English

Mae Instagram yn ap cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir i rannu lluniau a fideos yn bennaf, er bod nodweddion eraill yn cynnwys negeseua, ffrydio byw a sgyrsiau fideo. Gellir defnyddio hidlyddion ac offer gwella lluniau eraill i addasu delwedd cyn ei rhannu, ac mae defnyddio hashnodau’n galluogi defnyddwyr i wneud cysylltiadau â'r 1.452 biliwn o ddefnyddwyr eraill ledled y byd. Mae cyfrifon Instagram yn cael eu curadu i raddau helaeth yn aml, gyda delweddau a fideos wedi'u golygu'n helaeth, a defnyddir cyfrifon â nifer mawr o ddilynwyr i ddylanwadu ar ddefnyddwyr eraill trwy farchnata a chymeradwyo cynnyrch.

Erbyn hyn, mae Instagram yn gweithredu ochr yn ochr â Facebook, WhatsApp a Messenger o dan y rhiant gwmni Meta. Mae Meta yn disodli Facebook fel y prif gwmni/brand yn y grwp hwn, ac mae'n debygol y bydd brandio Meta yn dod yn fwyfwy gweladwy ar yr holl apiau hyn.  


Rhaid i ddefnyddwyr Instagram fod yn 13 oed o leiaf. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddulliau gwirio oedran trwyadl ar waith.

Bydd pob defnyddiwr dan 16 oed yn cael cyfrif preifat yn ddiofyn. Dim ond os yw defnyddwyr wedi darparu eu dyddiad geni cywir y bydd y gosodiad diofyn hwn yn cael ei gynnig, gan ddangos eu bod o dan 16 oed. Bydd pob cyfrif arall yn gyfrif cyhoeddus yn ddiofyn.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau ’.


Mae Instagram yn ap cymdeithasol poblogaidd sy'n seiliedig ar rannu lluniau a fideos, sy'n caniatáu i bobl ifanc gysylltu â'u ffrindiau a'u teulu, yn ogystal â dilyn eu hoff enwogion, arweinwyr a dylanwadwyr. Mae'n apelio’n fawr at bobl ifanc, gan fod nifer y bobl sy’n eu hoffi a’u dilyn nhw’n gallu rhoi ymdeimlad o gymeradwyaeth, poblogrwydd a chael eu derbyn. Yn y bôn, mae 'Ffrydiau' Instagram yn gweithredu fel rîl uchafbwyntiau sy'n amlygu'r da ac yn caniatáu i ddefnyddwyr rannu'r fersiynau gorau a mwyaf deniadol ohonyn nhw eu hunain. Er y gallai hyn fod yn niweidiol i'w lles a'u hiechyd meddwl, gall rhyngweithio'n gadarnhaol â'r ap a'r bobl maen nhw'n eu hadnabod trwy ei nodweddion amrywiol fod yn hwyl a rhoi boddhad mawr i bobl ifanc.


  • Y 'Feed' neu ffrwd yw lle mae defnyddwyr yn gallu gweld y postiadau diweddaraf o'r cyfrifon maen nhw’n eu dilyn.

  • Mae hyn yn cyfeirio at y cyfrifon y mae defnyddiwr yn dewis cael y wybodaeth ddiweddaraf amdanyn nhw, lle mae'r cynnwys yn ymddangos yn ffrwd y defnyddiwr.

  • Mae hyn yn cyfeirio at y llun neu'r fideo y mae defnyddiwr yn ei roi ar ei ffrwd neu ar 'Stories'.

  • Mae'r talfyriad hwn yn cyfeirio at ‘Direct messages’ sef negeseuon uniongyrchol y mae modd eu hanfon yn breifat rhwng cyfrifon Instagram.

  • Llun neu fideo yw stori Instagram, y gellir ei lanlwytho i'ch proffil ac sy'n weladwy i ddefnyddwyr eraill am 24 awr cyn diflannu. Fodd bynnag, gellir cadw'r straeon hyn fel 'Highlights', yna byddan nhw’n dal i fod yn weladwy ar y proffil am gyfnod o amser i’w benderfynu gan y defnyddiwr. 

