English

Hwb

Cwricwlwm i Gymru: crynodeb o’r ddeddfwriaeth

Nod yr adran hon o ganllawiau fframwaith Cwricwlwm i Gymru yw helpu ysgolion a lleoliadau, yn ogystal ag eraill ym maes addysg sydd â diddordeb, i feithrin dealltwriaeth well o'r gyfraith mewn perthynas â’r Cwricwlwm i Gymru a'r hyn sy'n ofynnol ganddyn nhw.

Yn ogystal â nodi sail gyfreithiol y canllawiau, mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am ddyletswyddau cyfreithiol a chanllawiau statudol y mae'n rhaid i ysgolion neu leoliadau eu hystyried. Mae hefyd yn nodi diffiniadau i egluro ystyr y termau hyn.

Wrth gyflwyno'r wybodaeth hon, mae'r adran hon o'r canllawiau hefyd yn ymwneud â nifer o agweddau penodol ar y cwricwlwm a'r canllawiau asesu yn y fframwaith ac yn cysylltu â nhw.

Gwybodaeth

Sefydlodd Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (y Ddeddf) y Cwricwlwm i Gymru o dan y gyfraith, gan ddisodli'r cwricwlwm sylfaenol (sy'n cynnwys, er enghraifft, y cwricwla cenedlaethol a lleol a nodir yn Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002). Mae'r Ddeddf yn gwneud darpariaethau ynghylch cynnydd ac asesu mewn perthynas â'r cwricwlwm i ddysgwyr rhwng 3 a 16 oed. Mae hefyd yn cael effaith gyfyngedig ar y cwricwlwm i ddysgwyr dros oedran ysgol gorfodol mewn ysgolion a gynhelir. Serch hynny, nid yw'r Ddeddf yn effeithio ar lawer o'r hyn sy'n berthnasol iddyn nhw ar hyn o bryd, sy’n aros heb ei newid.

Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswyddau ar y canlynol:

  • cyrff llywodraethu a phenaethiaid ysgolion
  • pwyllgorau rheoli ac athrawon sy'n gyfrifol am unedau cyfeirio disgyblion
  • yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion
  • darparwyr meithrinfeydd a ariennir nas cynhelir (meithrinfeydd preifat a ariennir gan yr awdurdod lleol i gynnig lleoedd addysg)
  • awdurdodau lleol sy’n darparu dysgu ac addysgu i ddysgwyr heblaw mewn ysgol, lleoliad neu uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996
  • Gweinidogion Cymru

Mae'r gofynion gorfodol, neu'r dyletswyddau, a nodir yn y Ddeddf, y Codau a'r rheoliadau eraill y cyfeirir atyn nhw isod hefyd wedi'u nodi yn adrannau perthnasol y canllawiau fframwaith hyn, a thynnir sylw atyn nhw er mwyn sicrhau eglurder.

Os oes gofyniad ar ysgolion neu leoliadau i ystyried y canllawiau, esbonnir hyn hefyd yn yr adran berthnasol o'r canllawiau.

Cysyniadau ac elfennau gorfodol

Gwybodaeth

Mae'r Ddeddf yn nodi pedwar diben y cwricwlwm o dan y gyfraith. Mae hefyd yn nodi'r elfennau gorfodol canlynol sydd, ac eithrio Saesneg, yn rhychwantu continwwm dysgu 3 i 16 oed:

  • sgiliau trawsgwricwlaidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol
  • enwau'r meysydd dysgu a phrofiad (Meysydd)
  • addysg cydberthynas a rhywioldeb
  • crefydd, gwerthoedd a moeseg
  • Cymraeg
  • Saesneg – o 7 oed. Gall penaethiaid a darparwr addysg feithrin a ariennir nas cynhelir arfer eu disgresiwn wrth benderfynu a fyddan nhw’n cyflwyno Saesneg i ddysgwyr rhwng 3 a 7 oed, ac i ba raddau. Diben hyn yw hwyluso'r broses o drochi dysgwyr y blynyddoedd cynnar yn y Gymraeg. Felly, disgwylir y bydd ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog yn parhau i gynnwys Saesneg yn eu cwricwla

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi tri Chod y mae'n rhaid iddyn nhw fod yn sail i'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu ym mhob ysgol a lleoliad sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf.  Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu'r Codau yn barhaus a'u diweddaru yn ôl yr angen. Y Codau yw:

  • Cod datganiadau o'r hyn sy'n bwysig
  • y Cod cynnydd
  • y Cod addysg cydberthynas a rhywioldeb.

Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth mewn perthynas â threfniadau asesu. Bydd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid a darparwyr eraill wneud trefniadau asesu fel rhan o'r broses o gynllunio a datblygu eu cwricwlwm a'u rhoi ar waith, ac i adolygu a diwygio eu trefniadau asesu fel rhan o'u prosesau hunanfyfyrio a gwella'r cwricwlwm. Yn gysylltiedig â hyn, o dan adran 57 o'r Ddeddf, bydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo penaethiaid a darparwyr addysg eraill i gymryd camau penodol i hybu a chynnal dealltwriaeth o gynnydd.

Mae'r adran hon yn crynhoi'r gofynion ar gyfer ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir. Dylid hefyd ei darllen ar y cyd â'r adrannau sy'n ymwneud ag addysg cydberthynas a rhywioldeb; crefydd, gwerthoedd a moeseg; gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith, a gofynion ehangach.

Mae adran 79 o'r Ddeddf yn diffinio ystyr ysgolion o'r fath, sef:

  • ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru
  • ysgol arbennig gymunedol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru, ac eithrio ysgol arbennig gymunedol a sefydlwyd mewn ysbyty
  • ysgol feithrin a gynhelir nad yw'n ysgol arbennig

Cynllunio ac asesu

Gwybodaeth

Rhaid i'r pennaeth sicrhau y caiff cwricwlwm ei gynllunio ar gyfer dysgu ac addysgu i bob dysgwr wedi’i gofrestru rhwng 3 a 16 oed. Rhaid i'r cwricwlwm wneud y canlynol:

  • galluogi dysgwyr i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben
  • bod yn addas i ddysgwyr o wahanol oedrannau, galluoedd a doniau
  • bod yn eang ac yn gytbwys
  • darparu ar gyfer dysgu ac addysgu sy'n cwmpasu pob un o'r Meysydd, gan gynnwys yr elfennau gorfodol. Dim ond os yw'n cynnwys pob un o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig y bydd cwricwlwm yn gwneud hyn
  • gwneud darpariaeth i ddatblygu'r sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol
  • darparu ar gyfer dysgu ac addysgu sy'n cyd-fynd â'r Cod addysg cydberthynas a rhywioldeb ac sy'n briodol i ddatblygiad y dysgwyr
  • darparu addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg i ddysgwyr ym Mlwyddyn 1 ac uwch sy'n cyd-fynd â gofynion cynllunio'r cwricwlwm
  • darparu dewis i'r dysgwyr hynny sy'n symud o Flwyddyn 9 i Flwyddyn 10 o ddysgu ym mhob un o'r Meysydd yn unol â'r gofynion yn y canllawiau fframwaith hyn
  • darparu ar gyfer cynnydd priodol sy'n gyson â'r egwyddorion cynnydd a nodir yn y Cod Cynnydd ac sy'n ystyried y canllawiau fframwaith hyn. Rhaid i'r trefniadau asesu hyn fod yn seiliedig ar yr egwyddorion cynnydd hynny
  • gwneud trefniadau asesu parhaus i gefnogi cynnydd dysgwyr drwy gydol y flwyddyn ysgol
  • gwneud trefniadau ar gyfer asesu gallu a dawn dysgwyr mewn perthynas â'r cwricwlwm perthnasol, ar adeg eu derbyn i ysgol neu leoliad

Mabwysiadu'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu a'u rhoi ar waith

Gwybodaeth

Rhaid i'r pennaeth a'r corff llywodraethu fabwysiadu eu cwricwlwm a'u trefniadau asesu ar y cyd, a chyhoeddi crynodeb ohonyn nhw. Rhaid i'r pennaeth a'r corff llywodraethu fabwysiadu'r trefniadau ar gyfer asesu dysgwyr ar adeg eu derbyn i'r ysgol neu leoliad ar y cyd. Argymhellir y dylai cytundeb rhwng y pennaeth a'r corff llywodraethu fod yn rhan o gyfarfod o'r corff llywodraethu ac, felly, gael ei gofnodi yng nghofnodion y cyfarfod hwnnw.

O ran cynnwys crynodebau o'r cwricwlwm sy’n cael eu cyhoeddi, mae'n bosibl y caiff canllawiau manylach eu cyhoeddi maes o law. Am y tro, argymhellwn y dylai crynodebau o'r fath gynnwys:

• gwybodaeth am y ffordd y mae ymarferwyr, dysgwyr, rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach wedi cael eu cynnwys wrth ddatblygu'r cwricwlwm
• sut mae'r cwricwlwm yn bodloni'r elfennau gofynnol a nodir yn y fframwaith cenedlaethol hwn, gan ddechrau gyda'r pedwar diben
• gwybodaeth am sut mae'r ysgol yn ymdrin â chynnydd dysgwyr a'i threfniadau ar gyfer asesu
• sut y bydd y cwricwlwm yn cael ei adolygu'n barhaus, gan gynnwys y broses ar gyfer casglu adborth a diwygio'r cwricwlwm yn barhaus

Gwybodaeth

Rhaid i ysgolion sicrhau bod y cwricwlwm sy’n cael ei fabwysiadu yn cael ei roi ar waith mewn ffordd sy'n:

  • galluogi pob dysgwr i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben
  • sicrhau dysgu ac addysgu sy'n cynnig cyfleoedd priodol i bob dysgwr wneud cynnydd ac sy'n seiliedig ar yr egwyddorion cynnydd ym mhob Maes
  • addas ar gyfer oedran, gallu a dawn pob dysgwr
  • ystyried anghenion dysgu ychwanegol pob dysgwr (os oes rhai)
  • sicrhau dysgu ac addysgu eang a chytbwys i bob dysgwr

I bob dysgwr yn y flwyddyn dderbyn i Flwyddyn 9 (yn gynwysedig), rhaid i'r cwricwlwm gael ei roi ar waith mewn ffordd sy'n sicrhau dysgu ac addysgu sydd:

  • yn cwmpasu'r chwe Maes a'r holl elfennau gorfodol
  • o ran addysg cydberthynas a rhywioldeb, yn addas ar gyfer cam datblygu'r dysgwr
  • o ran addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg, ac eithrio mewn perthynas â dysgwyr yn y flwyddyn dderbyn (y dysgwyr hynny dan oedran ysgol gorfodol, y rhai rhwng 3 a 5 oed fel arfer), yn cyd-fynd â gofynion cynllunio'r cwricwlwm. Dylid parhau i ddarparu addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg blwraliaethol i ddysgwyr rhwng 3 a 5 oed
  • yn datblygu’r sgiliau trawsgwricwlaidd

O ran dysgwyr ym Mlynyddoedd 10 ac 11, rhaid i'r cwricwlwm gael ei roi ar waith mewn ffordd sy'n sicrhau dysgu ac addysgu sydd:

  • yn sicrhau dysgu ac addysgu ym mhob un o'r Meysydd. Nid oes angen cynnwys popeth yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer pob un o'r Meysydd, ond mae angen i bob un o'r Meysydd fod yn rhan o'r cwricwlwm. Dyma'r unig wahaniaeth ar gyfer y garfan hon
  • o ran addysg cydberthynas a rhywioldeb, yn addas ar gyfer cam datblygu'r dysgwr
  • o ran addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg, yn cyd-fynd â gofynion cynllunio'r cwricwlwm
  • datblygu’r sgiliau trawsgwricwlaidd

Rhaid i'r corff llywodraethu a'r pennaeth sicrhau y caiff y cwricwlwm sy’n cael ei fabwysiadu ei roi ar waith yn unol â'r gofynion uchod.

