English
Gwybodaeth

Ymwadiad

Mae tirwedd deallusrwydd artiffisial (AI) yn newid yn gyflym. Oherwydd amlder uchel newidiadau yn y gofod hwn, mae angen i chi fod yn ymwybodol bod y canllaw ap ChatGPT hwn yn gywir fel ag y mae ym mis Gorffennaf 2023.

Sgwrsfot a ddatblygwyd gan OpenAI yw ChatGPT. Cafodd ei lansio ym mis Tachwedd 2022 ac mae ar gael ar ei wefan neu o’r Apple App Store. Mae ChatGPT yn defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i ffurfio ymatebion a chyfathrebu â defnyddwyr. Gall defnyddwyr ddefnyddio ChatGPT i gynhyrchu cynnwys, megis gofyn iddo ysgrifennu stori fer neu draethawd, creu cod cyfrifiadur, neu gynorthwyo gyda thasg a wna’r defnyddiwr. Mae ChatGPT yn amlwg iawn ar X (a elwir gynt yn ‘Twitter’) ac YouTube, ac mae cymunedau o selogion ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol fel Reddit a TikTok. Mae ChatGPT hefyd yn cael sylw sylweddol gan ddarparwyr newyddion rhyngwladol blaenllaw. Ar hyn o bryd, mae ChatGPT yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio, er ei bod yn ofynnol i ddefnyddwyr greu cyfrif cyn gallu gwneud hynny. Mae fersiwn premiwm o ChatGPT hefyd, am dâl tansygrifio misol.


Y cyfyngiad oedran lleiaf ar gyfer defnyddwyr ChatGPT yw 13, fodd bynnag, nid yw’n ymddangos bod ganddo unrhyw ddulliau dilysu oedran trwyadl.

Mae defnyddwyr o dan 13 oed yn cael eu hatal rhag cofrestru ar gyfer ChatGPT a defnyddio ei wasanaethau, ar yr amod bod y dyddiad geni cywir yn cael ei gofnodi.

Mae defnyddwyr dan 18 oed angen caniatâd rhiant neu ofalwr i ddefnyddio’r ap.

Nid oes unrhyw wahaniaethau o ran cynnwys na gallu defnyddio platfform i ddefnyddwyr o dan 18 oed.


Mae llawer o blant a phobl ifanc eisoes yn ymgysylltu â sgwrsfotiaid AI ar ystod o apiau a phlatfformau – er enghraifft Snapchat, sydd wedi integreiddio’r GPT3 (Model Iaith Mawr AI a gynhyrchwyd gan Open AI) i greu ei sgwrsfot ei hun ar blatfform Snapchat.

Mae ChatGPT ei hun yn ap sy’n dod i’r amlwg ymhlith plant a phobl ifanc. Mae sgwrsfotiaid AI, fel ChatGPT, yn boblogaidd gyda defnyddwyr iau ar y cyfan oherwydd eu gallu i ddarparu gwybodaeth sydyn am ystod di-ben-draw o bynciau, yn ogystal â’u rhyngwyneb cyfeillgar a sgyrsiol.

Mae rhai pobl ifanc yn hoffi defnyddio ChatGPT i helpu i ddadansoddi ac ailwampio eu CV neu lythyr eglurhaol ar gyfer eu swyddi cyntaf. Mae pobl ifanc eraill wedi defnyddio ChatGPT fel tiwtor ar gyfer cysyniadau penodol, megis dysgu sut i godio. Mae hefyd yn bosibl defnyddio’r ap i gael gafael ar wybodaeth sylfaenol am bwnc, fel digwyddiad hanesyddol, cyn chwilio yn rhywle arall am ragor o wybodaeth. Ar y llaw arall, efallai y bydd pobl ifanc yn ceisio defnyddio ChatGPT fel cyfrwng creadigol i ddatblygu syniadau am straeon neu gymeriadau.