  • Mae'r eicon siâp calon o dan bob postiad yn caniatáu i ddefnyddwyr ei hoffi, gan ddangos eu gwerthfawrogiad o'r llun neu'r fideo i ddeiliad y cyfrif.

  • O dan bob postiad gall defnyddwyr ychwanegu sylw. Gall hyn fod yn ysgrifenedig neu drwy ddefnyddio eiconau o'r enw emojis. Mae modd cyfyngu ar sylwadau yn y ddewislen gosodiadau 'Privacy'.

  • Mae'r nodwedd ffrydio byw hon yn caniatáu i ddefnyddwyr rannu â'u dilynwyr mewn amser real. Pan fyddan nhw’n fyw, gallan nhw wahodd eraill i ymuno â nhw, cyd-gynnal sesiwn fyw, neu dderbyn sylwadau ac emojis.

  • Mae IGTV yn ap annibynnol ac yn ap o fewn Instagram. Mae'n caniatáu i ddefnyddwyr wneud a rhannu fideos hyd at awr o hyd.

  • Mae'r nodwedd hon yn caniatáu i ddefnyddwyr negeseua neu rannu cynnwys yn unigol neu mewn grwpiau, ac mae'n caniatáu i ddefnyddwyr gynnal sgwrs fideo gyda hyd at 4 o bobl.

  • Mae defnyddio hashnod (#) ar bostiad yn caniatáu grwpio pob postiad ar yr un pwnc gan holl ddefnyddwyr Instagram gyda'i gilydd. Yna gall defnyddwyr ddilyn yr hashnodau hyn i chwilio am unrhyw ddiweddariadau ar y pwnc.

  • Mae dylanwadwyr Instagram yn ddefnyddwyr cyfrifon rheolaidd sy'n gallu dylanwadu ar ddefnyddwyr eraill oherwydd eu nifer fawr o ddilynwyr. Defnyddir dylanwadwyr i helpu i farchnata nwyddau’n aml, ond rhaid iddynt nodi 'Ad' neu 'Gifted' yn eu postiadau wrth hyrwyddo brandiau neu eitemau penodol.

  • 'Real Instagram' yw ystyr hyn, sef prif gyfrif defnyddiwr yn aml. Mae’r cyfrif hwn yn cael ei guradu'n helaeth ar gyfer apêl dorfol yn aml, ac mae'n cyfleu persona delfrydol deiliad y cyfrif.

  • Cyfrif 'Fake Instagram' yw ystyr hyn, sy'n ychwanegol at brif gyfrif ac a allai adlewyrchu gwir hunaniaeth defnyddiwr, a dim ond yn cael ei rannu gyda'i gysylltiadau agos iawn. 

  • Nodwedd sy'n caniatáu i ddefnyddwyr wylio a chreu fideos 15 eiliad gyda cherddoriaeth neu synau, y gallant eu rhannu ar eu straeon neu eu proffil. 

  • Mae hyn yn cyfeirio at neges sy’n cynnwys sawl llun a fideo, sy’n gallu cynnwys cerddoriaeth.

  • Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr wahodd hyd at dri ffrind i gyd-awdura neges neu ril stori.

  • Dyma sticer ysgogi y gall crewyr a dylanwadwyr poblogaidd ei ychwanegu at ril. Mae defnyddwyr sydd am ddefnyddio ‘Add yours’ yn cyflwyno ril i’r crëwr sydd wedyn yn gallu dewis eu hoff ril a’i darlledu i’w ffans a’i ddilynwyr.


