English

1. Cyflwyniad

Mae Academi Seren yn fenter a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru sy'n ymroddedig i gefnogi dysgwyr mwyaf galluog Cymru sy'n cael eu haddysgu gan y wladwriaeth i gyflawni eu potensial academaidd llawn i brifysgolion blaenllaw a llwyddo ar raglenni gradd dethol iawn.

Mae’r academi yn bodoli ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 8 i 13 mewn ysgolion gwladol a cholegau addysg bellach ledled Cymru, waeth beth fo’u cefndir economaidd, eu sefyllfa bersonol na'u lleoliad.

Mae rhaglen yr academi yn cynnwys hybrid o weminarau, dosbarthiadau meistr academaidd, sesiynau tiwtorial, grwpiau trafod, mentora, cystadlaethau academaidd, cyngor ac arweiniad, profiadau cyflogwyr, ymweliadau ac ysgolion haf ym mhrifysgolion blaenllaw y DU.

Mae Academi Seren bellach yn gweithredu fel un rhaglen barhaus sy'n cefnogi dysgwyr drwy dri cham o gynnydd. Ar bob cam, darperir cyfleoedd i ddysgwyr i wneud ymchwil uwchgwricwlaidd pellach a gwthio ffiniau eu datblygiad academaidd a'u hymgysylltiad.

Cam 01 (Blynyddoedd 8 a 9)

Mae'n cefnogi dysgwyr i ddarganfod yr hyn sy'n eu tanio, gwneud y dewisiadau iawn drostynt eu hunain, gweld y posibiliadau o ran eu taith addysgol, a dechrau ar astudiaethau uwchgwricwlaidd.

Cam 02 (Blynyddoedd 10 a 11)

Mae'n darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau a chystadlaethau uwchgwricwlaidd, cyfleoedd i gael blas ar fywyd prifysgol ac arweiniad ar gyfer y cam nesaf ar eu taith addysgol.

Cam 03 (Blynyddoedd 12 a 13)

Cefnogaeth benodol i fynd i brifysgolion blaenllaw, a chyfleoedd unigryw i ddysgwyr gael cyngor uniongyrchol gan diwtoriaid derbyn prifysgolion ar sut i wneud cais, datblygu datganiadau personol cystadleuol, paratoi ar gyfer profion derbyn a delio â chyfweliadau

  • Nesaf

    Meini Prawf Cymhwystra