English

Mae BitLife – Life Simulator yn gêm chwarae rôl, rhad ac am ddim, a ddatblygwyd gan Candywriter LLC, sydd ar gael ar Google Play ac Apple App Store. Yn BitLife, gall chwaraewr reoli un neu fwy o gymeriadau o fabandod i henaint. Gydol y gêm, bydd angen i'r chwaraewr reoli pedwar ystadegyn: hapusrwydd, iechyd, deallusrwydd ac edrychiad. Mae nodweddion cefndir y chwaraewr, megis tarddiad cenedlaethol, rhywedd, hil, cefndir teuluol a chyfoeth yn cael eu cynhyrchu ar hap. Wrth i gymeriad y chwaraewr brifio, bydd yn cael cyfle i wneud dewisiadau bywyd, fel mynd i'r brifysgol, dod o hyd i swydd, symud i wlad newydd neu fagu teulu. Er nad oes cost ymlaen llaw i chwarae, mae llu o gyfleoedd i brynu eitemau mewn gêm ac ychwanegiadau mewn gêm. Mae gan BitLife ddilyniant sylweddol ar YouTube a TikTok.


Mae gan BitLife sgôr gêm PEGI o 16.

Mae gan BitLife sgôr o 17+ (Aeddfed) ar Apple App Store a Google Play.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau’’.


Gall BitLife ennyn diddordeb yr arddegau ac oedolion ifanc fel efelychydd bywyd go iawn. Mae'r gallu i greu llu o gymeriadau gwahanol a gwneud penderfyniadau bywyd ar gyfer pob cymeriad yn apelio. Gall y penderfyniadau bywyd hyn amrywio o'u cusan gyntaf, dewis eu llwybr gyrfa, a phenderfynu ai ymfudo i wlad newydd ai peidio. Mae'r gêm yn caniatáu i bobl ifanc ddychmygu eu hunain mewn sefyllfaoedd bywyd gwahanol, yn amrywio o filiwnydd o farwnes o Norwy i seicolegydd addysg o Ethiopia ymhlith posibiliadau di-ben-draw eraill.


  • Dyma lle mae defnyddwyr yn penderfynu ar eu dewisiadau a'u dewisiadau yn y gêm. Er enghraifft, penderfynu ymarfer corff neu ymweld â'r meddyg.

  • Nifer y blynyddoedd mae cymeriad y chwaraewr wedi byw.

  • Mae hyn yn cyfeirio at asedau mewn gêm cymeriad defnyddiwr. Mae'n cynnwys cyllid, buddsoddiadau, eiddo, cerbydau, eiddo, a phresenoldeb cyfryngau cymdeithasol mewn gêm.

  • Dyma dasgau arbennig y gall defnyddwyr eu cwblhau ar gyfer gwobrau o fewn y gêm.

  • Mae hapusrwydd yn dangos pa mor hapus yw cymeriad defnyddiwr. Gall 'Happiness' isel arwain at gymeriadau'n teimlo'n isel ac angen cael mynediad at sefydliad iechyd meddwl mewn gêm. Mae chwaraewyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n hybu hapusrwydd er lles cyffredinol eu cymeriad.

  • Mae hwn yn cyfeirio at ba mor gorfforol iach yw cymeriad defnyddiwr ac mae'n dylanwadu ar ba mor hir mae'r cymeriad yn byw. Gall ymweliadau â'r meddyg a'r gampfa helpu i hybu iechyd.

  • Dyma swydd cymeriad defnyddiwr, y gellir ei newid ar unrhyw adeg.

  • Mae hyn yn cyfeirio at ymddangosiad corfforol cymeriad y chwaraewr ac yn dylanwadu ar anhawster dod o hyd i bartner rhamantus yn ogystal â chael rolau swyddi penodol.

  • Arian cyfred mewn gêm y gall cymeriad chwaraewr ei ddefnyddio i brynu eiddo personol neu dalu biliau a threthi.

  • Mae hyn yn cyfeirio at ddeallusrwydd cymeriad y chwaraewr ac yn dylanwadu ar ei allu i fynd i'r brifysgol a dod o hyd i swyddi.