Un feirniadaeth gyffredin iawn o Instagram yw ei fod yn rhy seiliedig ar ddelwedd. Mae'n fan lle mae llawer o ddefnyddwyr yn treulio amser yn defnyddio effeithiau a hidlyddion i olygu eu lluniau a'u fideos cyn eu rhannu, gan gyfleu delwedd o berffeithrwydd i'r byd. Gall y fath bwyslais ar ddelwedd a statws gael effaith negyddol ar les defnyddwyr, gan arwain at ddiffyg hunan-barch. Hefyd, gall gormod o gysylltiad â chynnwys sydd wedi'i olygu i raddau mawr gael effaith negyddol ar ddelwedd y corff, a gall sgrolio cyson drwy luniau a fideos o bobl eraill sy'n edrych yn wych ac yn cael hwyl fod yn niweidiol i iechyd meddwl. Gall sylwadau negyddol ar luniau a fideos defnyddwyr effeithio ymhellach ar les, gan fod pobl ifanc yn aml yn rhannu eu delweddau i geisio cael cymeradwyaeth defnyddwyr eraill ar y platfform ac yn dileu'r rhai nad ydynt yn cael eu 'Hoffi' rhyw lawer. Siaradwch â'ch plentyn am faint o broffiliau Instagram sydd wedi'u curadu i ymddangos yn berffaith, ond nad ydyn nhw’n adlewyrchiad gwir o'r unigolion na'u bywydau, ac na ddylid ystyried cymeradwyaeth neu ddiffyg cymeradwyaeth drwy ymatebion 'Hoffi' a dilynwyr yn arwydd realistig o harddwch a gwerth fel person.

Mae Instagram yn cynnig adnodd ‘Sensitive content control' sy'n caniatáu i ddefnyddwyr reoli faint o gynnwys sensitif maen nhw'n ei weld yn yr ap. Mae cynnwys sensitif yn cael ei ddiffinio fel cynnwys sy'n mynd yn groes i’r canllawiau a argymhellir gan Instagram, a gall gynnwys cynnwys treisgar neu’n gynnwys o natur rywiol, yn ogystal â chynnwys sy'n hyrwyddo cynhyrchion neu weithdrefnau a all fod wedi’u rheoleiddio. 'Standard' yw gosodiad diofyn y rheolydd hwn, felly argymhellir cynyddu hyn ar gyfer defnyddwyr iau.

Gan fod Instagram yn blatfform mor boblogaidd, gyda dros biliwn o ddefnyddwyr ledled y byd, mae'n bosib bod eich plentyn yn gwneud cysylltiadau â phobl y mae'n eu hadnabod, ond hefyd pobl nad yw'n eu hadnabod. Yn yr un modd â rhwydweithiau cymdeithasol eraill, mae'n bosib i ddefnyddwyr sefydlu cyfrifon ffug, gan esgus bod yn rhywun arall. Anogwch eich plentyn i gwestiynu a yw’n adnabod y person y tu ôl i broffil Instagram mewn gwirionedd cyn cysylltu. Er mwyn amddiffyn pobl ifanc rhag cyswllt digroeso gan oedolion, mae gan Instagram nodwedd sy'n atal oedolion rhag anfon negeseuon uniongyrchol at bobl dan 18 oed sydd ddim yn eu dilyn nhw.  Ni fydd cyfrifon plant o dan 16 oed yn ymddangos yn ‘Explore’, ‘Reels’ neu ‘Accounts suggested for you’ i oedolion sy’n hysbys i Instagram fel pobl sydd wedi arddangos ymddygiad amheus o bosibl.  Siaradwch â'ch plentyn am risgiau cysylltu â dieithriaid, ac eglurwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy ar broffil neu mewn sgyrsiau. Anogwch eich plentyn i ddweud wrthych a ofynnwyd cwestiynau mwy personol neu i sgwrsio'n breifat gan ddefnyddio ap gwahanol.

Mae rhieni a gofalwyr yn gallu defnyddio adnodd goruchwyliaeth rheini pwrpasol Instagram i helpu i ddiogelu eu plentyn ar Instagram. Mae’r adnodd rheolaeth rhieni’n caniatáu i rieni a gofalwyr weld pwy mae eu plentyn yn ei ddilyn ar Instagram, a phwy sy’n dilyn eu plentyn. Dylech siarad â’ch plentyn am ychwanegu elfen goruchwyliaeth rhieni at ei gyfrif. Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn deall mai rhywbeth i helpu i’w gadw’n saff yw hyn, yn hytrach na ffordd o darfu ar ei breifatrwydd. I gael cyfarwyddiadau ar osod goruchwyliaeth rhieni, gweler adran ‘Rheoli rhyngweithio’ y canllawiau hyn.

