English

Nod canllawiau Cwricwlwm i Gymru yw helpu pob ysgol i ddatblygu ei chwricwlwm ei hun, gan alluogi ei dysgwyr i ddatblygu tuag at bedwar diben y cwricwlwm, y man cychwyn a’r dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.

Mae’r canllawiau hyn hefyd yn berthnasol i leoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, unedau cyfeirio disgyblion a’r rheini sy’n gyfrifol am ddarparu addysg heblaw yn yr ysgol (AHY), gan eu galluogi i ddatblygu dealltwriaeth o Fframwaith Cwricwlwm i Gymru (Fframwaith).

Canllawiau statudol yw Fframwaith Cwricwlwm i Gymru, a gyhoeddir o dan adran 71 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (y Ddeddf), a’r gynulleidfa darged felly yw:

  • pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir
  • corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir
  • darparwyr meithrinfeydd (lleoliadau) a ariennir nas cynhelir
  • athro sy’n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion
  • pwyllgor rheoli uned cyfeirio disgyblion
  • unigolyn sy’n darparu sesiynau dysgu ac addysgu i ddysgwr ar wahân i ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion, drwy drefniadau o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p 56)
  • awdurdod lleol yng Nghymru

Gan mai canllawiau statudol yw’r Fframwaith hwn, rhaid i’w gynulleidfa darged roi sylw iddo wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf. Drwy gydol Fframwaith Cwricwlwm i Gymru, rydym yn defnyddio’r gair ‘dylai’ wrth gyfeirio at y disgwyliadau a amlinellir yn y canllawiau statudol hyn. Defnyddir y gair hwnnw i gyfeirio at gamau yr ydym yn argymell yn gryf y dylai ysgolion a lleoliadau eu cymryd. Nid yw’n gyfystyr â gofyniad mandadol (mae gofynion felly wedi’u nodi ar wahân yn y canllawiau). Gan fod yr argymhellion hyn yn rhan o ganllawiau statudol, rhaid i ysgolion a lleoliadau eu hystyried, ond os oes ganddynt reswm da, cânt benderfynu gweithredu’n wahanol.

Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn nodi:

  • gofynion mewn perthynas â’r cwricwlwm a nodir mewn deddfwriaeth ar gyfer pob dysgwr 3 i 16 oed, er mwyn sicrhau bod yr un dysgu craidd yn digwydd ym mhob ysgol a lleoliad, a sicrhau dull cyson ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru
  • canllawiau i ysgolion a lleoliadau eu defnyddio wrth ddatblygu eu cwricwla
  • disgwyliadau o ran trefniadau asesu i gefnogi cynnydd y dysgwyr

Mae’n cynnwys y canlynol:

  • Cyflwyniad i ganllawiau Gwricwlwm i Gymru.
  • Gofynion ar gyfer y cwricwlwm ac asesu yn y ddeddfwriaeth.
  • Cynllunio eich cwricwlwm: canllaw cyffredinol ar ddatblygu cwricwlwm ar draws pob maes dysgu a phrofiad [Maes/Meysydd].
  • Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu.
  • Ymlaen â’r daith: disgwyliadau o ran y broses barhaus o gynllunio, adolygu a diwygio cwricwlwm
  • Cyflwyniad i bob Maes dysgu a phrofiad.
  • Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig: y ‘syniadau mawr ac egwyddorion allweddol ymhob Maes.
  • Egwyddorion cynnydd: sut mae dysgwyr yn gwneud cynnydd ar hyd eu dysgu ar draws y cwricwlwm.
  • Disgrifiadau dysgu: sut mae dysgwyr yn gwneud cynnydd o fewn pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig.
  • Cynllunio eich cwricwlwm: egwyddorion ar gyfer pob Maes – mwy o arweiniad Maes-benodol ar ddatblygu cwricwlwm.

