English

I bobl ifanc, mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi bod yno erioed; maen nhw'n rhan bwysig ohonyn nhw fel pobl ifanc ac yn llinell gyfathrebu hanfodol i'w ffrindiau a'u cyfoedion. Er ei bod hi'n hawdd meddwl mai'r ffordd orau o gadw'n ddiogel yn gorfforol ac yn feddyliol yw trwy ddiffodd eich dyfais, y realiti yw y byddai hyn hefyd yn diffodd llinellau cyfathrebu. Er bod y cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn gyfrifol am ostwng hunan-barch rhywun, mae'r elfennau cadarnhaol yn gorbwyso'r elfennau negyddol i lawer, a byddan nhw'n parhau i fentro i'r mannau hyn i gymdeithasu, i gael eu diddanu ac i atal eu hunain rhag bod yn unig ac yn ynysig. Nid diffodd yw'r ateb; yn hytrach, rhaid i chi wneud yn siwr bod gennych chi'r wybodaeth a'r adnoddau meddyliol fel na fydd eich hunan-barch a'ch hyder yn cael eu heffeithio'n negyddol.

Nid difyrrwch yn unig yw'r cyfryngau cymdeithasol mwyach, maen nhw'n rhan hanfodol o fywyd. Yn aml iawn, mae cymdeithasu ar-lein yn fwy naturiol bellach na chyfarfod a gwneud pethau go iawn. Er bod rhai pobl yn gweld yr ochr negyddol, mae llawer o bethau cadarnhaol yn y ffordd mae'n dod â phobl ynghyd ac yn caniatáu i bobl gymdeithasu mwy nag y bydden nhw wedi'i wneud fel arall. Profodd cyfnodau clo Covid-19 pa mor werthfawr oedd cymdeithasu ar-lein, gan mai dyma un o'r unig ffyrdd y gallai ffrindiau a theuluoedd gadw mewn cysylltiad yn 2020/21. Ond mae'r cyfryngau cymdeithasol hefyd yn rhoi llawer o bwysau ar bobl ifanc o ran y ffordd maen nhw'n edrych a phwysau i fyw bywyd penodol. Os nad ydych chi'n gallu bodloni'r disgwyliadau hynny, mae'n gallu effeithio'n negyddol ar eich hunan-barch.

Curadu'n ofalus

Mae llawer yn deall nad realiti yw'r cyfryngau cymdeithasol. Mae'n taflu llwch i'n llygaid drwy guddio bywyd go iawn, cyfres o uchafbwyntiau wedi'u curadu'n ofalus sy'n annog cenfigen a hunan-amheuaeth, gan guddio ansicrwydd a hunan-amheuaeth y postiwr gwreiddiol ar yr un pryd. Ond hyd yn oed gyda'r ddealltwriaeth resymegol nad realiti yw hwn, mae'n dal yn gallu cael effaith negyddol ar hunan-barch ac ar iechyd meddwl.

Yn ôl arolwg a gynhaliwyd gan Ganolfan Ymchwil Pew yn UDA, Teens Social Media Habits and Experiences (2018) (Saesneg yn unig), roedd 43% o bobl ifanc yn eu harddegau yn teimlo pwysau i bostio cynnwys a oedd yn gwneud iddyn nhw edrych yn dda i eraill, ac roedd 37% yn teimlo pwysau i bostio cynnwys y bydd llawer o bobl yn ei 'hoffi' ac yn gwneud sylwadau arno. Dywedodd 26% o'r ymatebwyr eu bod yn teimlo'n waeth am eu bywydau eu hunain oherwydd y cyfryngau cymdeithasol. Roedd bron i hanner yr ymatebwyr (49%) yn postio eu cyflawniadau ar y cyfryngau cymdeithasol, a dim ond 12% oedd yn postio am eu problemau personol. Ond, yn ôl y disgwyl, roedd elfennau cadarnhaol y cyfryngau cymdeithasol yn gorbwyso'r elfennau negyddol i bobl ifanc, gyda chanran uchel yn teimlo'n fwy cysylltiedig a'u bod yn cael mwy o gefnogaeth.

Chwilio am help

Mae llinell gymorth Meic, sy'n mynd i'r afael ag unrhyw faterion a gyflwynir gan blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru, wedi derbyn amryw o negeseuon gan bobl ifanc sy'n dangos cydberthynas rhwng hunan-barch a'r cyfryngau cymdeithasol. Yn sicr, mae pryderon bod pwysau gan y cyfryngau cymdeithasol yn dylanwadu ar sut mae pobl yn teimlo am eu cyrff ac ar eu hunan-barch, gyda negeseuon gan bobl ifanc sy'n poeni am eu pwysau a sut maen nhw'n edrych. Mae bwlio ar-lein drwy blatfformau cyfryngau cymdeithasol yn peri pryder hefyd, ac yn fater sy'n cael effaith negyddol ar hunan-barch.

Roedd un person ifanc â gysylltodd â Meic yn dioddef o broblemau hunan-barch ar ôl profi trolio ar blatfform cyfryngau cymdeithasol a ledaenodd wedyn i blatfform chwarae gemau. Er bod y person ifanc hwn yn teimlo'n bryderus am y trolio a oedd yn digwydd ar-lein, roedd yn amharod i adael y platfform hwnnw gan nad oedd eisiau colli allan ar bethau eraill. Cafodd ei annog i siarad â'i ffrindiau am sut roedd yn teimlo ac i feddwl am opsiynau eraill o chwarae gemau gyda'i gilydd.

Cysylltodd merch ifanc i ddweud bod edrych ar luniau ei ffrind ar y cyfryngau cymdeithasol yn gwneud iddi deimlo'n dew ac yn hyll a bod ganddi hunanhyder isel. Soniodd hefyd am roi'n gorau i fwyta fel y gallai golli pwysau a theimlo'n well amdani hi ei hun. Ar ôl siarad â'r cynghorydd, cydnabu'r pwysau roedd y cyfryngau cymdeithasol yn ei rhoi arni a phenderfynodd y byddai'n treulio llai o amser ar y platfformau hynny i helpu i leihau ei gorbryder. Cafodd ei hannog i ddod o hyd i bethau roedd hi'n mwynhau eu gwneud, a dywedodd ei bod hi'n mynd i gerdded ei chi yn fwy aml. Cafodd ei hannog hefyd i feddwl am ei nodweddion a rhinweddau da ei phersonoliaeth, a dywedodd ei bod hi'n dda am wneud i bobl chwerthin. Cafodd ei hannog i siarad â rhywun yn yr ysgol am ei phwysau, ac i siarad â rhiant am fwyta'n iachach.

Deall y gwir

Un o'r pethau pwysicaf o ran y cyfryngau cymdeithasol a hunan-barch yw deall nad realiti yw'r bywyd rydych chi'n ei weld ar y sgrin fach ar eich ffôn. Mae addysgu pobl ifanc i ddeall bod pobl yn golygu ac yn curadu eu bywydau ar-lein yn allweddol. O'u ffrind gorau i'r dylanwadwyr a'r enwogion maen nhw'n eu dilyn, mae'r rhan fwyaf o bobl bellach yn hidlo eu bywydau mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae llawer o ffyrdd o wneud hyn. Efallai eu bod nhw'n ychwanegu hidlydd i wneud i'w llygaid ddisgleirio neu i roi amrannau hir iddyn nhw. Efallai eu bod nhw'n defnyddio sgiliau golygu lluniau i wneud i’w cyhyrau edrych yn fwy neu i’w cluniau edrych yn llai.

Hyd yn oed os nad ydyn nhw'n golygu eu lluniau, mae eu bywydau fel arfer wedi'u curadu'n arbenigol - gan rannu'r amseroedd da a chuddio'r amseroedd gwael. Mae eu cyfryngau cymdeithasol yn troi'n gasgliad o gyflawniadau, profiadau a pherffeithrwydd. Dydy'r methiannau, y trafferthion a'r pethau cyffredin o ddydd i ddydd ddim yn ymddangos fel arfer.

Mae dysgu peidio â chymharu eich hun â safonau na ellir eu cyflawni yn anodd ar unrhyw oedran, ond pan rydych chi'n blentyn neu'n berson ifanc sy'n dysgu addasu mewn bywyd, mae'n gallu bod yn anoddach fyth peidio â gadael i'ch hunan-barch ddioddef o dan bwysau o'r fath i edrych yn dda a byw bywyd gwych.

Mae Meic wedi datblygu cynllun gwers ‘Sut mae Instagram yn Twyllo Realiti' ar Hwb y gellir ei ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth neu gan unrhyw un sy'n dymuno tynnu sylw pobl ifanc at wirioneddau'r cyfryngau cymdeithasol. Bydd yn eu helpu nhw i ddeall sut mae pobl yn golygu'r ffordd maen nhw'n edrych a'r pethau sy'n digwydd yn eu bywydau. Mae'r erthygl hon ar wefan Meic hefyd yn gofyn ’Ydy'r hyn ti'n weld ar Instagram yn Wir’.

Awgrymiadau i helpu gyda hunan-barch

  • Os yw cyfrif yn gwneud i chi deimlo'n wael amdanoch chi'ch hun, dylech chi roi'r gorau i ddilyn neu hoffi'r cyfrif hwnnw. Llenwch eich ffrwd gyda phobl a phethau sy'n gwneud i chi deimlo'n dda amdanoch chi'ch hun
  • Cymerwch hoe neu treuliwch lai o amser ar y cyfryngau cymdeithasol - does dim rhaid i chi ddiffodd eich dyfais yn gyfan gwbl, ond bydd cymryd hoe fach o gymharu eich hun â sut mae eraill yn edrych, yn gwisgo neu'n byw eu bywydau yn helpu
  • Gwnewch/meddyliwch am rywbeth arall - bydd gwneud pethau eraill yn tynnu'r meddwl oddi ar feddyliau negyddol. Darllenwch lyfr, ewch â'r ci am dro, cymdeithaswch gyda ffrindiau, gwyliwch y teledu gyda'ch teulu ac ati.
  • Treuliwch amser gyda phobl mewn bywyd go iawn - meddyliwch am y bobl sy'n gwneud i chi deimlo'n gadarnhaol a threuliwch amser gyda'r bobl hynny
  • Siaradwch â rhywun - ffrind, teulu, athro, cwnselydd, llinell gymorth ac ati. Dywedwch wrthyn nhw sut mae'r cyfryngau cymdeithasol yn gwneud i chi deimlo
  • Rhowch gynnig ar rywbeth newydd - mae gwneud pethau rydych chi'n eu mwynhau a rhoi cynnig ar weithgareddau newydd yn gallu bod yn brofiadau cadarnhaol iawn, ac maen nhw'n wych i fagu hyder a hunan-barch
  • Cadwch yn heini - mae ymarfer corff yn gallu cael effaith gadarnhaol ar les corfforol a meddyliol a bydd yn rhoi mwy o egni i chi, gan wneud i chi deimlo'n dda amdanoch chi'ch hun
  • Meddwl yn gadarnhaol - ysgrifennwch rai pethau cadarnhaol amdanoch chi'ch hun. Meddyliwch am y pethau rydych chi'n eu gwerthfawrogi am eich personoliaeth a'ch rhinweddau. Os ydych chi'n cael trafferth, meddyliwch sut y byddai eich ffrindiau neu'ch teulu yn eich disgrifio chi

Cyngor pellach

  • Edrychwch ar gyngor y GIG (Saesneg yn unig) ar godi hunan-barch isel.
  • Mae gan Young Minds (Seasneg yn unig) gyngor gwych i bobl ifanc sy'n cael trafferth gyda materion hunan-barch.
  • Mae erthygl Meic 'The Pressure of Social Media' (Saesneg yn unig) yn cynnwys awgrymiadau da ar gyfer hapusrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Os hoffech chi siarad â chynghorydd yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol, gallwch ffonio (080880 23456), anfon neges destun (84001) neu sgwrsio ar-lein.



 

Stephanie Hoffman, Pennaeth Gweithredu Cymdeithasol, ProMo-Cymru

Ers graddio o Brifysgol Abertawe, mae Steph wedi treulio'r deng mlynedd ar hugain diwethaf yn gweithio'n bennaf mewn rôl arweiniol yn y sector nid-er-elw yng Nghymru, ym meysydd anghenion tai, camddefnyddio sylweddau, salwch meddwl, cymorth perthynas, eiriolaeth ieuenctid a gwybodaeth.

Ers ymuno â ProMo-Cymru fel Pennaeth Gweithredu Cymdeithasol, mae hi wedi bod yn gyfrifol am arwain y gwaith o ddatblygu, dylunio a darparu amrywiaeth o wasanaethau llinell gymorth yn strategol gyda'r nod o ddarparu gwybodaeth, cyngor, cymorth a chymorth eiriolaeth.

Drwy ei rôl gyda Meic, mae hi wedi bod yn allweddol o ran sicrhau bod penderfynwyr a dylanwadwyr allweddol yn gwrando ar leisiau plant a phobl ifanc nas clywir yn aml i lywio datblygiad polisi; gan sicrhau gwelliant ym mhrofiadau plant a phobl ifanc o ddydd i ddydd.

Mae hi hefyd wedi bod yn allweddol o ran hyrwyddo platfformau ar-lein / digidol fel rhan hanfodol o unrhyw strategaeth atal, ymyrraeth gynnar a dargyfeiriol, yn nhirlun ehangach iechyd a gofal cymdeithasol a chymorth a gwybodaeth.

Mae Steph yn cael ei sbarduno gan werthoedd sy'n seiliedig ar gyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol, ac wedi ymrwymo iddyn nhw.