English

Mae llawer o bethau gwych am y cyfryngau cymdeithasol, apiau a gemau; i'r rhan fwyaf ohonon ni, fyddai bywyd ddim yr un peth hebddyn nhw. Ond weithiau mae pethau'n gallu mynd o chwith, a gallech chi deimlo eich bod mewn sefyllfa anniogel neu annymunol.  

Rydyn ni i gyd yn awyddus i wneud yn siwr bod ein profiad ar-lein yn gadarnhaol, felly nod yr ardal hon yw eich helpu i wneud synnwyr o rai o'r pethau efallai y bydd angen i chi ddelio â nhw. Mae'r tudalennau gwybodaeth hefyd yn cynnwys cyngor ar beth i'w wneud a ble i fynd am help os byddwch chi'n poeni am rywbeth sydd wedi digwydd ar-lein.  

Cofiwch fod hawliau gennych chi, a bod yr hawliau hyn yn berthnasol i'r byd digidol hefyd!