English

3. Cyfathrebu a hyrwyddo

 


  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid ym maes addysg sy’n cynnwys ffocws ar ddiogelwch ar-lein.

    Yn ystod mis Mawrth 2023 mynychodd ymarferwyr addysg a gweithwyr proffesiynol o bob rhan o Gymru ein cynadleddau ar-lein Cadw'n Ddiogel yn Llandudno a Chaerdydd.  

    Clywodd y cynadleddau, a gynhaliwyd gan Hwb, gan sefydliadau arbenigol blaenllaw ar ystod o bynciau cydnerthedd digidol.  Roedd prif areithiau Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, Estyn, Ofcom a'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn rhoi mewnwelediad i'r tueddiadau diweddaraf mewn technoleg ddigidol a diogelwch ar-lein, dulliau arfer gorau o ran darpariaeth mewn ysgolion, y dirwedd reoleiddio sydd ar ddod a pham mae seiber-wytnwch mor bwysig i ysgolion. Cafodd ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol gyfle hefyd i fynychu sesiynau trafod gyda phartneriaid dibynadwy rhaglen Cadernid Digidol mewn Addysg Hwb i ddysgu am y strategaethau, sgiliau, gwybodaeth ac adnoddau sydd ar gael i gefnogi dysgwyr ac ysgolion yng Nghymru. 

    Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys awdurdodau lleol a'r consortia rhanbarthol i gefnogi sesiwn hyfforddi a gyflwynir i ymarferwyr ledled Cymru.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

     

    Yn ystod 2022, rydym wedi parhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid addysg i hyrwyddo cyfleoedd i ymgysylltu. Rydym wedi cefnogi SWGfL i hyrwyddo digwyddiadau mewn cydweithrediad â TikTok gan ganolbwyntio ar lythrennedd o ran y cyfryngau a lles digidol ac rydym yn parhau i hyrwyddo 'Sesiynau Briffio Diogelwch Ar-lein' a gyflwynir fel rhan o’r UK Safer Internet Centre.

    Gan ymgysylltu'n agos â chonsortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol rydym wedi darparu sesiynau hyfforddi gwytnwch digidol yn rhithiol ac wyneb yn wyneb i athrawon ledled Cymru.

    Rydym hefyd wedi cydweithio â rhanddeiliaid ar ymgyrchoedd gwytnwch digidol i ysgolion ar bynciau gan gynnwys 'Enw da ar-lein ac ôl troed digidol'  a 'gwe-rwydo’.   

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Er mwyn cadw pobl yn ddiogel yn ystod y pandemig ni chynhaliwyd unrhyw ddigwyddiadau wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, rydym wedi parhau i ymgysylltu â chonsortia rhanbarthol, awdurdodau lleol ac ysgolion yn rhithwir i hyrwyddo cyfleoedd addysg cadernid digidol.

    Rydym wedi cynnal 5 gweminar fyw i roi arweiniad a chyngor ymarferol yn y meysydd canlynol:   

    Gwnaethom gefnogi tri 'Briff Diogelwch Ar-lein' pellach a gyflwynwyd fel rhan o waith allgymorth Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU gan ddarparu gwybodaeth am y diogelwch, tueddiadau, technolegau, materion ac ymchwil ar-lein diweddaraf. Rydym yn cefnogi hyn drwy hyrwyddo'r sesiynau a'u hargaeledd ar ardal Cadw'n ddiogel ar-lein Hwb.

    Rydym wedi ymgysylltu ac ymuno â grwp Cyflawni Technoleg Addysg a Grwp Safoni Technegol Hwb i archwilio a chyflwyno cyfleoedd cadernid digidol, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r grwpiau hyn.

    Byddwn hefyd yn parhau i weithio'n agos gyda chonsortia rhanbarthol i archwilio cyfleoedd i gydweithio ar ymgyrch cadernid digidol i ysgolion.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus

    Ym mis Mawrth 2020, ar y cyd â SWGfL, aethom i ddau Ddigwyddiad Dysgu Digidol Rhanbarthol yn Venue Cymru, Llandudno, a Chanolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd. Cynhaliwyd y digwyddiadau, wedi’u cynnal gan y consortia rhanbarthol, yn lle’r Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol, gyda’r nod o ddod ag athrawon a’r rhai sy’n gweithio ym maes addysg ynghyd i rannu enghreifftiau ac arferion gorau mewn perthynas â’r dysgu digidol sy’n digwydd ledled Cymru.

    Gwnaethom gyflwyno dau linyn ym mhob digwyddiad dan arweiniad y Gangen Cadernid Digidol mewn Addysg a SWGfL, gan godi ymwybyddiaeth o’r gweithgarwch cadernid digidol. Cafodd dau ddigwyddiad arall, y bwriadwyd eu cynnal ym mis Mawrth, eu canslo o ganlyniad i effaith COVID-19. Drwy SWGfL, rydym yn parhau i sicrhau presenoldeb yn y sesiynau CwrddHwb, a gaiff eu lletya gan y consortia rhanbarthol, sy’n ymdrin ag agweddau ar ddiogelwch ar-lein.

    Yn ystod 2019–20, gwnaethom gefnogi deg o’r sesiynau briffio diogelwch ar-lein a gynhaliwyd fel rhan o waith maes Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, gan ddarparu gwybodaeth am y tueddiadau, y technolegau, y materion a’r ymchwil diweddaraf mewn perthynas â diogelwch ar-lein. Rydym yn cefnogi hyn drwy hyrwyddo’r sesiynau a’u hargaeledd ar barth Cadw’n ddiogel ar-lein Hwb.

    Statws y cam gweithredu:  Parhaus.

    Cynhaliwyd Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol 2018 yng Ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd, ddydd Mercher 20 Mehefin 2018. Thema’r digwyddiad oedd ‘Rhannu arferion digidol i gefnogi cwricwlwm sy’n datblygu’ ac roedd 229 o gynrychiolwyr yn bresennol. Cafodd y digwyddiad ei gynllunio ar sail ‘Marchnad Ddigidol’. Roedd 40 o stondinau dan arweiniad ymarferwyr ac arbenigwyr (a 38 o ddysgwyr) a oedd yn cynnal sesiynau byr ac ymarferol gyda grwpiau bach o gyfranogwyr. Roedd y stondinau’n dangos enghreifftiau arloesol o’r arferion digidol sy’n cael eu datblygu mewn ysgolion ledled Cymru. Roedd un stondin yn canolbwyntio ar ddiogelwch ar-lein, ac yn cael ei chynnal gan swyddogion Llywodraeth Cymru a SWGfl. Nod y stondin oedd codi ymwybyddiaeth o’n gweithgareddau diogelwch ar-lein, y Parth Diogelwch Ar-lein ar Hwb a’i gasgliad helaeth o adnoddau diogelwch ar-lein.

     

    O dymor y gwanwyn 2020 ymlaen, cynhelir pedwar Digwyddiad Dysgu Digidol Rhanbarthol – bydd un yn cael ei gynnal gan bob un o’r pedwar consortiwm rhanbarthol. Mae’r digwyddiadau hyn yn disodli’r Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol ac yn sicrhau ein bod yn cyrraedd cynulleidfa addysg ehangach ledled Cymru. Mae’r digwyddiadau wedi’u hanelu at athrawon a’r rhai sy’n gweithio ym maes addysg yng Nghymru, gyda’r nod o godi proffil dysgu digidol er mwyn ceisio nodi a rhannu enghreifftiau o arferion da ac arbenigedd ym maes dysgu digidol. Yn ogystal, mae cynlluniau ar y gweill i gynnal digwyddiadau tebyg wedi’u hanelu at ddysgwyr, gan gynnwys sesiynau a gyflwynir gan ddysgwyr.

    Bydd y consortia rhanbarthol yn parhau i gynnal CwrddHwb. Fel rhan o’u cylch gwaith, mae CwrddHwb yn cynnwys agweddau ar ddiogelwch ar-lein.

    Yn ystod 2018–19, gwnaethom gefnogi’r 11 o sesiynau briffio diogelwch ar-lein a gynhaliwyd fel rhan o waith maes Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, gan hyrwyddo’r sesiynau a’u hargaeledd yn y Parth Diogelwch Ar-lein ar Hwb.

