English

Diolch am ymweld â llwyfan Hwb, sy'n cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru (ni). Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi sut rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn defnyddio gwasanaethau Hwb. Ystyr ‘gwybodaeth bersonol’ yn yr hysbysiad hwn yw gwybodaeth sy'n ymwneud â chi, y gellir ei defnyddio i'ch adnabod. 

Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i wefannau a gwasanaethau eraill y gallwch gael eu cyfeirio iddynt drwy lwyfan Hwb. Rydym yn eich annog i ddarllen yr hysbysiadau preifatrwydd ar y gwefannau eraill y byddwch yn ymweld â nhw.

Mae hawliau gennych mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch, sef:

  • yr hawl i wneud cais i weld yr wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch, sef 'cais am fynediad at ddata gan y testun'
  • yr hawl i ofyn am i unrhyw wybodaeth anghywir rydym yn ei chadw amdanoch gael ei chywiro
  • yr hawl i ofyn am i'ch gwybodaeth gael ei dileu
  • yr hawl i wneud cais i atal neu gyfyngu ar y defnydd o'ch data personol (cyfyngu ar brosesu)
  • yr hawl i wrthwynebu'r defnydd o'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion personol
  • yr hawl i weld eich gwybodaeth mewn fformat cludadwy
  • yr hawl i wrthwynebu dulliau cwbl awtomataidd o wneud penderfyniadau amdanoch

Mae llawer o'r hawliau a restrir yn gyfyngedig i amgylchiadau diffiniedig penodol ac efallai na allwn gydymffurfio â'ch cais yn llawn. Byddwn yn dweud wrthych os felly y mae. Gallwch ddarllen mwy am eich hawliau ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Os byddwch yn cyflwyno cais i ni, byddwn yn ymateb ichi o fewn un mis calendr. Ni fyddwn yn codi ffi arnoch am ddelio â'ch cais.

Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion llawn am bob agwedd ar y ffordd rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth neu esboniad ychwanegol sydd eu hangen.

Os hoffech wneud cais am ragor o wybodaeth am ein hysbysiad preifatrwydd, arfer unrhyw un o'ch hawliau neu wneud cwyn, e-bostiwch ni yn swyddogdiogeludata@llyw.cymru neu ysgrifennwch i:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am lwyfan Hwb neu wasanaethau Hwb, e-bostiwch ni yn cymorth@hwbcymru.net neu ysgrifennwch i:

Is-adran Dysgu Digidol (Hwb)
Llywodraeth Cymru
Llys-y-ddraig
Parc Busnes Penlle'r-gaer
Abertawe
SA4 9NX

Rydym yn ceisio cyrraedd y safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Felly, rydym yn croesawu eich adborth ac yn ystyried unrhyw gwynion rydym yn eu cael mewn perthynas â hyn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i ddweud wrthym os ydynt o'r farn bod y ffordd rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu'n amhriodol.

Os byddwch yn cysylltu â ni, efallai y bydd angen inni gysylltu ag adrannau eraill o'r llywodraeth er mwyn ateb eich ymholiad. Os bydd gennych gwestiwn technegol, efallai y bydd angen inni ei drosglwyddo i'n cyflenwyr technegol.

Ni fyddwn yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch wrth ddelio â'ch ymholiad, oni fyddwch wedi rhoi caniatâd inni wneud hynny. Pan fyddwn wedi ymateb i chi, byddwn yn cadw cofnod o'ch neges at ddibenion archwilio.

Os bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn cyhoeddi fersiwn wedi'i diweddaru ar wefan Hwb. Os byddwn yn gwneud newidiadau sylweddol, byddwn yn rhoi gwybod ichi am y newidiadau hynny.

Cafodd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 21 Awst 2024.

Mae'r wefan hon wedi'i strwythuro mewn ffordd sy'n eich galluogi i'w defnyddio heb ddweud pwy ydych neu ddatgelu unrhyw wybodaeth bersonol. Os byddwch yn dewis mewngofnodi i'r wefan, ni fyddwn yn casglu unrhyw ddata personol sy'n datgelu pwy ydych yn benodol. Fodd bynnag, byddwn yn casglu gwybodaeth benodol yn awtomatig pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan, a all gynnwys gwybodaeth dechnegol, fel y cyfeiriad Protocol Rhyngwladol (IP) a ddefnyddiwyd i gysylltu eich cyfrifiadur â'r rhyngrwyd, y math o borwr a'r fersiwn, y rhanbarth amser, y mathau o ategion porwyr a'r fersiynau, y systemau gweithredu a'r llwyfan.

Defnyddir yr wybodaeth hon i sicrhau bod cynnwys y wefan yn cael ei gyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithiol i chi a'ch dyfais.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i wneud y canlynol:

  • datblygu, profi a gwella ein systemau
  • sicrhau bod cynnwys ein gwefan yn cael ei gyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithiol i chi a'ch cyfrifiadur
  • gweinyddu ein gwefan
  • ar gyfer gweithrediadau mewnol, gan gynnwys datrys problemau, profi, ymchwilio, dibenion ystadegol ac arolygon
  • gwneud gwaith dadansoddi ystadegol, gan gynnwys ymarferion meincnodi, er mwyn inni eich deall yn well a gwella ein gwasanaethau

Gall ymwelwyr â gwefan Hwb sydd â chyfrif Hwb fewngofnodi i ddefnyddio'r llwyfan a'r gwasanaethau. Darllenwch ‘Rhan 3 Gwybodaeth benodol yn ôl math o ddefnyddiwr’ isod i gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth bersonol a rennir â Llywodraeth Cymru a'r gwasanaethau sydd ar gael i wahanol ddefnyddwyr Hwb. 

Bydd gwybodaeth bersonol a ddefnyddir i greu eich cyfrif Hwb unigryw yn cael ei chadw am y cyfnod y bydd eich cyfrif yn weithredol. Bydd y cyfnod hwn yn dibynnu ar y math o gyfrif sydd gennych, yn unol â'r cyfnodau cadw canlynol:

Caiff cyfrifon ar gyfer dysgwyr a staff mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru eu creu yn awtomatig o'r data yn System Gwybodaeth Reoli eich ysgol, h.y. SIMS neu'r Ganolfan Athrawon. Yr enw ar y rhain yw 'cyfrifon MIS'. Mae cyfrifon MIS yn parhau'n weithredol cyhyd ag y bydd eich manylion yn rhan o MIS eich ysgol. Pan fyddwch yn gadael yr ysgol neu pan fydd eich cyflogaeth yn y sector ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn dod i ben, bydd eich cyfrif yn cael ei ddadactifadu'n awtomatig ac yna ei ddileu* ar ôl 12 mis, oni fyddwn yn cael cais i ailactifadu'r cyfrif yn ystod y cyfnod hwn.

Caiff cyfrifon nad ydynt yn rhai MIS eu creu â llaw gan weinyddwyr awdurdodedig Hwb ar gyfer defnyddwyr nad oes ganddynt gofnod dysgwr neu staff yn MIS ysgol. Gall y defnyddwyr hyn gynnwys llywodraethwyr, athrawon cyflenwi, staff awdurdod lleol, staff consortia rhanbarthol, arolygwyr Estyn, staff ôl-16, ac ati. Caiff cyfrifon nad ydynt yn rhai MIS eu hactifadu am gyfnod penodol o amser, h.y. mis, tri mis, chwe mis neu tan ddiwedd y flwyddyn academaidd (h.y. 31 Awst). Caiff pob cyfrif nad ydw'n gyfrif MIS ei ddadactifadu'n awtomatig ar ôl i'r cyfnod penodol o amser ddod i ben neu pan ddaw'r flwyddyn academaidd i ben ac yna ei ddileu* ar ôl 12 mis, oni chaiff cyfnod y cyfrif ei ymestyn gan un o weinyddwyr Hwb neu daw cais i law i ailactifadu'r cyfrif yn ystod y cyfnod o 12 mis.

*Pan gaiff cyfrif Hwb ei ddileu, caiff yr holl wybodaeth bersonol sy'n gysylltiedig ag ef ei dileu. Mae hyn yn cynnwys holl wasanaethau cysylltiedig Hwb, gan gynnwys cyfrif Microsoft 365 defnyddiwr a chyfrif Google Workspace for Education. Ewch i Ddatganiad Preifatrwydd MicrosoftChanolfan Gymorth Google am ragor o wybodaeth neu cysylltwch â'ch ysgol, neu sefydliad, ynglŷn â dileu cyfrifon.