Gweledigaeth ar gyfer pob cwricwlwm 3 i 16 oed

Gwella addysg yw ein cenhadaeth genedlaethol. Does dim yn fwy hanfodol na bod pob plentyn a pherson ifanc yn caffael addysg ac yn cael mynediad cyflawn at y profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw ym myd gwaith, ar gyfer dysgu gydol oes ac er mwyn bod yn ddinasyddion gweithredol.

Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn datgan yn glir beth sy’n bwysig wrth ddarparu addysg eang a chytbwys. Gweledigaeth ar y cyd yw’r pedwar diben, a dyma’r dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Wrth wireddu’r rhain, rydym yn gosod disgwyliadau uchel i bawb, yn hyrwyddo lles personol a chenedlaethol, yn herio anwybodaeth a cham wybodaeth, ac yn annog dysgwyr i chwarae eu rhan fel dinasyddion effro a beirniadol.

Cwricwlwm yr ysgol neu’r lleoliad yw popeth mae dysgwyr yn ei brofi ar drywydd y pedwar diben. Mae’n fwy na’r hyn rydyn ni’n ei addysgu yn unig. Mae hefyd yn ymwneud â sut rydyn ni’n ei addysgu ac, yn allweddol, pam ydyn ni’n ei addysgu.

Dylai datblygu cwricwlwm fod wrth wraidd ymdrechion ymarferwyr, ysgolion a’r genedl i godi safonau i bawb, mynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau system addysg sy’n destun balchder cenedlaethol ac sy’n ennyn hyder y cyhoedd.

Mae’r datblygu hwn yn cyfrannu tuag at ein nodau fel cenedl, sy’n cael eu hamlinellu yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hefyd yn fodd pwysig o sicrhau bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn rhan ganolog o brofiadau dysgu ein plant a’n pobl ifanc, ac o sicrhau eu bod yn deall eu hawliau.

Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn rhan o Fframwaith Cwricwlwm i Gymru (Fframwaith). Mae’r Fframwaith hwn yn cael ei bennu’n genedlaethol ac mae’n cynnwys gofynion i gwricwlwm, a fydd yn cael eu nodi mewn deddfwriaeth, ynghyd ag ystod o ganllawiau ategol.

Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru, a’r canllawiau eraill a gyhoeddir law yn llaw â nhw, yn ffrwyth proses o ddatblygu ar y cyd. Maen nhw wedi cael eu datblygu yng Nghymru gan ymarferwyr ar gyfer ymarferwyr, gan ddwyn ynghyd arbenigedd addysgol ac ymchwil a thystiolaeth ehangach.

Mae wedi cael ei gyhoeddi’n bennaf i fod o gymorth i ysgolion ddechrau cynllunio eu cwricwlwm eu hunain. Mae’n cynnwys gwybodaeth am y gofynion cyfreithiol arfaethedig, canllaw ar sut i ddatblygu cwricwlwm ysgol, ac esboniad o ddibenion ac egwyddorion asesu.

Dylai asesu fod yn greiddiol i gynllunio cwricwlwm.

Nid oes gofyn i’r lleoliadau a ariennir nas cynhelir, unedau cyfeirio disgyblion  a’r rheini sy’n gyfrifol am ddarparu addysg heblaw yn yr ysgol (AHY) gynllunio cwricwlwm yn yr un ffordd ag ysgolion a gynhelir neu ysgolion arbennig a gynhelir. Mae canllawiau pellach a manylach ar gael ar gyfer y lleoliadau hyn er mwyn eu cefnogi i gyflawni eu cyfrifoldebau mewn perthynas â’r Fframwaith.

Dyluniwyd Fframwaith Cwricwlwm i Gymru i fod o gymorth i athrawon ddatblygu dull mwy integredig o ddysgu. Mae’r chwe Maes yn dwyn disgyblaethau cyfarwydd ynghyd, ac yn annog cysylltiadau ystyrlon a chryf ar draws gwahanol ddisgyblaethau. Bydd y disgyblaethau unigol hynny’n parhau i chwarae rhan bwysig, yn arbennig wrth i ddysgwyr ddangos cynnydd a dechrau arbenigo.