Mae ChatGPT wedi bod yn ddadleuol gan fod rhai pobl ifanc wedi ei ddefnyddio i gwblhau eu gwaith ysgol. Yn ogystal, mae rhai pobl ifanc wedi ymgynghori â ChatGPT am gyngor lles meddwl, yn groes i argymhellion OpenAI.


  • Talfyriad o ‘deallusrwydd artiffisial’ sy’n cyfeirio at allu cyfrifiadur neu beiriant i efelychu deallusrwydd dynol.

  • Robot sgwrsio yw sgwrsfot, ac mae’n fath o AI sy’n prosesu gwybodaeth drwy gyfleuster sgwrsio.

  • Y fersiwn premiwm o ChatGPT y mae’n rhaid talu amdano, sy’n caniatáu mynediad cyson mwy neu lai i ChatGPT a’r gallu i ddefnyddio ategion.

  • Mae ategion yn ddarnau o feddalwedd a ddatblygwyd gan drydydd partïon sy’n galluogi nodweddion ychwanegol ar gyfer ChatGPT, er enghraifft, y gallu i ddod o hyd i fwyty neu gyfrifo calorïau pryd o fwyd.

  • Mae cynnwys yn cyfeirio at unrhyw destun sydd yn cael ei ysgrifennu gan ChatGPT.

  • Mae’r ‘GPT’ yn ChatGPT yn dalfyriad o ‘generative pre-trained transformer’, ac mae’n cyfeirio’n gyffredinol at allu AI i ffurfio ymateb i ddefnyddiwr.

  • Mae rhithweledigaeth (hallucination) yn cyfeirio at ffaith anghywir sydd wedi ei chreu gan ChatGPT.

  • Mae adborth haptig yn cyfeirio at allu ChatGPT i gynhyrchu hysbysiad drwy beri i ddyfais symudol ddirgrynu. Mae’r dirgryniad hwn yn digwydd pan fydd yr ymateb yn cael ei bostio yn y sgwrs ar yr ap, yn hytrach na fel rhybudd neu hysbysiad a fyddai’n ymddangos ar ddyfais pan nad ydych yn defnyddio’r ap.

  • Mae hanes yn cyfeirio at gofnodion o sgyrsiau blaenorol sy’n cael eu cadw gan ChatGPT.

  • Mae Model Iaith Mawr neu ‘LLM’ yn algorithm sydd wedi’i hyfforddi gyda swm mawr o ddata sy’n ysgrifennu brawddegau yn seiliedig ar ragfynegi pa eiriau fyddai’n mynd gyda’i gilydd fel arfer wrth fynegi syniad.

  • Neges annog yw’r geiriau sy’n cael eu teipio gan y defnyddiwr ar gyfer ChatGPT, fel cwestiwn.

  • Mae peirianneg annog yn cyfeirio at greu cyfres o negeseuon annog gyda’r pwrpas o dorri un neu fwy o fesurau diogelu ChatGPT i drafod pwnc neu gyflawni cais y mae fel arfer wedi’i wahardd rhag ei drafod neu ei gyflawni.

  • Mae hyfforddiant yn cyfeirio at gasglu data sgwrsio a’i ddefnyddio i ‘hyfforddi’ ChatGPT wrth ddarparu gwell ymatebion.