Pan fydd amgylchiadau eithriadol, e.e. ymchwiliad ffurfiol neu achos o ymgyfreitha, yn mynd rhagddo neu yn yr arfaeth, mae'n bosibl y caiff cyfrif defnyddiwr Hwb ei atal nes y cawn gyfarwyddyd fel arall.

Mae ein Canolfan Cymorth yn cynnwys rhagor o wybodaeth am reoli cyfrifon a chyfnodau cadw cyfrifon.

Mae'n bosibl y bydd newidiadau cytundebol rhwng Llywodraeth Cymru a darparwr y gwasanaeth perthnasol yn effeithio ar gyfnod cadw gwybodaeth bersonol a gaiff ei lanlwytho i wasanaethau Hwb, neu fel arall, gall gael ei dileu yn unol â chyfnodau cadw data lleol a bennir gan ysgolion unigol, awdurdodau lleol a sefydliadau. Cysylltwch â'ch ysgol leol, awdurdod lleol neu sefydliadol i gael rhagor o wybodaeth am gyfnodau cadw data lleol.

Fel llawer o wefannau, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio cwcis ar wefan Hwb. Darnau bach o wybodaeth a anfonir gan weinydd gwe at borwr gwe yw cwcis, sy'n galluogi'r gweinydd i gasglu gwybodaeth gan y porwr.

Mae ein cwcis yn casglu gwybodaeth am eich cyfeiriad IP, eich system weithredu a'ch defnydd o'n gwefan.

Pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan, byddwn yn defnyddio cwcis hanfodol i'ch galluogi i'w llywio a defnyddio ei nodweddion sylfaenol, fel cynnal manylion eich cyfrif am gyfnod y sesiwn. Mae'r cwcis hanfodol hyn yn angenrheidiol i redeg a defnyddio'r wefan ac ni ellir eu gwrthod.

Rydym hefyd yn defnyddio cwcis i wella ymarferoldeb y wefan drwy, er enghraifft, storio unrhyw ddewisiadau y byddwch yn eu nodi. Gallwch ddewis gwrthod cwcis sy'n mesur eich defnydd o'r wefan.

Mae gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn cynnwys rhagor o wybodaeth am gwcis. I gael rhagor o wybodaeth am gwcis Hwb, darllenwch Bolisi Cwcis Hwb.

Datblygwyd y llwyfan hwn gan Lywodraeth Cymru mewn ffordd sy'n galluogi unrhyw un i'w bori heb fewngofnodi.

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio mewn ffordd wahanol os byddwch yn penderfynu mewngofnodi, neu yn dibynnu a'r b'un a ydych yn ddysgwr, yn aelod o staff, yn llywodraethwr neu'n rhywun arall sy'n gweithio yn y sector addysg ehangach yng Nghymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyfrif Hwb unigryw a diogel i bob dysgwr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru y gellir ei ddefnyddio i gael mynediad at yr asesiadau personol a gwasanaethau Hwb. Ceir rhagor o wybodaeth am asesiadau personol ar Hwb. Caiff eich cyfrif Hwb ei greu yn awtomatig a'i ddiweddaru'n barhaus gan ddefnyddio'r wybodaeth y byddwn yn ei chael o System Gwybodaeth Reoli (MIS) eich ysgol, a gaiff ei chynnal gan eich ysgol.

Os byddwch am ddefnyddio'r adnoddau digidol a'r gwasanaethau sydd ar gael i ddysgwyr ar y llwyfan, bydd angen ichi fewngofnodi.

I ddysgwyr, bydd Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y ffyrdd a nodir isod:

1. Creu eich cyfrif Hwb unigryw – pa wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch?

Bydd eich ysgol yn darparu'r wybodaeth bersonol ganlynol amdanoch i Lywodraeth Cymru er mwyn creu eich cyfrif Hwb unigryw:

  • Enw cyntaf
  • Enw(au) canol
  • Cyfenw
  • Dyddiad geni
  • Rhyw
  • Enw a rhif yr ysgol
  • Grŵp blwyddyn, grŵp blwyddyn y Cwricwlwm Cenedlaethol, grŵp cofrestru, grwpiau dosbarth a grwpiau pwnc
  • Rhif mynediad yr ysgol
  • Statws cofrestru h.y. a ydych wedi'ch cofrestru ar hyn o bryd (cyfrif gweithredol) neu a ydych wedi gafael yr ysgol (cyfrif wedi'i ddadactifadu)
  • Statws cofrestru, e.e. os ydych yn mynychu un ysgol neu fwy
  • Eich rhif disgybl unigryw, a gaiff ei amgryptio wedyn
  • Eich rôl gyffredinol yn yr ysgol h.y. er mwyn pennu eich bod yn ddysgwr

Byddwn yn creu eich cyfrif a phob tro y byddwch yn mewngofnodi i'r llwyfan, byddwn yn gwirio eich manylion. Caiff yr wybodaeth bersonol a ddefnyddir i greu eich cyfrif Hwb unigryw ei storio ar Gwmwl Microsoft mewn ardal ddiogel a weithredir gan Lywodraeth Cymru ac a leolir yn y Deyrnas Unedig a/neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Mae gan Lywodraeth Cymru rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu cyfrif Hwb unigryw a diogel i bob dysgwr yng Nghymru, y gellir ei ddefnyddio i gael mynediad at yr asesiadau personol (gweler Adran 4 isod).

Mae darparu llwyfan diogel i ddysgwyr ei ddefnyddio yn rhan bwysig o'n cenhadaeth i wella safonau addysg yng Nghymru. Mae defnyddio eich gwybodaeth bersonol i'ch galluogi i fewngofnodi'n ddiogel yn hanfodol, a chaiff ei wneud er budd y cyhoedd.

2. Mewngofnodi i lwyfan Hwb

Pan fyddwn wedi creu eich cyfrif Hwb, byddwch yn gallu mewngofnodi i'r llwyfan er mwyn cael mynediad at yr asesiadau personol a gwasanaethau Hwb (gweler pwynt 5 am fanylion llawn).

Pan fyddwch yn defnyddio eich cyfrif Hwb, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i'ch adnabod a'ch galluogi i ddefnyddio'r llwyfan. Byddwn yn cadw cofnod bob tro y byddwch yn mewngofnodi at ddibenion archwilio a bydd y cofnod hwnnw yn cael ei gadw am flwyddyn.

Mae defnyddio eich gwybodaeth bersonol i'ch adnabod a gwirio eich sesiwn bori yn bwysig er mwyn sicrhau bod y llwyfan yn parhau'n ddiogel. Mae hyn yn hanfodol, a chaiff ei wneud er budd y cyhoedd.

3. Defnyddio llwyfan Hwb

Ni fydd angen ichi ddarparu unrhyw wybodaeth bersonol arall i ddefnyddio'r llwyfan.

Yn dibynnu ar y ffordd y byddwch yn defnyddio'r llwyfan, efallai y byddwch yn dewis rhoi gwybodaeth bersonol arall inni. Er enghraifft, gallwch lanlwytho gwybodaeth, personoli eich tudalen broffil neu ddewis rhannu gwybodaeth ag eraill. Mater i chi fydd penderfynu pa wybodaeth benodol y byddwch yn ei lanlwytho. Bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei lanlwytho yn cael ei phrosesu ar ein rhan gan ein darparwyr gwasanaethau.

Hysbysiad Pwysig

Nid ydym yn argymell eich bod yn lanlwytho gwybodaeth bersonol sy'n perthyn i'r ‘categorïau arbennig’ o wybodaeth bersonol a gydnabyddir gan gyfraith diogelu data. Mae'r rhain yn cynnwys gwybodaeth sy'n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig, safbwyntiau gwleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafur, gwybodaeth enetig, gwybodaeth fiometrig ar gyfer adnabod person yn unigryw, gwybodaeth am iechyd a gwybodaeth am fywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol person. Caiff gwybodaeth am droseddau ac euogfarnau ei thrin mewn ffordd debyg.

Os byddwch yn dewis lanlwytho unrhyw gyfryw wybodaeth, mae'n bwysig eich bod yn deall y gall fod ar gael i ddefnyddwyr eraill ein llwyfan ei gweld.

Bydd Llywodraeth Cymru a'i chontractwyr yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei lanlwytho i'r llwyfan yn unol â'ch cyfarwyddiadau.

Mae Canolfan Cymeradwyo a Chanolfan Cymorth Hwb yn cynnig cyngor ac arweiniad mewn perthynas â storio gwybodaeth ar lwyfan Hwb a'r gwasanaethau allanol cysylltiedig.

4. Asesiadau Personol

Fel rhan o'n hymrwymiad i wella safonau addysgol yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno asesiadau personol ar-lein i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 9 mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

Mae gan Lywodraeth Cymru rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu trefniadau asesu ar gyfer darllen a rhifedd i ddysgwyr. Bydd dysgwyr yn cwblhau asesiadau personol drwy lwyfan Hwb. Bydd eich ysgol yn dweud wrthych pan fydd angen ichi gwblhau'r rhain ac yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Mae asesiadau personol yn wahanol i brofion traddodiadol am fod y cwestiynau'n cael eu cynhyrchu yn seiliedig ar ymateb y dysgwr i'r cwestiwn blaenorol. Mae hyn yn cynnig profiad asesu unigol ac yn teilwra lefel yr her i bob dysgwr. Bydd pob dysgwr yn cael mynediad at yr asesiadau personol drwy ei fanylion mewngofnodi diogel i lwyfan Hwb.

Caiff yr asesiadau personol eu datblygu gan gonsortiwm o bartneriaid, wedi'i arwain gan AlphaPlus Consultancy Ltd, ar ran Llywodraeth Cymru. Byddwn yn casglu eich adborth ar yr asesiadau ac yn ei rannu â'ch ysgol.

Ar gyfer asesiadau personol, caiff eich data eu casglu a'u cadw yn unol â hysbysiad preifatrwydd yr ysgol ar gyfer casglu data

Dyma fanylion y data a brosesir gan ein cyflenwr ar ein rhan:

  • AlphaPlus Consultancy Ltd – Asesiadau Personol Ar-lein (gwasanaeth statudol)
  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Dyddiad geni
  • Rhyw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb
  • Cod adnabod unigryw Hwb (cod adnabod gwrthrych)
  • Enw a rhif yr ysgol
  • Grŵp blwyddyn, grŵp blwyddyn y Cwricwlwm Cenedlaethol, grŵp cofrestru, grwpiau dosbarth a grwpiau pwnc
  • Rhif mynediad yr ysgol
  • Statws cofrestru h.y. a ydych wedi'ch cofrestru ar hyn o bryd (cyfrif gweithredol) neu a ydych wedi gafael yr ysgol (cyfrif wedi'i ddadactifadu)
  • Statws cofrestru, e.e. os ydych yn mynychu un ysgol neu fwy
  • Eich rhif disgybl unigryw, a gaiff ei amgryptio wedyn
  • Eich rôl gyffredinol yn yr ysgol h.y. er mwyn pennu eich bod yn ddysgwr
  • Cod sy'n seiliedig ar eich rhif disgybl unigryw, h.y. rhif disgybl unigryw wedi'i amgryptio
  • Eich rôl gyffredinol yn yr ysgol h.y. er mwyn pennu eich bod yn ddysgwr

4.1 Treialu asesiadau personol

O bryd i'w gilydd, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal treialon ar raddfa fawr o ddeunydd asesu newydd lle y gofynnir i ysgolion gymryd rhan. Diben y treialon hyn yw cefnogi'r broses o ddatblygu'r asesiadau personol ar-lein, cadarnhau bod y cwestiynau newydd yn gweithio yn ôl y bwriad, a chael adborth gan ddysgwyr ac athrawon. Gofynnir i ysgolion sy'n dymuno cymryd rhan gofrestru ymlaen llaw.

Os yw eich ysgol yn cymryd rhan mewn treial, efallai y gofynnir ichi gwblhau asesiad, gan ddefnyddio eich manylion mewngofnodi Hwb yn yr ysgol. Bydd eich athro yn esbonio sut i gael mynediad at yr asesiad ac yn rhoi unrhyw gyfarwyddiadau penodol.

Bydd eich atebion yn cael eu cadw'n gyfrinachol a byddwn yn eu defnyddio i'n helpu i ddeall sut mae'r asesiadau'n gweithio. Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich atebion am 18 mis ar ôl diwedd pob treial, ac wedi hynny, bydd yr wybodaeth yn cael ei dileu. Ceir rhagor o wybodaeth am asesiadau personol ar Hwb.

Treialu cwestiynau unigol

O bryd i'w gilydd, gall eich asesiad gynnwys cwestiwn ‘arbrawf’ ychwanegol ar y diwedd. Ni fydd eich ateb i'r cwestiwn yn cael ei ystyried wrth bennu canlyniad eich asesiad nac yn cael ei gynnwys mewn unrhyw adroddiad.

Mae ychwanegu cwestiwn arbrawf at asesiad yn fodd i gasglu data ar y ffordd y mae dysgwyr yn ateb y cwestiynau newydd cyn iddynt gael eu hychwanegu at y banc o gwestiynu asesu. Os byddwch yn cael cwestiwn arbrawf, bydd yn cyfateb i'r flwyddyn cwricwlwm a hwn fydd cwestiwn olaf yr asesiad bob amser. Bydd eich ateb i'r cwestiwn arbrawf yn cael ei gadw ochr yn ochr â'ch data asesu eraill.

5. Gwasanaethau Hwb

Pan fyddwch yn mewngofnodi, bydd y llwyfan hwn yn eich galluogi i gael mynediad at y gwasanaethau canlynol a'u defnyddio:

  • Microsoft 365(gan gynnwys Word, Excel ac e-bost Outlook) a Minecraft: Education, y darperir pob un ohonynt gan Microsoft Corporation.
  • Cyfres o wasanaethau craidd cymeradwy Google Workspace for Education, a ddarperir gan Google Inc.
  • Cyfres adnoddau Thinqi, a ddarperir gan CDSM Interactive Solutions Ltd.
  • Cyfres adnoddau Just2easy, a ddarperir gan Just2easy Ltd.
  • Adobe Express (gan gynnwys Adobe Creative Cloud os oes gennych drwydded), a ddarperir gan Adobe Systems Software Ireland Limited.
  • Gwasanaethau Apple, a ddarperir gan Apple Inc (os yw eich ysgol wedi cofrestru ar eu cyfer).

Mae gwasanaethau Hwb ar gael drwy Lywodraeth Cymru i ysgolion a dysgwyr eu defnyddio, ond cânt eu gweithredu gan y contractwyr a restrir uchod. Bydd Llywodraeth Cymru yn anfon gwybodaeth benodol at y contractwyr hyn yn ddiogel er mwyn eich galluogi i ddefnyddio eu gwasanaethau. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn dewis ei lanlwytho wrth ddefnyddio'r gwasanaethau hyn yn cael ei thrin gan y contractwyr perthnasol.

Gan mai ein contractwyr sy'n darparu gwasanaethau Hwb, bydd unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhannu wrth ddefnyddio'r adnoddau hyn yn cael ei rhannu â'r contractwyr hyn ac, o bosibl, yn cael ei throsglwyddo'n ddiogel i leoliadau y tu allan i'r DU a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Er mwyn sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei diogelu, rydym wedi rhoi'r mesurau diogelwch cytundebol priodol ar waith. Er enghraifft, rydym yn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei storio ar ffurf cod fel na all neb arall ei darllen.

Dyma fanylion ein cyflenwyr a'r data a brosesir ganddynt:

CDSM Interactive Solutions Ltd – Llwyfan Hwb

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • E-bost Hwb
  • Enw a rhif yr ysgol

Just2easy – Cyfres adnoddau J2e

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Rhif yr ysgol

Microsoft Corporation – Office 365

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw arddangos
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb
  • Rôl
  • Rhif yr ysgol
  • Enw’r ysgol

Google Inc. – Google Workspace for Education

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb
  • Enw a rhif yr ysgol
  • Grwpiau dosbarth

Adobe Systems Software Ireland Limited – Adobe Express (ac Adobe Creative Cloud os oes gennych drwydded)

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb

Apple Inc. – Gwasanaethau Apple (dim ond os yw eich ysol wedi cofrestru ar gyfer gwasanaethau Apple)

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb
  • Enw a rhif yr ysgol
  • Grwpiau blwyddyn a dosbarth

6. Rhannu eich gwybodaeth

Gallwn rannu gwybodaeth amdanoch â rhannau eraill o Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, ysgolion neu gyda'n sefydliadau partner os byddwn yn fodlon eu bod yn bwriadu defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion addysgol neu ddibenion cysylltiedig sy'n gydnaws â'r ffordd rydym yn defnyddio eich gwybodaeth i ddarparu llwyfan Hwb, bod buddiant dilys i rannu'r wybodaeth honno neu ei bod yn ofynnol inni ei rhannu yn ôl y gyfraith. Gweler uchod y mathau o wybodaeth a rennir â'r sefydliadau hynny.

Lle y caiff eich gwybodaeth ei rhannu â sefydliad partner, byddwn yn sicrhau mai dim ond at ddibenion cyfyngedig y gall ddefnyddio eich gwybodaeth a'i fod yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Dylech ddarllen hysbysiadau preifatrwydd y sefydliadau hynny yn yr adran Gwybodaeth Ychwanegol isod.

