English

“mi gei di grio faint fynni di ar fy ysgwyddau hefyd….. trystia fi….. gwena”, “rwy’n meddwl mod i’n dechrau dy hoffi di”, “ddylet ti gysgu”

Dyma’r math o gefnogaeth drwy gyfathrebu yr hoffem i’n plant ei phrofi o fewn perthnasoedd digidol iach, gan unigolion y maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw, sydd yn eu bywydau. Ond, er mawr ofid, mae’r enghreifftiau hyn yn dod o dair sgwrs ddigidol gan bobl sy’n meithrin perthynas amhriodol ar-lein â phlant i bwrpas rhyw. Yn wir, mae’r rhain yn nodweddiadol o sgwrsio magu ymddiriedaeth pobl o’r fath - sef tacteg gyfathrebu sy’n eu galluogi i feithrin perthynas â phlant y maen nhw’n eu targedu i’w cam-drin yn rhywiol. Mae sgwrsio i feithrin ymddiriedaeth mor amlwg â sgwrsio rhywiol, a dyna sy’n dod i’r meddwl yn naturiol yng nghyd-destun meithrin perthynas amhriodol â phlentyn ar-lein i bwrpas rhyw.

Mae’r rhai sy’n gyfrifol am fynd i’r afael â meithrin perthynas amhriodol â phlant ar-lein i bwrpas rhyw yn gwbl ymwybodol o’r gwahanol ysgogiadau sy’n dylanwadu ar sut mae’r troseddwyr hyn yn sefydlu a chynnal perthynas gamdriniol â’r plant y maen nhw’n eu targedu yn ddigidol. Mae ffactorau sefyllfaol yn sicr yn cyfrannu’n sylweddol. Mae’r rhain yn cynnwys elfennau digidol (e.e. gosodiadau preifatrwydd ar gyfer gwahanol blatfformau digidol), amser a hyd y cyswllt digidol (e.e. fin nos, dros rai diwrnodau, wythnosau neu fisoedd), lleoliad y cyswllt (e.e. gofod preifat yng nghartrefi’r plant sy’n cael eu targedu neu fannau cyhoeddus fel parciau), ac ati. Mae ffactorau demograffig cymdeithasol a seicolegol - er enghraifft oedran, rhywedd, a chyflwr meddwl - yn allweddol hefyd, i’r rhai sy’n meithrin y berthynas a’r plant sy’n cael eu targedu. Fodd bynnag, ers tro bellach mae’r ymdrechion i drechu achosion o feithrin perthynas amhriodol â phlant ar-lein i bwrpas rhyw wedi’u rhwystro gan fethiant i weld beth sy’n digwydd go iawn, sef arfer camdriniol o fanteisio drwy gyfathrebu. Mae’r troseddwyr yn defnyddio iaith a ffyrdd o gyfathrebu (e.e. emojis, delweddau, fideos) i berswadio’r plant y maen nhw’n eu targedu i gymryd rhan mewn ymddygiad rhywiol ar-lein, ac all-lein ar adegau hefyd.

Y newyddion drwg yw bod tactegau perswadio a ddefnyddir wrth feithrin perthynas amhriodol â phlant ar-lein i bwrpas rhyw yn soffistigedig dros ben (gweler isod) ac felly’n anodd iawn i blant bach – a’r rheiny ohonom sydd am eu diogelu – eu canfod a’u gwrthod. Y newyddion da yw bod gennym wybodaeth sy’n seiliedig ar ymchwil bellach o beth yw’r tactegau hyn a sut mae plant yn ymateb iddyn nhw, sy’n golygu y gallwn ddatblygu adnoddau canfod ac atal mwy effeithiol. Dyma’r hyn mae Prosiect DRAGON-S yn ei wneud, gan ddwyn ynghyd ymchwil arloesol mewn Ieithyddiaeth, Deallusrwydd Artiffisial, Troseddeg a Pholisi Cyhoeddus, a chydweithio gyda rhanddeiliaid i lunio adnoddau canfod ac atal ar gyfer meithrin perthynas amhriodol â phlant ar-lein i bwrpas rhyw, gan gefnogi gwaith gweithwyr diogelu plant proffesiynol, a thrwy hynny gyfrannu at ddiogelwch plant ar-lein.

