Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel
Mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn gyfle gwych i blant a phobl ifanc, staff ysgolion, rhieni a gofalwyr a busnesau yng Nghymru fod yn rhan o ymgyrch wirioneddol fyd-eang.
- Rhan o
Mae Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn cael ei ddathlu’n fyd-eang ym mis Chwefror bob blwyddyn, i hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol gan blant a phobl ifanc ac i ysbrydoli trafodaeth yn genedlaethol.
Yn y Deyrnas Unedig, caiff y diwrnod ei gydlynu gan UK Safer Internet Centre (Saesneg yn unig) ac yn ystod y dathliad mae cannoedd o sefydliadau yn uno i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelwch ar-lein a chynnal digwyddiadau a gweithgareddau ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r diwrnod yn rhoi’r cyfle i ni edrych ar y rôl sydd gan bob un ohonom i ddod at ein gilydd i greu rhyngrwyd gwell.
Mae gan ysgolion rôl bwysig i’w chwarae er mwyn ceisio ennyn diddordeb am Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn eu cymunedau, fel ymarferwyr addysg, rydyn ni’n gwybod bod cefnogi dysgwyr, hyd eithaf eich gallu, i wneud dewisiadau doeth yn eu bywydau ar-lein eisoes yn un o’ch blaenoriaethau pennaf.
Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel: Dydd Mawrth 11 Chwefror 2025
Thema'r DU eleni yw 'Rhy dda i fod yn wir? Diogelu eich hun ac eraill rhag sgamiau ar-lein'. Mae hyn yn cynnig cyfle gwych i ganolbwyntio ar sgamiau ar-lein ac, i bobl ifanc, sut i ddiogelu eu hunain ac eraill, yn ogystal â pha gymorth sydd ar gael iddynt.
Cymryd rhan
Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau i ysgolion gymryd rhan ynddynt.
Crewyr cynnwys ymgyrch Cadw'n ddiogel ar-lein
Yn gynharach eleni fe wnaethom wahodd dysgwyr i gyfrannu cynnwys i'r ardal Cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb, gan ganolbwyntio ar thema Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel eleni, sef sgamiau ar-lein.
Rydym yn falch o allu lansio cyfraniadau'r dysgwyr ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2025, ar ôl derbyn amrywiaeth o fideos a recordiadau sain creadigol. Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y gwaith o greu'r cyfraniadau gwych hyn.
Rhestr chwarae o fideos a gyflwynwyd
Gwasanaeth
Ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2025 rydym wedi partneru gydag e-sgol i ddatblygu gwasanaethau pwrpasol i'ch helpu i gychwyn sgyrsiau am sgamiau ar-lein a hyrwyddo arferion mwy diogel wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd. Byddant hefyd yn hyrwyddo adnoddau a chanllawiau gwerthfawr i sicrhau profiad ar-lein mwy diogel i bawb yng Nghymru.
I gofrestru eich ysgol neu ddosbarth ar gyfer gwasanaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel llenwch y ffurflen gofrestru fer, gan sicrhau eich bod yn cofrestru gyda'ch cyfeiriad e-bost Hwb ac yn dewis eich iaith.
Pecynnau Addysg Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel
Buom yn gweithio gyda Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU eto eleni i gyhoeddi pecynnau addysg dwyieithog.
Mae'r pecynnau hyn yn llawn gweithgareddau hwyliog ar gyfer pob oedran a gallant eich helpu i archwilio gyda'ch dysgwyr:
- Beth sy'n dylanwadu ac yn newid y ffordd y mae plant yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn ar-lein ac oddi ar lein?
- Sut allwn ni ddefnyddio'r rhyngrwyd i newid pethau?
- Beth ydyn ni'n ei feddwl o dechnoleg newydd a thechnoleg sy’n datblygu?
- Pecynnau addysg Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2025 ar gyfer plant 3 i 7 oed
- Pecynnau addysg Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2025 ar gyfer plant 7 i 11 oed
- Pecynnau addysg Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2025 ar gyfer pobl ifanc 11 i 14 oed
- Pecynnau addysg Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2025 ar gyfer pobl ifanc 14 i 18 oed
Osgoi sgamiau
Rydym wedi ymuno â Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU i gynhyrchu cyngor i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd ar adnabod ac osgoi sgamiau ar-lein.
-
Ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel eleni rydym yn dechrau sgwrs am sut i adnabod, ymateb i ac adrodd am bob math o sgamiau ar-lein. Gall sgamiau ddod mewn sawl ffurf a gallan nhw dargedu unrhyw un, gan gynnwys pobl ifanc. Er efallai nad yw eich plentyn 3 i 7 oed yn barod i ddefnyddio'r rhyngrwyd yn annibynnol eto, gallwch ddefnyddio’r awgrymiadau hyn i ddechrau arferion ar-lein da nawr a fydd yn helpu i'w cadw'n ddiogel yn y dyfodol.
Mwynhewch fynd ar-lein gyda'ch gilydd
Mae treulio amser ar-lein gyda’r teulu yn brofiad dysgu pwysig i ddefnyddwyr ieuengaf y rhyngrwyd. Nid yn unig y byddwch chi a nhw yn mwynhau cael amser gwerthfawr gyda'ch gilydd, ond gallwch oruchwylio eu defnydd a'u harwain i wneud y dewisiadau mwyaf diogel.
Siaradwch am ei brofiadau ar-lein
Helpwch i roi'r iaith i'ch plentyn fedru esbonio'r hyn y mae'n ei brofi ar-lein trwy ddechrau sgyrsiau am y rhyngrwyd a thechnoleg cyn gynted â phosibl. Bydd siarad yn rheolaidd am yr hyn y mae’n hoffi ei wneud ar-lein, yn ogystal ag unrhyw bryderon a allai fod ganddo, yn helpu i sefydlu'r arfer hwn, ac yn golygu ei fod yn fwy tebygol o ddod atoch chi am help wrth fynd yn hŷn.