Yn ogystal â chydweithio mae’r canllaw yn annog dysgu ac addysgu traws-disgyblaethol, a hynny o fewn ac ar draws y Meysydd. Bydd hyn yn galluogi dysgwyr i fagu cysylltiadau ar draws eu dysgu ac i gyfuno gwahanol brofiadau, gwybodaeth a sgiliau.

Mae’r Fframwaith hwn yn cynnwys 27 datganiad o’r hyn sy’n bwysig sy’n fandadol. Mae’r rhain yn sicrhau lefel o gysondeb wrth gynllunio cwricwlwm ar draws lleoliadau ac ysgolion, gan fod yn rhaid i ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o’r holl ddatganiadau. Bydd y broses o archwilio ac ailymweld â’r datganiadau hyn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth gynyddol ddyfnach ar hyd y continwwm dysgu ac i ddangos cynnydd ar y daith tuag at ddealltwriaeth fwy soffistigedig o’r wybodaeth, syniadau a’r egwyddorion allweddol ym mhob Maes.

Bydd y ddealltwriaeth fwy soffistigedig hon yn galluogi dysgwyr i werthfawrogi sut mae eu dysgu’n cyfrannu tuag at y syniadau hyn a pham mae hyn yn bwysig, yn hytrach nag adalw ffeithiau digyswllt heb ddeall y cyd-destun. Dylid cefnogi’r cynnydd hwn gydag amrywiaeth o ddulliau asesu sy’n galluogi’r dysgwyr ac ymarferwyr i ddeall ble mae’r dysgwyr wedi cyrraedd, a beth sydd angen iddyn nhw ei wneud nesaf.

Nid yw'r Fframwaith yn gofyn bod lleoliadau ac ysgolion yn datblygu amserlen sydd wedi’i strwythuro’n benodol yn ôl y Meysydd, na chwaith drefnu’r lleoliad/ysgol na’r staffio ar sail hyn.

Nodwedd arbennig o'r Fframwaith yw ei fod yn gofyn bod ysgolion yn cynllunio eu cwricwlwm a’u trefniadau asesu eu hunain. Ar ei ben ei hun, nid yw’n rhaglen ‘oddi ar y silff’ ar gyfer cyflawni. Mae ein dull newydd yn cydnabod:

  • rôl arweinwyr wrth alluogi dysgu ac addysgu o safon uchel. Mae sefydlu system addysg sy’n perfformio’n dda trwy ddysgu ac addysgu o safon uchel yn dibynnu ar ddatblygu’i chapasiti proffesiynol, datblygu arweinyddiaeth leol, cyfrifoldeb lleol a’r gallu i wneud penderfyniadau yn lleol
  • o fewn fframwaith cenedlaethol, mai ysgolion ac ymarferwyr yw’r rhai sydd yn y safle gorau i wneud penderfyniadau ynghylch anghenion eu dysgwyr penodol nhw eu hunain, gan gynnwys pa destunau a gweithgareddau fyddai orau i gefnogi eu dysgu
  • pwysigrwydd dysgu ystyrlon: Nid yw cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar gynnwys yn gwarantu dysgu ystyrlon, dim ond bod rhai testunau yn cael eu dysgu i amrywiol raddau. Yn lle hyn, mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn anelu at fynegi pa gysyniadau a hanfodion dysgu ddylai fod yn sail i ystod o wahanol destunau, gweithgareddau dysgu a chaffael gwybodaeth
  • yr angen am arloesedd a chreadigrwydd: Ymarferwyr sy’n dewis cynnwys, gan eu galluogi i ddefnyddio’u sgiliau proffesiynol i sicrhau gwell dysgu a gwell deilliannau ar gyfer eu dysgwyr
  • cyfleoedd i athrawon wneud cysylltiadau cryfach rhwng Meysydd a disgyblaethau: Bydd gan ymarferwyr y rhyddid i ddefnyddio testunau a gweithgareddau i gyfuno dysgu ystyrlon o wahanol Feysydd, disgyblaethau a chysyniadau

