English

Mae gan y Cod Plant rôl hanfodol wrth gadw plant yn ddiogel ar-lein.

Mae plant yn cael eu diogelu yn y byd ffisegol, a nod y cod hwn yw sicrhau eu bod yn cael eu diogelu yn y byd digidol hefyd.

Wedi ei gyhoeddi gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Saesneg yn unig), mae’r cod ymarfer diogelu data hwn ar gyfer gwasanaethau ar-lein, fel apiau, gemau ar-lein, gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol, sy’n debygol o gael eu cyrchu gan blant.

Daeth y Cod Plant (Saesneg yn unig) (neu’r cod dylunio priodol i oedran i roi ei deitl ffurfiol iddo) i rym yn llawn ar 2 Medi 2021.

Beth yw ei ddiben?

Nid diogelu plant rhag y byd digidol yw nod y Cod Plant, ond yn hytrach eu diogelu o fewn y byd hwn drwy sicrhau bod gwasanaethau ar-lein wedi’u dylunio gyda phlant mewn golwg.

Mae’r cod yn ymwneud â sicrhau bod lles pennaf plant wrth wraidd gwasanaethau ar-lein. Mae’r safonau wedi’u dylunio i helpu sefydliadau i ddatblygu gwasanaethau sy’n cydnabod bod plant yn haeddu diogelwch arbennig o ran sut y defnyddir eu data personol, tra hefyd yn cynnig digon o gyfle iddynt chwilota a datblygu ar-lein.

Mae’n ymwneud â helpu i atal plant rhag profi niwed ar-lein sy’n gysylltiedig â phrosesu eu data, gan gynnwys colli cyfrinachedd, yr effaith niweidiol o fod yn agored i gynnwys amhriodol i oedran, colledion ariannol ac ymyriadau digroeso i’w gofod preifat gan dwyllwyr.

Mae’n nodi 15 safon (Saesneg yn unig) ar gyfer gwasanaethau a chynhyrchion ar-lein gan amlinellu sut y dylent gydymffurfio â’r ddeddf diogelu data.

Pam mae angen Cod Plant arnom?

Gall apiau, gemau a gwefannau ddechrau casglu data personol yr eiliad y bydd plant neu bobl ifanc yn eu hagor neu’n ymweld â nhw. Gall y data gynnwys pwy sy’n defnyddio’r gwasanaeth, pa mor aml ac o ble.

Yna, gellir defnyddio’r wybodaeth honno i deilwra’r hysbysebion y maen nhw’n eu gweld, llywio’r cynnwys y maen nhw’n cael eu hannog i’w ddefnyddio neu eu perswadio i dreulio mwy o amser yn defnyddio gwasanaethau.

Er yr holl fanteision y gall gwasanaethau digidol eu cynnig i blant a phobl ifanc, ar hyn o bryd nid yw’r diwydiant yn creu man diogel iddynt ddysgu, chwilota a chwarae.

Mae angen i wasanaethau gydnabod y dylid trin plant yn wahanol. Mae un o bob pump yn y DU sy’n defnyddio’r rhyngrwyd yn blentyn, ond chafodd y rhyngrwyd mo’i ddylunio gyda phlant mewn golwg.

Pan fo data personol yn rheoli’r cynnwys y mae plant yn agored iddo, mae’n rhaid i’r sefydliadau wneud hyn yn glir.

Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y dylent wneud y canlynol:

Beth mae hyn yn ei olygu i ysgolion?

Nid yw ysgolion eu hunain o fewn cwmpas y cod ond bydd y rhan fwyaf o’r gwasanaethau y mae ysgolion yn eu defnyddio o fewn y cwmpas. Pan fo gwasanaeth digidol y mae ysgol wedi’i brynu yn cael dylanwad ar sut a phryd y defnyddir data plant, bydd angen i’r gwasanaeth hwn gydymffurfio â’r cod.

Rydym yn cynghori ysgolion i roi ystyriaeth ddilys i’r darparwyr technoleg y maen nhw’n ymrwymo i gytundebau â nhw, a’u bod yn ceisio cael sicrwydd bod y darparwyr hyn yn cydymffurfio â’r cod.

Nid yw’n orfodol cynnwys cydymffurfiaeth fel gofyniad cytundebol, ond byddai’n helpu ysgolion i fodloni eu gofynion atebolrwydd fel rheolydd data o dan ddeddfau diogelu data ehangach. Gall ysgolion geisio cyngor ar hyn gan eu swyddogion diogelu data.

Mae gwybodaeth fanylach yn adran Cwestiynau Cyffredin ar gyfer technolegau addysg (edtech) ac ysgolion (Saesneg yn unig) ein gwefan.

Ble bynnag y mae eu safle o ran y cod, mae’n rhaid i ysgolion sicrhau bob amser bod eu defnydd o ddata plant a gweithgareddau plant yn cydymffurfio â GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018.

Ble ga’i ragor o wybodaeth?

Am ragor o wybodaeth am y Cod Plant, mae gennym adnoddau ar ein gwefan (Saesneg yn unig) neu gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddeddfwriaeth diogelu data (Saesneg yn unig) yn gyffredinol.


 

Helen Thomas, Uwch Swyddog Polisi (Cymru) yn Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth