English

Cyhoeddwyd Cwricwlwm i Gymru: Y daith i 2022 ym mis Hydref 2020, gan nodi’r disgwyliadau i ysgolion a lleoliadau o ran cynllunio eu cwricwlwm. Mae gwireddu’r cwricwlwm yn rhywbeth a fydd yn effeithio ar ysgolion, lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir, unedau cyfeirio disgyblion a’r rheini sy’n gyfrifol am ddarparu addysg heblaw yn yr ysgol mewn lleoliadau eraill. Bydd yn her sylweddol i’r holl sefydliadau hyn. Mae angen i ni, Lywodraeth Cymru, a’n partneriaid yn y system addysg ehangach gefnogi’r sefydliadau hyn a’u hymarferwyr wrth baratoi ar gyfer gwireddu Cwricwlwm i Gymru.

Diben y cynllun gweithredu hwn yw gwneud y canlynol:

  • nodi gweledigaeth strategol gyffredin o ran yr hyn y mae gwireddu’r cwricwlwm yn ei olygu’n ymarferol, fel yr argymhellwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD)
  • nodi fframwaith arweiniol a ffyrdd o weithio sy’n galluogi pob rhan o’r system addysg i symud tuag at yr un nodau
  • egluro rolau a chyfrifoldebau ar ein cyfer ni a’n partneriaid o ran cefnogi ysgolion a lleoliadau wrth wireddu’r cwricwlwm
  • nodi’r camau penodol y byddwn ni a’n partneriaid haen ganol yn eu cymryd i gefnogi ysgolion a lleoliadau wrth i ni symud tuag at roi Cwricwlwm i Gymru ar waith
  • nodi’r heriau sy’n wynebu’r system addysg yng Nghymru wrth roi’r cwricwlwm ar waith, a nodi sut rydym yn bwriadu ymdrin â’r heriau hyn drwy gydweithio
    a datblygu ar y cyd gydâ’n partneriaid a chydag ymarferwyr ledled Cymru.

Mae’r cynllun gweithredu hwn yn nodi, i’r system addysg a’r cyhoedd ehangach, ein paratoadau ar gyfer cyflwyno Cwricwlwm i Gymru, gan adeiladu ar y disgwyliadau a gyhoeddwyd yn Cwricwlwm i Gymru: Y daith i 2022 a chan nodi’r camau gweithredu y byddwn yn rhoi blaenoriaeth iddynt er mwyn cefnogi ysgolion a lleoliadau.

Yng nghyd-destun COVID-19

Mae’n hanfodol ein bod yn cydnabod y cyd-destun y mae ysgolion a lleoliadau yn gweithredu o’i fewn. Rydym yn cydnabod, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fod ysgolion, lleoliadau a phob ymarferydd addysg wedi wynebu un o heriau mwyaf eu bywydau proffesiynol o ganlyniad i bandemig COVID-19. Mae’n amlwg y bydd yr her hon yn parhau, ac y bydd ysgolion a lleoliadau yn wynebu’r her o adfer wrth iddynt wneud penderfyniadau ar flaenoriaethu dysgu er mwyn sicrhau y gall dysgwyr wneud cynnydd. Mae COVID-19 wedi dangos fwy nag erioed pam mae angen cwricwlwm newydd arnom – sef i rymuso ymarferwyr i flaenoriaethu cynnydd o ran dysgu a rhoi cyfleoedd iddynt ddefnyddio eu greddf i ddiwallu anghenion eu dysgwyr penodol, gan roi mwy o bwyslais ar les a dysgu digidol.

Mae’r gwaith o ddiwygio’r cwricwlwm yn parhau’n uchelgeisiol, ond mae modd ei gyflawni. Byddwn yn sicrhau bod y disgwyliadau i ysgolion a lleoliadau ynghylch diwygio’r cwricwlwm a nodwyd yn Cwricwlwm i Gymru: Y daith i 2022 yn realistig yn sgil y pandemig, a’u bod yn cynnig hyblygrwydd yn eu cyd-destunau penodol. Rydym yn cydnabod y bydd ysgolion a lleoliadau mewn gwahanol sefyllfaoedd, ac y bydd cyflymder a ffocws gweithgarwch yn amrywio.

O ystyried y cyd-destun hynod heriol hwn, rydym am sicrhau y caiff ysgolion a lleoliadau eu cefnogi yn ystod y broses weithredu, a’u bod yn meddu ar ddealltwriaeth glir a chyffredin o’r ffordd y bydd y system yn eu cefnogi.

Datblygwyd y cynllun gweithredu hwn er mwyn nodi’r cymorth y byddwn ni a’n partneriaid galluogi yn ei roi yn hyn o beth. Mae’r angen i barhau i ddatblygu ar y cyd ac i ehangu’r trefniadau ar gyfer gwneud hynny yn sail i hyn: drwy’r Rhwydwaith Cenedlaethol – llwyfan agored lle bydd gweithwyr addysgu proffesiynol, arbenigwyr, rhanddeiliaid, gwneuthurwyr polisi a phartneriaid galluogi yn dod ynghyd i nodi a mynd i’r afael â’r rhwystrau i weithredu’r cwricwlwm a’r cyfleoedd sydd ynghlwm wrth hynny – byddwn yn sicrhau bod ymarferwyr wrth wraidd y polisi er mwyn gwneud yn siŵr y byddant yn rhan o’r penderfyniadau a wneir yn genedlaethol am Gwricwlwm i Gymru a’r trefniadau ar gyfer ei weithredu.

Mae’r cynllun gweithredu hwn yn dechrau nodi rhai o’r blaenoriaethau allweddol i gefnogi ysgolion a lleoliadau wrth iddynt gynllunio a gweithredu eu cwricwla, ac yn y sector nas cynhelir a ariennir, lle y byddwn yn cyhoeddi fframwaith cwricwlwm ac asesu penodedig ar gyfer lleoliadau nas cynhelir a ariennir. Bydd y blaenoriaethau hyn yn gweithredu fel ffocws i’r cymorth y byddwn ni a’r Rhwydwaith Cenedlaethol yn ei ddarparu.

Y weledigaeth bolisi: beth yw ein nod cyffredinol a pham mae hynny mor bwysig

Gwella addysg yw cenhadaeth ein cenedl. Nid oes dim byd mor hanfodol yn y sector addysg â sicrhau y gall ein plant a phobl ifanc gael y profiadau, yr wybodaeth, a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth, dysgu gydol oes a dinasyddiaeth weithgar, ac y gallant fanteisio arnynt.

Mae’r Fframwaith Cwricwlwm i Gymru wrth wraidd ein hymdrechion i wella safonau i bawb, mynd i’r afael â’r bwlch o ran cyrhaeddiad, a sicrhau system addysg sy’n ennyn balchder a hyder y cyhoedd ledled Cymru. Mae ein dysgwyr – ni waeth ble y byddant yn cael eu haddysg – eu hiechyd meddwl a’u lles a’u cynnydd yn greiddiol i hyn. Mae ein hymarferwyr sy’n galluogi dysgu a chynnydd, ein rhanddeiliaid ehangach, gan gynnwys teuluoedd a chymunedau, yr un mor bwysig. Rydym yn awyddus i’r rhanddeiliaid ehangach hyn gefnogi ein hysgolion a’n lleoliadau wrth iddynt ddatblygu eu cwricwla o fewn y Fframwaith Cwricwlwm i Gymru.

Mae’r Fframwaith Cwricwlwm i Gymru yn ddatganiad clir o’r hyn sy’n bwysig wrth ddarparu addysg eang a chytbwys. Pedwar diben y cwricwlwm yw ein cyd-weledigaeth a dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Nod ein holl ddiwygiadau a’n system addysg yw galluogi holl blant a phobl ifanc Cymru i fod yn:

  • dysgwyr uchelgeisiol, galluog
  • cyfranwyr mentrus, creadigol
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus
  • unigolion iach, hyderus.

Mae sicrhau bod addysg wrth graidd y nodau hyn yn hanfodol er mwyn cyflawni ein nodau fel cenedl, fel y’u nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hefyd yn gyfrwng pwysig ar gyfer rhoi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ar waith gan barchu a chynnal hawliau ein plant a’u grymuso.

Beth yw ystyr cwricwlwm

Yn ein diwygiadau, ystyr cwricwlwm yw popeth y bydd dysgwr yn ei brofi wrth anelu at gyflawni’r pedwar diben. Nid dim ond yr hyn rydym yn ei addysgu sy’n bwysig, ond sut rydym yn ei addysgu ac, yn hanfodol, pam rydym yn ei addysgu. Mae sut rydym yn asesu dysgu yn rhan hanfodol o’r cwricwlwm, gan ei fod yn sicrhau bod yr hyn a gaiff ei addysgu a sut y caiff ei addysgu yn helpu dysgwyr i wneud cynnydd ac yn sicrhau y cânt eu herio a’u cefnogi i wneud hynny.   

Mae’r dull gweithredu a nodir yn y Fframwaith Cwricwlwm i Gymru yn dibynnu ar rymuso ysgolion ac athrawon i gymryd perchenogaeth dros ddatblygu’r cwricwlwm, o fewn gofynion fframwaith cenedlaethol. Er mwyn cyflawni hyn, rydym am weld system lle y caiff arweinwyr a gweithwyr proffesiynol y cymorth a’r cyfleoedd sydd eu hangen i gynllunio a gweithredu eu cwricwla. Mae’r cyfleoedd hyn yn hanfodol er mwyn rhoi amser i weithwyr proffesiynol ystyried pa elfennau o’r dysgu sy’n wirioneddol bwysig a pham, ac i’w grymuso i arloesi gan ddefnyddio eu barn a’u sgiliau proffesiynol.

Mae diwygio’r cwricwlwm yn broses barhaus – ac mae ymdrechu i sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni’r pedwar diben yn broses a fydd yn mynd y tu hwnt i’r trefniadau cychwynnol ar gyfer cyflwyno Cwricwlwm i Gymru. Bydd y system addysg yn parhau i gefnogi ymarferwyr y tu hwnt i’r cyfnod gweithredu cychwynnol er mwyn sicrhau bod eu cwricwla yn galluogi dysgwyr i gyflawni’r pedwar diben. Fel rhan o hyn, bydd angen i ysgolion a lleoliadau adolygu eu cwricwla yn barhaus er mwyn iddynt allu ymateb i ganlyniadau ymchwiliadau proffesiynol, anghenion cyfnewidiol dysgwyr a chyd-destunau ac anghenion cymdeithasol.

Y daith ddiwygio: y sefyllfa ar hyn o bryd a beth nesaf

Ym mis Ionawr 2020, gwnaethom gyhoeddi Canllawiau Cwricwlwm i Gymru. Mae hyn yn darparu man cychwyn i bob ysgol a lleoliad ddechrau cynllunio cwricwlwm, gyda’r pedwar diben wrth ei wraidd.