  • Mae 'Stats' yn cyfeirio at hapusrwydd, iechyd, edrychiad, a deallusrwydd cymeriad defnyddiwr.

  • Mae hyn yn cyfeirio at berthynas cymeriad chwaraewr ag eraill. Mae'r rhain yn cynnwys cysylltiadau rhamantus, platonig a theuluol â chymeriadau eraill yn y gêm.

  • Dyfernir rhuban i chwaraewr pan fydd ei gymeriad yn marw. Mae'r rhain yn cynrychioli llwyddiannau'r cymeriad yn ystod ei oes yn y gêm. Er enghraifft, dyfernir rhuban academaidd ar gyfer cyflawniadau academaidd.

  • Mae hyn yn cyfeirio at sefyllfa lle mae rhywun o'r diwydiant rhyw o fewn cyrraedd cymeriad chwaraewr. Gall chwaraewyr ddewis sut i ymateb, naill ai anwybyddu, dadlau, ymosod arno/arni neu ei ddeisyfu. Gall cymeriadau hefyd ddal clefydau a drosglwyddir yn rhywiol gan gymeriadau o'r diwydiant rhyw.

  • Mae'r nodwedd hon yn caniatáu i ddefnyddwyr chwarae gêm fach ychwanegol o fewn gêm BitLife ei hun. Mae gemau bach yn cynnwys 'Burglary' a 'Felony escape' ymysg eraill. Mae modd analluogi'r nodwedd hon. Ewch i'r adran 'Rheoli rhyngweithio a chynnwys' am fwy o wybodaeth.


Mae'r sgôr PEGI 16 a roddwyd i BitLife yn adlewyrchu'r ystod o themâu a chynnwys oedolion mae chwaraewyr yn debygol o ddod ar eu traws o fewn y gêm. Mae natur y gêm yn golygu bod chwaraewyr yn dewis llwybr eu cymeriad, ac felly'n gwneud penderfyniadau gweithredol am y math o gynnwys maen nhw'n dod ar ei draws. O fewn y gêm, ceir cyfeiriadau at gynnwys rhywiol, megis pornograffi, puteindra, organau cenhedlu a chlefydau a drosglwyddir yn rhywiol. Hefyd, ceir cyfeiriadau at gyffuriau, alcohol a gamblo, yn ogystal â chyfeiriadau sylweddol at droseddau. Gall dewisiadau chwaraewyr hefyd arwain eu cymeriad i gyflawni hunanladdiad. Dylai rhieni a gofalwyr fod yn ymwybodol o'r ystod eang o themâu i oedolion sydd yn y gêm hon ac ystyried a yw'n addas i'w plentyn. Os ydych chi'n dewis caniatáu i'ch plentyn chwarae BitLife, dylech drafod y themâu i oedolion sydd yn y gêm a rhoi cyfle iddo/iddi ofyn unrhyw gwestiynau. Efallai y bydd rhai plant yn ypsetio os yw'r dewisiadau bywyd a wnaethant i'w cymeriad yn arwain at rywfaint o gynnwys mwy gofidus a sgileffeithiau i'w cymeriad. Gofalwch fod eich plentyn yn gwybod y gall siarad â chi am unrhyw beth sy'n peri gofid neu ddryswch yn ystod y gêm.

Mae llawer o gyfeiriadau treisgar o fewn y gêm, gyda rhai’n ysgogi chwaraewyr i gymryd rhan ynddyn nhw. Er enghraifft, os ydyn nhw'n gweld cymeriad yn troseddu, gallant ddewis anwybyddu’r peth, ymosod arnyn nhw neu ymyrryd drwy ffonio'r heddlu. Er mai gêm yw hon, yr holl gysyniad yw efelychu profiadau bywyd go iawn, ac efallai y bydd cymryd rhan mewn opsiynau fel ymosod ar gymeriad yn ddryslyd i rai chwaraewyr. Siaradwch â'ch plentyn am hyn a'i atgoffa am y disgwyliadau ynghylch ei ymddygiad yn y byd go iawn.

