English

Mae Wattpad yn ap adrodd straeon cymdeithasol am ddim sy'n galluogi defnyddwyr i gysylltu ag awduron o bob cwr o'r byd a darllen cynnwys ganddyn nhw, yn ogystal â chreu a rhannu eu straeon gwreiddiol eu hunain.  Gyda thros 90 miliwn o ddefnyddwyr, mae'n blatfform poblogaidd gyda'r rhai sy'n mwynhau darllen ac ysgrifennu, yn enwedig pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc. Mae'r gynulleidfa hawdd ei chyrraedd mae'r platfform yn ei ddarparu yn ei wneud yn blatfform poblogaidd i ddarpar awduron rannu eu cynnwys am ddim i ennill cynulleidfa. Mae straeon poblogaidd a gyhoeddwyd ar Wattpad, fel 'The Kissing Booth' ac 'After', wedi mynd ymlaen i gael eu cyhoeddi a'u haddasu ar gyfer cyfresi teledu a ffilm.

Y sgôr oedran isaf ar gyfer defnyddwyr Wattpad yw 13, ond nid oes gan yr ap unrhyw ddulliau gwirio oedran trylwyr.

Mae wedi cael sgôr oedran o 17+ ar yr Apple App Store a 'Parental guidance' ar Google Play Store.

Mae ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau’ yn cynnwys rhagor o fanylion am hyn.

Mae Wattpad yn apelio at bobl ifanc oherwydd yr amrywiaeth o gynnwys y mae'n ei gynnig a'r cysylltedd y mae'n ei ddarparu. Gall darllenwyr ddewis o dros 20 genre gwahanol ac ymgysylltu â'r awduron a defnyddwyr eraill drwy sylwadau a negeseuon. Mae darpar awduron ifanc yn cael eu denu i'r platfform hefyd gan ei fod yn eu galluogi i rannu cynnwys gyda chynulleidfa fawr am ddim heb ddisgwyliadau. Gall awduron lanlwytho rhannau bach o'u gwaith ar y tro, sy'n eu galluogi i bwyso a mesur yr adborth maen nhw'n ei dderbyn cyn ysgrifennu mwy. Mae'r gwahanol genres sy'n cael eu cynnig ar y platfform yn golygu y gall darllenwyr ac awduron ifanc ddod o hyd i gymuned sydd â diddordebau tebyg iddyn nhw hefyd. Mae rhai awduron ifanc wedi cael llwyddiant drwy'r platfform, gan fynd ymlaen i gael eu gwaith wedi'i gyhoeddi mewn print, sy'n gallu bod yn ysbrydoliaeth i ddarpar awduron eraill. Mae'r platfform yn adnabyddus hefyd am ei 'Fan faction', lle mae awduron amatur yn creu testunau ffuglennol sy'n cynnwys cymeriadau o ddiwylliant poblogaidd.

  • Dyma restr o straeon mae defnyddwyr wedi'u darllen neu yr hoffen nhw eu darllen. Mae'r rhestr hon yn cael ei harddangos yn gyhoeddus ar broffil defnyddiwr a gellir ei defnyddio i wneud cysylltiadau rhwng defnyddwyr ar y platfform.

  • Casgliad o lyfrau neu straeon mae defnyddiwr wedi'u darllen neu'n eu darllen ar hyn o bryd.

  • Gwasanaeth am dâl i ddatgloi rhai llyfrau a straeon, nodweddion a darllen heb hysbysebion.

  • Gall defnyddwyr ddefnyddio'r nodwedd hon i ennill arian o'r cynnwys maen nhw'n ei bostio ar y platfform. Gall defnyddwyr roi 'Coins' i gefnogi eu hoff lyfrau ac awduron.

  • Dyma'r arian yn yr ap ar Wattpad y gall defnyddwyr ei roi i awduron am straeon maen nhw'n eu hoffi. Mae'n rhaid prynu 'coins' gan ddefnyddio arian go iawn.

  • Lle gall defnyddwyr roi sylwadau ar baragraffau ac adrannau o'r llyfr neu'r stori.