Ym mis Hydref 2020, gwnaethom gyhoeddi diweddariad i Cenhadaeth ein cenedl. Roedd y diweddariad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ym mhob maes diwygio addysg, y camau rydym wedi’u cymryd mewn ymateb i COVID-19, a’r ymrwymiadau lefel uchel o ran sut y bydd y system addysg yng Nghymru yn parhau i symud tuag at weithredu’r cwricwlwm yn effeithiol.

Er mwyn i’n diwygiadau lwyddo, mae’n hanfodol eu bod wedi’u cydgysylltu. Mae  Cenhadaeth ein cenedl yn nodi sut y mae ein hamcanion galluogi oll yn hanfodol er mwyn gwireddu Cwricwlwm i Gymru, sef canolbwynt ein diwygiadau. Rhaid i’n dull ar gyfer gweithredu Cwricwlwm i Gymru fynd law yn llaw â chynnydd tuag at yr amcanion cysylltiedig hyn, a rhaid iddynt ddatblygu ar yr un cyflymder. Byddwn hefyd yn ystyried sut y dylai’r gwersi a ddysgir drwy’r Rhwydwaith Cenedlaethol, a dealltwriaeth o’n cynnydd, lywio a helpu i lunio ein dulliau gweithredu mewn perthynas â phob un o’r amcanion galluogi hyn, a sut y dylai’r gwersi a ddysgir ym mhob un o’r meysydd cysylltiedig hyn lywio ein dealltwriaeth o weithredu Cwricwlwm i Gymru.

Ochr yn ochr â’n diweddariad ar gyfer Cenhadaeth ein cenedl, gwnaethom gyhoeddi Cwricwlwm i Gymru: Y daith i 2022. Mae’n nodi disgwyliadau cyson ar gyfer ysgolion a lleoliadau mewn perthynas â’r broses o gynllunio eu cwricwlwm a pharatoi i’w weithredu o 2022 ymlaen, ac yn nodi manylion am y camau y dylent eu cymryd yn ystod y cyfnod cyn hynny.

Mae’r cynllun gweithredu hwn yn pontio Cwricwlwm i Gymru: Y daith i 2022 a Cenhadaeth ein cenedl, gan nodi sut y bydd y sector addysg ehangach yn helpu ysgolion a lleoliadau i gyflawni disgwyliadau yn unol ag ymrwymiadau Cenhadaeth ein cenedl. Mae’r cynllun gweithredu hwn hefyd yn helpu i sicrhau bod pob rhan o’r system addysg yng Nghymru yn symud i gyfeiriad cyffredin – gan helpu ysgolion a lleoliadau i anelu at bedwar diben y cwricwlwm, a chyflawni’r newid hwnnw i ddysgwyr, ymarferwyr a’r cyhoedd ehangach. Mae’n nodi cynllun gweithredu i ni fel Llywodraeth Cymru a’n partneriaid haen ganol o ran cyflawni hynny. 

Yn ogystal, mae’r cynllun gweithredu hwn hefyd yn esbonio sut mae ein diwygiadau addysg yn gysylltiedig â’n nodau fel cenedl, fel y’u nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a sut maent yn cyfrannu at y nodau hynny. Mae hefyd yn cyfleu sut rydym yn ceisio rhoi’r pum ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf ar waith:

  • hirdymor: nodi ein dyheadau hirdymor a’r newidiadau rydym am eu gwneud er budd cenedlaethau’r dyfodol
  • integreiddio: sicrhau bod y nodau llesiant wrth wraidd ein heffeithiau dymunol a deall sut mae addysg yn cyfrannu at bob un ohonynt; dod â gwahanol sefydliadau ynghyd er mwyn deall sut mae pob un yn cefnogi’r rhain
  • cynnwys: sicrhau bod dulliau datblygu ar y cyd wrth wraidd y cynllun hwn ac yn gweithredu fel conglfaen ar gyfer ein dulliau gweithredu yn y dyfodol
  • cydweithio: nodi’r rhan unigryw sydd gan bob sefydliad i’w chwarae wrth helpu ysgolion a lleoliadau i wireddu diwygiadau a’r camau y bydd pob un yn eu cymryd
  • atal: drwy’r Rhwydwaith Cenedlaethol, bydd ein dull gweithredu yn rhoi prosesau ar waith er mwyn deall a rhagweld heriau yn y dyfodol.

Er mwyn gwireddu’r diwygiadau i’r cwricwlwm, mae angen dyheadau clir a chyffredin arnom, a dealltwriaeth glir o sut y bydd pob rhan o’r system yn gweithio’n unigol a chyda’i gilydd i helpu ysgolion a lleoliadau.

Dyheadau cyffredin ar gyfer y system addysg yng Nghymru

Mae Cwricwlwm i Gymru: Y daith i 2022 yn nodi disgwyliadau cyson i ysgolion a lleoliadau o ran y broses o gynllunio a gweithredu eu cwricwla. Yn yr adran hon, rydym yn nodi dyheadau cyffredin – sy’n disgrifio ar ba ffurf yr hoffem weld y system addysg yn datblygu yn yr hirdymor, o ganlyniad i waith ysgolion a lleoliadau yn cynllunio ac yn gweithredu eu cwricwla. Mae’r rhain yn seiliedig ar ein gweledigaeth bolisi, ac yn cynnig canolbwynt ar gyfer gwaith y system addysg gyfan.

Dyheadau cyffredin ar gyfer y system addysg

1. Bydd dysgwyr yn cyflawni pedwar diben y cwricwlwm

Dyma’r nod i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, a’n hamcan pwysicaf o ran diwygio’r cwricwlwm. Dylai popeth a wneir yn y system, gan bob partner, anelu at gyflawni’r dibenion hyn. Mae anghenion a lles dysgwyr yn rhan hanfodol o’r dyhead hwn. Yn ogystal â sicrhau bod dysgwyr yn y sefyllfa orau i gyflawni pedwar diben y cwricwlwm, mae ystyried y materion hyn fel rhan greiddiol o’n gwaith yn helpu i sicrhau bod dysgwyr hefyd yn teimlo eu bod yn cael cymorth i gyflawni eu huchelgeisiau eu hunain gydol eu bywydau.

2. Bydd cwricwlwm llwyddiannus yn cael ei ddatblygu gan bob ysgol

Dylid ei ddatblygu’n unol â’r Canllawiau Cwricwlwm i Gymru, a dylai gael ei lywio gan ddysgwyr, cymunedau a chyd-destunau lleol. Dylai cwricwlwm nodi’n glir pam mae dysgu penodol yn bwysig a sut y bydd yn cyfrannu at gynnydd dysgwyr, gan gynnwys y gwaith o gynllunio trefniadau asesu fel rhan annatod o’r broses o ddatblygu cwricwlwm. Bydd ymarferwyr yn adolygu ac yn llunio eu cwricwlwm yn barhaus, gan ofyn yn gyson ‘pam’ a ‘beth nesaf’ gyda’r trefniadau asesu yn rhan hanfodol o lywio’r trafodaethau hyn.

3. Bydd pob cwricwlwm yn galluogi pob dysgwr i wneud cynnydd, wedi’i hwyluso gan drefniadau asesu priodol

Dylid helpu pob dysgwr i wneud cynnydd gydol ei addysg. Dylai’r cynnydd hwn fod yn ystyrlon ac yn briodol, yn seiliedig ar y dull gweithredu a nodir yn Canllawiau Cwricwlwm i Gymru. Dylai ysgolion a lleoliadau gydweithio er mwyn datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, gan ddatblygu disgwyliadau cyffredin o elfennau cynnydd a chyflymder cynnydd ar hyd y continwwm dysgu. Dylai trefniadau asesu fod yn rhan annatod o’r broses ddysgu a dylid eu cynnwys fel rhan o arferion beunyddiol. Dim ond o fewn ysgolion a lleoliadau y dylid defnyddio gwybodaeth a gesglir drwy asesiadau o ddysgwyr unigol, gan hyrwyddo cynnydd dysgwyr a chefnogi adolygiadau o gwricwla ysgolion at ddibenion gwerthuso a gwella. Ni ddylid ei defnyddio at ddibenion sicrhau atebolrwydd ysgolion, lleoliadau nac ymarferwyr.  

4. Mae dysgu ac addysgu o ansawdd uchel yn sail i bob cwricwlwm

Dylid cynnig cyfleoedd i ymarferwyr ddatblygu a defnyddio eu haddysgu, eu galluogedd a’u creadigrwydd er mwyn helpu i gyflawni eu huchelgeisiau drwy’r cwricwlwm. Dylai ymarferwyr gynnig amrywiaeth eang o brofiadau dysgu i ddysgwyr. Dylid defnyddio addysgeg mewn ffordd effeithiol ac amrywiol er mwyn ategu’r profiadau hyn, a gellir eu mireinio er mwyn adlewyrchu dulliau sy’n seiliedig ar ymchwiliadau. Dylai’r profiadau cyfannol hyn fod yn gysylltiedig â diben y dysgu ac ategu cynnydd dysgwyr. Caiff dulliau o’r fath eu hwyluso a’u hatgyfnerthu drwy gynyddu perchenogaeth ymarferwyr o’r hyn y maent yn ei addysgu a sut y maent yn ei addysgu. Mae gwella lles ymarferwyr a’u grymuso yn eu rolau, yn ogystal â lles eu dysgwyr, yn hanfodol er mwyn cyflawni’r dyhead hwn.

5. Bydd pob cwricwlwm yn gwella’r disgwyliadau i ddysgwyr ac yn sicrhau tegwch a chynwysoldeb i bawb

Dylid herio a chefnogi pob dysgwr yng Nghymru a chynnig cyfleoedd i bob dysgwr wireddu ei botensial. Dylai profiadau dysgu fod yn gynhwysol ac yn hygyrch. Dylai’r broses o gynllunio’r cwricwlwm, a chymorth i ysgolion, anelu at ymdrin â bylchau mewn cyrhaeddiad. Dylai ysgolion a lleoliadau bennu disgwyliadau uchel i ddysgwyr – gan eu herio a’u cefnogi i wneud cynnydd priodol, ar hyd y continwwm 3–16, ac wrth iddynt symud ymlaen i ddarpariaeth ôl-16.

6. Ar bob lefel, bydd dealltwriaeth gyffredin a threfniadau cyffredin ar gyfer gwireddu’r cwricwlwm ledled Cymru

Dylai’r system addysg gyfan, yn ogystal â phartneriaid a rhanddeiliaid ehangach, gefnogi cwricwlwm. Dylai gwahanol sectorau ymgysylltu mwy â’r broses o ddatblygu cwricwlwm ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol ac mae’n rhaid i ni alluogi’r cyhoedd i ddeall y diwygiadau a’u diben yn glir a’u cefnogi. Dylai ysgolion a lleoliadau ddatblygu eu cwricwlwm ar y cyd, gan weithio gyda dysgwyr, teuluoedd a’r gymuned ehangach. Bydd partneriaid galluogi, gan gynnwys Estyn, consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol, oll yn cynnig cymorth penodol i ysgolion a lleoliadau ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain. Dylent fwrw ati i ddileu unrhyw rwystrau rhag cyflawni’r amcanion hyn. Dylid helpu ysgolion a lleoliadau i gysylltu â strategaethau a blaenoriaethau cenedlaethol er mwyn sicrhau bod cwricwla yn adlewyrchu blaenoriaethau a heriau cymdeithasol newidiol.

Ffyrdd cyffredin o weithio

Rydym yn cydnabod bod ‘sut’ mae’r system addysg ehangach yn helpu ysgolion a lleoliadau i wireddu cwricwlwm yr un mor bwysig â ‘beth’ a wnawn. Byddwn ni a’n partneriaid yn ymrwymo i ddefnyddio’r un ffyrdd o weithio ag yr ydym wedi’u pennu i’n hysgolion a’n lleoliadau – yn arbennig o ran cydnabod bod datblygu ar y cyd yn holl bwysig.

  • Datblygu ar y cyd – Mae datblygu ar y cyd yn golygu rhannu problemau a datblygu atebion ar y cyd. Er mwyn cyflawni newid cynaliadwy gwirioneddol ar lefel ysgolion a lleoliadau, yna mae angen i ysgolion a lleoliadau a’u hymarferwyr berchenogi’r broses newid hon. Dim ond drwy greu cyfleoedd i ymarferwyr berchenogi’r broses ddiwygio yn eu hysgolion a’u lleoliadau, iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u grymuso gan y broses honno, ac iddynt deimlo cymhelliant i gyfrannu at ei datblygiad parhaus, y gallwn sicrhau llwyddiant hirdymor y diwygiadau. Mae datblygu ar y cyd yn golygu bod angen i bobl weithio ar draws ffiniau traddodiadol: rhwng haenau addysgol yn ogystal â rhwng disgyblaethau, ysgolion, lleoliadau a chyfnodau, a chyda rhanddeiliaid y tu hwnt i’r system addysg. Mae hyn yn golygu y gellir profi atebion o safbwyntiau gwahanol, gan ddefnyddio gwahanol brofiadau ac arbenigedd.
  • Tegwch wrth ddatblygu ar y cyd – Dylai ddatblygu ar y cyd sicrhau tegwch rhwng gwahanol leisiau mewn tîm neu yn y system, yn hytrach nag un llais yn rhoi cyfarwyddyd. Dylai gydnabod bod pob llais yn y broses yn gwneud cyfraniad dilys. Dylai fod yn broses ar wahân i hierarchaethau rheoli a chyfrifoldebau, gan ganiatáu i bawb herio a chael eu herio.
  • Cyfle ac amser i feddwl ac ymgysylltu – Mae datblygu atebion ar y cyd yn cymryd mwy o amser. Mae angen datblygu syniadau, atebion a chydberthnasau o ansawdd uchel dros gyfnod hwy o ymgysylltu, gan feithrin dealltwriaeth, deialog proffesiynol, ymddiriedaeth a pharch dros amser. Mae hyn hefyd yn cydnabod mai proses fireinio barhaus yw’r broses o gynllunio’r cwricwlwm, gan ganolbwyntio ar fathau o ymddygiad a dulliau gweithredu hirdymor, yn hytrach na rhuthro i ddarparu cynnyrch. Mae datblygu ar y cyd yn gofyn am drefniadau profi, arbrofi ac adolygu, gan ganiatáu camgymeriadau mewn amgylchedd diogel. Mae angen i’r cymorth a roddir i ysgolion a lleoliadau fod yn effeithlon: ni ddylid eu llethu â manylion.
  • Dealltwriaeth glir o ‘pam’ y caiff pethau eu dysgu a’u gwneud – Mae gofyn yn gyson ‘pam’ ein bod yn addysgu rhywbeth yn helpu’r system i wneud gwell penderfyniadau am yr hyn y dylid ei addysgu. Mae’r broses o gynllunio’r cwricwlwm yn gofyn i ni resymu pam mae dysgu penodol yn bwysig a beth yw hanfod y dysgu hwnnw. Mae hyn yn golygu bod canolbwynt y dysgu ar bedwar diben y cwricwlwm ac yn rhoi cadernid iddo, yn hytrach na chyflwyno gweithgareddau neu ffeithiau digyswllt. Mae asesu, a sut y mae’n sail i gynnydd, yn rhan annatod o’r broses hon. Dylai’r system herio pam mae rhai gweithgareddau penodol yn ofynnol neu’n cael eu cynnal: os nad ydynt yn cyfrannu at helpu’r dysgwyr i wireddu ein gweledigaeth a’n dyheadau, yna a oes eu hangen?
  • Ymgysylltu’n feirniadol ag arbenigedd – Caiff y broses o gynllunio cwricwlwm ei hategu gan waith ymgysylltu deallusol ag amrywiaeth o waith ymchwil o ansawdd, cyfraniad gan arbenigwyr ac arbenigedd rhyngwladol. Dylai cyfraniad cadarnhaol gan arbenigwyr ddeall a rhannu’r weledigaeth ar gyfer y cwricwlwm a chydnabod pwysigrwydd datblygu ar y cyd, yn hytrach na hyrwyddo agenda benodol.
  • Arweinyddiaeth ar bob lefel o’r system addysg – Rhaid i bob rhan o’r system ddarparu arweinyddiaeth er mwyn galluogi’r rhannau eraill i gyflawni ein gweledigaeth a’n dyheadau. Dylai arweinwyr ysgolion fodelu’r ffyrdd eraill o weithio a nodir yma a’u galluogi. Dylent ddarparu cyfeiriad clir, her a disgwyliadau uchel, ond gan ganiatáu’r gallu i addasu. Mae’r arweinyddiaeth hon hefyd yn cynnwys diwylliant o ymddiriedaeth a grymuso: yng nghyd-destun ysgolion, dylai ymarferwyr osgoi datblygu deunydd neu ddata ychwanegol er mwyn dangos tystiolaeth o’r hyn y maent yn ei wneud.
  • Gweithredu fel sefydliadau sy’n dysgu – Bydd angen i ysgolion, lleoliadau a sefydliadau eraill ddangos esiampl o ran rhinweddau sefydliadau effeithiol sy’n dysgu, gan ddysgu gan y goreuon yn y byd er mwyn parhau i helpu ysgolion a lleoliadau ar ein taith ddiwygio genedlaethol.

Rolau a chyfrifoldebau

Wrth i ni symud i mewn i’r cyfnod gweithredu, mae’n hanfodol ein bod ni a’n partneriaid strategol yn cyfleu i ysgolion a lleoliadau sut y byddwn ni a’n partneriaid haen ganol allweddol yn cefnogi ysgolion a lleoliadau. Bydd dealltwriaeth glir o gyfraniadau unigryw pob sefydliad yn golygu y gallwn osgoi achosion o orgyffwrdd neu ddyblygu ymdrech – ac yn anad dim, y gallwn osgoi llethu ysgolion a lleoliadau.

Mae’r tabl isod yn nodi’r rolau a’r cyfrifoldebau hyn, er mwyn rhoi dealltwriaeth gliriach o ba fath o gymorth y dylai ysgolion a lleoliadau ei ddisgwyl gennym ni, Estyn a chonsortia rhanbarthol wrth iddynt symud tuag at wireddu’r cwricwlwm.

Sefydliad

Rolau a chyfrifoldebau 

 

Llywodraeth
Cymru

Darparu disgwyliadau cenedlaethol clir drwy sicrhau dealltwriaeth gyffredin o beth mae diwygio llwyddiannus yn ei olygu ym mhob maes, egluro rolau gwahanol rannau o’r system wrth gefnogi ymdrechion diwygio, a chydgysylltu canllawiau cenedlaethol yn effeithiol er mwyn sicrhau bod negeseuon yn glir ac yn syml i ysgolion a lleoliadau.

Sefydlu, hwyluso a grymuso’r Rhwydwaith Cenedlaethol drwy gysylltu ymarferwyr, rhanddeiliaid ac arbenigwyr er mwyn nodi ac ymdrin â rhwystrau i weithredu, a chyfleoedd, drwy ddatblygu ar y cyd.

Galluogi trefniadau gweithredu drwy sicrhau bod pob rhan o’n gwaith yn gydnaws â nodau diwygio ehangach ac yn cefnogi’r nodau hynny, hwyluso ymdrechion i greu unrhyw ganllawiau ychwanegol gofynnol, ystyried argymhellion y Rhwydwaith Cenedlaethol a chynnig cymorth i’w rhoi ar waith, a chefnogi ymdrechion i gomisiynu adnoddau a deunyddiau i helpu ymarferwyr i ddatblygu a gweithredu eu cwricwla.

Goruchwylio adborth a dysgu drwy’r system gyfan drwy bennu prosesau clir ar gyfer monitro cynnydd tuag at amcanion a chanlyniadau, gan gyflwyno adroddiadau i’r Gweinidog Addysg ar gynnydd tuag at ddiwygio.

Estyn

Darparu atebolrwydd cyhoeddus i ddefnyddwyr gwasanaethau o ran ansawdd a safonau addysg a hyfforddiant yng Nghymru, sy’n cynnwys gwerthusiad system gyfan o ansawdd y broses o weithredu’r cwricwlwm a’i addysgu.

Ymgysylltu â darparwyr, gan gynnwys ysgolion a sefydliadau haen ganol eraill, cyhoeddi adroddiadau, gan gynnwys adroddiadau arolygu, arolygon thematig cenedlaethol ac Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi (PAEM), a fydd yn helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisi cenedlaethol ac yn darparu gwerthusiad system gyfan.

Meithrin capasiti ar gyfer gwella pob rhan o’r system addysg a hyfforddiant yng Nghymru drwy gyfrannu at rwydweithiau cenedlaethol a rhannu arferion effeithiol drwy waith arolygu a gwaith thematig.

Consortia rhanbarthol

Darparu rhaglen dysgu proffesiynol i ymarferwyr ar draws pob carreg filltir o ran arweinyddiaeth a’r gweithlu ehangach, er mwyn helpu i wireddu Cwricwlwm i Gymru.

Cynnig cymorth wedi’i deilwra’n benodol i ysgolion a lleoliadau wrth ddatblygu cwricwlwm cynhwysol i bob dysgwr ac ar sail yr anghenion a nodwyd yn unol â gweledigaeth pedwar diben y cwricwlwm.

Ymgysylltu’n weithredol â phob ysgol a lleoliad er mwyn helpu i ddatblygu Cwricwlwm i Gymru a pharatoi ar ei gyfer drwy ohebiaeth reolaidd wrth i ganllawiau pellach gael eu cyhoeddi.

Hwyluso cyfleoedd i ysgolion, lleoliadau, clystyrau, rhwydweithiau a chlystyrau fyfyrio ar eu darpariaeth cwricwlwm bresennol a chefnogi gwaith cynllunio strategol ar gyfer 2022 a thu hwnt yn unol â disgwyliadau’r system.

Rhannu arferion sy’n dod i’r amlwg ym maes cynllunio i wella ysgolion er mwyn gallu gweithredu a gwireddu Cwricwlwm i Gymru yn llwyddiannus mewn ysgolion a lleoliadau.

Annog ysgolion a lleoliadau i rannu arferion arloesol ac effeithiol ag eraill, gan greu cymunedau dysgu sy’n adlewyrchu ymdeimlad o gynefin.

Gweithio mewn partneriaeth agos ag awdurdodau lleol er mwyn helpu i wella ysgolion drwy ddull gweithredu cyfannol ac integredig mewn perthynas â’r broses ddiwygio ehangach.

Galluogi cyfleoedd rhwydweithio i ymarferwyr sy’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i feithrin dealltwriaeth gyffredin o gynnydd mewn ysgolion a lleoliadau unigol a ariennir, ac ar lefel clwstwr ar hyd y continwwm 3–16.

Helpu pob ysgol a lleoliad i ddatblygu fel sefydliadau sy’n dysgu, i fod yn ymaddasol; gan arwain a chynllunio ar gyfer newid wrth ymateb i’r heriau sy’n gysylltiedig â phandemig COVID-19.

Meithrin gallu ar gyfer ymholiadau proffesiynol er mwyn i ysgolion a lleoliadau allu defnyddio gwaith ymchwil wrth ystyried y cwricwlwm; helpu ymarferwyr i gymryd rhan weithredol yn yr adolygiad Cymwys ar gyfer y Dyfodol a rhoi cymorth wrth gynllunio i weithredu cymwysterau yn y dyfodol.

Cydweithio â Llywodraeth Cymru a phartneriaid i ddatblygu rhwydwaith cymorth ehangach i ysgolion a lleoliadau wrth ddatblygu agweddau o fewn y cwricwlwm, e.e. cysylltiadau â busnesau a sefydliadau’r trydydd sector.

Meithrin cydberthnasau cadarnhaol pellach ag ysgolion a lleoliadau i’w hysbrydoli i ddatblygu eu hymreolaeth wrth iddynt gynllunio cwricwlwm dilys ac ystyrlon i ennyn diddordeb pob dysgwr a’u cyffroi.

Hyrwyddo trefniadau cydweithio er mwyn i ysgolion a lleoliadau allu gweithio gyda’i gilydd â mwy o berchenogaeth a lefelau ymddiriedaeth uchel, gan ddefnyddio cydbwysedd effeithiol o ddulliau hyfforddi a mentora.

Cyfrannu at sicrhau cyfle cyfartal i bob ysgol a lleoliad gael cyfleoedd dysgu proffesiynol ledled y rhanbarth.

Yn ogystal â’r sefydliadau hyn, bydd partneriaid eraill yn y system addysg yn parhau i chwarae rhan allweddol o ran helpu ysgolion a lleoliadau gydol cyfnod gweithredu Cwricwlwm i Gymru, fel y nodir isod.

  • Bydd awdurdodau lleol, sy’n gyfrifol am ddarparu addysg gynnar mewn lleoliadau nas cynhelir a ariennir ac am y cwricwlwm ar gyfer dysgwyr sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol mewn lleoliadau nad ydynt yn unedau cyfeirio disgyblion, yn parhau i helpu lleoliadau sy’n darparu addysg gydol cyfnod gweithredu Cwricwlwm i Gymru.

  • Mae Cymwysterau Cymru yn y broses o gyd-ddatblygu cymwysterau newydd i ddysgwyr 14 i 16 oed, a fydd yn cysoni, ategu ac adlewyrchu’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd y gyfres o gymwysterau newydd yn cael eu haddysgu o 2025 ymlaen, gyda’r dyfarniadau cyntaf yn 2027. Mae trafodaethau manwl wedi bod yn cael eu cynnal ers cryn dipyn o amser, a bydd hynny’n parhau drwy amrywiol rwydweithiau a digwyddiadau i randdeiliaid. Yn fwyaf diweddar, lansiodd Cymwysterau Cymru ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu sylwadau ar nifer o gynigion lefel uchel ynghylch y cymwysterau a’r dulliau asesu newydd sy’n cael eu cynnig.

  • Bydd esgobaethau, sy’n gyfrifol am ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion gwirfoddol a reolir, yn parhau i gefnogi a chynghori ysgolion wrth iddynt wireddu’r broses o weithredu Cwricwlwm i Gymru. Bydd yr esgobaethau yn cynnig cymorth yn benodol yng nghyd-destun ysgolion crefyddol eu cymeriad yn ogystal â chymorth mwy penodol ar y cyd â chonsortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol.

Mae Atodiad A yn nodi’r camau gweithredu manwl y byddwn ni, Estyn a’r consortia rhanbarthol yn eu cymryd er mwyn cefnogi ysgolion a lleoliadau ar y daith i 2022.

Yr heriau allweddol wrth ddiwygio’r cwricwlwm a sut y byddwn yn ymdrin â nhw

Er mai cefnogi dysgwyr ac ymarferwyr drwy Gwricwlwm i Gymru yw ein nod terfynol, rydym yn ymwybodol y bydd gwireddu hynny yn heriol iawn. Mae profiad rhyngwladol yn dangos i ni mai’r her fwyaf sy’n gysylltiedig â diwygio’r cwricwlwm yw gweithredu’r diwygiadau hynny. Mae’r profiad hwn hefyd yn dangos i ni beth sydd angen i ni ei wneud er mwyn sicrhau llwyddiant y diwygiadau hyn. Yn arbennig, mae’r canlynol yn hanfodol:

  • ym mhob ysgol a lleoliad ac mewn rhannau eraill o’r system addysg, dylid sicrhau dealltwriaeth gyffredin o’r hyn yr ydym am ei gyflawni a’r hyn sy’n cyfateb i gwricwlwm ‘da’
  • ein bod yn cynnal ac yn ehangu prosesau datblygu ar y cyd ar lefel genedlaethol, er mwyn sicrhau bod ymarferwyr yn bartneriaid cyfartal wrth wneud penderfyniadau ar y lefel uchaf
  • bod gan ysgolion a lleoliadau ddigon o gyfleoedd i feddwl a gwneud newidiadau
  • bod gan y llywodraeth a’i phartneriaid galluogi ddealltwriaeth glir a chyffredin o’r heriau y mae ysgolion a lleoliadau yn eu hwynebu
  • bod y canllawiau a’r cymorth a ddatblygir gan y llywodraeth a’i phartneriaid galluogi yn effeithlon ac yn grymuso ysgolion a lleoliadau i oresgyn heriau penodol.

Bydd ysgolion a lleoliadau yn wynebu nifer o heriau sylweddol wrth baratoi ar gyfer eu cwricwla a’u gweithredu. Mae’n hanfodol ein bod yn nodi’r heriau hyn ac yn gweithio’n agos gyda’r proffesiwn a phartneriaid cymorth er mwyn helpu i’w goresgyn drwy ddatblygu ar y cyd. Rydym wedi dechrau nodi rhai o’r materion hyn, ac wedi eu categoreiddio gan ddefnyddio’r themâu eang canlynol:

  • Egwyddorion cynllunio ar gyfer y cwricwlwm, gan gynnwys cynnydd ac asesu
  • Datblygu ar y cyd a meithrin dealltwriaeth
  • Cynnal llais y proffesiwn o fewn polisi cenedlaethol
  • Strwythur a chynnwys manwl i’r cwricwlwm
  • Cymorth i ysgolion a lleoliadau
  • Sicrhau tegwch mewn cwricwla
  • Deall cynnydd cenedlaethol tuag at weithredu.

Mae’r meysydd hyn yn cynnwys cwestiynau a heriau a fydd yn llywio ffocws cychwynnol y Rhwydwaith Cenedlaethol. Mae rhai enghreifftiau pwysig yn cynnwys y canlynol (ond nid dim ond yr enghreifftiau hyn a geir):

  • dysgu a chymhwyso’r hyn a ddysgwyd o bandemig COVID-19 wrth weithredu’r cwricwlwm
  • deall rôl asesu fel rhan o’r cwricwlwm, a chydberthynas y rôl honno â chynnydd
  • y broses o gynllunio’r cwricwlwm
  • sut y gellir defnyddio adnoddau yn y ffordd orau er mwyn helpu i wireddu Cwricwlwm i Gymru
  • datblygu cwricwlwm sy’n hygyrch i bawb
  • deall sut mae Cwricwlwm i Gymru yn adlewyrchu continwwm y Gymraeg a sut i weithredu hyn
  • deall effaith diwygio’r cwricwlwm ar les dysgwyr ac athrawon.

Ceir dadansoddiad manylach o’r heriau gweithredu allweddol, a fydd yn llywio ffocws cychwynnol y Rhwydwaith Cenedlaethol, yn Atodiad B.

Byddwn yn dod ar draws heriau – a chyfleoedd – pellach wrth i ni symud tuag at y cyfnod gweithredu. Bydd y Rhwydwaith Cenedlaethol, wedi’i lywio gan gyfraniad ymarferwyr a’n rhanddeiliaid ehangach, yn allweddol wrth nodi’r heriau a’r cyfleoedd hyn, a thrwy ddatblygu ar y cyd, bydd yn helpu i nodi atebion.

Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer gweithredu

Rôl y Rhwydwaith Cenedlaethol yw dod â gweithwyr addysgu proffesiynol, arbenigwyr, rhanddeiliaid, gwneuthurwyr polisi a phartneriaid galluogi ynghyd er mwyn nodi’r rhwystrau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â gweithredu’r cwricwlwm, ac ymdrin â nhw. Bydd yn cynnig llwyfan agored a bydd cyfle i bob ymarferydd yng Nghymru sydd â diddordeb gymryd rhan. Bydd y Rhwydwaith Cenedlaethol yn gwneud y canlynol:

  • casglu a rhannu dealltwriaeth – dod â gwahanol farnau, safbwyntiau ac arbenigedd ynghyd yn genedlaethol er mwyn deall sut rydym yn gwneud cynnydd, beth yw’r heriau a sut mae pobl yn ymateb iddynt
  • dulliau datblygu ar y cyd – gyda’n gilydd, byddwn yn penderfynu beth y gall gweithwyr addysgu proffesiynol, rhanddeiliaid, partneriaid galluogi a’r llywodraeth ei wneud i oresgyn yr heriau hyn
  • cysylltu pobl – caniatáu i bobl rwydweithio a meithrin y berthynas rhwng gweithwyr addysgu proffesiynol, arbenigwyr addysg a rhanddeiliaid a all helpu ysgolion a lleoliadau’n uniongyrchol
  • ysgogi newid – bydd ‘sgyrsiau’ yn helpu i gefnogi ac ysgogi camau gweithredu ar bob lefel.