Adolygu a diwygio

Gwybodaeth

Rhaid i'r pennaeth a'r corff llywodraethu adolygu'r cwricwlwm sy’n cael ei fabwysiadu yn barhaus, a'i ddiwygio os na fydd yn bodloni'r gofynion cynllunio (a nodir uchod) mwyach. Gallan nhw ei ddiwygio ar unrhyw adeg ond, os byddan nhw’n gwneud hynny, rhaid iddyn nhw gyhoeddi crynodeb diwygiedig.

Rhaid i'r pennaeth a'r corff llywodraethu hefyd adolygu'n barhaus y trefniadau asesu ar gyfer y cwricwlwm sy’n cael ei fabwysiadu, gan gynnwys y trefniadau ar gyfer asesu dysgwyr ar adeg eu derbyn. Rhaid iddyn nhw eu hadolygu fel rhan o'u hadolygiad o'r cwricwlwm sy’n cael ei fabwysiadu a'u diwygio os caiff y cwricwlwm sy’n cael ei fabwysiadu ei ddiwygio neu os na fyddan nhw’n bodloni'r gofynion asesu mwyach.

Dewis dysgwyr a'i ddatgymhwyso

Mae'r Ddeddf yn rhoi pwerau i benaethiaid a chyrff llywodraethu ddatgymhwyso dewis dysgwyr mewn rhai amgylchiadau.

Mae'n ofynnol i benaethiaid roi'r cwricwlwm sy’n cael ei fabwysiadu ar waith mewn ffordd sy'n galluogi dysgwyr i arfer eu dewisiadau ar gyfer Blynyddoedd 10 a 11. Fodd bynnag, gallan nhw benderfynu peidio â chymhwyso'r dysgu a'r addysgu a ddewiswyd gan ddysgwr. Mae'r Ddeddf yn pennu'r seiliau lle y gall hyn fod yn gymwys yn achos penderfyniadau a wnaed cyn i ddysgwr ddechrau ym Mlwyddyn 10, a phenderfyniadau a wnaed ar ôl i ddysgwr ddechrau ym Mlwyddyn 10. Bydd hyn yn disodli'r cwricwlwm lleol yn Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002 (a gyflwynwyd gan Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009). Felly, ni fydd y gofyniad lleol yn y cwricwlwm lleol i awdurdodau lleol gynnig o leiaf 25 o gyrsiau ar lefel 2 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol, y dylai o leiaf dri ohonyn nhw fod yn gyrsiau galwedigaethol, yn gymwys i'r garfan hon mwyach.

O ran dysgwyr nad ydyn nhw wedi dechrau ym Mlwyddyn 10 eto, gellir penderfynu datgymhwyso dewis dysgwr yn yr amgylchiadau canlynol:

  • nid yw'r dysgu na'r addysgu yn addas i'r dysgwr oherwydd lefel ei gyrhaeddiad addysgol
  • nid yw'n rhesymol ymarferol sicrhau dysgu ac addysgu ar gyfer y dysgwr oherwydd ei ddewisiadau dysgu eraill
  • byddai'r amser y byddai'r dysgwr yn ei dreulio'n teithio i'r man lle y byddai'r addysgu'n debygol o ddigwydd yn cael effaith andwyol ar addysg y dysgwr
  • byddai sicrhau'r dysgu a'r addysgu ar gyfer y dysgwr yn arwain at wariant anghymesur
  • byddai sicrhau'r dysgu a'r addysgu ar gyfer y dysgwr yn peri risg annerbyniol i iechyd a diogelwch y dysgwr neu berson arall

O ran dysgwyr sydd wedi dechrau ym Mlwyddyn 10, mae'r seiliau a nodir isod yn fwy cyfyngedig. Y rheswm dros hyn yw y bydd yr effaith ar y dysgwr yn fwy pan fydd eisoes wedi dechrau ar y llwybr dysgu ac addysgu a ddewiswyd ganddo. Mewn amgylchiadau o'r fath, dim ond yn yr achosion canlynol y gellir penderfynu datgymhwyso dewis dysgwr:

  • byddai parhau i sicrhau'r dysgu a'r addysgu ar gyfer y dysgwr yn arwain at wariant anghymesur
  • byddai parhau i sicrhau'r dysgu a'r addysgu ar gyfer y dysgwr yn peri risg annerbyniol i iechyd a diogelwch y dysgwr neu berson arall

Os penderfynir datgymhwyso dewis dysgwr, rhaid i'r pennaeth sicrhau dysgu ac addysgu o hyd ar gyfer y dysgwr ym mhob un o'r meysydd yn ogystal â'r elfennau gorfodol. Fodd bynnag, ni fydd angen cynnig dewis arall i'r dysgwr o ran ei ddysgu a'i addysgu.

Gwybodaeth

Os penderfynir datgymhwyso dewis y dysgwr, yna rhaid i'r pennaeth roi gwybodaeth benodol i'r dysgwr a'i riant neu ofalwr (gweler adran 32 o'r Ddeddf). Mae adran 33 yn galluogi dysgwr, rhiant neu ofalwr i'w gwneud yn ofynnol i'r pennaeth adolygu'r penderfyniad hwnnw. Os bydd yn ofynnol i'r pennaeth wneud hynny, rhaid iddo naill ai gadarnhau, amrywio neu dynnu'r penderfyniad yn ôl, a hysbysu'r dysgwr a'i riant neu ofalwr am ganlyniad yr adolygiad hwnnw. Os bydd dysgwr, rhiant neu ofalwr yn anfodlon ar ganlyniad yr adolygiad, gall apelio i gorff llywodraethu'r ysgol. Os cyflwynir apêl, rhaid i'r corff llywodraethu naill ai gadarnhau, amrywio neu dynnu penderfyniad y pennaeth yn ôl, a hysbysu'r dysgwr a'i riant neu ofalwr am ganlyniad yr apêl.

Nid oes unrhyw ddyletswydd i roi gwybodaeth i'r dysgwr am ganlyniad adolygiad nac apêl os bydd y pennaeth o'r farn nad oes ganddo'r gallu i ddeall y wybodaeth a fyddai'n cael ei rhoi, neu (yn achos canlyniad adolygiad) yr hyn y byddai'n ei olygu i arfer yr hawl i apelio.

Eithriadau

Mae'r rhain yn faterion y dylai ysgolion eu hystyried wrth roi eu cwricwlwm ar waith o ddydd i ddydd.

O ran dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Mae adran 41 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso eithriadau at ofynion y cwricwlwm i ddysgwyr ag ADY. Gall awdurdodau lleol ddatgymhwyso neu addasu'r gofynion o ran rhoi'r cwricwlwm ar waith ar gyfer y dysgwyr hynny sydd â chynlluniau datblygu unigol o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 neu sydd ag anghenion addysgol arbenig o dan y Ddeddf Plant a Theuluoedd yn achos plant sy'n byw yn Lloegr. Dylid amlinellu'r broses o ddatgymhwyso neu addasu'r cwricwlwm yng nghynllun datblygu unigol y dysgwr, neu yn achos dysgwyr sy'n byw yn Lloegr ac yn cael eu haddysgu yng Nghymru, yn eu cynlluniau addysg, iechyd a gofal.

Eithriadau dros dro

Ceir pŵer ar wahân ac ychwanegol yn adran 42 o'r Ddeddf i benaethiaid wneud eithriadau dros dro i'r broses o roi'r cwricwlwm ar waith ar gyfer dysgwyr unigol. Bydd y rheoliadau yn galluogi penaethiaid i roi eithriadau dros dro ar waith mewn perthynas â gofynion y cwricwlwm, a nodi'r amgylchiadau lle y gellid eu cymhwyso (ni fydd yr amgylchiadau hynny'n cynnwys anghenion dysgu ychwanegol y dysgwr). Er enghraifft, pe bai dysgwr wedi bod yn sâl am gryn amser, ni fyddai'n ymarferol nac yn deg disgwyl iddo ymdopi â dysgu ac addysgu'r cwricwlwm llawn yn union ar ôl iddo ddychwelyd i'r ysgol. Bydd penaethiaid yn gallu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth i ddatgymhwyso'r cwricwlwm cyfan neu ran ohono i ddysgwyr mewn amgylchiadau eithriadol am gyfnod penodol o amser.

Gwaith datblygu ac arbrofion

Gall Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i ysgolion (o dan adran 38 o'r Ddeddf) i'w galluogi i gymryd rhan mewn gwaith datblygu neu arbrofion. Gall cyfarwyddyd o'r fath addasu neu ddatgymhwyso dyletswyddau i roi'r cwricwlwm ar waith am gyfnod penodol a bennir yn y cyfarwyddyd, fel y gellir gwneud y gwaith datblygu neu'r arbrawf. Felly, gellid defnyddio cyfarwyddyd i alluogi ysgolion i gymryd rhan mewn rhaglen beilot ar gyfer newidiadau arfaethedig i'r cwricwlwm. Ceir amodau penodol y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o'r fath, sy'n sicrhau bod y dysgwyr y mae'r cyfarwyddyd yn effeithio arnynt yn parhau i gael budd o gwricwlwm addas.

Darparu trefniadau amgen

Er gwybodaeth, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud rheoliadau mewn perthynas â darparu ar gyfer dysgwyr sydd wedi'u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad a'r rhai a gedwir mewn cartrefi diogel. Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu gwneud rheoliadau o'r fath, cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion.

Dyletswyddau ychwanegol

Gwybodaeth

Mae'r Ddeddf yn cynnwys dyletswyddau pellach i'r rhai a nodir yn y cyflwyniad uchod wrth arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, megis cynllunio, mabwysiadu neu roi cwricwlwm ar waith. Rhaid iddyn nhw wneud y canlynol:

  • ystyried iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr y mae arfer y swyddogaeth yn debygol o effeithio arnyn nhw (adran 63). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ystyried effaith unrhyw swyddogaeth ar iechyd meddwl a lles emosiynol y dysgwyr. Mae hyn yn cynnwys sut y caiff y dysgu ei gyflwyno, ei strwythuro a'i drefnu, ynghyd â'i le yng nghyd-destun ehangach yr ysgol, a fydd yn effeithio ar les y dysgwyr
  • hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau i'r rhai sy'n darparu cyfleoedd dysgu ac addysgu (adran 64)
  • cydweithio ag ysgolion, lleoliadau, unedau cyfeirio disgyblion, awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach os bydd gwneud hynny yn eu helpu i arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf (adran 65)
  • ystyried cais i gydweithio os daw cais o'r fath i law (erys y pwerau cydweithio a bennir ym Mesur Addysg (Cymru) 2011 mewn grym) (adran 65)
  • ystyried unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf (adran 71)

Addysg ôl-orfodol

Rhaid i benaethiaid, cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol sicrhau bod cwricwla ysgolion a gynhelir ar gyfer addysg ôl-orfodol yn:

  • eang ac yn gytbwys
  • hybu datblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol dysgwyr a chymdeithas
  • paratoi dysgwyr ar gyfer cyfleoedd, cyfrifoldebau a phrofiadau yn ddiweddarach yn eu bywyd

Rhaid i bennaeth sicrhau bod darpariaeth addysg cydberthynas a rhywioldeb ar gael i'r dysgwyr hynny mewn addysg ôl-orfodol sy'n gofyn amdani. Wrth gyflawni ei swyddogaethau, rhaid i gorff llywodraethu sicrhau y caiff y ddarpariaeth hon ei darparu ar gais.

Yn yr un modd, rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu sicrhau bod darpariaeth crefydd, gwerthoedd a moeseg ar gael i'r dysgwyr hynny mewn addysg ôl-orfodol sy'n gofyn amdani. Rhaid i ddarpariaeth crefydd, gwerthoedd a moeseg o'r fath adlewyrchu'r ffaith mai traddodiadau Cristnogol yw'r traddodiadau crefyddol yng Nghymru yn bennaf, gan ystyried ar yr un pryd y prif grefyddau eraill (heblaw am Gristnogaeth) yng Nghymru. Rhaid i'r dysgu a'r addysgu hefyd adlewyrchu'r ffaith bod gan bobl yng Nghymru amrywiaeth o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol (megis anffyddiaeth).