7. Os byddwch yn cysylltu â ni

Byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch os byddwch yn cwblhau ffurflen ar-lein neu'n cysylltu â ni am unrhyw reswm arall. Bydd yr union wybodaeth bersonol yn dibynnu ar yr hyn y byddwch yn dewis ei roi i ni. Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ymateb i'ch ymholiad neu gais ar sail eich caniatâd.

Staff

Rhoddir cyfrif Hwb i bob aelod o staff mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru, y gellir ei ddefnyddio i gael mynediad at yr asesiadau personol a gwasanaethau Hwb. Caiff eich cyfrif Hwb ei greu yn awtomatig a'i ddiweddaru'n barhaus gan ddefnyddio'r wybodaeth y byddwn yn ei chael o System Gwybodaeth Reoli (MIS) eich ysgol, a gaiff ei chynnal gan eich ysgol. 

Os byddwch am ddefnyddio'r adnoddau digidol a'r gwasanaethau sydd ar gael i staff ar y llwyfan, bydd angen ichi fewngofnodi.

I staff, bydd Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y ffyrdd a nodir isod:

1. Creu eich cyfrif Hwb unigryw – pa wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch?

Bydd eich ysgol yn darparu'r wybodaeth bersonol ganlynol amdanoch i Lywodraeth Cymru er mwyn creu eich cyfrif Hwb unigryw:

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Teitl
  • Cod staff yr ysgol
  • Rhif adnabod staff
  • Enw a rhif yr ysgol
  • Grwpiau blwyddyn, cofrestru a dosbarth
  • Rôl gyffredinol yn yr ysgol h.y. er mwyn pennu eich bod yn aelod o staff
  • Rôl staff e.e. pennaeth, dirprwy bennaeth, athro, cynorthwyydd addysgu, technegydd TG, gweinydd, ac ati

Byddwn yn creu eich cyfrif a phob tro y byddwch yn penderfynu mewngofnodi i'r llwyfan, byddwn yn gwirio eich manylion. Caiff yr wybodaeth bersonol a ddefnyddir i greu eich cyfrif Hwb unigryw ei storio ar Gwmwl Microsoft mewn ardal ddiogel a weithredir gan Lywodraeth Cymru ac a leolir yn y Deyrnas Unedig a/neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Mae gan Lywodraeth Cymru rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu cyfrif Hwb unigryw a diogel i bob athro yng Nghymru, y gellir ei ddefnyddio i gael mynediad at yr asesiadau personol (gweler Adran 4 isod).

Mae darparu llwyfan diogel i staff ei ddefnyddio yn rhan bwysig o'n cenhadaeth i wella safonau addysg yng Nghymru. Mae defnyddio eich gwybodaeth bersonol i'ch galluogi i fewngofnodi'n ddiogel yn hanfodol, a chaiff ei wneud er budd y cyhoedd.

2. Mewngofnodi i lwyfan Hwb

Pan fyddwn wedi creu eich cyfrif Hwb, byddwch yn gallu mewngofnodi i'r llwyfan a chael mynediad i'r ardaloedd sydd ar gael i staff yn benodol. Mater i chi a'ch ysgol fydd penderfynu a ydych yn dymuno mewngofnodi i'r llwyfan, ond bydd angen ichi fewngofnodi i'r llwyfan er mwyn cael mynediad at yr asesiadau personol (gweler Adran 4 isod).

Pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf, byddwch yn gweld ‘Cytundeb Trwydded Defnyddiwr’ (Hysbysiad Pwysig). Bydd hwn yn cynnwys y dolenni i ddogfen ‘Telerau ac Amodau Hwb’ a fydd yn llywodraethu eich defnydd o'r llwyfan, yn ogystal â'r ‘Hysbysiad Preifatrwydd Hwb’ hwn. Bydd angen ichi glicio i gadarnhau eich bod yn derbyn y telerau ac amodau. Os bydd y telerau ac amodau neu'r hysbysiad preifatrwydd yn newid, bydd angen ichi aildderbyn y Cytundeb Trwydded Defnyddiwr.

Pan fyddwch yn defnyddio eich cyfrif Hwb, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i'ch adnabod a'ch galluogi i ddefnyddio'r llwyfan. Byddwn yn cadw cofnod bob tro y byddwch yn mewngofnodi at ddibenion archwilio a bydd y cofnod hwnnw yn cael ei gadw am flwyddyn.

Mae defnyddio eich gwybodaeth bersonol i'ch adnabod a gwirio eich sesiwn bori yn bwysig er mwyn sicrhau bod y llwyfan yn parhau'n ddiogel. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni ein tasg, a chaiff ei wneud er budd y cyhoedd.

3. Defnyddio llwyfan Hwb

Ni fydd angen ichi ddarparu unrhyw wybodaeth bersonol arall i ddefnyddio'r llwyfan.

Yn dibynnu ar y ffordd y byddwch yn defnyddio'r llwyfan, efallai y byddwch yn dewis rhoi gwybodaeth bersonol arall inni. Er enghraifft, gallwch lanlwytho gwybodaeth, personoli eich tudalen broffil neu ddewis rhannu gwybodaeth ag eraill. Mater i chi fydd penderfynu pa wybodaeth benodol y byddwch yn ei lanlwytho. Bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei lanlwytho yn cael ei phrosesu ar ein rhan gan ein darparwyr gwasanaethau.

Hysbysiad pwysig

Nid ydym yn argymell eich bod yn lanlwytho gwybodaeth bersonol sy'n perthyn i'r ‘categorïau arbennig’ o wybodaeth bersonol a gydnabyddir gan gyfraith diogelu data. Mae'r rhain yn cynnwys gwybodaeth sy'n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig, safbwyntiau gwleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafur, gwybodaeth enetig, gwybodaeth fiometrig ar gyfer adnabod person yn unigryw, gwybodaeth am iechyd a gwybodaeth am fywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol person. Caiff gwybodaeth am droseddau ac euogfarnau ei thrin mewn ffordd debyg.

Os byddwch yn dewis lanlwytho unrhyw gyfryw wybodaeth, mae'n bwysig eich bod yn deall y gall fod ar gael i ddefnyddwyr eraill ein llwyfan ei gweld.

Bydd Llywodraeth Cymru a'i chontractwyr yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei lanlwytho i'r llwyfan yn unol â'ch cyfarwyddiadau.

Mae Canolfan Cymeradwyo a Chanolfan Cymorth Hwb yn cynnig cyngor ac arweiniad mewn perthynas â storio gwybodaeth ar lwyfan Hwb a'r gwasanaethau allanol cysylltiedig.

4. Asesiadau Personol

Fel rhan o'n hymrwymiad i wella safonau addysgol yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno asesiadau personol ar-lein i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 9 mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

Mae gan Lywodraeth Cymru rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu trefniadau asesu ar gyfer darllen a rhifedd i ddysgwyr yng Nghymru.

Mae asesiadau personol yn wahanol i brofion traddodiadol am fod y cwestiynau'n cael eu cynhyrchu yn seiliedig ar ymateb y dysgwr i'r cwestiwn blaenorol. Mae hyn yn cynnig profiad asesu unigol ac yn teilwra lefel yr her i bob dysgwr. Bydd pob dysgwr yn cael mynediad at yr asesiadau personol drwy ei fanylion mewngofnodi diogel i lwyfan Hwb.

Gall aelodau o staff y rhoddwyd mynediad perthnasol iddynt weld gwybodaeth sy'n deillio o asesiadau dysgwyr unigol, a gwybodaeth sydd ar gael i'w choladu ar lefel grŵp neu ddosbarth, blwyddyn ac ysgol. Caiff lefel y mynediad a roddir i staff ei phennu gan bennaeth yr ysgol.

Ar gyfer asesiadau personol, caiff data eich dysgwyr eu casglu a'u cadw yn unol â Hysbysiad preifatrwydd yr ysgol ar gyfer casglu.

Dyma fanylion y data a brosesir gan ein cyflenwr:

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb
  • Enw a rhif yr ysgol
  • Grwpiau blwyddyn, cofrestru a dosbarth
  • Rôl gyffredinol yn yr ysgol h.y. er mwyn pennu eich bod yn aelod o staff
  • Rôl staff e.e. pennaeth, dirprwy bennaeth, athro, cynorthwyydd addysgu, technegydd TG, gweinydd, ac ati

4.1 Treialu asesiadau personol

O bryd i'w gilydd, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal treialon ar raddfa fawr o ddeunyddiau asesu newydd lle y gofynnir i ysgolion gymryd rhan. Diben y treialon hyn yw cefnogi'r broses o ddatblygu'r asesiadau personol ar-lein, cadarnhau bod y cwestiynau newydd yn gweithio yn ôl y bwriad, a chael adborth gan ddysgwyr ac athrawon. Caiff yr asesiadau eu datblygu a'u treialu gan gonsortiwm o bartneriaid, wedi'i arwain gan AlphaPlus Consultancy Ltd, ar ran Llywodraeth Cymru. Gofynnir i ysgolion sy'n dymuno cymryd rhan gofrestru ymlaen llaw.