  • Lle gall defnyddwyr ddilyn defnyddwyr eraill i weld eu cynnwys diweddaraf.

  • I ddefnyddwyr ddangos eu cefnogaeth i'r awdur.

  • Lle gall defnyddwyr rannu eu straeon neu straeon defnyddwyr eraill ar wahanol blatfformau, fel Facebook.

  • Lle gall y stori gael ei darllen yn uchel i ddefnyddwyr.

  • Nodwedd ar gyfer dod o hyd i straeon mwy penodol.

  • Gall defnyddwyr anfon negeseuon at ddefnyddwyr eraill yn breifat.

  • Yn debyg i hashnodau, mae'r rhain yn categoreiddio cynnwys ar y platfform ac yn caniatáu i ddefnyddwyr chwilio'r tagiau i ddod o hyd i'r math o gynnwys y mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddo. Crewyr sy'n gyfrifol am ychwanegu'r tagiau priodol at eu cynnwys.

  • Mae hyn yn cyfeirio at gategori o straeon sy'n cynnwys straeon erotig, rhamantaidd a pherthynas, ac maen nhw’n cynnwys naratif rhywiol ac iaith amhriodol fel arfer.

  • Ysgrifennu ffuglennol amatur a grëwyd gan gefnogwyr yn seiliedig ar weithiau ffuglen sy'n bodoli eisoes neu ddiwylliant poblogaidd.

  • Mae’r rhain yn ychwanegiadau ar y stori ar ffurf rhaghanesion, dilyniannau, diweddglo gwahanol, neu beth bynnag mae’r awdur am iddynt fod. Maen nhw ar gael trwy dalu am danysgrifiad i’r awdur.

  • Mae Wattpad yn treialu ‘Writer subscriptions’ ar y platfform. Mae’r nodwedd hon yn caniatáu i ddefnyddwyr danysgrifio i gyfrifon awduron penodol i gael mynediad diderfyn ac unigryw at yr holl ddeunydd ychwanegol ar straeon yr awdur am dâl sefydlog bob mis.

Gyda chymaint o gynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr ar gael ar Wattpad, mae'n bosib y bydd eich plentyn yn dod ar draws cynnwys amhriodol. Gallai hyn fod drwy'r straeon eu hunain, ond hefyd drwy enwau proffil, teitlau llyfrau neu straeon a sylwadau defnyddwyr sy’n amhriodol. Mae gofyn i awduron ar y platfform labelu a 'thagio' eu straeon er mwyn helpu darllenwyr i ddod o hyd i straeon y byddai ganddyn nhw ddiddordeb ynddyn nhw.  Gall galluogi'r hidlyddion cynnwys helpu i leihau pa mor aml rydych chi'n agored i gynnwys niweidiol (mae cyfarwyddiadau llawn ar sut i wneud hyn i'w gweld yn adran 'Rheoli rhyngweithio a chynnwys' y canllaw hwn). Fodd bynnag, ni ddylid dibynnu ar hidlyddion cynnwys yn unig fel mesur diogelu, yn enwedig gan fod rhai crewyr yn cam-labelu eu cynnwys, sy'n golygu y gellid dod o hyd i straeon amhriodol mewn genres neu chwiliadau eraill.

Mae Wattpad yn adnabyddus am ei 'Fanfiction', lle mae awduron amatur yn cynhyrchu straeon yn seiliedig ar weithiau ffuglennol sy'n bodoli eisoes neu eu hoff gymeriadau o ddiwylliant poblogaidd. Mae'r straeon hyn yn cael eu creu i'r darllenwyr fyw eu ffantasïau ac maen nhw'n cynnwys naratif hynod rywiol yn aml, yn ogystal â thrais graffig a phynciau sensitif, fel hunan-niweidio weithiau.

Mae genre 'New adult' ar y platfform hefyd, sy’n cynnwys ffuglen erotig, gyda themâu rhywiol ac iaith liwgar. Pan fydd penodau i oedolion yn ymddangos, fel arfer ceir rhybudd ymwadiad am y pynciau sydd wedi'u cynnwys. Fodd bynnag, gall defnyddwyr osgoi'r rhybudd hwn i gael mynediad at y stori. Argymhellir eich bod yn defnyddio'r ap gyda'ch plentyn i sicrhau ei fod yn chwilio am straeon sy'n addas i'w oedran a'i gam datblygu. Gall defnyddwyr alluogi 'Blocked tags' i geisio eu hatal rhag gweld rhai categorïau ond, fel y soniwyd yn flaenorol, ni ddylid dibynnu ar hyn yn unig fel mesur diogelu gan fod rhai crewyr yn cam-labelu eu cynnwys, sy'n golygu y gallai straeon amhriodol lithro drwy'r hidlydd hwn.

Er bod Wattpad yn wahanol i apiau cyfryngau cymdeithasol poblogaidd eraill, mae'n dal i fod yn rhwydwaith cymdeithasol lle mae dros 90 miliwn o ddefnyddwyr yn dod at ei gilydd i rannu, sgwrsio ac ymgysylltu. Er y gall defnyddwyr wneud sylwadau cyhoeddus am y straeon maen nhw wedi'u darllen, gallan nhw siarad yn breifat hefyd gan ddefnyddio'r nodwedd 'Messages' na ellir ei diffodd na'i gwneud yn breifat. Gallai hyn olygu bod eich plentyn yn agored i sgyrsiau preifat gyda phobl nad yw'n eu hadnabod. Siaradwch â'ch plentyn am y risgiau o gysylltu â dieithriaid ac esboniwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy mewn sgyrsiau. Atgoffwch ddefnyddwyr i ddweud wrthych chi os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau personol iddyn nhw ac i riportio unrhyw un sy'n gwneud iddyn nhw deimlo'n anghyfforddus.  

Fel gydag unrhyw fath o gyfryngau cymdeithasol, mae angen i ddefnyddwyr fod yn ymwybodol o sut maen nhw'n ymddwyn ac yn trin eraill ar y platfform. Mae gan Wattpad 'Code of conduct' y mae'n rhaid i bob defnyddiwr gadw ato wrth ddefnyddio'r platfform. Er bod y cysylltedd ar y platfform yn wahanol i fathau eraill o gyfryngau cymdeithasol, mae’n bosib o hyd i ddefnyddwyr fod yn agored i sylwadau neu ymatebion angharedig drwy'r swyddogaethau 'Comment' neu 'Message'.  Yn gyffredinol, gall yr amgylchedd ar-lein leihau empathi rhyngweithio wyneb yn wyneb ac amlygu pobl ifanc i fyd lle gellir gwneud ymatebion, pleidleisiau a sylwadau annymunol yn gyflym heb i'r rhai sy'n postio ystyried eu heffaith. Mae'n bwysig siarad â'ch plentyn am sut mae'n ymddwyn tuag at eraill ar-lein a sut mae'n ymateb i'r cynnwys. Anogwch ef i feddwl am sut y byddai sylw neu bostiad yn gwneud iddo deimlo os mai ef oedd yn ei dderbyn.

Os yw eich plentyn yn ysgrifennu ei gynnwys ei hun ar y platfform, mae'n bwysig i chi ac ef fod yn ymwybodol o'r hyn y mae'n ei bostio a'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar ei ôl troed digidol. Dylech gael sgwrs gydag ef i'w helpu i ddeall beth sydd a beth sydd ddim yn briodol iddo ei rannu. Gofalwch fod eich plentyn yn gwybod y gall fod yn anodd cadw meddiant ar unrhyw gynnwys ar ôl iddo gael ei rannu ar-lein, gan y gall cynnwys gael ei gopïo a'i ail-bostio'n rhwydd heb yn wybod iddo, a gall fod yn anodd ei dynnu oddi ar y rhyngrwyd wedyn.