    Yn ystod 2019–20, bydd Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU yn cyflwyno deg sesiwn yng Nghymru. Bydd y sesiynau’n darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am dueddiadau, technolegau, materion ac ymchwil gyfoes yn ymwneud â diogelwch ar-lein, yn ogystal â chyfeirio cynrychiolwyr i adnoddau a chyngor. Byddwn yn parhau i ddarparu cymorth cyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o’r ddarpariaeth hon gan Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Caiff amrywiaeth o ddigwyddiadau rhanddeiliaid digidol eu cynnal ledled Cymru, gan gynnwys: 

    • digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol blynyddol – digwyddiad blaenllaw, wedi’i anelu at athrawon a’r rhai sy’n gweithio ym maes addysg yng Nghymru, i godi proffil dysgu digidol, gyda’r nod o nodi a rhannu enghreifftiau o arferion da ac arbenigedd ym maes dysgu digidol
    • CwrddHwb – sesiynau rhwydweithio wyneb yn wyneb i athrawon sy’n hwyluso’r broses o rannu arferion da ac yn galluogi athrawon i ddysgu gan eraill; fe’u darperir ar y cyd â chonsortia rhanbarthol

    Sesiynau Briffio Diogelwch Ar-lein – bydd SWGfL, fel rhan o Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, yn cynnal sesiynau Briffio Diogelwch Ar-lein (Saesneg yn unig) yng Nghymru.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu parth diogelwch ar-lein deinameg ar Hwb, sy’n cynnwys ffynonellau newyddion, digwyddiadau ac adnoddau i blant, pobl ifanc, gweithwyr proffesiynol ym maes addysg, llywodraethwyr, rhieni a gofalwyr mewn perthynas â diogelwch ar-lein. 

    Yn ystod 2023, rydym wedi parhau i ddatblygu ardal Cadw'n Ddiogel Ar-lein ar Hwb er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf, canllawiau a chymorth ar faterion sy'n ymwneud â diogelwch ar-lein a seiberddiogelwch.

    Rydym wedi parhau i ehangu ein nodwedd ‘Barn yr Arbenigwyr’, ac mae'r erthyglau canlynol wedi cael eu cyhoeddi hyd yn hyn yn ystod blwyddyn academaidd 2022-23:

    Yn ystod 2022-23, gwnaethom hefyd barhau i godi ymwybyddiaeth o rai materion pwysig sy'n ymwneud â diogelwch ar-lein, gan gynnwys:

    Mae'r rhan o fewn Cadw'n Ddiogel Ar-lein sy'n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc, sef problemau a phryderon ar-lein, wedi parhau i ddatblygu a chaiff adolygiad llawn o'r cynnwys a chanllawiau newydd eu cyhoeddi ym mis Mehefin 2023.

    Mae'r canllawiau ynghylch apiau i deuluoedd hefyd wedi datblygu, gyda chwe adolygiad misol o'r cynnwys a 15 o ddogfennau canllaw newydd yn cael eu cyhoeddi yn ystod blwyddyn academaidd 2022/23. Byddwn yn parhau i adolygu'r canllawiau bob chwe mis a byddwn yn ychwanegu canllawiau newydd ar gyfer apiau sy'n dod yn fwy poblogaidd ymhlith plant a phobl ifanc, fel y bo'n briodol.

    Gwnaethom hefyd ychwanegu modiwlau hyfforddiant ar-lein newydd er mwyn cefnogi ymarferwyr addysg gyda materion pwysig sy'n ymwneud â diogelwch ar-lein, gan gynnwys:

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Rydym yn parhau i ddatblygu ardal Cadw'n ddiogel ar-lein Hwb i sicrhau ein bod yn darparu'r wybodaeth, y canllawiau a'r cymorth diweddaraf ar faterion sy’n ymwneud â chadernid digidol.

    Yn ystod 2021-22, fe wnaethom barhau i ehangu ein nodwedd 'Barn yr Arbenigwyr' gan gyhoeddi'r erthyglau a ganlyn ar faterion cadernid digidol amserol:

    Byddwn yn parhau i gyhoeddi erthyglau rheolaidd gan sefydliadau arbenigol drwy gydol 2022.

    Yn 2021-22 gwnaethom barhau â'n hymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o rai materion diogelwch ar-lein pwysig yn dilyn cyhoeddi ein hymgyrch 'Atal camwybodaeth rhag lledaenu' a gyhoeddwyd gennym:

    • Lansiwyd 'Byddwch yn driw i chi'ch hun ar-lein' ym mis Mehefin 2021, i godi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â hunan-barch a chyfryngau cymdeithasol. Roedd yr ymgyrch yn cynnwys gwybodaeth am fanteision a risgiau defnyddio cyfryngau cymdeithasol, rôl dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol, y pwysau i ffitio i mewn ar-lein a chyngor ar sut i gael profiad cadarnhaol ar y cyfryngau cymdeithasol.
    • Lansiwyd 'Peidiwch â mynd i sefyllfa lle mai gwario yw prif bwrpas y gêm' ym mis Rhagfyr 2021 i helpu rhieni a gofalwyr i ddeall mwy am bryniannau mewn gemau a sut i osgoi costau ychwanegol.
    • Cafodd ‘Tynnu coes, neu bwlio?’ ei lansio ym mis Mawrth 2022, gyda'r nod o gynyddu'r ddealltwriaeth o ba bryd mae ychydig o dynnu coes yn troi’n fwlio, ac effaith hyn.

    Ym mis Awst 2021, cafodd ardal 'Cadw’n ddiogel ar-lein’ Hwb ei hadnewyddu ar ôl ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae'r dudalen gartref newydd yn cynnwys ardal 'Pynciau' gan sicrhau bod defnyddwyr yn gallu dod o hyd i'r wybodaeth, yr adnoddau a'r canllawiau ategol ar gadernid digidol sydd wedi'u teilwra i'w hanghenion.

    Mae'r dudalen gartref bellach yn cynnwys y newyddion, y rhaglenni gwybodaeth a’r digwyddiadau diweddaraf ar gadernid digidol gan gynnwys Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel a'r rhaglenni CyberFirst a dolenni uniongyrchol i offer a nodweddion fel 360 safe Cymru a 'Barn yr Arbenigwyr’.

    Yn ystod 2022 rydym wedi parhau i ddatblygu ac esblygu’r tudalennau Cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb i ddarparu'r wybodaeth, y canllawiau a'r gefnogaeth ddiweddaraf ar faterion yn ymwneud â diogelwch ar-lein a seiberddiogelwch.

    Rydym wedi parhau i ehangu ein nodwedd 'Barn gan yr Arbenigwyr', gan gyhoeddi’r erthyglau canlynol yn ystod 2022:

    • Beth yw'r Metafyd? - Jim Gamble QPM, Prif Swyddog Gweithredol y Grwp Diogelu INEQE
    • Rheoli eich ôl-troed digidol a'ch enw da - Richard Wall ac Elaina Brutto, Gyrfa Cymru
    • Problemau a phryderon ar-lein o safbwynt pobl ifanc - Andrew Collins, ProMo-Cymru
    • Hawliau Plant yn y Byd Digidol   ddatblygwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru
    • Pam mai pryder i'r uwch-dîm arwain yw seiber-gadernid mewn ysgolion, nid yr adran TG - Symon Kendall, Rhingyll- dditectif yn Uned Troseddau Seibr Rhanbarthol Tarian

     

    Yn 2022 gwnaethom hefyd barhau i gynyddu ymwybyddiaeth o rai materion diogelwch ar-lein pwysig, gan gynnwys:

    • Tynnu coes neu fwlio? Deall pan fo ymddygiad yn croesi'r llinell.
    • 'Enw da ar-lein ac ôl troed digidol' - Annog plant a phobl ifanc i ystyried effaith eu hôl-troed digidol.

     

    Lansiwyd adran newydd  o Cadw'n Ddiogel Ar-lein yn 2022, yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae'r adran hon yn cynnwys cyngor ar amryw o bynciau gan gynnwys rhannu lluniau noeth, casineb ar-lein a gemau ar-lein. Mae'r cyngor wedi’i greu i’w helpu i gadw eu profiadau ar-lein yn gadarnhaol ac i ddeall sut y gallant adrodd am broblemau a chael cefnogaeth os oes ei angen arnynt.

    Rydym wedi parhau i ddatblygu’r canllawiau apiau i deuluoedd yn 2022. Rydym wedi diweddaru'r 24 canllaw presennol i adlewyrchu unrhyw nodweddion a gosodiadau preifatrwydd newydd sydd bellach ar gael o fewn yr apiau. Fe wnaethon ni hefyd ychwanegu 5 o ganllawiau newydd ar gyfer apiau sy'n cynyddu mewn poblogrwydd ymhlith plant a phobl ifanc. Ar ddechrau 2023, bydd y canllawiau’n cael eu hadolygu a'u diweddaru unwaith eto a bydd 10 canllaw newydd yn cael eu hychwanegu at y gyfres.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Rydym yn parhau i ddatblygu ac esblygu ardal Cadw'n ddiogel ar-lein Hwb i sicrhau ein bod yn darparu'r wybodaeth, y canllawiau a'r gefnogaeth ddiweddaraf ar faterion cadernid digidol.

