English

Lle mae technoleg yn ein cysylltu mewn gwahanol ffyrdd, mae'n bwysig bod yn ymwybodol nid yn unig o'r manteision enfawr ond hefyd o’r risgiau posibl sy'n gysylltiedig â rhyngweithio ar-lein. Un bygythiad o'r fath yw blacmel rhywiol - math difrifol o flacmel sy'n cynnwys ecsbloetio delweddau neu fideos o noethni, delweddau cignoeth neu o natur sensitif er mwyn gorfodi dioddefwyr i weithredu yn erbyn eu hewyllys, megis rhannu delweddau cignoeth pellach neu dalu i atal  delweddau rhag cael eu rhannu ymhellach. Mae cam-drin rhywiol yn drosedd sy'n peri gofid a gall arwain at ganlyniadau emosiynol a seicolegol difrifol.

Mae troseddwyr yn aml yn targedu pobl sy'n defnyddio apiau chwilio am gariad, platfformau cyfryngau cymdeithasol, gwefannau gwe-gamera/ffrydio byw neu wefannau sy'n gysylltiedig â phornograffi. Efallai y byddan nhw'n esgus bod yn rhywun arall ar-lein a dod yn ffrindiau gyda chi. Yn ddiweddarach, efallai y byddan nhw’n bygwth rhannu lluniau neu fideos gyda'ch teulu a'ch ffrindiau.

Mae ein dadansoddwyr yn IWF yn derbyn mwy a mwy o adroddiadau am y math yma o drosedd. Weithiau mae'r blacmeliwr yn dangos i'r dioddefwr gasgliad o ddelweddau sy'n cynnwys y ddelwedd noethlymun neu bersonol wreiddiol a rannwyd yn gyntaf, ynghyd â chyfrifon cyfryngau cymdeithasol y dioddefwr, ei restrau ffrindiau a theulu, yn ogystal â chyhuddo'r dioddefwr ar gam o droseddau nad yw wedi'u cyflawni.

Gall blacmel rhywiol achosi trallod emosiynol sylweddol, teimladau o gywilydd, ofn a phryder. Mae'n hanfodol cofio nad yw’r dioddefwr byth ar fai, ac mae cymorth ar gael i helpu i ymdopi â'r canlyniadau.

  1. Byddwch yn wyliadwrus am rybuddion posibl sy'n awgrymu ymdrechion i flacmelio’n rhywiol, megis derbyn cynnwys cignoeth nad oeddech chi wedi gofyn amdano, ceisiadau sydyn neu ddi-baid am ddelweddau personol, neu geisiadau parhaus am wybodaeth bersonol.
  2. Iaith fygythiol ynghylch colli gwylwyr neu ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol os nad ydych yn gwneud yn ôl y gofyn, neu os nad ydych yn anfon delweddau a fideos.

Mae'n bwysig nodi y gall pob plentyn ymateb yn wahanol i flacmel rhywiol, a gall yr arwyddion amrywio yn dibynnu ar ei bersonoliaeth, ei oedran a ffactorau eraill. Fodd bynnag, dyma rai newidiadau posibl mewn ymddygiad a allai ddangos bod plentyn yn cael ei flacmelio’n rhywiol.