Defnyddiwch osodiadau, yn enwedig ar gyfer prynu pethau ar-lein
Gall rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch eraill helpu i amddiffyn eich plentyn rhag niwed ar-lein, gan gynnwys sgamiau (gweler canllawiau UK Safer Internet Centre‘ Protecting young people from inappropriate online content’). Er mwyn osgoi unrhyw beth annisgwyl ac annifyr ar eich cyfriflen banc, gwnewch yn siŵr bod angen cod pas ar gyfer prynu o fewn apiau neu lawrlwythiadau newydd, a pheidiwch â gosod manylion cerdyn i’w llenwi’n awtomatig ar ddyfeisiau y mae eich plentyn yn eu defnyddio.
Esboniwch nad yw popeth ar-lein yn wir
Os yw'ch plentyn yn rhy ifanc i ddeall beth yw twyll, gallwch chi osod y sylfaen o hyd i helpu i’w cadw’n ddiogel ar-lein wrth iddyn nhw dyfu. Dechreuwch yn syml a siaradwch am y gwahaniaeth rhwng pethau go iawn a ffug. Helpwch nhw i sylweddoli nad yw popeth ar-lein yn wir ac y gallai rhai o’r pethau maen nhw’n eu gweld neu eu clywed fod yn straeon, yn jôcs neu’n driciau.
Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod y gall bob amser ddod atoch chi
Y peth pwysicaf i'ch plentyn ei wybod yw eich bod chi bob amser yno i'w gefnogi, ar-lein ac oddi ar lein. Anogwch nhw i siarad â chi os bydd unrhyw beth y maen nhw’n dod ar ei draws yn gwneud iddyn nhw deimlo'n bryderus neu'n ofidus. Dangoswch iddyn nhw y gallan nhw ymddiried ynoch chi i beidio â chynhyrfu, gwrando a helpu i wella pethau.
-
Gallwch ddefnyddio’r awgrymiadau hyn i'ch helpu i gadw'n ddiogel rhag sgamiau ar-lein a mwynhau eich amser yn dysgu, chwarae a sgwrsio ag eraill.
Chwiliwch am yr arwyddion nad ydych yn gallu ymddiried yn rhywbeth sydd ar-lein
Ydych chi erioed wedi gweld rhywbeth ar-lein sy'n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir? Mae'n debyg bod hyn yn golygu na allwch ymddiried ynddo. Os bydd rhywun yn anfon neges atoch yn ddirybudd, neu'n gofyn am arian neu wybodaeth bersonol, efallai ei fod yn ceisio eich twyllo.
Cadwch olwg am y rhybuddion hyn a gofynnwch i oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo os ydych chi'n meddwl eich bod wedi gweld sgam ar-lein.
Defnyddiwch gyfrinair diogel
Mae eich cyfrinair fel allwedd eich drws ffrynt, ni ddylech ei rannu â phobl eraill. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio cyfrinair sy'n anodd i bobl ei ddyfalu. Ni ddylai gynnwys unrhyw wybodaeth bersonol ac mae'n well pan fydd yn gymysgedd o lythrennau, rhifau a symbolau.
Gall cyfuno geiriau ar hap helpu i wneud eich cyfrinair yn fwy cofiadwy os ydych chi'n poeni am ei anghofio!
Meddyliwch yn ofalus pryd a ble rydych chi’n rhannu eich gwybodaeth bersonol
Gwybodaeth bersonol yw'r holl fanylion a allai helpu rhywun i ddarganfod pwy ydych chi ac mae'n cynnwys eich enw, cyfeiriad, ysgol, cyfrineiriau a mwy. Weithiau mae'n rhaid i chi rannu'ch gwybodaeth bersonol, fel pan fyddwch chi'n sefydlu cyfrif ar-lein newydd, ond bydd rhai pobl yn ceisio dwyn y manylion hyn hefyd.
Peidiwch byth â rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda chwaraewyr neu ddefnyddwyr eraill ar-lein, a pheidiwch â rhoi eich manylion ar wefannau neu ffurflenni heb siarad ag oedolyn y gallwch ymddiried ynddo yn gyntaf.
Dydy pawb ar-lein ddim yn rhywun y gallwch ymddiried ynddyn nhw, gan gynnwys mewn gemau
Efallai y byddwch chi’n mwynhau chwarae gemau ar-lein gyda phobl eraill, ond cofiwch na allwch chi ymddiried ym mhob un person rydych chi’n sgwrsio â nhw. Os ydych chi’n adnabod rhywun o’r rhyngrwyd yn unig, gwnewch yn siŵr bod eich sgwrs yn aros ar bynciau diogel, fel y gêm rydych chi'n ei chwarae gyda'ch gilydd. Os bydd rhywun yn gofyn i chi sgwrsio â nhw yn breifat neu ar ap gwahanol, byddwch yn ofalus, gan y gallai hyn fod yn arwydd eu bod yn ceisio eich twyllo.
Os yw chwaraewr yn cynnig cyfnewid rhyw eitem anhygoel gyda chi, gwneud trade, ond eu bod yn gwrthod defnyddio'r opsiwn ar gyfer cyfnewid sydd yn y gêm, efallai ei fod yn ceisio dwyn oddi wrthych. Dylech chi ddim ond cyfnewid mewn gemau drwy ddefnyddio'r opsiwn cyfnewid swyddogol.
Gofynnwch am help, gan gynnwys os ydych chi eisiau prynu ar-lein
Nid eich bai chi yw hi os ydych chi’n cael eich targedu gan sgam ac mae bob amser yn iawn i ofyn am help. Siaradwch gydag oedolion rydych yn gallu ymddiried ynddyn nhw, fel eich rhieni, gofalwyr, neiniau a theidiau, athrawon neu arweinwyr clybiau os oes rhywbeth yn mynd o'i le ar-lein neu os ydych chi'n gweld rhywbeth nad ydych chi'n siŵr amdano.
