Barn yr arbenigwyr
Yn yr adran hon fe welwch gyfres o erthyglau ar gadernid digidol a ysgrifennwyd gan sefydliadau arbenigol blaenllaw.
- Rhan o
Mae'r erthyglau yn archwilio amrywiaeth o bynciau sy'n taflu goleuni ar y ffyrdd diweddaraf o feddwl a barn arbenigol. Cadwch olwg yn gyson am y diweddaraf gan yr arbenigwyr.
- Edrych ar ddefnydd diogel a chyfrifol o AI: Mwy Diogel y DU
Mae ymchwil newydd a ryddhawyd gan Nominet a Chanolfan Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel y DU yn archwilio sut mae pobl ifanc yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI).
- Deallusrwydd artiffisial - argymhellion ymarferol ar gyfer lleoliadau addysg yng Nghymru: Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS)
Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn nodi ystyriaethau allweddol i gefnogi defnydd diogel, moesegol a phwrpasol o ddeallusrwydd artiffisial (AI) mewn lleoliadau addysg yng Nghymru.
- Cyfryngau cymdeithasol, newyddion a llesiant pobl ifanc: Internet Matters
Mae Internet Matters yn rhannu canfyddiadau o'u hadroddiad newydd sy'n archwilio effaith newyddion ar-lein ar lesiant plant a phobl ifanc.
- Pobl ifanc yn dweud wrthym am y byd ar-lein maen nhw’n byw ynddo: Youthworks
Mae Youthworks yn rhannu canfyddiadau o'r Arolwg Seiber blynyddol, sy'n datgelu bod nifer sylweddol o bobl ifanc yn gweld cynnwys niweidiol dro ar ôl tro heb fynd ati i chwilio amdano.
- Dechrau sgyrsiau am sgamiau ar-lein: Mwy Diogel y DU (UKSIC)
Mae Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU yn tynnu sylw at ymchwil i sut mae sgamiau ar-lein yn effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru.
- Chwarae gemau fideo ac e-chwaraeon - y gwahaniaethau mewn manylder: Ygam
Mae Ygam yn trafod cynnydd e-chwaraeon, gyda gwybodaeth am yr agweddau proffesiynol, y cymhellion ariannol a phwysigrwydd diogelu lles chwaraewyr.
- Goblygiadau deallusrwydd artiffisial i blant a phobl ifanc: Common Sense Media UK
Mae Common Sense Media UK yn myfyrio ar rai o'r pryderon ynghylch technolegau AI a'r hyn y gellir ei wneud i helpu pobl ifanc i feddwl yn feirniadol.
- Gwaith y Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) i hybu rhannu data er mwyn diogelu plant: ICO
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn esbonio ei gwaith i hyrwyddo rhannu data i ddiogelu pobl ifanc.
- Canllawiau i rieni a gofalwyr ar y cyfryngau cymdeithasol a gemau cyfrifiadurol: Praesidio Safeguarding
Mae Praesidio Safeguarding yn amlinellu sefyllfa gyfredol y cyfryngau cymdeithasol a sut y gall rhieni a gofalwyr gefnogi eu plant i reoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â chyfryngau cymdeithasol a gemau ar-lein.
- Llinell gymorth Sefydliad Gwylio'r Rhyngrwyd - tuedd newydd annifyr: Internet Watch Foundation (IWF)
Mae'r Internet Watch Foundation yn trafod tuedd newydd annifyr sy’n amlygu defnyddwyr y rhyngrwyd i gynnwys cam-drin plant yn rhywiol ar-lein.
- ‘Blacmel Rhywiol’: Internet Watch Foundation (IWF)
Mae'r Internet Watch Foundation yn esbonio beth yw blacmel rhywiol (sextortion) a beth i'w wneud os ydych chi, eich plentyn neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn ddioddefwr blacmel rhywiol.
- Cyflwyniad i E-chwaraeon: Grwp Diogelu INEQE
Mae’r Grwp Diogelu INEQE yn rhoi rhai ffeithiau ynghylch e-chwaraeon ac awgrymiadau ar sut i gefnogi pobl ifanc sy'n gwylio neu’n cymryd rhan mewn cystadlaethau ar-lein.
- Riportio Cynnwys Niweidiol: SWGfL
Mae SWGfL yn esbonio rôl ei ganolfan adrodd genedlaethol o ran rhoi cyngor am bob math o niwed ar-lein a chyfeirio defnyddwyr i'r gwasanaethau cywir.
