English

1. Beth yw e?

Mae yn llwyfan agored, sy’n darparu cyfle i bob ymarferydd yng Nghymru i gymryd rhan mewn proses cyd-greu cenedlaethol, er mwyn mynd i’r afael â’r heriau a’r profiadau sy’n gyffredin i ni. Bydd y Rhwydwaith Cenedlaethol yn:

  • casglu a rhannu dealltwriaeth – dod â gwahanol barnau, safbwyntiau ac arbenigedd at ei gilydd yn genedlaethol i ddeall sut yr ydym yn datblygu, beth yw’r heriau a sut mae pobl yn ymateb iddynt
  • cyd-greu dulliau gweithredu – gyda’n gilydd, fe fyddwn ni’n penderfynu beth y gall gweithwyr addysgu proffesiynol, rhanddeiliaid, partneriaid galluogi a’r llywodraeth ei wneud i oresgyn yr heriau hyn.
  • cysylltu pobl – caniatáu i bobl rwydweithio a datblygu’r berthynas rhwng gweithwyr addysg proffesiynol, arbenigwyr addysg a rhanddeiliaid a all helpu ysgolion a lleoliadau yn uniongyrchol.
  • ysgogi newid – bydd sgyrsiau yn helpu i ysgogi a chefnogi’r gwaith o weithredu ar bob lefel.

Bydd y Rhwydwaith Cenedlaethol yn archwilio materion allweddol yn ymwneud â gweithredu'r cwricwlwm trwy Sgyrsiau. Bydd y Sgyrsiau hyn yn cael eu cynnal ar lefel genedlaethol a rhanbarthol, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a chonsortia rhanbarthol ac, fel y bo'n briodol, awdurdodau lleol. Bydd y sgyrsiau hyn yn adeiladu ar ddysgu proffesiynol ar lefel ranbarthol, gan ddod ag ymarferwyr ynghyd ledled Cymru i ddatblygu ymagweddau at faterion gweithredu cwricwlwm cenedlaethol.

Mae sgyrsiau yn agored i bob ysgol ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru.

 

  • Hysbysiad preifatrwydd pdf 212 Kb Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Os oes angen fersiwn mwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, anfonwch ebost os gwelwch yn dda. digital@gov.wales. Dywedwch wrthym y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn ddefnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym pa fath
  • Nesaf

    Sgyrsiau cyfredol