English

Gwefan newyddion cymdeithasol yw Reddit lle gall defnyddwyr bostio am eu diddordebau ac ymuno â chymunedau sydd â diddordebau tebyg i'w rhai nhw. Mae'r platfform Reddit fel fforwm o syniadau, lle mae defnyddwyr yn cael eu hannog i greu a rhannu eu cynnwys eu hunain, yn ogystal ag ymateb, gwobrwyo a phleidleisio ar y cynnwys a wnaed gan eraill. Mae'r postiadau sy'n cael eu hoffi fwyaf yn dod yn fwy poblogaidd ar yr ap. Mae'r cymunedau 'Subreddit' sydd ar gael i'w dilyn yn enfawr a'u nod yw helpu defnyddwyr i ddod o hyd i unigolion o'r un anian ar y platfform. Fodd bynnag, mae yna gynnwys sydd ond yn addas i oedolion hefyd, gydag ymwadiad NSFW ('not safe for work') ynghlwm â'r postiadau hyn. Mae ap a gwefan Reddit yn hynod boblogaidd, gyda thua 1.5 biliwn o ddefnyddwyr gweithredol. Mae'r ap ar gael ar iOS ac Android.


Y sgôr oedran isaf ar gyfer defnyddwyr Reddit yw 13, ond nid oes gan yr ap unrhyw ddulliau gwirio oedran trylwyr.

Mae wedi cael sgôr oedran o 17+ ar yr Apple App Store a 'Mature 17+' ar Google Play Store.

Mae ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau’ yn cynnwys rhagor o fanylion am hyn.


Mae Reddit yn apelio at bobl ifanc gan fod yr ap yn dod o hyd i gymuned i ddefnyddwyr ymuno â hi yn awtomatig ar sail y diddordebau maen nhw'n eu nodi pan fyddan nhw'n lawrlwytho'r ap am y tro cyntaf. Mae hyn yn gwneud i ddefnyddwyr deimlo bod croeso iddyn nhw ar unwaith, gan eu bod yn gallu cysylltu â phobl o'r un anian. Drwy ymuno â 'Subreddits' mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddyn nhw, darperir ffrwd bersonol i ddefnyddwyr. Fel fforwm ar-lein, mae defnyddwyr yn cael cyfle i bleidleisio ar bostiadau i ddweud os oedden nhw'n eu hoffi neu beidio a rhoi sylwadau i fynegi barn. Yn aml mae Reddit yn apelio at bobl ifanc gan ei fod yn gyfrwng cymdeithasol gwahanol iawn.


  • Math o gymuned ar y llwyfan sy'n canolbwyntio ar bwnc penodol.

  • Dyma'r cynnwys mae defnyddwyr yn ei rannu ar y platfform. Gall postiadau fod yn destun, delweddau, fideos, arolygon barn, sain a dolenni. Mae opsiwn i bostio cynnwys byw hefyd.

  • Dyma'r brif dudalen sy'n cynnwys postiadau o'r gwahanol gymunedau maen nhw'n eu dilyn.

  • Tudalen bori sy'n cynnwys postiadau poblogaidd o bob rhan o Reddit. Gellir didoli postiadau yn ôl categori, gan gynnwys 'Hot', 'New', 'Top', 'Controversial' a 'Rising’.

  • Hidlyddion y gellir eu cymhwyso i ddidoli'r hyn sy'n ymddangos ar y dudalen hafan.

  • Mae hyn yn golygu 'Not safe for work' fel bod defnyddwyr yn gwybod pa gynnwys y dylid edrych arno yn breifat. Nid yw cynnwys â label NSFW yn addas i ddefnyddwyr o dan 18 oed.

  • Lle gall defnyddwyr adael sylw ar y postiadau maen nhw'n eu gweld.

  • Mae'r swyddogaeth hon yn galluogi defnyddwyr i sgwrsio'n breifat.

  • Lle gall defnyddwyr dderbyn diweddariadau ar gymunedau ac unrhyw negeseuon maen nhw wedi'u derbyn.

  • Sgyrsiau sain byw rhwng defnyddwyr.

  • Mae hwn yn wasanaeth tanysgrifio am dâl sy'n galluogi defnyddwyr i ddefnyddio'r ap heb hysbysebion.

  • Gall defnyddwyr brynu'r rhain i wobrwyo postiadau a sylwadau.

  • Pwyntiau yn yr ap a enillir bob tro rydych chi'n postio cynnwys neu sylwadau.

  • Os yw defnyddiwr yn hoffi postiad neu sylw’n fawr, gall wobrwyo'r postiwr gwreiddiol (OP) am ei gynnwys. Mae yna wobrau efydd, arian ac aur y gellir eu prynu gan ddefnyddio arian go iawn.

