English

Gwasanaeth ffrydio cerddoriaeth digidol a phodlediadau sy'n rhoi mynediad i lyfrgell ar-lein o gynnwys hawlfraint-gyfyngedig drwy chwaraewr gwe neu ap. Gall cerddoriaeth a chynnwys sain gael eu dewis gan y defnyddiwr neu ei greu gan algorithm cymhleth Spotify sy'n argymell cynnwys sy'n seiliedig ar hanes gwrando'r defnyddiwr. Mae fersiwn sylfaenol o Spotify a gefnogir gan hysbysebion, ar gael yn rhad ac am ddim a chynigir fersiwn premiwm gyda nodweddion ychwanegol trwy danysgrifiad misol am dâl. Mae Spotify ar gael ar gyfrifiaduron Windows, MacOS a Linux, dyfeisiau symudol iOS ac Android, chwaraewyr cyfryngau digidol a dyfeisiau cartref clyfar fel Amazon Echo a Google Nest. Roedd gan Spotify 456 miliwn o ddefnyddwyr gweithredol bob mis, yn cynnwys 195 miliwn o danysgrifwyr premiwm a 240 miliwn o ddefnyddwyr y gwasanaeth am ddim. Mae hyn yn golygu mai Spotify yw'r gwasanaeth ffrydio sain mwyaf.


Y cyfyngiad oedran isaf ar gyfer defnyddwyr Spotify yw 13 oed, ond does dim dulliau trylwyr o ddilysu oedran.

Mae'n ofynnol i ddefnyddwyr dan 18 oed gael caniatâd rhiant i ddefnyddio'r ap.

Mae ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau’ yn cynnwys rhagor o fanylion am hyn.


Mae Spotify yn rhoi mynediad i lyfrgell ar-lein enfawr sy'n parhau i dyfu gyda chynnwys newydd yn cael ei ychwanegu'n barhaus. Prif ddefnyddiau Spotify yw chwilio am gerddoriaeth benodol a'i chwarae ar alw a chael y wybodaeth ddiweddaraf am gerddoriaeth newydd. Mae defnyddwyr yn gallu hoffi neu gasáu cynnwys y credant ei fod yn dda neu'n ddrwg er mwyn personoli eu profiad trwy hyfforddi algorithm Spotify i ganfod rhagor o gynnwys yn seiliedig ar eu harferion gwrando. Mae'r fersiwn tanysgrifio premiwm yn caniatáu i ddefnyddwyr wrando ar eu hoff gynnwys cerddoriaeth a sain, creu a rhannu rhestri chwarae, dilyn rhestri chwarae wedi'u curadu gan ddefnyddwyr eraill ac uwchlwytho cynnwys nad yw ar gael yng nghatalog Spotify. Mae rhannu cynnwys â ffrindiau yn agwedd boblogaidd ar Spotify ymhlith phobl ifanc. Gall defnyddwyr Spotify ddilyn defnyddwyr eraill neu wneud eu harferion gwrando eu hunain yn weladwy i ddefnyddwyr sy'n eu dilyn. Mae'r nodwedd 'Friend Activity' yn caniatáu i ddefnyddwyr ddangos i'w gilydd beth maen nhw'n ei chwarae yn Spotify mewn amser real er mwyn creu profiad gwrando a rennir. Gellir ychwanegu ffrindiau’n unigol gan ddefnyddio enw defnyddiwr Spotify neu drwy gysylltu cyfrif Spotify y defnyddiwr gyda'i gyfrif Facebook er mwyn cael gafael ar restr ffrindiau Facebook. Mae modd creu rhestri chwarae ar y cyd drwy ganiatáu i ffrindiau gyfrannu cynnwys. Yn ogystal â rhannu cynnwys trwy ddefnyddio botwm 'Share' yr ap, gellir rhannu rhestri chwarae trwy anfon neges destun, e-bost, cyfryngau cymdeithasol neu drwy gopïo a gludo'r ddolen rhestr chwarae. Hefyd, mae Spotify yn caniatáu i gerddorion ac artistiaid cerddorol ychwanegu eu cynnwys eu hunain at lyfrgell Spotify a hyrwyddo eu gwaith.


Nodwedd allweddol Spotify yw chwarae cerddoriaeth a chynnwys sain o'r catalog ar-lein.

  • Popeth mae'r defnyddiwr wedi'i arbed yn Spotify – caneuon, artistiaid, albymau, podlediadau, rhestri chwarae, ac ati.

  • Casgliad o gynnwys Spotify a grëwyd gan ddefnyddwyr neu wedi'i guradu gan algorithm Spotify.

  • Rhaglen sain ar alw, sy’n canolbwyntio ar bwnc, thema neu destun penodol fel arfer.

  • Chwarae cerddoriaeth neu gynnwys sain Spotify drwy'r rhyngrwyd.

  • Lawrlwytho cerddoriaeth neu gynnwys sain wedi'i gopïo o fewn cyfrif Spotify i'w chwarae all-lein.

  • Lanlwytho cerddoriaeth neu gynnwys sain sy'n cael ei ychwanegu at gyfrif Spotify a'i gadw yn llyfrgell y defnyddiwr.

  • Nodwedd sy'n dangos beth mae'r defnyddiwr neu algorithm Spotify wedi'i drefnu i'w chwarae nesaf.

  • Opsiwn i chwarae cerddoriaeth o albwm neu restr chwarae ar hap.

  • Fersiwn o Spotify sy'n addas i blant, ar gael fel rhan o danysgrifiad 'Family Premium'.

  • Clip fideo byr parhaus sy'n chwarae'n awtomatig wrth wrando ar gân gan yr artist hwnnw.


Mae'n anochel bod catalog enfawr Spotify o gerddoriaeth a phodlediadau’n cynnwys rhywfaint o gynnwys anweddus ar ffurf geiriau caneuon a sgyrsiau addas i oedolion. Mae cynnwys a nodwyd gan Spotify fel addas i ddefnyddwyr dros 18 oed yn cael ei farcio gyda label 'Explicit content' neu 'E. Mae fersiwn danysgrifio arall o'r enw 'Spotify Kids' ar gael i blant deuddeg oed ac iau, ac wedi'i churadu gan Spotify i gynnwys caneuon addas i blant yn unig. Mae Spotify yn defnyddio delweddau hefyd i nodi caneuon, albymau, artistiaid, rhestri chwarae, podlediadau a phroffiliau, rhai ohonynt yn anaddas i blant o bosib. Mae Spotify yn cynnwys podlediadau fideo yn ogystal â sain, a allai gynnwys lluniau ac iaith anaddas. Ychwanegiad diweddar i Spotify yw 'Canvas', nodwedd sy'n disodli celf albwm gyda chlip fideo byr parhaus. Efallai na fydd rhai o'r clipiau fideo hyn yn addas i blant. Bydd plant sy'n defnyddio'r fersiwn rhad ac am ddim o Spotify sy'n cael ei hariannu gan hysbysebion yn gweld hysbysebion, gyda’r rhan fwyaf ohonynt wedi'u bwriadu ar gyfer oedolion.

Y prif risg i blant sy'n defnyddio Spotify yw clywed cerddoriaeth a phodlediadau amhriodol o ran oedran, yn enwedig rhegi ac iaith a themâu sy'n fwy addas i oedolion. Bydd cyrchu Spotify trwy danysgrifiad 'Premium' a defnyddio'r hidlydd 'explicit content' mewn gosodiadau yn cyfyngu ar y rhan fwyaf o’r cynnwys sy’n anaddas i blant, ond nid pob y cyfan. Er enghraifft, efallai na fydd deiliad yr hawliau’n riportio pob cynnwys anweddus, felly ni fydd y cynnwys yn cael ei dagio a bydd yn chwarae hyd yn oed pan fydd yr hidlydd ar waith. Hefyd, bydd cerddoriaeth a phodlediadau gyda theitlau penodol a/neu gelf clawr yn parhau i ymddangos mewn rhestri chwilio, hyd yn oed os yw'r hidlydd yn atal y cynnwys rhag cael ei chwarae.

