English

Mae Pinterest yn blatfform cyfryngau cymdeithasol sy'n galluogi defnyddwyr i greu eu byrddau pin rhithwir eu hunain yn arbennig ar gyfer eu diddordebau. Diben yr ap yw i ddefnyddwyr 'binio' lluniau neu fideos ysbrydoledig i'w 'Boards' gwahanol, gan drefnu eu syniadau fesul thema. Mae themâu 'Board' cyffredin yn cynnwys steilio cartrefi, ryseitiau ac ysbrydoliaeth ar gyfer dillad, ond gyda thros biliwn o 'Pins' ar y platfform, mae cynnwys ar gael ar gyfer bron pob diddordeb. Gall 'Boards' fod yn gyhoeddus neu'n breifat, gan ganiatáu i ddefnyddwyr eraill ar y platfform 'Follow' y byrddau y mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddyn nhw. Gall defnyddwyr hefyd chwilio ar y platfform am syniadau ac ysbrydoliaeth ar gyfer eu gwahanol brosiectau neu ddiddordebau, yn ogystal â chael cynnig ffrwd bersonol o gynnwys yn yr adran 'Browse'. Mae'r ap ar gael i'w lawrlwytho am ddim ar Android ac iOS, gyda thros 430 miliwn o ddefnyddwyr ledled y byd.


Y sgôr oedran isaf ar gyfer defnyddwyr Pinterest yw 13, ond nid oes gan yr ap unrhyw ddulliau gwirio oedran trylwyr.

Mae proffilau defnyddwyr dan 16 oed yn breifat yn ddiofyn, a does dim modd i ddieithriaid ddod o hyd iddyn nhw. Bydd angen i ddefnyddwyr a gofrestrodd dan 18 oed, ac sy’n ceisio newid eu hoedran, ddilysu eu hoedran gyda dogfen a gyflwynwyd gan y llywodraeth.

Mae wedi cael sgôr oedran o 12+ ar yr Apple App Store a 'Mature 17+' ar Google Play Store.

Mae ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau’ yn cynnwys rhagor o fanylion am hyn.


Mae Pinterest yn apelio at bobl ifanc gan ei fod yn hawdd ei ddefnyddio ac yn canolbwyntio ar luniau a fideos - rhywbeth mae llawer o bobl ifanc yn ei fwynhau ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill. Mae'r cyfoeth o gynnwys sydd ar gael yn golygu ei bod hi'n hawdd i bobl ifanc archwilio eu diddordebau a chael eu hysbrydoli gan eraill. Yn wahanol i blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill, mae'r elfen gymdeithasol yn canolbwyntio llai ar gysylltu'n bersonol â defnyddwyr eraill, a mwy ar gael ysbrydoliaeth ganddyn nhw drwy eu delweddau. Yn aml mae'r cynnwys ar Pinterest yn cael ei guradu'n helaeth neu’r lluniau’n cael eu tynnu gan ffotograffwyr proffesiynol. Mae rhai pobl ifanc yn teimlo y gall ansawdd proffesiynol y delweddau a'r fideos ar Pinterest arwain at wneud iddyn nhw deimlo nad yw eu bywydau cystal â'r hyn maen nhw'n ei weld ar y platfform.


  • Lluniau mae defnyddwyr wedi'u 'pinio' (cadw) i'w 'Board'.

  • Y weithred o ddefnyddwyr yn cadw 'Pins' i'w 'Boards'.

  • Gall defnyddwyr greu eu 'Boards' eu hunain y gallan nhw ychwanegu 'Pins' atyn nhw. Gall defnyddwyr fod â 'Boards' gwahanol ar gyfer eu gwahanol ddiddordebau neu brosiectau. Gall 'Boards' fod yn gyhoeddus neu'n breifat a gellir eu rhannu ac ychwanegu atyn nhw gyda ffrindiau hefyd.

  • Dyma lle bydd defnyddwyr yn gweld 'Pins', pobl a busnesau mae'r platfform yn meddwl y bydd defnyddiwr yn eu hoffi neu â diddordeb ynddyn nhw. Yma, bydd defnyddwyr yn gweld 'Pins' gan y bobl a'r 'Boards' maen nhw'n eu dilyn hefyd.

  • Mae'r nodwedd hon yn debyg i'r ffrwd 'Browse' ond, yn lle 'Pins' a lluniau, mae'n cynnwys fideos.