Ar gyfer pob un o’r heriau rydym yn eu hwynebu, bydd y Rhwydwaith Cenedlaethol yn cynnal un ‘sgwrs’ genedlaethol neu fwy, y bydd unrhyw ymarferydd yn gallu cymryd rhan ynddi. Caiff y sgyrsiau hyn eu trefnu, eu harwain a’u hwyluso gan ymarferwyr. Byddwn yn defnyddio cymysgedd o gyfarfodydd wyneb yn wyneb (fel y bo’n briodol dros amser) a chyfarfodydd rhithwir er mwyn rhoi cyfle i bawb sydd am gyfrannu gymryd rhan. Byddant yn cynnig cyfle i weithwyr addysgu proffesiynol fod yn rhan o ddull cenedlaethol o ymdrin â’r heriau hyn, ac yn rhoi amser a chyfleoedd iddynt feddwl ac ymgysylltu. Bydd y sgyrsiau hyn yn anelu at ddatblygu’r canlynol, er enghraifft:

  • dulliau gweithredu a syniadau y gall ymarferwyr eu defnyddio ar ôl dychwelyd i’w hysgolion, eu lleoliadau a’u cymunedau
  • argymhellion ar gyfer comisiynu a datblygu adnoddau penodol er mwyn helpu ysgolion a lleoliadau â’u cwricwla
  • argymhellion ar gyfer llywio dysgu proffesiynol
  • dadansoddiad o’r safbwyntiau, yr heriau a’r adborth a geir yn y sgwrs(sgyrsiau) er mwyn llywio polisi’r llywodraeth a dulliau gweithredu partneriaid galluogi.

Gydol y broses, byddwn yn helpu’r ymarferwyr sy’n cymryd rhan yn y sgyrsiau i ddefnyddio’r gwersi y byddant yn eu dysgu ar ôl dychwelyd i’w hysgolion, eu lleoliadau a’u clystyrau er mwyn ystyried materion yn fanylach a chefnogi newid yn lleol. Bydd yr ymarferwyr sy’n cymryd rhan yn y sgyrsiau hyn hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gwaith dilynol fel y bo’n briodol.

Byddwn yn dechrau’r gwaith ymgysylltu hwn drwy gyfres o sgyrsiau ag ymarferwyr am ddiwygio ac adfer yn ystod gwanwyn 2021. Byddwn yn anelu at gynyddu’r gwaith ymgysylltu hwn o haf 2021 ymlaen. Mae’r llinell amser yn Atodiad C yn darparu syniad o sut rydym am i’r trefniadau ymgysylltu ddatblygu drwy’r Rhwydwaith Cenedlaethol dros amser.

Cymorth pellach

Bydd y Rhwydwaith Cenedlaethol yn ychwanegol at y cymorth y gwnaethom ni a’n partneriaid galluogi ymrwymo i’w roi yn Cenhadaeth ein cenedl. Yn arbennig, mae hynny’n cynnwys camau gweithredu penodol, a nodwyd yn y ddogfen honno, i helpu i wireddu’r cwricwlwm drwy’r pedwar amcan galluogi:

  • Dysgu proffesiynol
  • Arweinyddiaeth
  • Tegwch, rhagoriaeth a lles
  • Gwerthuso, gwella ac atebolrwydd.

Bydd y Rhwydwaith Cenedlaethol yn ategu ac yn llywio’r cymorth hwn drwy helpu ymarferwyr i wneud y canlynol:

  • defnyddio eu profiadau i fynd i’r afael â materion gweithredu fel rhan o sgwrs genedlaethol
  • helpu i lywio natur cymorth yn y dyfodol drwy lywio blaenoriaethau dysgu proffesiynol.

Pa effaith rydym am i’n diwygiadau ei chael?

Prif nod ein diwygiadau a dyhead cyffredin ein system addysg yw galluogi holl blant a phobl ifanc Cymru i fod yn:

  • dysgwyr galluog, uchelgeisiol
  • cyfranwyr mentrus, creadigol
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus
  • unigolion iach, hyderus.

Yn yr hirdymor, os bydd plant a phobl ifanc ledled Cymru yn cyflawni pedwar diben y cwricwlwm, caiff hyn effeithiau sylweddol a phellgyrhaeddol ar gymdeithas yng Nghymru. Mae’n holl bwysig ein bod yn ceisio deall yr effeithiau hyn, er mwyn gwybod beth rydym am ei gyflawni fel cenedl ac er mwyn i ni allu gweld sut rydym yn gwneud cynnydd tuag atynt.

Mae’r effeithiau hyn yn cyfrannu’n uniongyrchol at ein nodau fel cenedl, gan sicrhau lles cenedlaethau’r dyfodol. Mae trawsnewid addysg yn rhan allweddol o’r broses o gyfrannu at gyflawni’r saith nod llesiant a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Nod llesiant

Canlyniadau hirdymor Cwricwlwm i Gymru

Cymru lewyrchus

Mwy o unigolion cyflogadwy yn gadael yr ysgol a’r coleg ac yn cael cyfle i ddod o hyd i waith boddhaol.

Dinasyddion mwy ymgysylltiol a galluog.

Cymru gydnerth

Mathau o ymddygiad mwy cynaliadwy, cyfrifoldebau egwyddorol, a gwell amgylchedd.

Cymru sy’n fwy cyfartal

Llai o dlodi a mwy o symudedd cymdeithasol.

Cau’r bwlch o ran cyrhaeddiad.

Cymru iachach

Dinasyddion iachach sy’n ymwybodol o’u lles corfforol a’u hiechyd meddwl eu hunain.

Cymru o gymunedau cydlynus

Cymunedau cryfach, mwy cydlynus â chysylltiadau dyfnach rhwng ysgolion a chymunedau lleol.

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Dinasyddion sy’n gwerthfawrogi eu diwylliant nhw a diwylliant pobl eraill yn well.

Mwy o ddefnydd o’r Gymraeg.

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Dinasyddion mwy hunanymwybodol sy’n gwneud gwell penderfyniadau ac yn dangos mathau o ymddygiad cynaliadwy.

Mae’r effeithiau hyn yn disgrifio’r buddiannau a ragwelir i’r gymdeithas ehangach wrth i ddysgwyr ddechrau dangos nodweddion pedwar diben y cwricwlwm yn gynyddol.

Mae ein hamcan hirdymor o wella safonau addysgol i bawb ledled Cymru yn berthnasol i’r holl ganlyniadau hyn.

Sut y byddwn yn gwybod a yw’r diwygiadau yn gweithio?

Wrth i Gwricwlwm i Gymru gael ei gyflwyno, mae angen i ni ddeall pa gynnydd rydym yn ei wneud fel system addysg ac fel cenedl. Mae hyn yn hanfodol er mwyn meithrin hyder yn y diwygiadau ac er mwyn cynnal ein ffocws ar droi’r diwygiadau yn realiti.

Caiff y rhaglen gwerthuso a monitro hirdymor ei threfnu ar sail dau gwestiwn sylfaenol am brosesau ac effeithiau:

  1. I ba raddau y mae’r system yn gwireddu’r diwygiadau, y dyheadau cyffredin a’r ffyrdd o weithio?
  2. Sut mae’r diwygiadau yn effeithio ar y gymdeithas, ac yn cyfrannu at les cenedlaethau’r dyfodol?

Bydd y gwaith gwerthuso hwn, gwaith ymchwil a thystiolaeth yn hanfodol er mwyn nodi’r cymorth sydd ei angen, gwella’r trefniadau gweithredu a chynnal momentwm.

Bydd y rhaglen hirdymor hon ar gyfer gwerthuso a monitro’r cwricwlwm yn defnyddio dull gweithredu system gyfan er mwyn deall cynnydd ac effaith. Ni fydd yn canolbwyntio ar sicrhau atebolrwydd ysgolion a lleoliadau unigol. Yn hytrach, bydd yn defnyddio tystiolaeth a safbwyntiau o bob rhan o’r sector addysg, gan ystyried effeithiau ar ddysgwyr, ysgolion a lleoliadau yn ogystal â thueddiadau systemig ehangach i ddangos a llywio cynnydd tuag at nodau eang y diwygiadau.

Sut y byddwn yn meithrin dealltwriaeth o’ncynnydd?

Caiff y dull gwerthuso ei lywio gan yr egwyddorion canlynol:

  • cyfannol – cyfuno gwahanol fathau a ffynonellau tystiolaeth o bob rhan o’r dirwedd addysg ac o wahanol safbwyntiau er mwyn darparu darlun cytbwys a chynhwysol

  • myfyriol – nodi tueddiadau, cryfderau a heriau sy’n dod i’r amlwg a rhannu gwybodaeth amserol er mwyn sicrhau ein bod yn cydweithio’n effeithiol

  • hirdymor – cysylltu tystiolaeth ar lwyddiannau a heriau cynnar â’r broses o wireddu nodau hirdymor.

Byddwn yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer comisiynu a choladu’r gwaith ymchwil a’r dystiolaeth sydd eu hangen ar gyfer y rhaglen werthuso hirdymor. Bydd y rhaglen yn defnyddio trefniadau monitro polisïau a gweithgareddau sy’n bodoli eisoes yn y sector, yn ogystal â threfniadau a gweithgareddau arfaethedig a newydd.

Fel yr arolygiaeth, bydd y gwaith a wneir gan Estyn ar lefel genedlaethol yn rhan hanfodol o ddeall cynnydd y system. Er enghraifft, bydd gwerthusiad system gyfan o ansawdd y broses o weithredu’r cwricwlwm a’i addysgu, adroddiadau arolygu, arolygon thematig cenedlaethol ac Adroddiad Blynyddol PAEM oll yn darparu gwybodaeth bwysig am gynnydd. Bydd yr wybodaeth hon, yn ogystal â thystiolaeth o waith partneriaid strategol eraill, yn cyfrannu at ein hasesiad ehangach o’n cynnydd fel cenedl tuag at ddiwygio.

Bydd angen i’r rhaglen gwerthuso a monitro hirdymor hefyd ystyried gwybodaeth newydd am y diwygiadau. Bydd y cyfuniad hwn o wybodaeth newydd a gwybodaeth sy’n bodoli eisoes yn sicrhau y caiff y rhaglen ei llywio gan amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys tystiolaeth a safbwyntiau ar y canlynol, er enghraifft:

  • cynllunio a chyflwyno’r cwricwlwm
  • gwella ysgolion
  • cyfleoedd dysgu proffesiynol a nifer y bobl sy’n manteisio arnynt
  • trefniadau asesu a’u heffaith ar addysg a chynnydd dysgwyr
  • yr effeithiau ar ddysgwyr, ysgolion, lleoliadau a chymunedau
  • presenoldeb, absenoldeb, cofrestru ar gyfer pynciau a data gweinyddol eraill
  • dangosyddion iechyd a lles ar gyfer dysgwyr a’r gweithlu addysg
  • y cyfleoedd i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, nifer y bobl sy’n manteisio ar y cyfleoedd hynny a chymwyseddau
  • yr effaith ar ddarpariaeth addysg mewn lleoliadau meithrin nas cynhelir.

Ceir rhagor o fanylion am yr wybodaeth benodol y bydd y rhaglen werthuso yn ei defnyddio yn y Strategaeth Werthuso yn 2021/22.