  • Tag cynnwys yw hwn, sy’n cael ei osod gan y sawl a bostiodd y cynnwys fel arfer. Bydd y tagiau hyn yn amrywio yn ôl subreddits.

  • Gall defnyddwyr bleidleisio dros y cynnwys maen nhw'n ei weld. Gall defnyddwyr bleidleisio 'Up' os oedden nhw'n hoffi postiad a 'Down' os nad oedden nhw'n ei hoffi.

  • Mae hyn yn galluogi defnyddwyr i beidio â derbyn hysbysiadau neu awgrymiadau ar gyfer cymunedau eraill ar sail eu dewisiadau. Gall hyn helpu i leihau cysylltiad â rhai subreddits sydd â chynnwys niweidiol o bosibl.


Platfform cyfryngau cymdeithasol yw Reddit lle gall defnyddwyr ddewis y math o gynnwys maen nhw am ei ddilyn yn seiliedig ar themâu, a elwir yn 'Subreddits’. Pan fydd defnyddwyr yn lawrlwytho'r ap am y tro cyntaf, gofynnir iddyn nhw ddewis pa 'Subreddits' mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddyn nhw, sydd wedyn yn sail i 'Front Page' defnyddiwr. Mae amrywiaeth eang o gymunedau ar gael ar y platfform, yn amrywio o hobïau a diddordebau i ddelfrydau ac agendâu gwleidyddol. Mae yna gymunedau penodol ar gyfer defnyddwyr yn eu harddegau ar y platfform hefyd, gyda chynnwys a thrafodaethau sy'n berthnasol iddyn nhw. Mae angen i ddefnyddwyr ddewis y cymunedau maen nhw'n eu dilyn yn ofalus, gan sicrhau bod ganddyn nhw gydbwysedd yn y cynnwys maen nhw'n agored iddo. Drwy ddilyn 'Subreddits' ar gyfer agenda benodol yn unig, gall defnyddwyr fod mewn perygl o fod yn agored i wybodaeth "mewn gwactod", sy'n golygu nad ydyn nhw'n edrych ar bwnc o bob ongl a safbwynt, sy'n gallu ystumio eu ffordd o feddwl. Siaradwch â'ch plentyn am gamwybodaeth a chasineb ar-lein ac anogwch ef i adolygu'r 'Subreddits' mae wedi'u dewis yn aml, gan ofyn iddo feddwl yn feirniadol am gydbwysedd y dadleuon mae’n eu gweld.

Er bod llawer o gynnwys ar y platfform yn addas ar gyfer unrhyw ddefnyddwyr, mae rhywfaint o gynnwys nad yw'n addas ar gyfer defnyddwyr iau. Nid yw cynnwys sydd â'r tag 'NSFW' yn addas i ddefnyddwyr o dan 18 oed. Mae cynnwys i oedolion ar Reddit. Cyn ei weld, gofynnir i ddefnyddwyr gadarnhau eu hoedran cyn cael mynediad. Fodd bynnag, nid oes dulliau gwirio oedran trylwyr ar waith i sicrhau bod defnyddwyr dros 18 oed. Atgoffwch eich plentyn i siarad â chi os yw wedi gweld cynnwys sydd wedi peri gofid iddo.

Mae risg o ddod i gysylltiad â dieithriaid ar Reddit. Gan fod defnyddwyr yn dewis dilyn gwahanol gymunedau ar y platfform, maen nhw'n cael eu grwpio'n awtomatig gyda defnyddwyr eraill sydd â'r un diddordebau. Gall y diddordeb cyffredin hwn ei gwneud hi'n haws i ddieithriaid gysylltu a ffurfio perthynas â defnyddwyr eraill ar y platfform, drwy'r swyddogaethau sylwadau a sgwrsio ar Reddit. Fel gyda phlatfformau eraill, gall drwgweithredwyr ddefnyddio bregusrwydd plant a phobl ifanc ar y platfformau hyn i roi canmoliaeth iddyn nhw a sefydlu cysylltiad i gychwyn negeseuon preifat ar y platfform hwn, neu blatfformau eraill. Siaradwch â'ch plentyn am y risgiau o gysylltu â dieithriaid ac esboniwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy ar ei broffil neu mewn sgyrsiau. Atgoffwch eich plentyn i ddweud wrthych chi os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau mwy personol iddo neu wedi gwneud iddo deimlo'n anghyfforddus. I ddefnyddwyr iau, mae'n werth darganfod pa 'Subreddits' maen nhw'n rhan ohonyn nhw ar y platfform a dod yn gyfarwydd â'r math o ryngweithiadau mae eich plentyn yn eu cael ar y platfform.

