English

Mae FIFA Mobile (sy’n ail-frandio i EA Sports FC Mobile) yn gêm bêl-droed gystadleuol ar-lein am ddim lle gall defnyddwyr greu eu timau pêl-droed proffesiynol eu hunain sy'n cynnwys eu hoff chwaraewyr pêl-droed. Er bod y fersiwn am dâl o'r gêm, FIFA 22, ar gael ar amrywiaeth o ddyfeisiau gemau, fel Xbox a Playstation, ac ap EA Sports ar gyfer Windows, bydd y canllaw ap hwn yn canolbwyntio ar yr ap FIFA Mobile.

Yn yr ap, gall chwaraewyr greu a rheoli eu tîm pêl-droed ffantasi eu hunain, sy'n cynnwys eu hoff chwaraewyr pêl-droed. Drwy chwarae ac ennill gemau a thwrnameintiau, gall tîm defnyddiwr gael gafael ar chwaraewyr gwell a datblygu mewn cynghrair. Gall chwaraewyr gystadlu mewn moddau 'chwaraewr yn erbyn chwaraewr', lle gallan nhw chwarae gyda chwaraewyr eraill ar y platfform, yn ogystal â 'Manager mode', lle gall defnyddwyr ddewis tactegau strategol ar gyfer eu tîm i wneud cynnydd yn y gêm. Mae FIFA Mobile ar gael i'w lawrlwytho ar ddyfeisiau Android ac iOS.


Mae'r Apple App Store yn rhoi sgôr o 4+ i FIFA Mobile tra bod Google Play yn rhoi sgôr 'Everyone' i'r gêm. Nid oes gan yr ap unrhyw ddulliau gwirio oedran trylwyr.

Mae ein 'Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau yn cynnwys rhagor o fanylion am hyn.


Mae FIFA Mobile yn gêm symudol boblogaidd, yn enwedig gyda chefnogwyr pêl-droed ifanc a'r rhai sydd eisoes yn mwynhau chwarae'r fersiynau am dâl o'r gêm. Mae'r ap yn rhoi cyfle i chwaraewyr archwilio creu eu timau delfrydol eu hunain sy'n cynnwys eu hoff chwaraewyr, yn ogystal â chwarae gêm o bêl-droed ar-lein. Mae'r 'Manager mode' yn rhoi cyfle i chwaraewyr wneud penderfyniadau ynghylch tactegau hefyd i ennill twrnameintiau a chwarae pêl-droed ar-lein o safbwynt gwahanol. Mae cystadleurwydd y gêm yn apelio at bobl ifanc, gan mai mwya'n byd o gemau a thwrnameintiau maen nhw'n eu hennill, y mwyaf tebygol ydyn nhw o gasglu chwaraewyr gwell ac uwchraddio eu tîm mewn cynghrair.


  • Lle gall defnyddwyr olygu eu tîm drwy gyfnewid chwaraewyr, eu hyfforddi a newid eu ffurfiant chwarae.

  • Modd lle gall defnyddwyr greu gêm gyfeillgar na fydd yn cael ei sgorio naill ai yn erbyn y cyfrifiadur neu chwaraewyr eraill ar y platfform.

  • Gêm naw deg eiliad gyflym sy'n cael ei chwarae mewn amser real yn erbyn gwrthwynebydd. Y nod yw sgorio cymaint o goliau â phosib yn yr amser penodedig. Mae chwaraewyr yn cael eu paru â gwrthwynebwyr ar-lein eraill sydd â nifer tebyg o gefnogwr.

  • Modd chwarae cystadleuol yw hwn lle gall defnyddwyr chwarae un yn erbyn un ac mae’n cynnig amcanion tymor byr, canolig a hir gyda gwobrau.

  • Mae'r modd hwn yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr reoli eu tîm eu hunain, gan ddewis eu tactegau a'u strategaethau eu hunain i helpu i ddatblygu modd chwarae eu tîm.

  • Digwyddiadau tymhorol sy'n cyd-fynd â digwyddiadau chwaraeon yn y byd go iawn mewn amser real.

  • Mae'r adran hon yn rhoi'r newyddion diweddaraf i ddefnyddwyr am ddiweddariadau a digwyddiadau newydd yn yr ap.

  • Gweithgareddau dyddiol y gall defnyddwyr eu cwblhau i ennill gwobrau yn y gêm.

  • Dyma'r arian yn y gêm y gall defnyddwyr ei ennill a'i ddefnyddio i brynu 'FIFA packs' yn y gêm.

  • Pecynnau rhithwir yn y gêm gyda chynnwys ar hap. Cyfeirir atynt weithiau fel 'loot boxes' gan nad yw chwaraewyr yn gwybod beth sydd ynddyn nhw nes iddynt eu prynu neu eu hennill. Gall pecynnau gael eu hennill neu eu prynu gan ddefnyddio 'FIFA coins' neu arian go iawn.

  • Gall defnyddwyr ymuno â chynghreiriau neu greu eu cynghreiriau eu hunain i chwarae yn erbyn chwaraewyr eraill ar y platfform.

  • Dyma lle gall defnyddwyr brynu a gwerthu'r chwaraewyr yn eu tîm.

  • Pan fydd defnyddwyr yn gallu cyfnewid eu chwaraewyr am eitemau gwell fel 'icon players' neu 'FIFA coins'.

  • Yma gall defnyddwyr brynu gwahanol eitemau fel 'packs', 'bundles' a 'special bundles' a’u prynu’n ôl. Gellir prynu pethau gan ddefnyddio 'FIFA coins' neu arian go iawn.

  • Dyma lle gall chwaraewyr dderbyn negeseuon.

  • Gall defnyddwyr ddod o hyd i ffrindiau a'u hychwanegu yn y gêm drwy ddefnyddio'r eicon 'Friends'. Gall chwaraewyr chwilio am ffrindiau maen nhw’n eu hadnabod gan ddefnyddio eu henw defnyddiwr neu bydd y gêm yn awgrymu 'Recommended users' yn seiliedig ar ddata ac ystadegau cyfrifon, fel nifer cefnogwr.


Mae gan FIFA Mobile sgôr oedran isel, sy'n adlewyrchu'r ffaith y dylai'r gêm hon fod yn addas ar gyfer chwaraewyr o bob oedran. Mae cynnwys y gêm wedi'i gynllunio i geisio adlewyrchu gemau pêl-droed go iawn, gyda delweddau chwarae, sylwebaeth, siantiau a galwadau chwaraewyr yn dynwared yr hyn y byddech chi'n ei ddisgwyl wrth wylio gêm bêl-droed fyw. Er nad yw eich plentyn yn debygol o ddod ar draws cynnwys niweidiol yn y gêm ei hun, gall ddod ar draws cynnwys amhriodol ar ffurf iaith anweddus yn y swyddogaeth sgwrsio yn y gêm. Fodd bynnag, nid yw'r swyddogaeth 'League chat' ar gael yn awtomatig i bob chwaraewr; yn hytrach, mae'n cael ei galluogi wrth gyrraedd lefelau uwch. Pan fydd eich plentyn yn gallu cael mynediad at y swyddogaeth sgwrsio, siaradwch ag ef am y risgiau sy'n gysylltiedig â sgwrsio mewn gemau, yn enwedig mewn gemau cystadleuol fel FIFA Mobile. Gofalwch fod eich plentyn yn gwybod y dylai siarad â chi os bydd yn dod ar draws unrhyw beth amhriodol yn y swyddogaeth sgwrsio, ac i ddefnyddio'r swyddogaethau tawelu, cwyno a blocio os oes angen. I gael gwybodaeth am sut i wneud hyn, ewch i'r adran 'Riportio a blocio' yn y canllaw hwn. Drwy gyfyngu ar bwy y gall eich plentyn gael mynediad ato ar y platfform, fel ffurfio cynghrair gyda ffrindiau y mae'n eu hadnabod, mae eich plentyn yn llai tebygol o brofi iaith neu ymddygiad nad yw'n addas ar gyfer ei oedran. Fodd bynnag, dylid cydnabod y gallai eich plentyn fod yn agored i gynnwys amhriodol o hyd gan ei gysylltiadau hysbys.  

Un o nodweddion apelgar FIFA Mobile yw'r gallu i chwarae pêl-droed cystadleuol yn erbyn chwaraewyr eraill. Mae gemau aml-chwaraewr yn bosib yn y gêm drwy foddau 'VS Attack' neu 'Head-to-head', lle gall defnyddwyr chwarae yn erbyn eu ffrindiau neu chwaraewyr eraill ar y platfform. Argymhellir bod defnyddwyr iau’n chwarae yn erbyn ffrindiau maen nhw'n eu hadnabod, drwy eu hychwanegu fel 'Friends' ar eu cyfrif. Mae opsiwn hefyd i gysylltu cyfrifon gyda chyfrif Facebook defnyddiwr, gan eu galluogi i chwarae gyda ffrindiau Facebook. Mae cyfarwyddiadau llawn ar sut i wneud hyn yn adran 'Rheoli rhyngweithio a chynnwys' y canllaw hwn.

I ddefnyddwyr sy'n hoffi chwarae yn erbyn gwrthwynebwyr sy’n cael eu paru gyda nhw, mae'n werth gwybod y gall ceisiadau ffrind gael eu hanfon at wrthwynebwyr nad ydyn nhw'n eu hadnabod yn y 'post-match summary screen'. Unwaith mae chwaraewyr yn 'Friends' yn y gêm, gallan nhw drefnu i chwarae yn erbyn ei gilydd ac ymuno â chynghreiriau gyda'i gilydd, lle mae swyddogaeth sgwrsio testun amser real. Gall diddordeb cyffredin yn y gêm ei gwneud hi'n hawdd i ddieithriaid feithrin cysylltiad â'i gilydd, yn enwedig pan mae'n ymwneud â rhywbeth mae chwaraewyr yn teimlo’n angerddol amdano fel hoff dimau a chwaraewyr pêl-droed. Siaradwch â'ch plentyn am y risgiau o sgwrsio â dieithriaid ac esboniwch bwysigrwydd peidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu adnabyddadwy gyda chwaraewyr eraill mewn sgyrsiau. Anogwch eich plentyn i ddweud wrthych chi os oes rhywun wedi gofyn cwestiynau mwy personol iddo neu os yw'n teimlo'n ofidus neu'n anghyfforddus oherwydd unrhyw beth sydd wedi'i rannu yn y sgwrs.

Mae'n werth nodi hefyd bod rhai chwaraewyr yn defnyddio apiau trydydd parti fel Discord i sgwrsio wrth chwarae. Gofynnwch i'ch plentyn a yw'n defnyddio unrhyw apiau ychwanegol wrth chwarae a gwiriwch gyda phwy y mae'n cyfathrebu. Efallai ei bod yn ddefnyddiol gwybod, er bod sgwrsio’n rhan apelgar o chwarae gemau, nad yw'n hanfodol i chwarae.

Mae gan FIFA Mobile ei god ymddygiad ei hun, y mae'n rhaid i bob chwaraewr gadw ato er mwyn chwarae, fel rhan o EA Games. Gall chwaraewyr sy'n mynd yn groes i'r ymddygiad disgwyliedig gael eu tynnu oddi ar y platfform gan EA. Siaradwch â'ch plentyn am yr hyn sy'n ymddygiad priodol wrth chwarae gêm aml-chwaraewr a gofalwch ei fod yn gwybod sut i gwyno am dwyllo neu ymddygiad amhriodol. Dylai chwaraewyr iau sy'n defnyddio'r nodwedd sgwrsio fod yn ymwybodol hefyd o'r hyn sy'n briodol a'r hyn sydd ddim yn briodol iddyn nhw ei bostio mewn sgyrsiau. Trafodwch y gwahanol ffyrdd y gallan nhw amddiffyn eu hunain drwy chwarae gyda ffrindiau maen nhw'n eu hadnabod yn hytrach na chwaraewyr wedi'u paru. Gofalwch fod eich plentyn yn gwybod y gall fod yn anodd cadw perchnogaeth dros unrhyw gynnwys ar ôl iddo gael ei rannu ar-lein, gan y gall cynnwys gael ei gopïo a'i ail-bostio'n rhwydd heb yn wybod iddo, a gall fod yn anodd ei dynnu oddi ar y rhyngrwyd wedyn.