Mae'n werth nodi y gall defnyddwyr fewnforio cysylltiadau dyfais fel cymeriadau o fewn y gêm, sy'n debygol o gynnwys ffrindiau a theulu. Er na all chwaraewyr gysylltu â'u cysylltiadau yn y gêm, efallai y byddant yn gweld cymeriadau sy'n seiliedig ar bobl go iawn yn eu bywydau yn efelychu ymddygiad amhriodol, fel gweithredoedd rhywiol neu dreisgar. Efallai y bydd hyn yn ddryslyd i rai chwaraewyr, felly atgoffwch eich plentyn mai dim ond efelychiad o bobl maen nhw'n eu hadnabod mewn bywyd go iawn yw'r gêm hon. Er mwyn osgoi dryswch, ni argymhellir bod cysylltiadau'n cael eu cysoni o fewn y gêm.

Gêm un chwaraewr yw BitLife a does dim modd cysylltu â chwaraewyr eraill. Er hynny, mae BitLife yn annog chwaraewyr i helpu eu cymeriadau i greu cyfrif cyfryngau cymdeithasol, sy'n cael ei wneud drwy anfon testun cyfeirio BitLife at un o gysylltiadau dyfais y defnyddiwr. Nid yw hyn yn orfodol, ond bydd eu cymeriad BitLife yn cael ei gosbi ac yn colli cryn dipyn o 'hapusrwydd' os nad yw'n cofrestru ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Siaradwch â'ch plentyn am y nodwedd hon a sicrhewch ei fod yn deall nad yw'n ofyniad hanfodol i chwarae'r gêm.

Gallai natur y themâu i oedolion sydd mewn gêm BitLife fod yn gryn sbardun i rai chwaraewyr, felly argymhellir bod y gêm hon yn cael ei thrin â gofal mawr. Siaradwch â'ch plentyn am y themâu posib y gallai ddod ar eu traws, gan gadw diddordeb rheolaidd yn y dewisiadau bywyd mae'n ei wneud ar ran ei gymeriad. Anogwch eich plentyn i ystyried ei iechyd meddwl a'i les ei hun wrth chwarae'r gêm hon a'i atgoffa i wahaniaethu rhwng y gêm a bywyd go iawn. Atgoffwch eich plentyn eich bod ar gael i siarad am unrhyw beth yn y gêm sy'n ddryslyd neu'n peri gofid iddo.

Argymhellir bod rhieni a gofalwyr yn siarad â'u plentyn am benderfyniadau priodol ac amhriodol o fewn y gêm ac yn sicrhau ei fod yn gwybod am y disgwyliadau ynghylch ei ymddygiad oddi ar lein.

Mae BitLife wedi'i gynllunio i fod yn gêm symudol gaethiwus a defnyddir hysbysiadau i gadw diddordeb chwaraewyr yn y gêm, yn enwedig pan fyddant wedi bod i ffwrdd o'r gêm am gyfnod. Gall chwaraewyr reoli eu hysbysiadau ar osodiadau eu dyfeisiau. Siaradwch â'ch plentyn am osod terfynau amser chwarae. Atgoffwch eich plentyn fod ei gynnydd wrth chwarae yn cael ei gadw’n awtomatrig, ac nad oes cosbau am ddiffodd yr ap.

Mae sawl cyfle i brynu eitemau mewn ap sy'n cynnig nodweddion premiwm, fel analluogi hysbysebion neu ganiatáu i'r defnyddiwr gymryd rhan mewn heriau a datgloi ategolion. Siaradwch â'ch plentyn am brynu pethau mewn ap a sicrhau ei fod yn deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i brynu'r pethau hyn. Gallwch hefyd osod y gosodiadau prynu mewn ap perthnasol ar eich dyfais a gwneud yn siwr nad yw'r gêm wedi'i chysylltu'n ddiarwybod â'ch cardiau banc na'ch manylion ariannol.  Mae rhagor o wybodaeth ar hyn yn adran 'Rheoli amser a phrynu pethau' y canllaw hwn.

 

  • Does gan BitLife ddim unrhyw opsiynau gosod i reoli preifatrwydd o fewn y gêm. Yn hytrach, argymhellir bod rhieni a gofalwyr yn archwilio'r ddewislen gosodiadau ar ddyfeisiau unigol er mwyn helpu i reoli preifatrwydd.

