English
Gwybodaeth

Ym mis Hydref 2022, prynwyd Twitter gan yr entrepreneur Elon Musk, a ddaeth yn Brif Swyddog Gweithredol y platfform wedyn. Ers prynu X, mae wedi gwneud sawl newid i’r platfform, ac mae newidiadau’n parhau i gael eu gwneud yn aml, gan gynnwys newid yr enw o ‘Twitter’ i ‘X’ ym mis Gorffennaf 2023. Gan fod newidiadau’n cael eu gwneud mor aml i’r platfform, noder bod y canllaw hwn i’r ap yn gywir ym mis Ionawr 2024.

Mae X yn wasanaeth rhwydweithio cymdeithasol a microblogio am ddim lle gall defnyddwyr bostio a rhyngweithio â negeseuon a elwir yn ‘Posts’ ( ‘Tweets’ o’r blaen). Gellir cyrchu X drwy borwr gwe neu ap symudol ar gyfer gwasanaethau Windows, Android ac iOS. Gall defnyddwyr cofrestredig bostio, hoffi ac aildrydar negeseuon pobl eraill. Os nad ydych chi wedi cofrestru, gallwch ddarllen a sgrolio drwy gynnwys pobl eraill ar borwr gwe, ond allwch chi ddim postio neges. Gall posts gynnwys testun ysgrifenedig, lluniau, fideos a dolenni y gellir eu darllen gan eich dilynwyr, a'u canfod trwy chwiliad X. Mae pob neges unigol wedi'i chyfyngu i 280 o nodau ac mae ffeiliau sain neu fideo wedi'u cyfyngu i 140 eiliad. Os oes gennych chi gyfrif, mae X yn argymell cyfrifon eraill i'w dilyn yn seiliedig ar eich diddordebau, ac os byddwch chi’n dewis dilyn neu danysgrifio i ddefnyddwyr eraill, bydd eu diweddariadau nhw'n ymddangos ar eich ffrwd.

Mae X wedi dod yn blatfform o ddewis i lawer o oedolion gymryd rhan mewn cymunedau o ddiddordebau a rhannu ymchwil a safbwyntiau’n hawdd a chyflym. Mae'n caniatáu i ddefnyddwyr gymysgu diddordeb proffesiynol gyda safbwyntiau byr am hobïau, diddordebau personol, rhwystredigaethau, neu jôcs. Mae'r cynnwys hygyrch a chryno’n golygu ei bod hi'n hawdd postio syniadau, cwestiynau a safbwyntiau, ac mae llawer o bobl proffil uchel yn defnyddio X fel hyn.

Er bod X yn dal i fod yn boblogaidd dros ben, mae newidiadau dadleuol i’r platfform wedi arwain at golli defnyddwyr a hysbysebwyr. Nodwyd bod colli refeniw hysbysebu a defnyddwyr wedi cyd-fynd â’r cynnydd mewn cynnwys casineb a’r gostyngiad mewn staff sy’n gweithio mewn ymddiriedaeth a diogelwch. Dylai defnyddwyr gofio nad yw cyfrifon â thic glas yn gyfystyr â phobl na sefydliadau credadwy mwyach, gan fod y gwasanaeth hwn wedi symud i fodel tanysgrifio o’r enw X Premium (‘Twitter Blue’ gynt). Mae hyn yn golygu bod unrhyw ddefnyddiwr yn gallu prynu tic glas ar gyfer ei broffil erbyn hyn, waeth a yw’n cynrychioli sefydliad neu unigolyn credadwy. Mae’r camau hyn wedi arwain at gyhoeddi adroddiadau gan y Centre for Countering Digital Hate (CCDH) am y cynnydd parhaus mewn casineb ar-lein ar wefan X.

Yr oedran isaf ar gyfer defnyddwyr X, yn ôl telerau gwasanaeth y platfform, yw 13; er nad oes unrhyw ddull trylwyr o wirio oedran.

Mae’r Apple App Store yn rhoi sgôr o 17+ i’r ap a Google Play Store yn argymell ‘Parental guidance required’.