Caiff y dystiolaeth honno ei thrafod a’i hesbonio yng nghyd-destun canfyddiadau a phrofiadau amrywiaeth eang o randdeiliaid. Daw’r canfyddiadau hyn o’r Rhwydwaith Cenedlaethol a gweithgareddau ymchwil eraill er mwyn deall safbwyntiau’r canlynol, er enghraifft:

  • dysgwyr
  • rhieni a gofalwyr
  • ymarferwyr, ysgolion a lleoliadau
  • cymunedau lleol
  • cyflogwyr
  • sectorau addysg bellach ac uwch
  • ein partneriaid cyflenwi
  • y cyhoedd.

Yn olaf, er mwyn  dangos yn union faint o effaith a gafodd y diwygiadau i’r cwricwlwm, bydd tystiolaeth y gwerthusiad yn creu darlun hirdymor ac yn cyflwyno’r canfyddiadau ochr yn ochr â ffactorau eraill sydd wedi effeithio ar gynnydd tuag at ein nodau ehangach fel cenedl fel y’u disgrifiwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Llinell amser

Caiff y rhaglen werthuso ei chyflwyno fesul cam dros fframiau amser byrdymor, tymor canolig a hirdymor a bydd yn cynnwys cerrig milltir i adrodd arnynt yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod gennym wybodaeth amserol a pherthnasol. Bydd yn ategu’r trefniadau ar gyfer gweithredu Cwricwlwm i Gymru fesul cam, gan roi darlun clir i ymarferwyr a’r cyhoedd o’r cynnydd a wnaed.

2021–22: Parodrwydd a chwmpasu

Fel rhan o’r gwaith gweithredu, byddwn yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o ysgolion, lleoliadau ac ymarferwyr er mwyn deall y gwahanol lefelau o barodrwydd yn y sector. Bydd hyn yn cynnwys cynnal sgyrsiau ag ymarferwyr, arolygon, cyfweliadau a chasglu tystiolaeth drwy ein partneriaid cyflenwi. Bydd hyn yn ein galluogi i ddiweddaru ein hamcangyfrifon costau, datblygu a thargedu canllawiau hanfodol ac annog ymgysylltiad eang â’r diwygiadau wrth i ysgolion a lleoliadau adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o bandemig COVID-19 a symud yn agosach at roi’r diwygiadau ar waith.

Caiff cynllun manwl yn nodi sut yn union y byddwn yn monitro ac yn gwerthuso cynnydd yn y tymor canolig ei gyhoeddi yn 2021/22. Bydd hyn yn cynnwys adolygu’r dystiolaeth a gasglwyd hyd yn hyn (e.e. ar barodrwydd a gwaith cynllunio cwricwla) a chynllun ymchwil er mwyn ymdrin â phrif gwestiynau’r gwerthusiad. Bydd y dull gweithredu strwythuredig hwn yn sicrhau y gallwn ddefnyddio amrywiaeth eang o ffynonellau tystiolaeth i lunio gwerthusiadau cadarn a defnyddiol o bob agwedd ar y broses ddiwygio.

2022–26: byrdymor i dymor canolig

Unwaith y bydd y strategaeth werthuso wedi’i chwblhau, byddwn yn cynnal gweithgareddau ymchwil newydd ac yn cydgysylltu’r gwaith o ddadansoddi a chyfosod amrywiaeth o ffynonellau tystiolaeth.

Bydd cyhoeddiadau ‘Cyflwr y genedl’ yn nodi’r cyflawniadau hyd yn hyn, gan gyflwyno adroddiad ar gynnydd cyffredinol tuag at y dyheadau cyffredin. Byddant hefyd yn ymdrin â’r ffyrdd cyffredin o weithio, gan nodi’r heriau a’r cyfleoedd i’r system addysg yn gyffredinol a darparu astudiaethau achos a gwybodaeth am enghreifftiau o weithredu llwyddiannus ar bob lefel o’r system.

Yn 2025/26, bydd y garfan gyntaf o ddysgwyr yn cwblhau Blwyddyn 9. Bydd hyn yn adeg dda i bwyso a mesur a myfyrio ar flynyddoedd cynnar y broses weithredu. Byddwn yn dechrau ystyried i ba raddau rydym yn gweld pedwar diben y cwricwlwm yn cael eu hymgorffori a’r effeithiau ehangach a fwriedir ar gymdeithas yn cael eu gwireddu.

Yn 2026, bum mlynedd ar ôl i’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gael Cydsyniad Brenhinol, byddwn yn llunio adolygiad o’r costau a’r buddiannau a ragwelir a nodir yn y Memorandwm Esboniadol.

2026 ymlaen: tymor canolig i hirdymor

Erbyn y cyfnod hwn, byddwn yn gallu rhannu’r gwersi a ddysgwyd o gamau cynnar y broses weithredu a dangos sut y cawsant eu rhoi ar waith. Dylem hefyd allu gweld effeithiau yn dod i’r amlwg ar lefel genedlaethol a gallwn ddechrau cyflwyno adroddiadau yn erbyn y dangosyddion lefel uchel sy’n gysylltiedig â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Wrth i ysgolion uwchradd gyflwyno eu cwricwla newydd, mae’n bosibl y bydd angen i ni ailystyried agweddau ar y cynllun gweithredu ac y bydd angen i ni sicrhau bod strategaeth y rhaglen werthuso yn casglu’r wybodaeth a’r safbwyntiau angenrheidiol o hyd.

Yn 2027/28, bydd y garfan gyntaf o ddysgwyr wedi gorffen Blwyddyn 11. Bydd cyfle bryd hynny i adolygu eu profiadau o’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu newydd mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd, a pharhad ar hyd y continwwm dysgu.

Mae’r atodiad hwn yn nodi’r camau manwl y byddwn ni (Llywodraeth Cymru), Estyn a’r consortia rhanbarthol yn eu cymryd er mwyn cefnogi ysgolion a lleoliadau yn y gwahanol gyfnodau a nodir yn Cwricwlwm i Gymru: Y daith i 2022. Fe’u nodir yn unol â’r rolau a’r cyfrifoldebau a’r ffyrdd cyffredin o weithio yn y cynllun gweithredu hwn.

Ymgysylltu (1–2 dymor)

Llywodraeth Cymru

  • Dechrau’r gwaith ymgysylltu ag ysgolion a lleoliadau ar ddiwygio’r cwricwlwm drwy gyfres o sgyrsiau ag ymarferwyr am ddiwygio ac adfer yn ystod gwanwyn 2021.
  • Pennu strwythur y Rhwydwaith Cenedlaethol er mwyn helpu i lywio syniadau a ffocws.
  • Hwyluso’r trefniadau ar gyfer creu unrhyw ganllawiau neu eglurhad gofynnol ynghylch materion a chyfleoedd gweithredu cenedlaethol.
  • Sicrhau y caiff canllawiau eu cydgysylltu’n glir er mwyn cyfleu negeseuon clir a syml i ysgolion a lleoliadau.
  • Ymgysylltu ar barodrwydd y sector i ddiwygio, fel rhan o waith cwmpasu’r gwerthusiad.

Estyn

  • Symud ffocws galwadau ac ymweliadau ymgysylltu tuag at y cwricwlwm ac addysgu.
  • Cadw’r ffocws ar ddatblygu addysgu effeithiol er mwyn helpu i ddatblygu’r cwricwlwm.
  • Ystyried cynlluniau darparwyr ar gyfer datblygu eu cwricwlwm yn yr hirdymor gyda’r bwriad o anelu at ‘feddwl’ am symud i Gwricwlwm i Gymru.
  • Ystyried y cyfleoedd y mae darparwyr wedi’u cael i feithrin dealltwriaeth staff o Gwricwlwm i Gymru a thrafod Cwricwlwm i Gymru: Y daith i 2022 a beth y mae hyn yn ei olygu i’r ysgol neu leoliad yn ei chyd-destun unigol.
  • Llunio adroddiadau cryno ar ganfyddiadau galwadau ac ymweliadau ymgysylltu er mwyn crynhoi cynnydd a rhannu arferion diddorol.
  • Cyhoeddi blogiau, cameos a gweminarau yn seiliedig ar yr adroddiad thematig ar y cwricwlwm uwchradd er mwyn annog gwaith ymgysylltu mewn perthynas â’r cwricwlwm.
  • Rhoi hyfforddiant diweddaru i bob Arolygydd Ei Mawrhydi (AEM), arolygydd cofrestredig ac arolygydd ychwanegol ar y trefniadau arolygu o fis Medi 2021 a’r disgwyliadau cyffredin hyd at 2022.
  • Drwy ddiweddariadau bob tymor i’r Gweinidog Addysg a thrwy gyhoeddi adroddiadau thematig ac Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi (PAEM), parhau i roi cyngor i Lywodraeth Cymru er mwyn llywio polisi.

Consortia rhanbarthol

  • Cynnig dysgu proffesiynol a hwyluso rhwydweithiau sy’n cynnig cymorth i ysgolion a lleoliadau wneud y canlynol:
    • deall y Fframwaith Cwricwlwm i Gymru yn llawn
    • gwneud darpariaeth ar gyfer gwireddu Cwricwlwm i Gymru mewn cynlluniau datblygu ysgolion
    • arwain y broses o ddatblygu addysgeg yn effeithiol
    • arwain diwylliant o newid yn effeithiol
    • creu gweledigaeth gyffredin ar gyfer y cwricwlwm yn eu hysgol/lleoliad/clwstwr.

Cynllunio, trefnu a threialu (3 thymor)

Llywodraeth Cymru

  • Cynyddu gwaith ymgysylltu’r Rhwydwaith Cenedlaethol:
  • sefydlu grŵp craidd o ymarferwyr a’i alluogi i ddechrau ar ei waith o gynllunio gweithgarwch y Rhwydwaith Cenedlaethol ehangach
  • hwyluso mwy o sgyrsiau rhwydwaith a sgyrsiau ehangach ar y materion a nodir yn Atodiad B, yn ogystal â materion ehangach a godir gan y grŵp craidd
  • cefnogi gwaith i gomisiynu deunyddiau i helpu ymarferwyr i ddatblygu a gweithredu eu cwricwlwm, gan fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd – wedi’u llywio gan ‘sgyrsiau’ yn y Rhwydwaith Cenedlaethol
  • gweithredu ar y materion a’r heriau allweddol a godir gan y Rhwydwaith Cenedlaethol.
  • Parhau â gwaith gyda’n partneriaid strategol i gyflawni yn erbyn pedwar amcan galluogi Cenhadaeth ein cenedl:
    • Dysgu proffesiynol
    • Arweinyddiaeth
    • Tegwch, rhagoriaeth a lles
    • Gwerthuso, gwella ac atebolrwydd.
  • Ymgynghori ar ganllawiau ychwanegol i’w cynnwys yn Canllawiau Cwricwlwm i Gymru a’u cyhoeddi.
  • Dechrau cyhoeddi adnoddau dwyieithog er mwyn helpu i gynllunio’r cwricwlwm mewn ysgolion a lleoliadau.

