English

Mae plant yn cael eu hecsbloetio yn rhywiol ar blatfformau ac apiau ar-lein pan ydynt yn eu hystafelloedd gwely yn eu cartrefi eu hunain, tra bod eu rhieni a’u gofalwyr yn credu eu bod yn ddiogel. Yn drist iawn, dyma’r prif fath o gam-drin rhywiol ar blant rydym yn ei weld ar-lein, drwy ein gwaith gyda llinell gymorth Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd.

Pan ymunais â Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd am y tro cyntaf – yn 2011 – nid oedd y term “secstio” yn un cyfarwydd iawn, ond y flwyddyn wedyn cynhaliwyd ein hastudiaeth gyntaf yn cyfrif nifer y delweddau secstio yr oeddem yn gallu dod o hyd iddynt ar-lein o fewn cyfnod penodedig. O hynny hyd heddiw, rydym wedi cadw llygad ar y cynnydd yn y math hwn o ddelweddau, a sut mae troseddwyr rhyw ar-lein yn eu defnyddio i greu deunydd newydd rhywiol o blant.

Mae cam-drin plant yn rhywiol drwy gyfrwng deunyddiau a grewyd gan y plant eu hunain (“self-generated” child sexual abuse), a gaiff ei ystyried yn derm annigonol braidd yn Saesneg, yn cyfeirio at ddelweddau a fideos rhywiol sy’n cael eu creu â gwe-gamerâu neu ffonau clyfar, ac yna’n cael eu rhannu ar-lein drwy nifer cynyddol o blatfformau. Mewn rhai achosion, caiff perthynas amhriodol ei meithrin â’r plant, cânt eu twyllo neu eu gorfodi i greu a rhannu delwedd neu fideo rhywiol ohonynt eu hunain. Yn aml, nid ydym yn credu bod y plentyn yn ymwybodol ei fod yn cael ei recordio.

  • Rhwng Ionawr ac Ebrill 2021, roedd ychydig dros 38,000 o adroddiadau Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd yn cynnwys deunydd a grewyd gan y plant eu hunain. Mae hyn yn cymharu â thua 17,500 o adroddiadau yn ystod yr un cyfnod yn 2020 a oedd yn cynnwys deunydd a grewyd gan y plant eu hunain – cynnydd o 117%.
  • Yn 2020, cadarnhawyd bod 68,000 o achosion o ddelweddau a grewyd gan y plant eu hunain, sef bron i hanner holl adroddiadau’r flwyddyn (153,000).

Er bod unrhyw blentyn yn gallu dioddef y math hwn o gamdriniaeth, merched yw mwyafrif helaeth yr achosion rydym yn eu gweld, rhwng 11 ac 13 oed.

Beth allwn ni ei wneud am hyn?

Mae ymwybyddiaeth o’r troseddu hwn yn allweddol er mwyn brwydro yn ei erbyn ac amddiffyn ein plant. Mae Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd yn mynd ati i ddod o hyd i’r delweddau hyn ar-lein a’u tynnu oddi yno, ond llawer gwell fyddai atal y deunydd hwn rhag cael ei greu yn y lle cyntaf.

Gurls Out Loud a Home Truths

Gyda chefnogaeth Microsoft a Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU, aethom ati i ddatblygu dwy ymgyrch ar sail gwaith ymchwil. Y gyntaf, sy’n targedu merched yn eu harddegau, yw Gurls Out Loud; ymgyrch i rymuso merched, gan ddefnyddio patrymau cymdeithasol a phobl ddylanwadol o fewn y cyfryngau cymdeithasol i gyrraedd ein cynulleidfa fwyaf agored i niwed: merched 11-13 oed. Rydym am i ferched wybod beth yw nodweddion troseddu ar-lein a’i adnabod pan fydd yn digwydd. Rydym am iddynt flocio’r person, rhoi gwybod am y digwyddiad a rhannu’r peth gyda rhywun maent yn ymddiried ynddo (Block. Report. Tell someone they trust).

Mae rhagor o wybodaeth am ymgyrch Gurls Out Loud yn: www.gurlsoutloud.com.

Yr ail ymgyrch, sy’n targedu rhieni a gofalwyr, yw Home Truths; ymgyrch nad yw’n ymddiheuro am y sioc y mae’n ei chreu, i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r math hwn o droseddu sy’n digwydd o dan drwynau’r rhai sy’n gofalu am blant, ac sy’n cynnig ffyrdd syml ac effeithiol o ddechrau sgyrsiau da gyda merched yn eu harddegau. Ein nod yw annog rhieni a gofalwyr i siarad â’u merched (T.A.L.K.).