Nid platfform cyfryngau cymdeithasol yw Spotify a does dim elfen negeseua na sgwrsio iddo. Fodd bynnag, mae rhai defnyddwyr Spotify wedi defnyddio meysydd celf clawr, enw a disgrifiad o restri chwarae i gyfathrebu â dilynwyr mewn ffordd a all fod yn agored i'w cham-drin. Y brif ffordd o gysylltu â defnyddwyr eraill Spotify yw'r swyddogaeth 'Friend activity' sy'n caniatáu i ddefnyddwyr ddilyn ei gilydd a gweld pa gerddoriaeth neu gynnwys sain maen nhw'n ei chwarae mewn amser real. Mae modd cysylltu cyfrifon Spotify a Facebook er mwyn hwyluso'r broses o ychwanegu ffrindiau. Pan fydd wedi'i gysylltu â Facebook, bydd proffil Spotify yn dangos enw go iawn y defnyddiwr a llun Facebook. Mae modd creu rhestri chwarae ar y cyd drwy ganiatáu i ffrindiau gyfrannu cynnwys. Nid yw'r swyddogaethau cyswllt 'Friend activity' a Facebook yn niweidiol yn eu hanfod ond gallant arwain at ddilyn ac efallai cysylltu â defnyddwyr Spotify y tu allan i'r ap. Argymhellir bod eich plentyn yn cadw ei restr chwarae'n breifat.

Mae gan Spotify 'Platform rules' sy'n rhoi arweiniad i weithgarwch ac ymddygiad  na chaiff eu caniatáu na'u derbyn gan Spotify. Er enghraifft, mae'r 'Platform rules' yn ymdrin â chynnwys peryglus, twyllodrus, sensitif ac anghyfreithlon ac yn dweud y gall diffyg cydymffurfio â'r rheolau arwain at gael gwared ar y cynnwys ac atal neu derfynu cyfrifon.

Mae Spotify yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho a'i osod ar bob platfform ac mae'r fersiwn a gefnogir gan hysbysebion am ddim i'w defnyddio. Fersiwn talu o'r gwasanaeth yw Spotify 'Premium' sydd ar gael fel tanysgrifiad unigol neu a rennir. Ymhlith yr opsiynau eraill mae'r cynllun 'duo' ar gyfer dau ddefnyddiwr ar yr un aelwyd, cynllun teulu ar gyfer hyd at chwe defnyddiwr ar yr un aelwyd a chynllun personol gostyngol i fyfyrwyr. Dim ond cynlluniau 'Premium' sy'n darparu rheolaethau rhieni, gan gynnwys yr hidlydd cynnwys anaddas. Mae Spotify yn wasanaeth ffrydio sy'n talu artistiaid drwy hysbysebu ar y gwasanaeth am ddim neu refeniw a gynhyrchir gan gynlluniau tanysgrifio, ac nid yw'n cefnogi prynu cynnwys unigol. Ac eithrio'r tanysgrifiad misol taledig, yr unig gost am ddefnyddio Spotify yw data, gyda 1GB o ddefnydd data yn darparu rhyw 23 awr o chwarae cerddoriaeth yn ansawdd sain 'Normal' rhagosodedig 96kbps. Bydd gwella ansawdd y sain i 'uchel' neu 'uchel iawn' yn cynyddu'r defnydd o ddata.


  • Mae angen darparu cryn dipyn o wybodaeth bersonol wrth greu cyfrif am ddim neu gyfrif tanysgrifio Spotify, ac mae proffiliau cyfrif Spotify yn gyhoeddus yn ddiofyn. Gellir gosod proffiliau i fod yn breifat yng ngosodiadau Spotify.