Mae pob cyfrif yn gyhoeddus yn ddiofyn, lle mae unrhyw ddefnyddwyr eraill y platfform yn gallu gweld cynnwys. Ar gyfer defnyddwyr iau, argymhellir gwneud y cyfrif yn breifat.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau.

Mae X yn boblogaidd gyda rhai pobl ifanc am ei ddiweddariadau byr a bachog sy'n ddoniol yn aml. Mae plant a phobl ifanc yn mwynhau'r elfen ryngweithiol, gan wneud cysylltiadau a bod modd dal i fyny gyda straeon newydd a sgyrsiau a phynciau poblogaidd. Mae Posts yn cael eu diweddaru'n rheolaidd felly bob tro y bydd eich ffrwd yn adnewyddu, mae mwy o gynnwys diddorol i chi ryngweithio'n barhaus ag ef. Mae'n apelio’n fawr at bobl ifanc, gan fod nifer y bobl sy'n 'hoffi', yn ail-drydar, a nifer y dilynwyr sydd ganddynt yn gallu rhoi ymdeimlad o gymeradwyaeth, poblogrwydd a chael eu derbyn. Pan fydd posts yn dod yn arbennig o lwyddiannus neu'n mynd yn 'feirol' gall achosi cryn foddhad i bobl ifanc, ond gall ddenu sylw neu aflonyddu digroeso hefyd. Mae Twitter yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan enwogion, dylanwadwyr ac arweinwyr, ac yn aml mae hynny’n denu cefnogwyr ifanc i ymuno â X i ryngweithio â nhw a'u cymunedau cefnogwyr ar Twitter.

  • Dyma'r neges fer safonol hyd at 280 o nodau. Gall fod ar ffurf testun ysgrifenedig, delwedd, fideo neu ffeil sain neu GIF.

  • Os ydy rhywun yn 'ail-drydar' neges, mae'n golygu eu bod nhw wedi ei rhannu gyda'u holl ddilynwyr.

  • Ailbostiad sy’n caniatáu i ddefnyddiwr ychwanegu ei sylwadau ei hun at y post gwreiddiol a’i gyhoeddi i’w ddilynwyr yw ‘reply’. Mae ‘reply’ yn caniatáu i ddefnyddiwr roi cyd-destun i ailbostiad a dechrau llinyn neges newydd y gall dilynwyr naill ai ei hoffi neu ei ailbostio ar wahân i’r post gwreiddiol.

  • Pan fydd rhywun yn ysgrifennu post ac yna'n postio postiad arall sy'n cysylltu ag ef, bydd hyn yn ymddangos fel edefyn neu 'thread'. Mae'n caniatáu i rywun fynegi cynnwys a syniadau hirach trwy gysylltu postiadau byrrach.

  • Gall defnyddwyr 'hoffi' post defnyddiwr arall drwy ddefnyddio'r eicon siâp calon.

  • Dyma'r ardal sy'n arddangos post ac aildrydariadau defnyddwyr rydych chi'n eu dilyn.

  • Defnyddir hashnodau (#) i dagio geiriau allweddol neu bynciau sy'n trendio. Maen nhw'n dod â'r holl drafodaethau i un lle ac yn caniatáu i'r holl postiadau gael eu gweld gan gynulleidfa fwy. Mae hashnodau, pynciau a straeon newyddion poblogaidd mae algorithmau Twitter yn credu a allai fod o ddiddordeb i chi yn ymddangos yn yr adran 'For you', tra bod pynciau mwy cyffredinol sy'n trendio yn ymddangos dan 'Trending'.

  • Gallwch ddefnyddio'r nodwedd hon i gael sgyrsiau preifat gyda defnyddwyr Twitter eraill. Mae'r gosodiadau diofyn yn golygu bod modd i bawb sydd â chyfrif anfon a derbyn negeseuon uniongyrchol (DM).

  • Gallwch greu 'Moments' drwy grwpio post a negeseuon gyda'i gilydd.

  • Rhaglenni bach o fewn yr ap yw'r rhain, sy'n cael eu creu gan ddatblygwyr trydydd parti. Rhaglenni cyfrifiadurol yw bots ('robot') a gynlluniwyd i efelychu gweithgaredd dynol a chwblhau tasgau ailadroddus.

  • Gair cyffredin am enwau defnyddiwr ar X, sy’n ymddangos ar ôl y symbol @.

  • Mae hyn yn cyfeirio at grwpiau sy’n ymwneud â diddordebau a phynciau penodol, fel chwaraeon neu anifeiliaid. Bydd ymuno â chymuned ar X yn dangos mwy o gynnwys sy’n gysylltiedig â phynciau yn eu cymuned i’r defnyddiwr.

  • Mae hyn yn cyfeirio at neges sydd ar gael i’r anfonwr a’r derbynnydd yn unig. Mae neges wedi’i hamgryptio’n dibynnu ar yr anfonwr yn anfon neges sydd wedi’i hamgryptio, ac sydd wedyn yn dadgodio ar ôl i’r derbynnydd ei derbyn. Mae’r neges wedi’i hamgryptio mewn ffordd arbennig, a does dim modd i hacwyr ei gweld oherwydd hynny.

  • Mae hyn yn cyfeirio at danysgrifio i grëwr penodol ar X. Mae tanysgrifwyr X yn talu arian go iawn i danysgrifio, yn gyfnewid am fuddion fel bathodynnau sy’n gysylltiedig â chrëwr, cynnwys bonws neu ryngweithio uniongyrchol â’r crëwr.

  • Mae X yn cyfyngu ar faint o gynnwys mae defnyddwyr yn gallu ei weld bob dydd ar X. Mae’r cyfyngiadau hyn yn amrywio, yn dibynnu ar y defnydd o’r safle, a gall defnyddwyr wynebu cyfyngiadau pellach pan mae’r safle’n brysur iawn.

  • Lle i ddefnyddwyr gael sgyrsiau sain byw â’i gilydd yw Spaces (hefyd ‘X Spaces’). Mae Spaces ar agor in unrhyw un, ac mae croeso i unrhyw ddefnyddiwr ymuno fel gwrandäwr, ond dim ond pobl sy’n cael gwahoddiad i’r sesiwn Space fydd yn gallu siarad yn ddiofyn.

  • Nodwedd sy’n gadael i ddefnyddwyr gynnig ‘cildwrn’ neu daliad untro i ddangos eu bod nhw’n cefnogi neu’n gwerthfawrogi cynnwys defnyddwyr eraill. Gellir gwneud hyn gyda bitcoin neu arian.

Mae cynnwys ar Twitter yn cael ei ychwanegu a'i gynhyrchu gan ddefnyddwyr ac mae llawer ohono heb ei gymedroli. Mae'n bosib cwyno am gynnwys a'i ddileu am fethu cydymffurfio â safonau cymuned X ac mae defnyddwyr yn cael eu hannog i farcio unrhyw gynnwys maen nhw’n ei drydar a allai fod yn sensitif (gan gynnwys cynnwys rhywiol neu dreisgar), er mwyn iddo gael ei ddal gan hidlyddion. rhywfaint o hiliaeth, casineb at fenywod ac iaith casineb ar X yn ogystal â beirniadaeth ddeifiol ac anghytuno gwenwynig. Mae'n hawdd chwilio am a gweld cynnwys rhywiol hefyd, gan fod rhai gweithwyr rhyw yn defnyddio X fel platfform i hysbysebu eu gwaith. Drwy gyfyngu ar bwy mae'ch plentyn yn gallu cysylltu â nhw ar y platfform, mae'n llai tebygol o brofi iaith, cynnwys neu ymddygiad anaddas i'w oedran. Fodd bynnag, dylid cydnabod y gallai'ch plentyn fod yn agored i gynnwys amhriodol o hyd drwy ei gysylltiadau hysbys.