Nid yw'r darpariaethau crefydd, gwerthoedd a moeseg yn atal ysgol rhag ei gwneud yn ofynnol i bob dysgwr yn ei chweched dosbarth fynychu dosbarthiadau crefydd, gwerthoedd a moeseg. Nid yw ychwaith yn atal ysgol sy'n gwneud hyn rhag darparu addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg orfodol i'w dysgwyr chweched dosbarth sy'n cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol, neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad crefyddol;  mater i'r ysgol yw pennu cynnwys darpariaeth o'r fath o hyd.

Daw'r gofynion hyn i rym o fis Medi 2027.

Lle y bo'n berthnasol, mae'n ofynnol i ysgolion a gynhelir hefyd ystyried gofynion cwricwla lleol sy'n bodoli eisoes mewn perthynas â dysgwyr rhwng 16 a 18 oed a nodir yn adrannau 33A i 33O o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (nid yw'r Ddeddf yn newid y gofynion hyn).

Mae'r adran hon yn crynhoi'r gofynion ar gyfer lleoliadau. Dylid hefyd ei darllen ar y cyd â'r adrannau sy'n ymwneud ag addysg cydberthynas a rhywioldeb; crefydd, gwerthoedd a moeseg; gyrfaoedd a phrofiadau â byd gwaith, a gofynion ehangach.

Mae adran 80 o'r Ddeddf yn diffinio ystyr lleoliadau o'r fath.

Datblygiu ac asesu

Nid oes unrhyw ddyletswydd ar leoliadau i gynllunio cwricwlwm. Yn lle hynny, mae'r Ddeddf (adran 13) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cwricwlwm sy'n addas i'w ddefnyddio mewn lleoliadau. Rhaid i'r cwricwlwm hwnnw gydymffurfio â gofynion Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys yr elfennau gorfodol. Mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu'r cwricwlwm hwn yn barhaus a'i ddiwygio yn ôl yr angen. Mae'r cwricwlwm hwn wedi'i gyhoeddi ar Hwb.

Er y gall fod yn fuddiol iddyn nhw wneud hynny, nid yw'n ofynnol i leoliadau ddefnyddio'r cwricwlwm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru; gallan nhw ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain.

Gwybodaeth

Fodd bynnag, os bydd lleoliad yn penderfynu datblygu ei gwricwlwm ei hun, rhaid iddo sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r cysyniadau a'r gofynion gorfodol a nodir yn y Ddeddf.

Mae dyletswydd ar leoliadau i wneud trefniadau asesu i gefnogi cynnydd dysgwyr yn y cwricwlwm sy’n cael ei fabwysiadu ganddyn nhw, ac i roi'r trefniadau hynny ar waith. Er mwyn cyflawni'r ddyletswydd hon, gall lleoliadau ddewis mabwysiadu'r trefniadau asesu y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cyhoeddi cyn mis Medi 2022.

Mabwysiadu'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu a'u rhoi ar waith

Gwybodaeth

Rhaid i leoliadau fabwysiadu cwricwlwm sy'n cydymffurfio â'r cysyniadau a'r gofynion gorfodol, a chyhoeddi crynodeb ohono. Efallai mai'r cwricwlwm a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru fydd y cwricwlwm hwn, ond fel y nodwyd uchod, nid yw hynny'n ofynnol.

O ran cynnwys crynodebau cyhoeddedig o'r cwricwlwm, mae'n bosibl y caiff canllawiau manylach eu cyhoeddi maes o law. Am y tro, argymhellwn y dylai crynodebau o'r fath gynnwys:

• sut mae'r cwricwlwm yn bodloni'r elfennau gofynnol a nodir yn y fframwaith cenedlaethol hwn, gan ddechrau gyda'r pedwar diben
• gwybodaeth am sut mae'r lleoliad yn ymdrin â chynnydd dysgwyr a'i drefniadau ar gyfer asesu
• sut y bydd y cwricwlwm yn cael ei adolygu'n barhaus, gan gynnwys y broses ar gyfer casglu adborth gan rieni a diwygio'r cwricwlwm yn barhaus

Nid oes unrhyw ofynion penodol o ran y ffordd y mae lleoliadau yn mabwysiadu eu cwricwlwm, ond dylen nhw allu dangos sut maen nhw wedi gwneud hyn.

Gwybodaeth

Rhaid i awdurdodau lleol hefyd sicrhau bod lleoliadau yn eu hardal yn rhoi eu cwricwla ar waith mewn ffordd sy'n:

  • galluogi pob dysgwr i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben
  • sicrhau dysgu ac addysgu sy'n cynnig cyfleoedd priodol i bob dysgwr wneud cynnydd ac sy'n seiliedig ar yr egwyddorion cynnydd ym mhob Maes
  • addas ar gyfer oedran, gallu a dawn pob dysgwr
  • ystyried anghenion dysgu ychwanegol pob dysgwr (os oes rhai)
  • sicrhau dysgu ac addysgu eang a chytbwys i bob dysgwr

Rhaid i'r cwricwlwm sy’n cael ei fabwysiadu gael ei roi ar waith mewn ffordd sy'n sicrhau dysgu ac addysgu ar gyfer pob dysgwr sydd:

  • yn cwmpasu'r chwe Maes a'r holl elfennau gorfodol
  • o ran addysg cydberthynas a rhywioldeb, yn addas ar gyfer cam datblygu'r dysgwr
  • yn darparu addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg blwraliaethol i ddysgwyr dan oedran ysgol gorfodol (dysgwyr rhwng 3 a 5 oed fel arfer)
  • datblygu’r sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol

Adolygu a diwygio

Gwybodaeth

Rhaid i leoliad adolygu ei gwricwlwm yn barhaus a'i ddiwygio os na fydd yn bodloni'r cysyniadau a'r gofynion cynllunio a nodir uchod mwyach. Gall lleoliad ddiweddaru'r cwricwlwm ar unrhyw adeg, ond os bydd yn gwneud hynny, rhaid iddo hefyd gyhoeddi crynodeb diwygiedig.

Rhaid i leoliad adolygu ei drefniadau asesu'n barhaus a'u diwygio os na fyddan nhw’n cydymffurfio â'r gofynion asesu mwyach neu os bydd diwygiadau i'r cwricwlwm a fabwysiadwyd, p'un ai'r cwricwlwm a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru yw'r cwricwlwm hwnnw, neu gwricwlwm a ddatblygwyd gan y lleoliad ei hun.

Eithriadau

Mae'r rhain yn faterion y dylai lleoliadau eu hystyried wrth roi eu cwricwlwm ar waith o ddydd i ddydd.

O ran dysgwyr ag ADY

Mae adran 41 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso eithriadau at ofynion y cwricwlwm i ddysgwyr ag ADY. Gall awdurdodau lleol ddatgymhwyso neu addasu'r gofynion o ran rhoi'r cwricwlwm ar waith, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, ar gyfer y dysgwyr hynny sydd â chynlluniau datblygu unigol o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 neu sydd ag anghenion addysgol arbennig o dan y Ddeddf Plant a Theuluoedd yn achos plant sy'n byw yn Lloegr. Dylid amlinellu'r broses o ddatgymhwyso neu addasu'r cwricwlwm yng nghynllun datblygu unigol y dysgwr, neu yn achos dysgwyr sy'n byw yn Lloegr ac yn cael eu haddysgu yng Nghymru, yn eu cynlluniau addysg, iechyd a gofal.

Eithriadau dros dro

Ceir pŵer ar wahân ac ychwanegol yn adran 42 o'r Ddeddf i benaethiaid wneud eithriadau dros dro i'r broses o roi'r cwricwlwm ar waith ar gyfer dysgwyr unigol. Bydd y rheoliadau yn galluogi penaethiaid i roi eithriadau dros dro ar waith mewn perthynas â gofynion y cwricwlwm, a nodi'r amgylchiadau lle y gellid eu cymhwyso (ni fydd yr amgylchiadau hynny'n cynnwys anghenion dysgu ychwanegol y dysgwr). Er enghraifft, pe bai dysgwr wedi bod yn sâl am gryn amser, ni fyddai'n ymarferol nac yn deg disgwyl iddo ymdopi â dysgu ac addysgu'r cwricwlwm llawn yn union ar ôl iddo ddychwelyd i'r ysgol. Bydd penaethiaid yn gallu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth i ddatgymhwyso'r cwricwlwm cyfan neu ran ohono i ddysgwyr mewn amgylchiadau eithriadol am gyfnod penodol o amser.

Gwaith datblygu ac arbrofion

Gall Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i leoliadau (o dan adran 38 o'r Ddeddf) i'w galluogi i gymryd rhan mewn gwaith datblygu neu arbrofion. Gall cyfarwyddyd o'r fath addasu neu ddatgymhwyso dyletswyddau i roi'r cwricwlwm ar waith am gyfnod penodol a bennir yn y cyfarwyddyd, fel y gellir gwneud y gwaith datblygu neu'r arbrawf. Felly, gellid defnyddio cyfarwyddyd i alluogi lleoliadau i gymryd rhan mewn rhaglen beilot ar gyfer newidiadau arfaethedig i'r cwricwlwm. Ceir amodau penodol y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o'r fath, sy'n sicrhau bod y dysgwyr y mae'r cyfarwyddyd yn effeithio arnynt yn parhau i gael budd o gwricwlwm addas.

Dyletswyddau ychwanegol

Gwybodaeth

Mae'r Ddeddf yn cynnwys dyletswyddau pellach i'r rhai a nodir yn y cyflwyniad uchod wrth arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, megis cynllunio, mabwysiadu neu roi cwricwlwm ar waith. Rhaid iddyn nhw wneud y canlynol:

  • ystyried iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr y mae arfer y swyddogaeth yn debygol o effeithio arnyn nhw (adran 63). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ystyried effaith unrhyw swyddogaeth ar iechyd meddwl a lles emosiynol y dysgwyr. Mae hyn yn cynnwys sut y caiff y dysgu ei gyflwyno, ei strwythuro a'i drefnu, ynghyd â'i le yng nghyd-destun ehangach yr ysgol, a fydd yn effeithio ar les y dysgwyr
  • hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau i'r rhai sy'n darparu cyfleoedd dysgu ac addysgu (adran 64)
  • cydweithio ag ysgolion, lleoliadau, unedau cyfeirio disgyblion, awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach os bydd gwneud hynny yn eu helpu i arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf (adran 65)
  • ystyried cais i gydweithio os daw cais o'r fath i law (erys y pwerau cydweithio a bennir ym Mesur Addysg (Cymru) 2011 mewn grym) (adran 65)
  • ystyried unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf (adran 71)

Mae'r adran hon yn crynhoi'r gofynion ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion. Dylid hefyd ei darllen ar y cyd â'r adrannau isod sy'n ymwneud ag addysg cydberthynas a rhywioldeb; crefydd, gwerthoedd a moeseg; gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith, a gofynion ehangach.

Mae adran 81 o'r Ddeddf yn diffinio ystyr unedau cyfeirio disgyblion.

Cynllunio ac asesu

Gwybodaeth

Rhaid i awdurdod lleol sicrhau cwricwlwm ar gyfer unrhyw ddysgwr y mae'n gwneud trefniadau addysg ar ei gyfer o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996. Rhaid i unedau cyfeirio disgyblion (ac awdurdodau lleol) hefyd sicrhau bod ganddyn nhw gwricwlwm sy'n cydymffurfio â'r Ddeddf.