  • Tudalen sy'n rhoi'r newyddion diweddaraf i ddefnyddwyr ar 'Boards' neu feysydd pwnc maen nhw wedi dangos diddordeb ynddyn nhw o'r blaen ar yr ap.

  • Mae'r nodwedd hon yn galluogi defnyddwyr i anfon negeseuon uniongyrchol at ddefnyddwyr eraill ar y platfform. Nid oes unrhyw ffordd o ddiffodd y nodwedd hon. Gall negeseuon gael eu hanfon at, neu eu derbyn gan, unrhyw gyfrif rydych chi wedi rhyngweithio ag ef ar y platfform.

  • Lle gall defnyddwyr wneud sylwadau ar 'Pins’.

  • Dyma lle mae defnyddwyr yn cael eu cyfeirio at safleoedd allanol i brynu eitemau tebyg i'r 'Pins' maen nhw wedi chwilio amdanyn nhw.

  • Mae hwn yn caniatáu i ddefnyddwyr roi cynnig rhithwir ar gynhyrchion fel minlliw maen nhw’n ei weld mewn pin neu hysbyseb ar Pinterest.

  • Yr adran hon o'r ap yw lle gall defnyddwyr bostio eu 'Pin' eu hunain trwy dynnu eu lluniau eu hunain neu greu 'Board'. Gall defnyddwyr ddewis gwneud eu 'Pins' a'u 'Bwrdd' yn breifat.

  • Gall defnyddwyr 'Follow' cyfrifon eraill ar y platfform y mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddyn nhw.


Mae Pinterest yn adnabyddus am ei gasgliad o ddelweddau a fideos ysbrydoledig sy'n aml yn edrych yn berffaith. Yn wahanol i blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill sy'n seiliedig ar ddelweddau, nid yw'r delweddau hyn yn canolbwyntio ar bobl a phroffiliau unigol yn aml, ond yn hytrach ar ddiddordebau penodol fel ffasiwn a steilio cartrefi. Fodd bynnag, mae'r delweddau hyn yn aml wedi'u golygu neu eu curadu'n helaeth i edrych yn berffaith. Gall gweld gormod o'r delweddau hyn a sgrolio'n gyson drwy gynnwys wedi'i olygu'n helaeth effeithio'n negyddol ar rai defnyddwyr, gan wneud iddynt deimlo nad yw eu bywydau neu eu heitemau materol cystal â'r rhai maen nhw'n eu gweld ar y platfform. Siaradwch â'ch plentyn am sut mae'r cynnwys ar y platfform wedi'i olygu i gael pobl i'w 'hoffi' a dangos diddordeb, ac na ddylai eu cymharu â'i fywyd ei hun.

Gyda'r fath gyfoeth o gynnwys ar gael ar y platfform, mae'n bosibl y gall eich plentyn ddod ar draws cynnwys sy'n amhriodol iddo mewn rhyw ffordd. Er nad yw'r platfform yn caniatáu rhai mathau o gynnwys, fel noethni neu gynnwys treisgar, mae'n ymddangos ar y platfform, yn aml o dan ddisgrifiadau 'Pin' camarweiniol. Anogwch eich plentyn i siarad â chi os yw wedi gweld cynnwys sydd wedi peri gofid iddo ar y platfform.

Mae posibilrwydd hefyd y gall eich plentyn dderbyn cynnwys amhriodol drwy'r nodwedd 'Messages' neu ‘Comments’ ar yr ap.  Atgoffwch eich plentyn na ddylai agor negeseuon gan bobl nad yw'n eu hadnabod ac i siarad â chi os yw wedi derbyn rhywbeth sydd wedi peri gofid neu bryder iddo. Dylech alluogi’r gosodiad ‘Filter comments’ er mwyn helpu i reoli’r cynnwys y mae eich plentyn yn ei weld mewn sylwadau. I gael gwybodaeth am sut i wneud hyn, ewch i’r adran ‘Managing interactions and content’ yn y canllaw hwn.