Cofiwch, os ydych chi eisiau prynu rhywbeth ar-lein, dylech chi bob amser ofyn yn gyntaf i sicrhau bod gennych chi ganiatâd a'r arian i wneud hynny.
Sgamiau i fod yn ymwybodol ohonyn nhw
Cyfnewid yn answyddogol mewn gemau
Mae chwarae gemau ar-lein yn llawer o hwyl ac yn un o'r ffyrdd gorau i ymlacio a threulio amser gyda ffrindiau. Mae pobl ifanc yn aml yn dweud wrthym sut maen nhw'n hoffi cynilo neu gystadlu am yr eitemau, y crwyn a’r uwchraddiadau gorau.
Gall cyfnewid eitemau gyda chwaraewyr eraill fod yn ffordd ddefnyddiol o gasglu pethau nad oes gennych neu i symud ymlaen yn y gêm. Ond nid yw pob cynnig i gyfnewid bob amser yn un da! Os cewch gynnig i gyfnewid rhywbeth, meddyliwch a yw'n gyfnewid teg a sut y byddwch yn teimlo wedyn. Unwaith y bydd y cyfnewid wedi’i wneud, allwch chi ddim ei gael yn ôl a dydych chi ddim eisiau teimlo eich bod wedi cael eich twyllo.
Cofiwch bob amser ddefnyddio'r cyfleuster neu’r ffordd swyddogol yn y gêm i gyfnewid eitemau. Mae hyn yn golygu y gallwch chi weld yn union beth rydych chi'n ei gyfnewid a bod yn rhaid i'r ddau chwaraewr sy’n cyfnewid gadw at beth maen nhw wedi cytuno arno.
Os yw rhywun eisiau cyfnewid gyda chi heb ddefnyddio cyfleuster yn y gêm, neu'n gofyn i chi gyfnewid y tu allan i'r gêm, gall hyn fod yn arwydd o sgam. Efallai y byddan nhw’n dwyn eich eitem a ddim yn rhoi unrhyw beth i chi yn gyfnewid amdano. Mae bob amser yn fwy diogel i beidio â chyfnewid fel hyn.
Gwe-rwydo
Yn eithaf tebyg i bysgota, gwe-rwydo (phishing) yw pan fydd sgamiwr yn 'bachu' rhywun trwy esgus ei fod yn gwmni neu'n sefydliad.
Ydych chi erioed wedi cael e-bost neu neges destun yn dweud ei fod gan gwmni adnabyddus, ond sy’n edrych braidd yn rhyfedd? Efallai fod y cyfeiriad e-bost yn anghywir, neu eich bod yn sylwi ar gamgymeriad sillafu yn y neges. Mae'r rhain yn negeseuon gwe-rwydo.
Mae negeseuon gwe-rwydo yn ceisio casglu eich gwybodaeth bersonol, fel cyfrineiriau, rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost neu fanylion banc. Efallai y byddan nhw’n gofyn i chi yn uniongyrchol am yr wybodaeth hon neu efallai y byddan nhw’n gofyn i chi glicio ar ddolen. Bydd y ddolen yn mynd â chi i wefan ffug neu’n lawrlwytho firws i’ch dyfais.
Gall gwe-rwydo ddigwydd trwy alwadau ffôn, e-byst, negeseuon testun, negeseuon mewn gemau, cyfryngau cymdeithasol neu wefannau ffug. Os byddwch chi'n sylwi ar rywbeth rydych chi'n meddwl y gallai fod yn enghraifft o we-rwydo, dywedwch wrth oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo a gyda'ch gilydd, gallwch roi gwybod amdano.
Anfonwch negeseuon e-bost gwe-rwydo ymlaen i report@phishing.gov.uk
Anfonwch negeseuon testunau gwe-rwydo ymlaen i 7726.
-
Gallwch ddefnyddio’r awgrymiadau hyn i'ch helpu i gadw'n ddiogel rhag sgamiau a mwynhau eich amser ar-lein.
Diogelwch eich cyfrifon gyda chyfrineiriau cryf ac ar wahân
Mae eich cyfrinair fel yr allwedd i'ch drws ffrynt ond ar gyfer eich cyfrifon ar-lein. Defnyddiwch gyfrineiriau sy'n anodd i bobl eraill eu dyfalu a pheidiwch byth â’u rhannu gyda phobl eraill. Ni ddylen nhw gynnwys unrhyw wybodaeth bersonol ac mae’n well os ydyn nhw’n gymysgedd o lythrennau, rhifau a symbolau.
Yn bwysicaf oll, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio cyfrinair gwahanol ar bob cyfrif rydych chi'n ei ddefnyddio, felly os bydd rhywun yn cael i mewn i un, nid yw'r lleill hefyd mewn perygl.
Ystyriwch yn ofalus wrth brynu ar-lein, gan gynnwys pa mor ddibynadwy yw’r gwerthwr
Os ydych chi'n bwriadu prynu rhywbeth ar-lein, meddyliwch yn ofalus a yw'n werth yr arian. Y ffordd fwyaf diogel yw prynu gan siopau rydych chi’n gwybod amdanyn nhw neu drwy ddefnyddio safleoedd marchnad (marketplace) ac apiau ail-law sy'n cynnig diogelwch i brynwyr. Cadwch olwg am sgamiau trwy edrych ar adolygiadau o'r gwerthwr i wneud yn siŵr eu bod yn ddilys. Gwnewch daliad trwy'r un ap bob amser ac nid trwy drosglwyddiad banc (sy'n cynnig y diogelwch lleiaf).
Gall prisiau isel fod yn rhy dda i fod yn wir ac efallai fod cynigion cyfyngedig yn ceisio eich rhuthro i wario arian yn gyflym, felly os gallwch chi, cymerwch eich amser ac edrychwch i weld beth sydd ar gael yn rhywle arall yn gyntaf.