Os yw eich ysgol yn cymryd rhan mewn treial, efallai y gofynnir ichi amserlennu asesiadau ar gyfer eich dysgwyr, gan ddefnyddio eich manylion mewngofnodi Hwb. Dylech esbonio i'ch dygwyr sut i gael mynediad at yr asesiadau a rhoi unrhyw gyfarwyddiadau penodol, yn unol â'r canllawiau a roddwyd.

Bydd ymatebion eich dysgwyr yn cael eu cadw'n gyfrinachol a byddant yn cael eu defnyddio i werthuso ymarferoldeb yr asesiadau. Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eu hymatebion am 18 mis ar ôl i'r treial ddod i ben, ac wedi hynny, bydd yr wybodaeth yn cael ei dileu. Ceir rhagor o wybodaeth am asesiadau personol ar Hwb.

Treialu cwestiynau unigol

O bryd i'w gilydd, gall asesiad gynnwys cwestiwn ‘arbrawf’ ychwanegol ar y diwedd. Ni fydd yr ateb i'r cwestiwn yn cael ei ystyried wrth bennu canlyniad asesiad dysgwyr nac yn cael ei gynnwys mewn unrhyw adroddiad.

Mae ychwanegu cwestiwn arbrawf at asesiad yn fodd i gasglu data ar y ffordd y mae dysgwyr yn ymateb i gwestiynau newydd cyn iddynt gael eu hychwanegu at y banc o gwestiynu asesu. Os bydd dysgwyr yn cael cwestiwn arbrawf, bydd yn cyfateb i'w blwyddyn cwricwlwm a hwn fydd cwestiwn olaf yr asesiad bob amser. Bydd ymatebion eich dysgwyr i'r cwestiynau ‘arbrawf’ yn cael eu cadw ochr yn ochr â'u data asesu eraill.

5. Gwasanaethau Hwb

Bydd y llwyfan yn eich galluogi i gael mynediad awtomatig at y gwasanaethau canlynol a'u defnyddio:

  • Microsoft 365(gan gynnwys Word, Excel ac e-bost Outlook) a Minecraft: Education, y darperir pob un ohonynt gan Microsoft Corporation.
  • Cyfres o adnoddau ar-lein cymeradwy Google Workspace for Education, gan gynnwys YouTube, a ddarperir gan Google Inc.
  • Cyfres adnoddau Thinqi, a ddarperir gan CDSM Interactive Solutions Ltd.
  • Cyfres adnoddau Just2easy, a ddarperir gan Just2easy Ltd.
  • Adobe Express (gan gynnwys Adobe Creative Cloud os oes gennych drwydded), a ddarperir gan Adobe Systems Software Ireland Limited.
  • Gwasanaethau Apple, a ddarperir gan Apple Inc (os yw eich ysgol wedi cofrestru ar eu cyfer).
  • 360 safe Cymru a 360 digi Cymru, a ddarperir gan South West Grid for Learning Trust Ltd (SWGfL).

Mae gwasanaethau Hwb ar gael drwy Lywodraeth Cymru i ddefnyddwyr y llwyfan, ond cânt eu gweithredu gan y contractwyr a restrir uchod. Bydd Llywodraeth Cymru yn anfon gwybodaeth benodol at y contractwyr hyn yn ddiogel er mwyn eich galluogi i ddefnyddio eu gwasanaethau. Caiff unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn dewis ei lanlwytho wrth ddefnyddio'r gwasanaethau hyn ei thrin gan y contractwr perthnasol.

Gan mai ein contractwyr sy'n darparu gwasanaethau Hwb, bydd unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhannu wrth ddefnyddio'r adnoddau hyn yn cael ei rhannu â'r contractwyr hyn ac, o bosibl, yn cael ei throsglwyddo'n ddiogel i leoliadau y tu allan i'r DU a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Er mwyn sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei diogelu, rydym wedi rhoi'r mesurau diogelwch cytundebol priodol ar waith. Er enghraifft, rydym yn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei storio ar ffurf cod fel na all neb arall ei darllen.

Cred Llywodraeth Cymru fod sicrhau bod y gwasanaethau Hwb a restrir uchod ar gael i staff yn rhan bwysig o'n cenhadaeth i wella safonau addysg yng Nghymru. Mae defnyddio eich gwybodaeth bersonol i'ch galluogi i gael mynediad at y gwasanaethau hyn a'u defnyddio yn angenrheidiol i gyflawni'r dasg hon, a chaiff ei wneud er budd y cyhoedd.

Mater i chi fydd penderfynu sut y byddwch yn defnyddio gwasanaethau Hwb a bydd yn dibynnu ar sut y byddwch chi a'ch ysgol yn dewis cyflawni eich rhwymedigaethau cyfreithiol. Dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau y bydd eich ysgol yn eu rhoi ichi a thelerau ac amodau ein Cytundeb Trwydded Defnyddiwr. Bydd ein contractwyr yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei lanlwytho i'r gwasanaethau allanol hyn yn unol â'ch cyfarwyddiadau.

Dyma fanylion ein cyflenwyr a'r data a brosesir ganddynt:

CDSM Interactive Solutions Ltd – Llwyfan Hwb

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb
  • Enw a rhif yr ysgol

Just2easy – Cyfres adnoddau J2e

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Enw a rhif yr ysgol

Microsoft Corporation – Microsoft 365

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw arddangos
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb
  • Rôl gyffredinol yn yr ysgol
  • Enw a rhif yr ysgol
  • Awdurdod lleol

Google Inc. – Google Workspace for Education (gan gynnwys YouTube)

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb
  • Enw a rhif yr ysgol
  • Grwpiau dosbarth

Adobe Systems Software Ireland Limited – Adobe Express (ac Adobe Creative Cloud os oes gennych drwydded)

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb

Apple Inc. – Gwasanaethau Apple (dim ond os yw eich ysol wedi cofrestru ar gyfer gwasanaethau Apple)

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb
  • Enw a rhif yr ysgol
  • Grwpiau blwyddyn a dosbarth

South West Grid for Learning Trust Ltd (SWGfL) – 360 safe Cymru a 360 digi Cymru

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb
  • Enw a rhif yr ysgol
  • Awdurdod lleol
  • Rôl staff

Freshworks Ltd – Freshservice

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb
  • Enw a rhif yr ysgol
  • Rôl gyffredinol
  • Statws gweinyddwr Hwb
  • Awdurdod lleol

6. Rhannu eich gwybodaeth

Gallwn rannu gwybodaeth amdanoch â rhannau eraill o Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, ysgolion neu gyda'n sefydliadau partner os byddwn yn fodlon eu bod yn bwriadu defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion addysgol neu ddibenion cysylltiedig sy'n gydnaws â'r ffordd rydym yn defnyddio eich gwybodaeth i ddarparu llwyfan Hwb, bod buddiant dilys i rannu'r wybodaeth honno neu ei bod yn ofynnol inni ei rhannu yn ôl y gyfraith. Gweler uchod y mathau o wybodaeth a rennir â'r sefydliadau hynny.

Lle y caiff eich gwybodaeth ei rhannu â sefydliad partner, byddwn yn sicrhau mai dim ond at ddibenion cyfyngedig y gall ddefnyddio eich gwybodaeth a'i fod yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Dylech ddarllen hysbysiadau preifatrwydd y sefydliadau hynny yn yr adran Gwybodaeth Ychwanegol isod.

7. Os byddwch yn cysylltu â ni

Byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch os byddwch yn cwblhau ffurflen, yn cofrestru ar gyfer digwyddiad (gweler Rhan 4 isod), neu'n cysylltu â ni am unrhyw reswm arall. Bydd yr union wybodaeth bersonol yn dibynnu ar yr hyn y byddwch yn dewis ei roi i ni. Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ymateb i'ch ymholiad neu gais ar sail eich caniatâd.

Gellir rhoi cyfrif Hwb i lywodraethwyr ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Caiff y cyfrifon hyn eu dyrannu a'u cynnal yn uniongyrchol gan bob ysgol neu awdurdod lleol. Os byddwch am ddefnyddio'r holl adnoddau digidol a gwasanaethau sydd ar gael i lywodraethwyr ar y llwyfan, bydd angen ichi fewngofnodi. 

