English

Mae llawer ohonom yn croesawu poblogrwydd cynyddol y cyfryngau cymdeithasol ac mae'n gyfle inni gadw mewn cysylltiad yn fwy nag erioed o'r blaen. Mae dros 100 miliwn o luniau'n cael eu rhannu ar Instagram bob dydd, ond o ystyried pa mor hawdd yw golygu lluniau, weithiau gallwn deimlo dan bwysau i greu'r argraff orau o'n bywydau ar-lein.

Peidiwch â gadael i'r hidlydd eich twyllo. Byddwch yn driw i chi'ch hun ar-lein.

  • Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn rhoi cyfle inni ymwneud â phobl a materion sy'n bwysig i ni, ond gall hefyd gael effaith negyddol ar ein hunan-barch, a hynny heb inni sylweddoli hynny weithiau. Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r manteision a'r risgiau i gadw eich byd ar-lein yn gadarnhaol.

    Buddion 

    • Dewis beth i'w rannu am eich bywyd.
    • Cadw mewn cysylltiad â hen ffrindiau a gwneud ffrindiau newydd.
    • Ymdeimlad o berthyn drwy gysylltu â chymunedau ac unigolion o'r un anian.
    • Dod o hyd i gymorth a chyngor defnyddiol.
    • Cefnogi a dylanwadu ar achosion rydych chi'n credu ynddynt.
    • Cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a newyddion diweddaraf y byd.

    Risgiau 

    • Teimlo'n unig, yn ynysig neu wedi'ch allgau.
    • Dan bwysau i fod yn boblogaidd a chael eich derbyn.
    • Syrthio i'r fagl o gymharu ein bywydau ag eraill.
    • Anodd cael y cydbwysedd cywir rhwng gweithgareddau ar-lein ac all-lein.
    • Ein gadael yn agored i sylwadau negyddol neu niweidiol.
    • Creu syniad ffug o realiti.
  • Mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi caniatáu i unigolion guradu a chyflwyno hunaniaeth ddigidol, a bu cynnydd aruthrol mewn 'dylanwadwyr'. Rydyn ni’n dilyn dylanwadwyr yn ogystal â’n ffrindiau ac enwogion. Mae dylanwadwyr yn ennill dilynwyr gan fod gennym ddiddordeb yn eu cynnwys. 

    Mae rhai dylanwadwyr yn defnyddio eu platfform i godi llais ac i dynnu sylw at faterion cymdeithasol pwysig ac mae rhai’n rhoi awgrymiadau am bob math o bethau o ymarfer corff i harddwch. Maen nhw’n gallu cyflwyno ffyrdd o fyw neu ddelweddau uchelgeisiol. Mae'n bwysig iawn cofio bod hwn yn gynnwys sydd wedi'i guradu'n fwriadol.

    Mae'n hawdd cymharu'ch bywyd â'r delweddau sydd wedi’u eu hadeiladu’n ofalus a welwn ar-lein a gall hyn wneud i ni deimlo dan bwysau i gyrraedd safonau penodol. Efallai y bydd hyd yn oed yn dechrau effeithio ar ein hunanhyder neu ein hunan-barch. Mae'n bwysig meddwl yn feirniadol am y cynnwys rydych chi'n edrych arno ac yna gofyn i chi'ch hun pam mae'r cynnwys wedi'i greu. Beth sydd y tu ôl i'r cynnwys? Ai ffordd o hyrwyddo neu hysbysebu ydyw? Ydy’r delweddau wedi'u golygu neu wedi’u cyflwyno mewn ffordd benodol? Pa mor realistig yw'r delweddau? Sut mae'n gwneud i mi deimlo? Beth mae'r cynnwys hwn yn ceisio dylanwadu arno?

    Darllenwch fwy yn erthygl Meic Cymru, ‘Ydy'r Hyn Ti'n Weld Ar Instagram Yn Wir?’ a’r adnodd 'Sut Mae Instagram Yn Twyllo Realiti'.

  • Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu cynnig cyfleoedd gwerthfawr i gadw mewn cysylltiad a darganfod meysydd o ddiddordeb sy’n gallu rhoi hwb i’n lles corfforol a meddyliol.

    Mae'n naturiol eich bod am rannu elfennau gorau’ch bywyd ar-lein gyda ffrindiau a pherthnasau. Ond weithiau, gallech fod yn gwylio cynnwys sy’n gwneud i chi deimlo'n annigonol, yn flin, yn bryderus neu dan straen. Gallai hyn gronni a chael effaith negyddol ar eich lles corfforol a meddyliol. 

    Mae poeni am eich pryd a gwedd, FOMO (ofn colli mas) ac ynysigrwydd cymdeithasol yn deimladau a brofwyd gan lawer o blant a phobl ifanc.

    “Mae bron i hanner (47%) pobl ifanc 8 i 17 oed yn orawyddus i 'ffitio i mewn' gyda'u cyfoedion ar-lein, tra bod 61% yn cytuno bod y rhyngrwyd yn rhoi pwysau ar bobl ifanc i roi argraff 'berffaith'." (Adroddiad 'Free to me' - Saesneg yn unig - gan UKSIC ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2020).

    Mae’r safonau afrealistig o ddiwylliant cyfryngau cymdeithasol yn gallu arwain at straen aruthrol. Gall y pwysau i wneud argraff ac ymddangos yn “berffaith” ar-lein fod yn brofiad dwys dros ben a golygu eu bod yn creu hunaniaeth sy’n bell iawn o realiti. 

    Os ydych chi'n teimlo eich bod yn cael eich llethu'n rheolaidd, yn orbryderus neu'n cael trafferth ymdopi, cofiwch fod cymorth ar gael. Ewch i'n tudalen gwasanaethau cymorth i gael gwybodaeth am sut i riportio problemau neu gael cymorth a chyngor cyfrinachol yn rhad ac am ddim.

  • Yn yr erthygl arbenigol hon, mae Stephanie Hoffman, Pennaeth Gweithredu Cymdeithasol ProMo-Cymru yn trafod effaith y cyfryngau cymdeithasol ar hunan-barch. Mae’n tynnu sylw at yr holl alwadau i linell gymorth Meic gan bobl ifanc, a sut y cawson nhw eu datrys.


Dyma rai cynghorion syml i’ch i gael profiad cadarnhaol o’r cyfryngau cymdeithasol:

Bod yn driw i chi’ch hun

Gall fod yn demtasiwn creu persona ffug neu argraff gamarweiniol o'ch bywyd ar-lein oherwydd eich canfyddiadau o fywydau pobl eraill. Fodd bynnag, mae'n bwysicach cael eich derbyn am yr hyn ydych chi yn hytrach na fersiwn ddelfrydol. Mae’n well creu presenoldeb cyfryngau cymdeithasol sy'n cyd-fynd â'ch hunaniaeth a'ch gwerthoedd eich hun.

Cadw persbectif

Cofiwch nad ydych bob amser yn gweld y darlun cyflawn wrth weld ffrydiau cyfryngau cymdeithasol pobl eraill, a chydnabod y ffaith nad yw bywyd neb yn berffaith. Mae pobl yn aml yn defnyddio offer hidlo a golygu i wella eu lluniau. Dyw faint o bobl sy'n 'hoffi' eich negeseuon, neu faint o ddilynwyr sydd gennych, ddim yn adlewyrchu eich gwerth fel person.

Cymryd rheolaeth

Peidiwch â gadael i eraill eich israddio. Meddyliwch am bwy rydych chi'n ei ddilyn. Ydyn nhw'n rhannu eich diddordebau a'ch gwerthoedd? Ewch ati i guddio neu rwystro negeseuon a defnyddwyr neu gynnwys sy'n gwneud i chi deimlo'n negyddol amdanoch eich hun. Mae'r rhan fwyaf o apiau cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys opsiynau i riportio neu rwystro cynnwys diangen.

Cael y cydbwysedd cywir

Ydych chi'n dechrau sgrolio heb sylweddoli hynny weithiau? Mae'n hawdd cael eich amsugno gan y cyfryngau cymdeithasol a gall hyn gael effaith negyddol ar eich lles. Gall bod yn ymwybodol o'ch arferion eich helpu i adnabod pryd mae angen i chi gymryd seibiant, er mwyn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol gyda phwrpas.

Bod yn gadarnhaol

Pwyllwch cyn postio - ydy hyn yn gwneud i mi deimlo'n dda amdanaf fy hun? Oes perygl i eraill ei gamddehongli'n hawdd? A fyddech chi’n mynegi'r un farn all-lein? Bydd meddwl amdanoch eich hun ac eraill yn sicrhau profiad cadarnhaol ac yn eich helpu i osgoi drama ddiangen.

Lawrlwythwch boster o’r cynghorion hyn isod.