Fel llawer o gemau ar-lein eraill, mae FIFA Mobile yn apelgar iawn ac yn llawn gwobrau ac opsiynau uwchraddio i annog chwarae estynedig. Mae dyluniad apelgar yr ap yn golygu bod chwaraewyr yn cael cynnig gwobrau a bonysau diddiwedd am chwarae gêm arall neu ddatblygu sgiliau tîm. I rai chwaraewyr, gall fod yn anodd cymryd seibiant o'r ap oherwydd y nodweddion dylunio apelgar hyn. Siaradwch â'ch plentyn am sut mae apiau a gemau wedi'u dylunio i ennyn diddordeb defnyddwyr. Mae rhai digwyddiadau yn gofyn am chwarae gemau dros gyfnodau hwy, sy'n golygu y gallai rhai chwaraewyr ei chael hi'n anodd cymryd seibiannau rheolaidd o'r ap. Mae'r chwarae’n canolbwyntio ar gemau, a gall timau gael eu cosbi am adael gêm yn gynnar. Argymhellir eich bod yn gosod ffiniau chwarae yn seiliedig ar nifer y gemau a chwaraeir yn hytrach nag amser penodedig, fel nad yw’ch plentyn yn gorfod rhoi’r gorau i chwarae yn ystod gêm.

Un o'r gwobrau niferus a’r pethau niferus i'w prynu sy'n cael eu cynnig ar yr ap yw 'FIFA Packs’. Yn y bôn, 'loot boxes' yw'r rhain sy'n golygu nad yw chwaraewyr yn gwybod beth sydd yn y pecyn nes iddynt ei agor. Er bod rhai pecynnau'n cael eu hennill wrth chwarae, gellir prynu eraill gan ddefnyddio 'FIFA coins' neu arian go iawn. Y risg gyda 'loot boxes' yw eu bod yn gallu dod â chwaraewyr i gysylltiad â diwylliant gamblo ar-lein, lle mae chwaraewyr yn gwario heb wybod beth maen nhw'n mynd i'w gael. Siaradwch â'ch plentyn am y risgiau sy'n gysylltiedig â gwario ar eitemau anhysbys a phrynu pethau mewn gemau yn fwy cyffredinol.

Un o nodweddion allweddol FIFA Mobile yw ei fod yn trefnu ‘tîm delfrydol’ o hoff chwaraewyr y defnyddiwr. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol bod yna ddefnyddwyr FIFA Mobile sy’n gwerthu eu cyfrifon a'u timau am arian go iawn, er bod hyn yn erbyn cod ymddygiad EA Games. Rydym yn awgrymu eich bod yn siarad â'ch plentyn os yw'n mynegi diddordeb mewn prynu cyfrif defnyddiwr neu werthu ei gyfrif ei hun. Yn benodol, dylech esbonio bod prynu cyfrif defnyddiwr nid yn unig yn ddrud iawn ac yn sgâm posibl, ond y gall naill ai prynu neu werthu cyfrifon arwain at waharddiad parhaol neu i gael ei gyfyngu o wasanaethau EA Games yn y dyfodol.


  • Nid oes unrhyw opsiynau penodol i reoli preifatrwydd ar FIFA Mobile.

  • Mae opsiynau cyfyngedig ar gael i helpu i reoli rhyngweithio a chynnwys ar FIFA Mobile. Gall chwaraewyr ychwanegu ffrindiau yn yr ap a sefydlu cyfrifon cysylltiedig. Gall chwaraewyr dawelu chwaraewyr eraill yn eu cynghrair hefyd os ydyn nhw'n anfon negeseuon amhriodol yn y 'League chat’.

    I ychwanegu ffrindiau:

    • Yn yr ap, ewch i'r ddewislen 'Friends' a dewiswch 'Add friend’.
    • Dewiswch yr opsiwn 'Search' a rhowch 'In game name' y ffrind yn y blwch.
    • Dewiswch 'Continue' a dewiswch 'Add friend' i gwblhau'r broses.
    • Noder: os oes mwy nag un defnyddiwr â'r enw hwnnw, edrychwch ar eu gwybodaeth 'OVR', 'level', 'division' neu 'league' i ddewis yr un cywir.