Chwiliwch am gliwiau efallai nad yw rhywun neu rywbeth yn ddilys ar-lein
Mae sgamwyr yn defnyddio tactegau gwahanol i dargedu eu dioddefwyr, ond mae yna rai cliwiau i gadw golwg amdanyn nhw. Efallai y bydd tocynnau anodd eu cael neu fargen anhygoel yn rhy dda i fod yn wir, a gallai unrhyw beth sy'n rhoi pwysau arnoch chi i wneud penderfyniad yn gyflym fod yn sgam hefyd. Efallai y byddwch yn sylwi ar sgamwyr sy'n esgus bod yn rhywun y gellir ymddiried ynddo neu'n defnyddio eich emosiynau yn eich erbyn. Weithiau gall ofn, euogrwydd, neu hyd yn oed cariad roi pwysau ar bobl sy’n cael eu sgamio i wneud penderfyniadau heb feddwl amdanyn nhw.
Yn y pen draw, os bydd rhywun yn cysylltu â chi yn ddirybudd neu os oes rhywun yn gofyn i chi am arian, neu i rannu gwybodaeth bersonol (gan gynnwys rhifau pin, cyfrineiriau neu godau diogelwch un tro) mae siawns dda eich bod yn cael eich targedu gan sgamiwr.
Os ydych yn meddwl eich bod wedi dioddef sgam, gan gynnwys blacmel rhywiol, cofiwch nad chi sydd ar fai.
Os ydych chi'n cael eich twyllo gan sgam ar-lein, nid eich bai chi yw hynny byth. Er y gall rhai sgamiau ymddangos yn hawdd eu hadnabod, mae sgamwyr yn dda am yr hyn maen nhw’n ei wneud ac yn defnyddio dulliau gwahanol i dargedu pobl a'u gwneud yn fwy agored i niwed. Peidiwch â bod â chywilydd i ddweud wrth rywun a chael help. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun ac mae cefnogaeth ar gael.
Nid yw byth yn rhy hwyr i siarad gydag oedolyn am yr hyn sydd wedi digwydd, neu os yw'n well gennych, gallech gysylltu â Childline ar-lein neu drwy ffonio 0800 1111.
Gall rhoi gwybod am sgamiau helpu i'ch cadw chi ac eraill yn ddiogel
Yn ogystal â siarad gydag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo, yn aml y peth gorau i'w wneud yw adrodd am beth sydd wedi digwydd.
Os ydych wedi cael eich sgamio gallwch roi gwybod amdano i Action Fraud ar-lein neu drwy ffonio 0300 123 2040.
Efallai y bydd angen i chi hefyd roi gwybod i'ch banc neu gymryd camau eraill fel atal eich cerdyn.
Os ydych wedi derbyn e-bost amheus, gallwch ei anfon ymlaen at report@phishing.gov.uk
I roi gwybod am destun amheus, anfonwch ef ymlaen i 7726 ac i roi gwybod am alwad ffôn, defnyddiwch yr un rhif ond tecstiwch y gair 'Call' a’r rhif y daeth yr alwad oddi wrtho.
Gellir rhoi gwybod am wefannau amheus neu ffug ar-lein i'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, a gellir rhoi gwybod am hysbysebion ffug ar-lein i'r Awdurdod Safonau Hysbysebu.
Os ydych chi wedi gweld sgam ar y cyfryngau cymdeithasol neu ar farchnad ar-lein, gallwch hefyd roi gwybod amdano’n uniongyrchol trwy'r ap.
Sgamiau i fod yn ymwybodol ohonyn nhw
Rhoddion ffug a sgamiau tocynnau
Bydd rhoddion ffug ar-lein yn ceisio twyllo dioddefwyr i roi gwybodaeth bersonol neu arian. Os ydych chi'n cymryd rhan mewn rhodd ar-lein, mae'n fwyaf diogel cadw at gyfrifon brand swyddogol a defnyddwyr sydd wedi cael eu dilysu. Ystyriwch yn ofalus yr hyn y maen nhw’n gofyn amdano yn gyfnewid am wneud cais a chael cyfle i ennill gwobr. A yw'n werth chweil?
Os cysylltir â chi i ddweud eich bod wedi ennill rhodd, edrychwch i weld ei fod y neges wedi dod gan y cyfrif a gynhaliodd y gystadleuaeth, a pheidiwch byth â thalu am wobr na thalu am bostio. Ni fydd trefnwyr rhoddion go iawn yn gofyn i chi anfon arian atyn nhw a dim ond yr wybodaeth bersonol sydd ei hangen i drosglwyddo'r wobr i chi y dylai fod ei hangen (er enghraifft cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post).
Mae sgamwyr hefyd yn targedu ffans cerddoriaeth gyda thocynnau ffug. Gall y rhain gael eu hysbysebu mewn negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol neu hyd yn oed sylwadau o dan gynnwys y gallai ffans band neu artist ei fwynhau. Mae sgamwyr tocynnau fel arfer yn honni bod ganddyn nhw docynnau anodd eu cael am brisiau rhesymol, yn aml ar y funud olaf. Os ydych chi'n prynu tocynnau, mae'n fwyaf diogel gwneud hynny trwy apiau ailwerthu swyddogol sy'n cynnig diogelwch i brynwyr. Dylech osgoi anfon trosglwyddiadau banc yn gyfnewid am docynnau, ac os oes rhywun yn eich rhoi dan bwysau i brynu, mae'n debyg mai sgam ydyw.
Gwe-rwydo ac SMS-rwydo
Gwe-rwydo (phishing) yw pan fydd sgamiwr yn 'bachu' rhywun trwy esgus ei fod yn gwmni neu'n sefydliad. Yr un syniad yw SMS-rwydo (smishing) ond trwy ddefnyddio negeseuon testun SMS.