    Gosod cyfrif i 'Private':

    • Dewiswch yr eicon cartref a ewch i'r ddewislen gosodiadau trwy glicio ar yr eicon gêr.
    • Sgroliwch i lawr i 'Social' a dewis yr opsiwn 'Private session'.
  • Mae'r holl gerddoriaeth, gan gynnwys unrhyw beth sydd wedi'i dagio gan Spotify fel 'Explicit' ar gael i'w ffrydio yn ddiofyn ond gellir ei gyfyngu yng ngosodiadau cyfrifon 'Premium'. Dyw cyfrifon rhad ac am ddim Spotify ddim yn caniatáu i chi hidlo cynnwys anaddas. Mae Spotify yn darparu'r nodwedd 'Friend activity' i ddefnyddwyr rannu eu gweithgaredd gwrando ond gall deiliaid cyfrif wrando'n ddienw trwy osod eu sesiwn Spotify i breifat. Yn yr un modd, gall defnyddwyr ddefnyddio gosodiadau i wneud rhestri chwarae presennol unigol neu bob rhestr chwarae yn y dyfodol yn gyfrinachol, er mwyn atal defnyddwyr eraill rhag gweld eu gweithgarwch.

    Rheoli cynnwys anaddas ar ddyfais symudol:

    • Dewiswch yr eicon hafan ac ewch i'r ddewislen gosodiadau trwy glicio ar yr eicon gêr.
    • Sgroliwch i lawr i 'Allow explicit content' a diffodd yr opsiwn.

    Rheoli cynnwys anaddas ar gyfrifiadur bwrdd gwaith:

    • Cliciwch ar y saeth i lawr yn y gornel dde uchaf a dewis 'Settings’.
    • O dan 'Explicit' diffoddwch y togl wrth ymyl ‘Allow playback of explicit-rated content’.

    Rheoli rhestri chwarae:

    • Dewiswch 'Your library' ac yna'r rhestr chwarae rydych chi am ei reoli.
    • Cliciwch ar eich rhestr chwarae ddewisol a chlicio ar y tri dot.
    • Sgroliwch i lawr a dewis yr opsiwn 'Make private' a dewiswch 'Make private' eto pan gewch eich ysgogi.
  • Gall defnyddwyr riportio a rhwystro defnyddwyr eraill sy'n eu plagio neu sy'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    Riportio rhestr chwarae:

    • Ewch i'r rhestr chwarae rydych am ei riportio a chlicio ar yr eicon tri dot.
    • Dewiswch yr opsiwn 'Report abuse' a fydd yn eich tywys i ffurflen adrodd.
    • Dewiswch eich rheswm o'r rhestr isod.
      • Sexual content.
      • Violent or dangerous.
      • Hateful or abusive.
      • Deceptive content.
      • I just don't like it.

    Riportio defnyddiwr:

    • Ewch at y defnyddiwr rydych am ei riportio drwy glicio ar ei enw defnyddiwr.
    • Dewiswch yr eicon tri dot ac yna 'Report abuse'.
    • Dewiswch eich rheswm o'r rhestr isod.
      • Sexual content.
      • Violent or dangerous.
      • Hateful or abusive.
      • Deceptive content.
      • I just don't like it.
  • Mae gan Spotify amserydd cysgu, sydd yno’n bennaf i arbed y batri a defnydd data, y gellir ei ddefnyddio i gyfyngu ar faint o amser mae ap Spotify ar waith. Dim ond ar fersiynau ap iOS ac Android o Spotify mae'r amserydd ar gael, ac mae'n cychwyn wrth ailchwarae rhywbeth neu wrando ar gerddoriaeth neu bodlediad.

    Galluogi 'Sleep timer' ar gyfer cerddoriaeth:

    • Agorwch yr ap a dechrau chwarae cân.
    • Agorwch y sgrin lawn drwy dapio ar ei theitl yn y bar ailchwarae ar waelod yr ap.
    • Dewiswch yr eicon tri dot a sgrolio i lawr i 'Sleep timer’.