Mae Wattpad yn wahanol i lawer o blatfformau cyfryngau cymdeithasol eraill gan ei fod yn annog defnyddwyr i dreulio amser yn darllen ac yn ysgrifennu darnau estynedig o ysgrifennu, yn hytrach na darnau byr, tameidiog o destun neu luniau neu fideos. Er y gall y math hwn o ddarllen gael ei annog gan rai rhieni, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol o hyd o faint o amser maen nhw'n ei dreulio ar y platfform a'r cysylltedd y mae'n ei ganiatáu. Siaradwch â'ch plentyn am y peryglon o dreulio gormod o amser ar-lein a'i annog i gymryd seibiannau.  Gellir defnyddio'r gosodiadau hysbysu i helpu i reoli amser ar y platfform ac mae cyfarwyddiadau llawn ar sut i ddiffodd hysbysiadau yn adran 'Rheoli amser a phrynu pethau' y canllaw hwn.

Mae gan Wattpad ei arian ei hun yn yr ap o'r enw 'Coins' y gall defnyddwyr ei ennill, ei brynu a'i ddefnyddio yn yr ap.  Gall defnyddwyr ennill 'Coins' drwy wylio hysbysebion fideo, eu prynu drwy gyfrifon Google neu Apple ac yna defnyddio eu 'Coins' ar Wattpad i ddatgloi 'Paid stories’. Siaradwch â'ch plentyn am brynu pethau yn yr ap i gadarnhau ei fod yn deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i brynu pethau yn yr ap. Gallwch chi osod y gosodiadau prynu pethau yn yr ap perthnasol ar eich dyfais hefyd (mae'r cyfarwyddiadau yn adran 'Rheoli amser a phrynu pethau' y canllaw hwn.)

Mae gan Wattpad opsiwn i uwchraddio am dâl o'r enw 'Premium', sy'n galluogi defnyddwyr i ddatgloi llyfrau newydd a defnyddio'r platfform heb hysbysebion. Mae gan y dudalen hafan opsiwn 'Try Premium' amlwg sy'n annog defnyddwyr i uwchraddio. Hefyd, mae Wattpad yn treialu ‘Writer subscriptions’ am dâl sefydlog bob mis. Gall hyn fod yn apelgar i ddefnyddwyr brwd sydd am ddatgloi mwy o lyfrau. Atgoffwch eich plentyn bod opsiynau uwchraddio a thanysgrifio’n ffordd arall o geisio cadw defnyddwyr ar y platfform a gwneud arian.

  • Nid oes unrhyw osodiadau penodol i wneud cyfrif yn breifat. Fodd bynnag, mae rhai gosodiadau i helpu i reoli preifatrwydd.

    I ddiffodd 'display name’:

    • ewch i'ch proffil a dewiswch yr eicon gosodiadau
    • dewiswch 'Edit profile' a sgroliwch i 'Show display name’
    • symudwch dogl yr opsiwn hwn i'r safle i ffwrdd

    I ddileu eich lleoliad:

    • ewch i'ch proffil a dewiswch yr eicon gosodiadau
    • dewiswch 'Edit profile' a sgroliwch i 'Location’
    • dilëwch eich lleoliad ac yna pwyswch 'Save’
  • Mae rhai opsiynau ar gael i helpu i reoli rhyngweithio a chynnwys ar y platfform. Gall hidlyddion cynnwys a rheoli 'Tags' helpu i gyfyngu ar y cynnwys amhriodol y gallai eich plentyn fod yn agored iddo.

    I alluogi 'Blocked tags’:

    • ar y dudalen hafan, dewiswch yr eicon wrth ymyl eich proffil ar y brig
    • dewiswch 'Blocked tags' a rhestrwch unrhyw dagiau cynnwys yr hoffech chi eu blocio

    I ddiffodd cynnwys aeddfed:

    • ar y dudalen hafan, dewiswch yr eicon wrth ymyl eich proffil ar y brig
    • symudwch dogl yr opsiwn 'Include mature' i'r safle i ffwrdd
  • Gall defnyddwyr riportio a blocio defnyddwyr eraill a all fod yn eu poeni nhw neu'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I riportio stori:

