English

Mae Taith yn darparu cyllid i alluogi dysgwyr a staff gymryd rhan mewn teithiau cyfnewid addysgol rhyngwladol. Mae hefyd yn dod â dysgwyr ac addysgwyr o bob cwr o'r byd i Gymru.

Cafodd y rhaglen, sy’n cwmpasu sawl blwyddyn ac yn cael cyllid o £65 miliwn gan Lywodraeth Cymru, ei lansio yn 2002 ac mae’n cynnig cyfleoedd i deithio a dysgu a all drawsnewid bywydau dysgwyr a staff ym mhob rhan o Gymru ac ym mhob math o addysg:

  • addysg i oedolion
  • addysg bellach ac addysg a hyfforddiant galwedigaethol
  • addysg uwch
  • ysgolion
  • gwaith ieuenctid

Mae Taith yn darparu cyfleoedd am gyllid drwy ddwy ffenestr ymgeisio wahanol, neu ‘Lwybrau’, sy’n agor ar gyfer ceisiadau ar ddau bwynt gwahanol yn y flwyddyn.

Mae Llwybr 1 yn cefnogi symudedd dysgwyr a staff. Mae ‘symudedd’ Taith yn golygu unrhyw weithgaredd lle mae unigolyn yn cymryd rhan mewn profiad dysgu rhyngwladol. Mae pob enghraifft o symudedd a gyllidir gan Taith yn symudedd corfforol (er enghraifft, ymweld ag ysgol yn Ffrainc) ond mae’r rhaglen hefyd yn rhoi cymorth â symudedd rhithiol.

Mae prosiectau Llwybr 2 yn canolbwyntio ar bartneriaethau a chydweithio. Mae’r prosiectau hyn yn creu partneriaethau rhyngwladol sy’n cael eu harwain o Gymru sy'n cynhyrchu canlyniadau diriaethol (er enghraifft adroddiad neu gynhadledd) i fynd i'r afael â mater penodol.

Dylai cyfranogwyr sydd â diddordeb siarad â'u hysgol yn y lle cyntaf.

Cyn ymgeisio, awgrymir bod ysgolion yn edrych ar ganllawiau craidd y rhaglen er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni’r meini prawf.

I ymgeisio am gyllid, rhaid i ysgolion ddefnyddio’r ffurflen gais ar gyfer y Llwybr perthnasol a'r offeryn cyfrifo grant sydd ar gael ar wefan Taith. Mae'r ffurflen gais yn gofyn am ymatebion i amrywiaeth o gwestiynau gan gynnwys trosolwg o’r prosiect a manylion am y gweithgareddau arfaethedig, rheolaeth y project a rheolaeth ariannol ac a yw’n cyd-fynd ag amcanion rhaglen Taith.

Mae tîm Taith wedi ymrwymo i gefnogi ysgolion drwy ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddynt, a gellir cysylltu â nhw drwy e-bostio ymholiadau@taith.cymru. Er mwyn rhoi cefnogaeth bellach i ymgeiswyr, mae Taith yn cynnal digwyddiadau cymorth sector benodol a fydd yn eich arwain trwy’r broses ymgeisio. Cynhelir y digwyddiadau yn ystod yr ychydig wythnosau ar ôl i alwad am gyllid agor. Gallwch weld digwyddiadau blaenorol ar wefan Taith.

Tanysgrifiwch i’r cylchlythyr a dilynwch Taith ar y cyfryngau cymdeithasol am ragor o wybodaeth am y rhaglen a’r cymorth sydd ar gael.