Ar drywydd dysgu
- Rhan o
Trosolwg
Mae deunyddiau Ar Drywydd Dysgu yn cefnogi ymarferwyr i asesu dysgwyr sydd ag anawsterau dysgu dwys a lluosog (ADDLl). Maen nhw’n canolbwyntio ar sgiliau cyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol dysgwyr, eu datblygiad gwybyddol cynnar a’u hymwneud â’u hamgylchedd.
Cyhoeddwyd deunyddiau Ar Drywydd Dysgu am y tro cyntaf yn 2006, a chawsant groeso yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Fel rhan o’r gwaith i ddiwygio’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yn ehangach yng Nghymru, mae ystod o ymarferwyr ac arbenigwyr academaidd wedi bod yn cydweithio i ddiweddaru’r deunyddiau. Ein bwriad wrth wneud hyn oedd adlewyrchu’r gwaith ymchwil diweddaraf yn y maes, yn ogystal â’n cyd-destun addysgol newydd.
Mae Grŵp Cynghori Ar Drywydd Dysgu wedi bod yn ganolog yn y broses o ddiwygio’r deunyddiau, ac rydym yn arbennig o ddiolchgar i’r aelodau am eu hymrwymiad i’r gwaith hwn o dan amgylchiadau heriol argyfwng COVID-19. Mae rhwydwaith o ysgolion ledled Cymru hefyd wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gasglu fideos er mwyn darparu enghreifftiau o ddisgrifyddion y Map llwybrau, gan helpu i ddod â’r deunyddiau hyn yn fyw i ymarferwyr. Rhestrir yr ysgolion hyn isod:
- Canolfan Addysg Y Bont
- Ysgol Crownbridge
- Ysgol Crug Glas
- Ysgol Heol Goffa
- Ysgol Heulfan – Y Canol
- Ysgol Maes Hyfryd
- Ysgol Maes y Coed
- Ysgol Pen Coch
- Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth
- St Christopher's School
- Ysgol Tir Morfa Community Special School
- Ysgol Ty Coch
- Ty Gwyn Special School
- Ysgol Y Deri.
Mae diweddaru’r deunyddiau Ar Drywydd Dysgu wedi bod yn broses raddol. Cyhoeddwyd deunyddiau drafft, gan gasglu adborth ym mis Ebrill 2019 ac Ionawr 2020. Mae’r adborth a ddaeth i law gan ymarferwyr addysg ac iechyd wedi bod yn amhrisiadwy wrth gwblhau’r deunyddiau yn derfynol.
- Digwyddiad ymgysylltu rhithiol Ar Drywydd Dysgu – 2 Rhagfyr 2020 Trosolwg pptx 1.09 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Map llwybrau
Mae’r Map llwybrau yn darparu trosolwg o ddatblygiad gwybyddol cynnar plentyn, ei sgiliau cyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol, a’i ymwneud â’i amgylchedd, gan nodi’r cerrig milltir pwysicaf yn oren.
Mae rhif i bob un o focsys y Map llwybrau er hwylustod, gan ei gwneud yn hawdd cyfeirio at yr ymddygiadau gwahanol, ond nid yw hyn yn golygu bod yna drefn ddisgwyliedig i ddysgu’r ymddygiadau neu y dylid eu haddysgu mewn trefn benodol. Ni ddylid disgwyl i ddysgwyr eu cyflawni yn nhrefn y rhifau.
Ystyrir y bydd pob dysgwr yn debygol o gyflawni’r cerrig milltir allweddol, er y gall y llwybr a ddilynant amrywio yn ôl eu hanghenion corfforol, synhwyraidd a dysgu.
Mae’r Map llwybrau ar gael i chi yma ynghyd â nodyn esboniadol sy’n amlinellu’r newidiadau a wnaed wrth ei ddiweddaru.
- Map llwybrau pdf 1.09 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
- Nodyn esboniadol y Map llwybrau pdf 427 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Ar Drywydd Dysgu: Llyfryn asesu
Mae’r llyfryn asesu isod yn cynnig cymorth ymarferol ar ddefnyddio’r Map llwybrau drwy roi enghreifftiau o weithgareddau asesu, strategaethau addysgu a syniad o’r hyn i chwilio amdano wrth asesu.
- Llyfryn asesu pdf 1.20 Mb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Fideos enghreifftiol
Isod darperir fideos yn cynnig enghreifftiau o 19 o focsys a cherrig milltir y Map llwybrau. Maen nhw wedi’u trefnu yn ôl themâu sy’n cyd-fynd â’r llyfryn asesu.
Yn sgil effaith pandemig COVID-19 ar ysgolion, ni fu’n bosibl i ni weithio gydag ymarferwyr a dysgwyr dros y misoedd diwethaf er mwyn cwblhau’r gyfres o fideos. Byddwn yn ailgydio yn y gwaith hwn, felly, yn nhymor yr hydref.
