English
  • O Ebrill 2026, mae diweddariadau wedi’u gwneud i’r adran dylunio’r cynnig cwricwlwm 14 i 16 o’r
    Canllawiau Dysgu 14–16 fel rhan o’r adolygiad cyfredol o ganllawiau fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.

    Mae’r canllawiau sydd wedi’u diweddaru yn:

    • cyfeirio ysgolion at y cyfleoedd a gynigir drwy Academi Seren i gefnogi dysgwyr i fyfyrio, gwneud cynnydd a chynllunio ar gyfer y cyfnod ôl-16
    • adlewyrchu bod cymwysterauTystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd (TAAU), y Y Gyfres Sgiliau, y Project Personol a Chymwysterau Sylfaen ar gael (yn ogystal â TGAU) o 2027 ymlaen
    • adlewyrchu’r TGAU Gwyddoniaeth gwneud-i-Gymru diwygiedig, gan gynnwys disgwyliadau o ran ehangder  dysgu, mynediad, ac argaeledd parhaus y TGAU Gwyddoniaeth  ar wahân mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg
    • egluro disgwyliadau o ran hunanwerthuso a gwella, gan gynnwys cyfeirio at y Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid
    • cadarnhau trefniadau adrodd newydd mewn perthynas â Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16, gyda gwybodaeth bellach yn esbonio sut mae’n  cyd-fynd â threfniadau gwerthuso a gwella ehangach

    Nod y diweddariadau hyn yw cefnogi eglurder a chydlyniad i ysgolion wrth iddynt ddylunio ac adolygu eu cynnig cwricwlwm 14 i 16.

Adnoddau Cwricwlwm i Gymru

Dod o hyd i ystod o adnoddau a ddeunyddiau ategol.

Dechrau arni

Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Gweithredu’r Cwricwlwm

Bydd y Rhwydwaith Cenedlaethol yn cynnig cyfle i bob ymarferydd sydd â diddordeb gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu ar y cyd i fynd i'r afael â heriau a chyfleoedd cyffredin.

Rhagor o ganllawiau