English

Mae Messenger yn ap negeseua cyfryngau cymdeithasol di-dâl ac mae'n rhan o'r grwp Meta ehangach. Mae Messenger yn galluogi aelodau Facebook i sgwrsio a chynnal galwadau fideo gyda'i gilydd, ac mae dros 1.3 biliwn o bobl ledled y byd yn ei ddefnyddio bob mis. Mae'r platfform yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr greu negeseuon a galwadau grwp neu unigol, lle gallant gyfathrebu trwy destun neu lais, a gallant rannu ffeiliau a phostiadau gyda'i gilydd hefyd. Mae casgliad o effeithiau hwyliog ar gael ar yr ap, megis defnyddio sticeri a GIFs, a nodweddion chwareus eraill yn y nodwedd galwadau fideo. Mae gan Messenger ddetholiad o osodiadau preifatrwydd a 'Parents portal' dynodedig i rieni ei archwilio.

Erbyn hyn, mae Messenger yn gweithredu ochr yn ochr ag Instagram, WhatsApp a Facebook  o dan y rhiant gwmni Meta. Mae Meta yn disodli Facebook fel y prif gwmni/brand yn y grwp hwn, ac mae'n debygol y bydd brandio Meta yn dod yn fwyfwy gweladwy ar yr holl apiau hyn.  


Rhaid i ddefnyddwyr Messenger fod yn 13 oed o leiaf. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ddulliau gwirio oedran trwyadl ar waith. 

Mae cyfrifon Messenger yn gysylltiedig â chyfrifon Facebook ac mae'r gosodiadau cyfrifon ar gyfer Facebook yn berthnasol i Messenger. Ar gyfer deiliaid cyfrif o dan 16 oed, y gosodiadau diofyn yw 'Private’. Mae gan bob cyfrif Facebook arall osodiad cyhoeddus diofyn, ac mae unrhyw ddefnyddwyr eraill ar y platfform yn gallu gweld y cynnwys. Argymhellir dewis gosodiad ‘Private’ ar gyfer cyfrifon Facebook. 

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau ’.


Mae llawer o ffyrdd hwyliog o gysylltu ag eraill trwy'r ap Messenger. Mae defnyddio rhithffurfiau, sticeri a GIFs mewn negeseuon ysgrifenedig yn apelio at ddefnyddwyr iau, tra bod defnyddio effeithiau fideo chwareus yn ystod galwadau fideo’n caniatáu i ddefnyddwyr gael hwyl wrth siarad ag eraill. Mae cyflwyno 'Group effects' i alwadau fideo grwp yn cynnig elfen ychwanegol o hwyl. Mae'r nodwedd hon yn caniatáu i ddefnyddwyr gyflwyno effeithiau grwp cyfan sy'n newid ymddangosiad yr holl gyfranogwyr ar yr un pryd. Mae'r ffaith bod Messenger yn cyd-fynd â chyfrifon Facebook yn ei gwneud hi'n hawdd i bobl ifanc ei ddefnyddio a chysylltu â'u ffrindiau.


  • Dyma'r enw a roddir ar eich rhestr o negeseuon a sgyrsiau o fewn yr ap.

  • Gall defnyddwyr greu grwp yn cynnwys defnyddwyr Facebook eraill.

  • Pan fydd aelodau'n postio neges, gall aelodau eraill o'r sgwrs grwp ymateb i'r neges honno gan ddefnyddio emoji i ddangos eu hymateb.

  • Mae defnyddwyr Messenger yn gallu creu 'ystafelloedd' lle mae nifer o bobl yn gallu cyfarfod ar gyfer sgwrs fideo. Nid oes angen i ddefnyddwyr gael cyfrif Facebook i ymuno ag ystafelloedd agored. Gall defnyddwyr greu ystafelloedd o Messenger, Facebook, WhatsApp ac Instagram.

  • Dyma le gall pawb mewn sgwrs grwp ddefnyddio fideo’n fyw i sgwrsio a defnyddio hidlyddion a chefndiroedd hwyliog.

  • Gall defnyddwyr ddefnyddio nodweddion megis GIFs a sticeri i gyfathrebu. Gallwch greu eich sticeri eich hun trwy dynnu lluniau ohonoch chi'ch hun a'u haddurno.

  • Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr gael rhagolwg o'r neges i benderfynu ydyn nhw eisiau derbyn ac ymateb i'r neges neu ei hanwybyddu. 

  • Yn ogystal ag anfon negeseuon testun ac emojis, gall defnyddwyr anfon GIFs at eu cysylltiadau. Delwedd wedi'i hanimeiddio heb sain yw GIF.

  • Gall defnyddwyr Messenger greu 'Sgyrsiau cyfrinachol' sy'n golygu bod eu negeseuon yn cael eu hamgryptio o'r dechrau i'r diwedd ac na all neb arall eu darllen nhw.

  • Mae hyn yn cyfeirio at atal unrhyw drydydd parti rhag gweld neu ddarllen neges. Dim ond anfonwr a derbynnydd y neges sy'n gallu gweld y cynnwys. Mae amgryptio o'r dechrau i'r diwedd yn golygu bod y neges yn cael ei hamgryptio cyn gadael dyfais yr anfonwr, ac na ellir dadgryptio'r neges nes iddi gyrraedd pen y daith. Mae hyn yn golygu nad yw hacwyr yn gallu cyrchu data ar weinydd oherwydd bod y data wedi'i amgryptio. 

  • O fewn 'Sgyrsiau cyfrinachol', mae defnyddwyr yn gallu gosod terfyn amser. Ar ôl hynny, bydd y neges yn cael ei dileu ac ni fydd modd ei holrhain yn y sgwrs.

  • Gall defnyddwyr bostio lluniau neu fideos sy'n para 24 awr er mwyn i’w ffrindiau eu gweld. 

  • Gall defnyddwyr ddefnyddio hidlyddion camera i olygu eu sgyrsiau fideo. Mae nodweddion yn cynnwys goleuo amrywiol, themâu a chefndiroedd 360 gradd.

  • Mae'r rhain yn brofiadau realiti estynedig newydd sy'n gallu newid ymddangosiad pawb yn yr alwad fideo ar yr un pryd. Mae 70 o effeithiau grwp ar gael, gan gynnwys rhoi nodweddion doniol i'r holl gyfranogwyr.

  • Mae hyn yn caniatáu i eraill weld pan fyddwch chi’n weithredol, fel eu bod yn gwybod pryd y mae’n gyfleus i ffonio neu anfon neges. Gall defnyddwyr ddewis diffodd y nodwedd hon.

  • Mae Meta yn uwchraddio sgyrsiau Messenger yn raddol i ddarparu nodwedd amgryptio o’r dechrau i’r diwedd. Mae hyn yn golygu bod y neges wedi’i hamgryptio cyn gadael dyfais yr anfonwr a’i bod ond yn gallu cael ei dadgriptio ar ôl cyrraedd ei chyrchfan. Mae hyn yn golygu nad yw hacwyr yn gallu cyrchu data ar weinydd. Bydd defnyddwyr yn cael gwybod mewn edefyn sgwrsio unigol pan fyddant wedi’u diweddaru.

  • Mae’r nodwedd hon yn caniatáu i ddefnyddwyr barhau i ddefnyddio Messenger wrth ddefnyddio apiau eraill ar eu dyfais. Bydd ‘Chat head’ naill ai’n dangos y cyswllt neu’r grŵp mae’r defnyddiwr yn siarad ag e.


Fel apiau negeseuon eraill, mae llawer o straeon, negeseuon a lluniau personol yn cael eu rhannu gan ddefnyddwyr ar Messenger nad ydyn nhw’n cael eu cymedroli. Y ffordd orau o reoli'r cynnwys mae eich plentyn yn dod i gysylltiad ag ef yw sicrhau ei fod yn cysylltu â phobl mae'n eu hadnabod yn unig, yn hytrach na dieithriaid. Sicrhewch fod y gosodiadau preifatrwydd wedi'u gosod i 'Facebook friends' yn hytrach na phawb. Mae’n bosib hefyd y gall eich plentyn ddod ar draws cynnwys amhriodol ar ffurf iaith anweddus neu gynnwys aeddfed yn ei negeseuon. Trwy gyfyngu ar bwy gall eich plentyn gysylltu â nhw ar y platfform, bydd eich plentyn yn llai tebygol o brofi iaith neu ymddygiad nad yw'n addas i'w oedran. Fodd bynnag, rhaid cofio y gallai eich plentyn ddod i gysylltiad â chynnwys amhriodol trwy bobl sy'n hysbys iddo.

Gan fod Messenger wedi'i gysylltu â chyfrif Facebook defnyddiwr, mae'n bwysig i'ch plentyn fod yn ymwybodol o'i osodiadau preifatrwydd Facebook i helpu i gyfyngu ar gysylltiadau yn Messenger. Mae gan yr ap nodwedd cais neges os yw unrhyw un nad yw eich plentyn yn ffrindiau ag ef ar Facebook yn ceisio anfon neges ato. Mae hyn yn caniatáu i'ch plentyn weld y neges a phenderfynu a yw am ei derbyn. Os nad yw'r cynnwys yn briodol, gellir ei flocio neu gwyno amdano ar unwaith. Os yw'r defnyddiwr eisoes yn ffrind ar Facebook, fodd bynnag, yna caiff y negeseuon hynny eu derbyn yn uniongyrchol.

Gan fod Messenger yn rhoi mwy o bwyslais ar alwadau fideo yn hytrach na sgyrsiau ysgrifenedig yn unig, mae'n bwysig bod eich plentyn wedi galluogi'r gosodiadau preifatrwydd perthnasol er mwyn rhwystro dieithriaid rhag ei alw. Mae gwybodaeth lawn am osodiadau preifatrwydd a galwadau fideo i'w gweld yn adran 'Rheoli preifatrwydd' y canllaw ap hwn. 

Yn yr un modd â rhwydweithiau cymdeithasol eraill, mae'n bosib i ddefnyddwyr sefydlu cyfrifon ffug, gan esgus bod yn rhywun arall. Anogwch eich plentyn i gwestiynu a yw’n adnabod y person sydd wedi anfon neges mewn gwirionedd cyn ei derbyn. Siaradwch â'ch plentyn am risgiau cysylltu â dieithriaid, ac eglurwch bwysigrwydd peidio â rhannu gwybodaeth bersonol neu breifat mewn sgyrsiau.

Os oes gan eich plentyn ei gyfrif Messenger ei hun, mae'n bwysig eich bod chi'ch dau yn ymwybodol o'r hyn mae'n ei rannu mewn negeseuon a galwadau, a'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar ei ôl troed digidol. Mae cyflwyno ‘Disappearing messages’ a ‘Secret conversations’ yn Messenger yn golygu bod rhai defnyddwyr yn tybio nad ydynt yn atebol am yr hyn maen nhw’n ei rannu ac na fydd modd ei olrhain wedyn. Fodd bynnag, mae angen i bobl ifanc fod yn ymwybodol bod unrhyw gynnwys maen nhw'n ei bostio’n gadael ôl troed digidol. Atgoffwch eich plentyn y gall unrhyw un dynnu ciplun o neges cyn iddi ddiflannu. Siaradwch â'ch plentyn i'w helpu i ddeall beth sy'n briodol a beth sydd ddim yn briodol iddo ei rannu gan drafod y dulliau gwahanol o amddiffyn ei hun. Sicrhewch fod eich plentyn yn gwybod y gall fod yn anodd cadw perchnogaeth ar unrhyw gynnwys ar ôl iddo gael ei rannu ar-lein, gan ei bod yn hawdd ei gopïo a'i ailbostio heb yn wybod iddo. Gall fod yn anodd tynnu'r cynnwys oddi ar y rhyngrwyd wedyn.

Mae opsiynau goruchwyliaeth rhieni ar gael ar ap Messenger erbyn hyn, sy’n cynnwys pob math o nodweddion i rieni a gofalwyr – gan gynnwys y gallu i weld faint o amser mae eu plentyn yn ei dreulio ar Messenger, pwy mae eu plentyn yn ei ychwanegu fel cyswllt ar Messenger, pwy sy’n anfon neges at eu plentyn, a gosodiadau preifatrwydd a diogelwch eu plentyn ymhlith nodweddion eraill. Dylech siarad â’ch plentyn am alluogi goruchwyliaeth. Efallai ei bod hi’n bwysig pwysleisio mai pwrpas goruchwyliaeth rhieni yw gofalu bod eich plentyn yn ddiogel ar Messenger ac er mwyn osgoi cynnwys anaddas neu ofidus – nid amharu ar breifatrwydd eich plentyn.

Yn yr un modd â llawer o apiau negeseua eraill, fe'i cynlluniwyd i gadw diddordeb defnyddwyr a’u cadw ar y platfform am gyfnodau estynedig. Gall fod yn anodd i blant wrthsefyll yr hysbysiadau sy'n eu hannog i ymateb. Anogwch eich plentyn i gael seibiant o Messenger drwy alluogi'r nodwedd 'Do not disturb', a fydd yn atal pob hysbysiad am gyfnod penodol o amser. 