  • (Talk) Siaradwch â’ch plentyn am gamdriniaeth rywiol ar-lein. Dechreuwch y sgwrs – a gwrandewch ar eu pryderon.
  • (Agree) Cytunwch ar reolau sylfaenol am y ffordd rydych chi’n defnyddio technoleg fel teulu.
  • (Learn) Dysgwch am y platfformau a’r apiau mae eich plentyn yn eu hoffi. Cymerwch ddiddordeb yn eu bywyd ar-lein.
  • (Know) Dysgwch sut i ddefnyddio’r adnoddau, yr apiau a’r gosodiadau a all helpu i gadw eich plentyn yn ddiogel ar-lein.

Rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ein helpu i wneud yr ymgyrchoedd hyn mor bellgyrhaeddol â phosibl a gallwch ddarganfod mwy am Gurls Out Loud a Home Truths yn ardal  Cadw’n ddiogel ar-lein ar Hwb

Darparu’r adnoddau i ddileu delweddau a fideos o’r rhyngrwyd

Gall gweld delwedd neu fideo rhywiol ohonynt eu hunain yn cael ei rannu ar-lein* achosi poen meddwl mawr i berson ifanc. Os yw o dan 18 oed, gall ddefnyddio adnodd Report Remove (Saesneg yn unig) Childline a Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd er mwyn ceisio ei dynnu o’r we.

Bydd angen i’r person ifanc ddilyn tri cham syml:

  1. Mynd i Report Remove | Childline (Saesneg yn unig) a dilyn y cyfarwyddiadau i brofi ei oed. Os yw’n 13 oed neu’n hyn, bydd modd defnyddio ap dilysu oed o’r enw Yoti. Bydd angen tystiolaeth adnabod i ddefnyddio hwn.
  2. Mewngofnodi i gyfrif Childline, neu greu cyfrif, er mwyn gallu derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ar ei achos.
  3. Rhannu’r ddelwedd neu’r fideo drwy gyfrwng diogel â Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd, a fydd yn edrych arno ac yn cymryd camau i’w dynnu o’r we os yw’n torri’r gyfraith. Bydd y Sefydliad yn rhoi ôl-bys digidol i’r ddelwedd neu’r fideo er mwyn gallu dod o hyd i’r ddelwedd ar draws y rhyngrwyd a’i thynnu oddi yno.

Os yw’r plentyn neu berson ifanc o dan 18 oed, neu os oeddent o dan 18 oed pan grëwyd y ddelwedd neu fideo noeth neu rywiol, mae modd trefnu i’w dynnu o’r we yma: Remove a nude image shared online | Childline (Saesneg yn unig).  

Rhoi gwybod am ddeunydd rhywiol o blant ar-lein

Gallwch roi gwybod yn uniongyrchol i ni yn y Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd https://report.iwf.org.uk/ (Saesneg yn unig) am wefannau sy’n cynnwys delweddau a fideos rhywiol o blant ar-lein. Cewch roi gwybod inni heb roi eich enw. Gallwch adael eich manylion os ydych am gael adborth ar adroddiad.

Unwaith byddwn yn derbyn adroddiad, bydd dadansoddwyr ein llinell gymorth yn ei adolygu, ac os bydd trosedd wedi’i chyflawni, byddwn yn cymryd camau i dynnu’r wefan honno o’r rhyngrwyd. Yn 2020, gweithredwyd ar 20,000 o adroddiadau gan y cyhoedd. Mae adroddiadau gan y cyhoedd wedi arwain at achub plant o flynyddoedd o gamdriniaeth. Os dewch ar draws unrhyw beth sy’n cyfateb i gam-drin plentyn yn rhywiol, felly, peidiwch â’i anwybyddu – rhowch wybod inni.

Beth arall ydyn ni’n ei wneud?

Rydym yn darparu gwasanaethau, adnoddau a chyfresi data i’n Haelodau – y cwmnïau a’r sefydliadau sy’n cefnogi ein gwaith. Mae’r rhain yn amrywio o Restr URL – sy’n sicrhau bod pob gwe-dudalen y gwyddom amdanynt sy’n achos o gam-drin plentyn yn rhywiol yn cael eu blocio, tra byddwn yn gweithio yn y cefndir i drefnu eu bod yn cael eu tynnu o’r we – i’n Hash-Restr – lle rydym yn rhoi ‘ôl-bys digidol’ i bob delwedd a fideo i sicrhau nad oes modd eu storio, eu rhannu na’u lanlwytho i blatfform.

Mae 162 o gwmnïau a sefydliadau yn Aelodau o Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ac rydym yn parhau i hyrwyddo ein gwasanaethau i ddarparwyr rhyngrwyd i sicrhau na pharheir i gamfanteisio ar blant bob tro y caiff y ddelwedd ei gwylio.

Pwy ydyn ni?

Sefydliad amddiffyn plant drwy dechnoleg yw Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd, sy’n gwneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel i blant ac oedolion ledled y byd.

Nid ydym yn sefydliad sy’n bodoli i wneud elw. Cawn ein cefnogi gan ddiwydiant y rhyngrwyd, y Comisiwn Ewropeaidd a haelioni pobl gyffredin. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r heddlu, llywodraethau a chyrff anllywodraethol ledled y byd, sy’n ymddiried yn ein gwaith. Am 25 mlynedd, rydym wedi darparu lle diogel i roi gwybod am ddelweddau, a hynny’n ddienw, ac rydym bellach yn gweithio mewn 48 o wledydd.

Rydym yn asesu pob adroddiad a ddaw i law. Os yw’n ymwneud â cham-drin plentyn yn rhywiol, rydym yn gofalu bod y ddelwedd neu’r fideo yn cael ei dynnu o’r we. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, rydym yn datblygu technoleg newydd er daioni ac yn darparu adnoddau pwrpasol i’n Haelodau yn y diwydiant.

Mae’r materion hyn yn bwysig inni. Ni ddylai un plentyn ddioddef yn sgil rhannu recordiad o’i gamdriniaeth drosodd a throsodd, sy’n gyfystyr â’i gam-drin go iawn drosodd a throsodd. Mae ein gwaith yn dibynnu ar aelodau staff cryf tosturiol, sydd wedi’u hyfforddi i lefel uchel ac yn derbyn gofal mawr. Rydym yn annog eraill i chwarae eu rhan, o roi gwybod inni am achosion, i’n hariannu, i gydweithredu ar y dechnoleg a’r ymchwil orau.

Mae’r plant yn y lluniau a’r fideos hyn yn blant go iawn. Gall y dioddef sydd wedi’i ddarlunio yn y delweddau hyn, ac yn yr wybodaeth y gallent gael eu rhannu, fod yn gysgod dros unigolyn am byth. Dyna pam ein bod wedi ymroi i gael gwared ar y deunydd hwn am byth. A dangos i bob plentyn bod yna rywrai sy’n meddwl digon ohonyn nhw i’w helpu.

Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn y ffaith bod Llywodraeth Cymru a Hwb yn Aelod o Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd. Mae eu cefnogaeth i’n gwaith yn dangos bod plant Cymru, a’u diogelwch ar-lein, yn hollbwysig iddynt.


 

Susie Hargreaves OBE

CEO of Internet Watch Foundation

Ymunodd Susie â Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd ym mis Medi 2011 fel Prif Weithredwr, ac mae wedi gweithio yn y sector elusennau am fwy na 25 mlynedd mewn swyddi uwch o bob math. Mae Susie yn Gyfarwyddwr yng Nghanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU ac yn aelod o Grwp Llywodraethiant Strategol Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP) yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol. 

Mae Susie yn aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Diogelwch y Rhyngrwyd yn y DU, yn un o aelodau gwreiddiol Bwrdd Cynghori Rhyngwladol Cynghrair Fyd-eang WePROTECT ac yn Aelod o Grwp Llywio Asesiad WePROTECT o’r Bygythiad Byd-eang.   

Cynrychiolodd Susie Sefydliad Gwylio’r Rhyngrwyd fel Cyfranogwr Craidd gyda’r elfen o’r Ymholiad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol sy’n ymwneud â’r rhyngrwyd, a bu’n gynghorydd arbenigol i UNICEF.  

Bu Susie yn Gomisiynydd ymholiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol i Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant a’u Cam-drin, ac mae’n aelod o fwrdd cynghori’r Genhadaeth Gyfiawnder Ryngwladol. Mae Susie yn Gymrawd yn Clore Leadership a chyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr Cyflawniad Menywod Ewropeaidd; Bos Gorau 2014 PA Magazine; Prif Weithredwr y Flwyddyn 2017 yng Ngwobrau ISPA, a Gwobrau Prif Weithredwyr Ewropeaidd 2018.  

Dyfarnwyd OBE i Susie yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2016 am ei Gwasanaethau i Ddiogelwch Plant Ar-lein, ac mae’n un o ymddiriedolwyr SOS Children’s Villages.