Mae'n ddigon posibl eich bod wedi gweld gwe-rwydo o'r blaen. Efallai eich bod wedi derbyn e-bost gan gwmni adnabyddus, ond roedd yn edrych braidd yn rhyfedd? Efallai fod y cyfeiriad e-bost yn anghywir, neu eich bod wedi gweld camgymeriad sillafu yn y neges. Mae'r rhain yn negeseuon gwe-rwydo.
Mae negeseuon gwe-rwydo yn ceisio casglu eich gwybodaeth bersonol, fel cyfrineiriau, rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost neu fanylion banc. Efallai y byddan nhw’n gofyn i chi yn uniongyrchol am yr wybodaeth hon neu efallai y byddan nhw’n gofyn i chi glicio ar ddolen. Bydd y ddolen yn mynd â chi i wefan ffug neu’n lawrlwytho maleiswedd neu firws i’ch dyfais.
Gall gwe-rwydo ddigwydd trwy alwadau ffôn, e-byst, negeseuon testun, negeseuon mewn gemau, cyfryngau cymdeithasol neu wefannau ffug. Os byddwch chi'n sylwi ar rywbeth rydych chi'n meddwl y gallai fod yn enghraifft o we-rwydo, peidiwch â chlicio arno nac ateb. Yn hytrach, adroddwch amdano.
Anfonwch negeseuon e-bost gwe-rwydo ymlaen i report@phishing.gov.uk
Anfonwch negeseuon testunau gwe-rwydo ymlaen i 7726.
Blacmel rhywiol ariannol ar-lein
Math o flacmel yw blacmel rhywiol (sextortion) pan fydd rhywun yn bygwth rhannu lluniau noeth o rywun oni bai bod y dioddefwr yn talu arian neu'n cytuno i wneud rhywbeth arall, fel rhannu mwy o ddelweddau.
Mae blacmel rhywiol yn drosedd a gall gael ei chyflawni gan unigolion neu grŵp o bobl yn gweithio gyda'i gilydd. Mae un math o flacmel rhywiol sydd ar gynnydd hefyd yn gallu cael ei ddisgrifio fel sgam, lle mae troseddwyr ar-lein yn gobeithio twyllo eu dioddefwyr i dalu arian.
Os ydych chi'n cael eich targedu gan flacmel rhywiol, dydych chi ddim ar eich pen eich hun ac nid chi sydd ar fai. Cymerwch sgrinluniau o unrhyw negeseuon neu wybodaeth a anfonwyd atoch a pheidiwch â dileu'r sgwrs. Stopiwch gyfathrebu a rhowch wybod amdano. Dywedwch wrth oedolyn y gallwch ymddiried ynddo a rhowch wybod i'ch heddlu lleol neu CEOP.
Gall fod yn anodd siarad am flacmel rhywiol, ond gall siarad â rhywun helpu. Gallech ofyn i ffrind eich cefnogi wrth siarad ag oedolyn.
Am fwy o wybodaeth am flacmel rhywiol ewch i wefan Childnet.
-
Gallwch ddefnyddio’r awgrymiadau hyn i'ch helpu i gadw'n ddiogel rhag sgamiau ar-lein a mwynhau eich amser ar-lein.
Diogelwch eich cyfrifon gyda chyfrineiriau cryf sydd i gyd yn wahanol a phrawf dilysu 2 gam (2SV)
Peidiwch â rhannu cyfrineiriau gyda phobl eraill a sicrhewch eu bod yn anodd eu dyfalu. Ni ddylai cyfrineiriau gynnwys unrhyw wybodaeth bersonol ac mae’n well pan fyddan nhw’n gymysgedd o lythrennau, rhifau a symbolau. Yn bwysicaf oll, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio cyfrinair gwahanol ar gyfer pob cyfrif rydych chi'n ei ddefnyddio, felly os bydd rhywun yn cael i mewn i un, nid yw'r lleill hefyd mewn perygl.
Dylech hefyd sefydlu prawf dilysu 2 gam (2SV) ar gyfer eich cyfrifon, os yw ar gael. Ar gyfer rhai gweithredoedd, fel newid eich cyfrinair neu fewngofnodi ar ddyfais newydd, mae hyn yn golygu y bydd angen i chi brofi mai chi ydych chi. Anfonir cod atoch i ddyfais arall rydych eisoes wedi mewngofnodi arni, sy'n atal sgamwyr rhag cael mynediad gyda chyfrinair yn unig.
Ystyriwch yn ofalus wrth brynu ar-lein, gan gynnwys pa mor ddibynadwy yw’r gwerthwr
Os ydych chi'n bwriadu prynu rhywbeth ar-lein, meddyliwch yn ofalus a yw'n werth yr arian. Mae'n fwyaf diogel prynu gan siopau rydych chi’n gwybod amdanyn nhw neu drwy ddefnyddio safleoedd marchnad (marketplace) ac apiau ail-law sy'n cynnig diogelwch i brynwyr. Cadwch olwg am sgamiau trwy edrych ar adolygiadau o'r gwerthwr. Gwnewch daliad trwy'r un ap bob amser ac nid trwy drosglwyddiad banc (sy'n cynnig y diogelwch lleiaf).
Gall prisiau isel fod yn rhy dda i fod yn wir ac efallai fod cynigion cyfyngedig yn ceisio eich rhuthro i wario arian yn gyflym, felly os gallwch chi, cymerwch eich amser ac edrychwch i weld beth sydd ar gael yn rhywle arall yn gyntaf.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am fathau cyffredin a newydd o sgamiau
Mae sgamiau'n datblygu drwy'r amser ac mae sgamwyr bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o dargedu eu dioddefwyr, ond mae rhai cliwiau i gadw golwg amdanyn nhw. Efallai y bydd tocynnau anodd eu cael neu fargen anhygoel yn rhy dda i fod yn wir, a gallai unrhyw beth sy'n rhoi pwysau arnoch chi i wneud penderfyniad yn gyflym fod yn sgam hefyd. Efallai y byddwch yn sylwi ar sgamwyr sy'n esgus bod yn rhywun y gellir ymddiried ynddo neu'n defnyddio'ch emosiynau yn eich erbyn. Weithiau gall ofn, euogrwydd, neu hyd yn oed cariad roi pwysau ar ddioddefwyr i wneud penderfyniadau heb feddwl amdanyn nhw.