    Ym mis Ionawr 2021, fe wnaethom ni lansio nodwedd newydd 'Barn yr arbenigwyr' gan gyhoeddi erthyglau rheolaidd ar gadernid digidol gan sefydliadau arbenigol ac yn tynnu sylw at farn arbenigwyr ar amrywiaeth o bynciau perthnasol. Mae'r erthyglau canlynol wedi'u cyhoeddi:

    Ym mis Ebrill 2021, fe wnaethom ni ddatblygu ymgyrch 'Atal camwybodaeth rhag lledaenu' gan gydnabod dibyniaeth gynyddol pobl ar y platfformau ar-lein a’r  cyfryngau cymdeithasol am y newyddion. Ceisiodd yr ymgyrch dynnu sylw at bwysigrwydd gwirio ffynonellau cyn rhannu gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus

    Ym mis Mai, cafodd y Parth Diogelwch Ar-lein ar Hwb ei ailenwi’n Cadw’n ddiogel ar-lein er mwyn adlewyrchu cylch gwaith estynedig y parth. Mae’r parth Cadw’n ddiogel ar-lein yn cefnogi plant a phobl ifanc, rheini a gofalwyr, ymarferwyr a llywodraethwyr mewn perthynas â diogelwch ar-lein, seiber ddiogelwch a diogelu data, gan gynnig amrywiaeth o adnoddau, canllawiau a dolenni i ffynonellau cymorth pellach.

    Yn ystod tymor yr haf 2020, gwnaethom gynnal adolygiad o’r parth Cadw’n ddiogel ar-lein er mwyn ystyried sut y gellid gwella profiad y defnyddiwr. Yn dilyn yr adolygiad hwn, lansiwyd parth Cadw’n ddiogel ar-lein ar ei newydd wedd ym mis Medi 2020.

    Ers lansio’r Parth Diogelwch Ar-lein yn 2017, rydym bellach wedi cyhoeddi dros 150 o adnoddau gan gynnwys 112 o adnoddau rhestrau chwarae, 4 pecyn addysg ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, yn ogystal ag 16 o ganllawiau i ymarferwyr a 19 o ganllawiau i rieni a gofalwyr.

    Edrychwyd ar dudalennau parth Cadw’n ddiogel ar-lein dros 307,000 o weithiau yn ystod 2019–20, gan gyrraedd dros 770,000 o edrychiadau tudalen i’r parth erbyn hyn.

    Yn ystod 2020–21, bydd parth Cadw’n ddiogel ar-lein yn parhau i gynnal yr holl newyddion, adnoddau, canllawiau a gwybodaeth i ysgolion yng Nghymru mewn perthynas â diogelwch ar-lein, seiber ddiogelwch a diogelu data.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Mae Hwb, y llwyfan dysgu digidol ar gyfer Cymru, yn darparu amrywiaeth eang o offerynnau ac adnoddau digidol dwyieithog a ariennir yn ganolog i randdeiliaid addysg er mwyn helpu i drawsnewid arferion addysg. Mae Hwb wedi datblygu i fod yn gyfrwng digidol strategol unigol ar gyfer addysg yng Nghymru, gan gynnal Cwricwlwm i Gymru, datblygiad proffesiynol i staff, a chymorth ar gyfer seilwaith digidol. Caiff Hwb ei ddefnyddio’n rheolaidd gan dros 96 y cant o ysgolion yng Nghymru.

    Mae’r Parth Diogelwch Ar-lein ar Hwb yn parhau i fod yn stop un siop ar gyfer adnoddau dwyieithog am ddiogelwch ar-lein. Ers ei lansio yn 2017, rydym wedi cyhoeddi dros 105 o adnoddau gan gynnwys 66 o adnoddau rhestr chwarae, tri phecyn addysg ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, yn ogystal â 10 o ganllawiau i athrawon a 10 o ganllawiau i rieni a gofalwyr.

    Edrychwyd ar dudalennau’r Parth Diogelwch Ar-lein dros 50,000 o weithiau yn ystod 2018–19, a hyd yma mae’r nifer o weithiau yr edrychwyd ar ei dudalennau wedi cyrraedd dros 366,000.

    Yn ystod 2019–20, byddwn yn parhau i greu a chynnal yr holl newyddion, adnoddau, canllawiau a gwybodaeth mewn perthynas â diogelwch ar-lein ar gyfer rhaglenni addysg yng Nghymru. Byddwn hefyd yn cynnal adolygiad o’r Parth Diogelwch Ar-lein, gan ystyried ffyrdd o wella profiad y defnyddiwr presennol.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Ym mis Mai, cafodd y Parth Diogelwch Ar-lein ar Hwb ei ailenwi’n Cadw’n ddiogel ar-lein er mwyn adlewyrchu cylch gwaith estynedig y parth. Mae’r parth Cadw’n ddiogel ar-lein yn cefnogi plant a phobl ifanc, rheini a gofalwyr, ymarferwyr a llywodraethwyr mewn perthynas â diogelwch ar-lein, seiber ddiogelwch a diogelu data, gan gynnig amrywiaeth o adnoddau, canllawiau a dolenni i ffynonellau cymorth pellach.

    Yn ystod tymor yr haf 2020, gwnaethom gynnal adolygiad o’r parth Cadw’n ddiogel ar-lein er mwyn ystyried sut y gellid gwella profiad y defnyddiwr. Yn dilyn yr adolygiad hwn, lansiwyd parth Cadw’n ddiogel ar-lein ar ei newydd wedd ym mis Medi 2020.

    Ers lansio’r Parth Diogelwch Ar-lein yn 2017, rydym bellach wedi cyhoeddi dros 150 o adnoddau gan gynnwys 112 o adnoddau rhestrau chwarae, 4 pecyn addysg ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, yn ogystal ag 16 o ganllawiau i ymarferwyr a 19 o ganllawiau i rieni a gofalwyr.

    Edrychwyd ar dudalennau parth Cadw’n ddiogel ar-lein dros 190,000 o weithiau yn ystod 2019–20, gan gyrraedd dros 740,000 o edrychiadau tudalen i’r parth erbyn hyn.

    Yn ystod 2020–21, bydd parth Cadw’n ddiogel ar-lein yn parhau i gynnal yr holl newyddion, adnoddau, canllawiau a gwybodaeth i ysgolion yng Nghymru mewn perthynas â diogelwch ar-lein, seiber ddiogelwch a diogelu data.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yng Nghymru bob blwyddyn er mwyn codi proffil a phwysigrwydd diogelwch ar-lein ledled Cymru.

    I ddathlu Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2023, gwnaethom gynnal cystadleuaeth ar gyfer plant a phobl ifanc, gan alw arnynt i greu ffilm fer sy'n cyfleu eu safbwyntiau, eu barn neu eu straeon am ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, gemau neu apiau. Ffocws y gystadleuaeth eleni oedd llais plant.

    Cafodd yr ymgeiswyr a ddaeth i'r brig eu gwahodd i ddathliad ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, lle y cawsant y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau ar thema Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel a lle y cafodd yr enillwyr eu cyhoeddi.

    Hefyd, bûm yn gweithio gyda Childnet i leoleiddio a chyfieithu pecynnau addysg Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, a oedd yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau i ysgolion eu defnyddio fel rhan o'u dathliadau Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.

    Byddwn yn parhau i gefnogi Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel bob blwyddyn er mwyn codi proffil a phwysigrwydd diogelwch ar-lein ledled Cymru.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2022

    Er mwyn paratoi ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2022, fe wnaethom ni, mewn partneriaeth â Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU (UKSIC), gynnal digwyddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid rhithiol ym mis Tachwedd 2021. Diben y digwyddiad oedd rhoi trosolwg o weithgareddau Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2022, a rhoi gwybodaeth i ysgolion, sefydliadau a busnesau am y ffordd y gallent gymryd rhan.

    Gan weithio gyda Childnet, gwnaethom ariannu'r gwaith o gyfieithu pecynnau Addysg Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU. Mae'r pecynnau dwyieithog, sy'n cynnig amrywiaeth o adnoddau i ysgolion gynnal sesiynau i blant a phobl ifanc ar draws yr ystodau oedran, ar gael ar y parth Cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb.

    At hyn, rydym wedi casglu cynlluniau gwersi, gweithgareddau, taflenni gwaith a gemau gan ein partneriaid dibynadwy i chi eu defnyddio ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.

    I ddathlu Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2022, rhoddodd Llywodraeth Cymru wahoddiad i blant a phobl ifanc ledled Cymru i gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Ffilm Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel - 'Parcha fi. Fy rhyngrwyd, fy hawliau’.

    Heriodd y gystadleuaeth blant a phobl ifanc i greu ffilm sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd parchu eraill ar-lein. Cafodd enillwyr y gystadleuaeth eu cyhoeddi gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ar 8 Chwefror 2022.

    Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2023

    Wrth baratoi ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2023,buom yn gweithio gyda'r UK Safer Internet Centre (UKSIC) i gynnal digwyddiad ymgysylltu rhithwir â rhanddeiliaid ar 24 Tachwedd 2022. Diben y digwyddiad oedd rhoi trosolwg o weithgareddau Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2023, a rhoi gwybodaeth i ysgolion, sefydliadau a busnesau am sut y gallant gymryd rhan.

    Rydym hefyd yn gweithio gyda Childnet i froeiddio a chyfieithu pecynnau addysg Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel UKSIC, sy'n darparu amrywiaeth o adnoddau i ysgolion eu defnyddio fel rhan o'u dathliadau ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel

    Rydym hefyd wedi ffurfio partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru i lansio Cystadleuaeth Ffilm Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel  2023. Rydym yn gwahodd plant a phobl ifanc i greu ffilm fer sy'n cyfleu eu barn, syniadau neu straeon am ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, gemau neu apiau. Canolbwynt y gystadleuaeth eleni yw llais plant.

