.
    • Sgroliwch i 'Multiplayer' a thoglo ymlaen neu i ffwrdd (on/off) fel bo'r angen.
    • O dan hynny wedyn, dewiswch y gwymplen ‘Microsoft account settings’.
    • Dewiswch o blith:
      • Invite only
      • Friends only
      • Friends of friends
    • DS: peidiwch â dewis yr opsiwn 'Friends of friends' ar gyfer chwaraewyr iau.

    I ychwanegu ffrind:

    • Wrth lansio'r ap, dewiswch y tab 'Friends' a dewis 'Add friend’.
    • Rhowch dag chwaraewr eich ffrind yn y blwch ac anfonwch gais rhannu gêm.

    Rheoli 'Chat':

    • Mewn gêm aml-chwaraewr, oedwch y gêm rydych chi'n ei chwarae trwy ddewis yr eicon 'pause'.
    • Dewiswch 'Settings' ac ewch i 'Accessibility’.
    • Diffoddwch y togl ‘Enable open chat message’.

    I dewi defnyddiwr:

    • Oedwch y gêm rydych chi’n ei chwarae.
    • Chwiliwch am y defnyddiwr rydych chi am ei dewi, a dewis tag gêm y defnyddiwr hwnnw.
    • Dewiswch yr opsiwn 'Mute'.
  • Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr eraill sy'n eu poeni neu sy'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I flocio neu gwyno am ddefnyddiwr:

    • Oedwch y gêm rydych chi’n ei chwarae.
    • Chwiliwch am y defnyddiwr dan sylw a dewis ei tag gêm.
    • Dewiswch yr opsiwn 'Report or block'.
  • Er bod y gêm hon am ddim i'w chwarae, mae modd prynu eitemau yn y gêm. Gallwch analluogi pryniannau yn yr ap ar bob dyfais unigol.

    I analluogi pryniannau mewn apiau ar iOS:

    • Ewch i ‘Settings’ > ‘Screen time’ a sgrolio i lawr i ‘Content and privacy restrictions’.
    • Dewiswch ‘iTunes and App Store purchases’ a newid yr opsiwn i ‘Don’t allow’.

    I analluogi pryniannau mewn apiau ar Android:

    • Ewch i'ch ap Google Play Store.
    • Dewiswch ‘Menu’ > ‘Settings’ > ‘Require authentication for purchases’.
  • Gan fod angen cyfrif Microsoft ar gyfer Minecraft, mae dileu cyfrif Minecraft yn golygu dileu cyfrif Microsoft. Dylai defnyddwyr sydd am ddileu eu cyfrif Minecraft ddilyn proses dileu cyfrif Microsoft

    Bydd cyfrif Microsoft yn cau ar ôl cyfnod o ddadactifadu gan y defnyddiwr. Gall hyn fod am naill ai 30 neu 60 diwrnod, lle bydd gan ddefnyddiwr gyfnod o amser i ailactifadu ei gyfrif os yw’n newid ei feddwl am gau ei gyfrif. Yn dibynnu ar reswm yr unigolyn dros ddefnyddio ei gyfrif Microsoft, gallai dileu cyfrif gael effaith bellgyrhaeddol fel dileu ffeiliau OneDrive hefyd, yn ogystal â data Xbox Live a tag chwarae gemau, Skype, ac unrhyw drwyddedau Microsoft Office neu dystysgrifau Microsoft.

    Hefyd, mae Microsoft yn argymell bod defnyddwyr yn sicrhau eu bod yn canslo unrhyw wasanaethau tanysgrifio cyn dileu cyfrif.

    I gau eich cyfrif Microsoft:

    • Cliciwch ar y ddolen hon i fynd i ‘Close your account’.
    • Ewch ati i fewngofnodi neu ddilysu eich bod wedi cofrestru i’ch cyfrif fel y bo’r angen. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cau’r cyfrif Microsoft cywir.
    • Dewiswch ‘Next’.
    • Darllenwch y wybodaeth am gau cyfrif Microsoft a thicio’r bocsys i gadarnhau eich bod wedi darllen popeth.
    • Dewiswch y cyfnod ar gyfer ailactifadu’r cyfrif, sef naill ai 30 diwrnod neu 60 diwrnod.
    • Dewiswch eich rheswm dros ddileu’r cyfrif.
    • Dewiswch ‘Mark account for closure’.

Er bod gan ap Minecraft ei ddetholiad ei hun o osodiadau, gallwch alluogi rheolaethau rhieni ar gyfer y gêm os ydych chi'n creu cyfrif teuluol gan ddefnyddio apiau ychwanegol. E.e. Os yw'ch plentyn yn defnyddio consol Xbox, mae gan Xbox eu ap Family Settings app eu hunain, lle gall rhieni osod rheolaethau rhieni fel cyfyngu ar amser sgrin a hidlyddion cynnwys. Mae gan Microsoft ap Family Safety app hefyd, y gellir ei ddefnyddio i reoli profiad eich plentyn o chwarae gêm Minecraft.

Mae Minecraft Education Edition ar gael i blant a phobl ifanc mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru drwy Hwb.