English

Gwers annisgwyl

Mae'n fis Chwefror 2017, mewn ysgol gynradd ym Manceinion Fwyaf. Mae criw BBC Newsround a Full Fact yn yr ystafell ddosbarth, yn rhannu cyfres o straeon newyddion gyda'r plant 9-11 oed. Robot yn dod yn bennaeth mewn ysgol yng Nghymru; menyw’n rhoi genedigaeth i fabi sy’n pwyso pedair stôn; cip ar UFO. Dyna i chi ddim ond blas ar rai o'r straeon dan sylw. Mae'r dosbarth yn credu bod y straeon hyn yn reit annisgwyl, bron yn anghredadwy, a phob disgybl wedi'i gyfareddu gan yr hyn mae'n ei ddarllen.

Yna, daw'r gwir i'r fei: straeon celwydd golau ydyn nhw i gyd. Enghreifftiau wedi’u cynhyrchu’n arbennig ar gyfer y wers. Mae pob plentyn yn syfrdan, a gallwch weld blynyddoedd o ffydd ddigwestiwn mewn newyddion ac oedolion cyfrifol yn cael ei siglo.

Nid eu bod nhw heb sylwi ar rai o'r 'cliwiau': y straeon anodd-eu-credu; y ffaith nad oedden nhw erioed wedi clywed am y ffynonellau a oedd yn cyhoeddi'r straeon; ambell gamgymeriad sillafu neu lun o ansawdd gwael. Yn syml, wnaeth e erioed eu taro nhw bod modd i rywun ffugio straeon newyddion, a'u cyflwyno i'r stafell ddosbarth wedyn fel pe baen nhw'n gwbl wir. Er gwaetha'r elfennau od: roedden nhw'n edrych fel erthyglau newyddion, ac mae newyddion i fod i beri syndod - nid newyddion fyddai fel arall!

Y diwrnod hwnnw, sylweddolais mai codi ymwybyddiaeth yw un o'r dulliau mwyaf pwerus sydd gennym wrth addysgu camwybodaeth. Mae pawb yn gwybod beth yw dweud celwydd ac mae llawer ohonon ni'n gallu dweud pan fydd rhywun yn rhaffu celwyddau; y gamp yw cofio defnyddio'ch synhwyrydd celwyddau pan mae'n cyfri.

Pam mae'n bwysig gwirio ffeithiau

Fel elusen gwirio ffeithiau annibynnol y DU, mae Full Fact (Saesneg yn unig) wedi bod yn helpu i ganfod a chwynnu gwybodaeth wael ers ei sefydlu yn 2010. Craidd yr hyn a wnawn yw gwirio ffeithiau a chyhoeddi’r canlyniadau bob dydd: ystyried honiad, pwyso a mesur i ba raddau mae’n adlewyrchu'r hyn rydyn ni'n ei wybod am realiti, a rhannu a chyfathrebu'r hyn rydyn ni wedi'i ddarganfod.

Yn ogystal â hysbysu ein darllenwyr am honiadau a materion penodol, rydyn ni'n ceisio sicrhau bod y rhai sy'n dewis creu a lledaenu gwybodaeth anghywir yn cael eu cosbi. Trwy godi ymwybyddiaeth o gamgymeriadau a drygau y down ar eu traws, rydyn ni'n helpu ein darllenwyr i benderfynu ym mhwy ac ym mha beth y gallan nhw ymddiried i ddweud y gwir, a dangos sut gallan nhw ymateb a dwyn y rhai y tu ôl i'r honiadau hyn i gyfrif.

Mae'r un mor bwysig codi ymwybyddiaeth ynghylch pam mae gwybodaeth wael yn lledaenu. Dyw "newyddion ffug" ddim yn disgrifio'r broblem yn llawn: mae'n creu'r argraff o ryw ddihiryn neu gwmni dieflig sy'n mynd at i greu straeon i'n twyllo ni gyd. Ond mae gwybodaeth wael yn lledaenu yr un mor hawdd pan fyddwn ni'n gwneud camgymeriadau gonest neu’n clicio "rhannu" yn llawn bwriadau da, gan gredu bod yr hyn rydyn ni wedi'i ddarllen yn wybodaeth bwysig i'n ffrindiau a'n teulu ei gwybod.

Yr allwedd i atal lledaeniad gwybodaeth wael yw annog pobl i fod ar eu gwyliadwriaeth wrth gael eu newyddion, trwy ddangos iddyn nhw yr holl ffyrdd y mae pethau’n gallu, ac yn, mynd o le, a gwirio gwybodaeth pan dyw rhywbeth ddim yn ymddangos yn iawn. Mewn geiriau eraill, nid rhywbeth i wirwyr ffeithiau yn unig yw gwirio ffeithiau. Mwya’n byd o bobl sy'n cwestiynu'r wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno iddyn nhw, anodda’n byd yw hi i bobl sy'n lledaenu'r wybodaeth honno achosi niwed eang.

Sy'n dod â ni yn ôl i'r ystafell ddosbarth ym Manceinion yn 2017, pan wnaethon ni helpu i ddangos i blant ifanc nad yw'r stori rydych chi'n ei gweld yn y newyddion yn dweud y stori lawn bob tro. Yna fe ddangoson ni sut gallen nhw ddechrau mynd ati i wirio'r newyddion eu hunain.

Meddwl yn feirniadol

Mae dysgu pobl i wirio newyddion a chynnwys ar-lein yn dechrau trwy gyfaddef: mae'n amhosib gwirio popeth. Mae yna'r fath beth â bod yn "rhy amheus", neu hyd yn oed sinigaidd, ac mae'n tynnu'r llawenydd o ddarllen/gwrando ar y newyddion a meddwl amdano. Yn hytrach, mae angen hidlydd arnoch; ffordd o sylwi ar gynnwys ar-lein sy'n edrych braidd yn amheus ac annibynadwy. Dyna rydyn ni'n ei alw'n "feddwl beirniadol”.

Mae meddwl beirniadol yn golygu gofyn y "cwestiynau lletchwith" fel "Pam mae'r unigolyn neu'r sefydliad yn dweud hyn?", "Ydy e'n swnio'n rhy dda i fod yn wir?”. Yn ein profiad ni fel gwirwyr ffeithiau, yn aml mae modd dweud a yw stori'n seiliedig ar wybodaeth wael dim ond trwy edrych ar yr honiad a meddwl amdano.

I blant iau, mae'n helpu i osod y sylfeini yn gyntaf: beth yw "ffeithiau" a "ffynonellau" a pham maen nhw'n bwysig? Dwi'n hoffi dechrau drwy ofyn un o'r cwestiynau mwyaf pwerus mewn newyddiaduraeth i'r dosbarth: sut ydych chi’n gwybod hynny? Dychmygwch eich bod chi'n dweud wrth rywun ei bod hi'n dri o'r gloch, ac yntau’n gofyn "sut wyt ti'n gwybod hynny?" Mae'n debyg y byddwch yn pwyntio at gloc ar y wal, eich oriawr neu'ch ffôn. Maen nhw'n atebion dilys am eu bod nhw i gyd yn ffynonellau ar gyfer dweud yr amser.

Wedyn, rydych chi'n datblygu'r syniad. Felly mae cloc yn ffynhonnell... ond beth sy'n digwydd pan mae'r cloc yn anghywir? Mae rhai clociau'n rhedeg yn gyflym neu'n araf; rhai'n rhedeg allan o fatri; mae'n hawdd newid rhai clociau hyd yn oed. Beth ydych chi'n ei wneud os ydych chi'n meddwl nad yw'r cloc yn gywir? Efallai y byddwch chi'n ceisio dod o hyd i ail ffynhonnell i gefnogi neu wrthbrofi'r hyn mae'r cloc yn ei ddweud... ac ati.

I blant hyn, gallwch ddod o hyd i enghreifftiau o gynnwys ar-lein sy'n gamarweiniol neu'n niweidiol: mythau am frechlynnau, sgamiau gwneud arian, delweddau wedi'u haddasu o enwogion sy'n brolio'r "corff perffaith". Meddyliwch am y cliwiau sy'n ymddangos hyd yn oed cyn i chi glicio ar eich bysellfwrdd. Mae dysgu'r sgiliau meddwl beirniadol hynny yr un mor bwysig â'r sgiliau a ddefnyddir i wirio a yw rhywbeth yn wir neu'n anwir.

Hyfforddiant

Rydyn ni wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i greu modiwl hyfforddiant am gamwybodaeth ar gyfer ymarferwyr addysg. Nod yr hyfforddiant byr, ar-lein hwn yw rhannu gwybodaeth gydag ymarferwyr am sut fynd i’r afael â chamwybodaeth a helpu dysgwyr i wneud y canlynol yn effeithiol:

  • Deall beth yw camwybodaeth, yr holl ffurfiau gwahanol ar gamwybodaeth a'r niwed y gall ei achosi.
  • Dysgu'r sgiliau sylfaenol er mwyn gwirio ffynonellau gwybodaeth, a beth yw ystyr bod yn ddibynadwy ac annibynadwy.
  • Dysgu'r cwestiynau meddwl beirniadol allweddol y gallwch eu gofyn am unrhyw honiad er mwyn penderfynu a yw'n debygol o fod yn wir.
  • Dysgu'r broses a ddefnyddir gan y rhai sy'n gwirio ffeithiau i ddarganfod a yw rhywbeth yn wir ai peidio.

 

Joseph O'Leary, Rheolwr Hyfforddiant, Full Fact

Joe yw Rheolwr Hyfforddiant 'Full Fact' ac mae wedi bod yn gwirio gwleidyddiaeth a pholisïau'r DU ers dros ddegawd. Mae wedi rhoi hyfforddiant gwirio ffeithiau i weision sifil, ystadegwyr, newyddiadurwyr a busnesau, yn y DU ac yn rhyngwladol, yn ogystal â llunio cyrsiau achrededig mewn dadansoddi data ar gyfer y sector addysg bellach. Hefyd, mae Joe yn mwynhau addysgu sgiliau meddwl beirniadol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, ac yn rhoi sgyrsiau i fyfyrwyr newyddiaduraeth yn rheolaidd.