English

Pa bynnag genhedlaeth rydych chi'n rhan ohoni, fuodd prifio erioed yn hawdd - ond mae gwneud hynny yn 2021, gyda'r holl dechnoleg ddigidol ar flaenau ein bysedd wedi ychwanegu dimensiwn  arall i blentyndod. I'r genhedlaeth hon, mae agweddau lawer ar eu bywydau wedi cynnwys rhyw fath o dechnoleg o oedran cynnar – o ddefnyddio llechen neu dabled fel plentyn bach, i’r proffil cyntaf ar y cyfryngau cymdeithasol neu gêm gyfrifiadurol yn yr ysgol gynradd a dyma hyd yn oed oedd y prif gyfrwng dysgu adeg y pandemig. Mae mynediad hawdd at ddyfeisiau personol fel ffonau clyfar yn golygu bod plant a phobl ifanc mewn cysylltiad cyson â chymunedau byd-eang lle bynnag maen nhw. Ac ar ben hyn oll, daw’r pwysau o fod ar gael ac yn gysylltiedig bob amser.

Mae pobl ifanc yn tyfu mewn byd lle mae'r dechnoleg ddigidol yn hollbresennol. Mae’n gyfnod pan fyddan nhw’n treulio cyfran helaeth o'u bywydau ar-lein, lle mae cael eich derbyn yn gymdeithasol yn hollbwysig. Yn ôl ymchwil diweddar gan Ofcom (Saesneg yn unig), roedd naw o bob deg person ifanc 12-15 oed a oedd yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, neu apiau sgwrsio a negeseua, yn dweud eu bod yn teimlo dan bwysau i fod yn boblogaidd ar y gwefannau neu'r apiau hyn. Mae rhai pobl ifanc yn aml yn gwneud penderfyniadau mentrus er mwyn bodloni disgwyliadau pobl eraill a chydymffurfio â phwysau cymdeithasol. Mae'r genhedlaeth ddigidol hon hefyd yn ei chael hi'n anodd ymddieithrio oddi wrth eu hunaniaeth ddigidol, gyda'u presenoldeb ar-lein yn aml yn amlycach na'u hunain all-lein. Dyma genhedlaeth sy'n byw eu bywydau drwy lens - os nad ydych chi wedi postio llun neu lanlwytho stori, oeddech chi hyd yn oed yno?

O gofio hyn i gyd, mae'n hawdd iawn i rieni a gofalwyr deimlo’n gwbl ddiymadferth ynghylch sut i helpu eu plant i gadw'n ddiogel ar-lein. Mae ein prosiect Bydd wybodus, ar y cyd â'r tîm Digital Resilience in Education, wedi'i gynllunio i helpu i fynd i'r afael â'r bwlch hwn mewn gwybodaeth, a rhoi'r wybodaeth allweddol sydd ei hangen ar rieni a gofalwyr i helpu pobl ifanc i gychwyn ar eu teithiau digidol yn ddiogel.

Ap i bawb o bobl y byd

Mae apiau newydd yn cael eu datblygu'n gyson ac mae eu poblogrwydd yn newid byth a beunydd. Yn ôl ystadegau diweddar (Saesneg yn unig) mae 2,232 o apiau newydd ar gyfartaledd yn cael eu rhyddhau bob dydd ar Google Play. Mae ffefrynnau hirsefydlog ymhlith pobl ifanc fel Instagram, YouTube a WhatsApp yn llwyddo i dal eu tir, gydag apiau eraill fel Honk a Monkey Web wedi ennill bri a phoblogrwydd yn ystod y pandemig. Yna, mae yna apiau eraill sy'n bachu sylw defnyddwyr yn sgil eu dyluniad beiddgar. Mae'n faes sy'n newid yn barhaus gan ei gwneud hi'n anodd i rieni a gofalwyr ddeall a chadw i fyny gyda phob dim.  

Mae'n werth nodi bod gan bob ap gemau a chyfryngau cymdeithasol gyfyngiad oedran neu sgôr oedran penodol. Ym myd gemau, mae PEGI yn awgrymu categori oedran ar gyfer gemau fideos mewn 38 o wledydd yn Ewrop. Mae'r sgôr oedran a roddir i bob gêm yn cadarnhau ei bod yn addas i chwaraewyr o'r oedran dan sylw yn hytrach na pha mor anodd yw'r gêm.