    Bydd rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth yn cael gwahoddiad i ddathliad yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, lle byddant yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau ar thema’r Diwrnod a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Er mwyn paratoi ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel (SID) 2021, aethom ni, mewn partneriaeth â Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU (UKSIC), i arwain ymgyrch i annog plant a phobl ifanc, staff ysgol, rhieni a gofalwyr, a busnesau yng Nghymru i gymryd rhan yn Niwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.

    Cynhaliwyd digwyddiad gwybodaeth SID rhithwir mewn partneriaeth ag UKSIC ym mis Tachwedd 2020. Diben y digwyddiad oedd rhoi trosolwg o weithgareddau SID 2021 a gwybodaeth i ysgolion, sefydliadau a busnesau ar sut gallant gymryd rhan.

    Gan weithio gyda Childnet, fe wnaethom ariannu cyfieithiad o becynnau Addysg SID UKSIC. Mae'r pecynnau dwyieithog, sy'n darparu amrywiaeth o adnoddau i ysgolion gyflwyno sesiynau i blant a phobl ifanc ar draws yr ystodau oedran, ar gael yn yr ardal Cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb.

    Y thema ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2021 oedd 'Rhyngrwyd yr ydym yn ymddiried ynddo: archwilio dibynadwyedd yn y byd ar-lein.’

    Cynhaliwyd cystadleuaeth a oedd yn herio plant a phobl ifanc i ddefnyddio eu creadigrwydd naill ai drwy greu ffilm, ysgrifennu stori neu recordio clip sain i egluro beth yw camwybodaeth, pam y gallai fod yn broblem, sut gallwn ei hadnabod a beth allwn ni ei wneud i amddiffyn ein hunain a'i hatal rhag lledaenu.

    Daeth y gystadleuaeth i ben ym mis Ionawr 2021 ac roedd y panel beirniaid yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys y BBC, Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC), Britannica Digital Learning, Canolfan Cydweithredol Cymru, Motion Pictures, yr awdur Jasper Fforde, SWGfL a chithau. Cyhoeddwyd enillwyr y gystadleuaeth mewn rhith-ddigwyddiad a gynhaliwyd ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.

    Yr enillydd yng nghategori'r blynyddoedd cynnar oedd Ysgol Y Ddwylan, gyda'u ffilm yn cyfleu neges bwysig i ddysgwyr ifanc ei dilyn wrth wirio gwybodaeth ar-lein.

    Yr enillwyr yn y categori cynradd oedd Ysgol Dyffryn Cledlyn gyda'u ffilm yn cynnig cipolwg ar sut gall camwybodaeth esblygu'n gyflym gan ddefnyddio gêm boblogaidd i blant ac Ysgol Bro Pedr gyda'u recordiad sain yn darparu amrywiaeth o enghreifftiau digrif o gamwybodaeth ac yn amlinellu camau ymarferol y gallwn eu cymryd i wirio gwybodaeth.

    Yr enillydd yn y categori uwchradd oedd Ysgol Syr Hugh Owen gyda cherdd acrostig yn cyflwyno neges bwysig a phwerus am gamwybodaeth.

    Mae cynlluniau ar gyfer SID 2022, a gynhelir ddydd Mawrth 9 Chwefror 2022, ar y gweill a bydd y diweddaraf am yr ymgyrchu ar gael ar y dudalen arbennig i Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ar Hwb.

     

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Wrth baratoi ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2020, gwnaethom arwain ymgyrch, mewn partneriaeth â Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, i annog plant a phobl ifanc, staff ysgolion, rheini a gofalwyr, a busnesau yng Nghymru i gymryd rhan yn Niwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel. 

    Gwnaethom gynnal digwyddiad gwybodaeth am Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel mewn partneriaeth â Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU ym mis Tachwedd 2019. Diben y digwyddiad oedd rhoi trosolwg o weithgareddau Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2020, a rhoi gwybodaeth i ysgolion, sefydliadau a busnesau am y ffordd y gallent gymryd rhan. Daeth 60 o sefydliadau i’r digwyddiad.

    Gan weithio gyda Childnet, gwnaethom ariannu’r gwaith o gyfieithu pecynnau Addysg Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU. Mae’r pecynnau dwyieithog, sy’n cynnig amrywiaeth o adnoddau i ysgolion gynnal sesiynau i blant a phobl ifanc ar draws yr ystodau oedran, ar gael ar barth Cadw’n ddiogel ar-lein Hwb, ac edrychwyd arnynt bron 6,000 o weithiau hyd yma.

    Gwnaethom gynnal cystadleuaeth i herio plant a phobl ifanc i greu hysbyseb gyhoeddus wedi’i hanelu at ffrindiau a theulu. Y thema oedd ‘Rhyngrwyd well: sut i ofalu amdanoch chi eich hun ac eraill’.

    Caeodd y gystadleuaeth ym mis Rhagfyr 2019 ac roedd y panel beirniadu’n cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Comisiynydd Plant Cymru, y NSPCC, y BBC, Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC), IntoFilm, SWGfL, y Swyddfa Gartref a ni. Ar 15 Ionawr 2020, cyhoeddwyd bod deg ysgol (pump ysgol gynradd a phump ysgol uwchradd) wedi cyrraedd y rownd derfynol, a chawsant eu gwahodd i ddarllediad o’r ffilm a seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel (11 Chwefror 2020).

    Cyflwynwyd y gwobrau yn y digwyddiad gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC, a chafodd y ffilmiau buddugol eu rhannu ar Hwb.

    Enillydd y categori uwchradd oedd Ysgol Nantgwyn, gyda’i ffilm sy’n ystyried effaith rhannu delweddau heb ganiatâd.

    Enillydd y categori cynradd oedd Ysgol Bro Pedr, gyda’i ffilm sy’n amlinellu pwysigrwydd cadw cyfrineiriau yn gyfrinachol a diogelu eich data ar-lein.

    Mae’r gwaith cynllunio ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2021, a gynhelir ddydd Mawrth 9 Chwefror 2021, yn mynd rhagddo, a bydd diweddariadau am yr ymgyrch ar gael ar dudalen benodedig Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel gwefan Hwb.

    Ymhlith y cynlluniau mae cynnal digwyddiad cynllunio rhithwir i randdeiliaid yn ystod tymor yr hydref a chystadleuaeth adrodd stori ddigidol, a fydd ar agor i ysgolion, lleoliadau addysg a lleoliadau ieuenctid yng Nghymru, ar thema ‘Mynd i’r afael â chamwybodaeth’.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Cynhaliwyd Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2019 ddydd Mawrth 5 Chwefror 2019. Thema fyd-eang y diwrnod oedd ‘Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel: gwella’r we gyda’n gilydd’, a thema’r DU oedd ‘Ein rhyngrwyd ni, ein dewis ni: Deall cydsyniad mewn byd digidol’.

    Ddydd Iau 8 Tachwedd 2018, roedd Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU wedi cynnal digwyddiad Cynllunio Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ar gyfer Rhanddeiliaid yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd. Roedd y digwyddiad hwnnw, a oedd yn cynnwys amrywiaeth o randdeiliaid, yn cynnig y cyfle iddynt glywed yn uniongyrchol gan Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU am yr hyn y byddai ymgyrch Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2019 yn ei gynnwys, sut y gallent ei gefnogi, ac i rannu syniadau am sut y gallent gyfrannu ato.

    Cyhoeddwyd fersiynau dwyieithog o Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2019: Pecynnau Addysg ar Barth Diogelwch Ar-lein ar Hwb, gan gynnwys Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel: Pecyn addysg atodol, a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer ysgolion, a gwybodaeth i rieni a gofalwyr.

    Ffilmiodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AS, neges o gefnogaeth ar gyfer y diwrnod, a chyhoeddodd ddatganiad ysgrifenedig i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith sy’n mynd rhagddo ledled Cymru mewn perthynas â diogelwch ar-lein.

    Cynhelir Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2020 ddydd Mawrth 11 Chwefror 2020. Thema fyd-eang y diwrnod yw ‘Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel: gwella’r rhyngrwyd gyda’n gilydd’.

    Mae’r gwaith cynllunio ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2020 eisoes wedi dechrau, a bydd diweddariadau’r ymgyrch ar gael ar dudalen benodedig Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ar Hwb.

    Byddwn yn cynnal digwyddiad ar 13 Tachwedd 2019, mewn partneriaeth â Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, i gyflwyno’r cynlluniau ar gyfer ymgyrch Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel a helpu ysgolion a sefydliadau i gymryd rhan. Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar yr hyn y gall Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ei wneud ar gyfer eich sefydliad, eich gweithwyr neu eich ysgol. Mae rhagor o fanylion ar gael yn y Parth Diogelwch Ar-lein ar Hwb.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn cael ei ddathlu’n fyd-eang ym mis Chwefror bob blwyddyn er mwyn hyrwyddo’r defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol ar gyfer plant a phobl ifanc, ac ysbrydoli sgwrs genedlaethol. Byddwn yn parhau i gefnogi’r diwrnod hwn bob blwyddyn. Cynhelir Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2019 ar 5 Chwefror 2019.

