English

Gêm ymladd aml-chwaraewr yw Call of Duty: Mobile, y gellir ei chwarae ar ddyfeisiau iOS, Android yn ogystal â defnyddio porwr y we. Dyma'r fersiwn symudol ddiweddaraf o fasnachfraint Call of Duty, sydd â chasgliad o gemau Call of Duty eraill ar gael ar gonsolau gemau poblogaidd. Yn y fersiwn symudol hon, mae chwaraewyr yn cystadlu yn erbyn eraill ar-lein gan ddefnyddio arfau a thactegau milwrol realistig i gwblhau cyrchoedd. Mae modd chwarae gemau mewn timau trwy ddefnyddio modd 'Multiplayer' neu gall chwaraewyr gystadlu i fod yr olaf un buddugoliaethus yn 'Battle Royale’. Mae'n gêm gyflym, realistig ac yn cynnwys golygfeydd gwaedlyd a mathau eraill o drais graffig.

Mae hon yn gêm PEGI 18.

Mae gan Call of Duty: Mobile sgôr PEGI oedolion oherwydd lefel a natur y trais yn y gêm. Yn aml gall y gêm ofyn am ladd neu drais heb unrhyw gymhelliad tuag at gymeriadau diamddiffyn. Dyfernir y sgôr oedran hwn hefyd oherwydd trais mwy realistig ei olwg a'r defnydd o iaith anweddus.

Mae'r App Store a Google Play yn rhoi sgôr Mature 17 + i'r gêm hon, ond does dim dulliau gwirio oedran dilys.

Dysgwch fwy am sgoriau oedran yn ein Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau.

Mae Call of Duty: Mobile yn gêm gystadleuol llawn cyffro lle caiff chwaraewyr eu cludo i lefydd, amgylchiadau ac ar gyrchoedd gwahanol. I lwyddo yn y gêm, rhaid datblygu eich sgiliau saethu a meddwl strategol i gyrraedd y nod yn dactegol. Mae defnyddwyr yn chwarae gyda neu yn erbyn eu ffrindiau’n aml yn ogystal â dieithriaid. Yn ystod 'loadout', mae chwaraewyr yn gallu addasu eu cymeriadau, eu manteision (‘perks’) a'u harfau (gan gynnwys prif arf, arf eilaidd a grenadau). Mae'r gêm yn adrodd stori o safbwynt person cyntaf hefyd sy'n ei gwneud yn gêm realistig ac yn caniatáu i ddefnyddwyr chwarae rôl fel rhywun milwrol sydd â phwer.

  • Mae'r modd hwn yn caniatáu i chi chwarae gyda phobl eraill. Gall hyn naill ai fod gyda ffrindiau dethol neu chwaraewyr eraill nad ydych chi'n eu hadnabod.

  • Mae'r modd hwn yn caniatáu i hyd at 100 o chwaraewyr ymladd nes gadael dim ond un ar ôl yn fuddugoliaethus.

  • Mae'r swyddogaeth sgwrsio’n caniatáu i chwaraewyr gyfathrebu â'i gilydd. Gellir gwneud hyn mewn tair ffordd: ‘World' (sy'n gyhoeddus), gyda 'Friends' neu o fewn eich 'Clan' (sef eich tîm).

  • Grwp o chwaraewyr sy'n ymuno i chwarae'r gêm gyda'i gilydd i gwblhau tasgau a chyrchoedd yw 'Clan'. Gall claniau gynnwys chwaraewyr rydych chi'n eu hadnabod, a rhai dy'ch chi ddim yn eu hadnabod.

  • Mae hyn yn caniatáu amser i chwaraewyr ddewis eu manteision, arfau a sgil gweithredwr ('operator skill') cyn ymuno â gêm.

  • Sgiliau ac arfau gwell arbennig y gellir eu defnyddio i adennill meistrolaeth neu ar adegau penodol o'r gêm.

  • Mae hyn yn caniatáu i chwaraewyr addasu ac uwchraddio eu harfau.

  • Dyma'r gwobrau mae chwaraewyr yn eu hennill am chwarae'n dda. Gallant amrywio o arfau i sgiliau i'w helpu i wneud cynnydd. Ar ôl i'ch cymeriad gael ei ladd, mae eich 'scorestreak' yn ailosod. Er y gallwch eu hennill, mae modd eu prynu yn y gêm hefyd.

  • Y fersiwn ddiweddaraf am dâl o Call of Duty.

  • System wobrwyo yn y gêm sy’n debyg i 'Scorestreaks'. Sgoriau yw 'Killstreaks' a roddir i chwaraewyr am nifer y lladdiadau y mae chwaraewr wedi'u cyflawni'n olynol cyn cael eu lladd eu hunain.