Estyn

  • Ailddechrau cynnal arolygiadau o ysgolion a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion ym mis Medi 2021 a sicrhau bod pob arolygydd yn deall y gwahanol gyfnodau tuag at weithredu Cwricwlwm i Gymru o fis Medi 2022.
  • Ymweld â darparwyr fel rhan o barhad y strategaeth ymweliadau ymgysylltu a gwaith arolygon thematig er mwyn trafod sut maent yn gweithio tuag at y camau gweithredu yn eu cynlluniau datblygu sy’n ymwneud ag agweddau treialu ar gynllunio, dulliau gweithredu newydd ac addysgeg a sut maent yn defnyddio’r dysgu’r hwn i werthuso a mireinio eu dulliau gweithredu.
  • Drwy ddiweddariadau bob tymor i’r Gweinidog Addysg a thrwy gyhoeddi adroddiadau thematig ac Adroddiad Blynyddol PAEM, parhau i roi cyngor i Lywodraeth Cymru er mwyn llywio polisi.

Consortia rhanbarthol

  • Cynnig dysgu proffesiynol a hwyluso rhwydweithiau sy’n cynnig cymorth i ysgolion a lleoliadau wneud y canlynol:
    • rhannu dulliau gweithredu ar gyfer cynllunio datblygiadau
    • deall a datblygu dulliau cynllunio’r cwricwlwm sy’n unol ag egwyddorion ac athroniaeth Cwricwlwm i Gymru
    • gwella eu dealltwriaeth o’r Fframwaith Cwricwlwm i Gymru
    • cynnwys pob agwedd ar y Fframwaith Cwricwlwm i Gymru yn y broses gynllunio
    • cynnwys pob agwedd ar y rhaglen ddiwygio ehangach er mwyn helpu i wireddu’r cwricwlwm (e.e. Cymraeg, diwygio anghenion dysgu ychwanegol (ADY), ac ati)
    • rhoi cymorth dysgu proffesiynol penodol ar lefel meysydd dysgu a phrofiad, yn enwedig lle ceir agweddau newydd ar y Fframwaith Cwricwlwm i Gymru
    • datblygu dulliau ymholi proffesiynol
    • adolygu a mireinio, lle y bo’n briodol, eu dulliau gwerthuso a gwella er mwyn sicrhau eu bod yn canolbwyntio’n briodol ar effeithiolrwydd y broses o gynllunio’r cwricwlwm a dulliau gweithredu mewn perthynas ag addysgeg
    • cynnig cyfleoedd i ymarferwyr rwydweithio, cydweithio, dysgu a rhannu arferion.

Gwerthuso a pharatoi ar gyfer addysgu’r cwricwlwm am y tro cyntaf (2–3 thymor)

Llywodraeth Cymru

  • Parhau i hwyluso sgyrsiau a chymorth yn y Rhwydwaith Cenedlaethol, gan gynnwys:
    • cydgysylltu cyfraniadau gan grwpiau ar wahanol gamau a gwneud synnwyr o’r cyfraniadau hynny
    • rhoi cymorth ymarferol a threfniadol mewn perthynas â ‘sgwrs(sgyrsiau)’ y Rhwydwaith Cenedlaethol
    • cydgysylltu a choladu allbynnau’r Rhwydwaith Cenedlaethol
    • cydgysylltu gwaith y Rhwydwaith Cenedlaethol â pholisïau ehangach Llywodraeth Cymru.
  • Parhau i sicrhau bod ymarferwyr yn cael cynnig cyfleoedd i ymgysylltu â’r Rhwydwaith Cenedlaethol a’r trefniadau ar gyfer diwygio’r cwricwlwm yn ehangach.
  • Parhau â gwaith gyda’n partneriaid strategol i gyflawni yn erbyn pedwar amcan galluogi Cenhadaeth ein cenedl:
    • Dysgu proffesiynol
    • Arweinyddiaeth
    • Tegwch, rhagoriaeth a lles
    • Gwerthuso, gwella ac atebolrwydd.
  • Datblygu a chwblhau Strategaeth Werthuso Cwricwlwm i Gymru – gan nodi’n fanwl sut y byddwn yn mesur effeithiau a chynnydd y diwygiadau.

Estyn

  • Sicrhau, drwy ohebiaeth reolaidd a hyfforddiant diweddaru, fod pob AEM, pob arolygydd cofrestredig ac arolygydd ychwanegol yn deall y gwahanol gyfnodau tuag at weithredu Cwricwlwm i Gymru o fis Medi 2022, a symud y ffocws i’r ffordd y mae darparwyr yn gwneud y canlynol:
    • dysgu o dreialon a phrofi dulliau gweithredu posibl – gan gynnwys gwrando ar lais dysgwyr
    • ehangu gwaith cynllunio a threialu byrdymor a thymor canolig er mwyn sicrhau bod y dulliau gweithredu yn cynnwys pob dysgwr
    • gwella dealltwriaeth pob rhanddeiliad o fodel cwricwlwm yr ysgol a’i threfniadau asesu
    • datblygu dulliau gweithredu er mwyn galluogi trefniadau asesu effeithiol a phriodol fel rhan annatod o ddysgu ac addysgu
    • cwblhau cynlluniau, gan gynnwys cynlluniau pontio er mwyn sicrhau proses effeithiol ar gyfer pontio dysgwyr ar hyd y continwwm 3–16.
  • Parhau i ymweld â darparwyr fel rhan o barhad y strategaeth ymweliadau ymgysylltu a gwaith arolygon thematig er mwyn trafod sut maent yn gweithio tuag at y camau gweithredu yn eu cynlluniau datblygu sy’n ymwneud â chwblhau eu cynlluniau ar gyfer gweithredu Cwricwlwm i Gymru.
  • Drwy ddiweddariadau bob tymor i’r Gweinidog Addysg a thrwy gyhoeddi adroddiadau thematig ac Adroddiad Blynyddol PAEM, parhau i roi cyngor i Lywodraeth Cymru er mwyn llywio polisi.

Consortia rhanbarthol

  • Gan adeiladu ar y gwaith yn ystod y cyfnod cynllunio, trefnu a threialu, parhau i gynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n helpu ysgolion a lleoliadau i wneud y canlynol:
    • gwella eu dealltwriaeth o’r Fframwaith Cwricwlwm i Gymru a dulliau cynllunio’r cwricwlwm, gan ddarparu cyfleoedd i rwydweithio a rhannu arferion
    • datblygu a mireinio eu dulliau cynllunio datblygiad ysgolion ymhellach
    • gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau addysg uwch er mwyn datblygu a mireinio eu dulliau ymholi proffesiynol ymhellach.

Addysgu’r cwricwlwm am y tro cyntaf a pharhau i’w fireinio (Medi 2022 ymlaen)

Llywodraeth Cymru

  • Parhau i hwyluso a chefnogi’r Rhwydwaith Cenedlaethol.
  • Parhau â gwaith gyda’n partneriaid strategol i gyflawni yn erbyn pedwar amcan galluogi Cenhadaeth ein cenedl:
    • Dysgu proffesiynol
    • Arweinyddiaeth
    • Tegwch, rhagoriaeth a lles
    • Gwerthuso, gwella ac atebolrwydd.
  • Goruchwylio dechrau proses werthuso’r diwygio, gan gynnwys ymgymryd â gweithgareddau ymchwil.
  • Rhoi prosesau ar waith i barhau i fireinio Canllawiau Cwricwlwm i Gymru.

Estyn

  • Parhau i nodi a rhannu arferion diddorol drwy ein gweithgarwch arolygu a’n cyhoeddiadau thematig.
  • Drwy ddiweddariadau bob tymor i’r Gweinidog Addysg a thrwy gyhoeddi adroddiadau thematig ac Adroddiad Blynyddol PAEM, parhau i roi cyngor i Lywodraeth Cymru er mwyn llywio polisi.

Consortia rhanbarthol

  • Cynnig dysgu proffesiynol a hwyluso rhwydweithiau sy’n cynnig cymorth i ysgolion a lleoliadau wneud y canlynol:
    • datblygu eu gwaith cynllunio strategol er mwyn gwireddu Cwricwlwm i Gymru
    • addasu eu dulliau a’u cylch monitro, gwerthuso ac adolygu er mwyn helpu i ddatblygu cwricwlwm, addysgeg a chynnydd/trefniadau asesu mewn ffordd iteraidd
    • cynnig cyfleoedd sy’n helpu ysgolion a lleoliadau i drefnu, datblygu a gwerthuso eu trefniadau ar gyfer cynllunio a datblygu’r cwricwlwm ymhellach
    • gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau addysg uwch er mwyn rhoi cymorth i ddatblygu addysgeg ar draws y meysydd dysgu a phrofiad ac ymgysylltu ymhellach â gwaith ymholi proffesiynol
    • darparu dysgu proffesiynol er mwyn helpu i ddatblygu addysgeg, trefniadau cynllunio’r cwricwlwm a dulliau asesu ym mhob rhan o’r gweithlu
    • cynnig cyfleoedd i ysgolion, lleoliadau a chlystyrau feithrin dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ar lefel ysgolion a chlystyrau unigol.

Mae’r atodiad hwn yn nodi rhai o’r materion allweddol rydym yn disgwyl y bydd ysgolion a lleoliadau yn eu hwynebu wrth ddatblygu a gweithredu eu cwricwla. Bydd y rhain yn llywio ffocws cychwynnol y Rhwydwaith Cenedlaethol, ac yn helpu i ffurfio sail ar gyfer ‘sgyrsiau’ – gan ddefnyddio dulliau datblygu ar y cyd i rannu safbwyntiau ac arferion ac i ddatrys problemau ar lefel genedlaethol.

Egwyddorion cynllunio ar gyfer y cwricwlwm (gan gynnwys cynnydd ac asesu) 

Nodau allweddol

  • Helpu ysgolion a lleoliadau gyda’r gwaith cychwynnol wrth ddatblygu cwricwlwm.
  • Sicrhau dealltwriaeth gyffredin a gwell o egwyddorion a goblygiadau cynllunio’r cwricwlwm.
  • Sicrhau dealltwriaeth gyffredin o gynnydd a rôl asesu.
  • Sicrhau bod asesu yn rhan annatod o’r cwricwlwm ac yn hanfodol er mwyn gwneud cynnydd.

Materion cychwynnol i’r Rhwydwaith Cenedlaethol

  • Datblygu gweledigaeth ar gyfer cynllunio cwricwlwm.
  • Dysgu a chymhwyso’r hyn a ddysgwyd o bandemig COVID-19 at gyd-destun y cwricwlwm.
  • Cynllunio cwricwlwm yn seiliedig ar gynnydd.
  • Meithrin dealltwriaeth o asesu fel rhan annatod o gynllunio’r cwricwlwm, cynnydd a’r broses weithredu.