Gyda datblygiadau mewn AI cynhyrchiol, gall fod yn anoddach sylwi pan fydd e-byst, gwefannau a logos wedi'u ffugio, felly os oes gennych unrhyw amheuaeth, peidiwch â chlicio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am sgamiau cyffredin a newydd trwy siarad â ffrindiau a theulu am yr hyn maen nhw wedi'i weld. Gallwch hefyd gael cyngor ar-lein gan Action Fraud, Stop! Think Fraud a mwy.
Os ydych yn meddwl eich bod wedi dioddef sgam, gan gynnwys blacmel rhywiol, cofiwch nad chi sydd ar fai.
Os ydych chi'n cael eich twyllo gan sgam ar-lein, nid eich bai chi yw hynny byth. Er y gall rhai sgamiau ymddangos yn hawdd eu hadnabod, mae sgamwyr yn dda am yr hyn maen nhw’n ei wneud ac yn defnyddio dulliau gwahanol i dargedu pobl a'u gwneud yn fwy agored i niwed. Peidiwch â bod â chywilydd i ddweud wrth rywun a chael help. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun ac mae cefnogaeth ar gael.
Nid yw byth yn rhy hwyr i siarad ag oedolyn am yr hyn sydd wedi digwydd, neu os yw'n well gennych, gallech gysylltu â Childline online neu drwy ffonio 0800 1111.
Gall rhoi gwybod am sgamiau helpu i'ch cadw chi ac eraill yn ddiogel
Yn ogystal â siarad ag oedolyn, yn aml y peth gorau i'w wneud yw adrodd amdano.
Os ydych wedi cael eich sgamio gallwch roi gwybod amdano i Action Fraud ar-lein neu drwy ffonio 0300 123 2040.
Efallai y bydd angen i chi hefyd roi gwybod i'ch banc neu gymryd camau eraill fel atal eich cerdyn.
Os ydych wedi cael e-bost amheus, gallwch ei anfon ymlaen at report@phishing.gov.uk
I roi gwybod am neges destun amheus, anfonwch ef ymlaen i 7726 ac i roi gwybod am alwad, defnyddiwch yr un rhif ond tecstiwch y gair 'Call' a’r rhif y daeth yr alwad oddi wrtho.
Gellir rhoi gwybod am wefannau amheus neu ffug ar-lein i'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, a gellir rhoi gwybod am hysbysebion ffug ar-lein i'r Awdurdod Safonau Hysbysebu.
Os ydych chi wedi gweld sgam ar y cyfryngau cymdeithasol neu farchnad ar-lein, gallwch hefyd roi gwybod amdano’n uniongyrchol trwy'r ap.
Sgamiau i fod yn ymwybodol ohonyn nhw
Sgamiau dynwared
Sgam dynwared yw pan fydd troseddwr yn dylanwadu ar ei ddioddefwr i rannu arian neu wybodaeth bersonol trwy esgus bod yn rhywun arall. Weithiau, gall y sgamiwr esgus ei fod yn aelod o'r teulu, yn enwog neu'n rhan o sefydliad er mwyn ennill ymddiriedaeth ei ddioddefwr.
Os byddwch yn cael neges gan rif nad ydych yn ei adnabod yn honni ei fod yn berthynas, peidiwch ag ymateb i'r neges ac yn lle hynny cysylltwch â’ch aelod o'ch teulu yn uniongyrchol. Efallai bod y neges yn honni bod ganddyn nhw ffôn newydd, neu fod eu hen un wedi torri, ond mae'n bwysig cadarnhau hyn gan ei fod yn dacteg gyffredin gan sgamwyr. Gallech ystyried cytuno ar air neu ymadrodd sy'n ddiogel i'r teulu, fel y gallwch adnabod sgamiau dynwared posibl trwy ofyn am y gair diogel. Os yw'n sgamiwr, ni fyddan nhw’n ei wybod.
Mewn ymdrechion i we-rwydo, gall sgamwyr gynnwys logos neu frandiau cwmnïau y byddwch chi'n eu hadnabod, ond edrychwch am arwyddion efallai nad yw popeth fel y mae'n ymddangos. Ydy'r cyfeiriad e-bost yn edrych yn wahanol? Ydy enw defnyddiwr y cyfrif ychydig yn od? A yw neges yn eich cyfarch fel 'cwsmer gwerthfawr' yn hytrach nag eich enw? Neu a yw'n gofyn i chi am wybodaeth bersonol neu arian? Os felly, gallai fod yn sgam.
Sgamiau rhamant, gan gynnwys blacmel rhywiol ariannol ar-lein
Sgam rhamant yw pan fydd troseddwr yn twyllo rhywun i anfon arian ato ar ôl meithrin perthynas ramantus ffug gyda nhw. Mae sgamwyr rhamant yn aml yn defnyddio proffiliau a hunaniaethau ffug i dwyllo pobl ar-lein. Efallai eich bod wedi clywed hyn yn cael ei alw'n swyno trwy dwyll neu catfishing yn Saesneg.
Un tuedd cynyddol mewn sgamiau rhamant yw 'blacmel rhywiol' neu ‘sextortion’ yn Saesneg. Math o flacmel yw blacmel rhywiol pan fydd rhywun yn bygwth rhannu lluniau noeth o rywun oni bai bod y dioddefwr yn talu arian neu'n cytuno i wneud rhywbeth arall, fel rhannu mwy o ddelweddau.