Ers i X newid dwylo ym mis Hydref 2022, mae nifer y staff wedi lleihau’n sylweddol, sy’n golygu bod llai o bobl yn y timau cymedroli cynnwys. Adrannau fel ymddiriedaeth a diogelwch a chysylltiadau cyhoeddus gafodd eu lleihau fwyaf, gan nad oeddent yn cael eu hystyried yn bwysig o gymharu â staff yn gweithio ym maes peirianneg a datblygu. Mae hyn yn golygu bod safon y cymedroli’n salach, a bod y platfform yn gorfod dibynnu llawer mwy ar broses awtomeiddio i olrhain cynnwys niweidiol yn hytrach na bod cymedrolwyr cig a gwaed yn chwilio am gynnwys o’r fath. Dylai rhieni a gofalwyr fod yn fwy gofalus wrth adolygu’r math o gynnwys y mae eu plentyn yn ei weld ar y platfform. Dylech annog eich plentyn i siarad â chi os yw’n gweld cynnwys sy’n peri gofid iddo.

Mae newidiadau algorithmig wedi’u gwneud i’r platfform, gan newid sut mae cynnwys yn cael ei gyflwyno i ddefnyddwyr. O’r blaen, byddai defnyddwyr wedi gweld postiadau mewn trefn gronolegol, ond bellach, maen nhw’n cael gweld detholiad o bostiadau a all fod o ddiddordeb iddyn nhw yn yr adran ‘For you’. Mae rhai sy’n defnyddio’r ap yn gallu dewis naill ai gweld cynnwys gan bobl maen nhw’n eu dilyn neu bostiadau sy’n cael eu hargymell gan X. Am fwy o wybodaeth ar sut i wneud hyn, darllenwch adran ‘Rheoli rhyngweithio a chynnwys’ y canllawiau hyn. Dylid gwirio’r gosodiad hwn yn rheolaidd.

Mae peryglon dod i gysylltiad â dieithriaid gan gynnwys bwlio ar-lein, aflonyddu, a rhyngweithio sarhaus. Mae bwlio ar-lein yn gallu bod yn broblem fawr ar X gan fod defnyddwyr poblogaidd yn gallu denu llawer o'u dilynwyr i gymryd rhan ac ychwanegu eu safbwyntiau eu hunain gan ymestyn yr holl sylwadau cas. Gelwir hyn yn Twitter 'Pile on'.

Hefyd, mae X yn cyflwyno'r risg o feithrin perthynas amhriodol i blant a phobl ifanc sy'n defnyddio'r platfform oherwydd y potensial ar gyfer negeseuon uniongyrchol. Fel gyda phlatfformau eraill, mae drwgweithredwyr yn gallu defnyddio natur fregus plant i'w canmol nhw a meithrin digon o gysylltiad i ysgogi sgwrs un i un drwy neges uniongyrchol. Gwnewch yn siwr bod 'Direct messaging' wedi'i analluogi yn unol â'r gosodiadau yn adran 'Sut i gadw'ch plentyn yn ddiogel' y canllaw hwn. Siaradwch â'ch plentyn am y risgiau o gysylltu â dieithriaid ac egluro pwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy ar ei broffil neu mewn sgyrsiau. Atgoffwch ddefnyddwyr i ddweud wrthych chi os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau mwy personol neu wedi gwneud cais am sgwrs breifat trwy ap gwahanol.

Ceisiwch sicrhau bod eich plentyn yn ymwybodol o hacwyr a sgamwyr ar X. Gallant dderbyn anogaeth i glicio ar ddolenni neu gysylltu â phobl yn breifat, lle mae rhywun yn ceisio eu hacio neu eu twyllo neu ddwyn manylion eu cyfrif.    

Mae rhai proffiliau X yn gyfrifon awtomataidd a reolir gan bot meddalwedd. Mae bot X, a elwir weithiau'n 'zombies', yn cael eu rhaglennu i weithredu fel defnyddwyr cyffredin X (fel hoffi neu ddilyn cyfrifon eraill) ond eu pwrpas yw post ac ail-drydar cynnwys penodol ar gyfer pwrpas a bennwyd ymlaen llaw, yn aml ar raddfa fawr. Mae rhai bots yn gyfeillgar ac yn helpu i ledaenu negeseuon positif yn gyflym. Fodd bynnag, gellir cynllunio bots at ddibenion maleisus, fel trin yn ystrywgar neu fygwth defnyddwyr eraill, sbamio neu ledaenu newyddion ffug a chamwybodaeth. Gellir defnyddio bots i chwyddo nifer y dilynwyr yn artiffisial ar broffil gwirioneddol, sy'n gallu cynyddu hygrededd a dylanwad cymdeithasol y defnyddiwr hwnnw yn seiliedig ar eu poblogrwydd ymddangosiadol.