    I osod i 'Private' ar iOS:

    • Ewch i'r 'Game Centre' yn newislen gosodiadau eich iPhone.
    • Sgroliwch i lawr i ‘Privacy and settings’ a newid eich ‘Profile privacy’ i ‘Only you’.

    I osod i 'Private' ar Android:

    • Ewch i'r ap 'Play games', tapiwch yr eicon dewislen a mynd i 'Settings'.
    • Dewiswch ‘Game profile’ > ‘Play now’ > ‘Your game profile’.
    • Addaswch eich gosodiadau ‘Visibility and notifications’ i'r opsiynau mwyaf preifat.
  • Nid oes gan BitLife swyddogaeth aml-chwaraewr, sy'n golygu na all chwaraewyr y gêm ryngweithio â'i gilydd o fewn y gêm. Gan nad yw BitLife yn cynnwys unrhyw opsiynau gosod i reoli cynnwys, dylai rhieni a gofalwyr archwilio'r ddewislen gosodiadau cynnwys ar ddyfeisiau unigol.

    I reoli cynnwys ar iOS:

    • Ewch i'r ddewislen gosodiadau eich dyfais a sgrolio i 'Content & privacy restriction’.
    • Ewch drwy'r opsiynau i osod y cyfyngiadau cynnwys addas i'ch plentyn.

    I reoli cynnwys ar Android:

    • Ewch i ddewislen gosodiadau ar eich dyfais a sgrolio i ‘Digital wellbeing and parental controls’.
    • Ewch drwy'r opsiynau i osod rheolaethau sy'n addas i'ch plentyn.
    • DS: mae modd rheoli gosodiadau yn adran 'Security and privacy' y ddewislen gosodiadau hefyd.

    I analluogi 'Mini-games’:

    • Ewch i'r brif ddewislen drwy ddewis y symbol cylch gyda thair llinell lorweddol.
    • Sgroliwch i ‘Configure’ a dewis ‘Settings’.
    • Dewiswch 'Mini games' i analluogi'r swyddogaeth hon.
  • Dydy defnyddwyr ddim yn gallu riportio na blocio o fewn ap BitLife. 

  • Mae yna opsiynau cyfyngedig i reoli amser a phrynu o fewn y gêm. Yn hytrach, dylai rhieni a gofalwyr archwilio'r ddewislen gosodiadau ar ddyfeisiau unigol.

    I reoli amser ar iOS:

    • Ewch i'r ddewislen gosodiadau a sgrolio i 'Notifications'.
    • Chwiliwch am 'BitLife' yn y rhestr apiau a diffodd togl yr opsiwn 'Allow notifications'.

    I reoli amser ar Android:

    • Ewch i'r ddewislen gosodiadau a sgrolio i 'Apps’.
    • Chwiliwch am 'BitLife' yn y rhestr apiau a dewis 'Notifications’.
    • Diffoddwch yr opsiwn 'Show notifications'.

    I analluogi prynu eitemau mewn ap ar iOS:

    • Ewch i ‘Settings’ > ‘Screen time’ a sgrolio i lawr i 'Content and privacy restrictions’.
    • Dewiswch ‘iTunes and App Store purchases’ a gosod yr opsiwn i ‘Don’t allow’.

    I analluogi prynu eitemau mewn ap ar Android:

    • Ewch i'ch ap 'Google Play Store'.
    • Dewiswch 'Menu' > ‘Settings’ > ‘Require authentication for purchases’.
    • Mae hyn yn golygu y bydd angen gosod cyfrinair i brynu pethau drwy'r ap.
  • Gan nad oes angen cyfrif i chwarae Bitlife, nid yw’n cynnwys proses ddileu neu ddadactifadu ar hyn o bryd.


Mae gan BitLife ddesg gymorth ddigidol sy'n cynnig cymorth ar gwestiynau cyffredin yr ap, prynu eitemau a bilio, problemau technegol a gosodiadau gemau. Drwy'r ddesg gymorth hon, gall rhieni a gofalwyr gael gwybodaeth am ad-daliadau os bydd plentyn yn prynu rhywbeth yn ddamweiniol, yn ogystal â rhoi adborth.