Datganiad hygyrchedd
-
- Rhan o:
- Canolfan Cymeradwyo
Defnyddio'r wefan hon
Mae'r wefan yn cael ei rhedeg gan Lywodraeth Cymru. Rydym eisiau i gynifer o bobl ag sy’n bosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- chwyddo’r sgrin hyd at 300% heb i'r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
- symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig
- symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin
- ymestyn sesiynau â therfyn amser pan fyddwch wedi mewngofnodi
Rydym hefyd wedi ysgrifennu’r testun i fod mor hawdd â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Hygyrchedd y wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o'r wefan yn gwbl hygyrch:
- mae rhai o’r delweddau sydd ar y safle yn cynnwys testun
- mae rhai o’r testunau amgen ar rai delweddau, megis siartiau, graffiau, ffeithluniau a diagramau, yn anghywir neu nid oes testun amgen ar gael o gwbl
- nid oes testun amgen neu ddisgrifiad sain ar gyfer ambell i fideo
- nid oes disgrifiad sain na dewis i gael isdeitlau ar gyfer ambell i fideo sydd â thrac sain
- mae angen rhywfaint o allu synhwyraidd i ddeall neu ryngweithio â rhywfaint o’r cynnwys
- mae rhai o dudalennau'r wefan yn cynnwys penawdau nad ydynt yn ymddangos mewn trefn resymegol
Beth i'w wneud os na allwch gyrchu rhannau o'r wefan hon
E-bostiwch hwb@gov.wales os byddwch eisiau gwybodaeth am y wefan hon mewn fformat gwahanol, megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille. Dywedwch wrthym pa fformat hoffech chi ei gael. Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol, dywedwch pa fath.
Dweud wrthym am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon trwy’r adeg. Os ydych chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â: hwb@gov.wales. Gallwch hefyd gysylltu â ni dros y ffôn neu drwy'r post.
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sydd yn gyfrifol am orfodi'r rheoliadau hygyrchedd. Os ydych yn anfodlon â’n hymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod eu gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018. Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â Safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiynau 2.1 a 2.2, a hynny oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a restrir isod.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Mae'r cynnwys nad yw'n hygyrch wedi'i amlinellu isod, ynghyd â manylion pa feini prawf llwyddiant a fethwyd a'r dyddiadau arfaethedig ar gyfer cywiro’r problemau:
- Chwilio: Mae cynnwys yn cael ei golli neu ei guddio ar gydraniad isel neu mae angen sgrolio mewn 2 ddimensiwn. Y nod yw datrys hyn erbyn hydref 2026.
- Pennyn (header): Mae rhywfaint o'r testun ar y dudalen mewn iaith ar wahân i’r brif iaith, ond nid yw hyn wedi'i farcio yn y cod. Y nod yw datrys hyn erbyn hydref 2026.
- Ar draws y platfform: Mae rhywfaint o’r cynnwys yn newid ar ôl rhoi mewnbwn, a hynny heb hysbysu'r defnyddiwr. Y nod yw datrys hyn erbyn hydref 2026.
- Ar draws y platfform: Arwydd gweledol sydd i ddangos llwyddiant gweithred, ac ni fydd defnyddwyr darllenydd sgrin yn ymwybodol ohono. Y nod yw datrys hyn erbyn hydref 2026.
- Rhwydweithiau: Mae rhai problemau â meingefn y rhaglen. Y nod yw datrys y rhain erbyn hydref 2026.
- Rhestrau chwarae: Mae'r tirnod yn wag ar hyn o bryd. Y nod yw datrys hyn erbyn hydref 2026.
- Digwyddiadau: Ni ellir defnyddio testun dros dro i gadw lle i labelu ffurflenni. Y nod yw datrys hyn erbyn hydref 2026.
- Ar draws y platfform: Mae'r drefn ddarllen ar y platfform yn anghywir neu ddim mewn trefn resymegol. Y nod yw datrys hyn erbyn hydref 2026.
- Aseiniad: Gellid gwella’r testun sydd ar y botwm. Y nod yw datrys hyn erbyn hydref 2026.
- Ar draws y platfform: Nid yw'r ffocws yn symud i’r maes neu’r gwall wrth gyflwyno. Y nod yw datrys hyn erbyn hydref 2026.