Mae’r holl gynnwys sy’n cael ei gynhyrchu ar ChatGPT wedi’i sbarduno gan ddefnyddwyr, sy’n golygu mai dim ond cynnwys maen nhw wedi gofyn i’r ap ei rannu gyda nhw fydd defnyddwyr yn ei weld. Os oes gan blentyn ddiddordeb mewn cynnwys niweidiol (oherwydd eu bod yn agored i niwed mewn ffyrdd eraill, efallai) ac yn chwilio amdano ar yr ap, mae risg ynghlwm wrth hynny oherwydd bod y mesurau diogelu i’w atal rhag dod o hyd i gynnwys o’r fath yn brin. Mae gan ChatGPT fesurau diogelwch cyfyngedig ar waith i’w atal rhag trafod ystod o bynciau a allai fod yn amhriodol, megis sgyrsiau erotig, gweithgareddau anghyfreithlon a gweithgareddau niweidiol. Er gwaetha’r mesurau diogelu sydd ar waith, ni ddylid dibynnu arnyn nhw yn llwyr, gan fod defnyddwyr wedi gallu dod o hyd i ffyrdd o dorri’r mesurau diogelu hyn a’u rhannu. Siaradwch â’ch plentyn am y risgiau o ddefnyddio ChatGPT fel ffynhonnell wybodaeth, yn enwedig o ran pynciau a allai fod yn anaddas neu’n niweidiol. Anogwch eich plentyn i siarad â chi neu oedolyn dibynadwy arall os yw’n darllen rhywbeth ar ChatGPT sy’n peri gofid.

Ar fersiwn ar-lein ChatGPT, mae OpenAI yn cynnig ymwadiad sy’n nodi y gallai gynhyrchu gwybodaeth anghywir o bryd i’w gilydd. Fodd bynnag, nid yw’r ymwadiad hwn ar gael i ddefnyddwyr yr ap. Pan fydd defnyddiwr yn cyflwyno cais, mae’r dechnoleg AI yn casglu gwybodaeth am bwnc o ddeunydd cyfredol sydd eisoes ar-lein ac yn ei chrynhoi mewn fformat cynhwysfawr a darllenadwy. Ni all y dechnoleg AI sy’n cael ei defnyddio ar ChatGPT wahaniaethu rhwng gwybodaeth ffeithiol gadarn a gwybodaeth ffug, felly mae perygl y gallai fod yn cyflwyno gwybodaeth anghywir. Mae’n bosibl y gallai ChatGPT gynhyrchu camwybodaeth am bwnc penodol. Mae hyn yn golygu y gall plant a phobl ifanc fod mewn perygl o dderbyn gwybodaeth ffug neu gamarweiniol am bwnc penodol. Yn yr un modd, gallai defnyddwyr fod yn agored i fathau o dwyllwybodaeth, gwybodaeth ffeithiol anghywir sy’n cael ei chreu a’i rhannu gyda’r bwriad o dwyllo’r darllenydd. Ar hyn o bryd, nid yw ChatGPT yn rhannu ei ffynonellau gwybodaeth gyda defnyddwyr, felly gall fod yn anodd sefydlu pa mor ddibynadwy yw’r wybodaeth y mae’n ei darparu. Dylai rhieni a gofalwyr nodi nad yw’r wybodaeth sy’n cael ei chynhyrchu gan ChatGPT yn cael ei sicrhau am ansawdd, ac nad yw ffynonellau gwybodaeth yn cael eu gwirio. Dylid nodi hefyd nad yw ChatGPT yn gallu cyrchu unrhyw ddata a gyhoeddwyd ers mis Medi 2021. Ni fydd cyfeiriad o reidrwydd at wybodaeth neu bethau sydd wedi digwydd ers y dyddiad hwnnw. Siaradwch â’ch plentyn ynglŷn â sut i adnabod camwybodaeth a gwirio ffeithiau maen nhw wedi eu gweld ar yr ap. Anogwch eich plentyn i siarad â chi os yw wedi bod yn agored i gynnwys ar ChatGPT sydd wedi peri gofid neu ddryswch iddo ef neu hi.

Mae potensial i ddefnyddwyr iau ddod ar draws iaith nad yw’n addas neu’n briodol i’w hoedran o fewn y sgyrsiau. Gall defnyddwyr ofyn i ChatGPT osgoi dweud geiriau neu ymadroddion penodol unrhyw bryd yn ystod sgwrs, a bydd yn ceisio dilyn y cyfarwyddyd hwn gystal ag y mae’n gallu. Er y gall hyn helpu i leihau amlygiad i gysyniadau neu iaith a allai beri dryswch i’ch plentyn, dylai defnyddwyr nodi’r posibilrwydd na fydd ChatGPT bob amser yn llwyddo i hidlo gair neu ymadrodd er gwaethaf y cyfarwyddyd i wneud hynny.

Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl cysylltu ag eraill drwy ChatGPT. Mae hyn yn golygu nad yw defnyddwyr yn gallu rhyngweithio ag unrhyw ddefnyddwyr eraill ar yr ap.

Gall defnyddwyr ddefnyddio ChatGPT i drafod pobl maen nhw’n eu hadnabod mewn bywyd go iawn, er bod defnyddwyr yn cael eu hannog yn fawr i beidio â rhannu manylion personol sensitif am y person hwnnw. Mae ChatGPT yn rhybuddio’r defnyddiwr rhag datgelu manylion personol amdanyn nhw’u hunain neu eraill os ydyn nhw’n yn gwneud hynny mewn sgwrs. Siaradwch â’ch plentyn am bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy ar-lein.

Dylai rhieni a gofalwyr hefyd gynghori eu plant i drin eu sgyrsiau gyda ChatGPT fel sgyrsiau mewn lle cyhoeddus gyda dieithryn. Argymhellir bod rhieni a gofalwyr yn holi eu plant yn rheolaidd am eu sgyrsiau gyda ChatGPT.

Mae nodweddion ChatGPT yn cyflwyno rhai risgiau ymddygiad yn y byd go iawn i ddefnyddwyr iau. Adroddwyd bod rhai pobl ifanc wedi cael eu dal yn defnyddio sgwrsfotiaid AI fel ChatGPT i gynorthwyo gyda gwaith ysgol. Atgoffwch eich plentyn y byddai unrhyw gynnwys a ysgrifennwyd gan ChatGPT a’i gyflwyno fel ei waith ei hun yn cael ei ystyried yn lên-ladrad ac y gallai arwain at ganlyniadau amrywiol yn eu hysgol ac o ran eu dewisiadau gyrfa yn y dyfodol.

Mae risg hefyd y byddai rhai defnyddwyr yn dod yn ddibynnol ar gyflymder ChatGPT a’r wybodaeth y mae’n ei darparu, sy’n cael ei chynnig mewn ffordd glir a chynhwysfawr mewn mater o eiliadau. O’i gymharu ag ymchwilio i bwnc drwy beiriannau chwilio traddodiadol, mae defnyddio ChatGPT yn cynnig atebion i ddefnyddwyr ar unwaith. Er y gallai’r uniongyrchedd sy’n cael ei gynnig gan yr ap ymddangos yn ddeniadol i rai defnyddwyr, mae’n bwysig bod eich plentyn yn deall na all ddibynnu’n unig ar y wybodaeth sy’n cael ei darparu gan ChatGPT. Yn lle hynny, siaradwch gyda’ch plentyn am bwysigrwydd croesgyfeirio’r wybodaeth y mae’r ap yn ei darparu gyda ffynonellau dibynadwy.

Mae’n bwysig bod pobl ifanc yn deall mai adnodd deallusrwydd artiffisial yw ChatGPT a dim byd arall, ac nad oes pobl go iawn yn rhan o’r broses sgwrsio. Mae’r gallu gan ChatGPT i drafod unrhyw bwnc dan haul bron iawn, gan gynnwys cynnig cyngor. Er gwaethaf datganiad OpenAI na ddylid defnyddio’r ap fel ffynhonnell cyngor, mae’n gallu bod yn anodd i berson ifanc ddeall hynny, a lliniaru’r cyngor, yn enwedig os ydyn nhw’n agored i niwed neu mewn argyfwng. Atgoffwch eich plentyn y dylai siarad ag oedolyn neu linell gymorth ddibynadwy bob amser os yw angen cyngor neu gymorth gyda mater trafferthus, ac nad yw sgwrsfot AI yn ddewis amgen addas.

Mae rhyngweithiadau gyda ChatGPT yn cael eu casglu a’u hadolygu gan OpenAI fel data defnyddwyr. Mae OpenAI yn nodi bod hyn er mwyn gwella cywirdeb a gallu ChatGPT. Mae hyn yn golygu y bydd gwybodaeth bersonol sy’n cael ei rannu mewn sgwrs â ChatGPT o bosibl yn cael ei gweld gan ‘hyfforddwyr AI’ dynol ChatGPT.
Atgoffwch eich plentyn am y risgiau ynghlwm wrth ddatgelu gwybodaeth bersonol ar-lein a siaradwch â nhw am oblygiadau rhannu data personol â’r platfform.

Yn wahanol i lawer o apiau eraill, nid oes unrhyw hysbysebion trydydd parti neu hysbysebion wedi’u targedu’n benodol ar ChatGPT. Hefyd, nid yw’r ap yn cynnig cyfleoedd i brynu yn yr ap. Fodd bynnag, mae defnyddwyr yn cael eu hannog i uwchraddio i Plus yn eu sgyrsiau â ChatGPT. Mae ChatGPT Plus yn hysbysebu argaeledd yn ystod cyfnodau o alw mawr, ymateb cyflymach, a blaenoriaeth o ran cael gafael ar nodweddion newydd. Siaradwch â’ch plentyn am sut mae tanysgrifiadau’n gweithio a’u hatgoffa mai strategaeth fusnes yw hon i Open AI wneud arian, yn hytrach na chynnig budd enfawr i ddefnyddwyr.


  • Dylai rhieni a gofalwyr wybod bod data sgwrsio a hanes yn cael eu casglu gan OpenAI i’w ddefnyddio i wella galluoedd ChatGPT. Fodd bynnag, gall defnyddwyr optio allan o ddefnyddio eu data i hyfforddi ChatGPT. Efallai y bydd defnyddwyr eisiau cadw cofnod eu hunain o’u sgyrsiau â ChatGPT, yn ogystal â’r data sy’n cael ei rannu ag OpenAI.

    I optio allan o ddata hyfforddi (bwrdd gwaith):

    • Mewn sgwrs â ChatGPT, dewiswch yr eicon tri dot ar waelod yr ochr chwith.
    • Dewiswch yr eicon gêr gyda’r label ‘Settings’ ac yna ‘Data controls’.
    • Dewiswch ‘Chat history & training’ i analluogi defnyddio hanes sgwrsio ar gyfer hyfforddiant AI. Bydd y botwm yn troi’n llwyd i ddangos hyn.

    I optio allan o ddata hyfforddi (iOS):

    • Mewn sgwrs â ChatGPT, dewiswch yr eicon tri dot ar dop yr ochr dde.
    • Dewiswch yr eicon gêr gyda’r label ‘Settings’ ac yna ‘Data controls’.
    • Toglwch yr opsiwn ar gyfer ‘Chat history & training’ a’i ddiffodd.

    I glirio pob sgwrs (bwrdd gwaith):

    • Mewn sgwrs â ChatGPT, dewiswch yr eicon tri dot ar waelod yr ochr chwith.
    • Dewiswch yr eicon gêr gyda’r label ‘Settings’ a dewiswch ‘General’.
    • Dewiswch y botwm coch gyda’r label ‘Clear’.
    • Pan welwch chi’r neges ‘Clear your conversation history – are you sure?’ pwyswch y botwm gwyrdd gyda’r label ‘Confirm deletion’.

    Neu

    • Mewn sgwrs â ChatGPT, dewiswch yr eicon tri dot ar waelod yr ochr chwith.
    • Dewiswch ‘Clear conversations’ yna’r marc gwirio gyda’r label ‘Confirm clear conversations’.

    I glirio pob sgwrs (iOS):

    • Mewn sgwrs â ChatGPT, dewiswch yr eicon tri dot ar dop ochr dde y sgrin.
    • Dewiswch yr eicon gêr gyda’r label ‘Settings’ ac yna ‘Data controls’.
    • Dewiswch ‘Clear chat history’ ac yna ‘Confirm’ i ddileu pob hanes sgwrsio.

    I allforio eich data (bwrdd gwaith):

    • Mewn sgwrs gyda ChatGPT, dewiswch yr eicon tri dot ar waelod yr ochr chwith.
    • Dewiswch yr eicon gêr gyda’r label ‘Settings’ ac yna ‘Data controls’.
    • Dewiswch ‘Export’ ac yna ‘Confirm export’.
    • Mae data’n cael ei anfon i’r cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd wrth gofrestru’r cyfrif, a gall hynny gymryd peth amser yn dibynnu ar faint o ddata sy’n bresennol.

    I allforio eich data (iOS):

    • Mewn sgwrs â ChatGPT, dewiswch yr eicon tri dot ar dop yr ochr dde.
    • Dewiswch yr eicon gêr gyda’r label ‘Settings’ ac yna ‘Data controls’.
    • Dewiswch ‘Export data’ ac yna ‘Confirm export’.
    • Mae data’n cael ei anfon i’r cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd wrth gofrestru’r cyfrif, a gall hynny gymryd peth amser yn dibynnu ar faint o ddata sy’n bresennol.
  • Nid oes unrhyw osodiadau ar gael i reoli cynnwys a rhyngweithio. Mae ChatGPT wedi ymgorffori hidlwyr ynghylch y pynciau canlynol: gweithgareddau anghyfreithlon, cynnwys rhywiol ar gyfer oedolion, cynnwys cas neu dreisgar, aflonyddu, gweithgareddau niweidiol, gweithgareddau twyllodrus neu gamarweiniol, ymgyrchu gwleidyddol a phreifatrwydd personol. Bydd ChatGPT yn atgoffa defnyddwyr nad yw’n gallu ateb na thrafod gweithgareddau yn y categorïau hyn os yw’r defnyddiwr yn ysgrifennu neges annog sy’n dod o fewn un o’r categorïau hyn. Fodd bynnag, ni fydd ChatGPT bob amser yn canfod a yw defnyddiwr yn trafod bwnc sydd wedi’i flocio.

    I reoli hanes sgwrsio:

    • Ar y dudalen hafan, dewiswch yr eicon tri dot ar dop ochr chwith y sgrin.
    • Dewiswch ‘Settings’ ac yna ‘Data controls’.
    • Toglwch yr opsiwn ar gyfer ‘Chat history & training’ a’i ddiffodd.

     

  • Nid oes unrhyw osodiadau penodol i adrodd neu flocio pobl ar ChatGPT. Gall defnyddwyr roi adborth i neges benodol a ysgrifennwyd gan ChatGPT.

    I roi adborth ar sgwrs (bwrdd gwaith):

    • Ar neges a ysgrifennwyd gan ChatGPT, dewiswch yr eicon ‘bodiau i fyny’ i ddangos bod yr ymateb yn briodol. Mae dewis i ddefnyddwyr nodi beth oedden nhw’n ei hoffi am yr ymateb.
    • Fel arall, dewiswch yr eicon ‘bodiau i lawr’ i ddangos bod yr ymateb yn amhriodol. Mae dewis i ddefnyddwyr nodi beth nad oedden nhw’n ei hoffi am yr ymateb.