Materion allweddol tymor hwy i’r Rhwydwaith Cenedlaethol

  • Sgiliau cyfannol a sgiliau trawsgwricwlaidd; Cymru a’r Gymraeg yn y cwricwlwm, datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, meysydd dysgu a phrofiad a sut y maent yn perthyn i’w gilydd, a chynnydd.
  • Sut y gallwn sicrhau ehangder a dyfnder wrth gynllunio cwricwlwm?
  • Beth yw cynnwys da ar gyfer cwricwlwm a pham?
  • Pa wahanol fathau o drefniadau asesu sy’n bodoli i ategu cynnydd?
  • Sut rydym yn gwerthuso ein cwricwlwm datblygol?
  • Sut y gall y cwricwlwm gefnogi lles dysgwyr ac ymarferwyr?
  • Cymwysterau o dan Gwricwlwm i Gymru.

Datblygu ar y cyd a meithrin dealltwriaeth

Nodau allweddol

  • Cynnwys dulliau datblygu ar y cyd yn nhrefniadau ysgolion a lleoliadau ar gyfer datblygu’r cwricwlwm.

Materion cychwynnol i’r Rhwydwaith Cenedlaethol

  • Pa ffurf y dylai’r trefniadau ar gyfer datblygu cwricwlwm ar y cyd ei dilyn?
  • Sut y gallwn fynd ati i ddatblygu cwricwlwm gyda dysgwyr, rhieni/gofalwyr, teuluoedd, a chymunedau ehangach?

Materion allweddol tymor hwy i’r Rhwydwaith Cenedlaethol

  • Cysylltu â rhanddeiliaid ehangach, gan gynnwys asiantaethau allweddol sy’n gweithio’n uniongyrchol i helpu ysgolion, lleoliadau, cyflogwyr, sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch, a darparwyr gofal plant a’r blynyddoedd cynnar.
  • Sut y gallwn alluogi dysgwyr i bontio i mewn i’r continwwm 3–16, o fewn y continwwm hwnnw a thu hwnt iddo?
  • Cysylltu â chymunedau lleol a rhanbarthol – beth yw’r ffordd orau o wneud hyn a sut y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda phartneriaid i gyflawni hyn mewn ffordd hirdymor a chynaliadwy?
  • Cydweithio er mwyn cefnogi cynnydd ar hyd y continwwm dysgu 3–16.
  • Sut y byddwn yn gwybod bod aelodau’r cyhoedd wedi deall y broses o ddiwygio’r cwricwlwm a sut y gallwn sicrhau eu bod yn gwneud hynny?
  • Beth yw goblygiadau diwygio’r cwricwlwm o ran ein dealltwriaeth o daith dysgwyr o fewn ysgolion, a chyn ac ar ôl addysg 3–16?

Parhau i ddatblygu polisi cenedlaethol

Nodau allweddol

  • Helpu i ddatrys cwestiynau polisi cenedlaethol parhaus drwy ddulliau datblygu ar y cyd.

Materion cychwynnol i’r Rhwydwaith Cenedlaethol

  • Sut y gallwn greu cyfleoedd i ddiwygio?
  • Beth yw’r heriau gweithredu allweddol sy’n gysylltiedig â Chwricwlwm i Gymru?
  • Mireinio’r disgwyliadau ar gyfer y continwwm dysgu yng Nghymru.

Materion allweddol tymor hwy i’r Rhwydwaith Cenedlaethol

  • Parhau i fireinio Canllawiau Cwricwlwm i Gymru drwy gydol 2021.
  • Sut gall cwricwla gysylltu’n well â’r heriau allweddol sy’n ein hwynebu fel cenedl ac ymateb i newidiadau o ran dealltwriaeth? Er enghraifft, dulliau gweithredu mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol a sut y gallai’r cwricwlwm addasu iddynt; materion diwylliannol a chymdeithasol pwysig fel newid yn yr hinsawdd, newid demograffig, iechyd meddwl, newid gwleidyddol a ‘newyddion ffug’; materion cydraddoldeb.

Strwythur a chynnwys manwl i’r cwricwlwm 

Nodau allweddol

  • Symud y tu hwnt i’r egwyddorion er mwyn ystyried agweddau manylach ar gynllunio cwricwla.
  • Cefnogi ymdrechion datblygu parhaus ac atgyfnerthu agweddau ar y cwricwlwm.

Materion allweddol tymor hwy i’r Rhwydwaith Cenedlaethol

  • Cefnogi ymdrechion i ddatblygu cynnwys y cwricwlwm, gan gynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):
    • iechyd meddwl
    • addysg cydberthynas a rhywioldeb
    • cynnwys sgiliau trawsgwricwlaidd gan gynnwys cymhwysedd digidol
    • cynefin
    • cynnydd yn y Gymraeg ym mhob rhan o’r cwricwlwm
    • cynwysoldeb a chynnwys safbwyntiau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn yr hyn a ddysgir
    • sicrhau datblygiad parhaus mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM)
    • ieithoedd rhyngwladol
    • trefniadau asesu
    • crefydd, gwerthoedd a moeseg
    • cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
    • addysg hawliau dynol ac amrywiaeth
    • manylion am feysydd dysgu a phrofiad: rôl disgyblaethau; beth a ystyrir yn ddetholiad da o gynnwys? Pa ddulliau addysgeg y gallai fod eu hangen?
  • Sut y gallwn sicrhau addysgu o ansawdd cyson uchel a mwy o addysgu ar gyfer y Gymraeg?

Cymorth i ysgolion a lleoliadau

Nodau allweddol

  • Sicrhau bod adnoddau a deunyddiau ategol yn addas at y diben mewn perthynas â Chwricwlwm i Gymru.
  • Sicrhau bod y Rhwydwaith Cenedlaethol yn llywio dulliau dysgu proffesiynol ehangach ac yn cael ei lywio ganddynt.

Materion cychwynnol i’r Rhwydwaith Cenedlaethol

  • Beth yw’r ffordd orau i adnoddau gefnogi Cwricwlwm i Gymru, a sut y dylem fynd ati i’w creu?

Materion allweddol tymor hwy i’r Rhwydwaith Cenedlaethol

  • Datblygu adnoddau a deunyddiau ategol ar gyfer agweddau penodol ar y cwricwlwm, ac ystyried pa ddeunyddiau addysgeg y gallai fod eu hangen i ategu’r addysgu ym mhob rhan o’r cwricwlwm.
  • Creu dulliau dysgu proffesiynol a threfniadau cydgysylltu er mwyn cefnogi ymarferwyr.

Sicrhau tegwch

Nodau allweddol

  • Sicrhau bod cwricwla ysgolion a lleoliadau yn gynhwysol ac yn helpu i ymdrin â bylchau o ran cyrhaeddiad.

Materion cychwynnol i’r Rhwydwaith Cenedlaethol

  • Sut y gallwn ddatblygu cwricwlwm sy’n hygyrch i bawb?

Materion allweddol tymor hwy i’r Rhwydwaith Cenedlaethol

  • Sicrhau bod y cwricwlwm yn gynhwysol.
  • Sut y gallwn gysylltu’r broses o ddiwygio’r cwricwlwm â’r broses o ddiwygio dull gweithredu ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol (ADY)?
  • Sut y gall y cwricwlwm wella safonau i bawb?
  • Sut y gall y cwricwlwm ymdrin â bylchau o ran cyrhaeddiad?
  • Sut y gallwn helpu pob ysgol a lleoliad i wneud cynnydd ar hyd y daith disgwyliadau cyffredin mewn ffordd deg?

Deall cynnydd cenedlaethol tuag at weithredu

Nodau allweddol

  • Meithrin dealltwriaeth gyffredin o’n cynnydd.

Materion cychwynnol i’r Rhwydwaith Cenedlaethol

  • Deall y cynllun gweithredu: beth a ystyrir yn llwyddiant mewn perthynas â’n dyheadau?

Materion allweddol tymor hwy i’r Rhwydwaith Cenedlaethol

  • Adolygiad cyflwr y genedl: pa gynnydd a wnaed gennym?
  • Sut y caiff ein dyheadau o ran diwygio’r cwricwlwm eu cynnwys yn ein fframwaith gwerthuso a gwella ac wrth gyfathrebu â’n rhanddeiliaid?
  • Sut y byddwn yn deall effaith diwygio’r cwricwlwm ar les dysgwyr ac athrawon a’u grymuso?

Ystyriaethau cyffredin

Mae nifer o faterion yn debygol o ailgodi, a bydd angen eu hystyried fel rhan o nifer o ‘sgyrsiau’.

  • Asesu – Beth mae hyn yn ei olygu o ran sut y byddwn yn cynllunio ein trefniadau asesu fel rhan o’r cwricwlwm?
  • Hygyrchedd – Sut y gallwn sicrhau bod dysgu yn hygyrch i bawb, ei fod yn ymdrin â bylchau o ran cyrhaeddiad ac yn gwella safonau?
  • Ddatblygu ar y cyd – Sut y gallwn annog cydweithwyr i gymryd rhan? Sut y caiff ei ddatblygu gyda phartneriaid?
  • Dealltwriaeth epistemig/ontolegol – Pam mae dysgu penodol yn bwysig? Beth yw diben y dysgu hwnnw?
  • Dysgu proffesiynol – Pa oblygiadau y dylid eu gweld ar gyfer dysgu proffesiynol?
  • Cymwysterau – Pa oblygiadau y dylid eu gweld ar gyfer cymwysterau?
  • Gwerthuso – Sut y byddwn yn gwybod ein bod yn llwyddo?

Gwanwyn 2021 

Gwaith ymgysylltu cychwynnol drwy gyfres o sgyrsiau ag ymarferwyr yn ystod y gwanwyn ar adfer a diwygio.

Haf 2021

Gwaith ymgysylltu cynyddol a chyflwyno’r Rhwydwaith Cenedlaethol yn ehangach, gan gynnwys ffocws ar y canlynol:

  • cytuno ar flaenoriaethau ar gyfer sgyrsiau tymor hwy â’r grŵp craidd o ymarferwyr
  • cynllunio gweithgareddau’r Rhwydwaith Cenedlaethol
  • blaenoriaethu ‘sgyrsiau’ allweddol.

Medi 2021 ymlaen

Gweithredu’r Rhwydwaith Cenedlaethol yn y tymor hwy, gan gynnwys sgyrsiau manwl ar bynciau penodol wedi’u llywio gan yr heriau a’r blaenoriaethau gweithredu allweddol, gan gynnwys o dan y themâu allweddol canlynol:

  • Egwyddorion cynllunio ar gyfer y cwricwlwm, gan gynnwys cynnydd ac asesu
  • Datblygu ar y cyd a meithrin dealltwriaeth
  • Cymorth i ysgolion a lleoliadau
  • Sicrhau tegwch
  • Parhau i ddatblygu polisi cenedlaethol
  • Strwythur a chynnwys manwl i’r cwricwlwm
  • Deall cynnydd cenedlaethol.

Cynhelir ‘sgyrsiau’ hefyd ar faterion, heriau a chyfleoedd nas nodwyd eto. Byddwn yn nodi ac yn ymdrin â’r rhain mewn partneriaeth ag ymarferwyr a rhanddeiliaid.