Peidiwch â mynd i sefyllfa lle mai gwario yw prif bwrpas y gêm
Mae gwario arian wrth chwarae gemau yn faes sy'n peri pryder cynyddol, yn enwedig gemau sydd wedi'u hanelu'n benodol at blant a phobl ifanc.
Mae gemau ar-lein yn fwy poblogaidd nag erioed. Mae llawer o arbenigwyr yn cytuno y gall chwarae gemau ar-lein gynnig manteision corfforol a chymdeithasol i blant a phobl ifanc. Mae'r rhain yn cynnwys sgiliau meddwl yn strategol, creadigrwydd a sgiliau datrys problemau - ond fel gyda sawl agwedd ar eu bywydau digidol, fe all fod yna anfanteision hefyd. Mae gwario arian wrth chwarae gemau yn faes sy'n peri pryder cynyddol, yn enwedig gemau sydd wedi'u hanelu'n benodol at blant a phobl ifanc.
-
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu cynnydd sylweddol mewn gemau sy'n cynnig eitemau i'w prynu wrth chwarae (in-game purchases). Yn aml, mae'r gemau hyn yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho a'u chwarae i ddechrau, sy'n gallu apelio'n fawr iawn. Ond er mwyn ariannu datblygiad gemau, gall chwaraewyr dalu i ddatgloi cynnwys neu nodweddion yn y gêm.
Fel arfer, mae pryniannau'n amrywio o 'ficrobryniannau' eithaf rhad, megis eitem sy'n hybu perfformiad, i rai drutach, fel swp o arian cyfred neu fynediad i lefelau ychwanegol.
Gellir prynu pethau fel 'crwyn' hefyd (gan newid ymddangosiad y cymeriad rydych chi'n ei chwarae) a chistiau ysbail (loot boxes), lle mae cyfle i ennill eitem rithwir o werth amrywiol.
-
Fel arfer, bydd microbryniant yn caniatáu i'r chwaraewr symud ymlaen yn gyflymach ac yn fwy hwylus yn y gêm. Mewn rhai achosion mae'n amhosibl gorffen gêm heb dalu am rywbeth, sy'n gallu bod yn hynod rwystredig.
Hefyd, gall plant a phobl ifanc wynebu pwysau gan ffrindiau, chwaraewyr gemau ar-lein a dylanwadwyr sy'n eu harwain i fod eisiau gwario arian ar yr eitemau gorau sydd ar gael.
Bydd rhai gemau hefyd yn defnyddio cymhellion seicolegol i annog chwaraewyr i brynu cistiau ysbail, sy'n cynnig cyfle i ennill eitem mewn gêm. Gan fod lwc yn gysylltiedig â pha eitem fydd chwaraewr yn ei chael, gellir ystyried hyn yn gambl, sy'n broblem arbennig mewn gemau sy'n apelio at blant a phobl ifanc.
Mae'r ffordd mae gêm wedi'i chynllunio yn gallu gwneud i rywun deimlo nad ydych chi'n gwario arian 'go iawn' a gall fod yn hawdd i blant a phobl ifanc dalu'n ddrud yn ddiarwybod heb ganiatâd eu rhiant neu ofalwr, yn enwedig os oes cerdyn debyd neu gredyd yn gysylltiedig â'r cyfrif.
-
Mae ymchwilio i gêm a deall sut mae'n cael ei ariannu cyn lawrlwytho, yn fan cychwyn da. Fel arfer, bydd gemau gydag eitemau i'w prynu mewn ap yn cael eu labelu felly ar system sgorio’r App Store. Trwy gynnwys plant a phobl ifanc yn y broses hon, gallech eu helpu i ddeall sut mae'r broses brynu eitemau mewn gemau yn gweithio a sut i osgoi gwneud hynny'n anfwriadol.
Mae gwybodaeth bwysig am rai o'r gemau mwyaf poblogaidd, gan gynnwys sgoriau oedran a sut i alluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch, ar gael yn ein hadran Bydd wybodus.
Os yw'ch plentyn yn teimlo dan bwysau i ddilyn ei ffrindiau, efallai y byddai'n ddefnyddiol ei gynnwys wrth lunio cytundeb teuluol am yr hyn sy'n iawn a ddim yn iawn i'w wneud ar-lein. Mae templed cytundeb Childnet (Saesneg yn unig) yn ddefnyddiol i'ch helpu i wneud hyn.
Gall cymryd diddordeb yn eu bywydau ar-lein fel hyn eu helpu i dderbyn y bydd gan deuluoedd gwahanol safbwyntiau gwahanol am amser sgrin, pa gemau sy'n addas a therfynau gwario.
Barn yr arbenigwyr
Ymgyrch Gaming4Good yn dangos nad yw gemau ar-lein yn ddrwg i gyd
Tim Mitchell, Cyfarwyddwr Cynnwys GetSafeOnline
Mae Tim yn trafod y manteision mae chwarae gemau yn eu cynnig i blant a phobl ifanc a'r risgiau sy'n cysylltiedig â phrynu eitemau mewn gemau.
Canllawiau ynghylch apiau i deuluoedd
Bydd wybodus
Wedi'i ddylunio a'i greu'n benodol ar gyfer rhieni a gofalwyr, mae'r casgliad hwn o ganllawiau yn rhoi'r wybodaeth allweddol y dylech ei gwybod am y cyfryngau cymdeithasol ac apiau gemau mwyaf poblogaidd i helpu'ch plentyn i lywio ei daith ddigidol yn ddiogel.
Adnoddau
Gwybodaeth bellach
- NSPCC: Online games (Saesneg yn unig)
- Internet Matters: Online gaming advice hub (Saesneg yn unig)
- CEOP Education: Gaming (Saesneg yn unig)