Am y rhesymau hyn, nid yw’r Fframwaith yn ceisio rhagnodi rhestr lawn o destunau na gweithgareddau penodol. Nid yw hyn gyfystyr â dweud nad yw’r testunau a gweithgareddau penodol yn bwysig. Yn lle hyn, mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn gosod yr hanfodion dysgu a ddylai fod yn sail i’r testunau a’r gweithgareddau hyn.

Yr ysgolion a’r ymarferwyr fydd yn dewis pa brofiadau, gwybodaeth a sgiliau penodol fydd yn cefnogi eu dysgwyr penodol i wireddu’r pedwar diben, gan ddefnyddio canllawiau ac adnoddau. Mae hynny wedi’i osod o fewn y cysondeb a ddarperir gan y fframwaith cenedlaethol. Mae’r adran Cynllunio eich cwricwlwm yn rhoi arweiniad a chefnogaeth wrth ddatblygu cwricwlwm, gan gynnig egwyddorion allweddol sy’n rhoi’r un man cychwyn i bob ysgol.

Gall lleoliadau eraill ddefnyddio hwn fel man cychwyn os dymunir, serch hynny bydd gofyn i Weinidogion Cymru:

  • ddarparu cwricwlwm fydd yn gallu cael ei fabwysiadu gan leoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir. Os bydd lleoliad eisiau creu ei gwricwlwm ei hun, bydd angen i’r cwricwlwm hwnnw gwrdd â’r gofynion a amlinellir yn y ddeddfwriaeth, a gellid  defnyddio canllawiau Cwricwlwm i Gymru er mwyn llywio’r dull o greu
  • darparu canllaw ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion, a’r rhai sy’n gyfrifol am ddarpariaeth AHY er mwyn eu cefnogi wrth ddarparu dysgu ac addysgu sy’n cyd-fynd â’r Fframwaith a chyflawni eu cyfrifoldebau penodol yn y ddeddfwriaeth

Nodwedd arbennig arall o’r fframwaith yw’r pwyslais a roddir ar gynnydd dysgwyr. Cafodd canllawiau Cwricwlwm i Gymru eu llywio gan dystiolaeth ryngwladol ynghylch yr hyn a olygir gan gynnydd mewn dysgu.

Y 27 datganiad o’r hyn sy’n bwysig mandadol yw’r sail i gynnydd y dysgwyr. Trwy archwilio’r syniadau a’r egwyddorion allweddol sy’n cael eu cynnwys yn y datganiadau hyn y byddan nhw’n datblygu eu dysgu. Bydd angen i ymarferwyr gynllunio dysgu sy’n cefnogi deall a chymhwyso’r datganiadau mewn ffordd gynyddol soffistigedig.

Gyda’i gilydd, mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn cynnig lled a dyfnder yn y cwricwlwm ynghyd â lefel o gysondeb o ran cynllunio cwricwlwm ar draws lleoliadau ac ysgolion.

Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn disgrifio egwyddorion cynnydd mandadol ar gyfer y cwricwlwm fel cyfanwaith ac ar gyfer pob Maes unigol. Mae’r rhain yn mynegi’r ffyrdd y mae dysgwyr yn gwneud cynnydd yn eu dysgu a chyfrannu at y pedwar diben. Golyga hyn fod yn rhaid i gynnydd fod yn rhan greiddiol o ddysgu ac addysgu, a dylai fod yn sail i feddylfryd ysgolion wrth gynllunio cwricwlwm yr ysgol.

