English

Gydag e-chwaraeon bellach yn rhan o Gemau'r Gymanwlad, mae'n bwysig deall beth yw e, pam ei fod yn tyfu mewn poblogrwydd, ac a oes unrhyw risgiau neu niwed penodol i'w hystyried. Daw pwnc poblogaidd fel e-chwaraeon â thermau a chysyniadau newydd yn ei sgil fel arfer, felly bydd adolygu termau sy'n gysylltiedig â byd e-chwaraeon yn helpu i gynyddu’ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o sut mae'r maes newydd hwn o chwaraeon digidol yn gweithio.

Beth yw E-chwaraeon?

Chwarae gemau fideo ar-lein mewn ffordd gystadleuol yw e-chwaraeon (neu chwaraeon electronig). Mae chwaraewyr e-chwaraeon yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am wobrau, arian, clod a bri!

Gall unrhyw gêm fideo sydd â'r potensial ar gyfer cystadlu ddod yn e-chwaraeon – o gemau chwaraeon (e.e. FIFA) i gemau saethwr person cyntaf (e.e. Call of Duty) i ryw fath o arena frwydr (e.e. Rocket League). Mae E-chwaraeon yn datblygu'n gyflym ac yn ennill mwy o fomentwm bob blwyddyn, gyda gwerth y diwydiant yn tyfu bob blwyddyn.

Gall digwyddiad e-chwaraeon fod ar gyfer chwaraewr unigol neu dîm. Yn union fel chwaraeon traddodiadol, mae e-chwaraeon yn gofyn am hyfforddiant, sgiliau ac amser. Mae gan dimau hyfforddwyr, noddwyr, a gemau cyfeillgar er mwyn gallu ymarfer (a elwir yn 'scrims') cyn cystadlaethau. Mae'r gemau eu hunain wedi'u llunio i chwaraewyr ymgolli ynddyn nhw ac annog chwaraewyr i serennu, gyda gwobrau a chyflawniadau yn y gêm yn cael eu dyfarnu i sgiliau ar lefel uwch.

Gall e-chwaraeon fod yn brofiadau unigol neu mewn tîm. Mae angen hyfforddiant, sgiliau ac amser. Mae gan dimau hyfforddwyr, noddwyr, ac maent yn chwarae gemau cyfeillgar (a elwir yn 'scrims') er mwyn ymarfer cyn y cystadlaethau go iawn. Mae'r gemau eu hunain wedi'u cynllunio i roi profiad o ymgolli ac i annog chwaraewyr i ddod y gorau, gyda gwobrau a chyflawniadau yn y gêm yn cael eu dyfarnu i lefelau uwch o sgiliau.

Mae'r arddull chwaraeon hwn yn dod yn fwyfwy poblogaidd ymysg cenedlaethau iau. Mae gemau sy’n cael eu chwarae gan blant a phobl ifanc bob dydd, fel Fortnite a Minecraft wedi ennill eu plwyf yn y sin e-chwaraeon, gan gynnal twrnameintiau ac achosi i rai chwaraewyr proffesiynol ennill statws tebyg i statws selebs. Mae clybiau fel Manchester City yn recriwtio chwaraewyr. Mae hyd yn oed enwogion, fel David Beckham yn cyd-berchen ar sefydliadau e-chwaraeon.

Gwybodaeth

Ffeithiau chwim am e-chwaraeon

Trwy'r gymuned e-chwaraeon, gall myfyrwyr ddatblygu sgiliau STEM neu gefnogi dysgu STEM mwy effeithiol oherwydd ei fod yn cynnwys gwaith tîm, datrys problemau, gwyddor data, technoleg rhyngrwyd a chodio.

Mae bron i hanner y rhieni yn credu y dylid ychwanegu e-chwaraeon at gwricwlwm yr ysgol a dwy ran o dair o'r farn y dylid cynnig e-chwaraeon fel gweithgaredd allgyrsiol.  