    Dewiswch am ba hyd yr hoffech chi wrando ar gerddoriaeth nes bod yr ap yn stopio'r sain yn awtomatig.

    Galluogi 'Sleep timer' ar gyfer podlediadau:

    • Agorwch yr ap a dechrau chwarae podlediad.
    • Agorwch y sgrin lawn drwy dapio ar ei deitl yn y bar ailchwarae ar waelod yr ap.
    • Dewiswch yr eicon siâp hwyliau i fynd i'r 'Sleep timer’.
    • Dewiswch am ba hyd yr hoffech chi wrando ar y podlediad nes bydd yn stopio.
  • Mae dileu cyfrif ar Spotify yn broses 7 diwrnod sy’n cynnwys dadactifadu cyfrif yn gyntaf. Yn ystod y 7 diwrnod hyn, gall defnyddwyr ailactifadu eu cyfrif unrhyw bryd trwy ddewis ‘reactivate my account’ mewn neges e-bost a anfonir gan Spotify. Fodd bynnag, os nad yw’r defnyddiwr yn ailactifadu ei gyfrif, bydd yn cael ei ddileu’n barhaol. Mae Spotify yn dweud y bydd defnyddwyr yn colli unrhyw lyfrau sain sy’n gysylltiedig â’r cyfrif os byddan nhw’n dileu’r cyfrif.

    I gau cyfrif Spotify:

    • Dilynwch y ddolen a fydd yn eich tywys i dudalen dileu cyfrif Spotify.
    • Mewngofnodwch a chadarnhau’r cyfrif rydych chi am ei ddileu.
    • Dewiswch ‘Close account’.
    • Dewiswch ‘continue’.
    • Bydd Spotify yn anfon neges e-bost i’r cyfeiriad sy’n gysylltiedig â’r cyfrif. Bydd yr e-bost yn dod i ben ymhen 24 awr, a rhaid i ddefnyddwyr bwyso’r botwm ‘Close my account’ yn yr e-bost.

    I gau cyfrif Spotify Premium:

    • Dilynwch y ddolen.
    • Dewiswch ‘Close my account and delete my data’.
    • Dewiswch ‘Close my account’ ar y naidlen sgwrsio.
    • Dewiswch ‘Close my account and delete my data’ ar y naidlen sgwrsio.

Mae gosodiadau Spotify mewn cyfrifon 'Premium' yn caniatáu i rieni a gofalwyr gyfyngu ar gynnwys anaddas, ond y ffordd hawsaf i gadw plant yn ddiogel wrth ddefnyddio Spotify yw creu cyfrif 'Spotify Kids' fel rhan o danysgrifiad teuluol premiwm. Mae cynllun teuluol yn caniatáu i chi greu hyd at bum proffil plentyn ac mae modd lawrlwytho'r ap heb hysbysebion i gymaint o ddyfeisiau ag yr hoffech. Mae'r ap yn darparu hwiangerddi, straeon amser gwely, caneuon i blant a llawer mwy i blant iau, a chaneuon pop, teledu a ffilmiau, straeon amser gwely, cerddoriaeth gefndirol ar gyfer gemau cyfrifiadurol a gwaith cartref i blant hyn, oll wedi'u curadu gan Spotify. ‘Mae 'Spotify kids' yn caniatáu i oedolion weld a rheoli'r cynnwys y mae'r plentyn yn ei gyrchu trwy ddefnyddio'r nodwedd rheolaethau rhieni hefyd.

Mae gan Spotify ganolfan breifatrwydd ddynodedig lle mae defnyddwyr yn gallu dysgu mwy am eu preifatrwydd ar yr ap a sut mae eu data yn cael ei ddefnyddio.

Mae Spotify wedi creu canllaw byr i Spotify ar gyfer rhieni a gofalwyr, sy’n amlinellu sut i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar y platfform.