Mae’r nodwedd ‘Add Yours’ yn caniatáu i grewyr gymell ffans a dilynwyr i gyflwyno riliau. Er mai’r nod yw ennyn rhagor o ymgysylltu rhwng y crëwr a’i ffans, mae’n bosib i rai ei ddefnyddio fel ffordd o gymell codi cywilydd. Gall crewyr nodi pa fath o bethau maen nhw’n chwilio amdanynt, sy’n gallu bod yn dipyn o hwyl neu bechu rhywun. Gan fod ril sy’n cael ei dewis gan grëwr yn cael ei chyhoeddi ac yn gallu cael ei gweld gan ei holl ddilynwyr, gallai cynulleidfa ehangach o lawer weld cynnwys eich plentyn a allai arwain at fwlio ar-lein i rai defnyddwyr, yn dibynnu ar gyd-destun ‘Add Yours’. Dylech siarad â’ch plentyn a’i helpu i osgoi cael ei gymell gan grewyr neu ddylanwadwyr negyddol, oherwydd efallai nad oes ganddynt fwriadau da gyda chyflwyniadau eu dilynwyr.

Mae'r proffil Instagram sy'n cael ei greu gan bobl ifanc i ddangos i'r byd pwy ydyn nhw’n gallu bod yn rhan annatod o'u hymdeimlad o hunaniaeth. Gall defnyddwyr gael eu targedu gyda sylwadau negyddol a gall eu cynnwys gael ei rannu mewn ffyrdd a allai eu bychanu. Gall hyn gael effaith wirioneddol ar iechyd meddwl a lles. Er bod gan Instagram ganllawiau cymunedol ar waith i gyfyngu ar gyswllt niweidiol, nid yw bwlio a throlio ar y platfform yn anghyffredin. Er mwyn cyfyngu ar gysylltiad â sylwadau a chynnwys niweidiol, archwiliwch y gosodiadau preifatrwydd a 'Limits' ar yr ap. Anogwch eich plentyn i siarad â chi os yw'n dioddef bwlio drwy'r platfform, gan sicrhau ei fod yn gwybod sut i flocio a chwyno am ddefnyddwyr sy'n ymddwyn yn amhriodol. Ar bob postiad unigol, gall defnyddwyr guddio'r 'Like count' a diffodd y sylwadau er mwyn atal eraill rhag gwneud sylwadau negyddol, a lleihau'r pwysau i gael nifer uchel o bobl yn hoffi. Gellir galluogi'r nodweddion hyn yn y gosodiadau uwch ar Instagram.

Hefyd, mae'r platfform wedi lansio nodwedd ‘Safety notices', sy'n annog pobl ifanc i fod yn ofalus wrth sgwrsio ag oedolion maen nhw eisoes wedi'u cysylltu â nhw. Bydd y nodwedd hon yn hysbysu pobl ifanc pan fydd oedolyn sydd wedi bod yn ymddwyn yn amheus o bosib yn rhyngweithio â nhw mewn negeseuon uniongyrchol (DMs) gan roi'r cyfle iddyn nhw ei flocio neu gwyno amdano.

Prif risg fasnachol Instagram yw’r defnydd o ddylanwadwyr i hyrwyddo nwyddau neu frandiau. Er bod rhaid i ddylanwadwyr ddatgelu pan fyddan nhw’n cael eu talu i hysbysebu eitem, mae'n bosib y bydd pobl ifanc yn awyddus i'w hefelychu. Gall hyn fod yn berthnasol iawn pan fydd enwogion neu ddylanwadwyr enwog y mae eich plant eisoes yn eu hedmygu, eu gwerthfawrogi a'u dilyn yn perswadio eu dilynwyr i brynu eitem benodol. Siaradwch â'ch plentyn am rôl dylanwadwyr a'u hatgoffa nad ydyn nhw wedi prynu'r holl nwyddau maen nhw’n eu hyrwyddo.

Mae Meta wedi diweddaru ei bolisi hysbysebion a dargedir ar Facebook, sy’n golygu mai dim ond ar sail eu hoed a’u lleoliad, ac nid ar sail eu rhywedd, eu diddordebau na’u gweithgarwch, y gall hysbysebion gael eu targedu at ddefnyddwyr o dan 18 oed. Hefyd, mae defnyddwyr yn gallu rheoli pynciau eu hysbysebion yn ‘Ad preferences’ yn y ddewislen gosodiadau.

Mae Meta yn lansio ‘Meta Verified’ ar gyfer Instagram a Facebook, sef gwasanaeth tanysgrifio sy’n darparu bathodyn glas i ddefnyddwyr i brofi eu dilysrwydd. Efallai y bydd pobl ifanc yn cael eu denu gan fathodyn glas gan ei fod yn gysylltiedig â phoblogrwydd fel arfer. Mae Meta Verified ar gyfer Instagram yn costio £11.99 ar naill ai iOS neu Android. Dylech drafod penderfyniadau ariannol gyda’ch plentyn a’i atgoffa mai ffordd o wneud arian i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol yw tanysgrifiadau, heb gynnig fawr o fanteision i ddefnyddwyr.


  • Bydd gan ddefnyddwyr o dan 18 oed yr opsiwn i wneud eu cyfrif yn gyfrif preifat wrth ei greu am y tro cyntaf, tra bod pob cyfrif arall yn gyfrif cyhoeddus yn ddiofyn. Bydd pobl ifanc sy'n dewis gosodiad cyfrif cyhoeddus yn derbyn hysbysiad yn ddiweddarach yn nodi manteision cyfrif preifat. Mae'n werth gwirio statws cyfrif eich plentyn.

    I osod cyfrif i 'Private’:

    • Ewch i'ch proffil trwy ddewis y botwm cyfrif ar waelod ochr chwith y sgrin.
    • Tapiwch y tair llinell ar frig yr ochr dde a dewis 'Settings'.
    • Dewiswch yr opsiwn 'Privacy' a thoglo'r botwm i 'Private account'.
  • Gall pob deiliad cyfrif reoli pwy sy'n rhoi sylwadau ar ei gynnwys a dileu sylwadau’n gyfan gwbl. Hefyd, gall defnyddwyr osod hidlyddion ar eu sylwadau a fydd yn hidlo unrhyw sylwadau sarhaus neu sylwadau y bwriedir iddynt fwlio neu aflonyddu ar rywun. Hefyd, gall defnyddwyr gyfyngu ar eu rhyngweithiadau digroeso am gyfnod a rheoli faint o gynnwys sensitif sy'n cael ei ddangos iddyn nhw ar y platfform.

    I reoli sylwadau (cyfrifon cyhoeddus yn unig):

    • Ewch i'ch proffil trwy ddewis y botwm cyfrif ar waelod ochr chwith y sgrin.
    • Tapiwch y tair llinell ar frig yr ochr dde a dewis 'Settings'.
    • Dewiswch yr opsiwn 'Privacy' a dewis 'Comments’.
    • Dewiswch pwy i ganiatáu iddyn nhw wneud sylw o'r opsiynau a restrir:
      • Pawb
      • Pobl rydych chi'n eu dilyn a'ch dilynwyr
      • Pobl rydych chi'n eu dilyn
      • Eich dilynwyr
    • Hefyd, gallwch ddewis unrhyw gyfrifon rydych am eu rhwystro yn yr adran hon.

    I reoli sylwadau sarhaus:

    • Ewch i'ch proffil trwy ddewis y botwm cyfrif ar waelod ochr chwith y sgrin.
    • Tapiwch y tair llinell ar frig yr ochr dde a dewis 'Settings'.
    • Dewiswch yr opsiwn 'Privacy' a dewis 'Hidden words’.
    • Yn yr opsiwn 'Offensive words and phrases', toglwch yr opsiwn i 'Hide comments’.
    • Gweithiwch drwy'r gosodiadau sy'n weddill a'u diwygio yn unol â'ch dewisiadau.

    I gyfyngu ar ryngweithiadau digroeso:

    • Ewch i'ch proffil trwy ddewis y botwm cyfrif ar waelod ochr chwith y sgrin.
    • Tapiwch y tair llinell ar frig yr ochr dde a dewis 'Settings'.
    • Dewiswch yr opsiwn 'Privacy' a dewis 'Limits’.
    • Gweithiwch drwy'r opsiynau sydd wedi'u rhestru i ddewis pwy allwch chi ei gyfyngu ac am ba hyd.

    I newid gosodiadau 'Sensitive content control’:

    • Ewch i'ch proffil trwy ddewis y botwm cyfrif ar waelod ochr chwith y sgrin.
    • Tapiwch y tair llinell ar frig yr ochr dde a dewiswch 'Settings'.
    • Dewiswch 'Account' yna dewis 'Sensitive content control’.
    • Dewiswch yr eicon wrth ymyl 'Less' i weld llai o gynnwys a allai beri gofid i chi a dewis 'Confirm’.

    I alluogi goruchwyliaeth rhieni:

    • Ewch i’ch ‘Profile’ trwy ddewis eich eicon afatar ar y gornel dde isaf.
    • Dewiswch y tair llinell yn y gornel uchaf ar y dde a dewis ‘Supervision’.
    • Anfonwch wahoddiad i’ch plentyn gael ei oruchwylio, naill ai’n uniongyrchol o’r ap neu trwy greu dolen a’i hanfon at eich plentyn mewn ap negeseua o’ch dewis.
    • Noder: mae modd gwneud hyn ar ddyfais eich plentyn hefyd, lle mae rhiant neu ofalwr yn derbyn y gwahoddiad i oruchwylio.
  • Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr a allai fod yn eu poeni neu'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I flocio defnyddiwr:

    • Ewch i broffil y defnyddiwr rydych am ei flocio neu gwyno amdano.
    • Dewiswch y ddewislen tri dot yn y gornel dde uchaf.
    • Dewiswch 'Report', 'Restrict' neu 'Block' yn y ddewislen.

    I gwyno am lun neu fideo:

    • Dewiswch y llun neu'r fideo rydych chi am gwyno amdano, naill ai yn eich ffrwd neu ym mhroffil y defnyddiwr.
    • Dewiswch y tri dot wrth ymyl y llun neu'r fideo rydych chi am gwyno amdano.
    • Dewiswch yr opsiwn 'Report'.

    I gwyno am sylw:

    • Dewiswch yr eicon swigen neges o dan y postiad Instagram i weld y sylwadau.
    • Sweipiwch i'r chwith dros y sylw (iPhone) neu tapiwch a dal y sylw (Android) rydych chi am gwyno amdano.
    • Tapiwch yr eicon ebychnod a dewis naill ai 'Spam' neu 'Scam' neu 'Abusive content'.
  • Mae Instagram yn cynnig offer amrywiol i'ch helpu chi a'ch plentyn i ddeall a rheoli amser sgrin. Mae'r nodwedd 'You’ve completely caught up' yn cael ei galluogi'n awtomatig, sy'n hysbysu defnyddwyr pan fyddant wedi gweld yr holl gynnwys cyfoes sydd wedi’i rannu gan bobl maen nhw’n eu dilyn, i helpu i osgoi sgrolio di-ben-draw. Hefyd, mae'r nodwedd 'Take a break' yn atgoffa defnyddwyr i gael seibiant ar ôl sgrolio am gyfnod penodol. Mae modd tawel (quiet mode) yn nodwedd newydd sydd wedi'i hychwanegu ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae'r nodwedd hon yn analluogi hysbysiadau ac yn hysbysu defnyddiwr yn awtomatig sy'n anfon neges bod modd tawel y derbynnydd wedi'i alluogi.

    I osod nodyn atgoffa dyddiol am amser:

    • Ewch i'ch proffil trwy ddewis y botwm cyfrif ar waelod ochr chwith y sgrin.
    • Tapiwch y tair llinell ar frig yr ochr dde a dewis 'Settings'.
    • Dewiswch yr opsiwn 'Your activity' a dewis 'Time' o'r ddewislen uchaf.
    • Dewiswch yr opsiwn 'Set daily time limit’.
    • Dewiswch amser ac yna tapiwch 'Done’.

    Er mwyn galluogi 'Take a break’:

    • Ewch i'ch proffil trwy ddewis y botwm cyfrif ar waelod ochr chwith y sgrin.
    • Tapiwch y tair llinell ar frig yr ochr dde a dewis 'Your activity'.
    • Dewiswch yr opsiwn 'Time spent' a sgroliwch i lawr i 'Set a reminder to take breaks’.
    • Dewiswch amser o'r opsiynau sydd wedi'u rhestru a dewis 'Turn on’.