    I chwarae yn erbyn ffrindiau:

    • Yn yr ap, ewch i'r ddewislen 'Friends' a chwiliwch am y ffrind rydych chi eisiau chwarae yn ei erbyn.
    • Os yw'r ffrind ar-lein, a ddangosir gan ddot gwyrdd, dewiswch y botwm 'Match'.
    • Dewiswch y modd chwarae rydych chi am ei chwarae ac arhoswch i'ch ffrind dderbyn y gwahoddiad.

    I reoli cyfrifon cysylltiedig:

    • Yn yr ap, ewch i'r ddewislen 'Settings' a dewiswch 'Link accounts’.
    • Gofalwch mai’r opsiynau yw 'Not linked' ar gyfer 'Facebook' neu 'Game centre’.

    I dawelu aelodau'r gynghrair:

    • Ewch i'ch 'League chat' a chwiliwch am yr aelod rydych chi am ei dawelu.
    • Tapiwch ar ei neges a dewiswch yr opsiwn 'Mute'.
    • Noder: gallwch chi ddad-dawelu unrhyw chwaraewr yn 'League settings'.
  • Gall defnyddwyr flocio a chwyno am ddefnyddwyr eraill a all fod yn eu poeni nhw neu'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I gwyno am chwaraewr neu gynghrair:

    • Yn yr ap, dewiswch yr eicon seinydd glas wrth ymyl yr enw defnyddiwr neu enw'r gynghrair.
    • Dewiswch y rheswm dros gwyno o'r gwymplen.
    • Ychwanegwch unrhyw wybodaeth ychwanegol sy'n berthnasol i’ch cwyn.
    • Dewiswch 'Send' i gyflwyno'r gwyn.

    I flocio defnyddiwr:

    • Yn yr ap, dewiswch y nodwedd 'Friends' ar y dudalen hafan.
    • Chwiliwch am y chwaraewr rydych chi am ei flocio a dewiswch y tri dot wrth ymyl ei enw.
    • Dewiswch 'Block' i gwblhau'r broses.
  • Mae opsiynau cyfyngedig i helpu i reoli amser a phrynu pethau yn yr ap. Bydd diffodd prynu pethau yn yr ap ar y ddyfais ei hun yn helpu i reoli'r hyn a brynir.

    I ddiffodd hysbysiadau:

    • Yn yr ap, dewiswch yr eicon gosodiadau yn y gornel dde uchaf.
    • Sgroliwch i 'Communications' a dewiswch yr eicon pen wrth ei ymyl.
    • Symudwch dogl yr opsiwn 'Direct notifications' i'r safle i ffwrdd.

    I ddiffodd yr opsiwn i brynu pethau yn yr ap ar iOS:

    • Ewch i 'Settings' > 'Screen time' a sgroliwch i lawr i ‘Content and privacy restrictions’.
    • Dewiswch 'iTunes and app store purchases' a gosodwch yr opsiwn i 'Don't allow’.

    I ddiffodd yr opsiwn i brynu pethau yn yr ap ar Android:

    • Ewch i'ch ap 'Google Play Store'.
    • Dewiswch 'Menu' > 'Settings' > ‘Require authentication for purchases’.
  • Bydd dadactifadu cyfrif yn golygu bod eich gwybodaeth yn cael ei dileu’n barhaol ac nad oes modd ei hadfer.

    I ddileu’ch cyfrif FIFA Mobile:

    • Ewch i’r hafan a dewis yr eicon olwyn gocos ar gornel dde uchaf y sgrin.
    • Sgroliwch i’r gwaelod a dewis ‘Account Deletion’.
    • Darllenwch yr amodau a thelerau a dewis ‘Continue’.
    • Cytunwch â’r amodau a thelerau trwy dicio’r bocs ac yna dewis ‘Delete’.

Mae masnachfraint FIFA wedi hen ennill ei phlwyf, gyda fersiynau newydd o FIFA yn cael eu lansio bob blwyddyn. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol bod y fersiynau newydd hyn yn gemau newydd yn y bôn, felly ni all chwaraewyr drosglwyddo pethau maen nhw wedi'u prynu neu gynnydd a wnaed rhwng fersiynau.

Mae FIFA Mobile yn cyhoeddi canllawiau rheolaidd i helpu chwaraewyr i ddeall a llywio’r platfform.