Mae'n rhaid i gwricwlwm wneud y canlynol:

  • galluogi dysgwyr i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben
  • darparu ar gyfer cynnydd priodol ar gyfer dysgwyr
  • bod yn addas i ddysgwyr o wahanol oedrannau, galluoedd a doniau
  • bod yn eang ac yn gytbwys, cyn belled ag y bo'n briodol i ddysgwyr

Rhaid i gwricwlwm wneud darpariaeth ar gyfer dysgu ac addysgu sy’n:

Rhaid i gwricwlwm hefyd wneud darpariaeth, lle y bo'n rhesymol bosibl ac yn briodol, ar gyfer dysgu ac addysgu yn:

  • y Meysydd eraill
  • yr elfennau gorfodol eraill

O ran cynnwys crynodebau cyhoeddedig o'r cwricwlwm, mae'n bosibl y caiff canllawiau manylach eu cyhoeddi maes o law. Am y tro, argymhellwn y dylai crynodebau o'r fath gynnwys:

• sut mae'r cwricwlwm yn bodloni'r elfennau gofynnol a nodir yn y fframwaith cenedlaethol hwn, gan ddechrau gyda'r pedwar diben
• gwybodaeth am sut mae'r uned cyfeirio disgyblion yn ymdrin â chynnydd dysgwyr a'i threfniadau ar gyfer asesu
• sut y bydd y cwricwlwm yn cael ei adolygu'n barhaus, gan gynnwys y broses ar gyfer casglu adborth gan rieni a diwygio'r cwricwlwm yn barhaus

Asesu mewn unedau cyfeirio disgyblion

Gwybodaeth

Mae'n ofynnol i'r awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli a'r athro sy'n gyfrifol am yr uned cyfeirio disgyblion wneud trefniadau asesu parhaus i gefnogi cynnydd dysgwyr drwy'r flwyddyn ysgol, a'u rhoi ar waith, ac i wneud trefniadau ar gyfer asesu gallu a dawn dysgwyr mewn perthynas â'r cwricwlwm ar adeg cyrraedd y lleoliad.

Mabwysiadu'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu a'u rhoi ar waith

Gwybodaeth

Rhaid i unedau cyfeirio disgyblion sicrhau bod eu cwricwlwm yn cael ei roi ar waith mewn ffordd sy'n:

  • galluogi'r dysgwr i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben
  • sicrhau dysgu ac addysgu sy'n cynnig cyfleoedd priodol i'r dysgwr wneud cynnydd
  • addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y dysgwr
  • ystyried anghenion dysgu ychwanegol y dysgwr (os oes rhai)
  • eang ac yn gytbwys, cyn belled ag y bo'n briodol i'r dysgwr

Rhaid i unedau cyfeirio disgyblion wneud yn siŵr bod eu cwricwlwm yn cael ei roi ar waith mewn ffordd sy'n sicrhau dysgu ac addysgu ar gyfer pob dysgwr sy'n:

  • cwmpasu'r Maes Iechyd a Lles
  • cwmpasu addysg cydberthynas a rhywioldeb sy'n addas i gam datblygu'r dysgwr)
  • meithrin y sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol

Rhaid i unedau cyfeirio disgyblion hefyd ystyried pa gyfleoedd dysgu ac addysgu y byddai'n briodol eu cynnig i bob dysgwr yn y Meysydd eraill a'r elfennau gorfodol eraill; a sicrhau, cyn belled ag y bo'n rhesymol bosibl, bod y cyfleoedd dysgu ac addysgu yn cael eu cynnig i'r dysgwr.

Adolygu a diwygio

Gwybodaeth

Rhaid i unedau cyfeirio disgyblion adolygu eu cwricwlwm yn barhaus a'i ddiwygio os na fydd yn bodloni gofynion y Ddeddf mwyach. Yn yr un modd, rhaid i awdurdodau lleol adolygu cwricwla'r unedau cyfeirio disgyblion yn eu hardal yn barhaus a sicrhau y cânt eu diwygio yn ôl yr angen. Wrth ystyried a yw cwricwlwm ar gyfer dysgwr yn bodloni'r gofynion hynny, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried gwybodaeth a gafwyd drwy unrhyw drefniadau asesu. Os caiff cwricwlwm uned cyfeirio disgyblion ei ddiwygio, rhaid iddi gyhoeddi crynodeb o'r cwricwlwm diwygiedig.

Rhaid i'r Pwyllgor Rheoli, yr athro sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion a'r awdurdod lleol cyfrifol adolygu’n barhaus drefniadau asesu parhaus yr uned a'r trefniadau ar gyfer asesu disgyblion ar adeg eu derbyn, a rhaid iddyn nhw eu diwygio os na fyddant yn bodloni gofynion y rheoliadau mwyach, os caiff cwricwlwm yr uned ei ddiwygio, neu os byddant o'r farn ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

Darpariaeth ar gyfer lleoliadau pellach

Er gwybodaeth, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud rheoliadau mewn perthynas â darparu ar gyfer dysgwyr sydd wedi'u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad. Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu gwneud rheoliadau ar y materion hyn, cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion.

Dyletswyddau ychwanegol

Gwybodaeth

Mae'r Ddeddf yn cynnwys dyletswyddau pellach i bersonau a restrir, gan gynnwys athrawon sy'n gyfrifol am unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol, pan fyddan nhw’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon. Rhaid i'r personau a restrir:

  • ystyried iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr y mae arfer y swyddogaeth yn debygol o effeithio arnyn nhw. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ystyried effaith unrhyw swyddogaeth ar iechyd meddwl a lles emosiynol y dysgwyr. Mae hyn yn cynnwys sut y caiff y dysgu ei gyflwyno, ei strwythuro a'i drefnu, ynghyd â'i le yng nghyd-destun ehangach yr ysgol, a fydd yn effeithio ar les y dysgwyr
  • hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau i'r rhai sy'n darparu cyfleoedd dysgu ac addysgu
  • cydweithio ag unedau cyfeirio disgyblion, darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol, lleoliadau, ysgolion, awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach os bydd gwneud hynny yn eu helpu i arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf
  • ystyried cais i gydweithio os daw cais o'r fath i law (erys y pwerau cydweithio a bennir ym Mesur Addysg (Cymru) 2011 mewn grym)
  • ystyried unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf

Mae'r adran hon yn crynhoi'r gofynion i ddarparwyr addysg heblaw yn yr ysgol, ac eithrio unedau cyfeirio disgyblion. Dylid hefyd ei darllen ar y cyd â'r adrannau isod sy'n ymwneud ag addysg cydberthynas a rhywioldeb; crefydd, gwerthoedd a moeseg; gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith, a gofynion ehangach.

Diffinnir addysg heblaw yn yr ysgol o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p.56).

Cynllunio ac asesu

Gwybodaeth

Rhaid i awdurdod lleol sicrhau cwricwlwm ar gyfer unrhyw ddysgwr y mae'n gwneud trefniadau addysg ar ei gyfer o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996. Rhaid i awdurdodau lleol hefyd sicrhau bod ganddynt gwricwlwm sy'n cydymffurfio â'r Ddeddf.

Mae'n rhaid i gwricwlwm wneud y canlynol:

  • galluogi dysgwyr i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben
  • darparu ar gyfer cynnydd priodol ar gyfer dysgwyr
  • bod yn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y dysgwr
  • bod yn eang ac yn gytbwys, cyn belled ag y bo'n briodol i'r dysgwr

Rhaid i gwricwlwm wneud darpariaeth ar gyfer dysgu ac addysgu sy’n:

Rhaid i gwricwlwm hefyd wneud darpariaeth, lle y bo'n rhesymol bosibl ac yn briodol, ar gyfer dysgu ac addysgu yn:

  • y Meysydd eraill
  • yr elfennau gorfodol eraill

Mae'n ofynnol i'r awdurdod lleol wneud trefniadau asesu parhaus i gefnogi cynnydd dysgwr drwy gydol y flwyddyn mewn perthynas â chwricwlwm a sicrhawyd o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 mewn lleoliad heblaw uned cyfeirio disgyblion. Mae'n ofynnol i'r awdurdod lleol hefyd wneud trefniadau ar gyfer asesu gallu a dawn dysgwyr mewn perthynas â'r cwricwlwm perthnasol, ar adeg eu derbyn i leoliad.

Mabwysiadu'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu a'u rhoi ar waith

Gwybodaeth

Rhaid i awdurdodau lleol (ar gyfer dysgwyr y maen nhw’n gwneud trefniadau addysg ar eu cyfer o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996) sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei roi ar waith mewn ffordd sy'n:

  • galluogi'r dysgwr i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben
  • sicrhau dysgu ac addysgu sy'n cynnig cyfleoedd priodol i'r dysgwr wneud cynnydd
  • addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y dysgwr
  • ystyried anghenion dysgu ychwanegol y dysgwr (os oes rhai)
  • eang ac yn gytbwys, cyn belled ag y bo'n briodol i'r dysgwr

Adolygu a diwygio

Gwybodaeth

Rhaid i awdurdod lleol adolygu'r cwricwlwm ar gyfer unrhyw ddysgwr y mae'n gwneud trefniadau addysg ar ei gyfer o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (heblaw mewn unedau cyfeirio disgyblion) yn barhaus a rhaid iddo ei ddiwygio os na fydd yn cydymffurfio â'r Ddeddf mwyach. Wrth ystyried a yw cwricwlwm ar gyfer dysgwr yn bodloni'r gofynion hynny, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried gwybodaeth a gafwyd drwy unrhyw drefniadau asesu.

Rhaid i'r awdurdod lleol adolygu yn barhaus y trefniadau asesu parhaus a'r trefniadau ar gyfer asesu dysgwr ar adeg ei dderbyn mewn perthynas â chwricwlwm a sicrhawyd ar gyfer dysgwr. Rhaid iddo ddiwygio'r trefniadau hyn os na fyddan nhw’n bodloni gofynion y rheoliadau mwyach; os caiff y cwricwlwm a sicrhawyd ar gyfer dysgwr ei ddiwygio neu os bydd yr awdurdod lleol o'r farn ei bod yn briodol gwneud hynny.

Darpariaeth ar gyfer lleoliadau pellach

Er gwybodaeth, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud rheoliadau mewn perthynas â darparu ar gyfer dysgwyr sydd wedi'u cofrestru mewn mwy nag un lleoliad. Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu gwneud rheoliadau ar y materion hyn, cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion.

Dyletswyddau ychwanegol

Gwybodaeth

Mae'r Ddeddf yn cynnwys dyletswyddau pellach i bersonau a restrir, gan gynnwys awdurdodau lleol, pan fyddan nhw’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf hon. Rhaid i'r personau a restrir:

  • ystyried iechyd meddwl a lles emosiynol dysgwyr y mae arfer y swyddogaeth yn debygol o effeithio arnyn nhw. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ystyried effaith unrhyw swyddogaeth ar iechyd meddwl a lles emosiynol y dysgwyr. Mae hyn yn cynnwys sut y caiff y dysgu ei gyflwyno, ei strwythuro a'i drefnu, ynghyd â'i le yng nghyd-destun ehangach yr ysgol, a fydd yn effeithio ar les y dysgwyr
  • hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau i'r rhai sy'n darparu cyfleoedd dysgu ac addysgu
  • cydweithio ag unedau cyfeirio disgyblion, darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol, lleoliadau, ysgolion, awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach os bydd gwneud hynny yn eu helpu i arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf
  • ystyried cais i gydweithio os daw cais o'r fath i law (erys y pwerau cydweithio a bennir ym Mesur Addysg (Cymru) 2011 mewn grym)
  • ystyried unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf

Y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Gwybodaeth

Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn elfen orfodol o Fframwaith Cwricwlwm i Gymru a rhaid i gwricwlwm gyd-fynd â'r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ysgolion a lleoliadau gynnwys y ddarpariaeth ddysgu a nodir yn y Cod. Nid yw cwricwlwm yn cwmpasu addysg cydberthynas a rhywioldeb oni bai ei fod yn cyd-fynd â'r ddarpariaeth yn y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Nid yw dysgu ac addysgu yn cwmpasu elfen orfodol addysg cydberthynas a rhywioldeb chwaith oni bai eu bod yn cyd-fynd â'r ddarpariaeth yn y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.

Caiff y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ei gyflwyno a cheir cyfeiriadau ato yn  adran Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yng nghanllawiau’r fframwaith.

Cyhoeddir y Cod hwn o dan adran 8 o'r Ddeddf.

Canllawiau addysg cydberthynas a rhywioldeb

Mae adran addysg cydberthynas a rhywioldeb yng nghanllawiau’r fframwaith hefyd yn cynnwys canllawiau ar ddatblygu addysg cydberthynas a rhywioldeb o fewn cwricwlwm a'i rhoi ar waith. Mae'r canllawiau hyn yn ganllawiau statudol ac fe'u cyhoeddir o dan adran 71 o'r Ddeddf. Rhaid i'r sawl sy'n gyfrifol am gynllunio a datblygu cwricwlwm ddarllen ac ystyried y canllawiau hyn wrth gynllunio eu cwricwlwm.