Efallai y bydd yr elfen ‘Chat head’ yn denu pobl ifanc i ymwneud mwy â’r ap neu sgwrs trwy ddangos â phwy maen nhw’n siarad, hyd yn oed wrth ddefnyddio apiau eraill. Er bod hwn wedi’i analluogi’n ddiofyn, mae modd ei alluogi yng ngosodiadau’r ap. Fe’ch cynghorir i beidio â galluogi’r gosodiad hwn fel nad yw’ch plentyn yn defnyddio gormod o’r nodwedd hon. Os yw’ch plentyn wedi galluogi ‘Chat head’, dylech ei annog i’w analluogi i gadw rheolaeth ar ei amser personol ac osgoi’r pwysau i ddefnyddio’r ap. Mae canllawiau ar sut i analluogi ‘Chat head’ ar gael yn adran ‘Rheoli rhyngweithio a chynnwys’ y canllawiau hyn.


  • Gan fod Messenger wedi'i gysylltu â chyfrif Facebook defnyddiwr, mae llawer o'r gosodiadau preifatrwydd wedi'u gosod yn y cyfrif Facebook ei hun. Fodd bynnag, gallwch gyrchu rhai o'r gosodiadau preifatrwydd hyn trwy'r ap Messenger.

    I reoli gosodiadau preifatrwydd:

    • Dewiswch eich llun proffil a sgroliwch i lawr i 'Privacy' a dewis 'Message delivery'.
    • Ar gyfer yr opsiwn 'Friends of friends', dewiswch 'Message requests'.
    • Ar gyfer yr opsiwn 'Others on Facebook', dewiswch 'Don't receive requests'.
  • Mae yna ychydig o osodiadau i helpu i reoli rhyngweithiadau a chynnwys. Sicrhewch eich bod wedi gosod y gosodiadau preifatrwydd perthnasol i gyfyngu ar bwy all anfon neges atoch. Gallwch anwybyddu negeseuon gan ddefnyddwyr unigol a chyfyngu ar bwy all weld eich straeon.

    I osod 'Story audience’:

    • Dewiswch eich llun proffil a sgroliwch i lawr i 'Privacy' a dewis 'Story audience'.
    • Sicrhewch fod y gosodiad wedi'i osod ar 'Friends' yn hytrach na 'Public'.

    I 'Restrict' defnyddiwr arall:

    • Dewiswch y sgwrs rydych chi am ei hanwybyddu a chlicio ar enw'r defnyddiwr ar y brig.
    • Sgroliwch i lawr i 'Restrict’.
    • Bydd hyn yn rhoi'r opsiwn o weld llai o'r unigolyn heb ei flocio.
    • Er mwyn galluogi, dewiswch 'Restrict’.

    Er mwyn 'tewi' defnyddiwr arall gan ddefnyddio ‘mute’ (cyfyngu ar hysbysiadau o'r sgwrs honno):

    • Dewiswch y sgwrs rydych chi am ei thewi a chliciwch ar enw'r defnyddiwr ar y brig.
    • Ar y brig, dewiswch yr eicon tewi er mwyn tewi'r sgwrs hon.
    • Byddwch yn cael yr opsiynau tewi canlynol:
      • Hysbysiadau negeseuon
      • Hysbysiadau galwadau
      • Hysbysiadau negeseuon a galwadau

    I analluogi ‘Chat head’:

    • Dewiswch y tair llinell ar y gornel chwith uchaf.
    • Dewiswch yr olwyn gocos yng nghornel dde uchaf y naidlen.
    • Sgroliwch lawr i ‘Chat heads’ a diffodd y togl. Bydd hwn yn newid o las i lwyd i ddangos ei fod wedi’i analluogi.

    I alluogi goruchwyliaeth rhieni:

    • Dewiswch y tair llinell ar y gornel chwith uchaf.
    • Dewiswch yr olwyn gocos yng nghornel dde uchaf y naidlen.
    • Dewiswch ‘Supervision’.
    • Dewiswch ‘Create invitation’. Gall pobl ifanc wahodd eu rhieni i oruchwylio, neu gall rhieni wahodd eu plant i gael eu goruchwylio.
  • Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr a allai fod yn eu poeni neu'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I gwyno am ddefnyddiwr:

    • Dewiswch neges gan y defnyddiwr rydych am gwyno amdani a dewis enw'r defnyddiwr ar y brig.
    • Sgroliwch i lawr i 'Report' a dewis y broblem i gwyno amdani o'r opsiynau sydd wedi'u rhestru.

    I flocio defnyddiwr:

    • Dewiswch neges gan y defnyddiwr rydych chi am ei flocio a dewis enw'r defnyddiwr ar y brig.
    • Sgroliwch i lawr i 'Block' a dewis 'Block messages and calls’.
    • Nodwch: mae gennych yr opsiwn yma i'w flocio ar Facebook hefyd.