Caiff cynnydd ei gefnogi ymhellach gan y disgrifiadau dysgu sy’n cynnig arweiniad ar sut y dylai dysgwyr ddangos cynnydd o fewn pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig wrth iddyn nhw deithio drwy’r continwwm dysgu. Maen nhw wedi’u trefnu yn bum cam cynnydd sy’n cynnig cyfeirbwyntiau ar gyfer cyflymder y cynnydd.

Caiff y disgwyliadau hyn eu cyfleu o safbwynt y dysgwyr, ac maen nhw wedi’u gosod o fewn ffrâm eang fel eu bod yn gallu cynnal dysgu dros gyfres o flynyddoedd. Dydyn nhw ddim wedi cael eu cynllunio fel tasgau, gweithgareddau na meini prawf asesu i’w cymryd ar wahân. Er bod y continwwm dysgu yr un peth ar gyfer pob dysgwr, gall cyflymder y cynnydd amrywio. O ganlyniad, dim ond yn fras y mae’r camau cynnydd yn cyfateb i oedran. Yn fras maen nhw’n cyfateb i ddisgwyliadau ar gyfer oedrannau 5, 8, 11, 14 ac 16.  

Gyda’i gilydd, bwriedir i’r egwyddorion cynnydd a’r disgrifiadau dysgu arwain y broses o ddatblygu cwricwlwm sy’n adlewyrchu cynnydd priodol. Gellir wedyn adnabod cynnydd dysgwyr trwy asesu, gan alluogi ymarferwyr i gynllunio dysgu ac addysgu.

Dylai cynnydd gael ei gefnogi drwy ddysgu ‘dwfn’. Mae pob disgrifiad dysgu wedi’i gynllunio i gefnogi dyfnder a soffistigeiddrwydd cynyddol yn y dysgu dros gyfnod o amser. Bydd hyn yn rhoi lle i amrywiaeth o ran gwyro, ailadrodd a myfyrio wrth i feddwl y dysgwyr ddatblygu dros amser i lefel newydd o soffistigeiddrwydd.

Maen nhw hefyd wedi cael eu cynllunio i gael eu hystyried trwy ystod o gyd-destunau. Trwy brofiadau, dylai dysgu gyfuno ystod eang o wybodaeth a sgiliau gan alluogi’r dysgwyr i’w defnyddio a’u cymhwyso mewn cyd-destunau newydd a heriol. Asesu yw’r allwedd i gefnogi dysgu ‘dwfn’, a dylai gael ei ddefnyddio i nodi a oes angen i ddysgwyr atgyfnerthu eu dysgu, a oes angen cymorth pellach a beth yw’r camau nesaf ar gyfer cynnydd dysgwyr.

Mae asesu’n greiddiol i gynllunio cwricwlwm. Ei bwrpas cyffredinol yw cefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd. Dylai asesu ganolbwyntio o hyd ar symud y dysgu yn ei flaen trwy ddeall y dysgu sydd eisoes wedi digwydd, gan ddefnyddio hyn i sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei herio a chefnogi pob dysgwr yn briodol yn ôl ei anghenion dysgu unigol.

Mae’n gofyn am bartneriaeth rhwng pob un sy’n gyfrifol, gan gynnwys y dysgwr. Dylai adnabod anghenion dysgu unigol a chefndir yr holl ddysgwyr, ac annog ystyriaeth holistaidd o’u datblygiad. Felly dylai’r ymarferwyr a’r dysgwyr ddod i ddeall sut mae’r dysgwyr yn dysgu, beth yw eu hagwedd at ddysgu a’r ffordd maen nhw’n mynd ati i ddysgu, er mwyn eu cefnogi i barhau i wneud cynnydd ac i feithrin eu hymrwymiad tuag at eu dysgu eu hunain.

Mae’r adran hon o ganllawiau Fframwaith Cwricwlwm i Gymru yn ganllawiau statudol. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch ei statws i’w gweld yn y 'crynodeb o’r ddeddfwriaeth'.