Fel llawer o blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill, risg ymddygiad allweddol ar Reddit yw y gall barn a safbwyntiau defnyddwyr gyrraedd cynulleidfa fawr. Mae hyn yn peri risg mewn dwy ffordd i rai defnyddwyr: risg o'r hyn maen nhw'n dewis ei bostio, a risg yn y ffordd maen nhw'n dewis ymgysylltu â phostiadau defnyddwyr eraill. Dylech chi gael sgwrs gyda'ch plentyn i'w helpu i ddeall beth sydd a beth sydd ddim yn briodol iddo ei bostio ar-lein. Mae’n bwysig siarad â’ch plentyn am sut y mae'n ymateb i bostiadau eraill ar y platfform hefyd. Gofalwch fod eich plentyn yn deall yr effaith y gall sylwadau negyddol ei chael ar y postiwr gwreiddiol a siaradwch ag ef am bwysigrwydd peidio â rhannu neu ymateb i bostiadau a allai fod yn fwriadol atgas. Mae'n bwysig bod eich plentyn yn deall bod rhannu postiad yn darparu cynulleidfa fwy ar gyfer y postiad hwnnw. Mae Reddit yn dibynnu ar ei ddefnyddwyr yn tynnu sylw at gynnwys a all fod yn groes i'r canllawiau cynnwys, felly atgoffwch eich plentyn i ddefnyddio'r swyddogaeth 'Report' os bydd yn gweld cynnwys neu ymddygiad sy'n amhriodol.

Os yw eich plentyn yn postio ar Reddit, mae'n bwysig i chi ac ef fod yn ymwybodol o'r hyn y mae'n ei bostio a'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar ei ôl troed digidol. Dylech gael sgwrs gydag ef i'w helpu i ddeall beth sydd a beth sydd ddim yn briodol iddo ei rannu. Gofalwch fod eich plentyn yn gwybod y gall fod yn anodd cadw perchnogaeth dros unrhyw gynnwys ar ôl iddo gael ei rannu ar-lein, gan y gall cynnwys gael ei gopïo a'i ail-bostio'n rhwydd heb yn wybod iddo, a gall fod yn anodd ei dynnu oddi ar y rhyngrwyd wedyn.

Mae amrywiaeth o swyddogaethau ar gael ar Reddit i annog ymgysylltu â'r platfform, sy'n gallu arwain at gyfnodau estynedig o amser yn sgrolio drwy ffrwd barhaus o gynnwys. Mae nodweddion fel y swyddogaethau 'Awards' a 'Vote' yn annog defnyddwyr i ymateb i gynnwys a gwobrwyo cynnwys maen nhw'n credu sy'n dda, a 'Vote down' cynnwys maen nhw'n credu sy'n wael. Mae opsiwn hefyd i brynu 'Reddit coins' y gellir eu defnyddio ar y platfform i brynu gwobrau neu wobrwyo defnyddwyr eraill am eu postiadau. Mae'r holl nodweddion hyn yn ffyrdd o gadw defnyddwyr ar y platfform am gyfnodau hwy. Siaradwch â'ch plentyn am sut mae platfformau cyfryngau cymdeithasol wedi'u cynllunio a gweithiwch gyda nhw i osod ffiniau ar eu defnydd o Reddit. Archwiliwch y gosodiadau hysbysiadau i helpu i reoli  amser i ffwrdd o'r ap.


  • Ni ellir gwneud cyfrifon yn breifat ar Reddit.

  • Mae ychydig o osodiadau ar Reddit i helpu defnyddwyr i reoli rhyngweithio a chynnwys.

    I ddiffodd cynnwys NSFW ('not safe for work') (iOS):

    • Ewch i brif ddewislen gosodiadau eich dyfais a sgroliwch i 'Reddit’.
    • Symudwch dogl yr opsiwn 'NSFW content’ i'r safle i ffwrdd.
    • Symudwch dogl yr opsiwn 'Blur NSFW images' i'r safle ymlaen.
    • Noder: ar gyfer Android a fersiynau gwe, gellir rheoli'r opsiwn NSFW yn newislen gosodiadau'r ap.

    I reoli caniatâd sgwrsio a negeseua:

    • Yn yr ap, ewch i'ch proffil a dewiswch 'Settings’.
    • Dewiswch enw eich cyfrif o dan 'Account settings’.
    • Sgroliwch i 'Blocking and permissions' a dewiswch 'Chat and messaging permissions’.
    • Gosodwch 'Chat requests' o'r opsiynau a restrir:
      • Everyone
      • Accounts older than 30 days
      • Nobody
    • Gosodwch 'Direct messages' o'r opsiynau a restrir:
      • Everyone
      • Nobody

    I adael cymuned:

    • Yn yr ap, chwiliwch am y gymuned rydych chi am ei gadael.
    • Dewiswch y tri dot ar frig y sgrin a dewiswch 'Leave’.