Er bod cyfrif defnyddwyr dan 16 oed yn breifat yn ddiofyn, bydd angen i ddefnyddwyr 17+ osod opsiynau negeseuon fel bo’r angen. Mae'r swyddogaeth 'Messages' ar Pinterest yn peri risg gan nad yw defnyddwyr yn gallu rheoli pwy sy'n gallu anfon negeseuon atyn nhw, gan nad yw hyn wedi'i gyfyngu i gysylltiadau yn unig. Gellir anfon negeseuon at unrhyw ddefnyddiwr rydych chi wedi ymgysylltu ag ef ar y platfform. Er enghraifft, os ydych chi wedi pinio delwedd gan ddeiliad cyfrif arall, byddwch yn gallu anfon neges uniongyrchol ato wedyn. Mae hyn yn golygu bod defnyddwyr mewn perygl o dderbyn negeseuon gan ddieithriaid. Gweithiwch gyda’ch plentyn i greu’r gosodiadau ‘Message’ priodol er mwyn helpu i reoli pwy sy’n gallu cysylltu â’ch plentyn ar y platfform. Siaradwch â'ch plentyn am y risgiau o gysylltu â phobl nad yw'n eu hadnabod ac esboniwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy ar ei broffil neu mewn negeseuon. Anogwch eich plentyn i ddweud wrthych chi os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau mwy personol iddo neu os yw'n teimlo'n anghyfforddus oherwydd cynnwys neges.

Gan fod Pinterest yn caniatáu i ddefnyddwyr rannu cynnwys personol ar ffurf 'Pins' a 'Boards' personol, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol o'r hyn sy'n briodol i'w rannu ar y platfform. Siaradwch â'ch plentyn i'w helpu i ddeall beth sydd a beth sydd ddim yn briodol iddo ei rannu ar-lein a'r effaith barhaol y gallai unrhyw beth y mae'n ei bostio ei chael arno ef a'i ddyfodol. Gall y nodwedd 'Comments' ar y platfform alluogi defnyddwyr i weld cynnwys niweidiol hefyd. Anogwch eich plentyn i siarad â chi os yw sylwadau niweidiol ar y platfform wedi effeithio arno a gofalwch ei fod yn gwybod sut i flocio a chwyno am ddefnyddwyr sy'n ymddwyn yn amhriodol.

Mae Pinterest yn blatfform apelgar ac weithiau gall defnyddwyr dreulio oriau ar y tro yn sgrolio drwy'r cynnwys amrywiol, gan binio eitemau i'w gwahanol 'Boards'. Bwriad y platfform yw cadw diddordeb defnyddwyr, gan gynnig cynnwys wedi'i deilwra yn yr adran 'Browse' y mae'r platfform yn credu y bydd gennych chi ddiddordeb ynddo. Yn aml, nid oes gan blant a phobl ifanc y sgiliau i hunan-reoleiddio eu hamser yn sgrolio a chymryd seibiant o'r platfform. Siaradwch â'ch plentyn am y risgiau o sgrolio drwy'r amser ac anogwch ef i gymryd amser seibiannau rheolaidd o'r platfform. Mae'r platfform yn cynnwys hysbysebion hefyd, yn ogystal â dolenni i safleoedd allanol, lle gall defnyddwyr brynu eitemau tebyg i'r rhai mewn delweddau neu fideos maen nhw wedi'u pinio. Argymhellir bod defnyddwyr yn gwirio'r gosodiadau 'Data personalisation' er mwyn helpu i reoli'r hysbysebion a'r cynnwys personol maen nhw'n ei weld. Mae gwybodaeth am sut i wneud hyn yn yr adran 'Rheoli rhyngweithio a chynnwys' yn y canllaw hwn.


  • Nid yw Pinterest yn caniatáu i gyfrifon gael eu gwneud yn breifat, ond gall defnyddwyr wneud eu 'Board' yn breifat a defnyddio gosodiadau eraill i ddiogelu eu preifatrwydd.

    I guddio eich cyfrif o beiriant chwilio:

    • Ewch i'ch proffil a dewiswch yr eicon tri dot.
    • Dewiswch 'Settings' a dewiswch 'Privacy and data’.
    • Symudwch dogl yr opsiwn 'Search privacy' i'r safle ymlaen a dewiswch 'I understand’.