    I roi adborth ar sgwrs (iOS):

    • Mewn sgwrs â ChatGPT, dewiswch a dal neges a ysgrifennwyd gan ChatGPT.
    • Dewiswch yr eicon ‘bodiau i fyny’ i ddangos bod yr ymateb yn briodol.
    • Fel arall, dewiswch yr eicon ‘bodiau i lawr’ i ddangos bod yr ymateb yn amhriodol.
  • Nid oes unrhyw nodweddion ar gael sy’n caniatáu i ddefnyddwyr reoli eu hamser ar y wefan. Yn hytrach, archwiliwch y rheolaethau rhieni ar eich dyfeisiau a’ch gwasanaeth band eang unigol, a allai eich galluogi i osod terfynau amser a rheolaethau. Bydd defnyddwyr ChatGPT ar iOS yn teimlo dirgryniadau wrth ddefnyddio ChatGPT.

    I ddiffodd dirgryniadau (iOS):

    • Yn yr ap ChatGPT, tapiwch yr eicon tri dot ar dop yr ochr dde.
    • Dewiswch ‘Settings’ a chwilio am y togl gyda’r label ‘Haptic Feedback’.
    • Toglwch yr opsiwn hwn i ddiffodd dirgryniadau.

    I reoli pryniannau ar ddyfais iOS:

    • Ewch i ‘Settings’> ‘Screen time’ a sgrolio i lawr i ‘Content and privacy restrictions’.
    • Dewiswch ‘iTunes & app store purchases’ ac yna’r opsiwn ‘Don’t allow’.
  • Gall defnyddwyr ddileu eu cyfrif ChatGPT, er y dylai defnyddwyr nodi na fyddan nhw’n gallu ailddefnyddio eu cyfeiriad e-bost neu rif ffôn os ydyn nhw eisiau ddefnyddio ChatGPT eto yn y dyfodol. Bydd yr holl ddata defnyddwyr, fel eu proffil a’u sgyrsiau, yn cael eu dileu os yw’r cyfrif yn cael ei ddileu.

    I ddileu eich cyfrif (bwrdd gwaith):

    • Mewn sgwrs â ChatGPT, dewiswch yr eicon tri dot ar waelod yr ochr chwith.
    • Ewch i ‘Settings’ a dewiswch ‘Data controls’.
    • Dewiswch ‘Delete’ ac yna ‘Refresh login’ i gadarnhau dileu cyfrif.

    I ddileu eich cyfrif (iOS):

    • Yn yr ap ChatGPT, tapiwch yr eicon tri dot ar dop yr ochr dde.
    • Dewiswch ‘Settings’ ac yna ‘Data controls’.
    • Dewiswch ‘Delete account’ i gadarnhau dileu cyfrif.

Mae OpenAI wedi cyhoeddi tudalen cwestiynau cyffredin a allai helpu i ateb cwestiynau eraill am ChatGPT.

Nid oes fersiwn o ChatGPT gyda chefnogaeth swyddogol ar ddyfeisiau Android ar hyn o bryd, er bod OpenAI yn datblygu un. Dylai rhieni a gofalwyr fod yn ymwybodol o apiau sgwrsfot eraill sydd ar gael ar Android sy’n hysbysebu eu hunain fel ChatGPT neu’n ymdebygu i ChatGPT, ond mae’n bosib nad yw’r un mesurau diogelwch a chefnogaeth ar waith â’r fersiwn a ddatblygwyd gan OpenAI.

Yn ogystal, er bod ChatGPT yn adnodd rhad ac am ddim a chyhoeddus sy’n gallu cynorthwyo a sgwrsio â defnyddwyr mewn modd cyfeillgar, dylid nodi mai ei ddiben pennaf yw bod yn adnodd ymchwil, wedi’i gynllunio i ddeall sut mae deallusrwydd artiffisial yn dysgu ac yn rhyngweithio â defnyddwyr dynol. Efallai y bydd rhieni a gofalwyr eisiau trafod ymddygiad moesegol ar-lein gyda’u plant cyn iddyn nhw ddefnyddio ChatGPT.

Mae mwy o wybodaeth am sgwrsfotiaid AI, fel ChatGPT, ar gael yn yr adnodd hwn.