Mae cymunedau ar X yn adleisio nodwedd ‘grwpiau’ sy’n gyffredin ar draws llawer o blatfformau cyfryngau cymdeithasol. Fel gosodiadau grwpiau eraill, efallai y bydd cymunedau ar X yn ceisio denu eich plentyn i ymuno a chwrdd â phobl o’r un anian yn seiliedig ar ddiddordebau cyffredin, fel gêm fideo benodol neu grëwr penodol. Fodd bynnag, gan fod hyn yn gallu cysylltu plant a phobl ifanc â llawer o bobl nad ydynt yn eu hadnabod, mae yna risg diogelwch hefyd. Os yw’ch plentyn yn ymuno â chymuned ar X, mae’n bwysig eich bod yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd i wirio beth sy’n mynd ymlaen yn y gymuned hon. Darllenwch yr adran ‘rheoli preifatrwydd’ er mwyn helpu i gadw’ch plentyn yn ddiogel yn Communities.

Y brif risg ymddygiad ar X yw bod barn a safbwyntiau defnyddwyr yn gallu cyrraedd cynulleidfa eang dros ben. Ers i’r platfform newid dwylo yn 2022, mae sawl defnyddiwr a oedd wedi’i wahardd o’r blaen wedi cael dychwelyd. Mae cyfrifon nifer o bobl â phroffil uchel wedi’u hadfer, er gwaetha’r ffaith eu bod wedi’u gwahardd o’r platfform cynt am dorri rheolau X. Dylech siarad â’ch plentyn am y math o bobl y mae’n dewis eu dilyn ar y platfform a’i annog i feddwl yn feirniadol am y post y mae’n eu darllen. Atgoffwch eich plentyn i siarad â chi os yw’n darllen rhywbeth sy’n peri gofid iddo neu nad yw’n ei ddeall.

Felly, mae’n bwysig eich bod chi’n helpu eich plentyn i ddeall beth sy’n briodol, a ddim yn briodol i'w rannu, a thrafod y ffyrdd amrywiol o ddiogelu ei hun trwy rannu â'i gysylltiadau’n unig. Gwnewch yn siwr bod eich plentyn yn deall y gallai fod yn anodd cadw perchnogaeth ar unrhyw gynnwys unwaith y mae wedi'i rannu ar-lein, ac y bydd yn gadael cofnod digidol parhaol. Mae Twitter yn cynnwys nodwedd ffrydio byw  hefyd, ac mae'n hollbwysig analluogi hyn ar gyfer defnyddwyr iau. Os yw'n hyn, trafodwch beryglon ffrydio byw gyda'ch plentyn.

Mae yna risgiau i blant a phobl ifanc gyda X, gan fod y cynnwys mor gryno a thameidiog ac felly'n hawdd ymwneud ag ef heb fawr o ymdrech na sylw arbennig. Gallai'r ffordd gryno hon o lyncu gwybodaeth fod yn atyniadol iawn i bobl ifanc, a'u denu i ddefnyddio'r ap am gyfnodau maith o sgrolio drwy ffrwd sy'n diweddaru'n barhaus. Siaradwch â'ch plentyn er mwyn gosod cyfyngiadau ar y defnydd o X, ac ewch drwy'r gosodiadau hysbysiadau i'w helpu i sicrhau rhywfaint o amser di-sgrîn.

