English

Mae Fortnite yn gêm oroesi aml-chwaraewr ddi-dâl, sydd ar gael ar ddyfeisiau amrywiol (Nintendo Switch, Xbox, Playstation, Android a phorwr gwe), ond nid yw ar gael ar ddyfeisiau iOS ar hyn o bryd. Mae amrywiaeth eang o gemau ar gael i chwaraewyr ar hyn o bryd gan gynnwys Battle Royale, Rocket Racing, Save the World, a Fortnite Festival, ac ystod eang o gemau cymunedol a grëwyd gan chwaraewyr o bob cwr o’r byd. Bydd y canllawiau hyn yn canolbwyntio ar Battle Royale yn bennaf.

Gêm 'dull saethwr' yw Battle Royale, lle mae chwaraewyr yn brwydro yn erbyn ei gilydd gan ddefnyddio arfau amrywiol. Mae'r gêm yn cynnwys hyd at 100 o chwaraewyr byw sy'n cael eu gollwng ar fap y gêm ac yn cystadlu i fod yr olaf sy'n fyw, trwy ladd pob chwaraewr arall. O fewn y gêm, gall chwaraewyr gyfathrebu â'i gilydd drwy sgwrs gyhoeddus, breifat neu lais. Er y gellir lawrlwytho’r gêm yn ddi-dâl, gall chwaraewyr brynu eitemau yn y gêm er mwyn helpu i roi hwb i'w perfformiad neu bersona cymeriad. Cafodd Fortnite ei rhyddhau yn 2017 ac mae gêm boblogaidd ymhlith plant a phobl ifanc, gyda 4 miliwn a mwy o ddefnyddwyr dyddiol.

Mae Fortnite yn prysur ddatblygu i gynnwys sawl dull gêm gyda sgoriau oedran gwahanol. Dylai rhieni gymryd amser i ddysgu a deall am risgiau unigol pob dull gêm i’w plentyn cyn chwarae.

Gêm PEGI 12 yw hon.

Mae Fortnite Battle Royale wedi cael sgôr PEGI 12 oherwydd golygfeydd aml o drais mwy graffig rhwng cymeriadau sy'n debyg i bobl.

Dylai defnyddwyr nodi bod dulliau gêm eraill yn cael sgoriau oedran gwahanol. Er enghraifft, mae gan Racing Rocket sgôr PEGI 3. Dylai rhieni fod yn ymwybodol o'r sgoriau oedran unigol y gemau mae eu plentyn yn hoffi chwarae.

Mae angen cyfrif Epic Games ar chwaraewyr er mwyn chwarae Fornite. Nid yw plant o dan 13 oed yn gallu cofrestru am gyfrif heb wiriad rhieni, sy'n gofyn am brawf cerdyn adnabod. Mae Epic Games yn darparu rhagor o wybodaeth am ganiatâd rhieni ar gyfer defnyddwyr o dan 13 oed.

Mae chwaraewyr dan 18 oed yn destun opsiynau wedi'u haddasu yn eu dewislen gosodiadau i'w hamddiffyn rhag sefyllfaoedd niweidiol neu amhriodol. Gall rhieni hefyd bennu ‘Parental controls’ ar gyfrif eu plentyn i ddewis gosodiadau preifatrwydd a diogelwch ar gyfer cyfrif eu plentyn. Rydym yn argymell bod rhieni'n manteisio ar y nodwedd hon ac yn cymryd amser i ymgyfarwyddo â'r opsiynau gosodiadau sydd ar gael.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau.

Mae Fortnite yn gêm llawn cyffro gyda lliwiau llachar, deialog ddoniol a chasgliad enfawr o addasiadau a gaiff eu diweddaru'n rheolaidd. Prif nod Battle Royale yw aros yn fyw a goroesi tan y diwedd. Mae angen lladd eich cystadleuwyr i wneud hyn. Mae'r mapiau gwahanol y gallech gael eich gollwng ynddynt a'r holl opsiynau addasu gwahanol sydd ar gael yn helpu'r gêm rhag troi'n ddiflas ac ailadroddus. Gall pobl ifanc chwarae gyda'u ffrindiau neu ddieithriaid. I lwyddo yn y gêm, rhaid i chwaraewyr ddatblygu eu sgiliau saethu a meddwl strategol er mwyn trechu gwrthwynebwyr. Gall chwaraewyr gasglu adnoddau ac adeiladu strwythurau hefyd er mwyn parhau i oroesi. Mae sawl modd gwahanol y gall pobl ifanc chwarae ynddo: Mae 'Solo' yn caniatáu i 100 o chwaraewyr ymladd yn erbyn ei gilydd; ‘Duo' yw lle mae 2 gyd-chwaraewr yn cystadlu yn erbyn 49 o ddeuawdau eraill; mae ‘Trios’ yn cynnwys tri chyd-chwaraewr yn cystadlu yn erbyn 24 tîm arall; ‘Squads’ yn cynnwys pedwar chwaraewr yn cystadlu yn erbyn 25 tîm arall; a 'Soaring 50's' lle rydych chi a 49 o chwaraewyr eraill yn brwydro yn erbyn 50 o gystadleuwyr eraill mewn brwydr rhwng y ddau dîm.

  • Mae'r modd hwn yn caniatáu i chi chwarae gyda phobl eraill. Gall hyn naill ai fod gyda ffrindiau dethol neu chwaraewyr eraill nad ydych chi'n eu hadnabod o reidrwydd.

  • Mae hyn yn cyfeirio at ornest rhwng un chwaraewr ac un arall.

  • Mae'r math hwn o gêm yn caniatáu i chwaraewyr gystadlu mewn brwydr 'last team/player standing'.

  • Mae'r swyddogaeth sgwrsio yn caniatáu i chwaraewyr gyfathrebu â'i gilydd. Sylwer nad yw'r sgôr oedran yn adlewyrchu’r cynnwys yn y swyddogaeth sgwrsio, gan mai’r defnyddwyr sy’n ei greu.

  • Wedi'i gynnwys am ddim gyda Battle Royale, mae'r modd ‘creative’ yn caniatáu i chwaraewyr ddylunio eu hynys eu hunain lle gallant greu eu gemau a'u rheolau eu hunain i'w ffrindiau neu bobl eraill chwarae.

  • Ystyr hyn yw 'Away from keyboard’. Defnyddir y term hwn pan fydd angen i chwaraewyr adael y gêm am gyfnod byr.

  • Mae gan fasnachfraint Fortnite ei harian cyfred ei hun mewn gemau o'r enw 'V-Bucks’. Gall chwaraewyr ddefnyddio'r arian cyfred hwn i brynu eitemau gwahanol yn y gêm.

  • Gwisgoedd y gall chwaraewyr eu prynu yw'r rhain i newid golwg eu cymeriad.

  • Symudiadau dawns neu weithredoedd eraill y gall chwaraewyr eu datgloi neu eu prynu i'w cymeriad eu perfformio yw 'Emotes'.

  • Dyma warbac neu eitem arall y gall chwaraewr ei phrynu i'w cymeriad wisgo ar ei gefn.

  • Disgrifyddion ychwanegol yw'r rhain, y mae defnyddwyr yn eu hychwanegu at eu proffil Fortnite i ddynodi sut maen nhw'n hoffi chwarae'r gêm. Gall chwaraewyr ddewis 'tagiau' o opsiynau fel hoff ddulliau chwarae, eu steil o chwarae a'u dewis cystadleuol.

  • Bydd y nodwedd hon yn caniatáu i ddefnyddwyr o dan 13 oed chwarae Fortnite heb allu defnyddio’r swyddogaeth sgwrsio na phrynu eitemau ag arian nes bod rhiant neu ofalwr yn rhoi caniatâd am hynny. Bydd cyfrifon presennol ar gyfer defnyddwyr o dan 13 oed yn cael eu symud i ‘Cabined accounts’ yn awtomatig.

  • Estyniad Discord yw hwn a gyhoeddwyd yn swyddogol gan Epic Games sy'n caniatáu i ddefnyddwyr weld ystadegau dyddiol nhw eu hunain a'u ffrindiau ar weinydd Discord a rennir.

  • Math o gêm Fortnite a grëwyd ar y cyd â Rocket League lle mae chwaraewyr yn rasio cerbydau wedi’u haddasu ar draws pob math o draciau.

  • Byrfodd am ‘Fortnite Champion Series’, digwyddiad mewn-person lle mae chwaraewyr mwyaf proffil uchel Battle Royale yn cystadlu o bob cwr o’r byd. Gall chwaraewyr gystadlu mewn twrnameintiau rheolaidd i gael eu dewis i fynychu’r digwyddiad hwn.

  • Ystafell aros lle mae chwaraewyr yn cael eu rhoi gyda defnyddwyr eraill wrth ddisgwyl i’r gêm gasglu 100 o chwaraewyr i ddechrau. Mae chwaraewyr yn gallu addasu’r ystafelloedd hyn a’u cyhoedd i eraill eu gweld. Mae proses adolygu drylwyr ar waith i wrthod cynnwys anaddas neu niweidiol i chwaraewyr.