1. Sylwi ar stimwlws
3. Ymateb i stimwlws amlwg iawn
6. Ymateb i amrywiaeth o stimwli
9. Ymateb yn gyson i un stimwlws
12. Ymateb yn wahanol i wahanol stimwli
17. Rhagweld yng nghyd-destun arferion cymdeithasol cyfarwydd
30. Yng nghyd-destun gêm gymdeithasol gyfarwydd, dal ati i ailgyflawni gweithred er mwyn cael gwobr
33. Cychwyn gêm gymdeithasol
40. Talu sylw ar y cyd
18. Ailgyfeirio sylw at ail wrthrych
25. Newid ymddygiad wrth ymateb i ddigwyddiad diddorol gerllaw
29. 'Edrych' yn ôl ac ymlaen o un gwrthrych i'r llall (gwybod bod dau wrthrych yn bresennol)
31. Ailgyflawni gweithred pan yw'r ymgais gyntaf yn aflwyddiannus
35. Cyflawni dwy weithred wahanol yn eu trefn er mwyn cael gwobr
38. Addasu gweithred pan nad yw ailgyflawni'r weithred yn gweithio
42. Dangos arwyddion cynnar o ddatrys problemau – rhoi cynnig ar strategaeth newydd pan yw’r hen un yn methu
36. Dewis o blith dwy neu fwy o eitemau
37. Cyfleu dewis i oedolyn sylwgar
41. Mynegi, mewn dulliau symbolaidd, bod yn well ganddo eitemau nad ydyn nhw’n bresennol
Ar Drywydd Dysgu: Canllawiau
Mae’r canllawiau isod yn galluogi ymarferwyr i asesu dysgwyr sydd ag ADDLl a dod o hyd i’r ffordd orau o’u cefnogi wrth iddyn nhw ddysgu.
- Ar Drywydd Dysgu: Canllawiau pdf 515 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Crynodeb o’r adborth a ddaeth i law yng ngwanwyn 2020
Mae’r ddogfen isod yn nodi ffynonellau amrywiol yr adborth a dderbyniwyd yn dilyn cyhoeddi’r deunyddiau drafft ym mis Ionawr 2020. Mae’n amlinellu prif themâu’r adborth, a’r gwaith a wnaed i fireinio’r canllawiau mewn ymateb iddo.
- Crynodeb o’r adborth a ddaeth i law yn ystod gwanwyn 2020 pdf 716 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Y gwaith sy’n parhau, y camau nesaf a sut y gallwch chi gyfrannu
Geirfa
Bydd yr eirfa yn helpu ymarferwyr i ddefnyddio’r Map llwybrau a deunyddiau ehangach Ar Drywydd Dysgu. Isod, ceir rhai enghreifftiau o ddiffiniadau drafft i chi eu hystyried.
Rydym yn parhau i ddatblygu’r eirfa, a hoffem eich gwahodd i roi eich sylwadau ar y fersiwn ddrafft sydd gennym hyd yma. Byddem hefyd yn croesawu awgrymiadau ar dermau ychwanegol i’w cynnwys yn y fersiwn derfynol. Anfonwch eich sylwadau i asesu@llyw.cymru erbyn 9 Hydref 2020.
- Geirfa ddrafft pdf 174 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Fideos enghreifftiol
Rydym yn parhau i gasglu fideos sy’n cynnig enghreifftiau o ymddygiad bocsys a cherrig milltir y Map llwybrau. Os hoffai eich lleoliad/ysgol gyfrannu fideos, cysylltwch ag asesu@llyw.cymru erbyn 9 Hydref 2020.
Map llwybrau rhyngweithiol
Byddwn yn creu Map llwybrau rhyngweithiol, gan dynnu ynghyd y Map llwybrau ei hun, cynnwys y llyfryn asesu a’r fideos enghreifftiol drwy glicio botwm.
Deunyddiau dysgu proffesiynol
Mae cyfres hyblyg o ddeunyddiau dysgu proffesiynol yn cael ei datblygu i gefnogi ymarferwyr unigol neu grwpiau o ymarferwyr, ac i gefnogi deialog broffesiynol yn ein hysgolion a rhwng un ysgol a’r llall.
Cwblheir y deunyddiau hyn yn derfynol a’u cyhoeddi yn ystod blwyddyn academaidd 2020/21.
- Digwyddiad ymgysylltu rhithiol Ar Drywydd Dysgu – 2 Rhagfyr 2020 Dysgu proffesiynol pptx 223 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
Gwaith ymchwil
Yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf, gwneir gwaith ymchwil i ddatblygu ymhellach ein dealltwriaeth o natur y cynnydd a wneir gan ddysgwyr sydd ag ADDLl mewn perthynas â’r Map llwybrau. Darperir rhagor o wybodaeth ar y dudalen hon maes o law. Os hoffech gyfrannu at astudiaeth o’r fath, cysylltwch ag asesu@llyw.cymru.
- The use of the ‘Routes for Learning’ assessment for learners with profound and multiple learning difficulties (PMLD) in England and Wales (English only) pdf 771 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath