English

1. Deunyddiau ategol

Cyd-destun: ystyr cynnydd

Cynnydd mewn dysgu yw sut mae dysgwr yn datblygu ac yn gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth dros amser. Mae hyn yn golygu cynyddu ehangder a dyfnder eu gwybodaeth, dyfnhau eu dealltwriaeth, a mireinio eu sgiliau, i gyd wrth ddod yn fwy annibynnol a chymhwyso eu dysgu i sefyllfaoedd newydd.

Mae cynnydd wrth wraidd canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru. Dylai’r egwyddorion cynnydd a'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig lywio'r gwaith o gynllunio'r cwricwlwm ac asesu, gyda threfniadau asesu a'r egwyddorion addysgeg yn rhan annatod o'r ddau.

Mae'r gydberthynas rhwng y cwricwlwm, asesu ac addysgeg, felly, yn allweddol i gefnogi dysgwyr i wneud cynnydd ystyrlon yn eu dysgu. Wrth gynllunio a chyflwyno profiadau dysgwyr, bydd ymarferwyr yn ymwybodol o sut maen nhw'n cyfrannu at daith gyffredinol dysgwr ar hyd y continwwm 3 i 16 oed, gyda chyflymder y cynnydd hwnnw'n cael ei lywio gan y pwyntiau cyfeirio a nodir yn y disgrifiadau dysgu.

Mae'r deunyddiau ategol isod yn ganllawiau ymarferol i gefnogi datblygiad y cwricwlwm, sicrhau ansawdd, a hunanwerthuso mewn ffordd sy'n cefnogi cynnydd dysgwyr.

Cynllunio cwricwlwm gyda phwrpas

Mae’r deunydd hwn yn rhoi canllaw byr ynghylch ystyriaethau i gefnogi'r gwaith o gynllunio a sicrhau ansawdd cwricwlwm sy'n cael ei arwain gan bwrpas. Nid yw'n rhestr wirio ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm ond mae'n darparu awgrymiadau defnyddiol ynghylch ystyried taith eich cwricwlwm a'r hyn y gallech ei wneud nesaf.

Egwyddorion cynnydd  – cefnogi’r broses hunanwerthuso a dealltwriaeth gyffredin o gynnydd

Mae egwyddorion cynnydd yn amlinellu’r gofynion gorfodol ar gyfer cynnydd i ddysgwyr. Maent yn disgrifio'r hyn y mae'n ei olygu i ddysgwyr wneud cynnydd, a'r galluoedd a'r ymddygiadau y mae'n rhaid i ymarferwyr geisio eu cefnogi, waeth beth fo’r cam datblygu i'r dysgwyr. Gall egwyddorion cynnydd ddarparu iaith gyson a fframwaith trefniadol ar gyfer ysgolion a lleoliadau, fel man cychwyn ar gyfer hunanwerthuso cynnydd dysgwyr, ac i helpu i ddatblygu a chynnal dealltwriaeth gyffredin o gynnydd o fewn ysgolion. 

Mae'r deunydd hwn yn darparu awgrymiadau a chwestiynau i gefnogi arweinwyr ac ymarferwyr ysgolion i ddefnyddio egwyddorion cynnydd i gefnogi prosesau hunanwerthuso a gwella, ac i helpu i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd.

Datblygu Dealltwriaeth Gyffredin o Gynnydd

Bydd angen i ysgolion a lleoliadau gydweithio wrth iddynt ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd o fewn y Cwricwlwm i Gymru.

Mae'r deunydd hwn yn nodi beth yw dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, gydag awgrymiadau ymarferol ar sut i ddatblygu hyn yn eich ysgol neu leoliad eich hun. Mae hyn yn ategu'r canllawiau ‘Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu.

Asesu cynnydd dysgwyr

Dylai trefniadau asesu gefnogi ymarferwyr i sefydlu dealltwriaeth dysgwyr o'r cwricwlwm sy’n cael ei gynllunio ym mhob ysgol neu leoliad, a chefnogi cynnydd dysgwyr ar hyd y continwwm 3 i 16 oed. Mae asesu'n chwarae rhan sylfaenol o ran galluogi pob dysgwr unigol i wneud cynnydd ar gyflymder priodol, gan sicrhau ei fod yn cael ei gefnogi a'i herio yn unol â hynny. Mae hyn yn galluogi ymarferwyr i gynllunio'n effeithiol ar gyfer cynnydd dysgwyr.

Mae egwyddorion cynnydd yn wahanol i ddisgrifiadau ddysgu sy'n darparu pwyntiau cyfeirio penodol i ymdrin â sut beth yw cynnydd wrth i ddysgwyr weithio tuag at ddatganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar wahanol adegau ar eu taith. Gyda'i gilydd, gall ymarferwyr ddefnyddio'r 2 elfen hyn i ddeall beth mae'n ei olygu i ddysgwyr wneud cynnydd, a defnyddio hyn i lywio dysgu, addysgu ac asesu.

Mae'r deunydd ategol hwn yn darparu gwybodaeth, awgrymiadau a chanllawiau ar ddatblygu trefniadau asesu yn y Cwricwlwm i Gymru.

Hunanwerthuso a gwella: cynnydd dysgwyr

Bydd angen i arweinwyr ysgolion neu leoliadau ystyried, gwerthuso ac arwain gwelliannau o ran cynnydd dysgwyr. Er mwyn gwneud hynny, rhaid iddynt amgyffred y gydberthynas rhwng y cwricwlwm, asesu ac addysgeg. Dylai gwerthuso cynnydd dysgwyr gael ei lywio gan ystod eang o wybodaeth a thystiolaeth.

Mae'r canllawiau hyn yn darparu awgrymiadau i gefnogi gwerthuso cynnydd dysgwyr mewn trefniadau gwerthuso a gwella ysgolion. Mae hyn yn ategu'r canllawiau anstatudol ar wella ysgolion ‘Canllawiau gwella ysgolion: fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd’ a'r adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella.

  • Nesaf

    Canllawiau perthnasol a gwybodaeth