Mae Fortnite yn cynnwys golygfeydd o drais pan mae'r chwaraewyr mewn brwydr, cyn lladd ei gilydd er mwyn ennill maes o law. Gêm wedi'i hanimeiddio yw hon fodd bynnag, ac nid yw'r trais yn rhy waedlyd, er enghraifft, pan fydd chwaraewr arall yn marw, mae'n diflannu. Mae'r adran 'Party Royale' yn llai treisgar, gan nad oes dim lladd na neb yn marw. Yr unig arfau sydd ar gael yn y modd hwn yw rhai di-angheuol, fel gynnau peli paent.

Efallai y bydd chwaraewyr yn taro ar draws cynnwys amhriodol ar ffurf iaith anweddus yn y swyddogaeth sgwrsio llais a thestun yn y gêm. Ewch drwy'r ddewislen rheolaethau rhieni i osod yr hidlyddion cynnwys a'r gosodiadau sgwrsio perthnasol sy'n addas i'ch plentyn a sicrhau ei fod yn gwybod sut i gwyno am unrhyw chwaraewyr eraill sy'n ymddwyn yn amhriodol. Ceir cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn yn yr adrannau 'Rheoli rhyngweithio a chynnwys' a 'Cwyno a blocio' yn y canllawiau hyn. Argymhellir hefyd bod eich plentyn yn chwarae gyda ffrindiau o'r byd all-lein, yn hytrach nag mewn gemau cyhoeddus. Drwy gyfyngu ar bwy y gall eich plentyn gael mynediad ato ar y platfform, mae'n llai tebygol o ddod ar draws iaith neu ymddygiad anaddas i'w oedran. Fodd bynnag, dylid cydnabod y gallai eich plentyn fod yn agored i gynnwys amhriodol o hyd gan ei ffrindiau hysbys.

Fel gemau aml-chwaraewr eraill, bydd chwaraewyr Fortnite yn chwarae yn erbyn chwaraewyr eraill o oedrannau gwahanol o bob cwr o'r byd. Mae'r gêm yn cynnwys opsiwn 'Looking for a party' sy'n ceisio grwpio chwaraewyr ar y platfform sydd â thagiau cymdeithasol neu arddulliau chwarae tebyg. Mae’n bosib y gallai'r opsiwn hwn grwpio'ch plentyn gyda chwaraewyr eraill o unrhyw oed a gallai gael sgwrs destun a llais gyda'r chwaraewyr hyn. Archwiliwch y rheolaethau rhieni yn y ddewislen gosodiadau i gyfyngu ar gysylltiadau'ch plentyn â chwaraewyr eraill. Mae cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn ar gael yn adran 'Rheoli rhyngweithiadau' y canllaw ap hwn. Siaradwch â'ch plentyn am y peryglon o sgwrsio gyda dieithriaid ac egluro pwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy gyda chwaraewyr eraill mewn sgyrsiau. Anogwch nhw i ddweud wrthych chi os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau personol iddyn nhw neu os ydyn nhw wedi profi unrhyw beth sy'n peri gofid mewn sgyrsiau.

Dylai rhieni a gofalwyr gofio hefyd bod rhai chwaraewyr yn defnyddio apiau sgwrsio trydydd parti fel Discord i sgwrsio wrth chwarae. Gofynnwch i'ch plentyn os yw'n defnyddio unrhyw apiau sgwrsio ychwanegol wrth chwarae, a chofiwch wirio â phwy mae'n cyfathrebu ar-lein. Er bod sgwrsio'n rhan apelgar o chwarae gemau cyfrifiadurol, nid yw'n hanfodol i chwarae.

Mae gan Fortnite ei set ei hun o reolau cymunedol y mae'n rhaid i bob chwaraewr gadw atynt er mwyn chwarae. Mae chwaraewyr sy'n gwyro oddi wrth y rheolau ymddygiad disgwyliedig mewn peryg o gael eu tynnu o'r gêm. Siaradwch â'ch plentyn am beth yw ymddygiad priodol wrth chwarae gêm aml-chwaraewr a sicrhau ei fod yn gwybod sut i gwyno am unrhyw ymddygiad amhriodol neu sarhaus. Dylai chwaraewyr iau sy'n defnyddio'r nodwedd 'Text chat' fod yn ymwybodol hefyd o'r hyn sydd yn addas ac yn anaddas i'w bostio mewn sgyrsiau, a thrafod y dulliau gwahanol o ddiogelu eu hunain drwy chwarae gyda phobl maen nhw’n eu hadnabod yn hytrach na dieithriaid. Gwnewch yn siwr fod eich plentyn yn gwybod ei bod hi'n anodd cadw meddiant ar unrhyw gynnwys unwaith y bydd wedi'i rannu ar-lein, gan ei bod hi'n hawdd i rywun arall ei gopïo a'i ailbostio heb yn wybod iddo, ac y gall fod yn anodd ei dynnu oddi ar y we wedyn.

Mae gan Fortnite gyfleoedd sylweddol i brynu eitemau yn yr ap, felly sicrhewch eich bod wedi newid y gosodiadau priodol i gyfyngu ar wariant o fewn y gêm. Ceir cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn yn adran 'Rheoli amser a phryniannau' y canllaw hwn. Er bod modd chwarae'r gêm heb brynu eitemau ychwanegol, mae'r rhan fwyaf o chwaraewyr yn ceisio prynu 'Battle pass' o leiaf, sy'n costio 950 V-Bucks (tua £8). Mae'r pàs yma'n galluogi chwaraewyr i ennill eitemau eraill ar gyfer eu cymeriad. Mae Fortnite yn cydweithio â phobl enwog a chymeriadau eraill o fyd diwylliant poblogaidd hefyd fel bod modd addasu proffil yn seiliedig ar eu llun, y gall chwaraewyr ei brynu a'i ddefnyddio yn y gêm. I gefnogwyr, mae'r eitemau ychwanegol hyn i'w prynu yn apelio, ac mae addasiadau newydd yn cael eu cyflwyno'n aml yn y gêm. Siaradwch â'ch plentyn am brynu eitemau mewn apiau, a sicrhau eu bod yn deall mai arian go iawn sy'n cael ei ddefnyddio i brynu eitemau yn y gêm. Hefyd, cofiwch wirio nad yw'r gêm wedi'i chysylltu â'ch cardiau banc neu fanylion ariannol.

Mae pob gornest yn Fortnite yn para tua 20 munud, sy'n ei gwneud hi'n hawdd i chwaraewyr gymryd rhan mewn sawl gêm ac ymestyn eu sesiwn chwarae dro ar ôl tro. Cydweithiwch â'ch plentyn i osod amserlen neu rowndiau chwarae realistig a hefyd adegau ar gyfer cael seibiant.

  • Mae gan Fortnite adran 'Parental controls' yn y ddewislen gosodiadau. Gallwch fynd i'r adran hon yn y gêm neu drwy fewngofnodi i Epic Games. Mae chwaraewyr dan 13 angen caniatâd rhiant i gael mynediad i'r gêm, sy'n rhoi mynediad i rieni i'w gosodiadau cyfrif drwy fewngofnodi i'w cyfrif Epic Games. Yma, gallwch osod rheolaethau rhieni gan gynnwys ceisiadau ffrind a gosodiadau sgwrsio.

    I greu rheolaethau rhieni yn Epic Games:

    • ewch i gyfrif eich plentyn yn Epic Games a sgrolio i lawr i 'Parental controls' ar y chwith
    • rhowch y PIN a ddefnyddiwyd gennych wrth sefydlu a dilysu cyfrif eich plentyn
    • yma fe welwch yr holl opsiynau rheoli rhieni sy'n cynnwys:
      • payment
      • games store
      • friends permission
      • voice chat permission
      • text chat permission
      • mature language filter
      • playtime tracking report
    • ewch drwy bob un o'r gosodiadau hyn drwy ddewis y gosodiad mwyaf addas ar gyfer eich plentyn. Argymhellir bod gosodiadau chwaraewyr iau yn 'Friends only'

    Mae modd eich cysylltu chi ag adran rheolaethau rhieni'r gêm trwy ddewis 'Extras' yn y ddewislen gosodiadau.

  • O fewn y ddewislen 'Parental controls', mae pob math o opsiynau ar gael i'ch helpu i reoli cynnwys a rhyngweithio.

    I osod 'Parental controls' yn y gêm:

    • ewch i'r ddewislen a sgrolio i lawr i 'Settings'
    • dewiswch 'Parental controls' o'r opsiynau a restrir
    • rhowch y PIN a ddefnyddiwyd gennych wrth sefydlu a dilysu cyfrif eich plentyn
    • yma gallwch ddiwygio'r opsiynau rheoli rhieni sy'n cynnwys:
      • can see mature language
      • non-squad members can see your name
      • can see non-squad member names
      • require PIN to add Epic friends
      • voice chat
      • weekly playtime reports
      • text chat
    • toglwch bob opsiwn ymlaen neu i ffwrdd fel y bo'n briodol
  • Gall defnyddwyr flocio, dewi neu a gwyno am ddefnyddwyr eraill sy'n eu poeni neu sy'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform. Hyd yn oed ar ôl blocio chwaraewr, efallai y bydd yn dal i ymddangos yn yr ystafell aros gyhoeddus (lobby) neu deithiau er na allai anfon neges uniongyrchol atat.

    I gwyno am chwaraewr:

    • dewiswch y brif ddewislen a sgrolio i lawr i'r ddewislen gosodiadau
    • dewiswch 'Reporting/feedback'
    • dewiswch 'Report a player' ac yna gweithio drwy'r opsiynau a restrir:
      • offensive language
      • offensive name
      • harassment/abusive gameplay
      • teaming up with enemies
      • AFK/non-participation

    I blocio/dileu chwarewr (trwy Epic Games):

    • cliciwch ar eicon ‘Friend’ ar gornel dde ucha’r sgrin
    • dewiswch enw’r ffrind rydych chi am ei ddileu neu flocio, a dewis y tri dot
    • dewiswch ‘Block’ neu ‘Unfriend’ a chadarnhau’ch dewis
  • O fewn y ddewislen 'Parental controls' mae opsiwn i dderbyn 'Weekly playtime reports'. Mae Fortnite yn argymell dewis y botwm 'More settings' hefyd i ddysgu am gyfyngiadau amser chwarae ar gyfer y platfform neu'r ddyfais y mae eich plentyn yn ei ddefnyddio i chwarae'r gêm.

    Gallwch reoli'r rheolaethau rhieni ar gyfer Epic Games store hefyd, a fydd yn helpu i reoli pryniannau pellach.

    Rheoli prynu eitemau mewn gemau:

    • ewch i gyfrif eich plentyn yn Epic Games a sgrolio i lawr i 'Parental controls' ar y chwith
    • rhowch y PIN a ddefnyddiwyd gennych wrth sefydlu a gwirio cyfrif eich plentyn
    • toglwch ar yr opsiwn ‘always require a PIN for purchases using Epic Games payment service’

    Os ydych wedi galluogi rheolaethau rhieni, bydd angen eich PIN chi i brynu unrhyw eitem yn y gêm

  • Dylai defnyddwyr nodi ei bod hi’n cymryd hyd at 14 diwrnod i gwblhau’r broses o ddileu cyfrif Fortnite. Mae’r cyfnod 14 diwrnod hwn yn cynrychioli proses ddadactifadu cyfrif, pan y gall defnyddiwr adfer ei gyfrif os yw’n mewngofnodi o fewn y cyfnod 14 diwrnod.

    Os na chaiff cyfrif ei ailadactifadu yn ystod y 14 diwrnod, mae’n cael ei ddileu’n barhaol wedyn. Hefyd, mae cyfrif Fortnite y defnyddiwr ynghlwm wrth ei gyfrif Epic Games felly mae’r broses hon yn golygu dileu ei gyfrif Epic Games hefyd. Hoffai Epic Games atgoffa bod dileu’n barhaol a di-droi’n-ôl wedi’r cyfnod dadactifadu 14 diwrnod.

    I ddadactifadu neu ddileu eich cyfrif Epic Games:

    • Mewngofnodwch i’ch cyfrif Epic Games a mynd i ‘Account Settings’
    • Sgroliwch i ‘Delete Account’ a dewis ‘REQUEST ACCOUNT DELETE’
    • Dewiswch ‘Delete Account’
    • Teipiwch y cod diogelwch (sy’n cael ei anfon at y cyfeiriad e-bost sy’n gysylltiedig â’r cyfrif Epic Games fel arfer)
    • Dewiswch ‘CONFIRM ACCOUNT DELETION’ (yna, gallwch ddewis rhwng ateb y cwestiynau neu ddewis ‘skip’) 
    • Bydd eich cyfrif yn cael ei ddadactifadu am 14 diwrnod, cyn dileu’n gyfan gwbl ar ôl hynny

    Gall rhieni a gofalwyr greu tocyn ategol i ofyn am ddileu cyfrif eu plentyn trwy ddilyn y ddolen hon.

Mae gan Epic Games nodwedd boblogaidd 'Live events' sy'n denu miliynau o wylwyr. Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnwys cyngherddau a lansiadau hyrwyddo mewn gêm fel arfer ac er bod rhai wedi'u trefnu, mae eraill yn ddigymell. Mae digwyddiadau'n tueddu i fod yn addas i deuluoedd, ond mae'n werth gwirio adran 'News' safle Fortnite i weld pa ddigwyddiadau sydd ar y gweill.

I gael rhagor o fanylion am ganllawiau cymuned Fortnite darllenwch reolau cymuned Epic Games.