    I newid gosodiadau hysbysu:

    • Ewch i'ch proffil trwy ddewis y botwm cyfrif ar waelod ochr chwith y sgrin.
    • Tapiwch y tair llinell ar frig yr ochr dde a dewis 'Settings'.
    • Dewiswch yr opsiwn 'Notifications' a thoglo’r opsiwn 'Pause all'.
    • Dewiswch amser o'r opsiynau sy'n cael eu rhoi. Pan fydd yr amser ar ben, bydd hysbysiadau’n dychwelyd i'w gosodiadau arferol.

    I reoli statws gweithgarwch:

    • Ewch i'ch proffil trwy ddewis y botwm cyfrif ar waelod ochr chwith y sgrin.
    • Tapiwch y tair llinell ar frig yr ochr dde a dewis 'Settings'.
    • Sgroliwch i lawr i 'Activity status' a thoglo’r opsiwn 'Show activity status' i ffwrdd.

    I alluogi modd tawel:

    • Ewch i’ch proffil trwy ddewis botwm y cyfrif ar ochr chwith isaf y sgrin.
    • Tapiwch ar y tair llinell ar ochr dde ucha’r sgrin a dewis ‘Settings’.
    • Dewiswch ‘Settings and Privacy’.
    • Dewiswch ‘Notifications’ ac yna ‘Quiet mode’.
    • Toglwch i ‘Quiet mode’ a phennu’r amseroedd yr hoffech ei alluogi’n awtomatig.
  • Gall defnyddwyr ddadactifadu eu cyfrif Instragram, sy’n caniatáu iddyn nhw guddio eu proffil, lluniau, fideos, eu hoffterau a’u sylwadau tan maen nhw’n penderfynu ailactifadu eu cyfrif. Dim ond unwaith yr wythnos y gall defnyddwyr ddadactifadu eu cyfrif, er bod hyd y cyfnod dadactifadu’n benagored ac yn fater i’r defnyddiwr ei hun. Gall defnyddwyr ddewis dileu eu cyfrif hefyd, a fydd yn cael gwared ar broffil, lluniau, fideos, hoffterau, sylwadau a dilynwyr y defnyddiwr, ac yn eu dileu am byth. Mae Instagram yn cynghori defnyddwyr i lawrlwytho copi o’u data Instagram cyn dileu cyfrif, gan na fyddan nhw’n gallu cael gafael ar eu data ar ôl dileu cyfrif.

    I ddileu neu ddadactifadu eich cyfrif Instagram, gwnewch y canlynol drwy’r ap ar ddyfais symudol:

    • Ewch i’ch ‘Profile’ trwy ddewis yr eicon afatar ar y gornel dde isaf.
    • Dewiswch y tair llinell ar gornel dde ucha’r sgrin a dewis y gêr â’r label ‘Settings and Privacy’.
    • Dewiswch ‘Accounts Centre’.
    • Dewiswch ‘Personal details’ yna ‘Account ownership and control’.
    • Dewiswch ‘Deactivation or deletion’.
    • Dewiswch y cyfrif rydych chi am ei ddadactifadu neu ei ddileu.
    • Dewiswch naill ai ‘Deactivate account’ neu ‘Delete account’.
    • Pwyswch ‘Continue’ i ddechrau’r naill broses neu’r llall a dilyn y cyfarwyddiadau.

Mae Instagram yn blatfform poblogaidd, a phan gaiff ei ddefnyddio'n gyfrifol, gall fod yn hwyl. Atgoffwch eich plentyn fod y rhan fwyaf o'r cynnwys sy'n cael ei bostio’n cael ei newid i edrych yn dda ac nad yw'n adlewyrchu bywyd go iawn.

Mae Meta wedi creu canolfan preifatrwydd i'r arddegau bwrpasol er mwyn helpu defnyddwyr yn eu harddegau i reoli eu preifatrwydd ar bob blatfform Meta.

Mae Meta wedi cyhoeddi Canllaw ar Instagram ar gyfer rhieni sy'n darparu gwybodaeth am yr offer diogelwch a'r gosodiadau preifatrwydd diweddaraf.

Mae gan Instagram Ganolfan i Deuluoedd bwrpasol i helpu teuluoedd i lywio profiadau ar-lein gyda’i gilydd.