English

Mae'r deunyddiau hyn wedi'u cynhyrchu yn sgil gwaith a syniadau cyfranogwyr ym mhrosiect Camau i'r Dyfodol, a sefydlwyd i ddod ag arbenigedd a phrofiad gweithwyr addysg proffesiynol at ei gilydd i feithrin gallu ar gyfer cynnydd dysgu. Eu nod yw cefnogi ysgolion i greu dealltwriaeth gyffredin o Gwricwlwm i Gymru fel cwricwlwm a arweinir gan y dibenion, lle mae ffocws ar broses.

Mae canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru yn datgan yn glir beth sy’n bwysig mewn addysg eang a chytbwys. Mae cwricwlwm ysgol yn cynnwys popeth mae dysgwyr yn ei brofi wrth weithio tuag at y pedwar diben. Mae’n gysyniad mwy na’r hyn rydym ni’n ei addysgu yn unig; mae hefyd yn cwmpasu sut rydyn ni’n addysgu – ac yn fwy na dim, pam ydyn ni’n ei addysgu. Mae Cwricwlwm i Gymru yn ein herio i ystyried pam fod dysgu penodol yn bwysig, a beth yw hanfod y dysgu a’r cynnydd a ddylai fod yn sail i fathau gwahanol o wybodaeth, sgiliau, pynciau a gweithgareddau dysgu. Hanfod hyn yw dynesiad tuag at gynllunio cwricwlwm a arweinir gan bwrpas a phroses. Mae’r deunyddiau hyn yn deillio o’r dynesiad hwn, a bydd ein cefnogaeth barhaus i ddiwygio’r cwricwlwm yn ceisio cefnogi dealltwriaeth gyffredin o hyn a’r goblygiadau ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm, cynnydd ac asesu.