    I greu 'Board' preifat:

    • Dewiswch yr eicon '+' i ddechrau 'Board' newydd.
    • Dewiswch 'Board' a symudwch dogl yr opsiwn 'Make this board secret’ i'r safle ymlaen.
  • Mae rhai gosodiadau ar gael i helpu i reoli rhyngweithio a chynnwys. Fodd bynnag, nid oes gosodiad i reoli pwy all anfon negeseuon atoch chi. Mae rhieni a gofalwyr yn gallu gosod cod mynediad rhieni. Bydd y gosodiad hwn yn caniatáu i rieni a gofalwyr addasu rhai gosodiadau penodol ar gyfer cyfrif eu plentyn, fel pwy sy’n gallu anfon neges ato/ati neu @sôn amdano, yn ogystal â phwy sy’n gallu gadael sylw ar ei gynnwys, a’r mathau o argymhellion siopa mae’n ei dderbyn.

    I guddio 'Pins':

    • Chwiliwch am y 'Pin' rydych chi am ei guddio.
    • Pwyswch a daliwch nes bod eiconau gwahanol yn ymddangos.
    • Wrth ddal y 'Pin', dewiswch yr eicon 'Hide'.
    • Noder: bydd hyn yn dileu cynnwys tebyg o'ch ffrwd 'Browse'.

    I reoli hysbysebion a data:

    • Ewch i'ch proffil a dewiswch yr eicon tri dot.
    • Dewiswch 'Settings' a dewiswch 'Privacy and data’.
    • Symudwch dogl yr opsiynau yn yr adran 'Data personalisation' i'r safle i ffwrdd.

    I reoli cysylltiadau:

    • Ewch i'ch proffil a dewiswch yr eicon tri dot.
    • Dewiswch 'Settings' a dewiswch 'Privacy and data’.
    • Symudwch dogl yr opsiwn 'Store your contacts’ i'r safle i ffwrdd.

    I hidlo sylwadau:

    • Ewch i’ch proffil a dewiswch yr eicon tri dot.
    • Dewiswch ‘Settings’ a dewiswch ‘Social permissions and activity’.
    • Sgroliwch i ‘Filter comments on others’ pins’ a throwch y dewis hwn ymlaen.
    • Bydd cwymplen yn ymddangos a gallwch ysgrifennu’r geiriau neu’r ymadroddion rydych chi am eu blocio.

    I reoli gosodiadau negeseuon:

    • Ewch i’ch proffil a dewiswch yr eicon tri dot.
    • Dewiswch ‘Settings’ a dewiswch ‘Social permissions and activity’.
    • Sgroliwch i ‘Message settings’ a gweithiwch drwy’r dewisiadau a restrir.

    I greu cod mynediad rhieni:

    • Mewngofnodwch i gyfrif Pinterest eich plentyn.
    • Dewiswch y chevron yn y gornel dde uchaf.
    • Dewiswch ‘Settings’ o’r naidlen.
    • Dewiswch ‘Account Management’.
    • Dewiswch ‘Add code’ ger ‘Parental passcode’.
    • Teipiwch god pedwar digid ac yna’ch cyfeiriad e-bost.
    • Dewiswch ‘Set passcode’.
    • Dewiswch ‘Save’.

    I greu cod mynediad rhieni ar ddyfais symudol:

    • Agorwch yr ap Pinterest a mewngofnodi i gyfrif eich plentyn.
    • Dewiswch y llun proffil yn y gornel dde isaf.
    • Dewiswch y tri dot ‘…’ yn y gornel dde uchaf.
    • Dewiswch ‘Settings’.
    • Dewiswch ‘Account management’.
    • Dewiswch ‘Parental passcode’.
    • Teipiwch god pedwar digid a’ch cyfeiriad e-bost a dewis ‘Set passcode’.
  • Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr eraill a all fod yn eu poeni nhw neu'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I 'Block' neu 'Report' defnyddiwr:

    • Chwiliwch am broffil y defnyddiwr rydych chi am gwyno amdano.
    • Dewiswch yr eicon tri dot a dewiswch 'Block/Report' yn ôl yr angen.
    • Dewiswch 'Report/Block' eto i gwblhau'r broses.