Mae X wedi lansio gwasanaeth am dâl a elwir yn ‘X Premium’ (‘Twitter Blue’ gynt). Mae tanysgrifwyr i’r gwasanaeth hwn yn cael addewid y bydd eu post yn cael blaenoriaeth yn yr algorithm; maen nhw’n gallu golygu negeseuon a gweld llai o hysbysebion. Bydd cyfrifon defnyddwyr X Premium yn cael eu dilysu â thic glas. Siaradwch â’ch plentyn am sut mae tanysgrifiadau yn gweithio a’i atgoffa bod hon yn strategaeth fusnes gan X i wneud arian, yn hytrach na chynnig mantais fawr i ddefnyddwyr. Tra bod ticiau glas yn cael eu defnyddio i gynrychioli hygrededd, mae’n bwysig cofio bod unrhyw ddefnyddiwr yn gallu talu am y gwasanaeth hwn ac nad yw’n golygu bod y defnyddiwr neu’r sefydliad yr hyn y mae’n ei honni, neu eu bod nhw’n ffynhonnell wybodaeth gredadwy. Hefyd, dylech wneud yn siŵr bod eich plentyn yn deall nad yw’r ffaith bod ganddo ef/hi neu ddefnyddiwr arall dic glas, yn golygu bod ganddo hygrededd awtomatig.

Mae X wedi cyflwyno dau wasanaeth talu sy’n annog defnyddwyr i wario arian i ddangos eu bod nhw’n cefnogi neu’n gwerthfawrogi defnyddwyr eraill. Mae’r platfform yn gadael i ddefnyddwyr gynnig ‘cildwrn’ i ddefnyddwyr eraill gyda thaliadau untro i ddangos cefnogaeth neu werthfawrogiad, ac hefyd i danysgrifio i ddefnyddwyr eraill i gael cynnwys neu ryngweithio arbennig drwy opsiwn ‘Super Follow’. Efallai y bydd defnyddwyr, yn enwedig pobl ifanc, yn cael eu denu i ddilyn (‘super following’) eu hoff grëwr fel arwydd o gefnogaeth neu werthfawrogiad ac i gael gafael ar gynnwys arbennig nad yw ar gael i ddilynwyr cyffredin. Nod ‘Super Follows’ yw ennyn diddordeb defnyddwyr a’u hannog i dalu arian i’w hoff grëwr gyda’r potensial o weld cynnwys bonws. Gan y gall crewyr addo cynnwys bonws i’w dilynwyr, efallai y bydd defnyddwyr yn cael eu temtio i gofrestru gyda chynllun tanysgrifio eu hoff grëwr. Os yw’ch plentyn yn dangos diddordeb mewn dilyn crëwr fel ‘super follow’ neu ‘tipping’, siaradwch ag ef/hi i ystyried ffyrdd eraill o gefnogi ei hoffi grëwr.

  • Mae X yn blatfform diogel sy'n gofyn am gyfrifon wedi'u diogelu gan gyfrinair er mwyn defnyddio holl nodweddion y safle, ond dim ond os yw defnyddiwr yn gwarchod ei gyfrinair a ddim yn gadael i neb arall ddefnyddio ei gyfrif y mae diogelwch y wefan yn sicr. Mae X yn casglu data helaeth am ddefnyddwyr, megis enw defnyddiwr, lleoliad, llun proffil, parth amser a phen-blwydd er mwyn personoli profiad y defnyddiwr a chynhyrchu argymhellion sy'n seiliedig ar ei broffil a’i weithgarwch. Gallai'r wybodaeth hon fod yn ddeniadol i hacwyr ond gall defnyddwyr eraill ei defnyddio hefyd i gychwyn cyswllt. Mae cyfrifon X yn gyhoeddus yn ddiofyn, ond mae'n bosib newid gosodiadau cyfrif i fod yn breifat a sicrhau mai dim ond eu dilynwyr sy'n gallu gweld a rhyngweithio â'u postiadau.

    I wneud cyfrif yn breifat:

    • dewiswch ‘More’ ar yr ochr chwith, o dan ‘Profile’, neu dewiswch eich eicon ar yr ochr dde uchaf ar ddyfais symudol
    • dewiswch ‘Settings and Support’ a phwyso ‘Settings and privacy’ o’r naidlen
    • dewiswch ‘Privacy and safety’ yn y gosodiadau ac yna ‘Audience and tagging’
    • dewiswch ‘Protect your posts’ a thoglo ‘Photo tagging’ i ffwrdd. Bydd yn toglo o las i lwyd i ddangos ei fod wedi’i ddadactiadu
  • Mae gan X bob math o osodiadau diogelwch er mwyn helpu i reoli rhyngweithio a chynnwys, gan gynnwys diffodd nodweddion penodol a defnyddio hidlyddion ar gynnwys. Mae modd anfon post gyda'r data lleoliad ynghlwm yn awtomatig, a all gael ei ddefnyddio i olrhain union leoliad y defnyddiwr. Mae lleoliad trydariad wedi ei analluogi yn ddiofyn. Mae gan X opsiwn i reoli pwy sy'n gallu tagio defnyddiwr mewn ffotograffau hefyd.