    I gwyno am neges:

    • Dewch o hyd i'r neges rydych am gwyno amdani.
    • Pwyswch a daliwch ar y neges nes bod adweithiau ac opsiynau eraill yn ymddangos o dan y neges.
    • Dewiswch 'More' a dewis 'Report’.
  • Mae yna nodweddion cyfyngedig i helpu i reoli amser a phryniannau yn Messenger. Gall defnyddwyr reoli eu gosodiadau hysbysu i helpu i gyfyngu ar amser sgrin ac analluogi eu statws gweithgareddau.

    I reoli gosodiadau hysbysu

    • Dewiswch eich llun proffil a sgroliwch i lawr i 'Notifications and sounds'.
    • Toglwch yr opsiwn 'Show previews' i ffwrdd.
    • Toglwch yr opsiwn 'New friend notification' i ffwrdd.
    • Dewiswch 'Do not disturb' a dewis opsiwn o'r amserau a restrir. Bydd hyn yn tewi pob hysbysiad am y cyfnod amser a ddewiswyd.

    I analluogi  ‘Activity status’

    • Dewiswch eich llun proffil a sgroliwch i lawr i 'Activity status’.
    • Toglwch yr opsiwn 'Show when you're active' i ffwrdd.
  • Mae defnyddwyr Messenger yn gallu dadactifadu neu ddileu eu cyfrif Messenger. Mae Meta yn dweud mai rhywbeth dros dro yw dadactifadu, a bod defnyddwyr yn gallu ailactifadu eu cyfrif pryd bynnag yr hoffent. Bydd cyfrif wedi’i ddadactifadu yn ymddangos fel pe bai wedi’i ddileu i ddefnyddwyr eraill Messenger, gan na fyddant yn gallu gweld enw na lluniau’r cyfrif sydd wedi’i ddadactifadu. Neu, gall defnyddwyr ddileu eu cyfrif yn barhaol – does dim modd ei adfer wedyn meddai Meta. Hefyd, dylai defnyddwyr gofio y byddai naill ai dadactifadu neu ddileu eu cyfrif Messenger yn gwneud yr un peth i’w cyfrif Facebook os defnyddiwyd y naill i gofrestru â’r llall.

    I ddadactifadu eich cyfrif Messenger:

    • Dewiswch y tair llinell ar draws ‘☰’ a dewis yr eicon olwyn gocos o’r naidlen.
    • Sgroliwch i lawr a dewis ‘Accounts Centre’.
    • Dewiswch ‘Personal Details’.
    • Dewiswch ‘Account ownership and control’ ac yna ‘Deactivation or deletion’.
    • Dewiswch eich cyfrif Facebook/Messenger.
    • Dewiswch 'Deactivate account’. Teipiwch eich cyfrinair a dilyn y cyfarwyddiadau wedyn.

    I ddileu eich cyfrif Messenger:

    • Dewiswch y tair llinell ar draws ‘☰’ ac yna’r olwyn gocos o’r naidlen.
    • Sgroliwch i lawr a dewis ‘Accounts Centre’.
    • Dewiswch ‘Personal Details’.
    • Dewiswch ‘Account ownership and control’ ac wedyn ‘Deactivation or deletion’.
    • Dewiswch eich cyfrif Facebook/Messenger.
    • Dewiswch 'Delete account’. Teipiwch eich cyfrinair a dilyn y cyfarwyddiadau.

    I ddileu eich cyfrif Messenger heb broffil Facebook:

    • Dewiswch eich llun proffil ar y gornel chwith uchaf.
    • Dewiswch ‘Account settings’
    • Sgroliwch lawr i ffeindio ‘Delete your account and information’.
    • Teipiwch eich cyfrinair a phwyso ‘Submit’.

Bydd bod yn ymwybodol o osodiadau a ffrindiau diweddaraf eich plentyn ar Facebook yn helpu i reoli ei breifatrwydd a'i ryngweithiadau yn Messenger, am fod y ddau gyfrif yn gysylltiedig.

Mae Meta wedi creu canolfan preifatrwydd i'r arddegau bwrpasol er mwyn helpu defnyddwyr yn eu harddegau i reoli eu preifatrwydd ar bob blatfform Meta.

Mae gan Facebook 'Borth rhieni' dynodedig sy'n werth ei archwilio i ddysgu rhagor am Facebook a Messenger.