    I 'Report a pin’:

    • Chwiliwch am y 'Pin' rydych chi am gwyno amdano a dewiswch yr eicon tri dot.
    • Dewiswch 'Report' a dewiswch y rheswm pam rydych chi am gwyno am y 'Pin' o'r opsiynau a restrir
      • Spam
      • Nudity or pornography
      • Self-harm
      • Misinformation
      • Hateful activities
      • Dangerous goods
      • Harassment or privacy violations
      • Graphic violence
      • My intellectual property

    I gwyno am edefyn neges:

    • Ewch i'ch negeseuon drwy ddewis yr eicon swigen siarad.
    • Dewiswch yr edefyn neges rydych chi am gwyno amdano.
    • Dewiswch yr eicon tri dot a dewiswch 'Report thread.’
    • Dewiswch y rheswm dros eich cwyn o'r naidlen
      • This is spam
      • This is harassing me or someone else
      • This promotes self-harm
  • Mae gosodiadau ar Pinterest i helpu i reoli amser ar y platfform.

    I reoli hysbysiadau:

    • Ewch i'ch proffil a dewiswch yr eicon tri dot.
    • Dewiswch 'Settings' a sgroliwch i 'Notifications’.
    • Dewiswch 'Push notifications' a dewiswch 'Turn off all’.
  • Gall defnyddwyr ddewis rhwng dileu neu ddadactifadu eu cyfrif ar Pinterest. Mae cyfrif Pinterest wedi’i ddileu yn barhaol, ond mae modd ailagor cyfrif Pinterest wedi’i ddadactifadu unrhyw bryd.

    I ddileu eich cyfrif Pinterest (Ap):

    • Agorwch ap Pinterest a dewis eich llun proffil ar y gornel dde isaf.
    • Dewiswch y gêr ar y gornel dde uchaf.
    • Dewiswch ‘Account management’.
    • Sgroliwch i’r gwaelod a dewis ‘Delete your account and data’.
    • Dewiswch ‘Continue’ a’ch rheswm dros ddileu eich cyfrif.
    • Dewiswch ‘Send email’ i dderbyn e-bost i ddileu eich cyfrif.

    I ddileu eich cyfrif Pinterest (ar y we):

    • Dewiswch y chevron ar gornel dde ucha’r ffenestr ger afatar eich proffil.
    • Dewiswch ‘Settings’.
    • Dewiswch ‘Account management’ ar ochr chwith y ffenestr.
    • Dewiswch ‘Delete account’.
    • Dewiswch ‘Continue’ a’ch rheswm dros ddileu’r cyfrif.
    • Dewiswch ‘Send email’ i dderbyn neges e-bost i ddileu’ch cyfrif.
    • Gwiriwch y cyfeiriad e-bost sy’n gysylltiedig â’ch cyfrif Pinterest i gadarnhau eich bod am ddileu’r cyfrif.

    I ddadactifadu eich cyfrif Pinterest (ar y we):

    • Dewiswch y chevron ar ochr dde uchaf y ffenest ger afatar eich proffil.
    • Dewiswch ‘Settings’.
    • Dewiswch ‘Account management’ ar ochr chwith y ffenestr.
    • Dewiswch ‘Deactivate account’.
    • Dewiswch ‘Continue’.
    • Dewiswch eich rheswm dros ddadactifadu’r cyfrif.
    • Dewiswch ‘Deactivate account’.

    I ddadactifadu eich cyfrif Pinterest (Ap):

    • Agorwch ap Pinterest a dewis eich llun proffil ar y gornel dde isaf.
    • Dewiswch y symbol gêr ar y gornel dde uchaf.
    • Dewiswch ‘Account management’.
    • Dewiswch ‘Deactivate account’ ac yna ‘Continue’.
    • Dewiswch eich rheswm dros ddadactifadu’r cyfrif.
    • Dewiswch ‘Deactivate account’.

Gall Pinterest fod yn ffordd hwyliog i bobl ifanc archwilio eu diddordebau a chreu rhai newydd. Treuliwch amser gyda'ch plentyn yn archwilio'r ap i fonitro'r math o gynnwys y mae'n edrych arno ac a yw'n addas ar gyfer ei oedran neu ei gam datblygiad.

Mae gan Pinterest ganolfan gymorth lle mae defnyddwyr yn gallu dysgu sut i reoli eu preifatrwydd a’u diogelwch ar y platfform. Hefyd, mae gan Pinterest ganolfan gymorth benodol i rieni a gofalwyr. Gallant ddysgu mwy am y gosodiadau a’r adnoddau penodol sydd gan Pinterest i reoli diogelwch a phreifatrwydd eu plant. Dylai plant a phobl ifanc fynd i dudalen ‘teen safety options’ Pinterest.