    • chwiliwch am y stori rydych chi am ei riportio a dewiswch y faner ar y brig
    • dewiswch y rheswm pam rydych chi am riportio'r stori o'r opsiynau a roddir:
      • inappropriate content
      • copyright infringement
    • bydd hyn yn agor opsiynau pellach i ddewis o’u plith, lle gallwch chi ychwanegu sylwadau ychwanegol i gefnogi eich cwyn
    • dewiswch 'Report' i gwblhau

    I riportio defnyddiwr:

    • chwiliwch am y defnyddiwr rydych chi am ei riportio a dewiswch yr eicon 3 dot
    • dewiswch 'Report’
    • rhowch eich rheswm dros riportio'r defnyddiwr hwn, gan ychwanegu sylwadau ychwanegol i gefnogi eich cwyn
    • dewiswch 'Report' i gwblhau

    I dawelu defnyddiwr:

    • chwiliwch am y defnyddiwr rydych chi am ei riportio a dewiswch yr eicon 3 dot
    • dewiswch 'Report’
    • yna dewiswch 'mute username’
  • Mae gan Wattpad opsiwn i helpu i reoli hysbysiadau, neu gallwch chi wneud hyn o osodiadau'r ddyfais. Nid oes gosodiadau yn yr ap ar gyfer rheoli prynu pethau, ond gellir rheoli hyn o'r ddyfais.

    I reoli hysbysiadau:

    • ewch i'ch proffil a dewiswch yr eicon gosodiadau
    • dewiswch 'Push notifications' a dad-ddewiswch yr opsiynau perthnasol

    I ddiffodd hysbysiadau ar iOS:

    • ewch i osodiadau'r ffôn a sgroliwch i 'Notifications’
    • chwiliwch am Wattpad a symudwch dogl yr opsiwn 'Notifications' i'r safle i ffwrdd

    I ddiffodd hysbysiadau ar Android:

    • ewch i osodiadau'r ffôn a sgroliwch i 'Notifications’
    • dad-ddewiswch Wattpad o'r opsiynau hysbysu

    I ddiffodd yr opsiwn i brynu pethau yn yr ap ar iOS:

    • ewch i osodiadau'r ffôn > 'Screen time' a sgroliwch i lawr i 'Content and privacy restrictions’
    • dewiswch 'iTunes & App Store purchases' a gosodwch yr opsiwn i 'Don't allow’

    I ddiffodd yr opsiwn i brynu pethau yn yr ap ar Android:

    • ewch i'ch ap 'Google Play Store'
    • dewiswch 'Menu' > 'Settings' > ‘Require authentication for purchases’
  • Mae dileu cyfrif yn golygu y bydd eich holl wybodaeth yn cael ei dileu’n barhaol ac nad oes modd ei hadfer. Mae proses dileu cyfrif yn cymryd 6 mis i gyd, gan ddechrau gydag ‘account closure’. Bydd cau neu ddadactifadu cyfrif yn cuddio holl gynnwys y defnyddiwr a bydd y cyfrif yn cael ei drin fel pe bai wedi’i ddileu. Yn ystod y cyfnod hwn, gall defnyddwyr fewngofnodi i’w cyfrif a’i adfer unrhyw bryd. Ond, os nad yw’r defnyddiwr yn adfer ei gyfrif ar ôl 6 mis, bydd yn cael ei ddileu’n barhaol.

    I ddileu neu ‘gau’ cyfrif Wattpad:

    • dewiswch eich afatar ar gornel dde ucha’r dudalen
    • dewiswch ‘Settings’ o’r naidlen
    • dewiswch ‘Close account’ a all fod ar waelod y dudalen i rai defnyddwyr
    • dewiswch eich rheswm dros gau’ch cyfrif Wattpad a dilyn y cyfarwyddiadau
    • ticiwch y bocs ‘Yes, I’m sure. Please close my account’ a theipio’ch cyfrinair

Mae gan Wattpad Borth Diogelwch dynodedig i helpu i gefnogi defnyddwyr, gan gynnwys rhieni a gwarcheidwaid, i gadw'n ddiogel ar y platfform.