I lywodraethwyr, bydd Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y ffyrdd a nodir isod:

1. Creu eich cyfrif Hwb unigryw – pa wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch?

Bydd eich ysgol neu eich awdurdod lleol yn darparu'r wybodaeth bersonol ganlynol amdanoch i Lywodraeth Cymru er mwyn creu eich cyfrif Hwb unigryw:

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Eich rôl h.y. llywodraethwr
  • Enw a rhif yr ysgol

Byddwn yn creu eich cyfrif a phob tro y byddwch yn penderfynu mewngofnodi i'r llwyfan, byddwn yn gwirio eich manylion. Caiff yr wybodaeth bersonol a ddefnyddir i greu eich cyfrif Hwb unigryw ei storio ar Gwmwl Microsoft mewn ardal ddiogel a weithredir gan Lywodraeth Cymru ac a leolir yn y Deyrnas Unedig a/neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Mae datblygu llwyfan diogel i lywodraethwyr ei ddefnyddio yn rhan bwysig o'n cenhadaeth i wella safonau addysg yng Nghymru. Mae defnyddio eich gwybodaeth i ddarparu manylion mewngofnodi unigryw a diogel i lywodraethwyr unigol er budd y cyhoedd.

2. Mewngofnodi i lwyfan Hwb

Pan fyddwn wedi creu eich cyfrif Hwb, byddwch yn gallu mewngofnodi i'r llwyfan a chael mynediad i'r ardaloedd sydd ar gael i lywodraethwyr yn benodol. Mater i chi fydd penderfynu a ydych am fewngofnodi i'r llwyfan.

Pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf, byddwch yn gweld ‘Cytundeb Trwydded Defnyddiwr’ (Hysbysiad Pwysig). Bydd hwn yn cynnwys y dolenni i ddogfen ‘Telerau ac Amodau Hwb’ a fydd yn llywodraethu eich defnydd o'r llwyfan, yn ogystal â'r ‘Hysbysiad Preifatrwydd Hwb’ hwn. Bydd angen ichi glicio i gadarnhau eich bod yn derbyn y telerau ac amodau. Os bydd y telerau ac amodau neu'r hysbysiad preifatrwydd yn newid, bydd angen ichi aildderbyn y Cytundeb Trwydded Defnyddiwr.

Pan fyddwch yn defnyddio eich cyfrif Hwb, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i'ch adnabod a'ch galluogi i ddefnyddio'r llwyfan. Byddwn yn cadw cofnod bob tro y byddwch yn mewngofnodi at ddibenion archwilio a bydd y cofnod hwnnw yn cael ei gadw am flwyddyn.

Mae defnyddio eich gwybodaeth bersonol i'ch adnabod a gwirio eich sesiwn bori yn bwysig er mwyn sicrhau bod y llwyfan yn parhau'n ddiogel. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni ein tasg, a chaiff ei wneud er budd y cyhoedd.

3. Defnyddio llwyfan Hwb

Ni fydd angen ichi ddarparu unrhyw wybodaeth bersonol arall i ddefnyddio'r llwyfan.

Yn dibynnu ar y ffordd y byddwch yn defnyddio'r llwyfan, efallai y byddwch yn dewis rhoi gwybodaeth bersonol arall inni. Er enghraifft, gallwch lanlwytho gwybodaeth, personoli eich tudalen broffil neu ddewis rhannu gwybodaeth ag eraill. Mater i chi fydd penderfynu pa wybodaeth benodol y byddwch yn ei lanlwytho. Bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei lanlwytho yn cael ei phrosesu ar ein rhan gan ein darparwyr gwasanaethau.

Hysbysiad Pwysig

Nid ydym yn argymell eich bod yn lanlwytho gwybodaeth bersonol sy'n perthyn i'r ‘categorïau arbennig’ o wybodaeth bersonol a gydnabyddir gan gyfraith diogelu data. Mae'r rhain yn cynnwys gwybodaeth sy'n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig, safbwyntiau gwleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafur, gwybodaeth enetig, gwybodaeth fiometrig ar gyfer adnabod person yn unigryw, gwybodaeth am iechyd a gwybodaeth am fywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol person. Caiff gwybodaeth am droseddau ac euogfarnau ei thrin mewn ffordd debyg.

Os byddwch yn dewis lanlwytho unrhyw gyfryw wybodaeth, mae'n bwysig eich bod yn deall y gall fod ar gael i ddefnyddwyr eraill ein llwyfan ei gweld.

Bydd Llywodraeth Cymru a'i chontractwyr yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei lanlwytho i'r llwyfan yn unol â'ch cyfarwyddiadau.

Mae Canolfan Cymeradwyo a Chanolfan Cymorth Hwb yn cynnig cyngor ac arweiniad mewn perthynas â storio gwybodaeth ar lwyfan Hwb a'r gwasanaethau allanol cysylltiedig.

4. Gwasanaethau Hwb

Bydd y llwyfan yn eich galluogi i gael mynediad awtomatig at y gwasanaethau canlynol a'u defnyddio:

  • Cyfres Microsoft 365 o adnoddau ar-lein, a ddarperir gan Microsoft Corporation, e.e. Word, Excel ac Outlook (e-bost).
  • Cyfres o adnoddau ar-lein Google Workspace for Education Fundamentals, gan gynnwys YouTube, a ddarperir gan Google Inc.
  • Cyfres adnoddau Thinqi, a ddarperir gan CDSM Interactive Solutions Ltd.
  • Freshservice, a ddarperir gan Freshworks Ltd.

Mae gwasanaethau Hwb ar gael drwy Lywodraeth Cymru i ddefnyddwyr y llwyfan, ond cânt eu gweithredu gan y contractwyr a restrir uchod. Bydd Llywodraeth Cymru yn anfon gwybodaeth benodol at y contractwyr hyn yn ddiogel er mwyn eich galluogi i ddefnyddio eu gwasanaethau. Caiff unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn dewis ei lanlwytho wrth ddefnyddio'r gwasanaethau hyn ei thrin gan y contractwr perthnasol.

Gan mai ein contractwyr sy'n darparu gwasanaethau Hwb, bydd unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhannu wrth ddefnyddio'r adnoddau hyn yn cael ei rhannu â'r contractwyr hyn ac, o bosibl, yn cael ei throsglwyddo'n ddiogel i leoliadau y tu allan i'r DU a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Er mwyn sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei diogelu, rydym wedi rhoi'r mesurau diogelwch cytundebol priodol ar waith. Er enghraifft, rydym yn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei storio ar ffurf cod fel na all neb arall ei darllen.

Cred Llywodraeth Cymru fod sicrhau bod y gwasanaethau Hwb a restrir uchod ar gael i lywodraethwyr yn rhan bwysig o'n cenhadaeth i wella safonau addysg yng Nghymru. Mae defnyddio eich gwybodaeth bersonol i'ch galluogi i gael mynediad at y gwasanaethau hyn a'u defnyddio yn angenrheidiol i gyflawni'r dasg hon, a chaiff ei wneud er budd y cyhoedd.

Mater i chi fydd penderfynu sut y byddwch yn defnyddio gwasanaethau Hwb a bydd yn dibynnu ar sut y byddwch chi a'ch ysgol neu eich awdurdod lleol yn dewis cyflawni eich dyletswyddau fel llywodraethwr. Dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau y bydd eich ysgol neu eich awdurdod lleol yn eu rhoi ichi a thelerau ac amodau ein Cytundeb Trwydded Defnyddiwr. Bydd ein contractwyr yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei lanlwytho i'r gwasanaethau allanol hyn yn unol â'ch cyfarwyddiadau.

Dyma fanylion ein cyflenwyr a'r data a brosesir ganddynt:

CDSM Interactive Solutions Ltd – Llwyfan Hwb

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb
  • Enw a rhif yr ysgol
  • Rôl (h.y. Llywodraethwr)

Microsoft Corporation – Office 365

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb
  • Enw a rhif yr ysgol
  • Rôl (h.y. Llywodraethwr)

Google Inc. – Google Workspace for Education Fundamentals

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb
  • Enw a rhif yr ysgol

Freshworks Ltd – Freshservice

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb
  • Enw a rhif yr ysgol
  • Rôl (h.y. Llywodraethwr)
  • Statws gweinyddwr Hwb
  • Awdurdod lleol

5. Rhannu eich gwybodaeth

Gallwn rannu gwybodaeth amdanoch â rhannau eraill o Lywodraeth Cymru neu gyda'n sefydliadau partner os byddwn yn fodlon eu bod yn bwriadu defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion addysgol neu ddibenion cysylltiedig sy'n gydnaws â'r ffordd rydym yn defnyddio eich gwybodaeth i ddarparu llwyfan Hwb, bod buddiant dilys i rannu'r wybodaeth honno neu ei bod yn ofynnol inni ei rhannu yn ôl y gyfraith. Gweler uchod y mathau o wybodaeth a rennir â'r sefydliadau hynny.

Lle y caiff eich gwybodaeth ei rhannu â sefydliad partner, byddwn yn sicrhau mai dim ond at ddibenion cyfyngedig y gall ddefnyddio eich gwybodaeth a'i fod yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Dylech ddarllen hysbysiadau preifatrwydd y sefydliadau hynny yn yr adran Gwybodaeth Ychwanegol isod.

6. Os byddwch yn cysylltu â ni

Byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch os byddwch yn cwblhau ffurflen, yn cofrestru ar gyfer digwyddiad (gweler Rhan 4 isod), neu'n cysylltu â ni am unrhyw reswm arall. Bydd yr union wybodaeth bersonol yn dibynnu ar yr hyn y byddwch yn dewis ei roi i ni. Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ymateb i'ch ymholiad neu gais ar sail eich caniatâd.

Yn ogystal â dysgwyr, staff a llywodraethwyr, gall Llywodraeth Cymru roi cyfrif Hwb i randdeiliaid addysg eraill. Caiff y cyfrifon hyn eu dyrannu a'u cynnal gan Lywodraeth Cymru.

Os byddwch am ddefnyddio'r adnoddau digidol a'r gwasanaethau sydd ar gael i randdeiliaid addysg eraill ar y llwyfan, bydd angen ichi fewngofnodi. 

I randdeiliaid addysg eraill, bydd Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y ffyrdd a nodir isod:

1. Creu eich cyfrif Hwb unigryw – pa wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch?

Bydd eich sefydliad yn darparu'r wybodaeth bersonol ganlynol amdanoch i Lywodraeth Cymru er mwyn creu eich cyfrif Hwb unigryw:

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Eich rôl
  • Enw eich sefydliad
  • Teitl swydd
  • Cyfeiriad e-bost amgen
  • Rhif ffôn cyswllt

Bob tro y byddwch yn mewngofnodi i'r llwyfan, byddwn yn gwirio eich manylion. Caiff yr wybodaeth bersonol a ddefnyddir i greu eich cyfrif Hwb unigryw ei storio ar Gwmwl Microsoft mewn ardal ddiogel a weithredir gan Lywodraeth Cymru ac a leolir yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Mae datblygu llwyfan diogel i'r rheini sy'n ymwneud ag addysg yng Nghymru ei ddefnyddio yn rhan bwysig o'n cenhadaeth i wella safonau addysg yng Nghymru. Mae defnyddio eich gwybodaeth i ddarparu manylion mewngofnodi unigryw a diogel i randdeiliaid addysg unigol yn angenrheidiol i gyflawni'r dasg hon, a chaiff ei wneud er budd y cyhoedd.

2. Mewngofnodi i lwyfan Hwb

Pan fyddwn wedi creu eich cyfrif Hwb, byddwch yn gallu mewngofnodi i'r llwyfan a chael mynediad i'r ardaloedd sydd ar gael i randdeiliaid addysg eraill. Mater i chi fydd penderfynu a ydych am fewngofnodi i'r llwyfan.

Pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf, byddwch yn gweld ‘Cytundeb Trwydded Defnyddiwr’ (Hysbysiad Pwysig). Bydd hwn yn cynnwys y dolenni i ddogfen ‘Telerau ac Amodau Hwb’ a fydd yn llywodraethu eich defnydd o'r llwyfan, yn ogystal â'r ‘Hysbysiad Preifatrwydd Hwb’ hwn. Bydd angen ichi glicio i gadarnhau eich bod yn derbyn y telerau ac amodau. Os bydd y telerau ac amodau neu'r hysbysiad preifatrwydd yn newid, bydd angen ichi aildderbyn y Cytundeb Trwydded Defnyddiwr.

Pan fyddwch yn defnyddio eich cyfrif Hwb, byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i'ch adnabod a'ch galluogi i ddefnyddio'r llwyfan. Byddwn yn cadw cofnod bob tro y byddwch yn mewngofnodi at ddibenion archwilio a bydd y cofnod hwnnw yn cael ei gadw am flwyddyn.

Mae defnyddio eich gwybodaeth bersonol i'ch adnabod a gwirio eich sesiwn bori yn bwysig er mwyn sicrhau bod y llwyfan yn parhau'n ddiogel. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni'r dasg hon, a chaiff ei wneud er budd y cyhoedd.

3. Defnyddio llwyfan Hwb

Ni fydd angen ichi ddarparu unrhyw wybodaeth bersonol arall i ddefnyddio'r llwyfan.

Yn dibynnu ar y ffordd y byddwch yn defnyddio'r llwyfan, efallai y byddwch yn dewis rhoi gwybodaeth bersonol arall inni. Er enghraifft, gallwch lanlwytho gwybodaeth, personoli eich tudalen broffil neu ddewis rhannu gwybodaeth ag eraill. Mater i chi fydd penderfynu pa wybodaeth benodol y byddwch yn ei lanlwytho.

Hysbysiad Pwysig

Nid ydym yn argymell eich bod yn lanlwytho gwybodaeth bersonol sy'n perthyn i'r ‘categorïau arbennig’ o wybodaeth bersonol a gydnabyddir gan gyfraith diogelu data. Mae'r rhain yn cynnwys gwybodaeth sy'n datgelu tarddiad hiliol neu ethnig, safbwyntiau gwleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafur, gwybodaeth enetig, gwybodaeth fiometrig ar gyfer adnabod person yn unigryw, gwybodaeth am iechyd a gwybodaeth am fywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol person. Caiff gwybodaeth am droseddau ac euogfarnau ei thrin mewn ffordd debyg.

Os byddwch yn dewis lanlwytho unrhyw gyfryw wybodaeth, mae'n bwysig eich bod yn deall y gall fod ar gael i ddefnyddwyr eraill ein llwyfan ei gweld.

Bydd Llywodraeth Cymru a'i chontractwyr yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei lanlwytho i'r llwyfan yn unol â'ch cyfarwyddiadau.

Mae Canolfan Cymeradwyo a Chanolfan Cymorth Hwb yn cynnig cyngor ac arweiniad mewn perthynas â storio gwybodaeth ar lwyfan Hwb a'r gwasanaethau allanol cysylltiedig.

4. Gwasanaethau Hwb

Yn dibynnu ar y caniatadau a gymeradwyir gan weinyddwr Hwb eich sefydliad, gall y llwyfan eich galluogi i ddefnyddio'r gwasanaethau ychwanegol canlynol:

  • Microsoft 365(gan gynnwys Word, Excel ac e-bost Outlook) a Minecraft: Education, a ddarperir gan Microsoft Corporation.
  • Cyfres o adnoddau ar-lein Google Workspace for Education Fundamentals, gan gynnwys YouTube, a ddarperir gan Google Inc.
  • Cyfres adnoddau Thinqi, a ddarperir gan CDSM Interactive Solutions Ltd.
  • Cyfres adnoddau Just2easy, a ddarperir drwy CDSM Interactive Solutions Ltd, un o is-gontractwyr Just2easy Ltd.
  • Adobe Express (gan gynnwys Adobe Creative Cloud os oes gennych drwydded), a ddarperir gan Adobe Systems Software Ireland Limited.
  • Gwasanaethau Apple, a ddarperir gan Apple Inc (os yw eich ysgol wedi cofrestru ar eu cyfer).
  • 360 safe Cymru a 360 digi Cymru, a ddarperir gan South West Grid for Learning Trust Ltd (SWGfL).
  • Freshservice, a ddarperir gan Freshworks Ltd.

Mae gwasanaethau Hwb ar gael drwy Lywodraeth Cymru i ddefnyddwyr y llwyfan, ond cânt eu gweithredu gan y contractwyr a restrir uchod. Bydd Llywodraeth Cymru yn anfon gwybodaeth benodol at y contractwyr hyn yn ddiogel er mwyn eich galluogi i ddefnyddio eu gwasanaethau. Caiff unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn dewis ei lanlwytho wrth ddefnyddio'r gwasanaethau hyn ei thrin gan y contractwr perthnasol.

