English

Ym mis Mehefin 2022, dechreuodd llinell gymorth y Sefydliad dderbyn adroddiadau gan bobl a oedd wedi bod yn anfwriadol agored i ddelweddau neu fideos o gam-drin plant yn rhywiol ar ôl clicio ar ddolen wrth bori'r rhyngrwyd.

Ers hynny, mae nifer yr adroddiadau sy'n ymwneud â'r duedd hon wedi mynd drwy'r to. Erbyn mis Awst 2023, roedd y Sefydliad wedi derbyn dros 9,000 o adroddiadau gan aelodau'r cyhoedd a oedd yn gofidio am yr hyn roedden nhw wedi'i weld ac yn poeni eu bod wedi torri'r gyfraith.

Mae'r dolenni hyn wedi'u gwasgaru ar hyd a lled y rhyngrwyd, gyda'r bwriad penodol o ddenu cymaint â phosib i ymweld â'r hyn mae dadansoddwyr llinell gymorth y Sefydliad yn ei alw'n ICAP, neu’n wefannau 'invite child abuse pyramid'.

Beth yw gwefannau pyramid cam-drin plant?

Gwefannau sy'n cynnal deunyddiau cam-drin plant yn rhywiol yw'r rhain, sydd weithiau'n cynnwys delweddau a fideos o bornograffi oedolion.

Mae'r troseddwyr sy'n rhedeg safleoedd ICAP yn annog defnyddwyr i rannu neu sbamio dolenni i'w safleoedd ymhell ac agos ar y rhyngrwyd, gan ddefnyddio dull ar wasgar. Byddant felly’n felly’n glanio mewn amrywiaeth o leoedd, megis platfformau’r cyfryngau cymdeithasol a grwpiau trafod fforymau, yn ogystal ag unrhyw le arall y gall defnyddiwr rhyngrwyd adael sylw.

Credwn fod modd cymharu hyn â chynllun pyramid, gan fod y gwefannau anghyfreithlon yn rhoi'r dolenni i ddefnyddwyr ac yna'n eu cymell trwy "system bwyntiau" i rannu'r ddolen yn eang.

Po fwyaf o bobl sy'n clicio ar y ddolen, mwya’n byd o bwyntiau sy’n cael eu hennill sy'n caniatáu i'r defnyddiwr gwreiddiol gael mynediad at fwy o fideos rhad ac am ddim o gam-drin plant yn rhywiol. Mae gan y safleoedd 'system haen' hyd yn oed sy'n cynnig lefelau mynediad gwahanol i'r deunydd.

Pan fydd pobl yn clicio'n anfwriadol ar y dolenni, mae safleoedd pyramid yn elwa ar fwy o draffig ar y we a'r incwm ychwanegol sy'n deillio o hynny, gyda throseddwyr o bosibl yn prynu delweddau neu fideos pellach o gam-drin plant yn rhywiol trwy anfon negeseuon at y gwerthwr trwy blatfform wedi'i amgryptio.

Mae'r dolenni yn abwyd clicio, ac wedi'u cynllunio i annog pobl i glicio arnyn nhw a darganfod mwy, gyda phenawdau camarweiniol fel fideos oedolion ‘leaked’ sy'n targedu pobl a allai fod eisiau gweld pornograffi dilys yn fwriadol.

Dydy deunyddiau cam-drin plant yn rhywiol ddim 'ar y we dywyll yn unig’

Mae'n ymddangos bod y safleoedd pyramid cam-drin plant yn rhywiol yn ddull newydd o elwa ar ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol, ac mae aelodau'r cyhoedd yn dweud bod y dolenni hyn yn cael eu sbamio'n rheolaidd ledled y rhyngrwyd. Mae hyn yn peri pryder mawr, gan ei fod yn cynyddu'r siawns y bydd pobl yn dod i gysylltiad damweiniol â'r deunydd ofnadwy hwn.

Mae'n tynnu sylw at y ffaith nad yw'r math hwn o ddeunydd wedi'i guddio ar y we dywyll, ac y gallai unrhyw un gael mynediad ato, gan gynnwys plant.

Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n gweld y delweddau hyn wedi dychryn, wrth reswm, a'r peth gorau i'w wneud yw riportio'r URL (dolen cyfeiriad gwe) lle daethant o hyd i'r deunydd i'r Sefydliad ar unwaith.

Mae'r broses riportio yn un gyflym, hawdd ac yn ddienw a gall arwain at gael gwared ar gynnwys troseddol.

Os yw pobl yn digwydd taro ar draws y delweddau hyn yn ddamweiniol, ni ddylent fod ag unrhyw beth i boeni yn ei gylch o ran y gyfraith. Dylid dileu unrhyw ddelweddau neu gyfeiriadau URL o ddyfeisiau cyn gynted ag y cânt eu hadrodd.

Beth sy'n digwydd i adroddiadau'r cyhoedd?

Mae'r Sefydliad yn gyfrifol am ganfod a dileu delweddau a fideos o gam-drin plant yn rhywiol o'r rhyngrwyd, ac ers nodi'r safleoedd hyn am y tro cyntaf ym mis Mehefin y llynedd, mae ein llinell gymorth wedi ymchwilio i 9,278 o adroddiadau, gan arwain dadansoddwyr i weithredu ar 1,116 o dudalennau sy'n cynnwys delweddau wedi'u cadarnhau o gam-drin plant yn rhywiol.

Mae llawer o'r adroddiadau gwreiddiol yn ailadroddus, o gofio bod y dolenni yn cael eu sbamio ar hyd a lled y rhyngrwyd, sy'n golygu bod llawer o bobl yn riportio'r un ddolen. Yna mae'r dadansoddwyr yn tynnu'r tudalennau gwe hynny i lawr cyn gynted â phosib.

Rydyn ni'n rhoi gwybod i'r cwmnïau dan sylw pan ddown ar draws unrhyw fath o ddosbarthu deunyddiau cam-drin plant yn rhywiol er mwyn sicrhau bod y tudalennau gwe anghyfreithlon yn cael eu rhwystro a'u tynnu oddi ar y rhyngrwyd.

Beth ellir ei wneud?

Rydyn ni'n poeni am y duedd frawychus hon sydd wedi mynd o nerth i nerth ers ei darganfod gyntaf, wrth i fwy o dudalennau gwe gael eu riportio bob dydd, gyda mwy a mwy o bobl yn ymddangos yn agored iddynt.

Mae'r Sefydliad hefyd yn gweithio'n agos gyda llinellau cymorth partner, gan rannu gwybodaeth a thactegau ar y ffordd orau o fynd i'r afael â'r safleoedd pyramid cam-drin plant yn rhywiol hyn, a'u dileu.

Hoffem rybuddio pob defnyddiwr rhyngrwyd i beidio â chlicio ar ddolenni anhysbys neu amheus gan ei fod yn cynyddu'r risg y gallan nhw weld y deunydd troseddol ar-lein hwn yn ddamweiniol.

Byddai llawer o bobl sy’n clicio ar y dolenni yn gweld plant yn cael eu cam-drin yn rhywiol am y tro cyntaf a byddai’n brofiad gofidus iawn.

Hefyd, mae'n hollbwysig siarad â phobl ifanc am y risgiau posibl y gallen nhw ddod ar eu traws ar y rhyngrwyd, a'u hannog i roi gwybod am unrhyw beth anghyfreithlon maen nhw'n ei weld.

Mae plant yn naturiol chwilfrydig, ac mae'r ffaith bod cymaint o ddolenni'r safleoedd pyramid hyn wedi'u rhannu ar rwydweithiau cymdeithasol poblogaidd yn ogystal ag ar wefannau trafod fforymau gemau, yn golygu bod y perygl o ddod i gysylltiad â'r deunydd afiach hwn yn anfwriadol yn uchel.

Gall rhieni ac addysgwyr ddilyn i helpu plant i fod yn fwy ymwybodol o'r risgiau ar-lein a thrafod beth fyddan nhw'n ei wneud pe baen nhw'n gweld deunydd o'r fath ar y we. Mae un sgwrs yn gallu gwneud y byd o wahaniaeth.


 

Tamsin McNally, Rheolwr Llinell Sefydliad Gwylio'r Rhyngrwyd (IWF)

Mae Tamsin yn goruchwylio tîm o 14 dadansoddwr sy'n ymchwilio i adroddiadau gan aelodau o'r cyhoedd sydd wedi digwydd taro ar ddelweddau posib o gam-drin plant yn rhywiol ac sy'n chwilio'n rhagweithiol am ddeunyddiau o'r fath er mwyn eu blocio a'u dileu unwaith ac am byth. Hefyd, mae'n gyfrifol am reoli tîm Tasglu'r IWF, sy'n asesu ac yn graddio delweddau a fideos o gam-drin plant yn rhywiol.  Dysgwch fwy am ddiwrnod arferol Tamsin yma.