  • Mae'r rhain yn rhoi cyfle i chwaraewyr ennill cynnwys a chyfleoedd ychwanegol i ddod yn gyfartal. Gall chwaraewyr naill ai gael tocynnau brwydr am ddim trwy gwblhau heriau neu lefelau, neu gellir eu prynu gan ddefnyddio arian go iawn. Mae tocynnau brwydr â thâl yn rhoi cyfle i chwaraewyr ennill cynnwys unigryw nad yw ar gael i chwaraewyr eraill.

  • Mae'r rhain yn nodweddion y gêm sy'n cael eu hadnewyddu yn ddyddiol ac yn wythnosol sy'n gwobrwyo chwaraewyr am gyflawni ystadegau penodol.

Mae Call of Duty: Mobile yn gêm dreisgar dros ben, ac mae'r sgôr oedran yn adlewyrchu hynny. Mae'r animeiddio’n eithaf realistig ac yn cynnwys golygfeydd o waed yn tasgu pan gaiff chwaraewyr eu lladd. Mae chwaraewyr yn wynebu arfau milwrol realistig amrywiol hefyd. Er bod y gêm yn cynnwys rhywfaint o iaith anweddus, mae chwaraewyr yn dod i gysylltiad ag iaith anweddus a chynnwys aeddfed drwy'r sgyrsfan ac wrth ymwneud â defnyddwyr eraill yn fyw hefyd. Er bod hidlyddion rhegfeydd yn eu lle, mae'r sgyrsfan yn dal i ganiatáu i iaith amhriodol ddigwydd, felly peidiwch â dibynnu ar rheini'n unig fel ffordd o osgoi cysylltiad â chynnwys amhriodol. Drwy chwarae gyda ffrindiau, yn hytrach na dieithriaid, mae'ch plentyn yn llai tebygol o brofi iaith neu ymddygiad nad yw'n addas i'w oed. Fodd bynnag, dylid cydnabod y gallai'ch plentyn fod yn agored i gynnwys amhriodol o hyd drwy ei gysylltiadau hysbys.

Mae Call of Duty: Mobile wedi'i chynllunio fel gêm aml-chwaraewr gyda ffrindiau neu ddieithriaid ar-lein. Mae'n bosib chwarae gemau a gornestau gyda grwp o chwaraewyr eraill ar hap. Gall platfformau gemau fel Call of Duty ei gwneud hi'n haws i bobl feithrin cysylltiadau â dieithriaid oherwydd eu diddordeb cyffredin yn y gêm. Efallai y bydd rhai chwaraewyr yn teimlo eu bod wedi datblygu cyfeillgarwch drwy'r platfform ac yn rhannu eu proffiliau cyfryngau cymdeithasol eraill i gysylltu. Atgoffwch eich plentyn i beidio â rhannu gwybodaeth bersonol â phobl nad yw'n eu hadnabod ar y platfform. Os yw'ch plentyn yn chwarae Call of Duty: Mobile, anogwch nhw i chwarae gyda grwp o ffrindiau. Mae gwybodaeth am sut i wneud hyn ar gael yn adran 'Rheoli rhyngweithio a chynnwys' y canllaw hwn. Mae'r gêm yn cynnwys yr opsiwn i sgwrsio ar-lein naill ai drwy sgwrs llais neu destun ysgrifenedig. Hefyd, mae'n werth nodi bod rhai chwaraewyr yn defnyddio apiau sgwrsio trydydd parti fel Discord i sgwrsio wrth chwarae gemau. I chwaraewyr sydd eisiau ffrydio eu sgwrs yn fyw i'w ffrindiau, dylech eu hatgoffa nhw eu bod nhw'n gadael ôl troed digidol pan maen nhw ar-lein ac y gallai unrhyw beth maen nhw'n ei ddweud gael ei gipio a'i rannu nawr ac yn y dyfodol.

Fel llawer o gemau aml-chwaraewr, mae chwaraewyr yn gallu ymgolli'n llwyr yn Call of Duty nes bod yn llethol gan arwain at gyfnodau hir o chwarae.

Gall chwaraewyr deimlo pwysau i barhau i chwarae pan fyddan nhw'n cwblhau cyrchoedd mewn tîm neu 'clan'. Anogwch chwaraewyr i gymryd seibiant lle bo modd. Hefyd, mae 'Limited-time events'.

Gan fod y gêm hon am ddim i'w lawrlwytho, mae'n dibynnu ar brynu eitemau yn y gêm i greu refeniw. Mae'n bwysig deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i wneud hyn. Gallwch osod y gosodiadau 'in-app purchases' perthnasol ar y ddyfais. Hefyd, mae'n bwysig gwirio nad yw'r gêm wedi'i chysylltu â'ch cardiau banc na manylion ariannol. Dylid nodi bod modd chwarae'r gêm heb brynu eitemau ychwanegol.

  • Gan fod gan y gêm hon sgôr oedran oedolion, ychydig iawn o reolaethau a gosodiadau rhieni sydd ar gael. Yn hytrach, bydd angen i chi edrych ar osodiadau'r ddyfais symudol unigol i roi rheolaethau ar waith.

