English

Dawns TikTok. Pwyso'r 'X Button' ar gonsol gemau. Faint sy'n hoffi hunlun. I blant a phobl ifanc, mae'r rhain yn rhan o'u profiad ar-lein o ddydd i ddydd, ond i lawer o rieni a gofalwyr, mae byd y cyfryngau cymdeithasol a gemau yn un go anghyfarwydd. Yr adeg hon o'r flwyddyn, bydd llawer o blant a phobl ifanc yn cael eu dyfeisiau eu hunain, am y tro cyntaf efallai, ac yn dechrau ar eu taith ddigidol. I lawer o rieni a gofalwyr, efallai mai dyma ddechrau eu taith nhw o rianta’n ddigidol hefyd. P'un ai'ch bod chi'n ddechreuwr pur neu'n hen law fel rhiant digidol, nod y canllaw hwn yw crynhoi'r maes cyfryngau cymdeithasol a gemau a rhannu ambell air o gyngor ar sut i helpu i reoli risg.

Gadewch i ni ddechrau trwy roi'r cyd-destun i'r cyfryngau cymdeithasol a gemau ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae ymchwil ddiweddaraf Ofcom yn dangos bod 89% o blant a phobl ifanc 11-18 oed yn chwarae gemau o leiaf bob wythnos (Understanding online communications among children 2023). Hefyd, dangosodd arolwg Ofcom fod 64% o blant a phobl ifanc 3-17 oed yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol. (Children’s media use and attitudes 2023). Ers blynyddoedd bellach, mae'r cyfryngau cymdeithasol a gemau cyfrifiadurol/consol/ar-lein wedi cynyddu mewn poblogrwydd ymhlith pobl ifanc, gyda llawer o blant yn defnyddio dyfais o oedran ifanc. Er bod y profiad yn wahanol iawn i blant 3 oed o gymharu â rhai yn eu harddegau, mae'n bwysig cofio lle mor amlwg sydd gan dechnoleg bellach yn eu bywydau ifanc – o safbwynt cymdeithasu, addysgu ac, yn hollbwysig, wrth gael hwyl.

Beth sy'n ysgogi plant i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a chwarae gemau?

Mae gwneud, meithrin a chynnal cyfeillgarwch wedi newid yn sylweddol diolch i'r cyfryngau cymdeithasol, ac mae'r ffordd mae oedolion a phlant yn canfod ac yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu amrywio'n sylweddol. Fel oedolion, rydyn ni’n aml yn gweld y cyfryngau cymdeithasol fel dull o gyfathrebu, rhwydweithio a rhannu gwybodaeth. Mae plant a phobl ifanc ar y llaw arall yn gweld y cyfryngau cymdeithasol fel rhan annatod o'u bywydau cymdeithasol ac yn blatfform ar gyfer adloniant. Mae apiau negeseuon fel WhatsApp a Snapchat yn caniatáu i ffrindiau sgwrsio 24/7, gyda phlatfformau fel TikTok yn caniatáu i bobl ifanc gwrdd a chysylltu ag unigolion o'r un anian ym mhob cwr o'r byd. Mae'r syniad hwn o gynulleidfa fyd-eang yn gallu bod yn hynod gyffrous i bobl ifanc ac mae modd cychwyn cyfeillgarwch nawr trwy glicio botwm – gan ddefnyddio'r symbol codi bawd neu emoji calon i ddangos eich bod chi'n hoffi fideo rhywun, neu'n well fyth, trwy wneud sylw cadarnhaol. Gallai'r lefel hon o ryngweithio fod yn hynod o bwerus a gwerth chweil i bobl ifanc, yn enwedig i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i'w 'pobl nhw' yn y byd all-lein.

Mae gemau ar-lein hefyd yn caniatáu i blant gysylltu, cydweithredu a chystadlu â chwaraewyr eraill ledled y byd. Mae'r dyddiau lle mae angen i chi fod yn yr un ystafell (gan ddefnyddio'r un consol) i chwarae gyda'ch gilydd wedi hen fynd. Mae gemau ar-lein yn golygu y gall chwaraewyr ddod o hyd i eraill sy'n rhannu'r un angerdd am gêm benodol â nhw, ac mae modd ffurfio timau neu gystadlu mewn cynghreiriau gyda'i gilydd, cyfathrebu o fewn gêm neu ddefnyddio apiau trydydd parti, fel Discord, i gael sgwrs llais. Mae'r cysyniad o chwarae gemau wedi newid hefyd - does dim angen i bobl ifanc fod yn chwarae ar eu pennau eu hunain mwyach i ymgolli yn y profiad. Mae gwylio ffrydiau byw o bobl eraill yn chwarae hefyd yn hynod boblogaidd ar blatfformau fel Twitch.

Waeth a ydyn nhw'n dewis cysylltu neu chwarae gemau yn breifat, gyda ffrindiau a theulu maen nhw’n eu hadnabod neu ar gyfrifon agored gyda holl ddefnyddwyr eraill y platfform, mae'n bwysig cofio bod y cyfryngau cymdeithasol a gemau yn peri risgiau posibl i blant a phobl ifanc.

Y pedair risg

Wrth feddwl am y cyfryngau cymdeithasol a gemau, mae pedwar categori risg pwysig i'w cadw mewn cof, a elwir ‘Y Pedwar C’. Dyma nhw:

  • Risg Cynnwys (Content) – beth maen nhw'n ei weld ar-lein
  • Risg Cyswllt (Contact) - â phwy maen nhw'n cysylltu ar-lein
  • Risg Cwrteisi neu Ymddygiad (Conduct) – sut maen nhw (ac eraill) yn ymddwyn ar-lein
  • Risg Contract – sut mae'r platfform wedi'i ddylunio a sut mae data defnyddwyr yn cael ei ddefnyddio

Rheoli risgiau cynnwys

Gyda chymaint o gynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr ar gael ar-lein, mae rhywfaint o fesurau y gallwch eu cymryd i helpu i reoli'r cynnwys y mae'ch plentyn yn dod ar ei draws. Mae edrych ar sgoriau oedran yn lle da i gychwyn. Ar gyfer platfformau’r cyfryngau cymdeithasol, edrychwch ar yr oedrannau a gynigir gan siop Google Play, Apple App Store, neu'r datblygwr ei hun. Ar gyfer gemau, edrychwch ar y sgôr PEGI. Mae PEGI (Pan European Game Information) yn sgorio gemau ar sail cynnwys y gêm ei hun. Er enghraifft, mae gêm PEGI 18, fel Grand Theft Auto, yn fwy addas i oedolion yn hytrach na phlant a phobl ifanc. Yn yr un modd, mae gêm PEGI 3, fel Rocket League, yn addas i bob oed.

Er bod edrych ar sgoriau oedran yn lle da i gychwyn er mwyn rheoli risg cynnwys, nid yw'r sgoriau hyn yn gallu gwarantu addasrwydd yr holl gynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr y platfform, fel cynnwys niweidiol a allai godi o fewn sgyrsiau preifat. Er mwyn helpu i reoli hyn, dylech chi a'ch plentyn fynd drwy'r ddewislen gosodiadau i archwilio nodweddion a all helpu i reoli'r cynnwys mae'n ei weld. Er enghraifft, mae llawer o blatfformau yn cynnig hidlwyr sy'n atal cynnwys penodol rhag ymddangos mewn porthiant neu'n hidlo geiriau ac ymadroddion anaddas mewn sgyrsiau. Mae rheoli pwy mae'ch plentyn yn cysylltu ag ef/hi yn gallu helpu i gyfyngu ymhellach ar y siawns o ddod i gysylltiad â chynnwys anaddas. Mae llawer o blatfformau yn cynnwys rheolaethau rhieni neu opsiynau paru teulu, a allai fod yn ddefnyddiol i ddefnyddwyr iau.

Yr offeryn gorau sydd ar gael i chi fel rhiant neu ofalwr yw siarad â'ch plentyn. Cofiwch gael sgwrs agored gyda nhw am yr hyn maen nhw’n ei weld ar-lein, y cynnwys maen nhw’n ei hoffi yn ogystal â'r pethau a all beri gofid neu ddryswch. Drwy gymryd diddordeb brwd ym mywyd ar-lein y person ifanc, mae'n fwy tebygol o droi atoch am gefnogaeth os yw'n gweld rhywbeth ar-lein sy’n achosi anesmwythyd.