    I gadw eich cyfrif allan o ganlyniadau chwilio Google:

    • Yn yr ap, ewch i'ch proffil a dewiswch 'Settings’.
    • Dewiswch enw eich cyfrif o dan 'Account settings’.
    • Sgroliwch i lawr i 'Personalised recommendations’ a symudwch dogl yr opsiwn 'Show up in search results' i'r safle i ffwrdd.

    I reoli cynnwys:

    • Yn yr ap, ewch i'ch proffil a dewiswch 'Settings’.
    • Dewiswch enw eich cyfrif o dan 'Account settings’.
    • Sgroliwch i lawr i 'Personalised recommendations' a gweithiwch drwy'r rhestr, gan symud toglau'r opsiynau i'r safle ymlaen ac i ffwrdd fel y bo'n briodol.

    I droi cymuned yn fud:

    • Ewch i’r neges gan y gymuned rydych yn dymuno ei throi’n fud.
    • Dewiswch yr eicon tri dot a dewiswch ‘Mute [community name]’
    • Noder: gallwch droi argymhellion cymunedau yn fud yn yr un modd, trwy ddewis ‘Show fewer posts like this.’
  • Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr eraill a all fod yn eu poeni nhw neu'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I flocio defnyddiwr:

    • Dewch o hyd i'r proffil defnyddiwr rydych chi am gwyno amdano.
    • Dewiswch yr eicon 'Block' ar frig eu proffil.
    • Cadarnhewch drwy bwyso 'Block’.
    • Noder: gallwch chi flocio defnyddiwr ar eich ffrwd hefyd. Chwiliwch am bostiad maen nhw wedi'i bostio a dewiswch yr eicon tri dot a dewiswch 'Block user.’

    I gwyno am bostiad a defnyddiwr:

    • Dewch o hyd i'r postiad rydych chi am gwyno amdano a dewiswch y tri dot yng nghornel dde uchaf y postiad.
    • Dewiswch 'Report' a dewiswch y rheswm pam rydych chi am gwyno amdano.
    • Dewiswch reswm pam rydych chi am gwyno amdano.
    • Dewiswch 'Submit' i gwblhau.
  • Gall defnyddwyr reoli eu hopsiynau hysbysiadau a'u statws ar-lein yn yr ap i helpu i reoli amser ar y platfform. Gall yr opsiwn i brynu pethau yn yr ap gael ei ddiffodd ar y ddyfais ei hun.

    I reoli hysbysiadau:

    • Yn yr ap, ewch i'ch proffil a dewiswch 'Settings’.
    • Dewiswch 'Account settings' a dewiswch 'Manage notifications’.
    • Gweithiwch drwy'r rhestr helaeth o opsiynau hysbysiadau, gan ddefnyddio toglau'r opsiynau i ddad-ddewis hysbysiadau nad ydych chi am eu derbyn.

    I reoli eich statws ar-lein (fel na all defnyddwyr eraill weld pan fyddwch chi ar-lein):

    • Yn yr ap, ewch i'ch proffil.
    • Mae eich 'Online status' i'w gael o dan eich enw defnyddiwr.
    • Gosodwch eich statws i 'Off’.

    I ddiffodd yr opsiwn i brynu pethau yn yr ap ar iOS:

    • Ewch i 'Settings' > 'Screen time' a sgroliwch i lawr i ‘Content and privacy restrictions’.
    • Dewiswch 'iTunes and app store purchases' a gosodwch yr opsiwn i 'Don't allow’.

    I ddiffodd yr opsiwn i brynu pethau yn yr ap ar Android:

    • Ewch i'ch ap 'Google Play Store'.
    • Dewiswch 'Menu' > 'Settings' > ‘Require authentication for purchases’.
  • Mae dileu cyfrif yn golygu y bydd eich holl wybodaeth yn cael ei dileu’n barhaol ac nad oedd modd ei hadfer. Does dim opsiwn i ddadactifadu eich cyfrif.

    I ddileu cyfrif Reddit (fersiwn y we):

    • Dewiswch eich afatar yn y gornel dde uchaf.
    • Dewiswch ‘User Settings’.
    • Sgroliwch i lawr a dewis y bin sbwriel â’r label ‘Delete account’.

    I ddileu eich cyfrif Reddit (ar iOS):

    • Dewiswch eich afatar yn y gornel dde uchaf.
    • Dewch yr eicon gêr o’r enw ‘Settings’.
    • Dewiswch ‘Delete account’.

Atgoffwch eich plentyn, os yw wedi dewis dilyn 'Subreddits' gyda diddordeb gwleidyddol neu ideolegol, ei fod yn treulio amser i ddod yn gyfarwydd â safbwyntiau eraill. Gall bod yn agored i gynnwys parhaus o un safbwynt yn unig gael effaith ar ffordd o feddwl rhywun.