    I alluogi negeseuon uniongyrchol a’r gallu i ddarganfod:

    • dewiswch ‘More’ ar yr ochr chwith, o dan ‘Profile’, neu dewiswch eich eicon ar yr ochr dde uchaf ar ddyfais symudol
    • dewiswch ‘Settings and Support’ a phwyso ‘Settings and privacy’ o’r naidlen
    • dewiswch ‘Privacy and safety’ yn gosodiadau ac yna ‘Direct messages’
    • o dan 'Direct messages', dad-diciwch y bocs er mwyn rhwystro'ch plentyn rhag derbyn negeseuon preifat
    • o dan 'Discoverability and contacts', dad-diciwch y bocs sy'n caniatáu i ddefnyddwyr gael mynediad i'ch cyfeiriad e-bost neu rif ffôn

    I reoli tagio lluniau:

    • dewiswch ‘More’ ar yr ochr chwith, o dan ‘Profile’, neu dewiswch eich eicon ar yr ochr dde uchaf ar ddyfais symudol
    • dewiswch ‘Settings and Support’ a phwyso ‘Settings and privacy’ o’r naidlen
    • dewiswch ‘Privacy and safety’ yn ‘settings’ ac yna ‘Audience and tagging’
    • dewiswch 'Photo tagging' a thicio'r opsiwn rheoli priodol

    I hidlo'r cynnwys:

    • dewiswch ‘More’ ar yr ochr chwith, o dan ‘Profile’, neu dewiswch eich eicon ar yr ochr dde uchaf ar ddyfais symudol
    • dewiswch ‘Settings and Support’ a phwyso ‘Settings and privacy’ o’r naidlen
    • dewiswch ‘Privacy and safety’ yn ‘settings’ ac yna ‘Content you see’
    • dad-diciwch y bocs sy’n dweud ‘Display media that may contain sensitive content’

    I analluogi gwybodaeth lleoliad:

    • dewiswch ‘More’ ar yr ochr chwith, o dan ‘Profile’, neu dewiswch eich eicon ar yr ochr dde uchaf ar ddyfais symudol
    • dewiswch ‘Settings and Support’ a phwyso ‘Settings and privacy’ o’r naidlen
    • dewiswch ‘Privacy and safety’ yn ‘settings’ ac yna ‘Location information’
    • dad-diciwch ‘Personalise based on places you’ve been’
    • dad-diciwch ‘Personalise based on precise location’

    Mae modd diffodd lleoliad trwy fersiwn bwrdd gwaith X hefyd.

    I ddewis rhwng ‘For you’ a ‘Following’:

    • ewch i’r ‘Home feed’ trwy ddewis yr eicon ty yn y gornel chwith ar waelod y sgrin
    • dewiswch ‘Following’ ar yr ochr dde ar frig y sgrin
  • Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr eraill sy'n eu poeni neu sy'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I gwyno am ddefnyddiwr:

    • ewch i broffil y defnyddiwr yr hoffech chi gwyno amdano a chlicio ar yr eicon tri dot
    • dewiswch 'Report' ac yna un o’r opsiynau a restrir i gwblhau'ch cais

    I flocio defnyddiwr:

    • ewch i broffil y defnyddiwr yr hoffech chi ei flocio a chlicio ar yr eicon tri dot
    • dewiswch 'Block' ac un o'r opsiynau a restrir i gwblhau eich cais

    I dawelu defnyddiwr:

    • ewch i broffil y defnyddiwr yr hoffech chi ei dawelu a chlicio ar yr eicon tri dot
    • dewiswch 'Mute' ac yna un o'r opsiynau a restrir i gwblhau eich cais
  • Gall defnyddwyr X reoli eu gosodiadau hysbysu er mwyn helpu i leihau nifer a math yr hysbysiadau maen nhw'n eu derbyn. Mae rhestr helaeth o opsiynau hysbysu i ddewis ohonynt neu gallwch atal 'Push notifications’.