Mae blacmel rhywiol yn drosedd a gall gael ei gyflawni gan unigolion neu grŵp o bobl sy’n gweithio gyda'i gilydd. Os ydych chi'n cael eich targedu gan flacmel rhywiol, nid ydych chi ar eich pen eich hun ac nid chi sydd ar fai. Cymerwch sgrinluniau o unrhyw negeseuon neu wybodaeth a anfonwyd atoch a pheidiwch â dileu'r sgwrs. Stopiwch gyfathrebu a rhowch wybod amdano. Dywedwch wrth oedolyn y gallwch ymddiried ynddo a rhowch wybod i'ch heddlu lleol neu CEOP.
Gall fod yn anodd siarad am flacmel rhywiol, ond gall siarad â rhywun helpu. Gallech ofyn i ffrind eich cefnogi wrth siarad ag oedolyn.
Am fwy o wybodaeth am flacmel rhywiol ewch i wefan Childnet.
Mulod arian
Y weithred o ddefnyddio mulod arian (neu money mules yn Saesneg) yw pan fydd troseddwyr yn defnyddio cyfrifon banc pobl i drosglwyddo arian y maen nhw wedi’i gael yn anghyfreithlon. Mae'r rhai sy'n fulod arian yn derbyn yr arian i'w cyfrifon banc ac yna naill ai'n ei dynnu allan neu ei drosglwyddo ymlaen, gan dderbyn, fel arfer, canran fel taliad.
Mae troseddwyr yn aml yn targedu myfyrwyr a gall yr addewid o ffordd gyflym o wneud arian ymddangos yn ddeniadol. Fodd bynnag, mae bod yn ful arian yn fath o wyngalchu arian ac mae'n anghyfreithlon. Yn aml, gallai'r arian fod yn gysylltiedig â throseddau cyfundrefnol, ac os cewch eich dal gallech gael cofnod troseddol.
Weithiau, bydd troseddwyr hefyd yn ceisio bod yn gyfaill i’w dioddefwyr ac yna'n eu twyllo i drosglwyddo arian fel ffafr. Efallai na fydd dioddefwyr yn sylweddoli eu bod yn cymryd rhan mewn trosedd ddifrifol.
Os ydych chi'n credu eich bod chi'n cael eich targedu gan hyn, peidiwch â chytuno i'r trosglwyddiad a rhowch wybod i'r heddlu drwy ffonio 101 neu 999 mewn argyfwng.
-
Ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel eleni rydym yn dechrau sgwrs am sut i adnabod, ymateb i ac adrodd am bob math o sgamiau ar-lein. Gall sgamiau fod ar sawl ffurf a gallan nhw dargedu unrhyw un, gan gynnwys pobl ifanc. Gallwch ddefnyddio’r awgrymiadau hyn i'ch cadw chi a'ch anwyliaid yn ddiogel ar-lein.
Mwynhewch fynd ar-lein gyda'ch gilydd a siaradwch yn rheolaidd am fywydau ar-lein eich teulu
Mae'r rhyngrwyd yn anhygoel a gall ein helpu ni i gyd i gael gafael ar wybodaeth ac adloniant. Treuliwch amser ar-lein gyda'ch plentyn i ddeall sut mae’n defnyddio technoleg a siaradwch gyda'ch gilydd am y rhannau da a drwg o fod ar-lein. Siaradwch am eich profiadau eich hun a dewch o hyd i gyfleoedd eraill i gychwyn y sgwrs, er enghraifft dilyn straeon yn y newyddion. Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod y gall siarad â chi am unrhyw beth y mae'n ei weld neu'n ei brofi ar-lein.
Cymerwch fesurau diogelwch ar-lein o ddifrif
Gall y rhyngrwyd fod yn offeryn mae troseddwyr yn ei ddefnyddio i dargedu eu dioddefwyr. Mae’r canllawiau ar wefan Stop! Think Fraud ‘Diogelu eich hun rhag twyll ar-lein’ yn cynnwys ychydig o gamau syml er mwyn eich helpu i'ch cadw chi a'ch cyfrifon yn ddiogel, er enghraifft trwy ddefnyddio cyfrineiriau cryf a gwahanol ar gyfer cyfrifon ar-lein a thrwy sefydlu prawf dilysu 2 gam (2SV) lle mae ar gael. Mae canllawiau gan UK Safer Internet Centre (‘Protecting young people from inappropriate content’) yn dangos sut y byddwch hefyd yn gallu gosod rheolaethau rhieni i atal prynu ar-lein diangen a chyfyngu ar fynediad plant at gynnwys niweidiol.
Chwiliwch am rybuddion na ellir ymddiried yn rhywun neu rywbeth ar-lein
'Mae'n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir!' Mae arwyddion cyffredin eraill o sgam yn cynnwys cyswllt nad oeddech yn ei ddisgwyl, neu bod rhywun yn gofyn i chi am arian neu wybodaeth bersonol (meddyliwch: manylion banc neu fanylion cyswllt, cyfrineiriau neu rifau ffôn). Mae sgamwyr yn defnyddio tactegau eraill i ddylanwadu ar eu dioddefwyr i dalu, fel chwarae gyda'ch emosiynau, neu greu teimlad o frys fel eich bod yn cael eich rhuthro i wneud penderfyniad. Os nad ydych yn siŵr ei fod yn ddibynadwy, peidiwch â mentro.
Cofiwch y gall unrhyw un ddioddef sgam
Mae sgamwyr yn dda am yr hyn y maen nhw’n ei wneud a byddan nhw’n targedu unrhyw un. Mae angen i ni i gyd fod yn wyliadwrus a chefnogi'r rhai sydd fwyaf agored i niwed, gan gynnwys plant a'r henoed, trwy eu helpu i adnabod beth i gadw golwg amdano. Os oes unrhyw un yn eich teulu wedi cael ei sgamio, siaradwch yn agored amdano. Ni ddylai fod unrhyw gywilydd mewn bod yn ddioddefwr sgam ac nid chi sydd byth ar fai.