    I osod 'Private' ar iOS:

    • ewch i'r 'Game Centre' yn newislen gosodiadau eich iPhone
    • sgroliwch i lawr i ‘Privacy and settings’ a newid eich ‘Profile privacy’ i ‘Only you’

    I osod 'Private' ar Android:

    • ewch i'r ap 'Play games', cyffwrdd â'r eicon dewislen a dewis 'Settings’
    • dewiswch ‘Game profile’ > ‘Play now’ > ‘Your game profile’
    • addaswch eich gosodiadau ‘Visibility and notifications’ i'r dewisiadau mwyaf preifat
  • Oherwydd sgôr oedran y gêm, does dim unrhyw osodiadau diogelwch go iawn i gyfyngu ar gyswllt na chynnwys. Argymhellir bod eich plentyn yn chwarae gyda ffrindiau all-lein dibynadwy, yn hytrach na dieithriaid.

    I ychwanegu ffrind:

    • ar yr hafan, dewiswch eicon y ffrind ar frig y sgrin
    • sgroliwch i lawr i 'Add friends'
    • teipiwch ID defnyddiwr eich ffrind yn y bar chwilio ac yna 'Search’
    • pan fydd eich ffrind yn ymddangos, dewiswch y botwm 'Request' i anfon cais ffrind ato

    I wahodd ffrind i gêm:

    • agorwch y ddewislen aml-chwaraewyr (multiplayer) a dewis yr opsiwn 'Invite' ar ochr chwith y sgrin
    • dewiswch yr eicon ffrind i weld eich rhestr ffrindiau
    • dewiswch y ffrindiau yr hoffech eu gwahodd drwy ddewis yr eicon 'Plus' wrth ymyl eu henw
    • ar ôl i'ch ffrindiau dderbyn, byddwch chi'n gallu dechrau'r gêm

    I ddistewi chwaraewr:

    • tra rydych chi yn y gêm, dewiswch yr eicon seinydd ar yr ochr dde
    • dewiswch y chwaraewr o'r rhestr ac yna'r seinydd wrth ymyl ei enw
    • bydd hyn yn ei ddistewi gydol y gêm
  • Gall defnyddwyr rwystro a chwyno am ddefnyddwyr eraill sy'n eu poeni neu sy'n ymddwyn yn amhriodol ar y platfform.

    I gwyno am chwaraewr:

    • tapiwch ar eich llun proffil a mynd i 'Player history' (eicon stopwatch)
    • tapiwch yr eicon parasiwt i gwyno am chwaraewr o gêm 'Battle Royale'
    • dewiswch y chwaraewr yr hoffech chi gwyno amdano a thapio'r eicon ebychnod (!)
    • uwcholeuwch y chwaraewr a dewis y math priodol o reswm o'r rhestr a dewis 'Report'
  • Er bod hon yn gêm ddi-dâl i’w chwarae, mae cyfle i brynu eitemau yn y gêm

     Gallwch analluogi'r opsiwn i brynu eitemau mewn apiau ar bob dyfais unigol.

    I analluogi prynu mewn apiau ar iOS:

    • ewch i ‘Settings’ > ‘Screen time’ a sgrolio i lawr i ‘Content and privacy restrictions’
    • dewiswch ‘iTunes and App Store purchases’ ac yna'r opsiwn ‘Don’t allow’

    I analluogi prynu mewn apiau ar Android:

    • ewch i'ch ap 'Google Play Store'
    • dewiswch ‘Menu’ > ‘Settings’ > ‘Require authentication for purchases’
    • mae hyn yn golygu y bydd angen i chi osod cyfrinair i brynu pethau mewn apiau
  • Mae dileu cyfrif yn golygu y bydd eich holl wybodaeth yn cael ei dileu’n barhaol ac nad oes modd ei hadfer. Ar hyn o bryd, does dim modd dadactifadu cyfrif defnyddiwr dros dro.

    I ddileu eich cyfrif Call of Duty:

    • dewiswch ‘Settings’ o’r hafan.
    • sgroliwch i’r opsiwn ‘Legal and privacy’
    • sgroliwch i ‘Delete account’ a dewis ‘Go’
    • bydd angen i chi cyflwyno ffurflen ‘Request to delete’
    • darllenwch y wybodaeth a dewiswch eich gwlad o’r gwymplen
    • dewiswch y bocs i gadarnhau eich bod wedi darllen y wybodaeth, a dewis ‘Proceed’
    • dewiswch ‘Delete personal erasure’ a dewis y plafform rydych am ddileu’ch cyfrif ohono

Mae Call of Duty yn fasnachfraint hynod boblogaidd o gemau, ac mae angen prynu llawer ohonynt er mwyn eu chwarae ar gonsol gemau.