- Adolygiad o gynnwys niweidiol ar-lein: Grwp Diogelu INEQE
Mae Grwp Diogelu INEQE yn siarad am yr effaith y gall ymddygiadau niweidiol a ddangosir gan bersonoliaethau neu ddylanwadwyr ar-lein ei chael ac yn rhoi cyngor ar sut i gefnogi rhywun sydd wedi bod yn agored i gynnwys niweidiol neu sy'n ymgysylltu ag ef.
- Addysgu gwirio ffeithiau mewn ysgolion: Full Fact
Mae Full Fact yn esbonio pwysigrwydd meddwl yn feirniadol wrth archwilio camwybodaeth gyda phlant a phobl ifanc yn yr ystafell ddosbarth.
- Beth yw'r Metafyd: Grwp Diogelu INEQE
Mae Grwp Diogelu INEQE yn esbonio sut olwg sydd ar gamau cynnar technoleg Metafyd a'r posibiliadau a'r risgiau wrth iddi ddatblygu.
- Rheoli’ch ôl-troed digidol a’ch enw da: Gyrfa Cymru
Mae Gyrfa Cymru yn archwilio sut i reoli eich ôl troed digidol a'ch enw da yn effeithiol fel ei fod yn cael effaith gadarnhaol ar eich cyflogaeth yn y dyfodol.
- Problemau a phryderon ar-lein o safbwynt pobl ifanc: ProMo-Cymru
Mae ProMo Cymru yn esbonio'r dull a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu cyngor pwrpasol yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc i'w cefnogi gyda phroblemau neu bryderon ar-lein.
- Pam mai mater i'r uwch-dîm arwain yw seibergadernid, nid i'r adran TG: Uned Seiberdroseddu Ranbarthol Tarian
Mae Uned Seiberdroseddu Ranbarthol Tarian yn diffinio seiberwydnwch ac yn esbonio pam ei bod yn hanfodol i benaethiaid ac uwch arweinwyr gymryd perchnogaeth ohono o fewn eu sefydliadau.
- Ymgyrch Gaming4Good yn dangos nad yw gemau ar-lein yn ddrwg i gyd: GetSafeOnline
Mae GetSafeOnline yn trafod y manteision y mae gemau ar-lein yn eu cynnig i blant a phobl ifanc a'r risgiau sy'n gysylltiedig â phrynu eitemau yn y gêm.
- Beth yw heriau a straeon celwydd peryglus ar-lein, a beth ddylem ni fod yn ei wneud yn eu cylch: Praesidio Safeguarding
Mae Praesidio Safeguarding yn rhannu canfyddiadau ymchwil a arweiniodd ar ran TikTok, gan archwilio'r hyn sy'n hysbys am sut mae pobl ifanc yn ymgysylltu â heriau a straeon celwydd peryglus ar-lein.
- Fideos TikTok sy'n targedu athrawon - Professionals Online Safety Helpline: SWGfL
Mae SWGfL yn trafod y duedd feirol o dargedu athrawon ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac yn rhoi gwybodaeth am y gwasanaeth y gall y Llinell Gymorth Diogelwch Ar-lein i Weithwyr Proffesiynol ei chynnig i athrawon sydd angen cymorth i adrodd ar gynnwys neu eu llesiant.
- Meithrin perthynas amhriodol ar-lein gyda phlant i bwrpas rhyw - Cam-drin a manteisio drwy gyfathrebu: Prifysgol Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe yn trafod y tactegau perswadio a ddefnyddir mewn cyfathrebu meithrin perthynas amhriodol â phlant ar-lein i bwrpas rhyw, a'r gwaith sy'n cael ei wneud i ddiogelu plant ar-lein, sy'n cynnwys prosiect Dragon-S.
- Meithrin perthynas amhriodol ar-lein - Gofalu nad yw drws eich cartref ar agor i gamdrinwyr rhywiol plant: Internet Watch Foundation (IWF)
Mae'r Internet Watch Foundation yn trafod ei rôl wrth wneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel i blant ar draws y byd a'u hymgyrchoedd diweddar i godi ymwybyddiaeth.
- Cymhlethdodau bod yn ddinesydd digidol: Diogelu Praesidio
Mae Diogelu Praesidio yn trafod y cymhlethdod i blant a phobl ifanc sy'n tyfu i fyny yn ystod cyfnod lle mae technoleg ddigidol yn hollbresennol.
- Trin plant yn wahanol mewn byd digidol: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Mae'r Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn esbonio beth yw pwrpas y Cod Plant, pam mae ei angen a sut mae'n effeithio ar ysgolion.
- Nid ffrog mohoni: pwysigrwydd amrywiaeth ym maes seiberddiogelwch: Prifysgol De Cymru
Mae Prifysgol De Cymru yn siarad am bwysigrwydd amrywiaeth yn y diwydiant seiberddiogelwch.