Rhagor o wybodaeth am sgoriau oedran PEGI (Saesneg yn unig).

Ar gyfer apiau eraill, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol, y datblygwyr eu hunain sy'n gosod y cyfyngiad oedran. Mae Apple App Store a Google Play hefyd yn cyfeirio at eu sgôr oedran penodol. Fodd bynnag, mae diffyg dulliau gwirio oedran trwyadl o fewn y platfformau cyfryngau cymdeithasol wedi golygu bod rhai defnyddwyr iau yn gallu eu defnyddio. Yn ôl adroddiad diweddar Ofcom, mae dau o bob pum plentyn 8-11 oed wedi defnyddio apiau cyfryngau cymdeithasol yn 2020, er bod y rhan fwyaf o blatfformau cyfryngau cymdeithasol yn dweud y dylai defnyddwyr fod o leiaf 13 oed. Dylai rhieni a gofalwyr gofio hyn wrth roi caniatâd i'w plentyn ddefnyddio apiau gwahanol am y tro cyntaf.

Sicrhau cydbwysedd - manteision a pheryglon y cyfryngau digidol

Mae'r cyfryngau'n aml yn creu darlun negyddol o'r cyfryngau cymdeithasol - gan ganolbwyntio ar bethau sy'n mynd o chwith yn hytrach na dathlu'r cyfleoedd mae'r byd digidol yn eu darparu i ni.  Er ei bod yn bwysig bod yn ymwybodol o risgiau ar-lein wrth ddefnyddio apiau a gemau'r cyfryngau cymdeithasol, mae hefyd yn bwysig deall y manteision niferus hefyd.

Roedd y gallu i gysylltu ar-lein yn bwysicach nag erioed yn ystod y pandemig, gyda charfanau cyfan yn gallu cynnal cyfeillgarwch, perthnasoedd a chael eu haddysg. Mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi helpu pobl ifanc i wneud cysylltiadau ag unigolion o'r un anian ac adeiladu cymuned fyd-eang, tra’n profi diwylliannau a safbwyntiau gwahanol ar yr un pryd. Gobeithio y bydd hyn yn arwain at genhedlaeth fwy goddefgar, sy'n deall a dathlu gwahaniaethau yn hytrach na'u troi'n bethau ymylol sy'n destun casineb.

Mae technoleg ddigidol bob amser yn esblygu. Mae pobl ifanc heddiw yn dysgu strategaethau digidol a fydd yn parhau i newid yn ystod eu hoes. Bydd dod i gysylltiad cynnar â thechnolegau o'r fath yn helpu i'w paratoi at yrfa a dyfodol cynhyrchiol sydd o bosib y tu hwnt i’n hamgyffred heddiw.

Fel rhieni a gofalwyr, ni ddylem anwybyddu pwysigrwydd technoleg ddigidol i bobl ifanc sy'n fwy agored i niwed. Yn achos plant ag anghenion dysgu ychwanegol neu anableddau, mae technoleg ddigidol wedi agor byd o bosibiliadau a fyddai'n amhosib i'w cyrchu fel arall o bosib. O ysgrifennu aseiniad ar gyfer yr ysgol, cysylltu ag eraill i rannu diddordeb neu ddysgu sgil newydd, mae technoleg wedi caniatáu mwy o gyfartaledd a chwarae teg i rai a fyddai wedi'u heithrio fel arall.

Er bod llawer o fanteision i’r cyfryngau digidol, mae hefyd yn bwysig cofio am y risgiau posib i bobl ifanc hefyd. Ar gyfer apiau y cyfryngau cymdeithasol ac apiau gemau, mae'r prif risgiau digidol yn perthyn i bedwar categori gwahanol:

  • Risg o ran cynnwys – beth maen nhw'n ei weld.
  • Risg o ran cyswllt – â phwy maen nhw'n cysylltu.
  • Risg o ran ymddygiad – sut mae defnyddwyr yn ymddwyn.
  • Risg o ran dyluniad – sut mae'r platfform wedi'i gynllunio a sut mae eu data'n cael ei ddefnyddio.