O dan y Ddeddf, mae’r canllawiau hyn yn statudol ar gyfer y canlynol:

  • pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir
  • corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir
  • darparwr addysg feithrin a ariennir nas cynhelir
  • yr athro sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion
  • pwyllgor rheoli uned cyfeirio disgyblion
  • person sy’n darparu addysg a dysgu i blentyn y tu allan i ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion (addysg heblaw yn yr ysgol)
  • awdurdod lleol yng Nghymru

Gwybodaeth

Fel yr amlinellir yn adran 50 o'r Ddeddf, rhaid i leoliadau addysg heblaw yn yr ysgol gynnwys darpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu sy'n cwmpasu addysg cydberthynas a rhywioldeb, a rhaid gwneud hyn mewn ffordd sy'n briodol o safbwynt datblygiad.

Caiff addysg cydberthynas a rhywioldeb ei chyflawni orau mewn partneriaeth ag ystod eang o bobl a sefydliadau. Felly, gall y canllawiau hefyd fod yn ddefnyddiol i fusnesau; cymunedau; sefydliadau elusennol a gwirfoddol yn y sector cyhoeddus a rhai eraill sy'n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a lleoliadau. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth sy'n debygol o fod yn ddefnyddiol i rieni a gofalwyr.

Gofyniad plwraliaethol

Gwybodaeth

Ym mhob ysgol a lleoliad, rhaid i addysg cydberthynas a rhywioldeb fod yn wrthrychol, yn feirniadol ac yn blwraliaethol o ran ei chynnwys a'r modd y caiff ei haddysgu (gweler achos Dojan ac Eraill v. Germany 2011 rhif y cais. 319/08). Wrth ddefnyddio'r term plwraliaethol, rydym yn golygu pan fo cwestiynau o ran gwerthoedd yn codi, rhaid i ysgolion a lleoliadau ddarparu ystod o safbwyntiau ar bwnc, a fynegir yn gyffredin mewn cymdeithas. Mae hyn hefyd yn golygu darparu ystod o wybodaeth ffeithiol am faterion sy'n gysylltiedig ag addysg cydberthynas a rhywioldeb. Ym mhob ysgol, pan fo ysgolion yn ystyried credoau neu safbwyntiau penodol, rhaid cynnwys ystod o safbwyntiau ffydd eraill a safbwyntiau anghrefyddol ar y mater.

Er enghraifft, gallai ysgolion ddysgu am densiynau, anghytundeb neu ddadleuon presennol mewn cymdeithas, neu gallan nhw edrych ar safbwyntiau gwahanol o fewn credoau ar faterion. Mae datblygu'r blwraliaeth hon yn bwysig er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn datblygu i fod yn ddinasyddion gwybodus sy'n ymwybodol o ystod o safbwyntiau, gwerthoedd a chredoau gwahanol ac yn sensitif iddyn nhw. Mae hyn yn eu helpu i ymgysylltu â thensiynau posibl ac ymdrin â nhw.

Mae dealltwriaeth dda o safbwyntiau dysgwyr, gwerthoedd maen nhw’n eu meithrin a’u cefndiroedd yn ganolog i ddatblygu'r blwraliaeth hon. Gall cydberthnasau cadarnhaol â chymunedau ehangach helpu i greu cyd-destun adeiladol ar gyfer ystyried agweddau a thensiynau mewn ffordd sensitif.

Hawliau plant

Mae hawliau plant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ganolog i holl waith Llywodraeth Cymru, yn unol â'i hymrwymiadau a'i dyletswydd i roi ystyriaeth ddyledus i’r confensiwn ym mhopeth a wna.

Gall ysgolion a lleoliadau hefyd gysylltu'r hyn a ddysgir â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

Caiff ysgolion a lleoliadau eu hannog hefyd i gysylltu dysgu'n effeithiol, lle y bo hynny'n briodol, â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (2010); a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2015).

Deddf Cydraddoldeb 2010

Gwybodaeth

Mae'n ofynnol i ysgolion gydymffurfio â gofynion perthnasol Deddf Cydraddoldeb 2010.

Yn benodol, dylai ysgolion a lleoliadau nodi bod cydymffurfiaeth â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol (gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion) yng Nghymru, a'i fod yn gwneud synnwyr addysgol da i gydymffurfio â hi. Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn helpu ysgolion i ganolbwyntio ar faterion allweddol sy'n peri pryder a sut i wella deilliannau ar gyfer pob dysgwr. Mae'r ddyletswydd yn cynnwys nodi ble y gallwn gymryd camau i hyrwyddo cyfle cyfartal, dileu gwahaniaethu a meithrin cydberthnasau da, a lle y bo'n bosibl, liniaru effeithiau negyddol a all ddeillio o benderfyniadau.

Ym mhob ysgol a lleoliad, dylai dulliau addysgu adlewyrchu'r gyfraith (gan gynnwys Deddf Cydraddoldeb 2010) fel y bo'n gymwys i gydberthnasau, er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn deall yn glir yr hyn a ganiateir a'r hyn na chaniateir gan y gyfraith, a goblygiadau cyfreithiol ehangach y penderfyniadau a wneir ganddyn nhw.

O dan ddarpariaethau'r Ddeddf Cydraddoldeb, ni chaniateir i ysgolion wahaniaethu'n anghyfreithlon yn erbyn dysgwyr ar sail oedran, rhyw, hil, anabledd, crefydd neu gred, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth, priodas neu bartneriaeth sifil, neu gyfeiriadedd rhywiol (a elwir gyda'i gilydd yn nodweddion gwarchodedig). Mae'n rhaid i ysgolion wneud addasiadau rhesymol hefyd er mwyn lliniaru unrhyw anfantais.

Mae darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn caniatáu i ysgolion gymryd camau cadarnhaol, lle y gellir dangos eu bod yn rhai cymesur, i fynd i'r afael ag anfanteision penodol sy'n effeithio ar un grŵp oherwydd nodwedd warchodedig. Dylid ystyried hyn wrth gynllunio a chyflwyno addysg cydberthynas a rhywioldeb.

Dylai bob ysgol ystyried cyfansoddiad y dysgwyr yn ei hysgol, gan gynnwys eu rhywedd a'u hystod oedran, ac ystyried a yw'n briodol neu'n angenrheidiol sicrhau bod cymorth ychwanegol ar gael i ddysgwyr sydd â nodweddion gwarchodedig penodol (sy'n golygu eu bod yn wynebu mwy o risg o bosibl). Dylai ysgolion ystyried yr hyn y gallan nhw ei wneud i feithrin proses gyfathrebu ac ymddygiad iach, llawn parch rhwng dysgwyr, a chynnig amgylchedd sy'n herio cyfyngiadau canfyddedig yn seiliedig ar rywedd neu unrhyw nodwedd arall, gan gynnwys drwy feysydd y cwricwlwm a fel rhan o ddull ysgol gyfan.

Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

Gwybodaeth

Pasiodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Mae Deddf 2015 yn rhoi ffocws ar drais yn erbyn menywod a merched drwy ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy'n arfer swyddogaethau (awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol) o dan y Ddeddf (a ddiffinnir yn adran 2(2) o'r Ddeddf honno fel “swyddogaethau perthnasol”), roi sylw i'r angen i ddileu neu leihau unrhyw ffactorau sy'n cynyddu'r risg o drais yn erbyn menywod a merched neu sy'n gwaethygu effaith trais o'r fath ar ddioddefwyr. Fodd bynnag, rhaid i berson sy'n arfer swyddogaethau perthnasol roi sylw i bob mater perthnasol arall hefyd. Drwy wneud hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio codi ymwybyddiaeth o'r materion hyn a gosod swyddogaethau ar y cyrff strategol hynny i lunio cynllun er mwyn dileu neu leihau ymddygiadau o'r fath.

Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cyffwrdd â llawer o fywydau. Mae yna oblygiadau difrifol iawn i ddysgwyr, fel dioddefwyr eu hunain, mewn cartrefi lle y ceir cam-drin domestig. Gall effeithio ar eu diogelwch, eu hiechyd meddyliol a chorfforol a'u lles yn gyffredinol. Mae'n effeithio ar gydberthnasau â'u teulu a chyfoedion, a'r potensial i fwynhau cydberthnasau iach, hapus a llawn parch yn y dyfodol; a gall effeithio ar gyrhaeddiad addysgol nawr ac yn y dyfodol.

Bydd yna ddysgwyr a staff mewn ysgolion ar hyn o bryd sy'n dioddef, neu'n wynebu risg o ddefnyddio ymddygiad camdriniol yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol, neu sydd wedi eu dioddef neu eu defnyddio yn y gorffennol. Dylai ysgolion a lleoliadau fod yn gyfrifol am sicrhau bod eu dysgwyr a’u staff yn ddiogel ac yn iach.

Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn cynnig cyfle i Gymru arwain y ffordd o ran gwaith ataliol. Mae ysgolion a lleoliadau yn cynnig amgylchedd lle y gellir meithrin agweddau cadarnhaol tuag at gydraddoldeb rhywiol a chydberthnasau iach a llawn parch drwy ddull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau.

Mae mabwysiadu dull ysgol gyfan o weithredu sy’n cynnwys addysg ataliol yn yr ysgol ac sydd hefyd yn cynnwys y gymuned ehangach yn hollbwysig.

Datblygwyd Canllaw Arferion Da ar gyfer Dull Addysg Gyfan Llywodraeth Cymru o Ymdrin â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yng Nghymru ar y cyd â Cymorth i Ferched Cymru. Bwriedir iddo fod yn becyn cymorth ymarferol a defnyddiol ar gyfer cymhwyso egwyddorion dull addysg gyfan o ymdrin â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'n cydnabod pwysigrwydd lleoliadau addysgol fel amgylcheddau lle gellir meithrin agweddau cadarnhaol tuag at gydraddoldeb rhywiol a chydberthnasau iach a llawn parch.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ymarferol i lywodraethwyr ysgolion ar yr angen i ddatblygu polisi ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol; sut i adnabod arwyddion o gam-drin a ble i gael cymorth iddyn nhw eu hunain, eu cydweithwyr neu eu dysgwyr.

Statws cyfreithiol y canllawiau ar grefydd, gwerthoedd a moeseg

Gwybodaeth

Mae'r canllawiau ar grefydd, gwerthoedd a moeseg ym Maes y Dyniaethau yn statudol a chânt eu cyhoeddi o dan adran 71 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (y Ddeddf) a bwriedir iddyn nhw helpu'r rhai sy'n gyfrifol o dan y Ddeddf am gynllunio'r maes llafur ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg fel rhan o gwricwlwm yr ysgol.

Mae cyngor ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (CCUHPA) ar gael hefyd yng nghrynodeb deddfwriaeth Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.

Newidiadau deddfwriaethol ar gyfer darparu addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg

O dan y Ddeddf, mae'r newidiadau deddfwriaethol isod wedi cael eu gwneud mewn perthynas ag addysg grefyddol.

Y newid o addysg grefyddol i grefydd, gwerthoedd a moeseg

Mae'r newid enw yn adlewyrchu cwmpas estynedig addysg grefyddol (addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg) a sicrhau ei bod yn glir yn y ddeddfwriaeth ei hun y dylai'r pwnc gynnwys safbwyntiau athronyddol anghrefyddol. Mae'r ddarpariaeth yn y Ddeddf yn gysylltiedig â'r term “argyhoeddiadau athronyddol” o fewn ystyr Erthygl 2 Protocol 1 i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (E2P1). Hynny yw, mae'n rhaid i addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg a ddarperir yn unol â'r Ddeddf gydymffurfio ag E2P1 yn yr ystyr bod yn rhaid cynnwys addysgu am argyhoeddiadau athronyddol o fewn ystyr E2P1.

Cwmpas crefydd, gwerthoedd a moeseg

Mae'r Ddeddf yn gwneud yn glir bod yn rhaid i unrhyw faes llafur cytunedig ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg adlewyrchu credoau crefyddol yn ogystal â chredoau anghrefyddol sy'n argyhoeddiadau athronyddol yn unol ag ystyr E2P1. Mae hyn yn cynnwys credoau fel dyneiddiaeth, anffyddiaeth a seciwlariaeth. Dim ond enghreifftiau o'r math o gredoau sydd o fewn cwmpas crefydd, gwerthoedd a moeseg yw'r rhain, yn hytrach na rhestr hollgynhwysfawr. Mae'r newidiadau hyn yn nodi'n glir beth sydd eisoes yn ofynnol yn ôl y gyfraith mewn perthynas ag addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg blwraliaethol.

Ystyr argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol

Wrth ystyried crefyddau ac argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol, mae'n ddefnyddiol cyfeirio at argymhelliad Cyngor Ewrop 2008 ar ddimensiwn argyhoeddiadau athronyddol crefyddol ac anghrefyddol o fewn addysg sy'n nodi:

“Religious and non-religious convictions are diverse and complex phenomena; they are not monolithic. In addition, people hold religious and non-religious convictions to varying degrees, and for different reasons; for some such convictions are central and may be a matter of choice, for others they are subsidiary and may be a matter of historical circumstances. The dimension of religions and non-religious convictions within intercultural education should therefore reflect such diversity and complexity at a local, regional and international level.”

(Cyngor Ewrop 2008a, atodiad; paragraff 3).

Signposts – Policy and practice  for teaching about religions and non-religious worldviews in intercultural education (Cyngor Ewrop, 2014, t.67).

Mae'r Ddeddf yn cyfeirio at “argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol” ac nid at “argyhoeddiadau athronyddol”. Mae hynny am fod yr adran sy'n cyfeirio at 'grefyddau' eisoes yn cyfeirio at argyhoeddiadau athronyddol crefyddol.

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i crefydd, gwerthoedd a moeseg gynnwys argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol. Mae'r llysoedd wedi penderfynu nad yw'n gyfystyr â'r termau ‘safbwyntiau’ a ‘syniadau’ pan gaiff ei ddefnyddio ar ei ben ei hun. Mae'n dynodi safbwyntiau sy'n cyrraedd lefel benodol o grymusrwydd, difrifoldeb, cydlyniant a phwysigrwydd (Valsamis v Gwlad Groeg, §§ 25 a 27). Felly, pan wrthododd rhieni dderbyn cosbi corfforol yn ysgol eu plant, roedd hynny yn unol â'u hargyhoeddiadau athronyddol.

Isod ceir rhai enghreifftiau lle mae'r llysoedd wedi penderfynu mai argyhoeddiad athronyddol yw cred o fewn ystyr y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Dylid cofio mai dim ond enghreifftiau yw'r rhain, ac nid rhestr hollgynhwysfawr.

  • Penderfynwyd mai argyhoeddiadau athronyddol yw anffyddiaeth, agnostigiaeth a sgeptigaeth (R (Williamson) v Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Chyflogaeth [2005] AC 246, paragraffau 24 a 75).
  • Penderfynwyd bod heddychiaeth yn argyhoeddiad athronyddol (Arrowsmith v y Deyrnas Unedig, adroddiad y Comisiwn, § 69).
  • Penderfynwyd bod gwrthwynebiad ar sail egwyddor i wasanaeth milwrol yn argyhoeddiad athronyddol (Bayatyan v. Armenia [GC]).
  • Penderfynwyd bod figaniaeth a gwrthwynebu defnyddio cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid neu a brofir ar anifeiliaid yn argyhoeddiad athronyddol. (W v y Deyrnas Unedig, penderfyniad y Comisiwn).

Ystyr crefydd

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg gael ei chynllunio i gynnwys elfen orfodol crefydd, gwerthoedd a moeseg. Eglurir ystyr hynny yn adran 375A o Ddeddf Addysg 1996 (Deddf 1996) sy'n cyfeirio at draddodiadau crefyddol. Yn gryno, rhaid cynnwys amrywiaeth o grefyddau gwahanol.

Isod ceir rhai enghreifftiau lle mae'r llysoedd wedi penderfynu mai argyhoeddiad athronyddol yw cred o fewn ystyr y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Enghreifftiau yn unig o rai crefyddau yw'r rhain, ac nid rhestr hollgynhwysfawr.

  • Alefiaeth (Cumhuriyetçi Eğitim ve Kültür Merkezi Vakfı v; İzzettin Doğan ac Eraill v Twrci).
  • Bwdhaeth (Jakóbski v Gwlad Pwyl).
  • Y gwahanol enwadau Cristnogol ymhlith llawer o awdurdodau eraill (Svyato-Mykhaylivska Parafiya v Wcrain; Savez crkava “Riječ života” ac Eraill v Croatia).
  • Y gwahanol ffurfiau ar Hindŵaeth, gan gynnwys mudiad Hare Krishna (Kovaļkovs v Latfia (dec.); Genov v Bwlgaria.
  • Y gwahanol ffurfiau ar Islam (Hassan a Tchaouch v Bwlgaria [GC]; Leyla Şahin v Twrci [GC]), gan gynnwys Ahmadiaeth (Metodiev ac Eraill v Bwlgaria).
  • Iddewiaeth (Cha’are Shalom Ve Tsedek v. Ffrainc [GC]; Francesco Sessa v Yr Eidal).
  • Sikhaeth (Phull v. Ffrainc (Dec.); Jasvir Singh v Ffrainc).
  • Tystion Jehofa (Religionsgemeinschaft der Zeugen Jehovas ac Eraill v Awstria; Tystion Jehofa Moscow ac Eraill v Rwsia).

Ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig, ac ysgolion gwirfoddol heb gymeriad crefyddol

Yn achos ysgolion cymunedol, sefydledig a gwirfoddol heb gymeriad crefyddol, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r ddarpariaeth yn y cwricwlwm ar gyfer dysgu ac addysgu sy'n cwmpasu crefydd, gwerthoedd a moeseg fod wedi cael ei chynllunio gan ystyried y maes llafur cytunedig. (Y “maes llafur cytunedig” yng nghyd-destun yr Atodlen yw'r maes llafur crefydd, gwerthoedd a moeseg a fabwysiadwyd gan yr awdurdod lleol o dan adran 375A o Ddeddf 1996 i'w ddefnyddio mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod.) Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r ddarpariaeth crefydd, gwerthoedd a moeseg hon fod ar gael i bob dysgwr.

Ysgolion sefydledig a gwirfoddol a reolir sydd â chymeriad crefyddol

I'r ysgolion hyn, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r ddarpariaeth yn y cwricwlwm ar gyfer dysgu ac addysgu sy'n cwmpasu crefydd, gwerthoedd a moeseg fod wedi cael ei chynllunio gan ystyried y maes llafur cytunedig.

Fodd bynnag, yn achos yr ysgolion hyn, ceir gofyniad ychwanegol a fydd ond yn gymwys os nad yw'r ddarpariaeth a gynlluniwyd gan ystyried y maes llafur cytunedig yn cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol na daliadau ei chrefydd na'i henwad crefyddol.

Y cam cyntaf wrth benderfynu a yw'r gofyniad ychwanegol hwn yn berthnasol yw ystyried a yw'r ddarpariaeth a gynlluniwyd gan ystyried y maes llafur cytunedig yn cyd-fynd ag unrhyw ddarpariaeth yng ngweithred ymddiriedolaeth yr ysgol sy'n ymwneud â dysgu ac addysgu mewn perthynas â chrefydd, gwerthoedd a moeseg. Os nad oes darpariaeth yn y weithred ymddiriedolaeth sy'n ymwneud â dysgu ac addysgu mewn perthynas â chrefydd, gwerthoedd a moeseg, y cam nesaf fydd ystyried a yw'r ddarpariaeth yn cyd-fynd â daliadau'r grefydd neu'r enwad a nodwyd mewn perthynas â'r ysgol drwy orchymyn o dan adran 68A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Deddf 1998). Dim ond os nad yw'r ddarpariaeth yn cyd-fynd â'r weithred ymddiriedolaeth neu'r daliadau perthnasol y bydd y gofyniad ychwanegol yn berthnasol. Os bydd y gofyniad ychwanegol hwn yn berthnasol, rhaid i gwricwlwm yr ysgol hefyd gynnwys darpariaeth ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg sy'n cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad crefyddol.

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithgareddau dysgu ac addysgu a ddarperir i'r dysgwyr gael eu cynllunio gan ystyried y maes llafur cytunedig. Fodd bynnag, ceir eithriad i'r gofyniad cyffredinol hwn sy'n galluogi rhieni dysgwr i ofyn i'r ysgol, yn lle hynny, roi'r ddarpariaeth ychwanegol i'w plentyn sy'n cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad. Os gwneir cais o'r fath, rhaid cydymffurfio ag ef.

Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol

I'r ysgolion hyn, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r cwricwlwm ddarparu ar gyfer dysgu ac addysgu mewn perthynas â chrefydd, gwerthoedd a moeseg sy'n cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad.

Unwaith eto, ceir gofyniad ychwanegol. I ysgolion o'r math hwn, dim ond os nad yw'r ddarpariaeth a gynlluniwyd (hynny yw, sy'n cyd-fynd â'r weithred ymddiriedolaeth neu ddaliadau crefydd neu enwad yr ysgol) yn cyd-fynd â'r maes llafur cytunedig y bydd y gofyniad ychwanegol yn berthnasol. Yn yr achos hwn, rhaid i gwricwlwm yr ysgol hefyd gynnwys darpariaeth ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg a gynlluniwyd gan ystyried y maes llafur cytunedig.

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithgareddau dysgu ac addysgu a gynhelir ar gyfer dysgwyr fod yn rhai y mae'r ddarpariaeth ar eu cyfer yn cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ei chrefydd neu ei henwad. Ond, unwaith eto, ceir eithriad i'r gofyniad cyffredinol hwn sy'n galluogi rhieni neu ofalwyr dysgwr i ofyn i'r ysgol, yn lle hynny, roi'r ddarpariaeth ychwanegol i'w plentyn a gynlluniwyd gan ystyried y maes llafur cytunedig. Os gwneir cais o'r fath, rhaid cydymffurfio ag ef.

Newidiadau i gyfansoddiad cynadleddau meysydd llafur cytunedig a chynghorau ymgynghorol sefydlog ar addysg grefyddol

Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer penodi personau sy'n cynrychioli pobl â chredoau athronyddol anghrefyddol yn yr un modd ag y maen nhw’n caniatáu penodi personau sy'n cynrychioli pobl â chredoau crefyddol.

Mater i'r awdurdod lleol yw penderfynu ar y personau priodol i'w penodi. Bydd y penderfyniad terfynol ynghylch penodiad yn dibynnu ar benderfyniad yr awdurdod lleol perthnasol y byddai cynrychiolydd o’r fath yn helpu i sicrhau bod traddodiadau perthnasol yr ardal yn cael eu hadlewyrchu’n briodol. Caiff Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol eu hailenwi'n Gynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg.

Rhaid i'r awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod aelodaeth y grŵp yn gymesur â chryfder pob crefydd, enwad neu argyhoeddiad yn ei ardal leol yn fras (gweler yr is-adran newydd (6A) a (6B) o adran 390 a fewnosodwyd gan baragraff 9(8) o'r Atodlen.

Crefydd, gwerthoedd a moeseg ôl-16

Er mai i ddysgwyr rhwng 3 ac 16 oed mae fframwaith y Cwricwlwm i Gymru yn berthnasol, mae'r canllawiau hyn wedi'u cynnwys yma er cyflawnrwydd.

Nid yw crefydd, gwerthoedd a moeseg ôl-16 yn orfodol mwyach yn rhinwedd darpariaethau'r Ddeddf. Yn unol ag adran 61 o'r Ddeddf, gall pob dysgwr dros 16 oed bellach ddewis crefydd, gwerthoedd a moeseg lle, yn y gorffennol, roedd yn ofynnol i bob dysgwr chweched dosbarth astudio addysg grefyddol. Os bydd dysgwr yn dewis crefydd, gwerthoedd a moeseg, yna bydd yn rhaid i'r ysgol neu'r coleg ddarparu addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg sy'n wrthrychol, yn feirniadol ac yn blwraliaethol. Mae'r dull gweithredu hwn yn gyson â'r egwyddor y dylai dysgwyr sy'n ddigon aeddfed allu gwneud penderfyniadau mewn perthynas â'u dysgu eu hunain.

Os bydd dysgwr yn gofyn am addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg yn unol ag adran 61 o'r Ddeddf, rhaid i'r addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg gael ei chynllunio mewn ffordd sydd:

  • yn adlewyrchu'r ffaith mai traddodiadau Cristnogol yw'r traddodiadau crefyddol yng Nghymru yn bennaf, gan ystyried ar yr un pryd ddysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru
  • hefyd yn adlewyrchu'r ffaith bod gan bobl yng Nghymru amrywiaeth o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol

Gweler y paragraffau uchod am esboniad o'r termau.

Nid yw adran 61 o'r Ddeddf yn atal ysgol rhag ei gwneud yn ofynnol i bob dysgwr yn ei chweched dosbarth fynychu dosbarthiadau crefydd, gwerthoedd a moeseg gorfodol; ac nid yw ychwaith yn atal ysgol sy'n gwneud hyn rhag darparu addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg orfodol i'w dysgwyr chweched dosbarth sy'n cyd-fynd â gweithred ymddiriedolaeth yr ysgol neu ddaliadau ei chrefydd neu ei henwad crefyddol (“crefydd, gwerthoedd a moeseg enwadol”). Mater i'r ysgol yw cynnwys crefydd, gwerthoedd a moeseg enwadol o'r fath o hyd.

Cynadleddau meysydd llafur cytunedig a'r maes llafur cytunedig ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg

Mae'r adran hon wedi'i bwriadu ar gyfer awdurdodau lleol, Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg a Chynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig er mwyn egluro eu rolau a'u cyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas â chrefydd, gwerthoedd a moeseg yn Cwricwlwm i Gymru a'r maes llafur cytunedig o dan y Ddeddf.

Newidiadau deddfwriaethol

Mae'r newidiadau deddfwriaethol yn y Ddeddf mewn perthynas â rolau a chyfrifoldebau cyfreithiol Cynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig a Chynghorau Ymgynghorol Sefydlog fel a ganlyn.

  • Mae'r Ddeddf yn nodi'n glir bod yn rhaid i unrhyw faes llafur cytunedig ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg adlewyrchu credoau crefyddol ac anghrefyddol sy'n argyhoeddiadau athronyddol yn unol ag ystyr E2P1.
  • Darpariaeth ar gyfer penodi personau sy'n cynrychioli pobl ag argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yn yr un modd ag y maen nhw’n caniatáu penodi personau sy'n cynrychioli pobl â chredoau crefyddol.

Dyma'r unig newidiadau deddfwriaethol yn y Ddeddf sy'n ymwneud â rolau a chyfrifoldebau cyfreithiol Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a Chynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig. Nid yw'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r holl rolau a chyfrifoldebau cyfreithiol eraill a oedd ganddynt eisoes wedi newid.

Nid yw'r Ddeddf yn pennu erbyn pa ddyddiad y bydd yn rhaid i Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig gyntaf baratoi ac argymell maes llafur cytunedig. Rhaid i'r awdurdod lleol fabwysiadu maes llafur newydd yn lle'r maes llafur cytunedig presennol i'w ddefnyddio mewn ysgolion a lleoliadau sy'n rhoi Cwricwlwm i Gymru ar waith. Felly, bydd angen i Gynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a Chynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig gael eu sefydlu mewn da bryd i gyflwyno maes llafur cytunedig yn unol â'r broses o roi Cwricwlwm i Gymru ar waith yn 2022. Yr awdurdod lleol fydd yn gyfrifol am weinyddu hyn.

Nodau'r maes llafur cytunedig

Ni fwriedir i'r maes llafur cytunedig fod yn gynllun gwaith. Yn hytrach, bwriedir iddo fod yn ganllaw ac yn bwynt cyfeirio cyfreithiol defnyddiol i ysgolion er mwyn eu helpu i gynllunio cwricwlwm priodol a pherthnasol ar gyfer eu dysgwyr sy'n cynnwys crefydd, gwerthoedd a moeseg o fewn Maes y Dyniaethau. Mae dull Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru yn seiliedig ar egwyddor sybsidiaredd ac, fel y cyfryw, dylai pob maes llafur cytunedig gydnabod ac adlewyrchu ymreolaeth pob ysgol a lleoliad wrth gyflawni eu cwricwla eu hunain. Un o fwriadau'r canllawiau statudol hyn ar grefydd, gwerthoedd a moeseg yw taro'r cydbwysedd cywir rhwng pwyslais rhwng llyw canolog Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru a'r gofynion o ran gwneud penderfyniadau lleol ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg, fel y nodir mewn meysydd llafur cytunedig ledled Cymru. Felly, mae'r canllawiau statudol ar grefydd, gwerthoedd a moeseg wedi'u hysgrifennu fel sail i'r maes llafur cytunedig. Os bydd awdurdod lleol yn dymuno mabwysiadu neu addasu'r canllawiau hyn fel ei faes llafur cytunedig, caiff wneud hynny. Yn y pen draw, mater i'r darparwr fydd sicrhau y caiff addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg anenwadol ei darparu'n blwraliaethol.

Dylai meysydd llafur cytunedig gydnabod, er y dylai pob ysgol addysgu eu dysgwyr am y prif grefyddau a'u traddodiadau yng Nghymru, fod credoau eraill (gan gynnwys argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol megis dyneiddiaeth ac anffyddiaeth) bellach yn rhan gydnabyddedig o fywyd mewn ardaloedd lleol yng Nghymru a thu hwnt. Adlewyrchir hyn yn y Ddeddf sy'n nodi'r canlynol am y maes llafur cytunedig:

  • rhaid iddo adlewyrchu'r ffaith mai traddodiadau Cristnogol yw'r traddodiadau crefyddol yng Nghymru yn bennaf, gan ystyried ar yr un pryd ddysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru
  • rhaid iddo hefyd adlewyrchu'r ffaith bod gan bobl yng Nghymru amrywiaeth o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol

Y maes llafur cytunedig a Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru

Mae dyletswydd gyfreithiol ar Gynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig i sefydlu'r gydberthynas rhwng y maes llafur cytunedig a Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru. Rhaid i awdurdodau lleol, Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog a Chynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig ystyried Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru, sy'n cynnwys y canllawiau statudol ar grefydd, gwerthoedd a moeseg, wrth ddatblygu a mabwysiadu maes llafur cytunedig. Y maes llafur cytunedig yw'r pwynt cyfeirio cyntaf ar gyfer darparu addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg mewn ysgolion a lleoliadau, felly mae'n hanfodol bod y maes llafur cytunedig yn cydnabod ac yn adlewyrchu dull Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru a'r egwyddorion a nodir yn y canllawiau statudol ar grefydd, gwerthoedd a moeseg er mwyn taro cydbwysedd a chynnal cydlyniaeth ym mhob rhan o’r Cwricwlwm i Gymru. Mae'r canllawiau statudol ar grefydd, gwerthoedd a moeseg yn galluogi Cynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig i sefydlu'r gydberthynas hon rhwng y maes llafur cytunedig a Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer dysgwyr rhwng 3 ac 16 oed, a hynny'n hyderus. Mae hyn yn cynnwys canllawiau er mwyn helpu ysgolion a lleoliadau i sicrhau bod ehangder a dyfnder priodol o fewn crefydd, gwerthoedd a moeseg gan gydnabod egwyddor sybsidiaredd ar yr un pryd.

Statws y maes llafur cytunedig

Corff statudol a ddaw ynghyd i baratoi ac argymell neu ailystyried maes llafur cytunedig ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg i'r awdurdod lleol ei fabwysiadu yw Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig. Yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am alw'r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig ynghyd, sy'n golygu bod dyletswydd arno i ddarparu cyllid a chymorth ar gyfer ei gwaith. Mae'r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig yn gorff cyfreithiol ar wahân i Gyngor Ymgynghorol Sefydlog. Fodd bynnag, mae iddi'r un strwythur grwpiau â'r Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog:

  • Grŵp A – grŵp o bersonau i gynrychioli: enwadau Cristnogol a chrefyddau eraill a'u henwadau; argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol. Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru, wrth benodi personau o'r fath, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod nifer yr aelodau a benodir i'r pwyllgor i gynrychioli crefydd, enwad neu argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol, cyn belled ag y bo'n gyson â chyflawni swyddogaethau'r pwyllgor yn effeithlon, yn adlewyrchu cryfder y grefydd, yr enwad neu'r argyhoeddiad athronyddol anghrefyddol hwnnw yn yr ardal
  • Grŵp B – grŵp o bersonau i gynrychioli'r cymdeithasau hynny sy'n cynrychioli athrawon a ddylai, ym marn yr awdurdod, gael eu cynrychioli, gan ystyried amgylchiadau'r ardal
  • Grŵp C – grŵp o bersonau i gynrychioli'r awdurdod

Nid oes darpariaeth gyfreithiol i Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig gynnwys aelodau cyfetholedig, ond gall geisio'r cyngor y tybia ei fod yn briodol gan y rhai hynny y tybia eu bod yn briodol, er mwyn llywio'r gwaith o ddatblygu darpariaeth crefydd, gwerthoedd a moeseg effeithiol yn ei hardal.

Gofynion cyfreithiol ar gyfer cynhadledd maes llafur cytunedig

Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol sefydlu a chefnogi Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig ac mae'n rhaid i'r Gynhadledd:

  • paratoi maes llafur ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg i'w fabwysiadu gan awdurdod addysg lleol a all gynnig darpariaeth wahanol mewn perthynas â disgrifiadau gwahanol o'r canlynol:

(a) ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol

(b) dysgwyr

  • sicrhau bod y maes llafur yn adlewyrchu'r ffaith:

(a) mai traddodiadau Cristnogol yw'r traddodiadau crefyddol yng Nghymru yn bennaf, gan ystyried ar yr un pryd ddysgeidiaeth ac arferion y prif grefyddau eraill a gynrychiolir yng Nghymru

(b) bod gan bobl yng Nghymru amrywiaeth o argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol

  • ystyried unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru
  • sicrhau bod unrhyw is-bwyllgorau a benodir gan y gynhadledd yn cynnwys o leiaf un aelod o bob un o'r pwyllgorau sy'n rhan o'r gynhadledd
  • rhoi un bleidlais yn unig i bob un o'r pwyllgorau sy'n rhan o'r gynhadledd, ar unrhyw gwestiwn y bydd y gynhadledd neu unrhyw un o'i his-bwyllgorau yn penderfynu arno
  • ceisio cytundeb unfrydol ar faes llafur ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg i'r awdurdod addysg lleol ei fabwysiadu

Yn yr un modd â Chyngor Ymgynghorol Sefydlog, rhaid i Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig hefyd gyfarfod yn gyhoeddus a chael ei chadeirio gan rywun a benodir gan yr awdurdod lleol, neu gael caniatâd i ddewis ei Chadeirydd ei hun.

Pryd bynnag y bydd awdurdod lleol o'r farn (ar sail sylwadau a wneir iddo neu fel arall) y dylid ailystyried y maes llafur cytunedig ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg, yr awdurdod lleol fydd yn gyfrifol am alw'r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig ynghyd at y diben hwnnw. Dylai unrhyw gynhadledd i ailystyried maes llafur cytunedig ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg gael ei chynnal o fewn pum mlynedd i'r diwrnod penodedig pan gafodd y maes llafur cytunedig ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg ei fabwysiadu gan yr awdurdod lleol.