- Digwyddiadau: Mae trefn y ffocws yn Digwyddiadau yn anghywir neu ddim yn rhesymegol. Y nod yw datrys hyn erbyn hydref 2026.
- Ar draws y platfform: Mae iaith farcio rhestr yn cael ei defnyddio ar eitemau nad ydynt ar restr. Y nod yw datrys hyn erbyn hydref 2026.
- Gweinyddol: Mae yna rai problemau â meingefn y rhaglen yn yr ardal Weinyddol. Y nod yw datrys hyn erbyn hydref 2026.
Mae'r amserlenni i gywiro'r cynnwys anhygyrch uchod wedi eu hamcangyfrif gan ein cyflenwr presennol ar gyfer platfform Hwb. Dyfarnwyd contract platfform Hwb i gyflenwr newydd ym mis Ionawr 2026, a byddan nhw’n ailddylunio'r platfform Hwb. Fel rhan o ofynion y contract, bydd y cyflenwr yn dylunio ac yn darparu platfform gwe sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac sy'n bodloni safon ddiweddaraf y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG 2.2 AA ar hyn o bryd). Bydd egwyddorion hygyrchedd a dylunio cynhwysol yn cael eu hymgorffori trwy gydol y broses ddatblygu er mwyn sicrhau bod y platfform yn ddefnyddiol i bob un o’i defnyddwyr.
Hygyrchedd Adnoddau
Caiff adnoddau a chynnwys gwybodaeth y platfform hwn eu creu gan ystod eang o gyfranwyr. Rydym yn argymell bod pob cyfrannwr yn cynnal profion hygyrchedd ar eu cynnwys cyn ei lwytho i Hwb. Os gwelwch unrhyw gynnwys nad yw'n bodloni’r gofynion hygyrchedd, dywedwch wrthym a byddwn yn dweud wrth y sawl wnaeth greu’r cynnwys.
Trwy hyrwyddo'r angen i gynnwys fodloni safonau hygyrchedd, ein nod yw sicrhau bod pob cynnwys newydd yn bodloni gofynion hygyrchedd.
PDF a dogfennau eraill
Dylai’r dogfennau newydd a gyhoeddwn i gael mynediad i'n gwasanaethau fod yn gwbl hygyrch. Fodd bynnag, rydym yn gwybod nad yw rhai o'n dogfennau hŷn (a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018) yn hygyrch. Er enghraifft:
- nid yw rhai wedi'u marcio mewn ffordd sy'n caniatáu i ddefnyddwyr darllenydd sgrin eu deall
- nid yw rhai wedi'u tagio'n iawn, er enghraifft, heb gynnwys penawdau priodol
- nid yw rhai wedi'u hysgrifennu mewn iaith syml
Mae rhai o'r rhain yn ddogfennau hanesyddol ac nid ydynt yn hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau. Mae'r mathau hyn o ddogfennau wedi'u heithrio o'r rheoliadau. Ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw gynlluniau i'w gwneud yn hygyrch.
Os byddwch eisiau gwybodaeth o ddogfen o’r fath, cysylltwch â ni a gofynnwch am fformat arall.
Sut wnaethon ni brofi'r wefan hon
Cynhaliwyd y prawf diweddaraf o’r wefan hon ym mis Ionawr 2025. Cynhaliwyd y prawf gan DigInclusion. Rydym yn profi datblygiadau ychwanegol sydd y tu allan i'r adolygiad safle cyfan pan fydd nodweddion newydd gael eu rhyddhau i ddefnyddwyr.
Fe wnaethom brofi cyfuniad o dempledi cynnwys, a'r cymwysiadau canlynol:
- Digwyddiadau.
- Rhwydweithiau.
- Newyddion.
- Rhestrau chwarae.
- Proffil.
- Adnoddau.
- Chwilio.
- Aseiniadau.
Fe wnaethom brofi:
- Ein prif blatfform gwe, ar gael yn hwb.llyw.cymru
Ein gwaith i wella hygyrchedd
Rydym yn gweithio i wella hygyrchedd Gwasanaeth Hwb, gan gyflwyno mesurau i sicrhau bod pob defnyddiwr, waeth beth fo'u gallu, yn gallu ymgysylltu'n llawn a symud o gwmpas y platfform yn rhwydd.
Paratowyd y datganiad hwn ar 16 Medi 2021.
Fe'i diweddarwyd ddiwethaf ar 10 Chwefror 2026.