English

Beth yw gwe-rwydo?

Gwe-rwydo (phishing) yw pan fydd ymosodwyr (seiber droseddwyr) yn targedu unigolion neu sefydliadau drwy e-bost, ffôn neu neges destun gan esgus bod yn ffynhonnell gyfreithlon ac yn ceisio denu unigolion i glicio ar ddolen annibynadwy neu i ddarparu data sensitif megis cyfrineiriau, manylion bancio neu wybodaeth sensitif arall.


Mathau o we-rwydo

Dyma'r mathau mwyaf cyffredin o ymosodiadau gwe-rwydo a ddefnyddir gan droseddwyr seibr.

  • Dyma pryd mae ymosodwr yn defnyddio parth ffug neu gyfeiriad e-bost sy'n dynwared sefydliad dilys. Mae'r e-bost yn aml yn cynnwys dolen i safle sy'n ymddangos yn ddilys.

  • Yn debyg i we-rwydo e-bost - mae'r ymosodwr yn anfon neges destun sy'n dynwared sefydliad.

  • Yn cynnwys sgwrs dros y ffôn lle mae'r ymosodwr yn ceisio argyhoeddi'r sawl sy'n derbyn yr alwad i ddarparu gwybodaeth bersonol neu sensitif.

  • Mae hwn yn sgam wedi'i dargedu sy'n cael ei gyfeirio at unigolion neu sefydliad penodol. Yn aml, y bwriad yw arwain y derbynnydd i wefan ffug neu gynnwys atodiadau a allai arwain at osod maleiswedd neu feddalwedd wystlo (ransomware) ar y cyfrifiadur neu'r rhwydwaith.


Cynghorion da i adnabod gwe-rwydo

Mae ymosodiadau gwe-rwydo wedi mynd yn fwyfwy soffistigedig ac nid yw'n amlwg bob amser a yw'r e-bost, galwad ffôn neu neges destun yn ddilys ai peidio. Mae gwasanaethau hidlo e-bost yn ceisio anfon e-byst gwe-rwydo i ffolderi sbam/sothach, fodd bynnag er mwyn sicrhau bod e-byst dilys yn cael eu derbyn nid yw'n bosib cael gwared ar bob ymdrech i we-rwydo bob amser. Er mwyn ein helpu i sylwi ar ymgais i we-rwydo dyma ambell awgrym da. 

  • Gwiriwch gyfeiriad e-bost unrhyw e-bost, yn aml gall fod arwyddion dadlennol nad yw'r e-bost yn ddilys. Yn aml bydd ymosodwyr yn cuddio'r parth gwirioneddol felly mae’n werth gwirio.

  • At bwy mae'r e-bost wedi'i anfon? Er enghraifft a yw'n cyfeirio at eich enw neu rywbeth generig megis 'cwsmer'?

  • Cadwch lygad am wallau sillafu neu ramadeg gwael a all wneud i chi amau dilysrwydd y neges.

  • Dylech osgoi agor unrhyw atodiadau amheus.

  • Yn aml bydd ymosodiadau potsian yn ceisio gofyn am weithredu ar unwaith - cymerwch yr amser i ddarllen unrhyw e-byst neu negeseuon yn drylwyr ac ystyried eu dilysrwydd cyn gweithredu.

Os ydych chi'n hyderus bod neges yn rhan o ymosodiad gwe-rwydo, yna anwybyddwch a'i ddileu. Os nad ydych yn siwr, ewch i wefan swyddogol y cwmni mae'r neges yn honni bod o a chysylltu â nhw'n uniongyrchol. Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni na defnyddio'r manylion cyswllt yn y neges nes eich bod wedi dilysu ei ddilysrwydd.


Deall gwe-rwydo

Bydd ein modiwl hyfforddiant ar we-rwydo yn eich helpu i ddeall beth yw gwe-rwydo a sut mae'n gweithio, sut gallwch chi adnabod e-byst gwe-rwydo, technegau gwe-rwydo amrywiol a beth allwch chi ei wneud i amddiffyn eich hun a'ch sefydliad.


Sut mae dilysu aml-ffactor yn helpu i frwydro yn erbyn gwe-rwydo

Mae dilysu aml-ffactor (MFA) yn darparu haen ychwanegol o amddiffyniad i gyfrifon defnyddwyr rhag troseddwyr seiber. Mae dilysu MFA neu ddau ffactor (2FA) yn golygu bod gofyn i ddefnyddiwr ddarparu gwybodaeth eilaidd er mwyn cael mynediad i gyfrif ar-lein.

Mae diogelwch ychwanegol MFA yn rhoi amddiffyniad gwell i gyfrifon defnyddwyr, yn enwedig rhag ymosodiadau gwe-rwydo. Gall troseddwyr seiber lansio ymosodiad gwe-rwydo i geisio dwyn cyfrinair neu fanylion mewngofnodi defnyddiwr a all roi mynediad i'w cyfrif iddynt. Trwy ddefnyddio MFA mae'n annhebygol y bydd gan droseddwr seiber fynediad at yr ail ffactor dilysu (e.e. eich ffôn clyfar) ac felly mae'r cyfrif yn cael ei ddiogelu rhag ymosodiad.

Gellir defnyddio nifer o ddulliau MFA gan gynnwys un cyfrinair unwaith yn unig (OTPs) a anfonir i ddyfais wahanol (e.e. ffôn clyfar), olion bysedd, neu ffactorau biometreg eraill. Mae rhwydweithiau diogel yn darparu ail ffactor dilysu hefyd wrth gael mynediad at gyfrifon ar-lein.

Oherwydd y data a allai fod yn sensitif y mae gan ddeiliaid cyfrifon nad ydynt yn ddysgwyr h.y. staff, llywodraethwyr ac unrhyw randdeiliaid eraill (ond nid dysgwyr) fynediad iddo drwy eu cyfrif Hwb, rhaid i MFA fod ar waith ar gyfer y defnyddwyr hyn.  Dysgwch sut i roi MFA ar waith i ddefnyddwyr yn eich ysgol neu sefydliad.


Sut i riportio gwe-rwydo 

Un o sefydliadau llywodraeth y DU yw'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) sydd â'r awdurdod i ymchwilio a chael gwared ar gyfeiriadau e-bost a gwefannau twyllodrus.

Drwy roi gwybod am ymdrechion gwe-rwydo, gallwch:

  • leihau faint o gyfathrebiadau sgâm a gewch chi
  • gwneud eich hun yn darged anoddach i sgamwyr
  • diogelu eraill rhag troseddau seiber ar-lein

Gallwch roi gwybod i'r NCSC am we-rwydo yn gyflym ac am ddim - report@phishing.gov.uk.


Gwybodaeth bellach