Cwestiynau i gynhadledd maes llafur cytunedig a chyngor ymgynghorol sefydlog eu hystyried

  • A gaiff argyhoeddiadau athronyddol crefyddol ac anghrefyddol eu cynrychioli'n briodol?
  • A fyddai'n ddefnyddiol nodi grwpiau ffydd a chred a gaiff eu cynrychioli'n lleol yn y maes llafur cytunedig?
  • A fyddai'n briodol cynnig gwybodaeth ddefnyddiol i ysgolion a lleoliadau am y grwpiau ffydd a chred hyn a sut i gysylltu â hwy?
  • A fyddai'n ddefnyddiol cynnwys deunydd ac adnoddau enghreifftiol i ategu'r maes llafur y cytunir arno'n lleol?
  • Sut y gellir hwyluso cydweithio rhwng y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig ac ysgolion yr awdurdod lleol er mwyn sicrhau y caiff maes llafur cytunedig priodol ei lunio ar gyfer eich ardal?
  • A oes unrhyw grwpiau neu sefydliadau eraill yng Nghymru a allai helpu'r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig i ddatblygu'r maes llafur y cytunir arno'n lleol ar gyfer eich ardal?
  • Sut y caiff y maes llafur y cytunir arno'n lleol ei hyrwyddo i ysgolion a lleoliadau a phartïon eraill â diddordeb yn eich ardal?
  • Sut y bydd eich Cyngor Ymgynghorol Sefydlog yn helpu ysgolion a lleoliadau i ddarparu addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg sy'n ystyried y maes llafur y cytunwyd arno'n lleol?
  • Yn ogystal â'r canllawiau statudol ar grefydd, gwerthoedd a moeseg ar gyfer dysgwyr rhwng 3 ac 16 oed, a oes angen i ysgolion a lleoliadau yn eich ardal gael unrhyw beth arall i'w helpu i gynllunio'r cwricwlwm ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg mewn ffyrdd sy'n cynnal egwyddor sybsidiaredd? Er enghraifft:
  • cyngor ar gysylltiadau â Meysydd eraill
  • awgrymiadau ar gyfer addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg ddewisol ôl-16
  • rhestr termau
  • cyngor ar ymdrin â materion sensitif o fewn crefydd, gwerthoedd a moeseg
  • enghreifftiau o addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg feirniadol, wrthrychol a phlwraliaethol

Yr hawl i dynnu'n ôl yn y Cwricwlwm i Gymru

O fis Medi 2022, ni fydd gan rieni hawl i dynnu dysgwyr yn ôl o addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg hyd at Flwyddyn 6, gan gynnwys y flwyddyn ysgol honno, gan y bydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei roi ar waith ym mhob ysgol a lleoliad cynradd o'r dyddiad hwn ymlaen.

Rhoddir y canllawiau isod er mwyn helpu Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog i gynghori ysgolion a lleoliadau uwchradd ar ddiddymu'r hawl i dynnu'n ôl o addysg crefydd, gwerthoedd a moeseg yn gywir ac yn briodol fesul cam ar gyfer dysgwyr o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 11 o fis Medi 2022.

O ran dysgwyr Blwyddyn 7, bydd gan ddarparwyr hyblygrwydd i ‘optio i mewn’ i’r Cwricwlwm i Gymru ym mis Medi 2022, neu i gyflwyno'r cwricwlwm newydd ar gyfer Blwyddyn 7 a Blwyddyn 8 gyda'i gilydd ym mis Medi 2023. Rhoddir canllawiau ar ‘optio i mewn’ yn Y daith i weithredu'r cwricwlwm.

Yn ystod y cyfnod o gyflwyno'r cwricwlwm, pan fydd ysgol neu leoliad uwchradd yn ‘mabwysiadu’ fframwaith y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer grŵp blwyddyn penodol, ni fydd hawl i dynnu dysgwyr yn ôl yn y grŵp blwyddyn hwnnw o'r flwyddyn academaidd honno ymlaen. Felly, ar gyfer yr ysgolion a'r lleoliadau uwchradd hynny na fyddan nhw’n optio i mewn i’r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer Blwyddyn 7 ym mis Medi 2022, bydd yr hawl i dynnu'n ôl yn parhau ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 7 yn ystod blwyddyn academaidd 2022 i 2023, ond daw i ben ar gyfer eu dysgwyr Blwyddyn 7 a Blwyddyn 8 ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024.

O fis Medi 2023, ni fydd hawl i dynnu dysgwyr Blwyddyn 7 nac 8 yn ôl, gan y bydd pob darparwr wedi rhoi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith ar gyfer y dysgwyr hynny. Ar ôl hynny, bydd y broses o roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith fesul cam yn parhau, a chaiff yr hawl i dynnu'n ôl ei diddymu ar gyfer:

  • dysgwyr Blwyddyn 9 ym mis Medi 2024
  • dysgwyr Blwyddyn 10 ym mis Medi 2025
  • dysgwyr Blwyddyn 11 ym mis Medi 2026

Mae rhagor o wybodaeth i ysgolion a lleoliadau am y broses ar gyfer optio i mewn i Cwricwlwm i Gymru mewn perthynas â dysgwyr Blwyddyn 7 ar gael yn Y daith i weithredu'r cwricwlwm.

Statws y canllawiau

Ceir canllawiau ar sut i ddatblygu cwricwlwm ysgol neu leoliad i ymgorffori gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith (gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith) yn adran gynllunio eich cwricwlwm y canllawiau fframwaith hyn, yn ogystal ag ar gyfer pob Maes.

Gwybodaeth

Mae'r canllawiau ar gyfer gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn statudol a chânt eu cyhoeddi o dan adran 71 o'r Ddeddf. Rhaid i'r sawl sy'n gyfrifol am gynllunio a datblygu gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith ddarllen ac ystyried y canllawiau hyn wrth gynllunio eu cwricwlwm.

O dan y Ddeddf, mae’r canllawiau hyn yn statudol ar gyfer:

  • pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir
  • corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir
  • darparwr addysg feithrin a ariennir nas cynhelir
  • yr athro sy'n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion
  • pwyllgor rheoli uned cyfeirio disgyblion
  • person sy’n darparu dysg ac addysg i blentyn y tu allan i ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion (addysg heblaw yn yr ysgol)
  • awdurdod lleol yng Nghymru

Fel yr amlinellir yn adran 50 o'r Ddeddf, nid yw'n ofynnol i addysg heblaw yn yr ysgol gynllunio cwricwlwm ar gyfer pob Maes. Fodd bynnag rhaid iddyn nhw gynnwys Maes Iechyd a Lles, a chynnwys y Meysydd eraill dim ond i’r graddau sy’n rhesymol bosibl ac sy’n briodol. Dylai’r lleoliadau hyn ddarllen yr adran ar gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn y canllawiau hyn, ac yn benodol ochr yn ochr â’r Maes Iechyd a Lles ynglŷn â sut i roi cyd-destun i gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith o fewn y cwricwlwm. Dylai’r athro sy’n gyfrifol, y pwyllgorau rheoli a’r awdurdodau lleol ddarllen canllawiau ychwanegol ar gynllunio cwricwlwm ar gyfer y lleoliadau hyn.

Gall y canllawiau gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith fod yn ddefnyddiol ar gyfer y rheini sy’n rhan o’r gwaith cynllunio, dylunio a gweithredu cwricwlwm, megis:

  • uwch-arweinwyr
  • cydlynwyr neu arweinwyr gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith
  • cydlynwyr lleoliadau gwaith
  • pob ymarferydd mewn ysgolion a lleoliadau, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio gyda dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol
  • y rhai sy'n gweithio mewn sefydliadau addysg eraill sy'n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a lleoliadau, megis sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch
  • y rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir

Caiff gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith eu cyflawni orau mewn partneriaeth ag amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau. Er nad yw'n statudol iddyn nhw, gallai fod yn ddefnyddiol i’r bobl a’r sefydliadau canlynol sydd â diddordeb mewn addysg a phrofiadau byd gwaith nodi’r canllawiau hyn:

  • busnesau, cymunedau, sefydliadau elusennol a gwirfoddol a rhai eraill sy'n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a lleoliadau
  • anogwyr dysgu
  • tiwtoriaid personol
  • Gyrfa Cymru
  • rhieni a gofalwyr

Ceir amrywiaeth o ofynion deddfwriaethol y gall fod angen i leoliadau ac ysgolion eu hystyried wrth reoli eu sefydliadau. Ni fwriedir i'r adran hon fanylu ar y rhain, ond yn hytrach mae'n fan cyfeirio i'r rhai sydd â goblygiadau o ran y cwricwlwm ac asesu.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Nid yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Deddf 2015) yn gosod unrhyw ddyletswyddau penodol ar ysgolion. Fodd bynnag, mae'n ei gwneud yn ofynnol i lywodraeth leol a chenedlaethol (ochr yn ochr â chyrff cyhoeddus eraill) sicrhau datblygu cynaliadwy. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt weithio i wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Mae angen i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol, ymhlith eraill, fynd i'r afael â hyn drwy bennu amcanion sydd wedi'u cynllunio i gynyddu eu cyfraniad at gyflawni pob un o'r saith nod lles i'r eithaf, a chymryd pob cam rhesymol i arfer ei swyddogaethau i gyflawni'r nodau hynny.

Mae Deddf 2015 yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw gymhwyso egwyddor datblygu cynaliadwy, sy'n cynnwys mabwysiadu ffyrdd o weithio a fydd yn helpu i sicrhau datblygu cynaliadwy pellach.

Un o amcanion lles Gweinidogion Cymru yw: ‘cefnogi pobl ifanc i gyflawni eu llawn botensial’. Mae ein dull o ddiwygio'r cwricwlwm yn cyfrannu at gyflawni'r amcan hwnnw, a thrwy hynny, yn cynyddu ein cyfraniad at y nodau lles i'r eithaf. Mae hefyd yn adlewyrchu egwyddor datblygu cynaliadwy a'r ffyrdd o weithio.

Rydym yn annog ysgolion, lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir a darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion, i ystyried sut y gallan nhw ymgorffori'r ffyrdd o weithio a chyfrannu at y nodau lles wrth gynllunio, mabwysiadu a rhoi eu cwricwlwm ar waith, a chynnwys dysgwyr, rhieni a gofalwyr a'u cymunedau ehangach, busnesau a phartneriaid yn y broses honno.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau

Hawliau dynol yw'r rhyddidau a'r amddiffyniadau y mae gan bawb yr hawl iddynt. Mae gan ddysgwyr hawliau dynol penodol sydd wedi'u hymgorffori yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, gan gynnwys protocolau dewisol. Yng Nghymru, mae hawliau plant yn hawl sylfaenol, nid yn rhywbeth ychwanegol dewisol. Mae'r rhain wedi'u hymgorffori o dan y gyfraith drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

Gwybodaeth

Wrth gynllunio, mabwysiadu a rhoi eu cwricwlwm ar waith, mae adran 64 o'r Ddeddf hefyd yn rhoi dyletswydd ar ysgolion, lleoliadau a darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion, i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ac o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, ymhlith y rhai sy'n darparu dysgu ac addysgu.

Ceir rhagor o ganllawiau ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn adran Hawliau dynol  Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn creu fframwaith deddfwriaethol i wella'r gwaith o gynllunio a chyflwyno darpariaeth dysgu ychwanegol, drwy nodi anhenion yn gynnar mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, rhoi cymorth a threfniadau monitro effeithiol ar waith, ac addasu ymyriadau i sicrhau eu bod yn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir.

Mae'r fframwaith cyfreithiol a sefydlwyd gan y Ddeddf hon yn chwarae rôl hanfodol i alluogi'r cwricwlwm i greu ysgolion cryf a chynhwysol sy'n ymrwymedig i sicrhau rhagoriaeth, tegwch a lles.

Nod y Fframwaith yw galluogi dysgu ehangach a sicrhau bod pob dysgwr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael cymorth i oresgyn rhwystrau i ddysgu ac yn gallu gwireddu eu potensial yn llawn.

Nod y system ADY a'r Fframwaith yw creu system addysg gynhwysol a theg yng Nghymru. Mae darpariaethau'r Ddeddf yn rhoi'r egwyddor hon ar waith drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau, lle bynnag y bo'n bosibl, bod plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i gymryd rhan lawn mewn addysg brif ffrwd.