    Fel rhan o’r digwyddiad hwn, sy’n cael ei gydgysylltu yn y DU gan Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, mae cannoedd o sefydliadau yn uno i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelwch ar-lein a chynnal digwyddiadau a gweithgareddau ledled y DU.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth helaeth o’r gweithgareddau diogelwch ar-lein sy’n digwydd ledled Cymru.

    Rydym yn parhau i rannu gwybodaeth am yr amrywiaeth eang o gyfleoedd ac adnoddau sy'n ymwneud â diogelwch ar-lein, a chodi ymwybyddiaeth ohonynt, drwy ein sianeli cyfathrebu, cylchlythyrau a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Rydym yn parhau i ddefnyddio nifer o blatfformau cyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd ac adnoddau diogelwch ar-lein, seiberddiogelwch a diogelu data.

    Mae ein herthyglau newyddion diweddaraf wedi’u cyhoeddi yn yr ardal Cadw’n ddiogel ar-lein yn Hwb, gan gynnwys erthyglau newyddion bob hanner tymor, sy'n crynhoi'r cyfleoedd a'r adnoddau ym mhob hanner tymor.

    Hefyd, mae cyfleoedd ac adnoddau mewn perthynas â diogelwch ar-lein, seiberddiogelwch a diogelu data wedi'u hyrwyddo drwy'r sianeli a ganlyn.

    Byddwn yn parhau i gyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth helaeth o gyfleoedd ac adnoddau drwy ein sianeli cyfathrebu, ein cylchlythyrau a’n platfformau cyfryngau cymdeithasol.

    Rydym yn parhau i ddefnyddio nifer o blatfformau cyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar-lein, seiberddiogelwch a chyfleoedd ac adnoddau diogelu data.

    Cyhoeddir ein herthyglau newyddion diweddaraf yn yr ardal Cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb, gan gynnwys erthygl newyddion bob hanner tymor sy'n crynhoi'r cyfleoedd a'r adnoddau o bob hanner tymor.

    Yn ogystal, mae diogelwch ar-lein, seiberddiogelwch a chyfleoedd ac adnoddau diogelu data wedi cael eu hyrwyddo drwy'r sianeli canlynol.

    Yn ystod 2021, byddwn yn parhau i gyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth o'r ystod eang o gyfleoedd ac adnoddau drwy ein sianeli cyfathrebu, cylchlythyrau a phlatfformau’r cyfryngau cymdeithasol.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus

    Yn ystod 2019–20, gwnaethom ddefnyddio nifer o lwyfannau cyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd ac adnoddau mewn perthynas â diogelwch ar-lein, seiber ddiogelwch a diogelu data.

    Cyhoeddwyd dros 200 o erthyglau newyddion ar barth Cadw’n ddiogel ar-lein ar Hwb, gan gynnwys erthyglau newyddion bob hanner tymor, sy’n crynhoi’r cyfleoedd a’r adnoddau ym mhob hanner tymor.

    Hefyd, mae cyfleoedd ac adnoddau mewn perthynas â diogelwch ar-lein, seiber ddiogelwch a diogelu data wedi’u hyrwyddo drwy’r sianeli canlynol.

    Yn ystod 2020–21, byddwn yn parhau i gyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth helaeth o gyfleoedd ac adnoddau drwy ein sianeli cyfathrebu, cylchlythyrau a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Yn ystod 2018–19, gwnaethom ddefnyddio nifer o lwyfannau cyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar-lein, gan gynnwys y canlynol.

    Y Parth Diogelwch Ar-lein ar Hwb
    Mae dros 145 o erthyglau newyddion wedi’u cyhoeddi ar y Parth Diogelwch Ar-lein ar Hwb i hyrwyddo’r gweithgareddau diogelwch ar-lein, gan gynnwys yr hyfforddiant a’r adnoddau sydd ar gael.

    Dysg
    Mae cylchlythyr addysg Dysg hefyd wedi hyrwyddo digwyddiadau ac adnoddau ar ddiogelwch ar-lein, gan gynnwys Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, gan gyrraedd cynulleidfa o dros 23,000 ar gyfer pob rhifyn. 

    Y cyfryngau cymdeithasol
    Rydym wedi defnyddio’r cyfrif twitter @HwbNews yn helaeth i godi ymwybyddiaeth o’r gweithgarwch diogelwch ar-lein. Mae eitemau wedi’u rhannu hefyd ar twitter drwy ein sianel addysg @LlC_Addysg a thudalen Facebook Addysg Cymru. Mae sianel y Gweinidog Addysg, sef @wgmin_education, wedi hyrwyddo gweithgareddau mewn perthynas â diogelwch ar-lein o bryd i’w gilydd hefyd. 

    Mae’r sianel ar gyfer ymgysylltu â rhieni, sef Mae addysg yn dechrau yn y cartref, @dechraucartref, a thudalen Facebook Mae addysg yn dechrau yn y cartref, wedi rhoi sylw i faterion diogelwch ar-lein hefyd.

    I ennyn rhagor o ddiddordeb yn ystod 2019–20, bydd gwefan llyw.cymru yn rhoi sylw i ddatblygiadau ac adnoddau sy’n ymwneud â’r ein gweithgareddau diogelwch ar-lein. 

    Yn ystod 2019–20, byddwn yn parhau i gyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth helaeth o adnoddau a’r gwahanol ddigwyddiadau yn ymwneud â diogelwch ar-lein drwy ein sianeli cyfathrebu, ein cylchlythyrau a’n llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Mae ein ffrwd twitter @HwbNews yn cael ei defnyddio’n helaeth i hyrwyddo gweithgareddau diogelwch ar-lein. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau diogelwch ar-lein sydd yn yr arfaeth, a manylion adnoddau sydd wedi’u cyhoeddi drwy’r parth Cadw’n ddiogel ar-lein.

    Hefyd, mae’r cylchlythyr addysg Dysg yn cael ei ddefnyddio’n helaeth i hyrwyddo gweithgareddau diogelwch ar-lein.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda SWGfL i ddarparu cylchlythyr dwyieithog misol ar ddiogelwch ar-lein.

    Yn ystod 2021, fe wnaethom barhau i gyhoeddi cylchlythyr dwyieithog misol ar ddiogelwch ar-lein ar Hwb. Roedd y cylchlythyr a luniwyd gan SWGfL yn rhoi crynodeb o'r newyddion, yr adnoddau a’r digwyddiadau diogelwch ar-lein diweddaraf, ac yn rhoi Diweddariad ar gyferau ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel a gweithgareddau diogelwch ar-lein eraill.

    Ym mis Mawrth 2021, daeth ein contract gyda SWGfL i ben, byddwn yn parhau i ddarparu Diweddariad ar gyfer dwyieithog bob hanner tymor gan roi crynodeb o'r newyddion, yr adnoddau a’r digwyddiadau cadernid digidol diweddaraf a fydd yn cael eu cyhoeddi yn yr ardal cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb.

    Byddwn yn parhau i ddarparu Diweddariad ar gyferau ar gadernid digidol yn yr ardal cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb, gweler cam gweithredu 3.11.

    Statws y cam gweithredu: Wedi cau.

    Yn 2019–20, rydym wedi cyhoeddi cylchlythyr dwyieithog misol ar ddiogelwch ar-lein ar Hwb. Mae’r cylchlythyr yn cynnig crynodeb o’r newyddion, adnoddau a digwyddiadau diweddaraf ar ddiogelwch ar-lein. Yn ychwanegol at hynny, ceir diweddariadau ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, a materion eraill sydd o ddiddordeb sy’n ymwneud â gweithgareddau diogelwch ar-lein eraill.

    Darperir y cylchlythyr gan SWGfl, a gaiff ei gontractio gennym hyd at fis Mawrth 2020 i gynnal y prosiect i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar-lein yng Nghymru. 

    Yn ystod 2020–21, byddwn yn parhau i weithio gyda SWGfL i ddarparu cylchlythyr dwyieithog misol ar ddiogelwch ar-lein, a’i gyhoeddi ar y parth Cadw’n ddiogel ar-lein ar Hwb. I gofrestru i dderbyn y cylchlythyr, ewch i hwb.llyw.cymru/parthau/cadwn-ddiogel-ar-lein/cymerwch-ran/cylchlythyr-diogelwch-ar-lein.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Yn 2018–19, cyhoeddwyd gennym cylchlythyr dwyieithog misol ar ddiogelwch ar-lein yn y Parth Diogelwch Ar-lein ar Hwb. Mae’r cylchlythyr yn cynnig crynodeb o’r newyddion, adnoddau a digwyddiadau diweddaraf ar ddiogelwch ar-lein. Yn ychwanegol at hynny, ceir diweddariadau ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel a gweithgareddau diogelwch ar-lein eraill.

    Darperir y cylchlythyr gan SWGfl, a gaiff ei gontractio gennym ar hyn o bryd i gynnal y prosiect i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar-lein yng Nghymru. 

    Yn ystod 2019–20, byddwn yn parhau i gydweithio â SWGfL i ddarparu cylchlythyr dwyieithog misol ar ddiogelwch ar-lein, a’i gyhoeddi ar y Parth Diogelwch Ar-lein ar Hwb.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Bydd SWGfL yn parhau i ddarparu cylchlythyr dwyieithog misol ar ddiogelwch ar-lein, wedi’i gyhoeddi ar Hwb.

  •  

    Gan adeiladu ar ymgyrch ‘Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn’, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi ymgyrch ar waith i dynnu sylw at reolaeth drwy orfodaeth mewn cydberthnasau, wedi’i hanelu’n benodol at bobl ifanc.

    Roedd ymgyrch gyfathrebu Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) ‘Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn’ yn cynnwys cam dynodedig, ‘Dyw hyn ddim yn iawn’, wedi’i anelu at bobl ifanc sy’n dioddef rheolaeth drwy orfodaeth mewn cydberthnasau. Lansiwyd ‘Dyw hyn ddim yn iawn’ i gyd-daro ag Wythnos y Glas prifysgolion, gan dargedu pobl ifanc 19 i 21 oed, cyn mynd ati i rannu negeseuon wedi’u hanelu at bobl ifanc 16 i 18 oed. Datblygwyd negeseuon ar gyfer rhieni a gofalwyr a phobl eraill sy’n poeni, gan godi ymwybyddiaeth o’r arwyddion y gallant gadw golwg amdanynt. 

    Cafodd hysbysebion digidol yr ymgyrch eu harddangos dros dair miliwn o weithiau a chafodd fideos yr ymgyrch eu gwylio fwy na 200,000 o weithiau.

    Gan gydnabod y gallai nifer yr achosion o drais a cham-drin gynyddu o ganlyniad i bandemig COVID-19, gwnaethom lansio ein hymgyrch ‘Ddylai neb deimlo’n ofnus gartre ym mis Mai 2020. Ein nod yw sicrhau bod pob dioddefwr yn gwybod bod gwasanaethau ar gael o hyd, ac annog y rhai sy’n dyst i’r ymddygiadau hyn a phobl eraill sy’n poeni, i gael gafael ar help a gwybodaeth.

    Ymgyrch aml-gyfrwng yw ‘Ddylai neb deimlo’n ofnus gartre’ ac mae wedi’i rhannu ar draws sianeli teledu a radio, yn y newyddion a’r wasg genedlaethol a lleol, ar-lein, a thrwy rwydweithiau cymunedol fel fferyllfeydd, archfarchnadoedd lleol a heddluoedd, gan gyrraedd y gynulleidfa ehangaf a’r nifer mwyaf o bobl agored i niwed.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd (gweler y camau gweithredu newydd).

    Mae ymgyrch ‘Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn’ yn rhan o ymrwymiad hirsefydledig Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yng Nghymru a herio agweddau at y materion hyn.

    Nod ein hymgyrch ‘Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn’ yw helpu pobl i nodi ymddygiadau rheolaeth drwy orfodaeth. Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn fath ar gam-drin – gall fod yn gyfrwys, gan ei gwneud yn anodd sylwi arno a chydnabod ei fod yn anghywir ac yn gyfystyr â cham-drin. Mae’r rhai sy’n dioddef ymddygiad o’r fath yn aml yn cael eu gadael i deimlo’n unig ac wedi’u bychanu. Mae’r ymgyrch yn annog y rhai sy’n dioddef rheolaeth drwy orfodaeth, sydd mewn cydberthynas nad yw’n iach, yn ogystal â phobl eraill sy’n poeni, i gysylltu â llinell gymorth a gwasanaeth sgwrsio ar-lein 24/7 Byw Heb Ofn am gyngor a chymorth.

    Nodau’r ymgyrch yw:

    • pwysleisio sut beth yw cydberthynas iach drwy hyrwyddo/amlygu ymddygiadau iach ac ymddygiadau rheolaeth nad ydynt yn iach
    • helpu pobl ifanc i gydnabod bod ymddygiadau rheolaeth yn anghywir ac yn gyfystyr â cham-drin
    • annog y rhai sy’n cyflawni’r ymddygiadau hyn i newid eu hymddygiad a cheisio cymorth
    • symud y pwyslais oddi ar feio a chywilyddio dioddefwyr
    • helpu’r rhai sy’n dyst i’r ymddygiadau hyn i sylwi arnynt, cydnabod eu bod yn gyfystyr â cham-drin a chymryd camau priodol os ydynt yn amau eu bod yn digwydd.
  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â’r sector gwaith ieuenctid i sicrhau bod adnoddau priodol ar gael ar ddiogelwch ar-lein, a’u bod yn cael eu hyrwyddo.

    Roedd adroddiad terfynol y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2021, yn cynnwys 14 o argymhellion er mwyn sicrhau model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid. Mae Bwrdd Gweithredu'r Strategaeth Gwaith Ieuenctid, a benodwyd yn ystod hydref 2022, yn rhoi cyngor ar ddatblygu’r argymhellion hyn, sy'n cynnwys argymhelliad i sefydlu cyfnewidfa gwybodaeth ieuenctid er mwyn ei gwneud yn haws i bobl ifanc gael gwybod beth sydd ar gael iddynt yn eu hardal leol, ac argymhelliad i ddatblygu cynllun hawliau pobl ifanc.

    Mae Grŵp Cyfranogiad Gwybodaeth Ieuenctid a Gweithredu Digidol, sydd â chynrychiolaeth o amrywiaeth o bartneriaid, wedi cael ei sefydlu i gynnig cyngor, arbenigedd a her a gweithio ochr yn ochr â'r Bwrdd ar yr argymhellion hyn. Mae diogelwch ar-lein yn ystyriaeth allweddol yn y gwaith hwn.

    Yn ogystal â'r gwaith datblygu tymor hwy hwn, rydym wedi parhau i rannu a hyrwyddo ffynonellau gwybodaeth a chymorth ar ddiogelwch ar-lein drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol a'r cylchlythyr Gwaith Ieuenctid a gyhoeddir bob tymor i ymarferwyr gwaith ieuenctid a phartïon eraill â diddordeb er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diogelwch ar-lein o fewn gwaith ieuenctid.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Drwy gydol y pandemig, parhaodd y gwaith drwy’r grwpiau digidol a marchnata, gan ganolbwyntio ar gefnogi ymarferwyr a phobl ifanc. Gan weithio gyda’n gilydd, cyhoeddwyd bwletinau ar faterion fel diogelu, cyfrannu, gwybodaeth i bobl ifanc. Roedd y bwletinau yn nodi adnoddau ychwanegol, a lywiwyd gan y sector, ac a ddarparwyd drwy safle ar-lein am ddim, ac ymdriniwyd â materion allweddol fel y rhai a godwyd mewn perthynas ag ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys, gan gynnwys rhifyn arbennig gan Dîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru. Roedd y rhifyn yn ymwneud â diogelwch yn cynnwys cyngor am weithio’n ddiogel ar-lein, yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

    Hefyd, parhawyd i hyrwyddo’r dolenni priodol i’n holl dudalennau Covid-19, dolenni diogelu a chefnogi pobl ifanc agored i niwed, a’r adnoddau sydd ar gael yn rhydd ac yn rhwydd i bawb drwy Hwb.

    Cyfrannodd ein Cangen Ymgysylltu ag Ieuenctid at ffrwd waith diogelu plant a phobl ifanc agored i niwed, ac arweiniodd waith yr is-grwp ôl-16 ar gyfer diogelu plant a phobl ifanc agored i niwed a’i gydgysylltu.

    Parhawyd i weithio ochr yn ochr â’r sector i ddatblygu canllawiau i gefnogi gwasanaethau gwaith ieuenctid i ehangu neu ailagor eu gwasanaethau yn ddiogel wrth i gyfyngiadau Covid lacio a dod i ben.

    Roedd adroddiad terfynol y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2021, yn cynnwys 14 o argymhellion i sicrhau model gweithredu cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid. Roedd y rhain yn cynnwys argymhellion i sefydlu cyfnewidfa wybodaeth i bobl ifanc er mwyn ei gwneud yn haws iddynt gael gwybod beth sydd ar gael iddynt yn eu hardal; a datblygu cynllun hawl, a fyddai’n darparu prawf hunaniaeth/oedran, mynediad at gyfleoedd dysgu ac ystod o ddisgowntiau ledled Cymru, er enghraifft ar gyfer teithio, hamdden a siopau. 

     

    Ymatebodd y Gweinidog i’r adroddiad ar 20 Rhagfyr 2021, yn cydnabod bod yr argymhellion hyn yn ymestyn y tu hwnt i waith ieuenctid, ac y byddai angen gweithredu ar draws y llywodraeth er mwyn deall yn well beth sydd eisoes ar y gweill a beth y gallwn adeiladu arno. Nododd y Gweinidog y bydd gwaith yn parhau yn y maes hwn yn y flwyddyn newydd, ac ategwyd hyn gan ymrwymiad i sefydlu Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd (i ddisodli’r Bwrdd Dros Dro) i hyrwyddo’r gwaith hwnnw.

     

    Ym mis Mehefin, penodwyd Cadeirydd i’r Bwrdd Gweithredu, ac yna penodwyd aelodau. Cyhoeddodd y Gweinidog enwau aelodau’r Bwrdd ar 24 Hydref. Mae’r Bwrdd wedi cyfarfod ddwywaith, a bydd yn ymgysylltu â’r sector gwaith ieuenctid ehangach ym mis Rhagfyr i amlinellu ei fwriadau i barhau â’i ddull o ymwneud â’r sector. Bydd yn rhoi sylw i gwestiwn gwybodaeth i bobl ifanc a gwaith ieuenctid digidol.  Mae oes y Pwyllgor Pobl Ifanc, a sefydlwyd i gefnogi’r Bwrdd Dros Dro wrth ddatblygu ei adroddiad terfynol, wedi’i hymestyn i gefnogi gwaith y Bwrdd Gweithredu. Bydd hyn yn gwneud yn siwr bod pobl ifanc yn ganolog i’r trafodaethau ynghylch beth yr hoffent ei weld yn y dyfodol o ran gwaith ieuenctid – bydd ystyried gwersi pwysig a ddysgwyd o’u profiad o waith ieuenctid yn ystod y cyfnodau clo, yn enwedig mewn perthynas â materion digidol, yn berthnasol yn y cyd-destun hwn.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

     

    Drwy gydol y pandemig parhaodd y gwaith drwy'r grwpiau digidol a marchnata ond gan ganolbwyntio ar gefnogi ymarferwyr a phobl ifanc. Gan weithio gyda'n gilydd, gwnaethom gyhoeddi bwletinau ar faterion fel diogelu, cyfranogi, gwybodaeth ieuenctid. Amlygodd y bwletin adnoddau ychwanegol, dan arweiniad y sector, a oedd ar gael drwy safle ar-lein am ddim, ac ymdriniwyd â materion allweddol fel y rhai a godwyd ynghylch Black Lives Matter yn y Bwletin gan gynnwys argraffiad arbennig wedi'i olygu gan westeion a ysgrifennwyd gan Dîm Lleiafrifoedd Ethnig a Chymorth Ieuenctid (EYST) Cymru. Roedd rhifyn diogelu y bwletin yn cynnwys cynghorion ar weithio'n ddiogel ar-lein, yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

    Hefyd, rydym wedi parhau i hyrwyddo'r dolenni priodol i bob un o'n tudalennau COVID-19, y dolenni 'diogelu a chefnogi pobl ifanc agored i niwed', a'r adnoddau sydd ar gael am ddim i bawb drwy Hwb.

    Mae ein Cangen Ymgysylltu ag Ieuenctid wedi cymryd rhan yn y ffrwd waith diogelu plant a phobl ifanc agored i niwed, ac wedi arwain a chydgysylltu gwaith yr is-grwp ôl-16 ar gyfer diogelu plant a phobl ifanc agored i niwed.

    Rydym yn parhau i weithio ochr yn ochr â'r sector i ddatblygu canllawiau i gefnogi gwasanaethau gwaith ieuenctid i ehangu neu ailagor eu gwasanaethau yn ddiogel.

    Ail-ddechreuodd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro ei waith yn ddiweddarach yn 2020 gan lunio adroddiad interim a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021. Sefydlwyd Pwyllgor Pobl Ifanc i gefnogi'r Bwrdd wrth ddatblygu ei adroddiad terfynol, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2021. Mae'r adroddiad terfynol yn cynnwys argymhellion i sefydlu proses cyfnewid gwybodaeth ieuenctid i alluogi pobl ifanc i gael gwybod yn haws beth sydd ar gael iddynt yn eu hardal leol; a datblygu cynllun hawliau ieuenctid, a fyddai'n brawf o hunaniaeth/oedran, mynediad at gyfleoedd dysgu ac amrywiaeth o ostyngiadau ledled Cymru, er enghraifft darparwyr teithio, hamdden a manwerthu. Mae'r gwaith o ystyried yr argymhellion hyn yn mynd rhagddo a bydd y Gweinidog yn ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad ym mis Rhagfyr.

    Mae'r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim hefyd wedi cyfarfod â grwpiau o bobl ifanc i nodi'r hyn yr hoffent ei weld yn y dyfodol o ran gwaith ieuenctid, ac roedd hynny’n cynnwys gwrando ar eu barn am yr hyn a weithiodd yn dda yn ystod y cyfyngiadau symud, yr hyn yr hoffent weld mwy ohono, a'r hyn yr hoffent iddo gael ei wneud yn wahanol. Bydd hyn yn cyfrannu at waith parhaus y Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth Hygyrch a Chynhwysol.

    Fe wnaeth pob Grwp Cyfranogiad y Strategaeth ailddechrau ar ei waith yn 2020 ac ailystyried ei gynlluniau gwaith gan feddwl am y gwersi sylweddol a ddysgwyd am weithio o bell a gweithio'n ddigidol yn ystod y pandemig.

    Yn dilyn cyhoeddi’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru yn 2019, gwnaethom weithio gyda’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim i gyhoeddi dogfen gweithredu, yn nodi sut y byddai’r weledigaeth lefel uchel yn cael ei chyflawni. Sefydlwyd amrywiaeth o is-grwpiau i’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim, sef Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth, a aeth ati i lunio cynlluniau gwaith yn nodi sut y gallai’r llinyn gwaith hwnnw gyfrannu at y nodau cyffredinol.

    Fodd bynnag, ym mis Mawrth 2020 pan ddechreuodd y pandemig COVID-19, cafodd gwaith Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth ei atal i raddau helaeth. O ganlyniad, gallai gweithwyr rheng flaen ganolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc, a chafodd rhai o aelodau’r grwpiau hyn eu rhoi ar ffyrlo o’u mannau gwaith arferol.

    Drwy’r flwyddyn hon, mae ein Grwp Digidol a’n Grwp Marchnata wedi parhau i weithredu, ac maent wedi gweithio gyda ni i gyhoeddi bwletinau ar faterion megis diogelu, cyfranogi, a gwybodaeth i bobl ifanc. Roedd yr wybodaeth hon am adnoddau ar gael drwy waith y Grwp Digidol drwy wefan Notion, yn ogystal â rhifyn arbennig wedi’i ysgrifennu gan Dîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru. Roedd rhifyn diogelu y bwletin yn cynnwys cynghorion ar weithio’n ddiogel ar-lein, yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

    Hefyd, rydym wedi parhau i hyrwyddo’r dolenni priodol i bob un o’n tudalennau COVID-19, y dolenni ‘diogelu a chefnogi pobl ifanc agored i niwed’, a’r adnoddau sydd ar gael drwy Hwb. Mae ein Cangen Ymgysylltu ag Ieuenctid wedi cymryd rhan yn y ffrwd waith diogelu plant a phobl ifanc agored i niwed, ac wedi arwain a chydgysylltu gwaith yr is-grwp ôl-16 ar gyfer diogelu plant a phobl ifanc agored i niwed.

    Rydym yn parhau i weithio ochr yn ochr â’r sector i ddatblygu canllawiau i gefnogi gwasanaethau gwaith ieuenctid i ehangu neu ailagor eu gwasanaethau. Cyhoeddwyd y canllawiau presennol ym mis Awst 2020.

    Wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio, mae gwaith y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim yn dychwelyd i weithredu’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid. Gofynnir i bob Grwp Cyfranogiad y Strategaeth ailystyried ei gynlluniau gwaith o gofio’r gwersi sylweddol a ddysgwyd am weithio o bell a gweithio’n ddigidol yn ystod y pandemig. 

    Mae’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim hefyd wedi cyfarfod â grwpiau o bobl ifanc i nodi’r hyn yr hoffent ei weld yn y dyfodol o ran gwaith ieuenctid, ac mae hynny wedi cynnwys gwrando ar eu barn am yr hyn a weithiodd yn dda yn ystod y cyfyngiadau symud, yr hyn yr hoffent weld mwy ohono, a’r hyn yr hoffent iddo gael ei wneud yn wahanol. Bydd hyn yn cyfrannu at waith parhaus y Grwp Hygyrch a Chynhwysol.

    O ystyried yr oedi a achoswyd gan bandemig COVID-19, cytunwyd y bydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim yn parhau â’i waith yn 2021. Bydd yn cyflwyno adroddiad cychwynnol i’r Gweinidog Addysg ym mis Rhagfyr 2020, a’r adroddiad terfynol yn ddiweddarach yn 2021.

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Ym mis Mehefin 2019, gwnaethom lansio Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru, a fydd yn cael ei hategu gan gynllun gweithredu a gyhoeddir ym mis Hydref 2019. Un o nodau’r strategaeth yw sicrhau bod gwaith ieuenctid yn hygyrch ac yn gynhwysol, gan gynnwys drwy wasanaethau a darpariaeth ffisegol ac ar-lein. Fel rhan o waith cydweithredol drwy’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid a’r cynllun gweithredu hwn, byddwn yn sicrhau bod y rhai sy’n gweithio yn y sector yn ymwybodol o’r adnoddau sydd ar gael iddynt ar hyn o bryd mewn perthynas â diogelwch ar-lein, ac yn ystyried unrhyw adnoddau ychwanegol y gallai fod eu hangen.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol i gefnogi a datblygu gweithgareddau addysg i’w cynnwys yn Rhaglen CYBERUK 2021.

    Cynhaliwyd Cyber UK 2022 ar 10 a 11 Mai 2022 yng ngwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd.  Fel rhan o Cyber UK 2022 buom yn gweithio gyda'r NCSC a phartneriaid eraill gan gynnwys Thales ar ddatblygu rhaglen allgymorth i ysgolion. Gwahoddwyd dysgwyr i ddod i’r digwyddiad a darparwyd taith o amgylch neuadd arddangos Cyber UK 2022 a chyfle i ymweld â stondinau yn cynnwys AWS, CyberFirst, Palo Alto, Siemens a Fortinet. Cafodd y dysgwyr hefyd gymryd rhan mewn cyfres o gemau seiber, gan gynnwys ystafell ddianc, pos cryptograffeg, her codio a fforenseg ddigidol. Cafodd y dysgwyr hefyd gyfle i glywed gan banel a oedd yn cynnwys prentisiaid o Thales yn trafod eu taith i yrfa ym maes seiberddiogelwch.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

    Oherwydd effaith pandemig COVID-19 cynhaliwyd CYBERUK fel digwyddiad rhithiol yn 2021.

    Byddwn yn parhau i weithio gyda'r NCSC i gefnogi'r gwaith o gynllunio a datblygu gweithgareddau allgymorth addysg ar gyfer CYBERUK yn 2022.

    CYBERUK yw digwyddiad seiber ddiogelwch blaenllaw Llywodraeth y DU lle mae arbenigwyr a sefydliadau o’r radd flaenaf ym maes seiber ddiogelwch yn arddangos y datrysiadau a’r cyfleoedd diweddaraf yn y diwydiant seiber ddiogelwch.

    Cafodd y digwyddiad deuddydd, y bwriadwyd ei gynnal ym mis Mai 2020, ei aildrefnu ar gyfer 2021 i ganlyniad i effaith pandemig COVID-19.

    Byddwn yn cydweithio â’r Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol a phartneriaid i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r gweithgareddau allgymorth addysgol fel rhan o CYBERUK, er mwyn cefnogi ac annog dysgwyr ac ysgolion yng Nghymru i gymryd rhan. Byddwn yn gweithio gyda’r Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol i gynnal digwyddiad ymylol ar gyfer ymarferwyr addysg yn benodol, er mwyn ystyried seiber ddiogelwch a chadernid mewn addysg.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu ymgyrch i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o’r risg o we-rwydo er mwyn cefnogi rhanddeiliaid addysg yng Nghymru.

    Ym mis Hydref 2022 cyhoeddwyd yr ymgyrch ynghylch gwe-rwydo 'Paid â chael dy ddal' ar gyfer ymarferwyr, dysgwyr a'u teuluoedd. Byddwn yn parhau i hyrwyddo hyn drwy gydol 2022 a 2023, trwy ein sianeli cyfathrebu.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

    Yn ystod 2021-22 rydym wedi parhau i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o'n hyfforddiant ar we-rwydo. Mae'r hyfforddiant wedi’i weld dros 7000 o weithiau ar Hwb.

    Yn ystod 2020, gwnaethom weithio gyda Tarian i ddatblygu hyfforddiant ar-lein gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o we-rwydo a’r bygythiad i ddata sensitif ar systemau ysgolion a sefydliadau. Mae’r hyfforddiant yn rhoi trosolwg i ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes addysg o we-rwydo, y technegau a ddefnyddir, a chymorth a chanllawiau i’w diogelu eu hunain a’u sefydliadau.

    Byddwn yn parhau i hyrwyddo’r hyfforddiant i ysgolion yng Nghymru a byddwn yn ystyried cyfleoedd i ddatblygu ymgyrch gwe-rwydo er mwyn codi ymwybyddiaeth ymhellach ymhlith lleoliadau addysg yng Nghymru. 

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i adeiladu ar ymgyrch ‘Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn’, a’i datblygu.

    Gwnaethom barhau i adeiladu a datblygu'r ymgyrchoedd 'Ddylai Neb fod yn Ofnus Gartref', 'Paid Cadw’n Dawel' a 'Nid Cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn’ dros y 18 mis diwethaf. Gan gydnabod y potensial ar gyfer cynnydd mewn trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) o ganlyniad i bandemig COVID-19, lansiwyd yr ymgyrch gennym fel bod dioddefwyr yn gwybod bod gwasanaethau'n dal i weithredu ac yn cynnig cymorth, ac i annog pobl eraill bryderus i gael gafael ar gymorth a gwybodaeth.

    Drwy gydol yr ymgyrch hyd yma, mae sianeli digidol (Facebook, Twitter, Google, Snapchat, LinkedIn) wedi cyrraedd bron i 19,000,000 o ddefnyddwyr. Mae’n bosibl bod y cyfryngau cenedlaethol (cyfryngau teledu, radio ac argraffu) wedi cyrraedd dros 24,200,000 o ddefnyddwyr. Cafwyd dros 20,800 o ymweliadau â gwefan Byw Heb Ofn yn ystod yr ymgyrch.

    Ymgyrch aml-gyfrwng yw 'Ddylai neb deimlo'n ofnus gartre', ac mae wedi'i rhannu ar draws sianeli teledu a radio, yn y newyddion a'r wasg genedlaethol a lleol, ar-lein, a thrwy rwydweithiau cymunedol fel fferyllfeydd, archfarchnadoedd lleol a heddluoedd.

    Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

    Byddwn yn parhau i adeiladu ar ymgyrch ‘Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn’, a’i datblygu, ac yn parhau i rannu deunydd cyfathrebu a negeseuon yr ymgyrch er mwyn tynnu sylw at reolaeth drwy orfodaeth a chydberthnasau nad ydynt yn iach, gan dargedu pobl ifanc yn benodol.

  •  

    Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Diweddariad ar gyferau bob hanner tymor ar y newyddion, yr adnoddau a’r digwyddiadau cadernid digidol diweddaraf.

    Yn ystod 2022-23 rydym wedi cyhoeddi Diweddariad ar gyferau bob hanner tymor yn yr ardal Cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb i gefnogi ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol gyda'r newyddion, yr adnoddau a’r digwyddiadau cadernid digidol diweddaraf. Mae’r rhain ar gael yn ardal newyddion Hwb.

    Newyddion diweddaraf yr hanner tymor ar ddiogelwch ar-lein – Ionawr 2023

    Newyddion diweddaraf yr hanner tymor ar ddiogelwch ar-lein – Chwefror 2023

    Newyddion diweddaraf yr hanner tymor ar ddiogelwch ar-lein – Ebrill 2023

    Newyddion diweddaraf yr hanner tymor ar ddiogelwch ar-lein – Mehefin 2023

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Yn ystod 2021-22 rydym wedi cyhoeddi Diweddariad ar gyferau bob hanner tymor yn yr ardal Cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb i gefnogi ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol gyda'r newyddion, yr adnoddau a’r digwyddiadau cadernid digidol diweddaraf. Mae’r rhain ar gael yn ardal newyddion Hwb.

    Cadw'n Ddiogel Ar-lein crynodeb hanner tymor – Ionawr 2022

    Cadw'n Ddiogel Ar-lein crynodeb hanner tymor - Chwefror 2022

    Cadw'n Ddiogel Ar-lein crynodeb hanner tymor  – Ebrill 2022

    Cadw'n Ddiogel Ar-lein crynodeb hanner tymor – Mehefin 2022

    Cadw'n ddiogel ar-lein crynodeb 2021/22

    Cadw'n Ddiogel Ar-lein crynodeb hanner tymor – Hydref 2022

    Statws y cam gweithredu: Parhaus.

    Er mwyn cefnogi ymarferwyr, gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid allweddol, byddwn yn cyhoeddi Diweddariad ar gyferau bob hanner tymor ar y newyddion, yr adnoddau a’r digwyddiadau cadernid digidol diweddaraf yn yr ardal cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb. Bydd y Diweddariad ar gyferau'n rhoi crynodeb o'r gweithgarwch a wnaed yn ystod yr hanner tymor blaenorol ac yn edrych ymlaen at y nesaf. Bydd hyn yn cynnwys cyhoeddi canllawiau ac adnoddau yn ogystal â thynnu sylw at Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.