English

Eiddo deallusol

Mae’r Wefan, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) testun, cynnwys, pyst, blogiau, meddalwedd, fideo, cerddoriaeth, sain, graffeg, lluniau, darluniadau, celfwaith, enwau, logos, nodau masnach a deunydd arall (“Cynnwys”) wedi’i gwarchod gan hawlfreintiau, data-bas, hawliau cynllunio, nodau masnach a/neu hawliau eiddo deallusol eraill.

Mae’r Cynnwys yn cynnwys cynnwys sydd ym meddiant a rheolaeth Llywodraeth Cymru a chynnwys sydd ym meddiant a rheolaeth tryddyd partïon a drwyddedwyd i Lywodraeth Cymru. Gall y Cynnwys hefyd gynnwys cynnwys a gyflwynwyd gan Ddefnyddwyr Hapddalwyr o bryd i’w gilydd.

Mae pob erthygl, adroddiad ac elfen arall o’r Wefan yn waith hawlfraint. Cytunwch i gydymffurfio â phob rhybudd a chyfyngiad hawlfraint ychwanegol a gynhwyswyd ar y Wefan ac yn y Telerau ac Amodau.

Ni chewch wneud unrhyw ddefnydd o nodau masnach neu enwau masnach Llywodraeth Cymru heb ganiatâd Llywodraeth Cymru a chydnabyddwch nad oes gennych unrhyw hawliau perchennog mewn neu i unrhyw un o’r nodau neu’r enwau hynny. Cytunwch i roi gwybod i Lywodraeth Cymru mewn ysgrifen ac yn ddioed unwaith i chi ddod yn ymwybodol o unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r Wefan gan unrhyw barti neu o unrhyw hawliad bod y Wefan neu unrhyw Gynnwys yn torri unrhyw hawlfraint, nod masnach neu unrhyw hawl arall sydd gan unrhyw barti o dan gontract, deddf neu gyfraith gwlad.