Mae gweddill yr erthygl hon yn canolbwyntio ar dair elfen allweddol, gydgysylltiedig cyfathrebu i feithrin perthynas amhriodol â phlant ar-lein i bwrpas rhyw: rhyngweithio, camddefnyddio pwer ac arfau tactegol soffistigedig.

  • Er mai afraid yw dweud hyn, mae meithrin perthynas â phlant ar-lein i bwrpas rhyw yn cynnwys rhyngweithio dwy ffordd: mae’r sawl sy’n meithrin y berthynas amhriodol a’r plentyn y mae’n ei dargedu yn cymryd rhan mewn cyfathrebu digidol. Fel gyda phob math o gyfathrebu, digidol neu fel arall, mae’r hyn y mae un person yn ei ddweud a sut mae’n ei ddweud e, yn dylanwadu ar yr hyn y mae’r person arall yn ei ddweud, a sut mae’n ei ddweud e. Yn achos meithrin perthynas amhriodol â phlant ar-lein i bwrpas rhyw, mae hyn yn golygu y gall y troseddwr newid ei ymddygiad cyfathrebu yn ôl sut mae’r plentyn y mae’n ei dargedu yn cyfranogi ac yn ymateb. Mae’r sawl sy’n meithrin perthynas amhriodol yn newid rhwng ymddygiad cyfathrebu ‘neis’ (canmol, rhoi opsiynau ac ati) a ‘chas’ (bygythiol, rheoli ac ati) yn gyflym ac yn gyson, yn aml o’r cyfathrebu cyntaf oll. Mae hyn yn anodd iawn i’w brosesu, sy’n ei gwneud hi’n anodd iawn i blant weld bod rhywun yn ceisio manteisio arnyn nhw.

  • Felly, mae meithrin perthynas amhriodol â phlant ar-lein i bwrpas rhyw yn cynnwys cyfathrebu parhaus dwy ffordd sy’n esblygu. Yn hanfodol, mae’r cyfathrebu hwnnw yn anghymesur yn y bôn - gan y troseddwr mae’r pwer dros y plant y mae’n eu targedu. Mae dau brif reswm am hyn. Yn gyntaf, mae anghydbwysedd pwer yn bodoli eisoes rhyngddyn nhw: mae’r oedolyn yn fwy datblygedig, o ran cyfathrebu a phrofiad. Felly, wrth drafod telerau eu perthynas ddigidol, mae gan y troseddwr/oedolyn fwy o fantais o ran cyfathrebu. Yn ail, mae’r troseddwyr yn canolbwyntio’n llwyr ar eu hamcanion rhywiol wrth gyfathrebu â phlant, sy’n golygu bod eu cyfathrebu yn dactegol dros ben. Ar y llaw arall, ar y cyfan mae gan blant nodau llai diffiniedig sy’n newid yn gyson wrth ryngweithio ag oedolion sy’n ceisio meithrin perthynas amhriodol ar-lein i bwrpas rhyw, yn amrywio o gyfeillgarwch neu berthynas ramantus i chwilfrydedd a darganfod rhywiol. Pan fo nodau troseddwyr a phlant a dargedir yn gwrthdaro yn ystod eu rhyngweithio digidol, mae angen eu trafod. A dyma pryd y mae nodweddion anghymesur y pwer i feithrin perthynas amhriodol â phlant ar-lein i bwrpas rhyw yn rhoi plant dan anfantais amlwg - anfantais y mae’r rhai sy’n meithrin y berthynas yn ei gamddefnyddio’n llwyr drwy arfau cyfathrebu tactegol soffistigedig, fel y gwelwn nesaf.

  • Dengys ymchwil i feithrin perthynas amhriodol â phlant ar-lein i bwrpas rhyw bod troseddwyr yn defnyddio nifer o dactegau cyfathrebu i gyflawni eu nodau cam-drin rhywiol. Mae’r rhain yn cynnwys ynysu'r plant y maen nhw’n eu targedu o’u rhwydweithiau cymorth, dadsensiteiddio'r plant y maen nhw’n eu targedu i bwrpas rhyw, ceisio magu eu hymddiriedaeth a sicrhau cyswllt pellach gyda nhw ar-lein ac, yn achos meithrin cyswllt, fel y’i gelwir, gwneud hynny all-lein hefyd. Gellir rhannu’r holl dactegau manteisio hyn i is-dactegau penodol. Yn achos meithrin ymddiriedaeth, er enghraifft, mae’r troseddwyr yn canmol y plant y maen nhw’n eu targedu, yn ceisio cael gwybodaeth bersonol ganddyn nhw, yn treulio amser yn trafod hobiau a pherthnasoedd (eu perthynas nhw a’u perthynas ag eraill, fel cariadon) ac yn treulio amser gyda’i gilydd ar-lein. Pan ddaw hi i dactegau ynysu, mae’r troseddwyr yn ceisio sicrhau mynediad unigryw - a chyfrinachol yn aml - i’r plant y maen nhw’n eu targedu, boed yn gorfforol (er enghraifft gofalu bod y plant ar ben eu hunain wrth iddyn nhw sgwrsio ar-lein) neu’n affeithiol (er enghraifft drwy erydu gwerth perthnasoedd o ymddiriedaeth eraill ym mywydau’r plant).

    Hefyd, mae pobl sy’n meithrin perthynas ar-lein yn defnyddio arfau tactegol soffistigedig yn wahanol. Fel y gwelsom yn gynt, yng nghyd-destun camddefnyddio pwer, maen nhw’n newid o sgwrsio ‘neis’ i sgwrsio ‘cas’. Hefyd, mae rhai troseddwyr ar-lein yn dangos dull cyfathrebu cymhellol, ac yn gwneud sawl bygythiad ac yn uniongyrchol iawn yn eu ceisiadau am fanylion personol, gan gynnwys derbyn delweddau rhywiol gan y plant y maen nhw’n eu targedu, ac ati. Gall hyn wneud i’r plant deimlo’n ofnus ac o ystyried deinameg pwer y sefyllfa, fe allent ‘ildio’, gan arwain at gynnydd yn y cam-drin rhywiol a’r ofn, sydd yn ei dro yn ei gwneud hi’n anodd, neu hyd yn oed yn amhosibl sôn wrth rywun arall am y cam-drin. Fodd bynnag, mae troseddwyr ar-lein eraill yn ffafrio dull ‘cwrtais’ neu anuniongyrchol, gan feithrin pwer drwy ryngweithio â’r plant y maen nhw’n eu targedu. Gallant, er enghraifft, nodi “dy ddewis di yw e, dwi ond am i ti wneud yr hyn rwyt ti’n hapus yn ei wneud” wrth fframio seiber-ryw rhyngddyn nhw. Gall hyn wneud i blant deimlo eu bod mewn rheolaeth. Os a phryd y sylweddolant nad oedd hyn yn wir, gallant ddatblygu teimladau o feio’u hunain a gall hynny eu hatal rhag datgelu’r hyn sy’n digwydd iddyn nhw.

    Hefyd, nid yw arfau tactegol y troseddwyr yn dilyn trefn benodol, ac mae eu tactegau yn gorgyffwrdd yn aml. Efallai mai canmoliaeth fel “llun proffil neis!” fydd y neges gyntaf i blentyn ei derbyn yng nghyd-destun meithrin perthynas amhriodol ar-lein i bwrpas rhyw - hyd yn oed cyn cyfnewid manylion personol fel enw ac oedran. Mae canmoliaeth fel hyn yn gwneud i blant deimlo fel bod rhywun yn eu hoffi, gan baratoi’r ffordd i ddatblygu ymddiriedaeth, ac mae’n cyflawni rhyw fath o ddadsensiteiddio rhywiol - o fewn llai na munud i’r rhyngweithio digidol ddechrau. Mewn geiriau eraill, mae’r ganmoliaeth yn amlwg yn aml-dactegol o safbwynt y troseddwr. Yn yr un modd, gall gofyn i blant siarad am eu perthnasoedd - am gariadon neu gyn-gariadon, fel arfer - arwain at gynigion o gefnogaeth emosiynol, fel yn enghraifft 1, a datblygu tacteg magu ymddiriedaeth y troseddwyr. Ac eto, gall y sgwrs honno am berthynas gynnwys trafod agweddau rhywiol ar fywyd y plentyn - a/neu’r sawl sy’n meithrin perthynas yn amhriodol - sy’n sbarduno tactegau dadsensiteiddio’r troseddwr. Gall hefyd arwain at y troseddwr yn fframio drwy gyfathrebu'r berthynas rhwng y plentyn-troseddwr - drwy gefnogaeth, ymddiriedaeth neu ryw (bwriedig/gwirioneddol) - fel un sy’n well nag unrhyw berthynas arall, gan eu tanbrisio, sy’n ganolog yn nhacteg ynysu’r troseddwr.