Ar gyfartaledd, mae plant rhwng 11 a 18 oed yn treulio tair awr a hanner y dydd ar e-chwaraeon, naill ai gartref (94%) neu yn nhŷ ffrind (40%).

Cynhaliwyd y twrnamaint e-chwaraeon cyntaf erioed ym Mhrifysgol Stanford ym 1972, wrth i 5 myfyriwr fynd benben mewn 'intergalactic spacewars olympics’. Fodd bynnag, cyfeiriwyd at y digwyddiad fel 'gaming tournament' a derbyniodd yr enillydd wobr tanysgrifiad blwyddyn i'r cylchgrawn Rolling Stones.

Fel chwaraeon traddodiadol, mae gan e-chwaraeon elfen gwylwyr lle mae cefnogwyr yn gwylio twrnameintiau a gemau, yn cefnogi timau penodol, ac yn edmygu rhai chwaraewyr. Gall twrnameintiau e-chwaraeon amrywio o ddigwyddiadau ar raddfa fach wedi'u hanelu at selogion amatur neu ddigwyddiadau ar raddfa fawr ar gyfer timau proffesiynol a noddir gan gyhoeddwyr gemau. Gall hyn roi’r argraff mai casgliad o gynulliadau llai ydyn w, ond mae llawer o'r twrnameintiau hyn yn digwydd ar raddfa enfawr. Er enghraifft, twrnamaint 'The International' Dota 2 yw un o'r digwyddiadau e-chwaraeon mwyaf bob blwyddyn, sy'n llenwi stadiymau ac yn cynnig gwobrau o $34 miliwn (£ 25.8 miliwn).

Pam mae pobl ifanc yn hoffi e-chwaraeon?

Ydych chi'n cofio ymlafnio i geisio dileu'r enw ar frig y rhestr ar beiriant Pac Man yn yr arcêd? Natur gystadleuol gemau sy'n sbarduno gornestau rhwng ffrindiau a pherthnasau sydd wrth wraidd e-chwaraeon.

Efallai bod e-chwaraeon wedi bod o gwmpas ers sbel, ond maen nhw'n fwyfwy poblogaidd heddiw diolch i ffrydio byw ar blatfformau fel Twitch a YouTube. Gyda chynnydd mewn ffrydio a dylanwadwyr, mae llawer o bobl ifanc yn dilyn ac yn edmygu chwaraewyr e-chwaraeon proffesiynol yn union fel chwaraewyr pêl-droed.

Hefyd, mae chwaraewyr proffesiynol yn aml yn creu cynnwys ac yn ffrydio'n fyw y gêm maen nhw'n cystadlu ynddi yn ystod amser segur, amser hyfforddi, a thwrnameintiau ar-lein. Mae ffrydio byw wedi helpu i ehangu e-chwaraeon fel opsiwn neu nod gyrfa dilys i bobl ifanc.

Gall plant a phobl ifanc gymryd rhan mewn twrnameintiau amatur e-chwaraeon yn rheolaidd, naill ai gyda ffrindiau neu drwy gael eu paru yn erbyn chwaraewyr eraill ar-lein. Mae twrnameintiau amatur yn cael eu hysbysebu’n aml ar y gemau eu hunain. Mae rhai twrnameintiau yn cynnal digwyddiadau i dimau amatur gystadlu am gyfle i chwarae yn erbyn rhai proffesiynol mewn digwyddiadau proffesiynol.

Beth yw peryglon e-chwaraeon?

Wrth ystyried poblogrwydd eang (a chynyddol) e-chwaraeon, mae'n bwysig tynnu sylw at y risgiau posibl a all effeithio ar fywyd ar-lein ac all-lein.

Cynnwys amhriodol sy’n peri gofid

Gall cynnwys gemau fod yn amhriodol neu beri gofid i blentyn neu berson ifanc wrth iddo wylio neu chwarae. Gallai hyn gynnwys trais neu iaith anaddas.

Gamblo

Mae'r rhan fwyaf o gemau'n cynnwys blychau ysbail (cistiau trysor sydd yn y gêm) i'w prynu, a allai arwain at arferion gwario afiach, yn enwedig pan fo’r bocsys yn cynnig manteision cystadleuol. Efallai na fydd plant a phobl ifanc yn deall mecaneg gamblo (fel risg a gwobr) ac mae hyn yn cynyddu'r siawns o gam-fanteisio posibl.

Cydberthnasoedd mewn gemau

Mae pobl o bob oed, ym mhob cwr o'r byd, yn cymryd rhan mewn e-chwaraeon. Wrth chwarae gemau tîm, gallai'r plentyn yn eich gofal baru yn erbyn dieithriaid mewn tîm. Gallai hyn greu amgylchedd posibl ar gyfer meithrin perthynas amhriodol (pan fydd oedolyn yn meithrin perthynas â pherson ifanc yn seiliedig ar ymddiriedaeth a chysylltiad er mwyn cam-fanteisio, ei ecsbloetio a'i gam-drin).

Risgiau traws-blatfform

Wrth chwarae ar-lein, mae risg bod sesiynau chwarae gêm yn symud ar draws platfformau (megis defnyddio Discord ar gyfer sgwrs llais). Hefyd, mae'n debygol y bydd pobl ifanc am ddilyn eu hoff dimau a chwaraewyr e-chwaraeon ar y cyfryngau cymdeithasol a chymryd rhan mewn trafodaethau gyda chefnogwyr eraill. Gallai hyn ei gwneud hi'n haws i ddieithriaid gysylltu â nhw ac mae'n cyflwyno mwy o sefyllfaoedd lle gallai camdriniaeth ddigwydd. Mae yna berygl hefyd y gall platfformau gael eu hamgryptio o'r dechrau i'r diwedd, system sy'n cadw rhyngweithio rhwng defnyddwyr yn breifat ac felly ddim yn hygyrch i orfodaeth gyfreithiol.

Amser

Mae angen ymrwymo tipyn o amser i ymarfer a chystadlu mewn twrnameintiau. Gallai hyn amharu ar waith ysgol, amserlenni cysgu, ac arferion teuluol. Gallai hefyd gyflwyno straen ychwanegol os yw person ifanc yn defnyddio ei holl amser rhydd i gymryd rhan mewn hyfforddiant a chystadleuaeth, heb adael amser i ymlacio trwy wneud pethau eraill.

Trallod emosiynol

Yn debyg iawn i gystadleuaeth chwaraeon draddodiadol, yn enwedig mewn tîm, mae siawns y gallai gêm wael achosi rhwystredigaeth i blentyn neu berson ifanc sy'n chwarae'r gêm. Efallai y bydd hefyd yn cynhyrfu os nad yw ei hoff dîm yn ennill neu'n perfformio'n dda. Gallai hyn arwain at ymatebion emosiynol negyddol fel pyliau blin, pwdu neu obsesiwn.

Diffyg goruchwyliaeth

Does gan e-chwaraeon ddim awdurdod cyffredinol fel sydd gan chwaraeon traddodiadol, fel Undeb Cymdeithasau Pêl-droed Ewrop (UEFA) mewn pêl-droed. Mae cyrff, fel y Ffederasiwn E-chwaraeon Rhyngwladol (International Esports Federation - IESF) yn dal yn y camau cynnar o geisio cyflwyno safonau rheoleiddio byd-eang. Mae hyn yn broblemus gan nad oes safonau ar gyfer atebolrwydd ac mae gwahaniaeth yn rheolau a gofynion cystadlaethau.

Nawdd

Mae'n gyffredin i chwaraewyr proffesiynol gael eu noddi gan gwmnïau, fel diodydd egni. Yn aml mae gan grewyr poblogaidd flasau eu hunain yn arbennig ar gyfer eu cefnogwyr eu hunain, a chodau hyrwyddo sy'n cael eu hysbysebu'n gyson ar ffrydiau a chyfryngau cymdeithasol. Gallai hyn ddylanwadu ar blentyn neu berson ifanc i fod eisiau prynu'r cynhyrchion hyn er gwaethaf peryglon posibl yfed gormod o gaffein.

Gair i gall

Er mwyn eich helpu i roi'r gofal a'r cymorth gorau posibl, defnyddiwch y canllawiau canlynol lle bo angen.

  • Byddwch yn ymwybodol o gynnwys yn y gêm. Bydd rhai gemau fideo yn defnyddio ac yn hyrwyddo cynnwys a allai fod yn niweidiol, fel gamblo neu drais. Sicrhewch fod y sgôr yn addas ar gyfer oedran neu oddefgarwch y person sy'n ei chwarae/gwylio.
  • Ymddiddorwch mewn e-chwaraeon. Ceisiwch beidio â gwahardd rhai gemau rhag cael eu chwarae neu eu gwylio heb drafod hynny’n gyntaf. Efallai y byddwch hyd yn oed eisiau chwarae gêm eich hun neu wylio gêm e-chwaraeon i wella eich dealltwriaeth
  • Canfod y cydbwysedd cywir. Anogwch derfynau o ran amser sgrin i sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng bod yn gystadleuol ac arferion iach. Ceisiwch ddefnyddio ymadroddion fel: “Pryd fydd y gêm yn gorffen?" neu roi ffrâm amser iddyn nhw i ddangos pryd fydd angen iddyn nhw ddirwyn y chwarae i ben, h.y. 10 munud, 5 munud, etc. i osgoi unrhyw wrthdaro neu straen.
  • Byddwch yn realistig. Os oes gan rywun rydych chi'n ei adnabod uchelgeisiau i ddod yn chwaraewr e-chwaraeon, mae'n bwysig gwybod sut i reoli disgwyliadau gan barhau i gefnogi eu breuddwydion. Helpwch nhw i osod nodau realistig y gallant eu cyflawni.
  • Anogwch ddiogelwch digidol. Ewch ati i gynghori yn erbyn rhannu gwybodaeth bersonol â chwaraewyr eraill, gan gynnwys o fewn tagiau gemwyr ac enwau defnyddwyr, yn enwedig os yw rhywun yn cymryd rhan mewn cymunedau ffrydio byw neu chwarae gyda dieithriaid.

 

Jim Gamble QPM, Prif Swyddog Gweithredol Grwp Diogelu INEQE 

Jim Gamble yw Prif Swyddog Gweithredol Grwp Diogelu INEQE. Mae'n Gadeirydd Annibynnol nifer o Fyrddau Diogelu Plant yn Llundain gan gynnwys un City of London a Hackney (CHSCB), y cyntaf i gael ei ddyfarnu'n rhagorol gan Ofsted, ac un Bromley (BSCB) lle bu’n rhan o'r tîm arwain a wellodd berfformiad o bwrdd 'annigonol' i 'da', gydag arweinyddiaeth ragorol mewn dwy flynedd. Mae'n cael ei gydnabod yn eang fel awdurdod byd-eang ar ddiogelu plant ac ef oedd cadeirydd sefydlu’r Tasglu Byd-eang Rhithiol; mae’n gyn-arweinydd plismona cenedlaethol ar gyfer amddiffyn plant ac ef yw pensaer a Phrif Swyddog Gweithredol Canolfan Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein y DU. Mae wedi cynnal sawl adolygiad diogelu, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Ysbyty Prifysgol Brighton a Sussex ac yn fwy diweddar, arweiniodd adolygiad diogelu eang ei gwmpas o Goleg Dulwich, Oxfam GB a sefydliad ffydd rhyngwladol ar gais y Comisiwn Elusennau.