    I reoli hysbysiadau:

    • ewch i'ch proffil a sgrolio i lawr i 'Settings and privacy'
    • tapiwch ar 'Notifications' yna 'Push notifications' ac ewch drwy'r rhestr o hysbysiadau yr hoffech chi eu stopio neu eu derbyn
  • Dylai defnyddwyr gofiobod dileu cyfrif ar W yn broses 30 diwrnod. Mae’r broses yn cychwyn trwy ddadactifadu cyfrif, sy’n golygu na fydd eich enw defnyddiwr i’w weld ar X. Os bydd defnyddiwr yn mewngofnodi i X yn ystod y cyfnod 30 diwrnod hwn, bydd y broses ddadactifadu’n cael ei chanslo. Hefyd, mae X yn dweud y gallai defnyddwyr fod eisiau lawrlwytho eu data defnyddiwr cyn dadactifadu a dileu’r cyfrif, gan nad oes modd lawrlwytho hwn yn ystod y broses ddadactifadu. Mae X yn dweud hefyd na fydd data’n cael ei ddileu o gyfrifon wedi’u dadactifadu.

    Dylai defnyddwyr wirio’n gyntaf bod unrhyw apiau trydydd parti sy’n defnyddio eu cyfrif X yn cael eu datgysylltu o X, oherwydd gallai hyn amharu ar broses ddadactifadu’r cyfrif a’i ailosod o hyd ac o hyd – oherwydd bod yr ap trydydd parti yn cyrchu cyfrif X y defnyddiwr ac yn ‘mewngofnodi’ ar gyfer y cyfrif hwnnw. Dylai defnyddwyr wirio bod unrhyw wasanaeth tanysgrifio X, fel X Premium neu Super Follows yn cael eu canslo gan na fydd unrhyw beth a brynir trwy ap X yn canslo’n awtomatig wrth ddadactifadu’r cyfrif.

    I ddadactifadu a dileu cyfrif X:

    • ar golofn chwith X, pwyswch y tri dot o fewn cylch ‘…’ â’r label ‘More’
    • dewiswch ‘Settings and Support’ ac yna ‘Settings and privacy’
    • o dan ‘Your account’ chwiliwch am ‘Deactivate your account’ a’i ddewis
    • dewiswch ‘Deactivate’

Tra bod rhywfaint o ansicrwydd ynglŷn â dyfodol X, mae defnyddwyr yn cael eu cynghori i ddiogelu eu cyfrifon. Argymhellir y dylai defnyddwyr gael copi o’u harchif.

I gael copi o’ch archif:

  • ewch i’r ddewislen gosodiadau yn eich proffil a dewiswch ‘More’
  • dewiswch ‘Settings privacy’ a dewiswch ‘Your account’
  • dewiswch yr opsiwn ‘Download archive’

Hefyd, cynghorir defnyddwyr i beidio â dileu eu cyfrifon os nad ydynt yn dymuno defnyddio X bellach, oherwydd y perygl y gall rhywun greu cyfrif ffug o dan eu henw. Yn hytrach dylai defnyddwyr ddefnyddio’r ddewislen gosodiadau a dewis ‘Protect your posts.’

Siaradwch â'ch plentyn am fwlio ar-lein a pha mor bwysig yw ymddwyn yn gwrtais a moesegol ar blatfformau digidol. Gall yr hyn sy'n gallu ymddangos yn ddiniwed o'r tu ôl i fysellfwrdd gael effaith sy'n newid bywyd ar rywun sy'n destun cam-drin neu gywilyddio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae gan X ganllawiau helaeth ar ddiogelwch cyfrif.

Nodwyd achosion lle mae X yn cymryd drosodd cyfrifon er mwyn cael gafael ar eu ‘handles’. Er bod hyn yn anarferol iawn, cofiwch gadw hyn mewn cof wrth greu ‘handle’.