Casgliadau

Mae tuedd i rai ystyried meithrin perthynas amhriodol â phlant ar-lein i bwrpas rhyw (a mathau eraill o gam-drin) fel rhywbeth llai difrifol neu niweidiol na cham-drin all-lein. Dydy hynny ddim yn wir. Mae’r trawma seicolegol yn enbyd, ac mae’r delweddau neu’r geiriau a gyfnewidir yn ymwneud â rhyw ac yn digwydd drwy weithredodd rhywiol. Mae plant yn gallu gwrthod cael eu meithrin i berthynas amhriodol ar-lein i bwrpas rhyw ac maen nhw weithiau’n gwneud hynny – maen nhw’n sylweddoli ar ryw lefel bod ganddyn nhw’r hawl i gael eu trin â pharch ac urddas yn eu cysylltiadau digidol, fel yng ngweddill eu  bywydau. Fodd bynnag, mae’r cynnydd blynyddol mewn achosion o gam-drin rhywiol ac ymelwa ar blant ar-lein yn dystiolaeth o sut mae’r troseddwyr hyn yn camddefnyddio pwer a sut mae arfau tactegol soffistigedig y troseddwr yn creu cyd-destun rhyngweithredol dryslyd i blant ac yn destun her fawr i fesurau atal a chanfod. Felly, mae ystyried ac ymateb i ymdrechion i feithrin perthynas â phlant ar-lein i bwrpas rhyw fel manteisio camdriniol drwy gyfathrebu yn hanfodol i’n cydymdrechion i ddiogelu plant ar-lein. A thrwy wneud hyn, gall prosiectau fel DRAGON-S, gyda chefnogaeth yr holl randdeiliaid perthnasol, wneud cyfraniad sylweddol at fynd i’r afael â’r ffurf atgas hwn ar gam-drin rhywiol a dod â’r troseddwyr o flaen eu gwell.


 

Yr Athro Nuria Lorenzo-Dus, Ieithyddiaeth Gymhwysol, Prifysgol Abertawe

Mae Nuria Lorenzo-Dus yn Athro Ieithyddiaeth a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n awdur nifer o lyfrau a thros saith deg o erthyglau mewn cyfnodolion a phenodau llyfrau. Mae wedi cynnal swyddi ymchwil ymweld yn yr Ariannin, Awstralia, Brasil, Seland Newydd, Sbaen a’r UDA. Mae ei hymchwil yn archwilio cyfathrebu rhyngbersonol a rhyng-grwp mewn cyd-destunau seiber-droseddu, gan ganolbwyntio'n benodol ar feithrin perthynas amhriodol â phlant ac eithafion ideolegol.  Mae ei hymchwil wedi denu cyllid ymchwil sylweddol, gan gynnwys gan Gynghorau Ymchwil y Deyrnas Unedig (e.e. AHRC ac EPSRC) ac elusennau (e.e. Ymddiriedolaeth Leverhulme), ac mae'n cynnwys cydweithio helaeth â thimau academaidd a grwpiau rhanddeiliaid blaenllaw ledled y byd. Menter ddiweddaraf Nuria yw Prosiect DRAGON-S, a gefnogir yn ariannol gan yr End Violence Fund, sy'n datblygu offer digidol sy'n cael ei lywio'n ieithyddol i helpu i atal meithrin perthynas amhriodol â phlant ar-lein yn fyd-eang.