Gan mai ein contractwyr sy'n darparu gwasanaethau Hwb, bydd unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhannu wrth ddefnyddio'r adnoddau hyn yn cael ei rhannu â'r contractwyr hyn ac, o bosibl, yn cael ei throsglwyddo'n ddiogel i leoliadau y tu allan i'r DU a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Er mwyn sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei diogelu, rydym wedi rhoi'r mesurau diogelwch cytundebol priodol ar waith. Er enghraifft, rydym yn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei storio ar ffurf cod fel na all neb arall ei darllen.

Cred Llywodraeth Cymru fod sicrhau bod y gwasanaethau Hwb a restrir uchod ar gael i randdeiliaid addysg priodol yng Nghymru yn rhan bwysig o'n cenhadaeth i wella safonau addysg yng Nghymru. Mae defnyddio eich gwybodaeth bersonol i'ch galluogi i gael mynediad at y gwasanaethau hyn a'u defnyddio yn angenrheidiol i gyflawni'r dasg hon, a chaiff ei wneud er budd y cyhoedd.

Mater i chi fydd penderfynu sut y byddwch yn defnyddio gwasanaethau Hwb a bydd yn dibynnu ar sut y byddwch chi a'ch sefydliad yn dewis cyflawni eich rhwymedigaethau cyfreithiol. Dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau y bydd eich sefydliad yn eu rhoi ichi a thelerau ac amodau ein Cytundeb Trwydded Defnyddiwr. Bydd ein contractwyr yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei lanlwytho i'r gwasanaethau allanol hyn yn unol â'ch cyfarwyddiadau.

Dyma fanylion ein cyflenwyr a'r data a brosesir ganddynt:

CDSM Interactive Solutions Ltd – Llwyfan Hwb

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb

Just2easy – Cyfres adnoddau J2e

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb

Microsoft Corporation – Microsoft 365

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw arddangos
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb
  • Awdurdod lleol (os yw'n berthnasol)

Google Inc. – Google Workspace for Education Fundamentals (gan gynnwys YouTube)

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb

Adobe Systems Software Ireland Limited – Adobe Express (ac Adobe Creative Cloud os oes gennych drwydded)

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb

Apple Inc. – Gwasanaethau Apple (dim ond os yw eich ysol wedi cofrestru ar gyfer gwasanaethau Apple)

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb

South West Grid for Learning Trust Ltd (SWGfL) – 360 safe Cymru a 360 digi Cymru

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb
  • Awdurdod lleol (os yw'n berthnasol)

Freshworks Ltd – Freshservice

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Enw defnyddiwr Hwb
  • Cyfeiriad e-bost Hwb
  • Statws gweinyddwr Hwb
  • Awdurdod lleol (os yw'n berthnasol)

5. Rhannu eich gwybodaeth

Gallwn rannu gwybodaeth amdanoch â rhannau eraill o Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, ysgolion neu gyda'n sefydliadau partner os byddwn yn fodlon eu bod yn bwriadu defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion addysgol neu ddibenion cysylltiedig sy'n gydnaws â'r ffordd rydym yn defnyddio eich gwybodaeth i ddarparu llwyfan Hwb, bod buddiant dilys i rannu'r wybodaeth honno neu ei bod yn ofynnol inni ei rhannu yn ôl y gyfraith.

Lle y caiff eich gwybodaeth ei rhannu â sefydliad partner, byddwn yn sicrhau mai dim ond at ddibenion cyfyngedig y gall ddefnyddio eich gwybodaeth a'i fod yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Dylech ddarllen hysbysiadau preifatrwydd y sefydliadau hynny yn yr adran Gwybodaeth Ychwanegol isod. 

6. Os byddwch yn cysylltu â ni

Byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch os byddwch yn cwblhau ffurflen, yn cofrestru ar gyfer digwyddiad (gweler Rhan 4 isod), neu'n cysylltu â ni am unrhyw reswm arall. Bydd yr union wybodaeth bersonol yn dibynnu ar yr hyn y byddwch yn dewis ei roi i ni. Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ymateb i'ch ymholiad neu gais ar sail eich caniatâd.

Os byddwch yn dewis defnyddio eich cyfrif Hwb i ddefnyddio apiau trydydd parti Microsoft, apiau ac estyniadau Google ar gyfer Chrome (yn cynnwys apiau a ddarperir drwy Google Play a reolir), neu wasanaethau trydydd parti eraill a gymeradwywyd gan eich ysgol, awdurdod lleol neu sefydliad, nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am eu defnyddio. Eich cyfrifoldeb chi fydd darllen a derbyn telerau ac amodau a hysbysiadau preifatrwydd unrhyw apiau trydydd parti gan Microsoft, apiau ac estyniadau Google ar gyfer Chrome neu apiau trydydd parti eraill y byddwch yn dewis eu defnyddio.

Gallwn rannu gwybodaeth amdanoch â rhannau eraill o Lywodraeth Cymru neu gyda'n sefydliadau partner os byddwn yn fodlon eu bod yn bwriadu defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion addysgol neu ddibenion cysylltiedig sy'n gydnaws â'r ffordd rydym yn defnyddio eich gwybodaeth i ddarparu llwyfan Hwb, bod buddiant dilys i rannu'r wybodaeth honno neu ei bod yn ofynnol inni ei rhannu yn ôl y gyfraith. Gweler uchod y mathau o wybodaeth a rennir â'r sefydliadau hynny.

Lle y caiff eich gwybodaeth ei rhannu â sefydliad partner, byddwn yn sicrhau mai dim ond at ddibenion cyfyngedig y gall ddefnyddio eich gwybodaeth a'i fod yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Dylech gyfeirio at hysbysiadau preifatrwydd y sefydliadau hynny sy'n berthnasol i chi, er mwyn gweld sut maent yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Mae dolenni iddynt wedi'u nodi yma:

 Cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion am y trefniadau rhannu data penodol sydd ar waith gennym.

Mae'r llwyfan yn darparu gwasanaeth trefnu lle ar gyfer digwyddiadau a gaiff eu creu a'u rheoli gan Lywodraeth Cymru neu sefydliad arall. Caiff y gwasanaeth hwn ei weithredu ar ein rhan gan CDSM Interactive Solutions Limited.

Os byddwch am gofrestru ar gyfer digwyddiad, bydd angen ichi ddarparu eich manylion personol. Os ydych yn ddefnyddiwr awdurdodedig (sydd â chyfrif Hwb presennol), caiff hyn ei wneud yn awtomatig os byddwch wedi mewngofnodi. Os nad ydych yn ddefnyddiwr awdurdodedig, bydd angen ichi fewnbynnu eich manylion (gan gynnwys eich enw, eich cyfeiriad e-bost, enw'r sefydliad a'ch lleoliad).

Bydd eich data personol yn cael eu rhannu â threfnydd y digwyddiad er mwyn iddo reoli eich cofrestriad. Bydd trefnydd y digwyddiad yn gyfrifol am drin eich gwybodaeth yn unol â threfniadau diogelu data.

  • Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn dweud wrthych sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch chi a defnyddwyr eraill llwyfan Hwb.
  • Mae eich 'gwybodaeth bersonol' yn golygu unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â chi y gellir ei defnyddio i'ch adnabod.
  • Mae gan eich ysgol lawer o wybodaeth amdanoch chi a bydd yn rhannu rhywfaint ohoni â Llywodraeth Cymru er mwyn inni allu rhoi cyfrif Hwb i chi, i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein fel Microsoft 365 a Google Classroom.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio i gadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel ac ni fyddwn yn ei rhannu os na fydd angen inni wneud hynny.
  • Mae gan bob dysgwr ac athro mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru gyfrif Hwb. Gallwch ei ddefnyddio i gael mynediad at adnoddau addysgol, yn ogystal ag asesiadau personol rhifedd a darllen.
  • Bydd eich athrawon yn dweud wrthych pryd i ddefnyddio eich cyfrif Hwb i gwblhau'r asesiadau (fel arfer pan fyddwch ym mlwyddyn 2 hyd at flwyddyn 9).
  • Mae llwyfan Hwb hefyd yn eich galluogi i fewngofnodi i wasanaethau addysgol eraill, er enghraifft Microsoft Word, Excel, Outlook (e-bost), Minecraft Education neu Google for Education. Yna, bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu rhywfaint o'ch gwybodaeth bersonol â'n cyflenwyr yn ddiogel, er mwyn ichi allu defnyddio eu gwasanaethau.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich gwybodaeth bersonol tra byddwch yn yr ysgol a bydd eich cyfrif Hwb yn weithredol am flwyddyn ar ôl ichi adael cyn cael ei ddadactifadu. Byddwn yn cadw gwybodaeth am yr asesiadau am gyfnod hirach.

Mae gennych hawliau penodol mewn perthynas â'ch gwybodaeth bersonol Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn cynnwys popeth y mae angen ichi ei wybod.