Rheoli risgiau cyswllt

Y ffordd orau o ddechrau rheoli risg cyswllt yw gosod y cyfrif i fod yn un preifat. Bydd hyn yn sicrhau mai dim ond gyda’i ‘ffrindiau' y gall eich plentyn gysylltu ar y platfform. Argymhellir bod gan bob defnyddiwr iau gyfrifon preifat. Ar gyfer pobl ifanc hŷn, sydd eisiau cyfrif cyhoeddus, siaradwch â nhw am y risgiau o gysylltu â phobl nad ydyn nhw'n eu hadnabod. Gallai'r risgiau gynnwys ymddygiad bwlio ar ffurf negeseuon camdriniol neu aflonyddu ar-lein parhaus. Gallant hefyd fod yn agored i ddelweddau anaddas, fel delweddau rhywiol, gan bobl nad ydyn nhw’n eu hadnabod. Hefyd, gallai olygu eu bod nhw'n agored i bobl sydd â bwriadau gwael sy'n ceisio ecsbloetio plant. Waeth a oes gan eich plentyn gyfrif cyhoeddus neu breifat, gwnewch yn siŵr ei fod yn gwybod y gall siarad â chi bob amser os yw mewn cysylltiad â rhywun sy'n gwneud iddo deimlo'n anghyfforddus.

Mae hefyd yn bwysig cadw sianeli cyfathrebu yn agored gyda'ch plentyn am ei berthnasoedd ar-lein. Cymerwch ddiddordeb yn y bobl y mae eich plentyn yn hoffi cysylltu â nhw ar-lein a thrafodwch sut mae'r bobl hyn yn gwneud iddo deimlo. Mae'n bwysig bod eich plentyn yn gwybod beth yw perthynas iach ar-lein ac y gall adnabod arwyddion o berthynas nad yw’n iach. Er enghraifft, gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn gwybod na ddylai fyth deimlo dan bwysau i wneud unrhyw beth sy'n gwneud iddo deimlo'n anghyfforddus, yn enwedig yn gyfnewid am roddion neu arian. Os oes gennych chi bryderon am gam-drin rhywiol ar-lein neu'r ffordd mae rhywun yn cyfathrebu â'ch plentyn, riportiwch y mater i CEOP (Child Exploitation Online Protection).

Rheoli risgiau cwrteisi/ymddygiad

Mae risg cwreteisi neu ymddygiad yn cyfeirio at weithgaredd ar-lein sy'n gwneud plant a phobl ifanc yn agored i ymddygiad y gallent ei ddifaru yn ddiweddarach. Gan nad yw ymennydd plentyn wedi datblygu'n llawn tan ei fod tua 25 oed, gall fod yn anodd i blentyn ystyried sut y gall yr hyn mae’n ei wneud heddiw arwain at ganlyniadau negyddol yn y dyfodol. Mae’n hynod o anodd i bobl ifanc reoli hyn ar-lein, pan mae modd rhannu pethau trwy glicio unwaith. Mae nodweddion fel negeseuon sy'n diflannu yn ei gwneud hi'n fwy heriol byth i reoli hyn, gan roi ymdeimlad ffug o ddiogelwch i blant ynglŷn â rhannu pethau. Mae'n bwysig egluro i'ch plentyn y gall pobl eraill dynnu sgrin lun, ei arbed a'i rannu'n eang. Siaradwch â'ch plentyn am ganlyniadau posibl ei ymddygiad ar-lein gan ei annog i ystyried a fyddai'n hapus i bawb mae'n eu hadnabod weld y neges neu'r llun hwnnw.

Mae'n bwysig bod eich plentyn yn gwybod y gall bob amser droi atoch am gymorth a chefnogaeth os aiff rhywbeth o'i le ar-lein. Gofalwch ei fod yn gwybod y byddwch yn gwrando heb feirniadu, ac yn barod i weithio gyda'ch plentyn i reoli'r sefyllfa. Ewch ati i ddysgu am adnoddau fel Report Remove elusen Childline, sy'n helpu pobl ifanc dan 18 oed i riportio lluniau a fideos rhywiol ohonyn nhw eu hunain yn gyfrinachol, a’u tynnu oddi ar y rhyngrwyd.

Rheoli risgiau contract

Yn aml, dyma'r risg anoddaf i gynorthwyo'ch plentyn gydag ef, am ei fod yn ymdrin â phynciau sy'n peri penbleth i lawer o oedolion neu bynciau nad ydyn nhw’n ymwybodol ohonyn nhw. Yn y bôn, mae'n cyfeirio at y ffordd mae platfformau wedi'u cynllunio, a all achosi lefel o niwed heb i chi sylweddoli hyd yn oed. Er enghraifft, rhestrau hir o amodau a thelerau sy'n amhosibl eu darllen a'u deall ac sy'n gwneud i chi sgrolio i'r gwaelod a dewis 'I agree', dim ond er mwyn agor yr ap. Neu'r ffordd rydych chi’n ffeindio’ch hun yn sgrolio'n ddiddiwedd trwy blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol, heb sylweddoli cymaint o amser rydych chi’n ei dreulio yn gwneud hynny. Nawr, os yw'n anodd i oedolion reoli'r nodweddion hyn, dychmygwch sut brofiad yw hynny i'ch plentyn.

Siaradwch â'ch plentyn i esbonio bod llawer o gemau a phlatfformau’r cyfryngau cymdeithasol wedi'u cynllunio ochr yn ochr â gwyddonwyr ymddygiadol er mwyn ceisio cael pobl i dreulio cymaint o amser â phosib arnyn nhw. Esboniwch sut mae nodweddion fel hysbysiadau a rowndiau bonws buddugol i gyd wedi'u creu i annog defnyddwyr i dreulio mwy o amser yn defnyddio'r platfform. Neu sut mae'r elfen awtochwarae ar rai platfformau rhannu fideo yn golygu y bydd defnyddwyr yn cael eu cyflwyno i fwy o fideos heb fod angen dewis y nesaf. Unwaith y bydd eich plentyn yn ymwybodol o'r ffaith fod llawer o gemau a phlatfformau cymdeithasol yn elwa ar ei ymddygiad, efallai y bydd hi fymryn yn haws i'w reoli. Neilltuwch amser i fynd drwy'r ddewislen gosodiadau gyda'ch plentyn i ddod o hyd i'r gosodiadau cywir er mwyn helpu i reoli faint o amser mae'n ei dreulio ar y platfform. Hefyd, dylech ddiffodd neu analluogi'r opsiwn prynu mewn gemau ar gyfer defnyddwyr iau, nes eu bod nhw’n deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i brynu ar y platfform.

Does dim un ffordd orau i amddiffyn eich plant ar-lein. Wedi'r cyfan, mae anghenion pob plentyn yn unigryw. Ac eto, mae ein gwaith gyda phlant a phobl ifanc wedi ein dysgu mai cymorth a chefnogaeth rhiant a gofalwr yn aml yw'r ffordd orau i'w diogelu. Drwy gymryd diddordeb llawn ym mywyd ar-lein eich plentyn a dechrau'r sgwrs, efallai mai dyna'r unig gymorth fydd ei angen arno i fagu cadernid digidol.

Canllawiau ap i deuluoedd

Am ganllawiau penodol ar 40 a mwy o’r apiau a’r gemau mwyaf poblogaidd sy'n cael eu defnyddio gan blant a phobl ifanc Cymru, ewch i dudalen Bydd Wybodus yn adran 'Cadw'n ddiogel ar-lein' Hwb. Mae pob canllaw wedi'i ysgrifennu'n benodol gyda rhieni a gofalwyr mewn golwg ac yn amlinellu sut mae'r platfform yn cael ei ddefnyddio, y risgiau penodol sydd yna i’r platfform hwnnw a gwybodaeth fanwl am reoli'r gosodiadau.


 

Praesidio Safeguarding

Ymgynghoriaeth diogelwch plant ar-lein arbenigol yw Praesidio, sydd â hanes o ddarparu ymchwil a dealltwriaeth arloesol, ochr yn ochr â datblygu polisi a strategaeth. Rydyn ni wedi ymrwymo i gyflenwi prosiectau o'r radd flaenaf sy'n helpu i greu rhyngrwyd gwell a mwy diogel i blant a phobl ifanc.

Mae ein hyb amlddisgyblaethol o arbenigwyr diogelwch a lles digidol yn ganolog i'n gwaith. Drwy'r hyb, rydyn ni’n cynnull timau pwrpasol sy'n bodloni gofynion penodol pob prosiect. Mae ein harweinwyr a'n harbenigwyr yn cael eu cefnogi gan ein timau mewnol o reolwyr prosiect a thechnegwyr.