  • Trallod emosiynol: Gall y plentyn arddangos arwyddion o fwy o bryder, ofn, neu hwyliau oriog. Efallai y bydd yn ymddangos yn fwy mewnblyg, yn isel, neu hwyrach y bydd yn cynhyrfu’n hawdd.
  • Encilio cymdeithasol: Gallai'r plentyn ddechrau osgoi ymwneud ag eraill yn gymdeithasol neu dreulio llai o amser gyda ffrindiau a theulu. Efallai y bydd â’i ben yn ei blu ac yn amharod i gymryd rhan mewn gweithgareddau yr arferai eu mwynhau.
  • Newid mewn ymddygiad ar-lein: Os yw plentyn yn dioddef blacmel rhywiol, gall arddangos newidiadau penodol yn ei weithgareddau ar-lein, fel treulio gormod o amser ar-lein, ymddwyn yn gyfrinachol am ei ryngweithio ar-lein, neu osgoi neu ddileu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn sydyn.
  • Ymddygiad anarferol gydag arian, talebau, arian ar-lein ac ati: Mae'r plentyn yn gwario mwy o arian nag arfer neu mae ganddo lai o arian nag y byddech chi'n ei ddisgwyl. Efallai y bydd yn dwyn arian gennych chi neu gan aelodau eraill o'r teulu.
  • Cyfrinachedd anarferol: Gall y plentyn ddod yn anarferol o gyfrinachol am ei fywyd personol, ei weithgareddau, neu am ei ryngweithio ar-lein. Efallai y bydd yn gyndyn i drafod y peth neu’n amddiffynnol wrth gael ei holi am ei ymddygiad neu am unrhyw gyfathrebu ar-lein.
  • Perfformiad academaidd yn dirywio: Gall blacmel rhywiol gael effaith sylweddol ar les emosiynol plentyn, a all arwain at ddirywiad yn ei berfformiad academaidd. Efallai y bydd yn cael trafferth canolbwyntio, yn colli diddordeb mewn gwaith ysgol, neu’n dangos arwyddion o drallod yn ystod oriau ysgol.
  • Newid agwedd tuag at yr ysgol: Efallai y bydd yn gweld yr ysgol fel ei le diogel ac yn mwynhau'r seibiant o’i ddyfeisiau os yw'r tramgwyddwr/camdriniwr y tu allan i gymuned yr ysgol.
  • Cwsg aflonydd: Gall blacmel rhywiol achosi straen a phryder sylweddol, gan arwain at newidiadau mewn patrymau cysgu. Efallai y bydd y plentyn yn cael anawsterau cysgu, hunllefau aml, neu’n deffro’n amlach yn ystod y nos.
  • Osgoi dyfeisiau electronig: Os yw plentyn yn cael ei flacmelio’n rhywiol, efallai y bydd yn dangos amharodrwydd anarferol i ddefnyddio dyfeisiau electronig neu’n dangos anghysur wrth dderbyn negeseuon neu alwadau. Efallai y bydd yn ceisio cyfyngu ar ei bresenoldeb ar-lein neu’n osgoi defnyddio apiau neu blatfformau penodol yn gyfan gwbl.
  • Hunan-niweidio neu syniadaeth hunanddinistriol: Efallai y bydd y plentyn yn arddangos arwyddion o hunan-niweidio, meddyliau hunanddinistriol neu’n mynegi teimladau o anobaith. Dylid cymryd yr arwyddion hyn o ddifrif, a dylid gofyn am gymorth proffesiynol ar unwaith.

Mae'n bwysig cofio y gallai'r newidiadau ymddygiadol hyn awgrymu amrywiol broblemau, nid dim ond blacmel rhywiol. Os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw newidiadau sylweddol a pharhaus yn ymddygiad plentyn, mae'n hanfodol mynd i'r afael â'r sefyllfa gyda sensitifrwydd, cyfathrebu’n agored a cheisio cymorth proffesiynol os oes angen.

Beth i'w wneud os ydych chi'n dioddef blacmel rhywiol

  1. Dydych chi ddim ar fai a does gennych chi ddim i fod â chywilydd ohono. Efallai y bydd yn gwneud i chi deimlo'n ofidus ac yn ddiwerth, ond mae cymorth ar gael gan bobl a sefydliadau y gallwch ymddiried ynddyn nhw, fydd ddim yn eich beirniadu ac a fydd yn eich deall.
  2. Peidiwch â chynhyrfu a holwch am help: Ewch ati’n syth i ofyn am help gan oedolyn y gallwch ymddiried ynddo neu gan linell gymorth.
  3. Cadwch dystiolaeth os yw hynny’n bosibl: Cadwch negeseuon a chofnodwch unrhyw gyfathrebu sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad. Gall y dystiolaeth hon fod yn werthfawr at ddibenion cyfreithiol ac adrodd am y drosedd.
  4. Ewch ati i atal pob cyfathrebu: Rhowch y gorau i unrhyw ryngweithio â'r cyflawnwr a'i flocio ar bob platfform er mwyn atal unrhyw gam-drin neu aflonyddu pellach.
  5. Riportiwch y digwyddiad: Cysylltwch â'ch heddlu lleol a rhowch dystiolaeth a manylion y digwyddiad blacmel rhywiol iddyn nhw. Gallant eich cynghori ar y camau sy’n rhaid i chi eu cymryd.
  6. Report Remove: Os ydych chi neu'ch plentyn o dan 18 oed, gellir cyflwyno delweddau a fideos i Report Remove – adnodd ar-lein a ddatblygwyd gan IWF a Childline/NSPCC i helpu pobl ifanc yn y DU i roi gwybod yn gyfrinachol am ddelweddau a fideos rhywiol ohonyn nhw eu hunain mewn ymdrech i'w tynnu oddi ar y rhyngrwyd.
  7. Rhowch wybod i rieni, gofalwyr neu oedolyn y gallwch ymddiried ynddo: Rhannwch y sefyllfa gydag oedolyn cyfrifol a all eich cefnogi, eich helpu i riportio’r drosedd, a’ch cynorthwyo i lywio'r heriau emosiynol a allai godi.
  8. Holwch am gymorth proffesiynol: gallwch estyn allan at gwnselwyr, therapyddion, neu sefydliadau cymorth sy'n arbenigo mewn seiberdroseddu neu gymorth i ddioddefwyr. Gallant gynnig arweiniad a'ch helpu i ymdopi ag effaith emosiynol cael eich blacmelio’n rhywiol.
  9. Rhowch wybod i’r platfformau perthnasol: Riportiwch y troseddwr a'r digwyddiad i'r platfform neu'r wefan lle digwyddodd y cyswllt neu'r aflonyddu cyntaf. Gallant gymryd y camau angenrheidiol i atal eraill rhag dod yn ddioddefwyr.
  10. Byddwch yn ofalus rhag i chi gael eich ail-erlid: Gall troseddwyr fod yn benderfynol. Er gwaethaf pob ymgais i osgoi, blocio a diogelu’ch gwybodaeth bersonol a'ch presenoldeb ar-lein, hwyrach y byddant yn dal i lwyddo i gysylltu â chi. Gallant fod yn benderfynol iawn. Unwaith eto, nid eich bai chi yw hyn. Ceisiwch eu hanwybyddu a daliwch ati i riportio.
  1. Ymarfer diogelwch ar-lein: Byddwch yn ofalus gyda’r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei rhannu ar-lein, ceisiwch ddeall gosodiadau preifatrwydd, ac ewch ati i adolygu mesurau diogelwch eich cyfrif cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd. Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn cynnig arweiniad defnyddiol.
  2. Cryfhau cyfrineiriau: Defnyddiwch gyfrineiriau cryf, unigryw ar gyfer pob cyfrif ar-lein, ac ystyriwch ddefnyddio rheolwyr cyfrinair ar gyfer diogelwch ychwanegol.
  3. Galluogi prawf dilysu dau ffactor: Cofiwch actifadu’r nodwedd hon pan fydd ar gael, gan ei fod yn ychwanegu haen ychwanegol o ddiogelwch i'ch cyfrifon ar-lein.
  4. Ymddiried yn eich greddf: Os yw rhywun ar-lein yn eich gwneud yn anghyfforddus neu'n ceisio rhoi pwysau arnoch i rannu cynnwys cignoeth, cofiwch fod gennych chi hawl i ddweud na a rhoi’r gorau i unrhyw gyswllt.

(Seasneg yn unig)

Os hoffech i swyddog heddlu ddod i mewn i'ch ysgol i gyflwyno cyflwyniad am flacmel rhywiol i'ch dysgwyr, gallwch ofyn am hyn drwy Raglen Ysgolion Heddlu Cymru, SchoolBeat.cymru. Os oes gan blentyn yn eich ysgol unrhyw bryderon, gall rannu'r rhain a/neu roi gwybod i swyddog heddlu'r ysgol.

Gall Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru, SchoolBeat, roi cyflwyniad ar flacmel rhywiol i blant a phobl ifanc yn eu hysgol ar gais. Os oes gan blentyn bryderon am flacmel rhywiol, gall hefyd rannu'r rhain a/neu roi gwybod i swyddog heddlu’r ysgol.

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.


 

Internet Watch Foundation (IWF)

Elusen yw’r IWF sy'n gweithio i ddileu delweddau a fideos o gam-drin plant yn rhywiol ar-lein ac mae'n un o dri phartner sy'n rhan o UK Safer Internet Centre. Fel rhan o'i waith, mae'r IWF yn darparu llinell gymorth lle gall unrhyw un roi gwybod yn ddiogel ac yn ddienw am ddelweddau o gam-drin plant yn rhywiol. Trwy gydweithio â diwydiant, asiantaethau gorfodi'r gyfraith, llywodraethau, elusennau a llinellau cymorth eraill, gall IWF ddod o hyd i ddelweddau a fideos ar-lein o gam-drin plant yn rhywiol, gan helpu dioddefwyr bedwar ban byd.