Ar gyfer pob un o'r categorïau hyn, mae rhai camau allweddol y gall rhieni a gofalwyr eu cymryd i helpu i leihau risg. Darperir amlinelliad o strategaethau i helpu i reoli'r risgiau hyn ar gyfer pob un o'r apiau a nodir ym mhrosiect Bydd wybodus.

Diogelu plant a phobl ifanc ar-lein

Mae sawl ffordd o helpu i ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein, ond y cyngor cychwynnol gorau i rieni a gofalwyr sy'n dechrau ar daith ddigidol gyda'u plant yw cymryd diddordeb go iawn. Siaradwch â'ch plant am yr apiau a'r gemau maen nhw'n eu defnyddio a cheisiwch ddarganfod beth maen nhw'n ei hoffi amdanyn nhw a sut maen nhw'n eu defnyddio. Byddem hefyd yn annog pob rhiant a gofalwr i archwilio'r apiau a'r gemau mae eu plant yn eu defnyddio'n gyntaf, i weld a ydyn nhw'n addas ar gyfer oedran a chyfnod datblygu eu plentyn. Mae'n bwysig cofio nad yw sgôr oedran yn adnabod eich plentyn gystal â chi - trwy wirio a defnyddio cynnwys a chysylltedd yr ap drosoch chi eich hun yn gyntaf, gallwch weld a ydych am i'ch plentyn ddefnyddio'r platfform ai peidio.

Mae llawer o'r apiau a'r gemau poblogaidd yn cynnwys rheolaethau rhieni neu osodiadau diogelwch clir. Argymhellwn y dylai rhieni a gofalwyr archwilio'r gosodiadau gwahanol er mwyn cyflwyno'r amddiffynfeydd angenrheidiol sy'n addas i'ch plentyn chi. Mae hefyd yn bwysig bod rhieni a gofalwyr yn gwybod sut i riportio a rhwystro defnyddwyr a allai fod yn ymddwyn yn amhriodol ar y platfform, er mwyn rhoi gwybod i ddefnyddwyr iau sut i wneud hynny. I gael gwybodaeth fanwl am sut i wneud hyn, ewch i dudalen Bydd gwybodus.


 

Helen King, Cyfarwyddwr Praesidio Safeguarding

Cyn sefydlu Praesidio, Helen oedd sylfaenydd a Phennaeth Addysg ac yna Pennaeth Cyfathrebu 'Child Exploitation and Online Protection (CEOP)' Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol Prydain. Yn y rôl hon, aeth ati i ddatblygu strategaeth genedlaethol ar gyfer diogelwch plant ar y rhyngrwyd ac i greu rhaglen addysg ryngwladol (www.thinkuknow.co.uk). Hefyd, llywiodd ymateb lleihau niwed Llywodraeth San Steffan i gam-drin plant yn rhywiol ar-lein, gan gynhyrchu deunyddiau a chyrsiau hyfforddi ledled y wlad ar gyfer gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd, gan gynnwys rhieni a gofalwyr y rhai sydd mewn perygl. Roedd Helen yn un o aelodau gwreiddiol Cyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd ac yn arweinydd gweithgor y Swyddfa Gartref ar ddiogelwch y rhyngrwyd. Mae Praesidio yn parhau i weithio wrth galon y Llywodraeth, ym myd diwydiant ac o fewn gofal cymdeithasol ac elusennau ar bolisi, strategaethau a rhaglenni addysg i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed.

Asiantaeth ddiogelu annibynnol sy'n darparu cyngor strategol, ymchwil, hyfforddiant ac ymchwiliadau yw Praesidio. Sefydlwyd Praesidio Safeguarding er mwyn helpu plant a phobl ifanc, eu rhieni a'u gofalwyr, a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda nhw i reoli niwed ar-lein ac rydym yn darparu ystod o hyfforddiant a chymorth i'r grwpiau hyn. Hefyd, mae Praesidio yn gweithio'n strategol i gefnogi sefydliadau (gan gynnwys y Llywodraeth a'r sector technoleg) i wneud mwy i fynd i'r afael â'r ystod eang o faterion a phroblemau ar-lein sy'n wynebu plant a phobl ifanc.