Darganfyddwch ble i gael help os bydd rhywbeth yn mynd o'i le
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi dioddef sgam ar-lein, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae cymorth ar gael ac nid chi sydd ar fai am yr hyn sydd wedi digwydd. Gallwch adrodd am dwyll a seiberdroseddu ar-lein i Action Fraud neu drwy ffonio 0300 123 2040. Efallai y byddwch hefyd yn gallu rhoi gwybod trwy'r cyfryngau cymdeithasol, os yw'r sgam wedi digwydd yno, neu i sefydliad perthnasol arall, fel eich banc os ydych yn credu bod eich cyfrif mewn perygl.
Cofiwch, os ydych chi neu unrhyw un arall mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999 ar unwaith.
Rhannwch eich gweithgareddau Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel
Mae cyfle i bawb drwy Gymru, gan gynnwys ysgolion, grwpiau ieuenctid a theuluoedd, gymryd rhan yn nathliadau Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ddydd Mawrth 11 Chwefror. Gwahoddir ysgolion i rannu eu gweithgareddau diogelwch ar-lein trwy uwchlwytho i'n Microsoft Sway.
Bydd y cyfraniadau yn cael eu cymedroli ac yna'n cael eu cyhoeddi ar Hwb.
Ffyrdd eraill o ddangos eich cefnogaeth
Cefnogwch yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol
I weld beth mae sefydliadau eraill yng Nghymru yn ei wneud ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, chwiliwch am #SIDCymru ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gallwch hefyd ymuno â’r sgwrs fyd-eang drwy ddefnyddio #DiwrnodDefnyddiorRhyngrwydynFwyDiogel #SaferInternetDay
Cofrestru fel cefnogwr
Dangoswch gefnogaeth ac ymrwymiad eich sefydliad tuag at ryngrwyd well drwy gofrestru fel cefnogwr Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.
Mae’r dudalen hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda newyddion Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, felly cadwch olwg.
Ymgyrchoedd blaenorol
-
Dyddiad: Dydd Mawrth 6 Chwefror 2024
Thema: Ysbrydoli newid? Gwneud gwahaniaeth, rheoli dylanwad a llywio newid ar-lein
Gweithgareddau: Ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024 fe wnaethom ddatblygu gwasanaeth pwrpasol i’ch helpu i gychwyn sgyrsiau am ddefnydd diogel, cadarnhaol a chyfrifol o dechnoleg yn eich ysgol. Drwy gydol wythnos Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau rhithwir rhyngweithiol i ysgolion gyda'n partneriaid arbenigol, gan gynnwys Estyn, Childnet, SWGfL, Heddlu Gogledd Cymru ac Adobe.
-
Dyddiad: Dydd Mawrth 7 Chwefror 2023
Thema: Gwneud lle i sgyrsiau am fywyd ar-lein
Gweithgareddau: Cynhaliodd Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad ag Undeb Rygbi Cymru, gystadleuaeth ffilm a oedd yn gwahodd plant a phobl ifanc i greu ffilm fer sy’n cyflwyno eu safbwyntiau, eu barn a’u storïau ynghylch defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, gemau neu apiau. Roeddem am glywed ganddyn nhw yn eu geiriau ei hunain am fanteision yr apiau hyn a’r pryderon sydd ganddynt wrth eu defnyddio. Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn digwyddiad i ddathlu pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn Stadiwm Principality ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel:
- Enillydd Cynradd: Ysgol Bro Teifi
- Enillydd Uwchradd: Ysgol Nantgwyn
- Ail Cynradd: Ysgol Dyffryn Cledlyn
- Ail Uwchradd: Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd
- Canmoliaeth uchel: Ysgol Gynradd Griffithstown
- Canmoliaeth uchel: Ysgol Gynradd Cadle
- Canmoliaeth uchel: Ysgol y Deri, ‘Class 5FN does gaming’
- Canmoliaeth uchel: Ysgol y Deri, ‘The need for speed’
-
Dyddiad: Dydd Mawrth 8 Chwefror 2022
Thema: Hwyl a sbri i bawb? Archwilio parch a pherthynas ar-lein
Gweithgareddau: Cynhaliodd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC), gystadleuaeth ffilm gyda’r nod o annog plant a phobl ifanc i fynegi eu creadigrwydd a rhannu eu dealltwriaeth o ddangos parch ar-lein. Cyhoeddwyd enillwyr y gystadleuaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel:
- Enillydd Cynradd: Ysgol Dyffryn Cledlyn
- Enillydd Uwchradd: Ysgol Tŷ Coch
- Ail: Ysgol Bro Pedr
- Canmoliaeth uchel: Ysgol Gynradd Tregatwg
- Canmoliaeth uchel: Ysgol Bro Teifi
-
Dyddiad: Dydd Mawrth 9 Chwefror 2021
Thema: Rhyngrwyd yr ydym yn ymddiried ynddo: archwilio dibynadwyedd yn y byd ar-lein
Gweithgareddau: Gweithiodd Llywodraeth Cymru a Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU ar y cyd i gynnal cystadleuaeth ‘Straeon digidol: Mynd i'r afael â Chamwybodaeth’. Roedd y gystadleuaeth hon yn galw ar blant a phobl ifanc arfer eu hawen greadigol drwy greu ffilm, ysgrifennu stori neu recordio darn sain i egluro beth yw camwybodaeth, pam y gallai achosi problemau, sut y gallwn adnabod camwybodaeth a beth y gallwn ei wneud i amddiffyn ein hunain a sicrhau nad yw'n lledaenu. Cyhoeddwyd enwau enillwyr y gystadleuaeth fel rhan o ddigwyddiad rhithwir ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel.